Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a rhanddeiliaid eraill ar sut i ddilyn canllawiau NICE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Rydym yn cydweithio â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) er mwyn gwella ansawdd mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gennym gytundeb bod holl ganllawiau a safonau ansawdd NICE ar gael i’w defnyddio yng Nghymru. Ac eithrio canllawiau arfarnu technoleg, nid yw eu defnydd yn orfodol.

Mae holl ganllawiau NICE a ddefnyddir yng Nghymru yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Cymru.[troednodyn 1]

Mae canllawiau NICE yn cynnwys:

  • canllawiau NICE
  • canllawiau arfarnu technoleg (TAGs)
  • canllawiau diagnosteg
  • canllawiau technolegau meddygol
  • canllawiau gweithdrefnau ymyriadol
  • canllawiau technolegau arbenigol iawn

Rhaid i’r TAG fod ar gael o fewn 60 diwrnod calendr ar ôl i’r drafft canllaw terfynol (FDG) gael ei gyhoeddi gyntaf. Rydym yn darparu Cronfa Triniaethau Newydd i helpu'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau i gyflawni hyn.

Mae’r safonau yn amlinellu’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol. Nid ydynt yn orfodol, ond dylid eu defnyddio i gynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau’r gofal gorau posibl.

Beth dylai byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol ei wneud i sicrhau’r defnydd gorau o ganllawiau NICE a safonau ansawdd

Er mwyn ein cynorthwyo i wella gwasanaethau a chefnogi ein cynlluniau hirdymor, disgwylir bod byrddau iechyd, awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau yn: 

  • datblygu systemau a phrosesau ar gyfer rhannu, gweithredu ac asesu risg yn erbyn safonau ansawdd a chanllawiau NICE 
  • nodi unrhyw fylchau a'r camau y mae angen eu cymryd i wella ansawdd y gwasanaethau 
  • rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru bod canllawiau NICE wedi cael eu hystyried, lle bo gofyn 
  • sicrhau bod meddyginiaethau newydd a argymhellir ar gael o fewn 60 diwrnod calendr i'r FAD
  • rhoi gwybod am yr amser mae'n ei gymryd i roi meddyginiaethau a argymhellir gan ganllawiau arfarnu technoleg NICE ar restrau rhagnodi 
  • cofrestru fel rhanddeiliaid a rhoi barn ar ganllawiau sy’n cael eu datblygu

Mae NICE wedi penodi hwylusydd gweithredu sy’n gweithio yng Nghymru i ymgysylltu â sefydliadau partner allweddol. Byddant yn cefnogi timau yng Nghymru i wneud y defnydd gorau o gynhyrchion NICE i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel

Cysylltwch â NICEfieldteam@nice.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Troednodiadau

[1] Fel Corff Cyhoeddus Anadrannol Saesneg sy'n atebol i'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn Llywodraeth y DU, nid yw Safonau'r Gymraeg yn berthnasol i NICE a chynhyrchion NICE. Pan ddefnyddir cynhyrchion NICE, ni ddisgwylir i sefydliadau yng Nghymru ddarparu cyfieithiad Cymraeg ohonynt.