Canllaw ar drafodiadau tir ar draws ffiniau a theitlau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2018
Diweddarwyd diwethaf:

DTTT/2060 Beth yw trafodiad Trawsffiniol?

Mae trafodiadau ‘trawsffiniol’ yn cynnwys y canlynol:- 

Trafodiadau ‘ar gyfer mwy nag un eiddo’

- sef prynu mwy nag un buddiant mewn eiddo sy'n dod o dan fwy nag un  awdurdodaeth treth, am un swm unigol o gydnabyddiaeth a gytunir, boed hynny ar ffurf un trafodiad neu gyfres o drafodiadau cysylltiedig. Nid yw tir a brynir yng Nghymru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018 wedi’i gysylltu  ag unrhyw drafodion yn rhywle arall yn y DU (nac â thrafodion yng Nghymru sy'n cael eu gwneud cyn 1 Ebrill 2018) at ddibenion treth. Er enghraifft, byddai prynu siop yng Nghaerdydd, siop yng Nghaeredin a siop ym Mryste fel rhan o un trafodiad neu gyfres o drafodiadau cysylltiedig yn cael ei ystyried yn drafodiad mwy nag un eiddo trawsffiniol oherwydd ei fod yn cynnwys eiddo sydd wedi'i leoli yn ardal dwy awdurdodaeth treth neu fwy.

Trafodiadau eiddo croes-deitl unigol

- prynu un buddiant unigol mewn eiddo sy'n cynnwys tir ar bob ochr i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, er enghraifft, cae sydd wedi’i rannu’n ddwy gan y ffin sy’n golygu bod y tir ar naill ochr y ffin a’r llall yn cydgyffwrdd ac yn terfynu â’r tir ar ochr arall y ffin. Yn aml, bydd buddiant yr eiddo wedi’i gynrychioli gan deitl unigol sydd wedi’i gofrestru â Chofrestrfa Tir EM. Cyfeirir at yr is-set hon o drafodion trawsffiniol fel trafodion croes-deitl.

Trafodion trawsffiniol - triniaeth o safbwynt treth

Yng nghyswllt y ddau fath o drafodiad trawsffiniol, mae’n rhaid dosrannu'r gydnabyddiaeth gyfan yn rhesymol ac yn deg.

DTTT/2070 Sut mae adnabod trafodiad trawsffiniol

Mewn llawer o drafodiadau sy'n ymwneud â thir mewn mwy nag un awdurdodaeth dreth, bydd yn hawdd gweld pa ddarn o dir sy’n perthyn i un awdurdodaeth a pha ddarn o dir sy’n perthyn i'r llall. Mewn sawl achos bydd teitlau ar wahân ar gyfer y tir ym mhob awdurdodaeth.

Mewn nifer fach o achosion bydd un teitl eiddo unigol sy'n cynnwys y tir ar y naill ochr a’r llall i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae Copïau Teitlau Swyddogol Cofrestrfa Tir EM yn gallu helpu cwsmeriaid i adnabod yr achosion hyn.

LTTA/2080 Sut i adnabod y ffin yn nheitlau Cofrestrfa Tir EM

Efallai y bydd y ffin wedi’i dynodi ar gynlluniau teitlau Cofrestrfa Tir EM os yw’r tir wedi’i leoli ar y ffin neu yn agos ati. Os felly, bydd wedi’i dynodi â llinell ddotiog neu â llinell doredig.  Nid yw safle’r llinell hon yn dangos yn bendant a yw’r tir yn y teitl wedi'i leoli yn rhannol neu’n gyfan gwbl yng Nghymru neu yn Lloegr. Mae’n bosibl bod ei safle o gymharu â'r ymyl goch ar y cynllun eiddo yn dangos hyn.

Fodd bynnag, ni fydd y ffin wedi’i nodi ar nifer o deitlau. Os yw teitl yn eiddo croes-deitl, bydd hyn wedi’i ddynodi gan nodiad cofrestru eiddo Rhan A, a fydd yn cynnwys y datganiad canlynol: ‘Mae’n bosibl bod y tir yn y teitl hwn wedi’i leoli’n rhannol yng Nghymru a’n rhannol yn Lloegr’. Mewn achosion o'r fath bydd angen i'r trethdalwr neu ei gynghorydd nodi ar wahân i'r teitl ble mae'r ffin ar sail resymol a theg. Yng nghyswllt y rheini sy'n agos at y ffin, ond sydd ddim yn ei chroesi, bydd y cod awdurdod lleol o gymorth i sefydlu'r awdurdodaeth dreth berthnasol.

