Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar ddarparu cyngor a gwybodaeth

Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd da i wybodaeth a chyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion, rhaid i’r wybodaeth a’r cyngor fod yn hawdd cael gafael arnynt, a rhaid i’r awdurdod lleol eu diweddaru’n rheolaidd. Gallai hyn gynnwys cyhoeddi gwybodaeth ar wefan yr awdurdod lleol, darparu posteri mewn ysgolion neu ddosbarthu taflenni mewn cyfarfodydd.   

Dylid ysgrifennu’r wybodaeth a’r cyngor mewn ffordd briodol sy’n ddealladwy i bawb. Er enghraifft, dylai awdurdodau lleol ddefnyddio Cymraeg a Saesneg clir, osgoi defnyddio jargon diangen a chreu fersiynau eraill (er enghraifft, fersiynau hawdd eu deall/fersiynau plant, Braille neu ieithoedd neu fformatiau eraill).

Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu cyflawni ei ddyletswyddau o ran darparu cyngor a gwybodaeth am wahaniaethu ar sail anabledd drwy gontractio darparwr gwasanaeth allanol, dylai:

  • fod yn dryloyw ynghylch pwy sy’n darparu’r gwasanaeth ar ei ran
  • pennu a monitro safon[1] gyffredinol y gwasanaeth
  • sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol ar waith ar gyfer y gwasanaeth

[1] Gweler y Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer Cymru

 

Canllawiau ar ddatrys anghytundebau

Dylid codi anghytundebau sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd cyn gynted â phosibl er mwyn eu datrys mor fuan ag y bo modd.

Yn y lle cyntaf, dylid cefnogi’r plentyn (neu’r cyfaill achos) (gan athrawon, y CADY ac ati) i godi ei bryderon ar y lefel leol fwyaf addas, gan barchu anghenion cyfathrebu’r plentyn.

Dylai’r wybodaeth am drefniadau i osgoi a datrys anghytundeb gynnwys sut i gael mynediad at y trefniadau hynny, megis darparu enw, pwynt cyswllt, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost, ynghyd â’r camau nesaf disgwyliedig. Dylai’r wybodaeth esbonio hefyd y gwahaniaeth rhwng datrys anghytundeb ar lefel leol a gwneud hawliad ffurfiol ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd ar lefel Tribiwnlys.

Dylai’r trefniadau helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng y partïon ac osgoi anghytundebau drwy:

  • gefnogi’r plentyn (neu’r cyfaill achos) a gweithwyr proffesiynol, fel y bo’n briodol, i gael yr un wybodaeth o’r un ffynhonnell ddibynadwy
  • rhoi sicrwydd i’r plentyn y bydd unrhyw drafodaethau a phenderfyniadau yn rhoi’r lle canolog i’w anghenion ef, ac y bydd yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen
  • gwella’r cyfathrebu a meithrin ymddiriedaeth rhwng y partïon i greu amgylchedd lle caiff y plentyn ei drin fel partner yn y broses, a lle rhoddir sylw i bryderon drwy ddeialog agored ac adeiladol mewn ffordd sy’n gefnogol, yn hwylus ac yn addas i’r plentyn
  • rhoi sicrwydd i’r partïon bod y rheini sy’n ymwneud â’r weithdrefn yn ddiduedd
  • sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu hesbonio mewn ffordd sy’n ddealladwy i’r plentyn
  • esbonio’r penderfyniadau a gymerir a’r rhesymau drostynt, ac annog y plentyn i holi cwestiynau ynghylch y penderfyniadau, a’i gyfeirio at wasanaethau eirioli annibynnol fel y bo’n ofynnol
  • darparu cyfle cynnar i drafod penderfyniadau, sy’n allweddol i osgoi anghydfodau a sicrhau bod materion yn cael eu codi ac yn cael sylw yn brydlon

Pan fydd plentyn yn penderfynu defnyddio’r trefniadau datrys anghytundeb, dylai’r partïon drefnu i gyfarfod ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i bawb, a dylid cadw’r sianeli cyfathrebu ar agor, gan ymateb yn brydlon i unrhyw geisiadau. Dylid trefnu hyn cyn gynted â phosibl er mwyn datrys y mater yn brydlon.

