Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/2260 Cydnabyddiaeth drethadwy

(Atodlen 4 a gyflwynir gan adran 18(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017).

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy, ac eithrio fel y darperir yn benodol ar ei chyfer yn rhywle arall yn golygu unrhyw arian neu gyfwerth ariannol a roddir ar gyfer testun y trafodiad. Mae hyn yn cynnwys cydnabyddiaeth a roddir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan y prynwr neu’r rhai sy'n gysylltiedig ag ef.

DTTT/2261 Gosodiadau a ffitiadau

Os oes eitem wedi’i gosod ar yr eiddo, mae’n dod o dan y DTT ac yn cael ei hystyried fel gosodiad neu ran o'r tir.

Mae’r eitemau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • unedau cegin, cypyrddau a sinciau wedi’u gosod (ac eithrio nwyddau gwynion)
  • offer glanweithiol wedi’i osod mewn ystafell ymolchi
  • Agas a phoptai ar wal
  • systemau gwres canolog
  • systemau larwm atal dieithriaid
  • planhigion, llwyni neu goed allanol

Nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Ni fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu hystyried fel gosodiadau fel rheol, ac felly ni fyddent yn dod o dan y DTT fel rheol.

  • carpedi (wedi’u gosod neu ddim)
  • llenni neu ddallenni
  • dodrefn rhydd
  • nwyddau gwynion cegin (oni bai eu bod wedi’u hintegreiddio yn llawn)
  • tanau nwy a thrydan (os oes modd eu datgysylltu o'r cyflenwad pŵer heb ddifrodi'r eiddo)
  • ffitiadau golau
  • planhigion neu goed yn tyfu mewn potiau

Nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Rhaid gwneud dosraniad ar sail gyfiawn a rhesymol ar gyfer yr eitemau hynny nad ydynt yn cael eu hystyried fel gosodiadau neu ffitiadau. Gall y swm sy’n cael ei ddosrannu fod yn wahanol i'r pris y cytunwyd arno rhwng y prynwr a’r gwerthwr.

Mewn sefyllfa fasnachol, ni fyddai unrhyw beiriant neu offer y gellir ei symud yn rhwydd o’r eiddo'n cael ei ystyried fel gosodiad. Byddai unrhyw beiriant neu offer trwm sy’n rhan greiddiol o’r eiddo’n cael ei ystyried fel gosodiad.

DTTT/2270 Arian neu gyfwerth ariannol

Mae arian yn hawdd ei ddeall. Mae’n cynrychioli’r swm ariannol a roddir fel cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, boed hynny’n daliad drwy siec neu drosglwyddiad electronig ac ati. Bydd yn cynnwys arian a ddarperir i'r gwerthwr ac arian a ddarperir gan y prynwr i bobl eraill hefyd ar gyfarwyddyd y gwerthwr, pan fo hynny’n amod ar gyfer ymrwymo i'r trafodiad tir.

Er enghraifft, mae’r ffioedd y gallai’r gwerthwr fod yn gyfrifol amdanynt, ond sy’n cael eu talu gan y prynwr fel rhan o’r gydnabyddiaeth ar gyfer testun y trafodiad tir, yn gydnabyddiaeth drethadwy. Gallai enghreifftiau o ffioedd o’r fath gynnwys ffioedd rhagarweiniol, ffioedd tendro, ffioedd cyfreithiol, ffioedd gwerthwr tai y gwerthwr neu’r comisiwn a delir i dŷ ocsiwn am werthu’r eiddo. Pan fydd y prynwr yn talu’r ffioedd hyn, fe fyddant – ynghyd ag unrhyw dreth ar werth a godir ar y ffioedd – yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Pan fo ffioedd yn cael eu talu, a hynny ddim ar gyfarwyddyd y gwerthwr, neu os nad ydynt yn amodol ar y trafodiad yn digwydd, nid ydynt yn debygol o fod yn rhan o’r gydnabyddiaeth drethadwy. Er enghraifft, y prynwr, nid y gwerthwr, sy’n atebol am yr arian a delir ar gyfer ffi’r sawl sy'n hwyluso’r trafodiad, felly nid yw’r ffi hon yn cael ei thalu ar gyfarwyddyd y gwerthwr. Atebolrwydd y prynwr ydyw, ac mae’n annhebygol iawn y bydd y trafodiad tir yn ddibynnol ar dalu’r ffi honno. Yn yr un modd, nid yw'n debygol y bydd ffioedd cyflwyno neu gofrestru mewn arwerthiant sy'n caniatáu i'r prynwr gymryd rhan yn yr arwerthiant yn rhan o’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddir ar gyfer y trafodiad tir.

Mae ‘cyfwerth ariannol’ yn golygu unrhyw beth a roddir fel cydnabyddiaeth sydd ddim yn arian ond sydd â gwerth y gellir ei fynegi fel arian. Felly mae’n cynnwys unrhyw beth sydd â gwerth ariannol y byddai modd ei droi’n arian. Bydd yn cynnwys, er enghraifft, aur, gemwaith, gwaith celf, ceir, stociau a chyfranddaliadau ac ati.

DTTT/2280 Cyfnewid symiau mewn arian tramor

(Atodlen 4 paragraff 10)

Os yw’r gydnabyddiaeth mewn math arall o arian, gan gynnwys arian heb fod yn arian cenedlaethol, fel yr arian electronig Bitcoin, canfyddir swm y gydnabyddiaeth drwy gyfeirio at y gyfradd gyfnewid glo ar y diwrnod y daw’r trafodiad i rym. Os oes angen cyfnewid y swm i fath arall o arian yn gyntaf (er enghraifft doler yr Unol Daleithiau) ac yna i mewn i sterling, rhaid cyfnewid ddwywaith (mae’n bosibl y bydd angen gwneud hyn gydag arian heb fod yn arian cenedlaethol).

Fodd bynnag, os yw'r partïon wedi cytuno ar gyfradd sy'n wahanol i’r gyfradd gyfnewid glo yn Llundain, dylid defnyddio’r gyfradd honno.

DTTT/2290 Prisio cydnabyddiaeth anariannol

(Atodlen 4 paragraff 7)

Bydd y gydnabyddiaeth drethadwy, oni ddarperir fel arall, nad yw’n arian (p’un ai a yw’n sterling neu’n fath arall o arian) nac yn ddyled, yn cael ei derbyn yn unol â’i gwerth marchnadol ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym.

DTTT/2300 Gwerth Marchnadol

At ddibenion y Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig, pennir gwerth marchnadol yn yr un ffordd ag y caiff ei bennu at ddibenion Deddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992. Yn benodol, adrannau 272 i 274 o’r Ddeddf honno. Fodd bynnag, mae darpariaethau penodol yn mynnu bod TAW yn cael ei chynnwys fel rhan o'r gydnabyddiaeth.

DTTT/2310 Treth ar Werth (TAW)

(Atodlen 4 paragraff 2)

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad yn cynnwys unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad. Fodd bynnag, os cafodd opsiwn i drethu o dan Ran 1 o Atodlen 10 i Ddeddf Treth ar Werth 1993 ei wneud ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad yn dod i rym, ni fydd y dreth ar werth ar y gydnabyddiaeth yn gydnabyddiaeth drethadwy. Nid yw’r potensial i ddewis yr opsiwn i drethu yn cyfrif fel digwyddiad dibynnol.

Gallai sefyllfaoedd o’r fath godi pan fydd landlord, ar ôl rhoi les, yn dewis o bosibl yr opsiwn lle mae angen i’r tenant dalu TAW ar y rhent.

Os oes busnes gweithredol yn cael ei drosglwyddo a bod y trosglwyddiad hwnnw’n bodloni’r holl amodau TAW perthnasol, ni fydd angen talu TAW. Felly ni fydd swm y gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys TAW.

Fodd bynnag, os nad yw’r amodau TAW hynny'n cael eu bodloni a bod angen talu TAW, bydd y swm hwnnw o dreth ar werth a delir yn gydnabyddiaeth drethadwy.

Rhaid i’r gydnabyddiaeth drethadwy adlewyrchu’r gyfradd TAW sydd ar waith ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym. Os bydd newid yn y gyfradd TAW ar ôl hynny, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfrifiad y gydnabyddiaeth drethadwy.

Nid yw newidiadau posibl i’r gyfradd TAW yn y dyfodol yn cyfrif fel digwyddiad dibynnol.

Os yw’r dyddiad y daw’r trafodiad i rym mewn les yr un fath â’r dyddiad pan fu newid yn y gyfradd TAW, neu ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i’r trethdalwr gyfrifo gwerth net presennol y rhent:

  • gan ddefnyddio’r ‘hen’ gyfradd TAW o’r dyddiad pan ddaeth y trafodiad i rym hyd at y diwrnod cyn dyddiad y taliad rhent cyntaf
  • a’r gyfradd TAW ‘newydd’ ar y rhent sy’n daladwy ar ddyddiad y taliad rhent cyntaf neu ar ôl hynny.

Pan fo dyddiad dod i rym y trafodiad sydd ar y les yn dod cyn y dyddiad pan newidiodd y gyfradd, ni fydd newidiadau posibl yn y gyfradd TAW yn y dyfodol yn cael eu trin fel cydnabyddiaeth ddibynnol.