Mewn achosion lle nad yw’r ffin wedi’i nodi ar gynllun y teitl bydd angen canfod ble mae o ffynonellau daearyddol eraill. 

MapSearch

Gall cwsmeriaid e-wasanaeth Busnes Cofrestrfa Tir EM ddefnyddio gwasanaeth MapSearch, sydd ar gael am ddim drwy borth Cofrestrfa Tir EM. Drwyddo, mae'r defnyddiwr yn gallu gwneud y canlynol:

  • cael gwybod a yw eiddo wedi'i gofrestru
  • gweld lle mae eiddo
  • cael gafael ar rif y teitl
  • gweld pwy biau'r teitl

Mae defnyddwyr yn gallu canfod ble mae'r ffin ar y teitlau hynny lle nad yw'r ffin wedi’i dynodi. Bydd y trethdalwr wedyn yn gallu canfod pa ffurflen/ffurflenni y mae angen eu llenwi a'u hanfon yn ôl. Gall y gwasanaeth hefyd helpu i ganfod sut mae'r gydnabyddiaeth wedi’i dosrannu rhwng y tir yng Nghymru a'r tir yn Lloegr ar sail resymol a theg.

Lleiniau o dir wedi’u lleoli mewn gwledydd gwahanol

Mae gan nifer fach o ddarnau o eiddo trawsffiniol leiniau o dir ar wahân sydd ddim yn gyfagos. Er enghraifft, pan fydd un llain o dir wedi’i leoli’n gyfan gwbl yn un wlad, a llain arall o dir ar wahân wedi’i leoli’n gyfan gwbl yn y wlad arall. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod os yw eiddo trawsffiniol yn cynnwys tir sydd wedi’i rannu fel hyn.

Mewn rhai trafodiadau, mae teitl yr eiddo wedi’i leoli cryn bellter o'r ffin ac felly nid yw'r ffin wedi’i dangos. Er mwyn canfod lle mae’r ffin ac ym mha awdurdodaeth/awdurdodaethau treth y mae’r tir wedi’i leoli, gallwch ddefnyddio'r canlynol:

  • tystiolaeth o'r gofrestr teitlau
  • gwybodaeth am ddaearyddiaeth y DU
  • chwiliadau awdurdodau lleol o geisiadau cynllunio

Yng nghyswllt y teitlau hynny sy'n agos at y ffin, ond sydd ddim yn ei chroesi, bydd y cod awdurdod lleol yn eich helpu i ddod o hyd i'r awdurdodaeth dreth gywir.

LTTA/2090 Rhwymedigaethau o ran llenwi a dychwelyd ffurflenni treth ar gyfer trafodiadau trawsffiniol

Yn y canlynol, tybir bod y gydnabyddiaeth sydd wedi’i dosrannu yng nghyswllt y tir ym mhob awdurdodaeth yn hysbysadwy.

Fel arfer, y pris a delir ar gyfer y trafodiad cyfan, ac nid dim ond dosraniad Cymru, yw'r gydnabyddiaeth a roddir i gyfanswm y teitl. Lle bydd y trafodiad tir yn cynnwys nifer o deitlau, dylai'r gydnabyddiaeth a roddir gynnwys yr holl deitlau a'r gydnabyddiaeth gyflawn ar gyfer yr eiddo croes-deitl.

Yng nghyswllt trafodiad mwy nag un eiddo trawsffiniol tebyg i LTTA/XXXX, sy'n ymwneud â darnau o eiddo ar wahân mewn awdurdodaethau treth gwahanol, bydd angen dosrannu'r gydnabyddiaeth gyflawn yn rhesymol ac yn deg ac:

  • Ar gyfer tir yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen llenwi ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp a’i hanfon i CThEM, gan nodi cod 6996 yn hytrach na chod yr Awdurdod Lleol
  • Yng nghyswllt tir yng Nghymru bydd angen llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir a’i hanfon i Awdurdod Cyllid Cymru, gan nodi'r cod Awdurdod Lleol perthnasol ar gyfer y tir sydd yng Nghymru a hefyd rhoi'r ateb ‘ie i'r cwestiwn trawsffiniol sy'n ymwneud â mwy nag un eiddo (y cwestiwn perthnasol ar y ffurflen yw "A yw’r trafodiad hwn yn un o nifer o drafodiadau yn rhywle arall yn y DU, ond y tu allan i Gymru?")  ac ateb ‘na’ i’r cwestiwn croes-deitl ar y ffurflen ("A yw hwn yn drafodiad tir croes-deitl Cymru-Lloegr?").
  • Mewn perthynas â thir yn yr Alban - bydd angen llenwi ffurflen Treth Tir ac Adeiladau (LBTT) a’i hanfon i Revenue Scotland (RS) gan nodi'r ateb ‘ie’ gyferbyn â'r awdurdod lleol perthnasol yn yr Alban i'r cwestiwn trawsffiniol

