Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n esbonio beth yw hysbysiad prynu a sut a phryd y gellir ei ddefnyddio.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Hysbysiadau Prynu – Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 131 KB

PDF
131 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Gall tirfeddiannwr gyflwyno hysbysiad prynu i awdurdod cynllunio lleol. Mae’r hysbysiad yn mynnu bod yr awdurdod lleol yn prynu tir y mae’r tirfeddiannwr yn honni na ellir ei ddefnyddio o ganlyniad i:

  • ganiatâd cynllunio a wrthodwyd
  • caniatâd cynllunio a roddwyd gydag amodau
  • gorchymyn dirymu, addasu neu roi’r gorau
  • caniatâd adeilad rhestredig a wrthodwyd
  • caniatâd adeilad rhestredig a roddwyd gydag amodau

Os yw’r awdurdod yn gwrthod derbyn hysbysiad, mae’n rhaid iddo ei gyfeirio at Weinidogion Cymru.