Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Daw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (y Ddeddf) i rym yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2022. Bydd yn newid y ffordd y mae pobl yn rhentu eu cartrefi, gan sicrhau gwell ddiogelwch i unigolion rhag cael eu troi allan yn ogystal â llawer o welliannau eraill (i gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, gweler Rhentu Cartrefi Cymru).

Fel rhan o'r newidiadau hyn, caiff pawb sy'n rhentu eu cartref (a elwir yn ‘ddeiliaid contract’ o dan y Ddeddf), gontract meddiannaeth gan eu landlord. Ymhlith pethau eraill, mae'r contract hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord sicrhau bod y cartref ‘yn ffit i fod yn gartref’. Mae'r hawl newydd hon yn ychwanegol at yr hawl i fynnu bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud gan y landlord[1]. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut mae'r hawl i fyw mewn eiddo sy'n ffit i fod yn gartref yn gweithio.  

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi yn y gyfraith (a elwir yn ‘rheoliadau’) y rheolau y mae'n rhaid eu dilyn wrth benderfynu a yw eiddo rhent yn ffit i fod yn gartref. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi cyngor i ddeiliaid contract ar beth mae ffitrwydd i fod yn gartref yn ei olygu iddyn nhw, yr hyn y dylent ei ddisgwyl gan eu landlord a pha gamau y gallant eu cymryd os byddant o'r farn nad yw eu hannedd yn ffit i fod yn gartref. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol edrych ar y canllawiau i landlordiaid ar ffitrwydd i fod yn gartref, sy'n awgrymu camau y gallai landlord eu cymryd er mwyn helpu i sicrhau bod annedd yn ffit i fod yn gartref. Ewch i Ffitrwydd tai i fod yn gartref: canllawiau i landlordiaid.

[1] Nid yw'r ddyletswydd i wneud gwaith atgyweirio, na'r ddyletswydd newydd i sicrhau bod eiddo yn ffit i fod yn gartref, yn gymwys i gontractau tymor penodol o saith mlynedd neu fwy.

Rhwymedigaeth landlord i sicrhau bod annedd yn ffit i fod yn gartref

Mae adran 91 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i landlord sicrhau bod yr annedd y mae'n ei gosod ar rent yn ffit i fod yn gartref pan fydd deiliad y contract yn symud i mewn iddo (y dyddiad meddiannu) ac yn ystod y cyfnod y mae'r annedd yn cael ei gosod ar rent i ddeiliad y contract. Ni all y landlord ofyn i ddeiliad y contract wneud rhywbeth i sicrhau bod yr annedd yn ffit i fod yn gartref os nad deiliad y contract sydd wedi achosi'r broblem.

Mae dwy ran i'r rheoliadau ynglŷn â ffitrwydd i fod yn gartref a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Mae Rhan 1 yn rhestru'r pethau i'w hystyried wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i fod yn gartref. Mae Rhan 2 yn nodi pethau y mae'n rhaid i landlord eu gwneud er mwyn i annedd fod yn ffit i fod yn gartref. Mae'r rheoliadau ar gael yn: SL(6)129 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (senedd.cymru)

Rhan 1 29 o faterion ac amgylchiadau

Mae Rhan 1 yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ystyried 29 o faterion ac amgylchiadau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i landlord sicrhau nad oes yr un o'r 29 o bethau hyn yn golygu nad yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref. Rhestrir y 29 o faterion ac amgylchiadau yn Atodiad A ac mae'r canllawiau i landlordiaid yn awgrymu'r hyn y gallai fod angen i landlord ei wneud er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau.

Ni fydd rhai o'r 29 o faterion ac amgylchiadau yn codi yn aml iawn, tra bydd eraill yn fwy cyffredin. Er enghraifft, mae Mater 1 - Lleithder a thyfiant llwydni, Mater 2 - Oerfel a Mater 3 - Gwres yn broblemau mwy cyffredin na Mater 27 - Ffrwydradau a Mater 29 -  Dymchwel strwythurol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i landlordiaid ystyried pob un o'r 29 o faterion ac amgylchiadau wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i fod yn gartref.

Efallai y bydd yn hawdd i ddeiliad y contract nodi a yw un o'r 29 o faterion ac amgylchiadau yn achosi problem yn yr annedd, er enghraifft pan geir cryn dipyn o lwydni mewn ystafell wely am fod lleithder yn dod drwy'r waliau neu pan na all y boeler gynhyrchu digon o wres yn ystod misoedd y gaeaf. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan na fydd deiliad contract yn siŵr a yw problem benodol yn golygu nad yw ei annedd yn ffit i fod yn gartref. Ym mhob achos, dylai deiliad contract godi'r pryderon hyn gyda'r landlord yn gyntaf. Os bydd y landlord yn cytuno, dylai gymryd camau i ddatrys y broblem.

Rhan 2: gofynion ar gyfer landlordiaid

Mae Rhan 2 o'r rheoliadau yn nodi tri pheth y mae'n rhaid i landlord eu gwneud er mwyn sicrhau bod annedd yn ffit i fod yn gartref, sef:

  • Gosod larymau mwg;
  • Cynnal prawf diogelwch trydanol bob pum mlynedd o leiaf;
  • Gosod larymau carbon monocsid os oes cyfarpar sy'n llosgi nwy, olew neu danwydd solet yn yr annedd.

Os bydd landlord yn methu â gwneud unrhyw un o'r uchod, ni fydd yr annedd yn ffit i fod yn gartref. Ceir rhagor o wybodaeth am bob un o'r gofynion hyn isod.

Larymau Mwg

Diben gosod larymau mwg yw lleihau'r risg o dân. Os na fydd larwm mwg wedi'i osod mewn annedd, mae'r meddiannwr o leiaf bedair gwaith yn fwy tebygol o farw oherwydd tân. Mae Rheoliadau ynglŷn â Ffitrwydd i Fod yn Gartref yn ei gwneud yn ofynnol i landlord osod larwm mwg sy'n gweithio ar bob llawr o annedd. Rhaid i'r larwm hefyd fod wedi'i gysylltu â'r cyflenwad trydan ac unrhyw larymau mwg eraill y mae'n rhaid eu gosod o dan y rheoliadau. Dylid gosod larymau mwg lle y gallant gael eu clywed gan y meddiannydd pan fydd yn cysgu, mewn cyntedd neu ar landin fel arfer.

Gellir gosod mwy nag un larwm mwg ar bob llawr. Os felly, yn ddelfrydol, dylai'r holl larymau fod wedi'u cysylltu â'i gilydd a'r cyflenwad trydan. Fodd bynnag, os bydd y landlord wedi bodloni'r gofyniad sylfaenol i sicrhau bod un larwm mwg gwifredig a chydgysylltiedig ar bob llawr, nid oes rhaid i unrhyw larymau mwg ychwanegol fod yn gydgysylltiedig a gallant gael eu pweru gan fatri.

Rhaid i larymau mwg fod yn yr annedd o'r dyddiad meddiannu, hynny yw y dyddiad y mae deiliad y contract yn symud i mewn. Os bydd deiliad y contract eisoes yn byw yn yr eiddo pan ddaw'r Ddeddf i rym ar 1 Rhagfyr 2022, bydd yn rhaid i'r landlord ddarparu larymau mwg erbyn 1 Rhagfyr 2023.

Er mai'r landlord sy'n gyfrifol o hyd am osod larymau mwg, gall y gwasanaeth tân roi cyngor ac arweiniad os bydd eu hangen.

Cais am ymweliad Diogel ac Iach – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cais am ymweliad diogelwch cartref gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Cais am ymweliad Diogel ac Iach gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Larymau Carbon Monocsid

Mae carbon monocsid (CO) yn nwy a gynhyrchir pan gaiff tanwydd carbon, megis glo, pren, olew neu nwy naturiol ei losgi heb ddigon o ocsigen. Ni allwch ei weld, ei arogleuo na'i flasu ond gall achosi niwed corfforol a lladd yn gyflym.Nid yn unig y mae CO yn gyfrifol am lawer o farwolaethau ac achosion o wenwyno bob blwyddyn ond mae'n debygol y bydd CO yn effeithio ar lawer o bobl heb iddynt sylweddoli hynny.

Mae larymau yn hanfodol i roi'r unig rybudd y bydd meddiannydd yn ei gael, o bosibl, am bresenoldeb CO, sy'n ‘lladdwr distaw’, ac mae bron pob marwolaeth yn deillio o ddiffyg rhybudd cynnar am ei bresenoldeb.