Yng nghyd-destun trafodiadau croes-deitl (lle mae'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn rhedeg drwy'r tir yn y trafodiad), mae'n rhaid dosrannu'r gydnabyddiaeth a roddir i'r tir yn deg ac yn rhesymol at ddibenion y trethi priodol, ac:

  • Ar gyfer tir yn Lloegr bydd angen llenwi ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) a’i hanfon i CThEM, gan nodi cod 6997 yn hytrach na chod yr Awdurdod Lleol
  • Yng nghyswllt tir yng Nghymru bydd angen llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) a’i hanfon yn ôl i Awdurdod Cyllid Cymru, gan nodi enw'r Awdurdod Lleol perthnasol ar gyfer tir sydd yng Nghymru a hefyd ateb ‘na’ i'r cwestiwn trawsffiniol sy'n ymwneud â mwy nag un eiddo ("A yw’r trafodiad hwn yn un o nifer o drafodiadau yn rhywle arall yn y DU, ond y tu allan i Gymru?") ac ateb ‘ie’ i’r cwestiwn croes-deitl ar y ffurflen ("A yw hwn yn drafodiad tir croes-deitl Cymru-Lloegr?").

Os yw'r tir wedi’i gofrestru fel teitl unigol sy’n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, bydd angen llenwi dwy ffurflen, sef un i CThEM ac un i Awdurdod Cyllid Cymru os yw'r naill drafodiad tir a'r llall yn hysbysadwy. Fodd bynnag, bydd angen gwneud cais unigol i Gofrestrfa Tir EM i gofrestru’r teitl unigol ar gyfer y tir yng Nghymru ac yn Lloegr.

Nid yw trafodion sy’n cynnwys tir ar y ddwy ochr i ffin wedi’u cysylltu at ddibenion y rheolau trafodiadau cysylltiedig yn TTT, SDLT na LBTT.

LTTA/2100 Dosrannu cydnabyddiaeth

Mae’n rhaid dosrannu'r gydnabyddiaeth gyflawn sy'n cael ei rhoi yng nghyswllt trafodiad trawsffiniol ‘ yn rhesymol ac yn deg’ er mwyn penderfynu ar y gydnabyddiaeth a fydd yn berthnasol i'r tir ym mhob awdurdodaeth treth. 

Mae'n rhaid i'r trethdalwr rannu'r gydnabyddiaeth a roddir, ar sail gwerth cymharol y tir sy’n dod o dan bob awdurdodaeth treth.  

Gall unigolyn annibynnol sy'n gymwys i wneud hynny brisio'r dosraniad neu gall y trethdalwr ei hun wneud hyn, ar sail ffeithiau perthnasol y trafodiad. Ni fyddai’n cael ei ystyried yn ddosraniad rhesymol a theg pe bai'r trethdalwr yn ceisio dyfalu beth fyddai’r ffigur cywir.   

Hefyd, nid yw'r trethdalwr yn gallu dibynnu ar gontract neu gytundeb sy’n ceisio dosrannu'r gydnabyddiaeth rhwng y tir mewn awdurdodaethau gwahanol os nad yw hyn yn adlewyrchu ffeithiau perthnasol y trafodiad.

Mae canllawiau defnyddiol ar gael ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) (er mai mewn perthynas â'r dreth enillion cyfalaf y mae'r rhain) ynghylch pa ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddosrannu gwerth neu gydnabyddiaeth rhwng elfennau gwahanol y tir.   

Mae canllawiau'r VOA ar gyfer achosion sy’n ymwneud â hawlio Rhyddhad Preswylfan Breifat (ac adran 6 (paragraffau 8.60 - 8.64 yn arbennig) yn ddefnyddiol).
gweler – 

http://app.voa.gov.uk/corporate/publications/Manuals/CapitalGainsTaxManual/sect8/b-cgt-man-s8.html#P368_29435  -

Mae'r egwyddorion sydd wedi'u sefydlu yma yn berthnasol i bob dosraniad o’r fath sy’n ofynnol ar gyfer trafodiadau trawsffiniol yng nghyswllt TTT ac SDLT.  

Fel sydd wedi’i nodi yng nghanllawiau'r VOA, mae’n bosibl na fyddai defnyddio'r darn o dir ar y teitl yn unig a dosrannu'r gydnabyddiaeth a roddir rhwng y tir yn y gwahanol awdurdodaethau treth yn arwain at gydnabyddiaeth resymol a theg. Efallai y byddai hyn yn addas ar gyfer cau heb adeiladau arno lle nad oes fawr o wahaniaeth rhwng gwerth y tir yng Nghymru a gwerth y tir yn Lloegr. Ond, pan mae adeiladau ar y tir, yna, mae’n amlwg bod y llain o dir sydd ag adeilad arno yn debygol o fod y fwy gwerthfawr na’r tir heb adeilad arno. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan mae rhan o adeilad yn dod o dan un awdurdodaeth a'r rhan arall yn dod o dan yr awdurdodaeth arall. Bydd yr adeilad, ei gyflwr a'r hyn y caiff (ac y gellir) ei ddefnyddio ar ei gyfer yn berthnasol wrth ddosrannu cydnabyddiaeth.   

Lluniwyd yr enghreifftiau sy'n dilyn mewn cydweithrediad â'r VOA. Eu bwriad yw tynnu sylw at y mathau o bethau y gallai fod angen eu hystyried wrth sefydlu dosraniad teg a rhesymol, a dangos pam fod ffeithiau bob achos yn berthnasol i'r dosraniad. Rydym yn annog pobl sydd am gael rhagor o wybodaeth am brisio i ymweld â gwefan VOA.

Enghraifft 1

Mae Mr a Mrs A yn prynu fferm sy'n cynnwys ugain o gaeau gwahanol. Mae rhai ohonynt yn cynnwys y ffermdy a nifer o adeiladau amaethyddol amrywiol. Mae wyth o'r caeau wedi’u lleoli’n gyfan gwbl yng Nghymru ac mae naw ohonynt wedi’u lleoli’n gyfan gwbl yn Lloegr. Mae'r tri chae sy'n weddill wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn Lloegr. Felly, mae’r trafodiad yn drafodiad trawsffiniol sy'n cynnwys tir sy’n cyfateb i'r disgrifiad yn LTTA/XXX - portffolio trawsffiniol a thrafodiadau croes-deitl trawsffiniol. Bydd angen dosrannu'r gydnabyddiaeth a roddir i'r trafodiad yn deg ac yn rhesymol rhwng faint sy’n cael ei roi i'r tir yng Nghymru a faint sy'n cael ei roi i'r tir yn Lloegr. Bydd angen i'r dosraniad hwn hefyd ystyried lleoliad unrhyw adeiladau a natur yr adeiladau hynny. Mae’n bosibl hefyd bod rhai darnau o'r tir yn fwy gwerthfawr oherwydd eu lleoliad, mynediad atynt, sut maent yn cael eu defnyddio neu oherwydd datblygiad (e.e. systemau draenio) a bydd angen adlewyrchu'r gwahaniaethau hyn yn y dosraniad. Os yw'r contract yn cynnwys manylion ynghylch sut y dylid rhannu'r gydnabyddiaeth ar gyfer y tir yng Nghymru a’r tir yn Lloegr, yna ni ddylid ond defnyddio’r dosraniad hwnnw os yw’n ddosraniad teg a rhesymol.

Enghraifft 2

Eiddo unigol gyda'r tŷ i gyd a'r rhan helaethaf o'r ardd wedi’u lleoli yng Nghymru (50% o arwynebedd y tir yn y buddiant sydd i’w drosglwyddo) a gweddill yr ardd (sy'n cynrychioli 50% o arwynebedd y tir yn y buddiant sydd i’w drosglwyddo) yn Lloegr. Felly mae’r eiddo yn drafodiad croes-deitl trawsffiniol). Ar sail y ffeithiau hyn, mae’n bosibl na fyddai talu 50% o'r gydnabyddiaeth yng Nghymru a 50% ohoni yn Lloegr yn ddosraniad teg a rhesymol (oni bai bod rhesymau eithriadol am hyn). Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i'r gydnabyddiaeth sy'n cael ei rhoi yng nghyswllt y tir yng Nghymru gynnwys nid yn unig y tir ei hun ond hefyd y gyfran deg a rhesymol o'r gydnabyddiaeth sy'n cael ei rhoi ar gyfer y tŷ yn ogystal.

