Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i sefydliadau'r GIG ar sut i wneud newidiadau i wasanaethau iechyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adran 1: Cyflwyniad

Nod y ddogfen hon yw rhoi canllawiau i’r GIG yng Nghymru ar gyfer cyflwyno newidiadau i wasanaethau iechyd. Caiff y canllawiau blaenorol eu disodli oherwydd bod y sefyllfa o ran y gyfraith a’r polisi wedi newid erbyn hyn. Mae’r canllawiau terfynol hyn yn cael eu cyhoeddi yn dilyn sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (sy’n gweithredu dan yr enw Llais) sy’n disodli’r rhwydwaith o Gynghorau Iechyd Cymuned o 1 Ebrill 2023 ymlaen.  

Lluniwyd y canllawiau newydd hyn ar ôl ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned, cynrychiolwyr Llais, a’r GIG, ac yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol. Tynnodd yr ymgysylltu hwnnw sylw at y ffaith bod rhan helaeth o’r canllawiau blaenorol yn dal i fod yn briodol, felly cadwyd hwy yn y ddogfen hon. Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r Canllawiau Statudol ar Sylwadau, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o dan adran 15(4) o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, a’r Cod Ymarfer ar Fynediad i Safleoedd ac Ymgysylltu ac Unigolion. 

Er bod y canllawiau hyn ar newid gwasanaethau yn ddogfen i’r GIG am wasanaethau i gleifion a ddarperir ac a gomisiynir gan y GIG, dylai'r egwyddorion a nodir fod o gymorth i lywio unrhyw newid. Y nod yw rhoi arweiniad i sefydliadau'r GIG ac awgrymiadau ynghylch materion i'w hystyried wrth iddynt fynd ati i ystyried newidiadau i wasanaethau. Ni fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr ac mae'n fwriadol yn rhoi lle i staff ddefnyddio’u crebwyll a’u profiad proffesiynol wrth ddatblygu cynigion – cyn belled, wrth gwrs, â’u bod yn gwneud hynny yn unol â'r gofynion deddfwriaethol perthnasol.

Wrth ddatblygu cynigion, rhaid i gyrff y GIG yng Nghymru hefyd ystyried y Ddyletswydd Ansawdd, gan gymryd amser i ddangos tystiolaeth ynghylch sut y gallai'r cynnig sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd ac adeiladu tuag at ganlyniadau iechyd gwell i bobl. I gynorthwyo â hyn, mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd wedi'u datblygu i ddarparu fframwaith sy’n nodi’r hyn a olygir wrth 'da'. Mae Canllawiau Statudol y Ddyletswydd Ansawdd (sy'n cynnwys y Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal) wedi eu cyhoeddi i'r GIG ac maent ar gael yma i helpu’r GIG i gyflawni'r ddyletswydd.

Mae’r GIG wedi esblygu’n barhaus ers ei sefydlu ar 5 Gorffennaf 1948. Byddai’r modd y rhoddir gofal i bobl heddiw wedi bod y tu hwnt i’r dychymyg ar yr adeg y sefydlodd Aneurin Bevan y gwasanaeth iechyd. Diolch i ddatblygiadau mewn technoleg, meddyginiaethau ac ymarfer clinigol, mae’r GIG bellach yn trin ac yn gofalu am bobl a fyddai, flynyddoedd maith yn ôl, wedi marw. Mae newid ac esblygu er mwyn cyflawni’r canllawiau clinigol diweddaraf yn elfen a welir yn gyson yn y GIG, ynghyd ag adborth gan gleifion a staff a chynnydd yn nisgwyliadau’r cyhoedd. Felly, mae’n hollbwysig i newidiadau i wasanaethau gael eu cyflwyno’n effeithiol ac mae’n bwysig i’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny gael dweud eu dweud o ran y modd y byddant yn derbyn gwasanaethau.

Ers cyhoeddi’r canllawiau blaenorol, pasiwyd sawl Deddf sydd wedi effeithio ar ddarparu gwasanaethau iechyd. Mae’r deddfau hyn yn cynnwys:

  • Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014, a sicrhaodd bod cynllunio yn sail i system iechyd Cymru – sef newid o ddull comisiynu a gâi ei ysgogi gan y farchnad at system gynlluniedig, gan gyflwyno’r angen i lunio Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a aeth ati i hyrwyddo’r arfer o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cynorthwyo cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a sicrhaodd bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn meddwl am bethau yn yr hirdymor ac yn gweithio’n well gyda phobl a chymunedau, a chyda’i gilydd, er mwyn atal problemau a rhoi dull mwy cydgysylltiedig ar waith.
  • Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, a gynigiodd fframwaith cyfreithiol ar gyfer sefydlu Llais a’r Ddyletswydd Ansawdd, ymhlith pethau eraill.

Yn ychwanegol at hyn, cyhoeddwyd Adolygiad Seneddol Annibynnol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2017, 2018) a Cymru Iachach, sef cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (2018). Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol (2021) – sef rhywbeth a oedd yn un o ymrwymiadau allweddol Cymru Iachach.

Nod cyffredinol unrhyw newid i wasanaeth yw cyflawni’r nodau a nodir yn Cymru Iachach:

  • gwella iechyd a llesiant y boblogaeth
  • gwella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • cynyddu’r gwerth a gyflawnir gan iechyd a gofal cymdeithasol
  • gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwd a chynaliadwy

Er y defnyddir y term ‘newidiadau mewn gwasanaethau’ trwy’r canllawiau hyn, yn aml defnyddir termau eraill – a chânt eu defnyddio’n gyfnewidiol - i ddisgrifio’r un peth, megis ad-drefnu, ailwampio neu ail-greu gwasanaethau, amrywio gwasanaethau, gwella gwasanaethau, neu ehangu gwasanaethau. 

Yn ychwanegol at y meini prawf uchod, mae sawl adroddiad wedi tynnu sylw at yr heriau mae’r GIG yn eu hwynebu - heriau sy’n dwysáu’r angen i newid - gan gynnwys:

  • y ffaith bod pobl yn byw’n hŷn ond nad ydynt yn byw’n iachach, a’u bod yn byw gyda chydafiachedd
  • cynnydd yn y boblogaeth a demograffeg newidiol
  • anawsterau byd-eang o ran recriwtio gweithlu iechyd proffesiynol medrus
  • anghydraddoldebau o ran iechyd ac iechyd y cyhoedd
  • newid ymarfer clinigol, cynyddu arbenigedd a datblygiadau meddygol a thechnegol er mwyn gwella canlyniadau i gleifion
  • adnoddau (adeiladau, pobl a chyllid)
  • disgwyliadau deddfwriaethol a disgwyliadau’r cyhoedd
  • dysgu o brofiadau o ymateb i’r pandemig

Nodyn am y derminoleg: Er bod y geiriau cynnwys ac ymgynghori yn ymddangos gyda'i gilydd yn aml yn y ddeddfwriaeth, bydd hyd a lled unrhyw gynnwys ac ymgynghori o’r fath yn dibynnu ar natur y newid sy'n cael ei gynnig i’r gwasanaeth. Mae'r ddogfen hon yn defnyddio'r termau 'ymgysylltiad/ymgysylltu' i olygu cyfranogiad parhaus gan – ac ymgynghori anffurfiol a thrafodaethau â – dinasyddion, staff, cynrychiolwyr staff a chyrff proffesiynol, rhanddeiliaid, a sefydliadau trydydd sector a phartner ynghylch cynlluniau neu newidiadau. Defnyddir y termau 'ymgynghoriad/ymgynghori' i ddisgrifio'r ymgynghori mwy ffurfiol a phenodol sydd i'w ddefnyddio os ystyrir gwneud newidiadau sylweddol neu ddadleuol, er enghraifft.

Adran 2: Y cefndir cyfreeithiol

Mae Adran 183 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol, mewn perthynas â’r gwasanaethau a gaiff eu darparu neu eu caffael ganddynt, wneud trefniadau i gynnwys ac ymgynghori â defnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr gwasanaethau, neu eu cynrychiolwyr, wrth wneud y canlynol:

  • cynllunio i ddarparu gwasanaethau maent yn gyfrifol amdanynt
  • llunio ac ystyried cynigion ar gyfer newid y ffordd y darperir y gwasanaethau hynny
  • gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y modd y rhoddir y gwasanaethau hynny ar waith

Mae Adran 242 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 yn estyn y gofyniad hwn i Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru. At ddibenion y canllawiau hyn, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod Llais yn gorff sy'n cynrychioli defnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr gwasanaethau.

Wrth ymgymryd â newid gwasanaethau, rhaid i sefydliadau'r GIG fod yn ystyriol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (sy'n cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r Ddyletswydd Economaidd -Gymdeithasol), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (sy'n diwygio Deddf y GIG (Cymru) 2006 i osod Dyletswydd Ansawdd) a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaeth ar gyfer safonau'r Gymraeg, sy'n hybu ac yn hwyluso'r Gymraeg ac yn sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru. Mae Rheoliadau Safonau Iaith (Rhif 7) 2018 yn pennu safonau mewn perthynas â darparu gwasanaethau iechyd gan rai o gyrff y GIG. Mae'r 'Cynnig Rhagweithiol' hwn, sy'n golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano, yn arbennig o bwysig i bobl sy'n siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf/ddewisedig ac sydd efallai ond yn gallu defnyddio neu ddeall y Gymraeg.

Mae’r darpariaethau yn Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 wedi cael eu dirymu ac nid ydynt yn berthnasol mwyach. Roedd y darpariaethau hyn yn mynnu y dylai cyrff iechyd ymgynghori â Chynghorau Iechyd Cymuned ynglŷn â newidiadau mewn gwasanaethau, ac roeddynt hefyd yn caniatáu i Gynghorau Iechyd Cymuned atgyfeirio materion at Weinidogion Cymru mewn perthynas â newidiadau mewn gwasanaethau o dan rai amgylchiadau.

Yn hytrach, mewn perthynas â phrif nodau Llais, gan gynnwys gwrando ar fuddiannau’r cyhoedd a chynrychioli’r buddiannau hynny ym mhob rhan o Gymru, mewn materion yn ymwneud ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol; a darparu dull effeithiol o godi disgwyliadau pobl er mwyn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau, gall Llais gyflwyno sylwadau i gyrff y GIG ynglŷn ag unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd, gan gynnwys materion yn ymwneud â newidiadau yng ngwasanaethau’r GIG. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn, gan gynnwys dyletswyddau cyrff y GIG i roi sylw i’r sylwadau hyn, yn y Canllaw Statudol ar Sylwadau a gyhoeddir o dan adran 15(4) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Os oes anghytunol ynglŷn â’r ffordd ymlaen o ran newid arfaethedig i wasanaeth, mae Adran 7 o'r canllawiau hyn yn amlinellu'r dull i’w ddilyn.

Adran 3: Egwyddorion cyffredinol o ran rheoli newidiadau mewn gwasanaethau

Mae’r GIG yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau diogel a chynaliadwy ar gael i ddinasyddion Cymru, o fewn yr adnoddau a roddir gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i'r GIG barhau i ymdrechu i gynnal gwasanaethau diogel, cynaliadwy waeth beth fo pwysau'r galw, yr heriau ariannol a’r disgwyliadau.

