Canllawiau statudol ar ddemocratiaeth o fewn prif gynghorau - Rhan 1: am y canllawiau hyn
Yn esbonio’r hyn y mae’n rhaid i (brif) gynghorau bwrdeistref sirol ei wneud i fodloni’r gyfraith berthnasol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben y canllawiau hyn
Canllawiau statudol wedi’u cydgrynhoi yw’r rhain, a’u bwriad yw cynorthwyo prif gynghorau i fodloni'r gofynion o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Trefn y canllawiau hyn
Mae'r canllawiau hyn cynnwys 4 rhan fel y nodir isod:
- Rhan 1: y canllawiau hyn
- Rhan 2: canllawiau ar gymorth, hyfforddiant a datblygiad aelodau etholedig
- Rhan 3: canllawiau ar strategaethau cyfranogiad y cyhoedd a chynlluniau deisebau
- Rhan 4: canllawiau ar gyfansoddiadau, gweithrediaethau, craffu, pwyllgorau llywodraethu ac archwilio, a chynnal cyfarfodydd
Terminoleg
At ddibenion y canllawiau hyn, dylid ystyried bod y termau Prif Gyngor ac Awdurdod Lleol yn golygu Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol.