Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am drwyddedau ar gyfer archwilio a datblygu adnoddau petrolewm ar dir Cymru. Polisi Llywodraeth Cymru yw peidio â rhoi unrhyw drwyddedau newydd. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i weinyddu'r trwyddedau petrolewm a gafodd eu rhoi gan Lywodraeth y DU cyn 1 Hydref 2018, yn unol â'r cymalau model yn y drwydded, y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol, ac yn unol ag egwyddorion cyffredinol cyfraith gyhoeddus. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ganllawiau anstatudol drafft sydd wedi cael eu paratoi i helpu deiliaid trwydded i reoli trwyddedau presennol.

Beth yw’r prif ystyriaethau?

Ar 1 Hydref 2018, trosglwyddodd adran 23 Deddf Cymru 2017 swyddogaethau trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Petrolewm 1998, mewn perthynas â thir Cymru, o’r Awdurdod Olew a Nwy (bellach Awdurdod Trosglwyddo Môr y Gogledd (NSTA)) i Weinidogion Cymru.  Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am roi trwyddedau ar gyfer archwilio a datblygu adnoddau petrolewm ar dir Cymru.

Mae Rhan 1 o Ddeddf Petrolewm 1998 yn diffinio petrolewm (olew a hydrocarbonau nwy), ac mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu yng Nghymru, i roi trwyddedau i 'chwilio a drilio am betrolewm, a'i echdynnu' am gydnabyddiaeth (a elwir yn rhentu). 

Ar 10 Rhagfyr 2018, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y dystiolaeth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Polisi ar Echdynnu Petrolewm. Mae ymgynghoriad a datganiad 2018 yn ei gwneud yn glir, wrth reoli ein hadnoddau naturiol, na fydd buddiannau Cymru yn cael eu hyrwyddo drwy chwilio am ffynonellau newydd o petrolewm a datblygu'r ffynonellau hynny. Felly, polisi Llywodraeth Cymru yw peidio â rhoi unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru, na chefnogi ceisiadau am drwyddedau caniatâd ar gyfer hollti hydrolig.

Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i reoli'r trwyddedau petrolewm a gafodd eu rhoi gan Lywodraeth y DU cyn 1 Hydref 2018, yn unol â'r cymalau model yn y drwydded, y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol, ac yn unol ag egwyddorion cyffredinol cyfraith gyhoeddus. 

Mae pob trwydded petrolewm a roddir yn cynnwys cymalau model (telerau ac amodau) sy'n amlinellu yn union pa weithgareddau a newidiadau gweinyddol y mae angen caniatâd Gweinidogion Cymru, fel yr awdurdod trwyddedu, ar eu cyfer. Er enghraifft, rhaid i Weinidogion Cymru roi caniatâd ysgrifenedig cyn y gellir dechrau unrhyw ddrilio, cyn y gellir cynhyrchu unrhyw betrol a cyn y gellir trosglwyddo'r drwydded i gwmni arall. Gallai unrhyw achosion o'r deiliad trwydded yn torri neu’n methu cydymffurfio ag amodau'r drwydded, gan gynnwys methu cael y caniatâd sydd ei angen gan Weinidogion Cymru, arwain at y drwydded yn cael ei dileu. 

Ble'r ydym arni nawr?

Rydym wedi darparu canllawiau drafft i atgoffa deiliaid trwydded am yr angen i gael caniatâd Gweinidogion Cymru ar gyfer rhai gweithgareddau, ac i'w helpu i reoli eu trwyddedau. Felly, bydd y canllawiau'n helpu Gweinidogion Cymru i gynnal eu swyddogaethau trwyddedu statudol mewn perthynas â'r rhai sy'n meddu ar drwyddedau ar hyn o bryd.

Ni ddylid ystyried y canllawiau drafft yn gyngor cyfreithiol. Mae deiliaid trwydded yn parhau i fod yn gyfrifol yn llwyr am gydymffurfio â thelerau ac amodau eu trwydded. Ym mhob achos, rhaid i ddeiliaid trwydded hefyd gydymffurfio â'r holl gyfundrefnau rheoleiddiol a gofynion, a holl bolisïau a deddfwriaeth Cymru sy'n berthnasol. 

Ni fwriedir i'r canllawiau drafod yn fanwl caniatadau a chyfundrefnau trwyddedu rheoleiddwyr eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Gweithredu Iechyd a Diogelwch. 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio penderfynu a yw'r canllawiau drafft yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol a fyddai'n helpu deiliaid trwydded i reoli eu trwyddedau. Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynglŷn â pholisïau petrolewm na pholisïau tanwyddau ffosil ehangach. Rydym eisoes wedi ymgynghori ynglŷn â’r rhain ac maent bellach yn rhan annatod o brosesau penderfynu Gweinidogion Cymru. 

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1: A yw'r canllawiau drafft yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol a fyddai'n helpu rhywun sy'n meddu ar drwydded petrolewm ar hyn o bryd i reoli ei rwymedigaethau o dan y drwydded honno? 

Cwestiwn 2: Pa wybodaeth arall allai helpu rhywun sy'n meddu ar drwydded petrolewm ar hyn o bryd i reoli ei drwydded? 

Cwestiwn 3: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai?  Sut y gellid gynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 4: Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a peidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 5: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.    

Cwestiwn 6: Ydych chi'n byw yng Nghymru?   

Cwestion 7: Oes gennych chi ddiddordeb busnes yng Nghymru?

Cwestiwn 8: Rhowch ran gyntaf côd post eich cartref e.e. CF10

Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 24 Chwefror 2025.

Gallwch ymateb mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Is-adran Ynni
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu staff sy’n cynllunio ymgyngoriadau yn y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar yr ymatebion i ymgynghoriad, mae’n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw ar ei rhan. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Yna byddwn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau sydd arnom o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn yr ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny’n cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata a gedwir mewn ffyrdd eraill gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd. 

Eich hawliau 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol: 

  • cael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch a'i weld 
  • mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw 
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn inni drosglwyddo eich data i gorff arall (o dan rai amgylchiadau) 
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am ffordd mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gweler y manylion cyswllt isod.

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745/ 0303 123 1113 
Gwefan: https://ico.org.uk/

Rhagor o wybodaeth a dogfennau Cysylltiedig