Rhaid i’r GIG fod yn fwy arloesol a rhaid iddo allu trawsnewid gwasanaethau’n gyflym fel y gwnaeth yn effeithiol iawn yn ystod y pandemig. Rhaid i newidiadau mewn gwasanaethau gael eu seilio ar dystiolaeth, rhaid iddynt anelu at sicrhau’r perfformiad gorau a rhaid iddynt gael eu hategu a’u harwain gan glinigwyr. Dylai hefyd ddilyn egwyddorion gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth sy'n ceisio sicrhau canlyniadau iechyd heb eu hail i bobl Cymru drwy edrych ar a yw'r adnoddau sydd gennym yn cael eu defnyddio'n deg ac yn y ffordd orau.

Mae Llais yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn perthynas ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r angen i sicrhau gwasanaethau diogel a chynaliadwy, ynghyd â sicrhau mynediad i bawb at arferion da o fewn yr adnoddau sydd ar gael, yn bryder i’r GIG a’i ddefnyddwyr hefyd, a rhaid i’r GIG yng Nghymru weithio gyda Llais er mwyn cyflawni hyn. Felly, rhaid i gyrff y GIG ymgysylltu â Llais wrth iddo weithio i wella gwasanaethau.

Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn sbardun pwysig i ddarparu gwasanaethau a newid gwasanaethau.

Er mai cyrff y GIG sy’n gyfrifol am newid gwasanaethau, mae’n bwysig eu bod yn gweithio mewn partneriaeth â’u cymunedau i ddatblygu cynigion mewn modd sydd wir yn golygu cydgynhyrchu neu gydgynllunio. Os caiff cynigion eu datblygu a’u cynllunio trwy gydgynhyrchu, byddant yn fwy tebygol o ennyn cefnogaeth ac esgor ar welliannau mewn gofal ac ymateb i anghenion y cleifion a’r cymunedau mae’r GIG yn anelu at eu gwasanaethu. Yn yr un modd, mae'n bwysig i gyrff y GIG weithio mewn partneriaeth â'u hawdurdodau lleol gan fod mwy a mwy o wasanaethau'n cael eu comisiynu ar y cyd a'u darparu gan awdurdodau lleol, neu oherwydd y gallai unrhyw newidiadau i wasanaethau'r GIG gael effaith ar awdurdodau lleol.

Ymgysylltu parhaus – meithrin cydberthnasau, ymddiriedaeth ac arweinyddiaeth

Rhaid i’r arfer o ymgysylltu’n barhaus ynglŷn â gwasanaethau fod yn rhan o fusnes craidd y GIG yng Nghymru. Rhaid i'r GIG sefydlu a chynnal ymgysylltiad parhaus â dinasyddion, Llais, staff, cynrychiolwyr staff a chyrff proffesiynol, sefydliadau'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol, yn ogystal â phartneriaid, megis awdurdodau lleol, nid yn unig pan fydd newidiadau'n cael eu cynnig, ond yn rheolaidd hefyd. Dylai'r ymgysylltu hwnnw roi cyfle i bobl a sefydliadau ddeall dyheadau a chyflawniadau corff y GIG a'r heriau y mae'n eu hwynebu fel y gallant ddylanwadu a llywio penderfyniadau am newidiadau i wasanaethau. Mae'n ddefnyddiol i sefydliadau'r GIG nodi pryd, sut a gyda phwy y buont yn ymgysylltu rhan o'r broses. Bydd hyn yn ddefnyddiol fel rhan o ddatblygu unrhyw asesiadau effaith a phe bai angen i gyrff y GIG ddilyn y mecanweithiau a amlinellir yn Adran 7 o’r canllawiau hyn.

Trwy gyfrwng ymgysylltu parhaus a rheolaidd o’r fath – a thrwy ddadansoddi adborth – bydd modd i gyrff y GIG feithrin cydberthnasau effeithiol ac adeiladol gyda’u rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Mae’n bwysig i gyrff y GIG ddangos eu bod yn gwrando ac yn cymryd camau priodol ar sail yr adborth a gânt. Wrth wneud hynny, dylai cyrff y GIG ddilyn yr arferion gorau a amlinellir yn yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru (2022). Dylai cyrff y GIG ymgymryd â gwaith mapio rhanddeiliaid i helpu i nodi rhanddeiliaid a'r rhai sy'n gallu helpu'r GIG i ymgysylltu â nhw. Dylai hyn lywio datblygiad cynllun ymgysylltu.

Dim ond pan fydd y GIG yn fodlon ei fod wedi archwilio’r materion yn gyntaf trwy gyfrwng ymgysylltu effeithiol y dylai fynd ati i roi newidiadau a gynlluniwyd ar waith. Dylid ystyried bod cefnogi’r broses hon, ynghyd â sicrhau adnoddau ar ei chyfer ar hyd yr amryfal gamau, yn rhan hanfodol o waith y GIG yng Nghymru.

Dylai holl gyrff y GIG ddatblygu dull cadarn ar gyfer cyflwyno gwybodaeth i’r cyhoedd ac ymgynghori â’r cyhoedd, gan seilio’r dull hwn ar dryloywder, tystiolaeth ac arweinyddiaeth gadarnhaol. Dylid pennu swyddog arweiniol ar gyfer ymgysylltu â dinasyddion yn holl sefydliadau’r GIG i gefnogi newid i wasanaethau. Yn achos sefydliadau’r GIG sy’n delio â gwasanaethau ar gyfer Cymru-Lloegr neu wasanaethau trwy’r DU, dylent ddiweddaru unrhyw gontractau ar gyfer gwasanaethau y maent yn eu comisiynu, drwy gynnwys cymal sy’n nodi y dylai darparwyr ymgysylltu ac ymgynghori â hwy (a'u dinasyddion) ynghylch unrhyw newidiadau arfaethedig a allai gael effaith ar eu cleifion. Dylai ymgysylltu ac ymgynghori o'r fath gynnwys Llais a sefydliadau eraill y gallai'r newid effeithio arnynt. Wrth ymgysylltu ac ymgynghori, dylai'r darparwr ddarparu deunyddiau yn Gymraeg hefyd. Yn yr un modd, dylai sefydliadau GIG Cymru hefyd ymgysylltu ac ymgynghori â sefydliadau a thrigolion NHS England lle gallent fod yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i drigolion Lloegr.

Os caiff barn dinasyddion a’r cyhoedd ei deall a’i hystyried, bydd modd dylunio gwasanaethau’n well. Mae gwrando ac ymateb yn allweddol o ran gwella a datblygu gwasanaethau gofal iechyd. Dylai cyrff y GIG fynd ati’n rheolaidd i wneud y canlynol:

  • gwrando ar farn a phrofiadau byw yr holl randdeiliaid
  • gweithio gyda dinasyddion, cleifion, rhanddeiliaid a sefydliadau partner i gynllunio unrhyw newidiadau
  • cydnabod bod Llais yn rhanddeiliad allweddol ac y gall, drwy ymgysylltu a chael gwybodaeth berthnasol am newidiadau arfaethedig, gyflawni ei rôl o ran gwneud sylwadau ar ran dinasyddion
  • defnyddio dull cynhwysol sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal ac yn cydnabod amrywiaeth y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, wrth esbonio a chyfathrebu materion neu gyfleoedd
  • cynhyrchu dewis llawn o wybodaeth hygyrch yn sôn am wasanaethau a datblygiadau posibl yn y dyfodol, a hynny’n ddwyieithog ac mewn sawl fformat ac iaith wahanol, gan ystyried y cyfleoedd a gynigir gan y cyfryngau cymdeithasol a hefyd trwy ddefnyddio dulliau ymgysylltu a ddarperir gan asiantaethau eraill
  • ymgorffori gwerthoedd a disgwyliadau bywyd yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

Gall sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol gyfrannu mewn modd eithriadol o bwysig at ymgysylltu effeithiol. Mae gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau sy’n ymhél â salwch/cyflyrau penodol yn helpu pobl i ymgysylltu â’u gofal trwy gynnig gwell gwybodaeth iddynt. Mae grwpiau hunanofal, megis grwpiau i ofalwyr, a grwpiau cymorth ar gyfer pobl a chanddynt gyflwr prin ac sy’n teimlo eu bod wedi’u hynysu oddi wrth wasanaethau prif ffrwd, yn mynd i’r afael â materion iechyd mewn cymunedau. Felly, gall nifer o sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol ganfod a chynrychioli barn a blaenoriaethau defnyddwyr a gofalwyr a chynnig cyswllt uniongyrchol â defnyddwyr gwasanaethau ar draws amrywiaeth o gyflyrau. Mae'n bwysig bod cyrff y GIG yn nodi’r rhanddeiliaid perthnasol ac yn ymgysylltu â hwy, gan gynnwys y trydydd sector a chomisiynwyr a benodwyd drwy benodiad cyhoeddus.

Yn yr un modd, efallai y bydd gan y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hŷn, Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chomisiynydd y Cyn-filwyr wybodaeth a dulliau ymgysylltu posibl a allai fod yn ddefnyddiol.

Dylai sefydliadau’r GIG a Llais rannu arferion da, dulliau asesu a dulliau mesur perfformiad er mwyn helpu i wella effeithiolrwydd unrhyw ymgysylltu parhaus. Bydd pob newid mewn gwasanaeth, ni waeth pa mor fawr neu fach ydyw, yn darparu cyfleoedd dysgu.

Adran 4: Newid sylweddol

Ystyried newidiadau

Mae Adran 3 o’r canllawiau hyn yn ymdrin â’r ymgysylltu parhaus mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef, pa un a fydd newidiadau’n cael eu cynnig ai peidio, a nodir y disgwyliad y bydd y dull hwn yn ddull arferol ar gyfer bwrw ymlaen â newidiadau mewn gwasanaethau. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng newidiadau bach a newidiadau sylweddol neu arwyddocaol mewn gwasanaethau naill ai ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol. Dylai lefel yr ymgysylltu a’r ymgynghori fod yn gymesur â’r math o newid a ystyrir neu a gynigir, fel yr amlinellir yn Adran 5. Fel rhan o'i asesiadau effaith sylfaenol o gynigion, a thrwy weithio gyda'i randdeiliaid, gall y GIG bennu natur a maint y newid ac a ellid ei ystyried yn sylweddol. Mae’n bwysig i sefydliadau’r GIG gofio bod y dystiolaeth a gesglir fel rhan o’r broses ymgysylltu a/neu ymgynghori yn werthfawr o ran ategu unrhyw achosion busnes angenrheidiol y bydd angen eu llunio ar gyfer buddsoddi mewn adeiladau newydd – yn wir, gellir defnyddio tystiolaeth o’r fath i lunio rhai o’r penodau gofynnol yn y cyfryw achosion busnes a datblygiadau mawr eraill, hyd yn oed. 

Mae’n ofynnol i sefydliadau’r GIG gael strategaeth gwasanaethau clinigol a gymeradwywyd gan eu Bwrdd. Dylai’r strategaeth hon nodi eu gweledigaeth hirdymor ynglŷn â sut y byddant yn diwallu anghenion y cymunedau a wasanaethant. Mae’n hanfodol i bob sefydliad gael strategaeth fwy hirdymor fel y gellir pennu’r cyfeiriad a chynnig y cyd-destun ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol allweddol ynglŷn â ffurf y gwasanaethau a’r defnydd a wneir o adnoddau. Mae’r rhain yn cynnwys amcanestyniadau a dadansoddiadau o boblogaethau i lywio penderfyniadau ynglŷn â modelau gwasanaeth, llwybrau, cynllunio’r gweithlu, cyllid a buddsoddi mewn seilwaith.

Rhaid i holl sefydliadau’r GIG sicrhau bod eu cynlluniau integredig yn cyd-fynd â’u gweledigaeth yn y tymor hwy, ei fod yn adlewyrchu’r cynnydd y disgwylir ei wneud yn ystod cyfnod y cynllun tair blynedd a’i fod yn nodi sut y bydd modd pontio i fodelau gwasanaeth y dyfodol.

Disgwylir y byddai newidiadau i wasanaethau yn cael eu trin fel busnes cyhoeddus ar agenda Bwrdd corff perthnasol y GIG lle dylid cyflwyno adroddiad am y newid a’i effaith ynghyd ag adroddiad am unrhyw gamau arfaethedig i liniaru unrhyw effaith niweidiol bosibl.

Newid gwasanaeth ar draws sawl sefydliad

Lle mae angen i fwy nag un o sefydliadau'r GIG weithio gyda'i gilydd i ymgysylltu, cynllunio a chyflwyno newidiadau rhanbarthol neu genedlaethol i wasanaethau, dylent weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod trefniadau llywodraethu clir ar waith o'r cychwyn sy'n egluro priod gyfrifoldebau sefydliadau unigol a sut y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo un o sefydliadau eraill y GIG yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i sefydliad GIG cyfagos.

Gall hyn fod drwy fecanweithiau sy'n bodoli eisoes megis Pwyllgorau Cynllunio Rhanbarthol, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru neu'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys neu drwy drefniadau penodol eraill. Bydd hyn yn helpu i sicrhau: 

  • arweinyddiaeth glinigol a phroffesiynol gan wahanol sefydliadau
  • ymgysylltiad effeithiol â defnyddwyr gwasanaethau â'r cyhoedd ar draws cymunedau
  • ystyriaeth gan bob un sy'n gwneud penderfyniadau
  • aliniad strategol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys rhwydweithiau proffesiynol a Cholegau Brenhinol

Dylai’r broses ar y cyd hon gynnwys amserlen ddangosol ar gyfer cynllunio a gweithredu, a dylai’r holl sefydliadau barhau i weithio yn ôl yr amserlenni, oni bai y ceir consensws ymhlith pob sefydliad y dylid newid y cyflymder. 

O dan amgylchiadau o'r fath, byddai'n rhaid i newid i wasanaethau sy'n rhychwantu nifer o ardaloedd ffiniau sefydliadol y GIG hefyd gael eu hategu a'u tystiolaethu gan asesiad effaith, sy'n ystyried manteision neu risgiau cymharol y newid arfaethedig. 

Yn achos ymgysylltiad parhaus, a hefyd yn achos ymgynghoriadau penodol, rhaid i gyrff y GIG sicrhau yr ymdrinnir â’r holl fuddiannau lleol, a bod cyfrifoldebau o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a’r Gymraeg [troednodyn1] yn cael eu bodloni, gan gynnwys asesiadau effaith. Dylai’r trefniadau ymdrin â'r ardaloedd daearyddol, ynghyd ag anghenion diwylliannol ac ieithyddol y cymunedau a wasanaethir.

Ymgynghori ffurfiol

Efallai y deuir ar draws rhai achosion pan fydd angen mynd ati, fel eithriad, i gynnal ymgynghoriad ffurfiol. Mater allweddol wrth benderfynu a fydd angen cynnal ymgynghoriad ffurfiol, ai peidio, yw natur y newid – hynny yw, a yw’n newid sylweddol. Mae rhagor o arweiniad ar gael yn Adran 5. Yn gyffredinol, dylid cynnal ymgynghoriad ffurfiol pan fo’r newid yn newid sylweddol; er, efallai na fydd hynny’n briodol mewn achosion pan na fydd y cynnig yn ddadleuol. Efallai hefyd y bydd yn briodol cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer newid nad yw’n newid sylweddol. Gall Llais gyflwyno sylwadau naill ai fel rhan o’r cyfnod ymgysylltu neu fel rhan o’r cyfnod ymgynghori ffurfiol (os cynhelir cyfnodau o’r fath), a rhaid i gyrff y GIG roi sylw priodol i’r sylwadau hynny, fel y nodir yn y canllawiau ar sylwadau.

Pan fo’n debygol y bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal, cynigir y dylid cynnal ymgynghoriadau o’r fath ar ffurf dau gam. Yn ystod y cam cyntaf, dylai sefydliadau’r GIG gynnal trafodaeth helaeth gyda’r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys, fel y bo’n briodol:

  • Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid
  • Fforwm Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
  • Fforwm Partneriaeth Lleol
  • Llais
  • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
  • staff a’u cyrff cynrychiadol
  • Defnyddwyr y gwasanaeth(au) penodol yr ystyrir gwneud newidiadau iddynt
  • partneriaid allweddol eraill, megis comisiynwyr gofal iechyd neu ddarparwyr y gallai’r newid effeithio arnynt, er enghraifft, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, neu fwrdd iechyd/Ymddiriedolaeth neu awdurdod lleol cyfagos

Diben y trafodaethau hyn fydd archwilio’r holl faterion posibl er mwyn mireinio’r opsiynau a phenderfynu a chytuno ar y cwestiynau a gynhwysir yn yr ymgynghoriad. Pan fydd sefydliad y GIG yn fodlon bod y cam cyntaf hwn wedi’i gynnal yn briodol, dylai corff y GIG symud yn ei flaen at yr ymgynghoriad ffurfiol.