Fodd bynnag, os yw'r rhent a delir ar y les yn amrywiol neu’n ansicr, os oes angen i’r trethdalwr ddychwelyd ffurflen dreth ychwanegol yn sgil cyrraedd dyddiad ailystyried, bydd unrhyw newidiadau o ran TAW yn cael eu hystyried. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod symiau rhent blynyddol yn cael eu pennu gan ddefnyddio’r cyfraddau TAW gwirioneddol sy’n berthnasol hyd at y dyddiad ailystyried. Bydd unrhyw gynnydd (neu ostyngiad) mewn TAW hefyd yn cael ei ystyried wrth bennu’r swm uchaf o rent a delir mewn unrhyw gyfnod o 12 mis er mwyn cyfrifo’r gwerth net presennol bob blwyddyn ar ôl pumed flwyddyn y les.

Os nad yw trethdalwr, drwy gamgymeriad, wedi cynnwys TAW yn y gydnabyddiaeth drethadwy a bod CThEM, mewn dyfarniad TAW ar ôl trafodiad, yn dweud y codir TAW, rhaid i’r trethdalwr addasu ei ffurflen Treth Trafodiadau Tir i gynnwys yr elfen TAW. Os nad oes modd newid y ffurflen gan fod y dyddiad ar gyfer gwneud newid o’r fath wedi dod i ben, dylai'r trethdalwr ysgrifennu at ACC yn dweud bod y gydnabyddiaeth ychwanegol bellach yn drethadwy.

Os yw’r trethdalwr, drwy gamgymeriad, wedi cynnwys TAW yn y cyfrifiad ar gyfer cydnabyddiaeth drethadwy a bod CThEM, mewn dyfarniad ar ôl y trafodiad, yn dweud bod llai o gydnabyddiaeth drethadwy, gall y trethdalwr addasu ei ffurflen. Os nad oes modd gwneud hynny bellach, dylid cyflwyno hawliad i'r ACC yn unol ag adran 63 DCRhT 2016.

DTTT/2320 Cydnabyddiaeth ohiriedig a chydnabyddiaeth a delir mewn rhandaliadau

(Atodlen 4 paragraff 3)

Swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir yw swm llawn y gydnabyddiaeth y cytunwyd bod angen ei thalu ar unrhyw adeg (yn hytrach na’r hyn a delir ar ôl cwblhau’r contract neu ei gyflawni'n sylweddol). Ni roddir disgownt ar gyfer taliadau sy’n ddyledus ar ddyddiadau yn y dyfodol.

DTTT/2330 Dosraniad teg a rhesymol

(Atodlen 4 paragraff 4)

Cydnabyddiaeth drethadwy yw’r gydnabyddiaeth honno a roddir ar gyfer trafodiad tir. Mae’n bosibl y gall un ddêl gynnwys; dau drafodiad tir neu ragor, yn rhannol ar gyfer trafodiad tir ac yn rhannol ar gyfer testun arall, neu, yn rhannol ar gyfer materion sy'n gwneud y gydnabyddiaeth yn gydnabyddiaeth drethadwy ac yn rhannol ar gyfer materion eraill.

Mewn achosion o'r fath, bydd angen i’r trethdalwr ddosrannu'r gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y ddêl rhwng yr elfen sy’n ymwneud â thrafodiadau tir a’r elfen sy'n ymwneud â materion eraill. Mae’n bosibl na fydd y dosraniad y mae’r prynwr a’r gwerthwr wedi cytuno arno, hyd yn oed pan fo hynny wedi'i nodi mewn contract, yn ddosraniad teg a rhesymol. Y ffeithiau sy’n pennu dosraniad teg a rhesymol, nid ffurf y contract.

Bydd angen dosraniad teg a rhesymol yn y ddwy sefyllfa gyffredin hyn:

  • pan fo gosodiadau a ffitiadau wedi'u cynnwys yn y pris y cytunwyd arno wrth werthu’r eiddo (er enghraifft, llenni, dodrefn a nwyddau gwyn, planhigion mewn potiau mewn gwerthiant preswyl. Nid yw hyn yn cynnwys eitemau sydd wedi'u gosod yn eu lle yn yr eiddo (er enghraifft, dodrefn sy’n sownd yn yr adeilad, bath/sinc, systemau gwres canolog ac ati)), neu
  • wrth brynu busnes sy'n cynnwys y tir a’r eiddo, ond hefyd ewyllys da, peiriannau, offer, stoc ac ati

Mae coed gyda ffrwythau’n tyfu arnynt yn rhan o’r tir, a’r gydnabyddiaeth a roddir am y tir a’r coed a’r cnydau yw cydnabyddiaeth drethadwy’r trafodiad tir. Nid yw cnydau wedi'u cynaeafu, coed wedi'u torri na phlanhigion mewn potiau yn rhan o'r tir.

Yn ogystal, gall sefyllfaoedd godi lle mae’r trafodiad tir yn berthnasol i dir yng Nghymru ac yn rhywle arall – naill ai trafodiad ar draws ffiniau neu ar draws teitlau – a bydd angen dosrannu’n deg ac yn rhesymol er mwyn pennu’r gydnabyddiaeth drethadwy briodol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

DTTT/2340 Ewyllys da

Bydd ACC yn mabwysiadu’r un egwyddorion â CThEM o ran prisio ewyllys da. Os bydd busnes yn cael ei werthu fel busnes gweithredol, mae ACC yn derbyn y gallai’r gwerthiant gynnwys elfen o ewyllys da. Y cwestiwn yw, nid a yw ewyllys da yn bodoli, ond beth yw gwerth yr ewyllys da hwnnw. Rhaid gwneud penderfyniad ar y cwestiwn hwnnw ar sail ffeithiau pob achos yn unigol, a bydd pob achos yn wahanol gan ddibynnu ar y math o eiddo a’i ddefnydd. Mewn rhai achosion, gallai gwerth yr ewyllys da fod yn nominal, ond mewn achosion eraill gallai fod yn sylweddol.

Ewyllys da yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth busnes fel busnes gweithredol a gwerth yr asedau ar wahân sydd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant. Bydd ACC yn ystyried bod gwerth unrhyw ewyllys da mewn unrhyw eiddo sy'n gysylltiedig â masnach yn cael ei gyfrifo drwy dynnu gwerth yr asedau ar wahân sydd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant o werth y busnes fel busnes gweithredol. Diffinnir eiddo sy’n gysylltiedig â masnach yn Nodyn Cyfarwyddyd 2 (GN2) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig fel unrhyw fath o eiddo go iawn a gynlluniwyd ar gyfer math penodol o fusnes, lle mae gwerth yr eiddo'n adlewyrchu’r potensial masnachu ar gyfer y busnes hwnnw. Mae tafarndai, gwestai, gorsafoedd petrol, swyddfeydd post ac ati yn enghreifftiau.

Fel rheol, bydd gwerth y busnes fel busnes gweithredol yn cael ei gynrychioli gan y pris gwerthu gwirioneddol a gafwyd ar y farchnad agored. Fodd bynnag, os nad oedd y gwerthiant yn un hyd braich, bydd angen pennu gwerth hyd braich y busnes fel busnes gweithredol.

DTTT/2350 Cyfnewidiadau

(Atodlen 4 paragraff 5)

Bydd cyfnewidiad yn digwydd pan fydd prynwr, ar ei ben ei hun neu ar y cyd yn ymrwymo i un trafodiad tir neu ragor, fel cydnabyddiaeth, yn rhannol neu’n llawn, ar gyfer un trafodiad tir neu ragor yr ymrwymir iddynt, ar ei ben ei hun neu ar y cyd fel gwerthwr.

Defnyddir datganiadau penodol yn y rheolau ar gyfer cyfnewid:

  • ‘trafodiad perthnasol’, sy'n golygu unrhyw drafodiad sy’n gysylltiedig â'r cyfnewid
  • ‘caffaeliad perthnasol’, sy'n golygu trafodiad perthnasol y mae prynwr yn ymrwymo iddo, a
  • ‘gwarediad perthnasol’, sy'n golygu trafodiad perthnasol y mae gwerthwr yn ymrwymo iddo.

Pan fo’r testun yn brif fuddiant mewn tir ar gyfer un caffaeliad perthnasol, y gydnabyddiaeth drethadwy yw:

  • gwerth marchnadol testun y caffaeliad ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym. Nid yw gwerth marchnadol yn cynnwys TAW
  • os mai rhoi les am rent oedd y caffaeliad, y rhent hwnnw, ac
  • unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r caffaeliad hwnnw ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym.

Pan fo’r testun yn cynnwys prif fuddiannau mewn tir ar gyfer sawl caffaeliad perthnasol, y gydnabyddiaeth drethadwy yw:

  • gwerth marchnadol testun pob caffaeliad ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym. Nid yw gwerth marchnadol yn cynnwys TAW
  • os mai rhoi les am rent oedd unrhyw gaffaeliad, y rhent hwnnw, ac
  • unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r caffaeliadau hynny ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym

Os nad yw testun y trafodiadau’n cynnwys prif fuddiant mewn tir:

  • pan wneir un caffaeliad perthnasol unigol yn gydnabyddiaeth ar gyfer un gwarediad perthnasol neu ragor, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy a roddir ac eithrio’r gwarediadau perthnasol – nid yw'r buddiannau a gyfnewidir yn cael eu hystyried
  • pan wneir dau gaffaeliad perthnasol neu ragor yn gydnabyddiaeth ar gyfer un gwarediad perthnasol neu ragor, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer pob caffaeliad yw’r ‘gyfran briodol’ o’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd ac eithrio ar gyfer y gwarediad neu’r gwarediadau perthnasol
  • cyfrifir y ‘gyfran briodol’ gan ddefnyddio'r fformiwla
    GM ÷ CGM

    GM yw gwerth marchnadol testun y caffaeliad y pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar ei gyfer. Nid yw gwerth marchnadol yn cynnwys TAW.

    CGM yw gwerth marchnadol testun yr holl gaffaeliadau perthnasol.

Wrth bennu gwerth marchnadol, rhaid diystyru gostyngiad yn yr hyn a fyddai, fel arall, yn werth marchnadol os yw’r gostyngiad yn deillio o unrhyw beth a wneir (boed gan y prynwr neu gan berson arall) i osgoi treth, a bod hynny’n brif ddiben iddo, neu’n un o’i brif ddibenion. Mae’r rheol yn gwahardd cynnwys cyfamodau, opsiynau i gaffael ac ati sy'n gallu effeithio ar werth marchnadol ar y dyddiad dod i rym ond sydd ddim, neu sy'n annhebygol, o effeithio ar fwynhad o'r eiddo. Mae swm y gydnabyddiaeth a roddir (gan gynnwys taliad ecwiti ariannol efallai) yn debygol o roi syniad beth yw'r gwerth marchnadol.

Er enghraifft, gallai cyfamod cyfyngiad amser yng nghyswllt y dyddiad dod i rym yn effeithio ar werth y tir ar y dyddiad hwnnw. Mae’r ffaith nad yw’n weithredol y diwrnod canlynol yn golygu na ddylid ei ystyried wrth bennu’r gwerth marchnadol ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym.

Enghraifft 1

Mae A Cyf yn cyfnewid tir sydd â gwerth marchnadol o £1 miliwn ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, a hynny am dir sydd â gwerth marchnadol o £500,000 a swm ariannol o £500,000, gyda B Cyf. Nid oes TAW yn berthnasol i’r un plot o dir. Fel yr un sy'n prynu'r tir gyda gwerth marchnadol o £500,000, mae’n rhaid i A Cyf nodi’r trafodiad tir hwnnw ar y ffurflen a thalu’r Dreth Trafodiadau Tir ar y gydnabyddiaeth o £500,000. B Cyf yw’r prynwr mewn trafodiad tir lle mae’r gydnabyddiaeth a roddir yn £1 miliwn. Mae’n rhaid iddo nodi’r trafodiad tir hwnnw ar y ffurflen a thalu’r Dreth Trafodiadau Tir ar y swm hwnnw.

Enghraifft 2

Mae C Cyf yn cyfnewid tir sydd â gwerth marchnadol (heb gynnwys TAW) o £1 miliwn ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, a hynny am dir sydd â gwerth marchnadol o £500,000 (heb gynnwys TAW) a swm ariannol o £500,000, gyda D Cyf. Mae TAW yn berthnasol i’r ddau blot o dir. C Cyf yw prynwr y tir sydd â gwerth marchnadol o £500,000 a TAW (cyfradd dybiedig o 20%) o £100,000 sy’n daladwy. Rhaid iddo nodi hyn ar y ffurflen a thalu'r Dreth Trafodiadau Tir ar y gydnabyddiaeth o £600,000. D Cyf yw'r prynwr mewn trafodiad tir lle mae’r gydnabyddiaeth a roddir yn £1 miliwn, a TAW yn £200,000. Rhaid iddo nodi’r trafodiad tir hwn ar y ffurflen a thalu'r Dreth Trafodiadau Tir ar y gydnabyddiaeth, sef swm o £1,200,000.

Enghraifft 3

Mae E Cyf yn cyfnewid tir sydd â gwerth marchnadol (heb gynnwys TAW) o £1 miliwn ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, a hynny am dir sydd â gwerth marchnadol o £500,000 (heb gynnwys TAW) a swm ariannol o £800,000, gydag F Cyf. Ceir cytundeb rhwng y ddau barti bod y tir sy'n eiddo i E Cyf, cyn y trafodiad, werth £1.3 miliwn i F Cyf. Mae TAW yn berthnasol i’r ddau blot o dir. E Cyf yw prynwr y tir sydd â gwerth marchnadol o £500,000 a TAW (cyfradd dybiedig o 20%) o £100,000. Rhaid iddo nodi hyn ar y ffurflen a thalu'r Dreth Trafodiadau Tir ar y gydnabyddiaeth o £600,000. F Cyf yw prynwr y tir lle mae’r gydnabyddiaeth a roddir yn £1.3 miliwn a TAW yn £260,000 (cyfanswm o £1,560,000). Rhaid iddo nodi cydnabyddiaeth drethadwy o £1,260,000 ar y ffurflen trafodiad tir, sy’n cynnwys gwerth marchnadol y tir (£1 miliwn) ac unrhyw TAW sy'n daladwy ar y trafodiad (£260,000).

Enghraifft 4

Mae G Cyf yn cyfnewid tir sydd â gwerth marchnadol (heb gynnwys TAW) o £1 miliwn ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, a hynny am dir sydd â gwerth marchnadol o £500,000 (heb gynnwys TAW) a swm ariannol o £200,000, gyda H Cyf. Ceir cytundeb rhwng y ddau barti bod y tir sy'n eiddo i G Cyf, cyn y trafodiad, werth £700,000 i H Cyf (efallai fod G Cyf mewn trafferthion ariannol ac yn fodlon gwerthu'n gyflym am bris sy'n is na’r gwerth marchnadol). Mae TAW yn berthnasol i’r ddau blot o dir. Mae G Cyf yn prynu tir sydd â gwerth marchnadol o £500,000 a TAW (cyfradd dybiedig o 20%) o £100,000 sy’n daladwy. Rhaid iddo nodi hyn ar y ffurflen a thalu'r Dreth Trafodiadau Tir ar gydnabyddiaeth o £600,000. Mae H Cyf yn prynu tir lle mae’r gydnabyddiaeth yn £700,000 a TAW yn £140,000. Rhaid iddo nodi cydnabyddiaeth drethadwy o £1,140,000 ar ffurflen trafodiad tir, sef gwerth marchnadol y tir (£1 miliwn) a’r TAW sy'n daladwy ar y trafodiad (£140,000).

DTTT/2360 Rhaniadau – diystyru buddiant presennol

(Atodlen 4 paragraff 6)

Os oes gan ddau berson neu ragor hawl ar y cyd i ddarn o dir a bod y tir yn cael ei ddarnddosbarthu neu'i rannu, nid yw hyn yn cael ei drin fel cyfnewid. Nid yw ildio cyfran yn un rhan o’r tir yn cael ei drin fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffael cyfran mewn rhan arall.

Mae gan drethdalwyr ‘hawl ar y cyd’ os oes ganddynt hawl lesiannol fel cyd-denantiaid neu denantiaid ar y cyd.

Dim ond pan fo'r tir yng Nghymru y mae hyn yn berthnasol; nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i unrhyw gyfran o dir yn Lloegr a roddir yn gyfnewid am dir yng Nghymru (fel rhan o raniad).

Enghraifft 1

Mae Ms A a Mr A (ei brawd) yn berchen ar fferm ar y cyd, ac mae ganddynt gyfrannau cyfartal ynddi. Maent yn penderfynu rhannu’r fferm a chytunir y bydd Ms A yn cymryd 50% o'r tir ac y bydd Mr A yn cymryd y 50% arall. Cyfanswm gwerth marchnadol y tir yw £2 miliwn.

Os yw gwerth y ddau hanner yn gyfartal, (yn y senario hwn, lle mae’r ddau 50% o'r tir sydd gan Ms A a Mr L werth £1m), ni fydd y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi.

Fodd bynnag, os yw’r tir y mae Ms A yn ei gymryd yn cynnwys y ffermdy ac adeiladau’r fferm efallai y bydd Ms A yn talu iawndal i’w brawd ar gyfer hynny.

Os yw gwerth y tir a gedwir gan Ms A £300,000 yn fwy na’r tir a gedwir gan Mr A, mae gwerth cyfran Ms A yn £1,150,000 a gwerth cyfran ei brawd yn £850,000. Mae Ms A yn cytuno i wneud iawn am hyn drwy dalu £150,000 i Mr A fel bod y rhaniad yn gyfartal. Mae'r taliad hwn o £150,000 yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y rhaniad. Bydd angen dychwelyd ffurflen Treth Trafodiadau Tir yn dangos bod y swm hwnnw’n gydnabyddiaeth drethadwy.

Enghraifft 2

Mae Ms B a Ms C yn berchen ar Eiddo D ac Eiddo E gyda'i gilydd fel tenantiaid ar y cyd. Mae gan y ddwy 50% o fuddiant ym mhob eiddo. Maent yn penderfynu rhannu eu buddiannau yn yr eiddo fel bod Ms B yn cael 100% o fuddiant yn Eiddo D, sy'n werth £500,000 a Ms C yn cael 100% o fuddiant yn Eiddo E, sy'n werth £300,000. Mae Ms B yn cytuno talu £100,000 i Ms C fel taliad cydraddoli. Mae'r taliad o £100,000 yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y rhaniad. Bydd angen dychwelyd ffurflen Treth Trafodiadau Tir yn dangos bod y swm hwnnw’n gydnabyddiaeth drethadwy.