Un ffordd bosibl o bennu dosraniad teg a rhesymol fyddai sefydlu beth fyddai cost yr eiddo heb y rhan o'r ardd sydd wedi’i lleoli yn Lloegr. Mae’n bosibl y byddai syrfëwr siartredig neu werthwr tai yn gallu darparu swm teg a rhesymol ar y sail bod y rhan o'r ardd sydd wedi’i lleoli yn Lloegr yn unig yn ychwanegu at y gydnabyddiaeth sy’n cael ei rhoi i'r eiddo i gyd gyda’i gilydd. Efallai y byddai’r syrfëwr siartredig neu'r gwerthwr tai o'r farn y byddai'r eiddo, gyda’r ardd, yn werth £300,000 ar y farchnad. Ond, heb yr ardd ‘yn Lloegr’, byddai'n werth £280,000 ar y farchnad. Felly, ar y sail hon, byddai’r gwir ddosraniad teg a rhesymol o'r gydnabyddiaeth ar gyfer yr ardd yn Lloegr yn ((300,000-280,000)/300,000) x 100 = 6.67%. Y gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer y teitl mewn gwirionedd oedd £290,000.   Wrth ddefnyddio'r dosraniad teg a rhesymol a sefydlwyd, y gydnabyddiaeth y bydd angen ei thalu at ddibenion y dreth trafodiadau tir yw £270,657 (£290,000 x 93.33%) a’r gydnabyddiaeth y byddai'n briodol i’w thalu yng nghyswllt yr SDLT yw £19,343 (£290,000 x 6.67%). Gan fod y swm sy'n berthnasol i'r SDLT yn is na’r terfyn hysbysu cyfredol (fel y mae yn Ebrill 2018), nid oes angen anfon ffurflen dreth yn ôl i CThEM (ar yr amod nad yw’r trafodiad yn gysylltiedig â thrafodiad/trafodiadau eraill a fyddai’n gwneud y trafodiad ‘Saesnig’ yn hysbysadwy).

Nid yw dosraniadau a fwriadwyd i gyfyngu gymaint â phosibl ar rwymedigaethau treth neu ffurflenni yn ddosraniadau teg a rhesymol. Wrth ddefnyddio XX5, mae’n bosibl y byddai prisiwr proffesiynol yn sefydlu bod mwy na 50% o werth y tir yng Nghymru oherwydd bod y tŷ wedi'i leoli ar yr ochr honno i'r ffin. Ond pe bai'r trethdalwr yn rhannu'r gydnabyddiaeth yn gydradd, sef bod hanner yn mynd i ACC a hanner i CThEM er mwyn manteisio i'r eithaf ar fandiau cyfradd sero'r naill gyfundrefn dreth a’r llall - a bod y ffeithiau’n dangos nad yw rhaniad o'r fath yn addas - ni fyddai hynny’n deg ac yn rhesymol a gallai arwain at gosb.      

Yn  yr un modd, os yw swm y gydnabyddiaeth a roddir yn hysbysadwy i un awdurdod treth ac yn llai neu’n ychydig yn uwch na'r lefel hysbysu perthnasol (£40,000 yng nghyswllt y ddwy dreth os yw’r hyn a brynwyd yn brif fuddiant), yna nid yw defnyddio'r ffigur o £40,000 a dim byd arall yn dderbyniol chwaith oherwydd gallai hynny arwain at dandaliad treth yn y gyfundrefn dreth arall, neu gallai olygu bod hyn yn osgoi rhwymedigaeth ffeilio yng nghyswllt un o'r awdurdodau treth. Pan osgoir rhwymedigaeth i lenwi a dychwelyd ffurflen dreth drwy ostwng y gydnabyddiaeth a allai fod yn daladwy i naill ai ACC neu CThEM, gallai hyn olygu cosb am fod yn hwyr yn ffeilio os yw'r ffurflen dreth honno, yn sgil ymholiad, yn cyrraedd yn hwyr (tudalennau cosb am wybodaeth anghywir ACC ac SDLT/CThEM).

Yn olaf, mae’n bwysig nodi bod yn rhaid i gyfanswm y symiau sy'n cael eu sefydlu drwy’r dosraniad teg a rhesymol fod yr un faint â’r gydnabyddiaeth a roddwyd mewn gwirionedd (neu, os oes yn rhaid defnyddio gwerth marchnadol yr eiddo, y gwerth marchnadol hwnnw). Yn ogystal, rhaid defnyddio sail gyson wrth brisio bob rhan o'r trafodiad tir sy’n berthnasol i'r naill awdurdodaeth dreth a’r llall. Er enghraifft, os sefydlir y dosraniad drwy ddefnyddio gwerth y tir yng Nghymru a Lloegr ar y farchnad agored (dyweder £200,000 a £50,000 yn y drefn honno) ond y rhoddir cydnabyddiaeth o £270,000 (hynny yw, £20,000 yn fwy na’r prisiadau perthnasol ar y farchnad agored) yna mae’n rhaid i'r gydnabyddiaeth a roddir yng nghyswllt y ddau gyfateb i £270,000. Byddai dosraniad o £216,000 a £54,000 (cyfanswm o £270,00) yn deg ac yn rhesymol gan ei fod yn adlewyrchu'r rhaniad 80/20 a bennwyd ar gyfer gwerth y tir yng Nghymru a’r tir yn Lloegr ar y farchnad agored. Fodd bynnag, ni fyddai’n dderbyniol talu £200,000 a £50,000 yn unig i'r ddwy awdurdodaeth dreth (ac eithrio mewn achosion penodol pan fod yn rhaid defnyddio’r gwerth ar y farchnad agored er enghraifft y rheolau gwerth marchnadol tybiedig sy'n berthnasol i achosion pan mae'r prynwr yn gwmni a bod y gwerthwr yn gysylltiedig â'r cwmni.

