Canllawiau rheoli ansawdd aer lleol a rheoli mwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ddiweddariadau arfaethedig i'r canllawiau Rheoli Ansawdd Aer Lleol a'r canllawiau Rheoli Mwg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae hyn yn dilyn cyflwyniad Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Sut i ymateb
Ymatebion i hyn erbyn 07 Mawrth 2025 fan bellaf.
e-bost: polisiansawddaer@llyw.cymru
Y Polisi Ansawdd Aer
Is-adran Diogelu'r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau o’r ddogfen hon ar gael mewn print bras, mewn Braille ac mewn ieithoedd eraill ar gais.
Gellir cael gafael ar y dogfennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru
yn llyw.cymru/ymgynghoriadau
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: https://www.gov.wales/local-air-quality-management-and-smoke-control-guidance
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych chi fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â hwy neu'n cynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Ar gyfer ymgynghoriadau ar y cyd gall hyn gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill hefyd. Lle mae Llywodraeth Cymru’n cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i'r ymgynghoriad yna gall y gwaith hwn gael ei gomisiynu i'w wneud gan drydydd parti achrededig (e.e sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond dan gontract y bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu a diogelu data personol.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer mae enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) y person neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Yna byddwn yn golygu eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb. Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd dim o'ch data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, a’i weld
- i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Lle rydym ni arni nawr?
Derbyniodd Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 ('Deddf 2024') Gydsyniad Brenhinol ym mis Chwefror 2024 ac mae yn ei chyfnod gweithredu ar hyn o bryd. Mae Deddf 2024 yn adeiladu ar ddeddfwriaeth a pholisïau presennol, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd 1995 a'r Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach, a'i nod yw gwella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'r economi. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, cyfeirir at bob cyfeiriad at y ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddf 2024 a Deddf yr Amgylchedd 1995 fel 'y ddeddfwriaeth’.
Beth yw’r problemau?
Unwaith y bydd y darpariaethau perthnasol, adran 16, 17 a 18, o Ddeddf 2024 wedi'u cychwyn, bydd y canllawiau presennol i gefnogi Awdurdodau Lleol i gyflawni eu dyletswyddau wedi dyddio. Os byddwn yn cychwyn y darpariaethau heb ddiweddaru'r canllawiau, gallai hyn achosi dryswch ac anghysondeb yn y lle cyntaf wrth orfodi deddfwriaeth newydd, gan y gallai Awdurdodau Lleol ddibynnu ar wybodaeth sydd wedi dyddio nad yw'n adlewyrchu'r gofynion cyfreithiol diweddaraf.
Yn ail, efallai na fydd canllawiau sydd wedi dyddio yn mynd i'r afael â materion ansawdd aer a seinwedd newydd, gan adael Awdurdodau Lleol heb y gallu i reoli'r heriau hyn yn effeithiol.
Yn olaf, gall danseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y fframwaith rheoleiddio. Felly, mae'n hanfodol sicrhau bod dogfennau cyfarwyddyd yn cael eu diweddaru'n rheolaidd i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth gyfredol ac arferion gorau.
Sut ydym ni'n rheoli'r materion hyn?
Rydym yn adolygu'r canllawiau ar reoli mwg a Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol i rwymedigaethau Awdurdodau Lleol fel y gall Awdurdodau Lleol gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf 2024 yn effeithiol.
Rheoli Mwg
Ar ôl eu cychwyn, bydd y darpariaethau a wneir yn Neddf 2024 yn diwygio Deddf Aer Glân 1993 i gryfhau'r ddeddfwriaeth rheoli mwg bresennol. Ar hyn o bryd mae pedair ardal rheoli mwg yng Nghymru, mewn rhannau o Sir y Fflint, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.
O dan Ddeddf Aer Glân 1993, mae'n drosedd allyrru mwg gweladwy o simnai a phrynu neu werthu tanwydd anawdurdodedig mewn ardal rheoli mwg. Bydd y diwygiadau hyn yn newid y ffordd y byddai achosion o dorri'r gwaharddiad ar allyrru mwg o simneiau mewn ardaloedd rheoli mwg yn cael eu gorfodi, ond gan gadw'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â thorri'r gwaharddiad ar gaffael neu werthu tanwydd solet heb ei awdurdodi.
Ar hyn o bryd mae'r tramgwyddau hyn yn cael eu gorfodi gan ddefnyddio'r gyfraith droseddol yn unig. Ar ôl eu cychwyn, bydd y diwygiadau a wneir gan Ddeddf 2024 i Ddeddf Aer Glân 1993 yn:
- rhoi'r pŵer i Awdurdodau Lleol roi cosbau sifil mewn perthynas ag allyrru mwg, felly byddai gorfodi'r gwaharddiad yn fater sifil, ond
- cadw gydag addasiadau y sefyllfa bresennol o ran caffael neu werthu tanwydd solet heb ei awdurdodi, a fyddai'n parhau i gael ei orfodi gan ddefnyddio'r gyfraith droseddol.
Nod y diwygiadau hyn yw gwneud gorfodi gorchmynion rheoli mwg yn haws i Awdurdodau Lleol drwy newid baich y prawf o'r safon droseddol (y tu hwnt i amheuaeth resymol) i'r safon sifil (yn ôl pwysau tebygolrwydd). Mae'r darpariaethau'n debyg i Atodlen 1A i Ddeddf Aer Glân 1993, sy'n gymwys mewn perthynas â Lloegr.
Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllawiau Ansawdd Aer Lleol ar gyfer Awdurdodau Lleol yn 2017, gyda'r bwriad o gefnogi awdurdodau i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Ar ôl eu cychwyn, bydd y darpariaethau yn Neddf 2024 yn ymgorffori yng nghyfraith Cymru y dyletswyddau a osodir ar Awdurdodau Lleol o ran Mesurau Ansawdd Aer Lleol, rhwymedigaethau sydd wedi eu cynnwys yn flaenorol o dan ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr.
Mae'r canllawiau drafft wedi'u diweddaru yn adlewyrchu'r diwygiadau i rwymedigaethau Awdurdodau Lleol ac yn ehangu ar y canllawiau ynghylch diwygio a dirymu Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer.
Rydym yn gofyn am gyfraniadau yn awr ynghylch a yw'r dogfennau canllaw drafft sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn yn cwmpasu’n gywir yr wybodaeth sydd ei hangen ar Awdurdodau Lleol i gyflawni eu rhwymedigaethau o fewn Deddf 2024.
Cwestiynau ymgynghori i Awdurdodau Lleol
Eich enw: Sefydliad (os yw’n berthnasol):
e-bost/rhif ffôn:
Eich cyfeiriad:
Canllawiau Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol
Cwestiwn 1
I ba raddau ydych chi'n cytuno bod y dogfennau canllaw arfaethedig hyn yn cyfleu'r hyn sydd ei angen ar Awdurdodau Lleol i'w cynorthwyo i gyflawni'r rhwymedigaethau Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol?
Cwestiwn 2
A oes unrhyw feysydd nad ydynt wedi'u cynnwys eto yn y dogfennau canllaw Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol arfaethedig a fyddai'n galluogi Awdurdodau Lleol i gyflawni ymhellach y rhwymedigaethau Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn y ddeddfwriaeth?
Cwestiwn 3
A oes unrhyw heriau yn y canllawiau Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol sy'n golygu bod yr amserlenni a'r rhwymedigaethau a bennwyd yn anghyraeddadwy neu'n amhriodol?
Canllawiau Rheoli Mwg
Cwestiwn 4
I ba raddau ydych chi'n fodlon bod y dogfennau canllaw arfaethedig yn eich galluogi i gyflawni eich rhwymedigaethau o dan Ddeddf Aer Glân 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024?
Cwestiwn 5
A oes unrhyw feysydd nad ydynt wedi'u cynnwys eto yn y dogfennau canllaw arfaethedig a fyddai'n eich galluogi ymhellach i gyflawni eich rhwymedigaethau yn fwy effeithiol o dan y drefn rheoli mwg?
Cwestiwn 6
A ydych yn teimlo bod yr amserlenni a'r rhwymedigaethau ar gyfer gorfodi sydd wedi'u pennu yn nhudalen we Canllawiau Ardal Rheoli Mwg ar gyfer Awdurdodau Lleol yn gyraeddadwy ac yn briodol? Os na, rhowch fanylion yr hyn y gellid ei newid.
Cwestiwn 7
Mae'r canllawiau'n cynnwys dogfennau templed enghreifftiol i gynorthwyo gweithgareddau gorfodi Awdurdodau Lleol. Dywedwch wrthym a ydych o’r farn y gallai'r rhain gael eu defnyddio gan Awdurdodau Lleol, ac a oes angen unrhyw beth pellach i'w defnyddio'n effeithiol? Hoffech chi i'r rhain gael eu cynnwys yn y ddogfen ganllaw derfynol?
Cymraeg
Cwestiwn 8
Beth yn eich barn chi fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 9
Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r canllawiau er mwyn sicrhau:
- eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg; a
- nad ydynt yn cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?
Cwestiwn 10
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, gallwch wneud hynny yma:
Defnyddiwch ffurflen ymateb yr ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.