Yn dilyn y cam cyntaf a nodir uchod, dylai cyfnod ymgynghori o 6 wythnos fan leiaf fod yn ddigonol yn y rhan fwyaf o achosion, cyn belled ag yr aethpwyd ati eisoes i archwilio’r materion yn llwyr yn ystod y cam cyntaf - ond bydd yn dibynnu'n gryf ar holl amgylchiadau'r mater penodol. Dylai cyrff y GIG geisio’u cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain ynghylch a yw'r ymgynghoriad yn gyfreithlon, a fydd yn cynnwys a yw'r amserlen a roddir ar gyfer ymgynghori ac ymateb yn ddigonol ac yn deg.

Dylai unrhyw ymgynghoriad gydymffurfio â phedair Egwyddor Gunning (1985) sy'n nodi'r canlynol:

  • Rhaid i'r ymgynghoriad ddigwydd pan fydd y cynnig mewn cyfnod ffurfiannol. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus fod â meddwl agored yn ystod ymgynghoriad ac ni ddylai fod wedi gwneud y penderfyniad eisoes, ond efallai y bydd ganddynt rai syniadau am y cynnig.
  • Rhaid cyflwyno rhesymau digonol ar gyfer y cynnig er mwyn caniatáu ystyriaeth ac ymateb deallus. Rhaid i ymgynghorwyr fod â digon o wybodaeth i allu gwneud mewnbwn gwybodus i'r broses.
  • Rhaid rhoi digon o amser i ystyried ac ymateb. Rhaid i amseriad ac amgylchedd yr ymgynghoriad fod yn briodol, rhaid rhoi digon o amser i bobl ddatblygu barn wybodus ac yna rhoi adborth, a rhaid rhoi digon o amser i'r canlyniadau gael eu dadansoddi.
  • Rhaid ystyried cynnyrch yr ymgynghoriad yn gydwybodol.

Dylid mynd ati ar y cychwyn cyntaf i ystyried nifer o ffactorau, oherwydd bydd y materion hyn yn effeithio ar benderfyniadau a wneir yn ystod y gwahanol gamau drwy gydol y broses ymgynghori ffurfiol.

  • Beth yw priod gyfrifoldeb pob un o sefydliadau lleol y GIG?
  • A gynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad blaenorol ar yr un mater, ar fater cysylltiedig neu ar fater tebyg, e.e. ar gyfer gwasanaethau’r awdurdod lleol?
  • A yw Llais neu’r Cynghorau Iechyd Cymuned gynt wedi cyflwyno unrhyw sylwadau ynglŷn â’r un mater neu fater cysylltiedig / tebyg o’r blaen?
  • Â phwy y dylid ymgynghori, ynglŷn â beth, a sut?
  • A fydd y materion hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaethau eraill y GIG, yn arbennig rhai a chanddynt nam ar y synhwyrau neu anableddau?
  • A oes yna faterion sy’n effeithio ar ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr?
  • Pa adnoddau sy’n angenrheidiol a pha adnoddau sydd ar gael?
  • Sut y bydd modd ymdrin ag unrhyw wrthdaro/cwynion?
  • Sut y bydd y canlyniad yn cyfrannu at y broses benderfynu?
  • Pryd a sut y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud?
  • Sut y bydd y canlyniadau’n cael eu bwydo’n ôl i gleifion, staff a dinasyddion a fu’n gysylltiedig â’r broses, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol? A fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd ehangach?
  • A fydd yr ymgynghoriad yn cael ei werthuso, a sut?
  • Pryd dylid cynnal asesiadau effaith – a fydd y newid arfaethedig yn effeithio’n anghymesur ar gymuned neu gymunedau arbennig?
  • Beth yw’r amserlen ar gyfer y broses gynnwys a’r broses ymgynghori?
  • Beth yw’r effaith ar wasanaethau cysylltiedig?

Wrth reoli’r broses, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl y canlynol:

  • Bydd uwch-glinigwyr yn ysgwyddo rôl arweiniol wrth gyflwyno a chefnogi’r newid arfaethedig.
  • Bydd corff y GIG sy’n gyfrifol am arwain yr ymgynghoriad yn gweithio mewn partneriaeth â’i gymheiriaid yng nghyrff lleol eraill y GIG.
  • Bydd cyrff y GIG yn buddsoddi adnoddau digonol fel y gellir rheoli’r broses yn effeithiol o’r dechrau i’r diwedd, a hynny mewn modd agored a thryloyw.
  • Bydd cyrff y GIG yn rhoi gwybod i Llais am eu cynigion, byddant yn cyflwyno unrhyw wybodaeth angenrheidiol ac yn delio ag unrhyw sylwadau canlyniadol, yn unol â’r Canllaw Statudol perthnasol.
  • Lle bo’n briodol, bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cael eu cynnwys er mwyn sicrhau yr ystyrir ac yr ymdrinnir â’r cynigion yng nghyd-destun y “system gyfan” sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Dylai dogfennau ymgynghori wneud y canlynol:

  • Esbonio’r achos dros newid, pam mae angen cyflwyno’r newid a darparu tystiolaeth glir.
  • Cynnwys gweledigaeth glir o’r gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol
  • Esbonio’r canlyniadau a fydd yn deillio o’r newid neu’r canlyniadau a fydd yn deillio o gynnal y sefyllfa bresennol – o ran ansawdd, diogelwch, hygyrchedd ac agosrwydd gwasanaethau.
  • Cynnwys gwybodaeth am ganlyniadau i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau
  • Yn achos newidiadau’n ymwneud ag ysbytai, dangos sut y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu yn y dyfodol o fewn model gwasanaeth integredig, gan gynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol.
  • Nodi’n glir y dystiolaeth ar gyfer cynigion i grynhoi gwasanaethau ar un safle.
  • Cynnwys tystiolaeth sy’n dangos bod clinigwyr yn cefnogi’r newid arfaethedig
  • Yn achos newidiadau a ysgogir gan faterion llywodraethu clinigol, dangos sut y cafodd y newidiadau hyn eu profi trwy adolygiad annibynnol
  • Dangos pa opsiynau a ystyriwyd yn ystod y cam ymgysylltu – os caiff opsiwn a ffefrir ei amlinellu, rhaid i’r GIG sicrhau na fydd hyn yn cael ei ystyried fel ‘fait accompli’.
  • Esbonio unrhyw risgiau a sut y byddant yn cael eu rheoli
  • Cynnig darlun clir o’r goblygiadau ariannol sydd ynghlwm wrth y gwahanol gynigion.
  • Nodi’r rhai y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio arnynt a sut caiff eu buddiannau eu hamddiffyn.
  • Esbonio sut y bydd newidiadau a manteision yn cael eu gwerthuso ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith
  • Cyfathrebu’n ddwyieithog ac mewn sawl fformat gwahanol, yn briodol i anghenion y cleifion a’r cymunedau yr effeithir arnynt, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain. Er enghraifft, gallai deunyddiau yn y Gymraeg fod yn arbennig o bwysig i glaf sydd â dementia, gan y gallai ei allu i ddefnyddio ail iaith gael ei leihau neu ei golli.
  • Sicrhau bod y Bwrdd y corff GIG wedi cytuno i’r newidiadau.

Dylai corff y GIG ddatblygu cysylltiadau â’r cyfryngau a gweithio gyda nhw i esbonio’r newidiadau a’u heffeithiau mewn modd a fydd yn ddealladwy i ddinasyddion. Rhaid i’r broses ymgynghori fod yn ddilys ac yn dryloyw. Drwy gydol y broses, dylid cynnal trafodaeth agored gyda dinasyddion, staff y GIG, cynrychiolwyr staff a chyrff proffesiynol, rhanddeiliaid, Llais, y trydydd sector a sefydliadau partner, gan gynnwys awdurdodau lleol.

Dylai corff y GIG sy’n gyfrifol am gynllunio ymgynghoriad geisio barn llunwyr safbwyntiau ac arweinwyr yn y gymuned, megis gwleidyddion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, grwpiau cleifion, sefydliadau proffesiynol a grwpiau gwirfoddol perthnasol, ynghyd â’r rhai y gallai’r newidiadau posibl effeithio arnynt.

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, os ceir consensws ac os na chrybwyllwyd pryderon, bydd modd i gorff y GIG roi ei gynigion ar waith, yn amodol ar unrhyw ganiatâd neu gydsyniad arall y gall fod ei angen.

Dylai cyrff y GIG ystyried pa mor dda y gweithiodd y broses ymgynghori, a pha un a lwyddodd i gyrraedd disgwyliadau’r rhai a gymerodd ran ynddi. Dylid asesu hyn yn erbyn y dulliau mesur a bennwyd yn ystod y cam cynllunio a dylid rhoi adborth i randdeiliaid ynglŷn â chanlyniadau’r ymgynghoriad.

Adran 5: Enghreifftiau o fathau o newid i wasanaethau a lefel yr ymgysylltu a’r ymgynghori

Dyma enghraifftiau o’r mathau o newid a lefel yr ymgynghori:  

Ymgysylltu – hyd at 4 wythnos

Newid bach i wasanaeth lle mae un neu ragor o’r nodweddion canlynol yn berthnasol:

  • symud safle neu wasanaeth o fewn yr un ardal gymunedol
  • cau safle dros dro
  • newid y disgwylir iddo effeithio ar nifer bach o bobl, neu newid cymedrol fydd yn cael effaith fach

Ymgysylltu – hyd at 8 wythnos

Newid cymedrol i wasanaeth lle mae un neu ragor o’r nodweddion canlynol yn berthnasol:

  • newid y lleoliad y darperir y gwasanaeth ohono o fewn ardal bwrdd iechyd
  • diddymu’r gwasanaeth yn rhannol
  • newid y disgwylir iddo effeithio ar nifer cymedrol o bobl, neu newid bach fydd yn cael effaith gymedrol
  • ater sy’n gymharol sensitif yn lleol
  • cau cyfleuster bach â chyfleusterau cyfyngedig (fel cangen o feddygfa neu glinig cymunedol bach)

Ymgynghoriad Cyhoeddus Llawn yn dilyn cyfnod o ymgysylltu – hyd at 12 wythnos

Newid sylweddol i wasanaeth lle mae un neu ragor o’r nodweddion canlynol yn berthnasol:

  • cau safle mawr â chyfleusterau sylweddol yn barhaol
  • diddymu gwasanaethau sylweddol yn llwyr o safle
  • ad-drefnu gwasanaethau ar draws sefydliadau'r GIG (e.e. gwasanaethau rhanbarthol)
  • newid sy’n effeithio ar nifer mawr o gleifion, neu ar nifer bach gydag effaith fawr
  • mater sy’n hynod sensitif o safbwynt y boblogaeth leol

Os oes gan gorff GIG unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha lefel o ymgynghori i'w dilyn ar gyfer newid penodol, mae’n bwysig eu bod yn trafod yn gynnar gyda Llais.

Adran 6: Newidiadau brys i wasanaethau

Ceir trefniadau arbennig pan fo corff y GIG o’r farn bod angen gwneud penderfyniad ynglŷn â mater yn syth er lles y gwasanaeth iechyd neu oherwydd rhyw risg i ddiogelwch neu lesiant cleifion neu staff. Mewn achosion o’r fath, mae’n bosibl na fydd modd i gyrff y GIG ymgynghori’n ffurfiol; ond os oes ganddynt broses ymgysylltu barhaus ar waith, ni ddylai newidiadau o’r fath fod yn syndod i randdeiliaid, oherwydd byddant yn ymwybodol o’r heriau o ran darparu rhai gwasanaethau.

Dyma rai arferion da:

  • Rhaid i gorff y GIG wneud pob ymdrech i hysbysu’r holl fuddiannau perthnasol ynglŷn â’r trefniadau newydd cyn i’r newid gael ei roi ar waith.
  • Rhaid i gorff y GIG gyflwyno gwybodaeth i Llais ynglŷn â’r modd y rhoddwyd gwybod i gleifion a gofalwyr am y newid yn y gwasanaeth, a pha drefniadau amgen a roddwyd ar waith er mwyn diwallu eu hanghenion.
  • Dylai sefydliad y GIG nodi pa gamau a gymerir ganddo er mwyn sicrhau y gellir dychwelyd at drefniadau arferol y gwasanaeth neu ddarparu dewis arall gwell.

Er mwyn ceisio atal anawsterau rhag codi mewn perthynas â phenderfyniadau brys o’r fath, dylai cyrff y GIG gymryd camau rhagofalus. Dylid paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer gwasanaethau yr ystyrir eu bod yn wynebu risg uchel a dylid mynd ati’n gynnar yn y broses i rannu’r cynlluniau hyn gyda sefydliadau perthnasol y GIG, Llais a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Yn achos pob cynllun wrth gefn, dylid cynnal asesiad risg ac asesiad effaith ar gyfer yr holl opsiynau.

Dylai corff y GIG gymryd camau brys i sicrhau bod y newid yn cyd-fynd â’r gofynion sydd fel arfer yn berthnasol. Dylai sefydliad y GIG roi proses ymgysylltu ac ymgynghori gynhwysfawr ar waith os yw’n dymuno i’r newid brys fod ar waith yn barhaol.

Adran 7: Pan fo anghytundeb

Nod y ddogfen hon yw cynnig cyngor a chymorth er mwyn galluogi sefydliadau’r GIG i gyflwyno newidiadau angenrheidiol i wasanaethau. Fodd bynnag, er gwaethaf y canllawiau helaeth, ceir adegau pan fydd pobl neu sefydliadau yn anfodlon â’r canlyniad neu a’r broses â ddilynwyd i ymgysylltu neu ymgynghori. Un o rolau’r Cynghorau Iechyd Cymuned gynt oedd atgyfeirio pryderon o’r fath at y Gweinidog, fel y gellid gwneud penderfyniad; ond nid yw’r rôl hon yn berthnasol mwyach ac nid i’r pŵer atgyfeirio yn cael ei drosglwyddo i Llais. Fodd bynnag, os yw’n dymuno gwneud hynny, gall Llais dynnu sylw Gweinidogion Cymru at faterion yn ymwneud â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys newidiadau i wasanaethau a’r modd y’u rheolir.

Mewn amgylchiadau o’r fath, byddai Gweinidogion Cymru yn disgwyl i Llais esbonio pam mae ganddo bryderon. Gall Gweinidogion Cymru geisio barn sefydliadau perthnasol y GIG, gan gynnwys tystiolaeth ynglŷn ag unrhyw ymgysylltu/ymgynghoriad a roddwyd ar waith.

Gallai Gweinidogion Cymru ddewis cyfarwyddo sefydliad y GIG i gomisiynu Panel Amlddisgyblaethol Annibynnol i ddarparu cyngor. Byddai modd i’r panel ystyried yr achos clinigol, ynghyd â materion daearyddol, amgylcheddol a chymdeithasol, materion teithio a materion yn ymwneud â llif cleifion, gan argymell ffordd ymlaen. Bydd yn bwysig sefydlu a chytuno ar Gylch Gorchwyl ar gyfer unrhyw adolygiad a sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfleu'n glir. Gallai Gweinidogion Cymru gyfarwyddo sefydliad y GIG i roi argymhellion y Panel Annibynnol ar waith.

Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol nad Gweinidogion Cymru, bellach, yw’r cyflafareddwyr ar gyfer unrhyw anghytuno o ran newidiadau i wasanaeth. O dan y ddeddfwriaeth, ar y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r  GIG y mae’r ddyletswydd i ymgynghori, ac felly byddai unrhyw her neu anghydfod mewn perthynas â chydymffurfio â'r dyletswyddau hynny yn cael eu dwyn yn erbyn y cyrff GIG hynny.

Adran 8: Y camau nesaf

Disgwylir i'r canllawiau hyn gael eu hadolygu ar ôl bod mewn grym am flwyddyn. Bydd rôl Gweithrediaeth GIG Cymru, a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2023, ar newid gwasanaethau yn y GIG hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad hwn.

Troednodyn

Mae Safonau'r Gymraeg, a grëwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gyfres o ofynion cyfreithiol rwymol sy'n berthnasol i'r GIG. Maent yn nodi’n glir y cyfrifoldebau dros ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Dylai cyrff y GIG fod yn ymwybodol o'r safonau perthnasol wrth weithredu'r canllawiau hyn.