LTTA/2110 Ymholiadau i ddosraniad teg a rhesymol trethdalwr

Pan mae’n ofynnol i drethdalwr wneud dosraniad teg a rhesymol o'r gydnabyddiaeth a dalwyd rhwng tir yng Nghymru a thir yn Lloegr neu yn rhywle arall, o dan y rheolau arferol sy'n berthnasol i ddechrau ymholiad neu wneud dyfarniadau neu asesiadau ymchwiliol, mae’n bosibl y bydd ACC, CThEM neu Revenue Scotland yn herio’r taliadau a wnaed iddynt. Wrth herio'r taliad a wnaed, bydd ACC yn ymdrechu i ddod i gytundeb ynghylch y dosraniad gydag awdurdodau treth eraill, mewn cysylltiad â'r trethdalwr.

Bydd yr ymholiad yn edrych ar ddosraniad y gydnabyddiaeth er mwyn sefydlu ar ba sail y gwnaed y dosraniad. Os nad oes tystiolaeth o'r dosraniad teg a rhesymol a ddefnyddiwyd ar gael neu os yw’r dystiolaeth honno’n ymddangos yn afresymol, mae’n bosibl y bydd yr awdurdod treth a ysgogodd yr ymholiad yn gofyn i'r VOA sefydlu'r dosraniad teg a rhesymol ar gyfer y gydnabyddiaeth yng nghyswllt y taliadau perthnasol. Os bydd hyn yn digwydd, bydd ACC, CThEM a Revenue Scotland yn derbyn penderfyniad y VOA.

Gall y naill awdurdod treth neu'r llall ofyn i'r VOA bennu dosraniad heb ei drafod neu ddosraniad drwy drafodaeth.   

Os derbynnir dosraniad trethdalwr, caiff yr ymholiad ei derfynu ac ni fydd angen cymryd dim camau pellach.  

Os bydd dosraniad sydd heb ei drafod yn wahanol i un y trethdalwr a bod yr awdurdod treth a ysgogodd yr ymholiad yn penderfynu nad yw am fynd ar ôl y mater (efallai oherwydd bod y gwahaniaeth yng nghanlyniadau'r dosraniad ond yn golygu addasiad ymylol i'r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus neu i'r dreth sy'n daladwy) efallai y bydd yn penderfynu terfynu'r ymholiad drwy dderbyn dosraniad y trethdalwr. Os bydd yr addasiad yn sylweddol, bydd yr awdurdod treth perthnasol yn ceisio cytundeb y trethdalwr i'r dosraniad teg a rhesymol y mae’n ei gynnig.  

Os sefydlir dosraniad drwy drafodaeth, dylid setlo'r ymholiad ar y sail honno (wedi i'r VOA a'r trethdalwr gytuno i'r dosraniad).   

Efallai y bydd achosion yn codi pan nad yw’r trethdalwr a’r awdurdod treth yn gallu setlo'r achos drwy gytundeb oherwydd nad ydynt yn gallu cytuno ar ddosraniad teg a rhesymol. Mewn achosion o'r fath, bydd yr ymholiad yn cael ei derfynu ar sail dosraniad y VOA. Efallai y bydd y trethdalwr yn dewis arfer ei hawl i gael adolygiad neu i apelio. Yn ystod unrhyw apêl, mae’n bosibl y bydd angen i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf neu'r Uwch Dribiwnlys (y Siambr Treth) gyfeirio’r mater o ddosraniad at sylw’r Uwch Dribiwnlys (y Siambr Tiroedd). Cyn gynted ag y ceir penderfyniad ynghylch y dosraniad sy'n briodol bydd yr apêl yn cael ei chyfeirio’n ôl at y Tribiwnlys Trethi os nad oes modd dod cael cytundeb ymlaen llaw rhwng y trethdalwr a'r awdurdod treth perthnasol.