Enghraifft 3

Mae Mr F a Mr G yn berchen ar ddau ddarn o dir ar y cyd, un yn Lloegr ac un yng Nghymru. Maen nhw’n berchen ar 50% o bob eiddo, lle mae'r cyfrannau o werth cyfartal.

Gan fod y diffiniad o ‘fuddiant trethadwy’ wedi’i gyfyngu i dir yng Nghymru, nid yw’r rheolau rhaniad yn berthnasol i unrhyw gyfran o dir yn Lloegr a ddelir gan y prynwr a roddir yn gyfnewid am dir yng Nghymru, fel rhan o raniad.

Yn y senario hwn, mae'n debygol bod y rheolau cyfnewid yn berthnasol a y byddai'r tir yn Lloegr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth am y tir yng Nghymru. Gweler ein canllaw yn DTTT/2350.

DTTT/2370 Prynu tir gyda gwaith cysylltiedig i'w wneud

Mae'r canllaw hwn yn berthnasol pan fydd y gwerthwr yn cytuno i werthu tir i'r prynwr a bod y gwerthwr hefyd yn cytuno i wneud gwaith, yn aml gwaith adeiladu, gwella neu atgyweirio, ar y tir a werthir.

Y gydnabyddiaeth drethadwy, ac eithrio fel y darperir yn benodol ar ei chyfer mewn man arall, yw unrhyw arian neu werth arian a roddir am destun y trafodiad.

Bydd ACC yn cymhwyso'r penderfyniad yn Prudential Assurance Co Ltd v IRC [1992] STC 863 er mwyn adnabod testun y trafodiad. Felly mae'r penderfyniad yn berthnasol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Rhaid i’r adnabyddiaeth o destun y trafodiad ymwneud â sylwedd masnachol y trafodiad.

Fel rheol, testun y trafodiad tir fydd y tir yn ei gyflwr ar ddyddiad y trosglwyddiad.

Enghraifft gyffredin yw pan fydd tir yn cael ei drosglwyddo gan y gwerthwr i'r prynwr ac nad yw’r gwaith ar y tir wedi dechrau neu nad yw wedi'i gwblhau ar y dyddiad hwnnw.

Pan fo’r contract ar gyfer gwerthu’r tir a’r gwaith adeiladu, yn ei hanfod, yn un fargen, fel yn achos Prudential, rhaid i gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer pob elfen o’r fargen, gan gynnwys testun y trafodiad, gael ei dosrannu'n deg ac yn rhesymol er mwyn cyrraedd y gydnabyddiaeth drethadwy at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.

Fodd bynnag mae’n bosibl y bydd achosion pan fo’r cytundeb ar gyfer gwerthu’r tir mor glwm â’r cytundeb gwaith, fel na ellir ei gwblhau’n annibynnol.

Er enghraifft, gall hyn fod yn wir lle mae'r darpariaeth yn y cytundebau'n dweud os bydd methiant yn digwydd ar un cytundeb, na ellir gorfodi'r llall.

Mewn achosion o'r fath, testun y trafodiad tir fydd y tir gyda'r gwaith i'w gwblhau.

Enghraifft 1

Mae Mrs A yn prynu darn o dir gan Gwmni B, sy’n gwmni datblygu eiddo. Ar yr un pryd, mae Mrs A a Chwmni B hefyd yn gwneud cytundeb i Gwmni B adeiladu tŷ ar y tir. Mae’r cytundeb gwerthu tir a'r cytundeb ar gyfer adeiladu tŷ’n cael eu gwneud ar yr un pryd ac maen nhw’n rhan o'r un fargen. Y cyfanswm a delir gan Mrs A yw £400,000. Nid oes unrhyw ddarpariaeth sy’n dweud os bydd methiant yn digwydd ar un cytundeb, na ellir gorfodi'r llall.

Y dyddiad y daw trosglwyddiad y tir i rym yw 30 Mehefin 2020. Ar y dyddiad hwnnw, dim ond 50% o'r gwaith adeiladu sydd wedi'i gwblhau. I ganfod y gydnabyddiaeth drethadwy at ddibenion Treth Trafodiadau Tir, rhaid dosrannu'r £400,000 ar sail gyfiawn a rhesymol rhwng y swm a roddwyd am y tir yn ei gyflwr ar ddyddiad y trosglwyddiad (sy’n cynnwys 50% o’r waith wedi’i gwblhau) a'r gwaith sy'n weddill o dan y cytundeb adeiladu tŷ.

Enghraifft 2

Mae Mrs C yn prynu darn o dir gan Gwmni D, sy’n gwmni datblygu eiddo. Ar yr un pryd, mae Mrs C a Chwmni D hefyd yn gwneud cytundeb i Gwmni D adeiladu tŷ ar y tir. Mae’r cytundeb ar gyfer gwerthu tir a'r cytundeb ar gyfer adeiladu tai yn cael eu gwneud ar yr un pryd ac maen nhw’n rhan o'r un fargen. Y cyfanswm a delir gan Mrs C yw £500,000

Yn yr achos hwn, mae darpariaeth yn y cytundeb sy’n dweud os bydd methiant yn digwydd ar un cytundeb, na ellir gorfodi'r llall. Mae hyn yn caniatáu i'r tir gael ei ail-drosglwyddo i Gwmni D pe bai methiant ac i Mrs C dderbyn ad-daliad o’i £500,000. Mae hyn yn golygu bod y cytundebau mor glwm fel na ellir cwblhau un yn annibynnol.

Yn yr achos hwn, mae'n debygol mai testun y trafodiad fydd y tir a'r tŷ sydd i'w adeiladu. Cyfanswm y gydnabyddiaeth o £500,000 fyddai'r gydnabyddiaeth y codir treth arni.

DTTT/2380 Cyflawni gwaith

(Atodlen 4 paragraff 11)

Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran ohoni ar gyfer trafodiad tir yn cynnwys prynwr yn gwneud gwaith adeiladu, gwella neu atgyweirio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, nid yw'r rhain yn gydnabyddiaeth drethadwy:

  • os cânt eu gwneud ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, ac
  • os byddant yn cael eu gwneud ar y tir sydd wedi'i gaffael (neu a fydd yn cael ei gaffael yn unol â’r trafodiad) neu ar unrhyw dir arall sydd gan y prynwr neu berson sy'n gysylltiedig ag ef, ac
  • nid yw'n un o amodau'r trafodiad bod y gwerthwr neu berson sy'n gysylltiedig ag ef yn gwneud y gwaith

Oni fodlonir yr amodau hyn, bydd y gwaith a wneir ar sail marchnad agored yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad. At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, bydd gwerth y farchnad agored yn cynnwys unrhyw swm TAW a fyddai'n daladwy ar y gwaith.

Mewn sefyllfaoedd lle mae’r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy o ran cyflawni'n sylweddol ac ar ôl cwblhau, os cafodd y gwaith ei wneud ar ôl y dyddiad dod i rym ar gyfer cyflawni’n sylweddol, ystyrir ei fod wedi'i fodloni at ddibenion cwblhau'r trafodiad (hyd yn oed os cafodd y gwaith ei ddechrau (neu ei orffen) rhwng y dyddiad cyflawni'n sylweddol a dyddiad cwblhau'r contract).

Mae rheolau arbennig yn berthnasol i drefniadau sy’n cynnwys y cyhoedd neu gyrff addysgol.

Enghraifft 1

Mae A Cyf, cwmni adeiladu, yn ymrwymo i gontract i gaffael plot o dir gan B Cyf.

Yn unol â thelerau’r contract, bydd A Cyf yn talu £1 miliwn ac yn adeiladu gweithdy newydd i B Cyf ar blot o dir sy'n eiddo i B Cyf mewn tref gyfagos.

Cost adeiladu'r gweithdy (gwerth ar y farchnad agored) yw £750,000.

Y gydnabyddiaeth drethadwy at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir yw £1,750,000 gan fod y gwaith yn cael ei wneud gan y prynwr ar dir sy'n eiddo i’r gwerthwr (felly nid yw’r holl amodau wedi'u bodloni).

Enghraifft 2

Mae C Cyf, cwmni adeiladu, yn ymrwymo i gontract i gaffael plot o dir gan Gyngor Sir am bris prynu o £5 miliwn.

Fel un o’r amodau gwerthu, rhaid i C Cyf godi canolfan hamdden i’r Cyngor ar ran o’r tir ar ôl cwblhau.

Gwerth y gwaith (gwerth ar y farchnad agored) yw £1 miliwn.

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn dal yn £5 miliwn gan fod y gwaith yn cael ei wneud ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym, ar dir sydd wedi’i gaffael gan y prynwr neu sy'n eiddo iddo, ac nid oes angen i’r gwaith gael ei wneud gan y gwerthwr.

Enghraifft 3

Mae D Cyf yn ymrwymo i gontract gydag E i brynu plot o dir rhydd-ddaliadol. Y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yw £1 miliwn.

Cyn cwblhau, mae D Cyf yn mynd ar y tir a fydd yn cael ei gaffael (o dan drwydded i feddiannu) ac yn dechrau ar y gwaith adeiladu.

Pan fydd D Cyf yn mynd ar y tir, bydd y contract wedi cael ei gyflawni’n sylweddol. Mae cyflawni’n sylweddol yn drafodiad tir hysbysadwy, a’r dyddiad mynediad yw’r dyddiad dod i rym. Rhaid i D Cyf dalu'r Dreth Trafodiadau Tir sy’n ddyledus ar y gydnabyddiaeth, sef £1 miliwn ar y pwynt hwn.

Ar ôl cwblhau, ni fydd angen dychwelyd ffurflen dreth ychwanegol oni bai y bydd unrhyw newidiadau i’r trafodiad, rhwng y cyfnod cyflawni'n sylweddol a chwblhau, sy'n effeithio ar y dreth sy'n ddyledus. Ni fydd y gwaith adeiladu’n gydnabyddiaeth drethadwy gan iddo gael ei wneud ar ôl y dyddiad dod i rym (sef y dyddiad cyflawni'n sylweddol yn yr enghraifft hon) ar dir wedi’i gaffael gan y prynwr o dan y trafodiad, ac nid gan y gwerthwr.

Os bydd angen ffurflen ar ôl cwblhau’r trafodiad, os cafodd yr amod bod y gwaith yn cael ei wneud ar ôl y dyddiad dod i rym yn cael ei bodloni ar gyfer y trafodiad tir cyntaf (cyflawni'n sylweddol), ystyrir ei bod wedi cael ei bodloni ar gyfer yr ail ffurflen hefyd.

Enghraifft 4

Mae F Cyf yn ymrwymo i gontract i werthu plot o dir rhydd-ddaliadol i rywun nad oes ganddo gysylltid ag ef, G Cyf. Mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yn £1 miliwn, ac fel un o amodau’r contract, bydd F Cyf yn cwblhau’r gwaith adeiladu ar ran G Cyf. Amcangyfrifir bod gwerth y gwaith hwn ar y farchnad yn £750,000, a G Cyf fydd yn talu am hyn.

Cyn cwblhau, mae G Cyf yn talu dros £950,000 ac mae F Cyf yn dechrau ar y gwaith adeiladu.

Nid yw’r taliad gan G Cyf yn golygu bod y contract wedi'i gyflawni'n sylweddol, gan y bydd gwerth marchnadol y gwaith adeiladu yn cael ei ystyried yn gydnabyddiaeth drethadwy. Gan fod un o amodau’r trafodiad yn dweud mai’r gwerthwr ddylai wneud y gwaith hwn, nid yw'r £950,000 yn fwy na 90% o gyfanswm y gydnabyddiaeth. Dylid anfon ffurflen i ACC ar ôl cwblhau (neu ar ôl cyflawni'n sylweddol os bydd hynny’n digwydd yn gynt) yn talu’r Dreth Trafodiadau Tir sy'n ddyledus ar y gydnabyddiaeth ariannol o £1 miliwn a’r £750 o werth marchnadol y gwaith adeiladu a gyflawnir gan F Cyf; £1,750,000 o gydnabyddiaeth drethadwy i gyd gyda’i gilydd, sef y swm a delir gan G Cyf i F Cyf. Y rheswm am hyn yw, er bod rhai o’r amodau angenrheidiol wedi'u bodloni, un o amodau’r trafodiad yw bod y gwaith yn cael ei wneud gan y gwerthwr. Felly, mae’r gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y gwaith yn rhan o’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddir ar gyfer y trafodiad tir.

DTTT/2390 Darparu gwasanaethau

(Atodlen 4 paragraff 12)

Os yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir, naill ai'n llawn neu’n rhannol, yn ymwneud â darparu gwasanaethau (ac eithrio cyflawni gwaith), bydd gwerth y gwasanaethau hynny ar y farchnad agored, gan gynnwys TAW a fyddai’n daladwy ar y gwerth hwnnw, yn gydnabyddiaeth drethadwy.

Mae rheolau arbennig yn berthnasol i drefniadau sy’n cynnwys y cyhoedd neu gyrff addysgol.

DTTT/2400 Dyled fel cydnabyddiaeth

(Atodlen 4 paragraff 8)

Os yw cydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir yn cynnwys ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus gan y gwerthwr, naill ai'n llawn neu'n rhannol, neu ysgwyddo dyled, bydd swm y ddyled sy'n cael ei had-dalu, ei gollwng neu’i hysgwyddo, yn gydnabyddiaeth drethadwy.

Os bydd y prynwr yn ysgwyddo dyled, gall hynny, mewn rhai amgylchiadau, olygu gollwng yr un ddyled honno i’r gwerthwr. Mewn achos o’r fath, ystyrir bod ysgwyddo’r ddyled ar ei phen ei hun yn gydnabyddiaeth drethadwy.

Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn ei gwneud yn glir fod y prynwr yn ysgwyddo dyled pan fydd hawliau neu atebolrwydd unrhyw barti sy'n ymwneud â’r trafodiad yn newid yng nghyswllt y ddyled. Felly mae prynwr yn ysgwyddo atebolrwydd nid yn unig pan fydd yn rhoi cyfamod personol ond hefyd pan fydd gwerthwr yn cael ei ryddhau o’i gyfamod personol, neu pan fydd y prynwr yn cytuno i indemnio’r gwerthwr am unrhyw atebolrwydd.

Os caiff eiddo ei drosglwyddo a bod dyled yn gysylltiedig, a bod y prynwr yn ysgwyddo'r atebolrwydd dros y ddyled honno i gyd neu ran ohoni naill ai cyn neu ar ôl y trosglwyddo (neu’r ddau), bydd yr eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd, bydd y ddyled a ysgwyddir yn gyfystyr â chyfran yr hyn sy'n ddyledus gan berchnogion yr eiddo. Ar gyfer cyd-denantiaid, caiff cyfran y ddyled sy'n ddyledus ei chyfrifo drwy rannu cyfanswm y ddyled â nifer y cyd-denantiaid. Ar gyfer tenantiaid ar y cyd, caiff y ddyled ei dosrannu yn unol â chyfran eu cyfrannau anrhanedig yn yr eiddo.

Er enghraifft, gallai eiddo gael ei drosglwyddo o unig berchnogaeth y gwerthwr i berchnogaeth y gwerthwr a’r prynwr ar y cyd, er enghraifft ar ôl priodi neu i’r gwrthwyneb. Mewn achos o’r fath, bydd y priod sy'n dod yn gyd-denant yn cael ei drin (gan gymryd nad oes cydnabyddiaeth arall yn cael ei rhoi) fel pe bai'n rhoi cydnabyddiaeth o 50% o’r ddyled sydd heb ei thalu ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym (hynny yw, caiff y ddyled ei rhannu rhwng y ddau gyd-denant).

Fel arfer, bydd trosglwyddai yn derbyn atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am unrhyw ddyled sy'n bodoli’n barod. Fodd bynnag, mae’r rheol sy'n ymwneud â chyfran y ddyled a ysgwyddir yn golygu mai dim ond y gyfran honno sy'n cael ei thrin fel cydnabyddiaeth drethadwy. Mae'r rheol hon yn sicrhau, er bod y ddyled yn ddyled ar y cyd ac unigol, mai dim ond am y gyfran berthnasol o’r ddyled a sefydlwyd gan eu cyfran nhw yn yr eiddo y maent yn atebol.

Enghraifft 1

Mae Mr A a Mr B mewn perthynas hirdymor. Mae'r cartref y maent yn byw ynddo yn eiddo'n gyfan gwbl i Mr A. Mae Mr A yn penderfynu ei fod yn dymuno trosglwyddo hanner yr eiddo i Mr B, fel rhodd. Felly bydd y ddau'n berchen ar gyfrannau cydradd, yn amodol ar y morgais sy'n dal mewn bod. Er bod ei fuddiant wedi’i roi iddo fel rhodd, mae Mr B wedi ysgwyddo atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am y ddyled (h.y. y ddyled i gyd o bosibl). Fodd bynnag, mae’n cael ei drin fel petai dim ond dyled sy'n gyfystyr â 50% o’r swm sy’n ddyledus ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym sydd ganddo. Y rheswm am hyn yw ei fod yn cael ei drin fel nad oedd arno ddim cyn y trafodiad ond fod arno 50% ar ôl hynny.

Enghraifft 2

Mae Miss C yn berchen ar ei chartref, sydd wedi ei forgeisio, a balans cyfredol y morgais yw £250,000. Mae Miss C a Mr D yn priodi, ac mae Miss C eisiau rhoi 50% o'i heiddo i Mr D. Er mwyn gwneud y rhodd, mae hi'n talu'r morgais presennol drwy gymryd morgais ar y cyd newydd yn enw'r ddau ohonynt, sy'n golygu bod Mr D ar y cyd ac yn unigol yn atebol am y ddyled. Wrth gymryd y morgais newydd, mae Miss C a Mr D yn penderfynu benthyg £300,000, sy'n fwy na balans y morgais gwreiddiol. Mae Mr D yn cael ei drin fel petai dim ond dyled sy'n gyfystyr â 50% o’r swm sy’n ddyledus ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym sydd ganddo (h.y. £150,000). Y rheswm am hyn yw ei fod yn cael ei drin fel nad oedd arno ddim cyn y trafodiad ond fod arno 50% ar ôl hynny.

Enghraifft 3

Mae Miss E a Mr F yn berchen ar eiddo mewn cyfrannau 70:30.

Mae’r eiddo'n cael ei drosglwyddo i unig berchnogaeth Mr F, yn amodol ar forgais sy'n dal mewn bod.

Gan gymryd fod Miss E yn cael ei rhyddhau o’r ddyled, neu fod Mr F yn cytuno i indemnio Miss E, bydd Mr F yn ysgwyddo dyled. Mae Mr F yn cael ei drin fel petai’n ysgwyddo dyled sy’n gyfystyr â 70% o’r swm sy'n ddyledus. Y rheswm am hyn yw bod Mr F yn cael ei drin fel petai 30% o’r ddyled yn ddyledus ganddo cyn y trosglwyddo, a 100% ar ôl hynny.

DTTT/2410 Trafodiad tir yr ymrwymir iddo o ganlyniad i gyflogaeth

(Atodlen 4 paragraff 13)

Pan fydd cyflogwr (fel gwerthwr) yn ymrwymo i drafodiad tir gyda chyflogai neu berson sy'n gysylltiedig â’r cyflogai hwnnw (fel prynwr), a bod trafodiad tir yn deillio o’r gyflogaeth:

  • os bydd y trafodiad tir yn darparu llety i’r cyflogai allu cyflawni ei ddyletswyddau, y gydnabyddiaeth daladwy yw unrhyw beth sy'n cael ei dalu gan y cyflogai mewn premiwm rhent neu gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad
  • os bydd y trafodiad yn arwain at godi treth o dan y rheolau buddiannau trethadwy ar gyfer treth incwm (Adrannau 105 a 106 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003) ac nad oes rhent yn daladwy gan y prynwr neu os yw’r rhent sy'n daladwy yn llai na chyfwerth ariannol y buddiant, y rhent sy'n daladwy gan y prynwr yw’r swm cyfwerth ariannol sy'n daladwy o dan y rheolau treth incwm perthnasol (Adrannau 105 a 106 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003)
  • Os nad yw’r naill na’r llall yn berthnasol, ni fydd cydnabyddiaeth drethadwy’r trafodiad yn llai na gwerth marchnadol y testun ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym

DTTT/2420 Achosion pan na fodlonir amodau ar gyfer esemptio trafodiad tir yn llawn

(Atodlen 4 paragraff 9)

Os byddai trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno oherwydd ei fod yn gydsyniad neu’n berchnogiad gan gynrychiolydd personol ond mae’r sawl sy'n caffael (y prynwr) yn rhoi cydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol ar gyfer testun y trosglwyddiad, heblaw am ysgwyddo’r ddyled sicredig ar yr eiddo, bydd y gydnabyddiaeth honno'n gydnabyddiaeth drethadwy.

Os byddai’r trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno yn sgil amrywio gwarediadau testamentaidd ac ati ond mae’r sawl sy'n caffael (y prynwr) yn rhoi cydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol ar gyfer testun y trosglwyddiad, heblaw am amrywio gwarediad arall, bydd y gydnabyddiaeth a roddir yn gydnabyddiaeth drethadwy.

DTTT/2430 Rhwymedigaethau, cytundebau a thaliadau nad ydynt yn gydnabyddiaeth drethadwy

Mae’r ddeddfwriaeth mewn perthynas â rhwymedigaethau, cytundebau a thaliadau nad ydynt yn gydnabyddiaeth drethadwy i’w gweld yn Atodlen 4 DTTT 2017 paragraffau 14 i 18.

DTTT/2430a Indemniad a roddir gan y prynwr yng nghyswllt atebolrwydd a rhwymedigaethau parhaus

(Atodlen 4 paragraff 14)

Pan fo’r prynwr yn rhoi indemniad i’r gwerthwr yng nghyswllt rhwymedigaethau parhaus yn ymwneud â’r tir (gan gynnwys cyfamodau les), ni fydd y cytundeb i roi’r indemniad nac unrhyw daliadau gwirioneddol a wnaed cyn neu ar adeg y dyddiad dod i rym, nac ar ôl y dyddiad hwnnw, yn gydnabyddiaeth drethadwy.

DTTT/2430b Prynwr yn ysgwyddo rhwymedigaeth treth etifeddiant

(Atodlen 4 paragraff 15)

Pan fydd trafodiad tir yn digwydd sydd:

  • yn drosglwyddiad gwerth o fewn adran 3 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984, neu,
  • yn warediad, y rhoddir effaith iddo gan ewyllys neu ddiewyllysedd, a 
  • bod y prynwr yn dod yn agored i dalu, yn cytuno i dalu neu’n talu mewn gwirionedd unrhyw dreth etifeddiant mewn perthynas â’r trosglwyddiad hwnnw

ni fydd dod yn agored i dalu na’r cytundeb i dalu (na thalu mewn gwirionedd) treth etifeddiant yn gydnabyddiaeth drethadwy. Mae unrhyw gydnabyddiaeth arall a roddir (er enghraifft ysgwyddo dyled neu daliad ecwiti a wneir i'r ysgutor neu fuddiolwr arall yr ewyllys) yn gydnabyddiaeth drethadwy.

DTTT/2430c Prynwyr yn agored i dreth ar enillion cyfalaf

(Atodlen 4 paragraff 16)

Pan fydd trafodiad tir yn digwydd a bydd y testun:

  • yn cael ei gaffael mewn modd ac eithrio drwy fargen a wneir hyd braich, neu
  • yn cael ei drin gan adran 18 o Ddeddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (trafodiadau rhwng personau cysylltiedig) fel pe bai wedi'i gaffael yn y modd hwnnw; a 
  • bod y prynwr yn dod yn agored i dalu, yn cytuno i dalu neu’n talu mewn gwirionedd unrhyw dreth enillion cyfalaf mewn perthynas â’r gwarediad cyfatebol

os na roddir unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy arall, ni fydd bod yn agored i dalu, y cytundeb i dalu na’r taliad treth enillion cyfalaf gwirioneddol yn gydnabyddiaeth drethadwy.

Os bydd y cytundeb ar gyfer trosglwyddo yn cynnwys cydnabyddiaeth drethadwy arall (er enghraifft, ysgwyddo dyled neu daliad sydd ddim ond yn gyfran o werth marchnadol yr eiddo), bydd bod yn agored i dalu, y cytuno i dalu neu’r taliad gwirioneddol o dreth enillion cyfalaf hefyd yn gydnabyddiaeth drethadwy.

DTTT/2430d Costau breinio

(Atodlen 4 paragraff 17)

Pan fo prynwr yn talu costau landlord yng nghyswllt rhoi, ymestyn neu ryddfreinio les o dan:

  • adran 9(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967, neu
  • adran 33 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

ni fydd y costau hynny’n gydnabyddiaeth drethadwy.

Bydd taliadau eraill a wneir ar gyfer rhoi, ymestyn neu ryddfreinio yn gydnabyddiaeth drethadwy.

DTTT/2430e Costau ac iawndal sy'n codi o dan bryniant gorfodol

Nid yw unrhyw gostau sy’n dod o dan adran 23 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965, nac unrhyw iawndal a delir am achosion o darfu neu faterion eraill nad ydynt yn uniongyrchol seiliedig ar werth y tir o dan adran 5(6) o Ddeddf Iawndal Tir 1961, yn gydnabyddiaeth drethadwy.

DTTT/2430f Trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol

(Atodlen 4 paragraff 18)

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i drefniadau penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo tir ac adeiladau, gan gynnwys trefniadau cyllido arloesol rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Yn ganolog i'r trefniant mae gwerthiant ac adles. Fodd bynnag, effaith y rheolau penodol hyn yw nad yw’r rheolau arferol ar gyfer cyfnewid yn berthnasol.

Pan fo corff cymwys:

  1. Yn trosglwyddo les, yn rhoi les neu’n aseinio les i unigolyn neu gorff anghymwys – y prif drosglwyddiad.
  2. Fel cydnabyddiaeth (yn llawn neu’n rhannol) ar gyfer les neu is-les (y cyfan, neu’r cyfan i raddau helaeth o’r hyn a drosglwyddwyd gan y corff cymwys) – yr adles.
  3. Pan fydd y person anghymwys yn cyflawni gwaith neu wasanaethau ar gyfer y corff cymwys, a.
  4. Phan fo peth o’r gydnabyddiaeth neu’r holl gydnabyddiaeth a roddir gan y corff cymwys sy’n gwneud y gwaith hwnnw neu’n darparu’r gwasanaethau hynny yn gydnabyddiaeth mewn arian.

yna, yng nghyswllt trosglwyddo gan y corff cymwys, gan gynnwys unrhyw dir dros ben (y prif drosglwyddiad), nid yw'r canlynol yn gydnabyddiaeth drethadwy:

  • yr adles
  • y gwaith neu’r gwasanaethau a wneir gan y corff anghymwys

ac, yng nghyswllt y trosglwyddo gan y person neu’r corff anghymwys (yr adles) nid yw'r canlynol chwaith yn gydnabyddiaeth drethadwy:

  • y prif drosglwyddiad
  • unrhyw drosglwyddiad o dir dros ben
  • y gydnabyddiaeth mewn arian a delir gan y corff cymwys am y gwaith neu’r gwasanaethau.

O ganlyniad, yn gyffredinol, dim ond ar y premiwm neu’r rhent a delir gan y person neu’r corff anghymwys i'r person cymwys y codir y Dreth Trafodiadau Tir yng nghyswllt y prif drosglwyddiad, ac ni fydd angen i’r corff cymwys dalu cydnabyddiaeth drethadwy am yr adles.

Ni fydd y driniaeth uchod yn newid os bydd y corff cymwys hefyd yn trosglwyddo les, yn rhoi les neu’n aseinio les, ar gyfer unrhyw dir arall i'r person neu’r corff anghymwys – y tir dros ben.

