Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru wedi cael hwb aruthrol ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd gadarnhau bod Ham Sir Gâr wedi cael statws Enw Bwyd Gwarchodedig (EUPFN).

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Aeth Ham Sir Gâr ati gyntaf i wneud cais am “Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI)” ym mis Tachwedd 2011, a chafodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy’r broses ar ei hyd. 

Mae cael statws PGI yn newyddion o bwys i unrhyw gynnyrch. Er enghraifft, ers i Gig Oen Cymru ennill y statws hwnnw yn 2003, gwelwyd cynnydd o £76.3 miliwn mewn cwta ddeng mlynedd yng ngwerth y cig defaid sy’n cael ei allforio. Yn ôl amcangyfrifon Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales, gellir priodoli 25% o’r twf mewn allforion rhwng  2003 a 2012 i’r brand PGI a’r gweithgareddau marchnata cysylltiedig.  

Mae gan Gymru nifer o gynhyrchion sydd wedi llwyddo i ennill statws gwarchodedig. Yn eu plith y mae Cig Oen a Chig Eidion sydd wedi cael statws PGI, Halen Mȏn / Anglesey Sea Salt sydd â statws PDO,  tatws newydd cynnar Sir Benfro (PGI), Cregyn Gleision Conwy a Gwin o Gymru (PDO a PGI). Hefyd, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wrthi ar hyn o bryd yn ystyried saith cais arall o’r DU, pob un ohonynt o Gymru.  

Croesawyd y newyddion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. Dywedodd:  

“Mae’r ffaith bod Ham Sir Gâr wedi cael statws gwarchodedig yn newyddion gwych i’r cynnyrch ei hun ac i Gymru. Mae’n arwydd o’n hymrwymiad i gefnogi cynnyrch o’r radd flaenaf o Gymru ac mae hefyd yn gydnabyddiaeth o ansawdd unigryw’r cynnyrch hwnnw.  

“Mae statws EUPFN yn sicrhau na ellir efelychu nac atgynhyrchu’r cynnyrch heb fodloni gofynion llym iawn, ac mae hynny’n beth gwych i enw da’r cynnyrch.” 

Cadarnhaodd Lesley y newyddion da cyn iddi ymweld ag Arddangosfa Fwyd Ryngwladol SIAL, yr arddangosfa fwyd fwyaf yn y byd, lle bydd yn cynrychioli diwydiant bwyd a diod Cymru ar y cyd â phymtheg o gynhyrchwyr bwyd a diod mwyaf blaenllaw Cymru. Ychwanegodd:

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â phymtheg o’n cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yn SIAL Paris yr wythnos nesa’. Dw i’n siŵr y bydd Cymru, yn yr un modd â’n pêl-droedwyr yn ystod yr haf,  yn gadael ei hôl ar lwyfan y byd. 

“Mae mynd i arddangsofa SIAL yn rhan o’n hymrwymiad cyffredinol i sicrhau twf o 30% yn niwydiant bwyd a diod Cymru erbyn 2020. Gwlwyd twf o 17% yn barod yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, felly rydyn ni dros hanner ffordd at gyrraedd ein targed erbyn 2020. Mae hynny’n tystio i’r amrywiaeth ryfeddol o gynhyrchwyr bwyd a diod hynod arloesol sy’n gwneud eu marc yn rhyngwladol. 

“Dw i’n awyddus i adeiladu ar hynny ac i barhau i godi proffil a hyrwyddo enw da bwyd a diod o Gymru ar lwyfan y byd.”