Os oes treth ychwanegol yn daladwy o ganlyniad i'r ymholiad ac os canfyddir nad yw dosraniad gwreiddiol y gydnabyddiaeth yn deg ac yn rhesymol, mae’n bosibl y ceisir cosb ar sail gwybodaeth anghywir yn y ffurflen.  

Pan fydd yr atebolrwydd treth ar gyfer y ffurflen oedd yn destun yr ymholiad yn derfynol, bydd y trethdalwr yn gallu addasu'r gydnabyddiaeth sy'n daladwy drwy ddiwygio'r ffurflen dreth a anfonwyd i'r awdurdodaeth treth arall (os yw hynny o fewn y cyfyngiadau amser a bennwyd ar gyfer diwygiadau o'r fath gan y cyfundrefnau dan sylw). Fel arall, gall y trethdalwr wneud hawliad i’r awdurdod treth sydd ddim yn gwneud yr ymholiad am ad-daliad os yw hynny’n briodol o dan adran 63 DCRhT 2016 yng nghyswllt y dreth trafodiadau tir neu o dan baragraff 34 o Atodlen 10 i Ddeddf Cyllid 2003 (‘DC 2003’) yng nghyswllt SDLT. Wrth wneud hawliad, dylai'r trethdalwr gynnwys y llythyr oedd wedi terfynu'r ymholiad, setlo'r apêl drwy gytundeb, neu sy'n nodi penderfyniad y Tribiwnlys Trethi.   

Fodd bynnag, bydd angen i'r trethdalwr gydymffurfio o hyd â gofynion adran 67 DCRhT 2016 a pharagraff 34A o Atodlen 10 i DC 2003. Yn benodol, dylid ystyried Achos2/Achos B ac Achos 3/Achos C yn hyn o beth:  

  • Dylai Achos 2/Achos B sicrhau bod y trethdalwr yn diwygio ei ffurflen dreth os oes modd cyn gwneud hawliad o dan y darpariaethau hyn; a
  • Bydd Achos 3/Achos C yn arwain at wrthod rhoi ad-daliad os yw’r trethdalwr wedi oedi cyn gwneud yr hawliad pan oedd ganddo amser i ddiwygio ei ffurflen.

Yng nghyswllt y sefyllfa yn Achos 3/Achos C, os bydd trethdalwr yn gwneud hawliad cyn pen tri mis ar ôl i'r awdurdod treth arall ddirwyn yr ymholiad i ben, bydd ACC a CThEM yn ystyried bod yr hawliad wedi'i wneud o fewn cyfnod priodol o amser ac ni fyddant yn gwrthod yr hawliad.

LTTA/2120 Cofrestru teitl yn y Cofrestrfeydd Tir

Mae perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr yn cael ei gofrestru gan Gofrestra Tir EM.

Mae perchnogaeth tir ac eiddo yn yr Alban yn cael ei gofrestru gan Gofrestrau'r Alban.

Mae perchnogaeth tir ac eiddo yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei gofrestru gan y Gwasanaethau Tir ac Eiddo.

Ym mhob achos, mae cofrestru trafodiadau hysbysadwy yn amodol ar gael cadarnhad bod ffurflen dreth SDLT/TTT/ LBTT ar gyfer y trafodiad wedi cael ei llenwi, fel sy'n briodol, a’i hanfon yn ôl i’r awdurdod treth perthnasol.

Yng nghyswllt trafodiadau ar neu ar ôl 1af Ebrill 2018 sy'n cynnwys tir yng Nghymru ac yn Lloegr, bydd yn bosibl i'r trethdalwr wneud cais unigol am gofrestriad i Gofrestrfa Tir EM o hyd.  Pan fydd y naill drafodiad a'r llall yn hysbysadwy i'r awdurdodaethau treth perthnasol, bydd angen i bob cais unigol gynnwys tystiolaeth, ar ffurf tystysgrif TTT a thystysgrif SDLT, bod y ffurflenni treth perthnasol wedi cael eu llenwi a’u hanfon yn ôl.

Bydd achosion pan fydd trafodiad trawsffiniol yn cynnwys tir yng Nghymru neu yn Lloegr sy'n hysbysadwy i naill ai ACC neu CThEM (neu, o bosibl, y ddau).  Mewn achosion o'r fath, bydd angen i'r trethdalwr hysbysu Cofrestrfa Tir EM wrth anfon y ffurflenni trosglwyddo perthnasol i mewn mai dim ond un dystysgrif sydd ar gael (neu nad oes dim tystysgrifau ar gael) oherwydd nad yw’r gydnabyddiaeth a roddwyd yng nghyswllt y tir yn un wlad, neu yn y ddwy awdurdodaeth treth, yn hysbysadwy i un awdurdodaeth treth, neu'r ddwy.

Mae rhai teitlau cofrestredig (tua 1,000) yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr. Yng nghyswllt tua hanner y teitlau trawsffiniol hyn, dim ond darn bach iawn o dir sydd yn un wlad, gyda’r mwyafrif helaeth o'r tir wedi’i leoli yn y wlad arall (efallai oherwydd goddefiannau mapio). Yn yr achosion hyn, dylid dosrannu cydnabyddiaeth ar sail deg a rhesymol fel arfer. Os gwelir, ar y sail hon, bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y rhan lleiaf yn fach iawn neu'n is na’r terfyn hysbysu, yna dylid rhoi gwybod i Gofrestrfa Tir EM yn yr un modd ag y gwneir yng nghyswllt unrhyw drafodiad tir arall nad yw’n hysbysadwy at ddibenion SDLT neu TTT.

Enghraifft 1

Mae trethdalwr yn prynu hanner hectar o dir moel ar sail ‘gwerth gobaith’ y bydd cais cynllunio am newid defnydd o ddefnydd amaethyddol i ddefnydd preswyl yn llwyddiannus. £10,000 yw gwerth y tir fel tir amaethyddol. Ond, gyda'r gobaith o gais cynllunio llwyddiannus, y gydnabyddiaeth a roddir yw £200,000. Mae dogfennau’r teitl yn dangos bod tua 1% o'r tir (yn ôl arwynebedd a gwerth) yng Nghymru. Os yw’r tir sydd yng Nghymru wedi'i wahanu oddi wrth brif ran y tir gan nant sy'n dynodi'r ffin er enghraifft, mae’n bosibl y byddai gwerth y tir yng Nghymru, ar sail deg a rhesymol, yn anwybyddadwy oherwydd ei fod yn ddarn bach iawn o dir wedi'i wahanu oddi wrth y rhan fwyaf o'r tir gan ddŵr ac nad oes modd cael mynediad iddo dros dir uwchben y dŵr sydd o dan berchnogaeth gyffredin (neu y bwriedir ei gaffael). Yn yr enghraifft hon, bydd angen anfon tystysgrif SDLT5 gyda dogfen drosglwyddo Cofrestrfa Tir EM ynghyd â llythyr yn egluro bod y gydnabyddiaeth ar gyfer yr elfen o'r trafodiad tir sy'n berthnasol i Gymru yn anwybyddadwy ac nad oedd yn hysbysadwy yng Nghymru, ac felly nid oes tystysgrif ACC ar gael.

Enghraifft 2

Mae trethdalwr yn prynu tir wedi'i gofrestru dan deitl unigol sy'n mesur 200 hectar. Mae 1% o'r tir yng Nghymru. Yn yr achos hwn, er mai dim ond 1% o'r tir sydd yng Nghymru, sy’n gyfran fach mewn termau cymharol, mewn gwirionedd, mae'r tir sydd yng Nghymru yn arwyddocaol mewn termau absoliwt - mae’n cyfateb i 2 hectar. Bydd angen dosrannu'r gydnabyddiaeth a roddir i’r tir rhwng Cymru a Lloegr ar sail deg a rhesymol. Bydd pa un a fydd angen hysbysu'r TTT o'r trafodiad ai peidio yn dibynnu ar faint o gydnabyddiaeth a roddir i Gymru.

Enghraifft 3

Mae'r sefyllfa yma yn debyg i'r un yn enghraifft 1. Ond, nid 'gwerth gobaith’ sy'n pennu swm y gydnabyddiaeth yma ond, yn hytrach, yr hawliau pysgota sy’n dod gyda'r tir. Mae'r hawliau pysgota yn berthnasol i ddwy ochr yr afon. Yn yr achos hwn, er mai dim ond rhan fach o'r tir sydd yng Nghymru, mae ei werth bron gymaint â gwerth y tir yn Lloegr oherwydd bod hawliau pysgota ar ddwy lan yr afon. A chymryd bod dwy lan yr afon yr un hyd (a bod yr hawliau pysgota yn cyfateb i'r hyd hwnnw) bydd angen rhannu'r gydnabyddiaeth yn fwy cydradd na drwy gymharu'r tir yn y naill awdurdodaeth treth a'r llall yn unig. Bydd angen llenwi ac anfon ffurflenni treth i'r SDLT ac i'r TTT os yw’r gydnabyddiaeth sy'n cael ei dosrannu i bob rhan o’r tir yn uwch na’r terfyn hysbysu a bydd angen dangos y tystysgrifau perthnasol i'r Gofrestrfa Tir yng nghyswllt y ddau gais.