Mae’r canlynol yn gyrff cymwys at ddibenion y rheolau hyn:

  • cyrff cyhoeddus ym mharagraff 1 o Atodlen 20 DTTT neu gorff a nodwyd mewn rheoliadau o dan y paragraff hwnnw
  • sefydliadau o fewn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch o fewn ystyr adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992
  • corfforaethau addysg bellach o fewn ystyr adran 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, neu,
  • corfforaethau addysg uwch o fewn ystyr adran 90 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992

DTTT/2440 Cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod

(adrannau 19 ac 20)

Gellir gohirio cydnabyddiaeth drethadwy sy’n ddibynnol neu’n ansicr, os bydd yr holl amodau perthnasol yn cael eu bodloni. 
Cydnabyddiaeth ddibynnol

Pan fo digwyddiad dibynnol yn effeithio ar swm y gydnabyddiaeth yn y pen draw, rhaid i brynwyr gyfrifo’r gydnabyddiaeth ar y sail y bydd y swm dibynnol yn daladwy. Os mai'r digwyddiad dibynnol yw na fydd swm yn daladwy rhagor, rhaid i brynwyr dybio na fydd y swm hwnnw’n peidio â bod yn daladwy.

Felly mae digwyddiad dibynnol yn golygu mai dim ond os bydd digwyddiad penodedig yn digwydd yn y dyfodol y bydd swm yn cael ei dalu, neu, na fydd angen talu'r swm os bydd digwyddiad penodedig yn digwydd yn y dyfodol.

Cydnabyddiaeth ansicr

At ddibenion yr adran hon o’r canllawiau, mae ansicr (mewn perthynas â chydnabyddiaeth) yn golygu nad oes modd cyfrifo swm, neu werth y gydnabyddiaeth yn gywir gan ei fod yn dibynnu ar ddigwyddiadau ansicr yn y dyfodol.

Lle bo’r gydnabyddiaeth yn ansicr, mae’n rhaid i brynwyr roi amcangyfrif rhesymol o’r gydnabyddiaeth derfynol ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym.

Yn achos cydnabyddiaeth ansicr lle mae’r trethdalwr yn credu bod y tebygolrwydd o’r digwyddiad ansicr yn y dyfodol yn digwydd yn isel, bydd yn rhesymol iddynt wneud cais am ohirio swm dim efallai.

Wrth wneud cais am ohirio, dylai’r prynwr fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar log ar symiau gohiriedig sydd ar gael yn DTTT/6200.

Cydnabyddiaeth heb ei chanfod

Cydnabyddiaeth heb ei chanfod yw cydnabyddiaeth y gellir ei chanfod ond sydd heb ei chyfrifo eto. Ni ellir gohirio’r dreth mewn perthynas â chydnabyddiaeth sydd heb ei chanfod yn unig.

Os yw swm wedi’i danddatgan neu ei orddatgan yn y ffurflen a bod angen talu treth ychwanegol, neu fod angen ad-dalu’r trethdalwr, rhaid iddynt gyflwyno ffurflen arall neu wneud hawliad am ad-daliad.

Mae’r tabl canlynol yn nodi pryd y gellir gohirio treth o dan rai amgylchiadau.

Cydnabyddiaeth heb ei chanfod Cydnabyddiaeth ansicr Cydnabyddiaeth ddibynnol Gohiriadwy
Na ellir Na ellir Gellir Ydy (Enghraifft 1)
Gellir Gellir Na ellir Ydy (Enghraifft 2)
Gellir Na ellir Na ellir Nac ydy (Enghraifft 3)
Gellir Na ellir Gellir Ydy
Na ellir Gellir Na ellir Ydy

Enghraifft 1

Mae A Cyf (prynwr) yn cyfnewid contractau gyda B Cyf i brynu plot o dir am £10m, gyda £5m ychwanegol yn daladwy os bydd A Cyf yn llwyddo i gael caniatâd cynllunio o fewn y 5 mlynedd nesaf. Felly mae’r swm o £5m yn dibynnu ar ddigwyddiad yn y dyfodol (rhoi caniatâd cynllunio o fewn 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r pryniant). Mae’n rhaid i A Cyf lenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir i ddatgan cydnabyddiaeth drethadwy o £15m. Efallai y bydd A Cyf yn dewis gwneud cais i ohirio’r dreth sy'n codi mewn perthynas â swm y gydnabyddiaeth ddibynnol – £5m.

Enghraifft 2

Mae E Cyf (prynwr) yn cyfnewid contractau gyda F Cyf i brynu plot o dir am £10m yn ogystal â swm ychwanegol sy’n daladwy mewn 5 mlynedd, os bydd y prynwr yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl, yn seiliedig ar 20% o’r cynnydd yng ngwerth y tir. Mae’r swm hwn yn ansicr (oherwydd bod gwerth y gydnabyddiaeth ychwanegol yn dibynnu ar werth y tir yn y dyfodol). Gall E Cyf wneud cais i ohirio’r dreth sy’n codi mewn perthynas â swm y gydnabyddiaeth heb ei chanfod, gan fod y swm hefyd yn ansicr. Rhaid i’r swm gohiriedig fod yn amcangyfrif rhesymol o'r gydnabyddiaeth ansicr, felly os nad oes gan E Cyf unrhyw fwriad o geisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl, gall wneud cais am ohirio swm dim.

Enghraifft 3

Mae G Cyf (prynwr) yn cyfnewid contractau gyda H Cyf i brynu plot o dir am £5m, yn ogystal â 10% o elw G Cyf o’r flwyddyn ariannol flaenorol unwaith y bydd ei adroddiad blynyddol a’i gyfrifon wedi’u cyhoeddi. Nid yw swm y gydnabyddiaeth ychwanegol yn ansicr (oherwydd ei fod yn seiliedig ar weithgarwch masnachu blaenorol G Cyf, ac felly nid yw’n ddibynnol ar ddigwyddiad yn y dyfodol). Mae heb ei chanfod (cydnabyddiaeth heb ei chanfod yw cydnabyddiaeth y gellir ei chanfod ond sydd heb ei chyfrifo eto). Ni all G Cyf wneud cais i ohirio’r dreth sy’n codi mewn perthynas â swm y gydnabyddiaeth heb ei chanfod oherwydd nad yw’r swm yn ansicr. Wrth ffeilio’r ffurflen Treth Trafodiadau Tir, bydd angen i G Cyf roi amcangyfrif rhesymol o’r gydnabyddiaeth heb ei chanfod.

DTTT/2450 Blwydd-daliadau

(adran 21)

Pan fo cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir ar ffurf blwydd-dal sy'n daladwy:

  • am oes
  • am byth
  • am gyfnod amhenodol, neu
  • am gyfnod sy’n hwy na 12 mlynedd

bydd y gydnabyddiaeth drethadwy yn cael ei chymryd i fod yn daliad a wneir unwaith yn unig sy’n cynnwys taliadau 12 mlynedd. Os yw’r taliadau’n amrywio, bydd y 12 taliad mwyaf yn cael eu hystyried.

Fodd bynnag, nid yw’r swm blynyddol yn cael ei drin fel petai'n amrywio o un flwyddyn i’r llall os yw'r amrywiad hwnnw’n seiliedig ar y mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant (er enghraifft CPIH).

Pan fo’r symiau blynyddol sy’n daladwy yn ddibynnol, yn ansicr neu heb eu canfod, pennir y symiau hynny yn yr un ffordd â symiau cydnabyddiaethau eraill sy’n ddibynnol, yn ansicr neu heb eu canfod.

Dylid nodi na chaiff trethdalwr ofyn am ohirio talu treth pan fo a wnelo â chydnabyddiaeth ar ffurf blwydd-dal.

Lle mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn cynnwys:

  • blwydd-dal, a
  • chydnabyddiaeth arall ddibynnol neu ansicr (ar wahân i rent), yna

gall trethdalwr wneud cais am ohirio’r dreth ar y gydnabyddiaeth ar wahân i’r blwydd-dal. Ni fydd angen i drethdalwr lenwi ffurflen arall chwaith, ac ni fydd yn gallu hawlio ad-daliad os bydd digwyddiad dibynnol yn peidio â bod neu os nad yw’r gydnabyddiaeth wedi'i chanfod.

Rhaid llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir gan ddefnyddio swm y gydnabyddiaeth drethadwy a gyfrifwyd gan ddefnyddio'r rheolau hyn, a hynny o fewn y cyfnod ffeilio arferol (o fewn 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad i rym).

DTTT/2460 Mae’r prynwr yn gwmni cysylltiedig – rheol gwerth marchnadol tybiedig

(Adran 22) 

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i bob achos o drosglwyddo rhwng gwerthwr (boed yn unigolyn neu’n gwmni) a chwmni sy'n gysylltiedig ag ef, pan mai’r cwmni yw’r prynwr. Ni fydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trosglwyddiadau o’r fath yn llai na’r gwerth marchnadol ar ddyddiad dod i rym yr eiddo a drosglwyddwyd, p’un ai a yw’r gydnabyddiaeth (neu'r diffyg cydnabyddiaeth) yn pasio mewn gwirionedd.