Gallai boeleri olew a nwy, tanau nwy a thanau agored a gwresogyddion a stofiau sy'n llosgi tanwydd solet, olew neu nwy, oll achosi gwenwyno gan CO os cânt eu gosod yn wael, eu cynnal a'u cadw'n wael neu eu defnyddio'n anghywir. Y rheswm dros hyn, yn amlach na pheidio, yw nad yw'r offer hyn wedi'u hawyru'n briodol neu nad yw'r ffliwiau neu'r simneiau sydd eu hangen i fynd â'r CO i ffwrdd wedi'u gosod yn iawn neu eu bod wedi'u blocio. 

Mae'r Rheoliadau ynglŷn â Ffitrwydd i Fod yn Gartref yn ei gwneud yn ofynnol i landlord sicrhau bod larwm CO mewn unrhyw ystafell lle mae'r landlord wedi gosod cyfarpar sy'n llosgi nwy, olew neu danwydd solet. Nid yw'n ofynnol i landlord osod larwm CO mewn unrhyw ystafell sydd ond yn cynnwys cyfarpar a osodwyd gan ddeiliad y contract. Fodd bynnag, gall y landlord a deiliad y contract gytuno i'r landlord ddarparu larwm mewn achosion o'r fath.

Ceir gwybodaeth ychwanegol am achosion ac effeithiau carbon monocsid ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dylid ystyried ble i osod larymau CO yn ofalus. Fel arfer, gosodir larymau mwg ar y nenfwd am fod gwres a mwg yn codi ond nid dyma'r lle gorau i osod synwyryddion CO bob amser. Gan fod crynodiad CO yn gallu cyrraedd lefelau peryglus cyn cyrraedd uchder y nenfwd, weithiau mae larymau CO yn cael eu gosod yn is na larymau mwg. Dylid dilyn y canllawiau ar gyfer larymau carbon monocsid yn ofalus bob amser, gan gynnwys nodi'r dyddiad y daw'r larwm i ben. Fel arfer, mae synwyryddion CO yn fwy bregus na'r rhai o fewn larymau mwg ac, felly, fel arfer mae'n rhaid adnewyddu larymau CO yn fwy rheolaidd.

Os bydd angen larwm CO, rhaid iddo fod yn yr annedd o'r dyddiad meddiannu neu o 1 Rhagfyr 2022, os bydd deiliad y contract yn byw yn yr eiddo eisoes.

Archwilio a phrofi'r gosodiad trydanol

Er bod nifer y tanau yn y cartref yn lleihau yn gyffredinol, mae cyfran y tanau domestig a achosir gan drydan yn cynyddu'n raddol. Er mwyn atal tanau a siociau trydanol, rhaid i landlord brofi'r cyfarpar trydanol yn eich cartref o leiaf bob pum mlynedd. Gelwir y prawf hwn yn ‘archwilio a phrofi cyfnodol’ (PIT).

Cynhelir prawf PIT ar wifrau a chyfarpar trydanol sefydlog er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel. Bydd y prawf yn gwneud y canlynol: 

  • Dangos a yw unrhyw rai o'ch cylchedau neu'ch offer trydanol wedi'u gorlwytho;
  • Nodi unrhyw risgiau posibl o siociau trydanol ac unrhyw beryglon tân;
  • Nodi unrhyw waith trydanol diffygiol a
  • Tynnu sylw at unrhyw waith daearu neu fondio sydd angen ei wneud.

Rhaid i landlord sicrhau bod y prawf PIT yn cael ei gynnal o leiaf bob pum mlynedd. Rhaid i'r prawf PIT gael ei gynnal gan rywun sydd â'r cymwysterau i wneud hynny – ‘person cymwys’. Mae cymhwysedd yn golygu y gall y trydanwr gynnal y prawf PIT yn ddiogel ac yn gywir yn unol â safon y DU ar gyfer diogelwch gosodiadau trydanol, BS 7671 – Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol (Rheoliadau Gwifro IET). Os bydd gan ddeiliad contract bryderon ynghylch cymhwysedd yr unigolyn sy'n cynnal y prawf dylai ofyn i'w landlord pa wiriadau y mae wedi'u cyflawni er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn gymwys. Gall deiliad contract hefyd ofyn i'r trydanwr pa gymwysterau neu achrediad sydd ganddo.

Mae'r dolenni canlynol yn rhoi mwy o wybodaeth am ystyr cymhwysedd a sut i ddod o hyd i drydanwr cymwys yn eich ardal:

http://www.electricalcompetentperson.co.uk/

http://www.electricalsafetyfirst.org.uk/find-an-electrician/?gclid=EAIaIQobChMIiczmi72G1QIViKntCh3VsAN3EAAYASAAEgIbJfD_BwE

Unwaith y bydd y prawf PIT wedi'i gwblhau, caiff Adroddiad ar Gyflwr y Gosodiad Trydanol (EICR) ei lunio gan y trydanwr. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys canlyniadau'r prawf ac yn tynnu sylw at unrhyw broblemau y mae angen eu datrys. Os na nodir unrhyw broblemau o'r fath, bydd yr EICR yn cadarnhau bod y gosodiad trydanol yn ddiogel i barhau i'w ddefnyddio.

Rhaid i gopi o'r EICR gael ei ddarparu i ddeiliad y contract o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu. Os caiff y prawf ei gynnal ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i gopi o'r EICR gael ei ddarparu o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad archwilio. Rhaid i'r trydanwr ddarparu EICR yn uniongyrchol i ddeiliad contract ar ôl i'r prawf gael ei gwblhau.

Mae'n ofynnol i landlord sicrhau bod gosodiad trydanol yr annedd yn cael ei brofi bob pum mlynedd. Fodd bynnag, os bydd pryderon, gall y trydanwr argymell bod y prawf hwn yn cael ei gynnal yn fwy rheolaidd. Os argymhellir y dylid cynnal y prawf yn fwy rheolaidd, ni fydd y cyfnod o bum mlynedd yn gymwys mwyach a bydd yn rhaid i landlord sicrhau bod unrhyw brawf yn y dyfodol yn cael ei gynnal ar yr adeg a argymhellir. Os na fydd yn gwneud hynny, ystyrir nad yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref.

Efallai y bydd achosion lle y bydd y gosodiad trydanol wedi methu'r prawf ac mae'r EICR yn mynnu bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud neu'n nodi bod angen i archwiliad pellach gael ei gynnal gan drydanwr. Mewn achosion o'r fath, mae'n debygol bod y landlord yn methu â chyflawni ei ddyletswydd i sicrhau bod y gosodiad trydanol mewn cyflwr da (sy'n ofynnol o dan adran 92 o'r Ddeddf - gweler yn nes ymlaen yn y canllawiau hyn) ac y bydd yn ofynnol iddo wneud y gwaith atgyweirio hwn neu gynnal archwiliad pellach. Os bydd EICR yn nodi bod angen gwneud y gwaith ychwanegol hwn, rhaid i landlord roi cadarnhad ysgrifenedig i ddeiliad y contract o unrhyw waith atgyweirio neu waith archwilio a wnaed ar y gosodiad trydanol. Bydd y cadarnhad hwn yn rhoi sicrwydd i ddeiliad y contract fod y gosodiad trydanol yn ddiogel i barhau i'w ddefnyddio yn dilyn archwiliad a fethwyd.  

Rhaid i gadarnhad ysgrifenedig o'r gwaith ychwanegol hwn gael ei ddarparu i ddeiliad y contract o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y cafodd y landlord gadarnhad bod y gwaith wedi'i gwblhau. Os bydd gwaith atgyweirio wedi'i wneud cyn y dyddiad meddiannu, rhaid i'r cadarnhad ysgrifenedig hwn cael ei ddarparu i ddeiliad y contract, ynghyd â'r EICR, o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu.

Mae EICR yn ddilys am hyd at bum mlynedd ac, felly, mae'n bosibl y bydd adroddiad dilys eisoes ar gael pan fydd deiliad y contract yn symud i mewn ac na ddaw i ben cyn i ddeiliad y contract adael.

Bydd y gofynion fel y'u nodwyd uchod yn gymwys o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen i unrhyw gontract meddiannu sy’n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwn. Fodd bynnag, os bydd deiliad contract yn byw mewn annedd pan ddaw'r Ddeddf i rym ar 1 Rhagfyr 2022, ni fydd y gofynion hyn yn gymwys tan 1 Rhagfyr 2023 (byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i landlord sicrhau bod prawf PIT yn cael ei gynnal erbyn 1 Rhagfyr 2023 a bod copi o'r EICR yn cael ei ddarparu i ddeiliad y contract o fewn 14 diwrnod).

Camau gweithredu gan ddeiliaid y contract

Mewn llawer o achosion, gall landlord a deiliad contract gytuno os yw'n amlwg nad yw annedd yn ffit i fod yn gartref, er enghraifft os nad oes unrhyw larwm mwg yn yr annedd, os nad oes unrhyw brawf PIT wedi'i gynnal neu, o bosib, os oes cryn dipyn o dyfiant llwydni yn yr annedd oherwydd lleithder. Fodd bynnag, bydd achosion lle bydd y landlord yn anghytuno â deiliad y contract ynghylch cyflwr yr annedd ac na ellir dod i gytundeb. Efallai y bydd achosion hefyd lle bydd y landlord o'r farn nad yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref am un o'r rhesymau canlynol:

  • Deiliad y contract sy'n gyfrifol am y ffaith nad yw'r annedd bellach yn ffit i fod yn gartref, er enghraifft drwy dynnu larymau mwg neu oherwydd y difrod y mae wedi'i wneud i'r annedd.
  • Nid yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref oherwydd tân, storm, llifogydd neu ddamwain anochel arall.
  • Ni ellir gwneud yr annedd yn ffit i fod yn gartref am gost resymol. Mae hyn yn golygu, er nad yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref, y byddai'r gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud yn rhy ddrud i'r landlord ei wneud. Os na fydd deiliad y contract a'r landlord yn cytuno ar hyn, gall deiliad y contract ofyn i'r llys benderfynu ar y mater.

Os bydd anghytuno, gall deiliad y contract geisio cyngor gan Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru neu, o bosibl, ei gyngor lleol. Byddai'r cyrff hyn yn gallu cysylltu â'r landlord ar eich rhan er mwyn trafod y mater.

At hynny, mae'r camau gweithredu canlynol ar gael i ddeiliad contract sy'n credu nad yw ei annedd yn ffit i fod yn gartref.

Atal rhent

Bydd contractau meddiannaeth fel arfer yn cynnwys teler sy'n nodi nad yw'n ofynnol i ddeiliad contract dalu rhent mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod neu ran o ddiwrnod pan nad yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref[2].

Dylai deiliad contract ystyriad yn ofalus ai atal rhent yw'r peth iawn i'w wneud. Efallai na fydd landlord ac, yn y pen draw, y llys yn cytuno nad yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref. Felly, mae'n bosibl y bydd deiliad y contract yn mynd i ôl-ddyledion rhent ac, o bosibl, yn wynebu achos cymryd meddiant. Os bydd deiliad contract o'r farn mai atal rhent yw'r peth iawn i'w wneud, dylai roi'r rhent o'r neilltu nes i'r mater gael ei ddatrys, naill ai drwy gytundeb â'r landlord neu drwy'r llys.

Camau gweithredu gan y llys

Efallai y bydd deiliad contract yn gofyn i'r llys benderfynu a yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref. Os felly, efallai y bydd angen i ddeiliad y contract ddarparu tystiolaeth i'r llys, o bosibl ar ffurf arbenigwr megis adeiladwr neu syrfëwr i gadarnhau nad yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref. Unwaith eto, bydd cyngor gan awdurdod lleol, Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru yn fuddiol yn hyn o beth. Gall eich llys sirol lleol hefyd roi cyngor ar y broses gywir i'w dilyn.

Os bydd y llys yn cytuno nad yw'r annedd yn ffit i fod yn gartref, gall orchymyn i'r landlord wneud gwaith atgyweirio neu ddatrys achos y broblem. At hynny, mae adran 99 o'r Dddedf yn galluogi deiliad contract i wneud cais am iawndal am unrhyw anaf a achosir gan y broblem.

[2] mae teler yn derm atodol a gellir ei amrywio (newid) neu ei hepgor o gontract meddiannaeth os bydd y landlord a deiliad y contract yn cytuno.

Rhwymedigaeth landlord i gadw'r annedd mewn cyflwr da

Yn ogystal â rhwymedigaeth landlord i sicrhau bod annedd yn ffit i fod yn gartref, mae adran 92 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i landlord gadw'r annedd mewn cyflwr da. Mae hyn yn cynnwys:

  • y strwythur a’r tu allan i’r annedd (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da)
  • y gosodiadau gwasanaeth yn yr annedd, megis y rhai:
    • sy'n cyflenwi dŵr, nwy neu drydan
    • a ddefnyddir ar gyfer carthffosiaeth
    • a ddefnyddir i gynhesu lle neu gynhesu dŵr.

Rhaid i landlord bob amser gadw'r annedd mewn cyflwr da ond, er mwyn iddo allu gwneud hynny, efallai y bydd angen i ddeiliad y contract hysbysu'r landlord am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â diffyg atgyweirio sy'n codi. Unwaith y bydd y landlord yn ymwybodol o'r angen i wneud gwaith atgyweirio, rhaid iddo gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol o amser ac i safon resymol. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i unioni unrhyw ddifrod a achosir gan y gwaith atgyweiriadau. Ni all y landlord ofyn i ddeiliad y contract dalu am unrhyw waith atgyweirio os nad deiliad y contract sydd wedi achosi'r broblem.

Bydd yr hyn sy'n gyfystyr â chyfnod rhesymol o amser yn amrywio yn dibynnu ar yr achos o ddiffyg atgyweirio, er enghraifft byddai'n rhesymol i ddeilaid contract ddisgwyl i bibell wedi torri neu foeler wedi torri gael ei (h)ystyried yn waith atgyweirio brys a chael ei drin yn gyflym, ond efallai yr ystyrir bod tap sy'n diferu yn llai difrifol. Mae'n fuddiol i ddeiliad y contract a'r landlord os rhoddir gwybod am broblemau sy'n gysylltiedig â diffyg atgyweirio ac y cânt eu trin cyn gynted â phosibl, gan y bydd hyn yn atal y broblem rhag gwaethygu ac achosi mwy o broblemau.

Atodiad A: y 29 o faterion ac amgylchiadau

1. Lleithder, gwiddon a thyfiant llwydni neu ffwngaidd

Amlygiad i widdon llwch tŷ, lleihder, tyfiant llwydni neu dyfiant ffyngaidd

2. Oerfel

Amlygiad i dymereddau rhy isel.

3. Gwres

Amlygiad i dymereddau rhy uchel.

4. Asbestos a ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd

Amlygiad i ffibrau asbestos neu ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd.

5. Bioladdwyr

Amlygiad i gemegion a ddefnyddir i drin pren neu dyfiant llwydni.

6. Carbon monocsid a chynhyrchion hylosgi tanwydd

Amlygiad i:

  1. carbon monocsid;
  2. nitrogen deuocsid;
  3. sylffwr deuocsid a mwg.

7. Plwm

Amlyncu plwm.

8. Ymbelydredd

Amlygiad i ymbelydredd.

9. Nwy tanwydd nas hylosgwyd

Amlygiad i nwy tanwydd nas hylosgwyd.

10. Cyfansoddion organig anweddol

Amlygiad i gyfansoddion organig anweddol.

11. Gorlenwi a gofod

Dim digon o le i fyw na chysgu.

12. Tresmaswyr yn dod i mewn

Anawsterau wrth ddiogelu'r annedd rhag mynediad heb awdurdod.

13. Goleuo

Dim digon o olau.

14. Sŵn

Amlygiad i sŵn.

15. Hylendid domestig, plâu a sbwriel

  1. Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel na ellir yn hawdd gadw'r annedd yn lân.
  2. Amlygiad i blâu.
  3. Darpariaeth annigonol ar gyfer storio gwastraff cartref a'i waredu'n hylan.

16. Diogelwch bwyd

Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.

17. Hylendid personol, carthffosiaeth a draeniau

Darpariaeth annigonol o–

  1. cyfleusterau i gynnal hylendid personol da;
  2. carthffosiaeth a draeniau.

18. Cyflenwad dŵr

Cyflenwad annigonol o ddŵr heb ei halogi, i'w yfed ac at ddibenion domestig eraill.

19. Cwympo yn gysylltiedig â baddonau etc.

Cwympo sy'n yn gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill.

20. Cwympo ar arwynebau

Cwympo ar arwyneb.

21. Cwympo ar risiau etc.

Cwympo ar risiau neu rampiau.

22. Cwympo rhwng arwynebau

Cwympo o'r naill arwyneb i'r llall (gan gynnwys cwympo o uchder).

23. Peryglon trydanol

Amlygiad i drydan.

24. Tân

Amlygiad i dân nas rheolir a mwg cysylltiedig.

25. Fflamau, arwynebau poeth etc.

Cysylltiad â–

  1. tân neu fflamau a reolir;
  2. gwrthrychau, hylifau neu anweddau poeth.

26. Taro yn erbyn neu fynd yn sownd

Taro yn erbyn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill neu rannau o'r corff yn mynd yn sownd ynddynt.

27. Ffrwydradau

Ffrwydrad yn yr annedd.

28. Safle amwynderau a'u gweithrediad etc.

Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, gosodiadau ac offer.

29. Dymchwel strwythurol ac elfennau'n disgyn

Annedd gyfan neu ran ohoni yn dymchwel, gan gynnwys elfennau sy'n disgyn.