Canllawiau ar gyfeillion achos

Mae cyfeillion achos yn sicrhau cynrychiolaeth a llais i blant sydd am ddwyn eu hachos eu hunain, ond nad yw eu rhieni, er enghraifft, yn gallu ei ddwyn efallai, a mynd ati i ddatrys anghydfod neu hawliad ar lefel Tribiwnlys.

Bydd cyfeillion achos yn gwrando ar y plentyn ac yn gweithio gydag ef i sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei gynrychioli bob amser wrth i benderfyniadau gael eu gwneud sy’n effeithio arno.

Mae cyfeillion achos yn wahanol i eiriolwyr annibynnol am eu bod yn arfer hawliau’r plentyn ar ei ran, lle mae eiriolwyr annibynnol yn cynnig cyngor, cymorth a chynrychiolaeth i’r plentyn (gweler isod).

Os bydd anghytundeb yn cyrraedd lefel Tribiwnlys, gall cyfeillion achos gefnogi’r plentyn drwy’r broses hawlio ac yn ystod y gwrandawiad ei hun.

Dim ond drwy orchymyn y Tribiwnlys y gellir penodi neu gael gwared ar gyfeillion achos. Caiff y Tribiwnlys benodi cyfaill achos ar ei liwt ei hun neu yn sgil cais[2] person arall.

[2] Gweler gwefan Tribiwnlys Addysg Cymru i gael gwybod mwy

Canllawiau ar wasanaethau eirioli annibynnol

Er bod gan blant yr hawl i ofyn am wasanaeth eirioli, rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i gynnig eiriolwr ar bob cyfle priodol. Dylid rhoi gwybod i’r plentyn bod eiriolwyr yn annibynnol ar yr awdurdod lleol, a bod eu gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim. Os gwrthodir y cynnig i ddechrau, dylid parhau i’w gynnig yn rheolaidd neu pryd bynnag y bo angen. Dylai fod gan y staff y sgiliau addas i nodi’r plant hynny a fyddai’n elwa ar gael eiriolwr.

Dylai’r ysgolion a’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i helpu’r eiriolwr i gyflawni ei rôl, er enghraifft, lle bo’n briodol, gan roi gwybod i asiantaethau eraill bod eiriolwr yn cefnogi’r plentyn, ac os yw’n briodol, darparu gwybodaeth berthnasol. Dylai’r personau perthnasol gydnabod hawl y plentyn i eiriolaeth a rôl yr eiriolwr wrth gefnogi a chynrychioli’r plentyn.

Yr arfer cyfredol yng Nghymru yw sicrhau annibyniaeth drwy gomisiynu gwasanaethau eirioli gan ddarparwr allanol. Er mwyn cynnal annibyniaeth yr eiriolaeth, dylid cyllido a rheoli’r gwasanaethau eirioli mewn ffordd sy’n sicrhau annibyniaeth ar y corff comisiynu. Dylai comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau sicrhau bod unrhyw feysydd her a gwrthdaro yn dryloyw ac yn glir, a bod y cytundeb lefel gwasanaeth rhwng y comisiynydd a darparwr y gwasanaethau yn nodi’r meysydd hynny ac yn rhoi sylw iddynt.

Os darperir gwasanaeth eirioli o dan ddeddfwriaeth arall, dylai’r awdurdod lleol ystyried defnyddio’r un eiriolwr i ymgymryd â’r ddwy rôl eirioli. Gallai hyn sicrhau gwell dilyniant o safbwynt anghenion eiriolaeth yr unigolyn, a lleihau’r angen i’r unigolyn ailadrodd ei brofiadau a’r hyn y mae am ei gyflawni i wahanol eiriolwyr. Lle bynnag y bo modd, dylai’r partïon geisio cytuno ar un eiriolwr i gefnogi’r person.