Felly nid yw’r rheol sy'n dweud os na roddir cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir, mae wedi’i esemptio rhag codi’r Dreth Trafodiadau Tir arno, yn berthnasol; yn hytrach, defnyddir gwerth marchnadol y tir a'r adeiladau.

Os bydd cwmni'n caffael tir gan werthwr sy'n gysylltiedig â’r cwmni neu fod rhywfaint neu'r cyfan o’r gydnabyddiaeth yn cynnwys rhoi neu drosglwyddo cyfranddaliadau mewn cwmni y mae'r gwerthwr yn gysylltiedig ag ef (gan gynnwys y prynwr ei hun), y gydnabyddiaeth drethadwy yw:

  • gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, ac
  • os rhoi les ar rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw

Neu, os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy yn uwch na’r rheol gwerth marchnadol uchod, mae modd asesu’r gydnabyddiaeth drethadwy wirioneddol yng nghyswllt y Dreth Trafodiadau Tir yn lle hynny.

Fodd bynnag, bydd unrhyw amodau perthnasol eraill sy'n esemptio’r trafodiad rhag treth, neu unrhyw ryddhad a allai gael ei hawlio ar y trafodiad, yn dal yn berthnasol i drafodiadau lle mae’r prynwr yn gwmni cysylltiedig.

Yn ogystal, ceir rhai rheolau penodol sy'n darparu na fydd gwerth marchnadol yn cael ei osod.

Mae cwmni'n cynnwys unrhyw gorff corfforaethol (ond yng nghyswllt partneriaeth sydd hefyd yn gorff corfforaethol, bydd y rheolau ar gyfer partneriaeth yn berthnasol). Mae cyfeiriadau at gyfranddaliadau hefyd yn cynnwys stociau a gwarannau a roddir gan gwmni.

Enghraifft 1

Mae Ms A yn trosglwyddo siop rydd-ddaliadol i Y Cyf am gydnabyddiaeth o £170,000.

Er mwyn penderfynu a yw’r rheolau gwerth marchnadol yn berthnasol, bydd angen i'r prynwr (Y Cyf) bennu:

  • a yw Ms A yn gysylltiedig ag Y Cyf yn unol ag adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, ac
  • os felly, beth yw gwerth marchnadol yr eiddo a drosglwyddwyd?

Os nad yw Ms A yn gysylltiedig ag Y, y gydnabyddiaeth drethadwy fydd y swm a dalwyd, sef £170,000 ar y cyfraddau a’r bandiau sy'n berthnasol i drafodiadau ar gyfer eiddo amhreswyl ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym.

Os yw Ms A yn gysylltiedig ag Y Cyf, bydd y rheolau gwerth marchnadol yn berthnasol ac mae’n bosibl mai gwerth marchnadol yr eiddo ar y dyddiad dod i rym fydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad. Petai’r gwerth marchnadol yn £275,000, dyma fyddai’r gydnabyddiaeth drethadwy. Petai’r gwerth marchnadol yn ddim ond £150,000, byddai’r gydnabyddiaeth drethadwy yn £170,000, sef swm y gydnabyddiaeth a roddodd Y Cyf mewn gwirionedd am y siop.

Enghraifft 2

Mae Mr B yn rhoi les newydd ar gyfer eiddo amhreswyl i W Cyf fel cydnabyddiaeth ar gyfer gollwng o ddyled o £170,000 sy'n ddyledus gan Mr B.

Er mwyn penderfynu a yw’r rheolau gwerth marchnadol yn berthnasol, bydd angen i'r prynwr (W Cyf) bennu:

  • a yw Mr B yn gysylltiedig ag W Cyf yn unol ag adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, ac
  • os felly, beth yw gwey?rth marchnadol yr eiddo a drosglwyddwyd?, a
  • beth yw’r rhent sy'n daladw

Os nad yw Mr B yn gysylltiedig ag W Cyf, gwerth y ddyled a ollyngir fydd y gydnabyddiaeth drethadwy. Mae hynny’n £170,000 ar y cyfraddau a’r bandiau perthnasol ar gyfer eiddo preswyl ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, yn ogystal ag unrhyw dreth sy'n ddyledus ar werth net presennol y rhent sy’n daladwy.

Os yw Mr B yn gysylltiedig ag W Cyf, bydd y rheolau gwerth marchnadol yn berthnasol a gwerth marchnadol yr eiddo ar y dyddiad dod i rym fydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad. Petai hwn yn £275,000, dyma fyddai’r swm trethadwy, ynghyd ag unrhyw dreth sy'n ddyledus ar werth net presennol y rhent sy'n daladwy. Ond petai’r gwerth marchnadol yn ddim ond £150,000, byddai'r gydnabyddiaeth drethadwy’n gyfyngedig i'r swm hwnnw (£150,000 a’r gwerth net presennol ar y rhenti). Fodd bynnag, petai gwerth net presennol y rhenti’n llai nag £20,000 (h.y. y gwahaniaeth rhwng y gwerth marchnadol o £150,000 a’r gydnabyddiaeth o £170,000 a roddir mewn gwirionedd), byddai’r gydnabyddiaeth drethadwy yn £170,000.

Enghraifft 3

Mae T Cyf yn trosglwyddo eiddo amhreswyl rhydd-ddaliadol i U Cyf heb ddim cydnabyddiaeth.

Er mwyn penderfynu a yw’r rheolau gwerth marchnadol yn berthnasol, bydd angen i'r prynwr (U Cyf) bennu:

  • a yw T Cyf yn gysylltiedig ag U Cyf yn unol ag adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, ac
  • os felly, beth yw gwerth marchnadol yr eiddo a drosglwyddwyd?

Os nad yw T Cyf wedi'i gysylltu ag U Cyf, ni fydd cydnabyddiaeth drethadwy, ac ni fydd angen rhoi gwybod am y trafodiad tir.

Os yw T Cyf yn gysylltiedig ag U Cyf, bydd y rheolau gwerth marchnadol yn berthnasol a gwerth marchnadol yr eiddo ar y dyddiad dod i rym yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad. Petai hyn yn £275,000, dyma fyddai swm y gydnabyddiaeth drethadwy. Mewn achos o’r fath, a bod U Cyf yn yr un grŵp â T Cyf, gallai U Cyf wneud hawliad am ryddhad grŵp.

Enghraifft 4

Mae Mr C yn trosglwyddo eiddo amhreswyl rhydd-ddaliadol i R Cyf fel cydnabyddiaeth ar gyfer cyfranddaliadau newydd yng nghwmni S Cyf.

Er mwyn penderfynu a yw’r rheolau gwerth marchnadol yn berthnasol, bydd angen i'r prynwr (R Cyf) bennu:

  • a yw Mr C yn gysylltiedig ag R Cyf yn unol ag adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, ac
  • a yw Mr C yn gysylltiedig ag S Cyf yn unol ag adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, ac
  • os felly, beth yw gwerth marchnadol yr eiddo a drosglwyddwyd?

Os nad yw Mr C yn gysylltiedig ag R Cyf nac S Cyf, y gydnabyddiaeth drethadwy fydd gwerth marchnadol y cyfranddaliadau a geir ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym.

Os yw Mr C yn gysylltiedig ag R Cyf neu S Cyf, bydd y rheolau gwerth marchnadol yn berthnasol a gwerth marchnadol yr eiddo ar y dyddiad dod i rym fydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad. Dyma fydd y gydnabyddiaeth drethadwy, oni fydd gwerth marchnadol yr eiddo yn is na gwerth marchnadol y cyfranddaliadau. Os felly, y gydnabyddiaeth drethadwy fyddai gwerth marchnadol y cyfranddaliadau, a hynny ar y bandiau a’r cyfraddau priodol.

DTTT/2470 Mae’r prynwr yn gwmni cysylltiedig – eithriadau i’r rheol gwerth marchnadol tybiedig

(adran 23)

Ni fydd y rheol gwerth marchnadol tybiedig ar gyfer caffaeliadau gan gwmni cysylltiedig yn berthnasol yn unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol:

  • pan fo’r cwmni, yn syth ar ôl y trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr yng nghwrs y busnes o reoli ymddiriedolaethau (Achos 1)
  • pan fo’r cwmni, yn syth ar ôl y trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr, a dim ond yn rhinwedd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 y mae’r gwerthwr yn gysylltiedig â'r cwmni (Achos 2)
  • pan fo’r gwerthwr yn gwmni a’r trafodiad yn ddosbarthu asedau’r cwmni hwnnw (boed mewn cysylltiad â dirwyn y cwmni i ben ai peidio) ac nad yw testun y trafodiad (neu fuddiant y mae testun y trafodiad yn deillio ohono) wedi bod yn destun hawliad gan y gwerthwr am ryddhad grŵp yn ystod y tair blynedd cyn y dyddiad yr oedd y trafodiad yn dod i rym (Achos 3)

Fodd bynnag, pan fo’r rhyddhad grŵp wedi cael ei dynnu'n ôl oddi wrth y gwerthwr ar ôl yr hawliad, bydd yr eithriad i’r rheol gwerth marchnadol a ddarperir gan Achos 3 yn berthnasol. Y rheswm am hyn yw bod yr hawliad i’r rhyddhad wedi cael ei dynnu’n ôl ar ddyddiad dod i rym y trafodiad y mae’r eithriad yn berthnasol iddo.

Os yw unrhyw un o’r eithriadau hyn yn berthnasol, dim ond ar y gydnabyddiaeth drethadwy a delir y bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi.