Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 6) mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg wedi lansio canllawiau newydd i helpu i ddod â bwlio i ben yn ysgolion Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y canllawiau gwrth-fwlio eu lansio gan y Gweinidog yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Radur, a chawsant eu llunio i herio bwlio mewn ysgolion.

Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, awdurdodau lleol, rhieni, gofalwyr a phlant a phobl ifanc, ac fe’u lansiwyd ar drothwy Wythnos Gwrth-fwlio, sy’n cychwyn ddydd Llun, Tachwedd 11.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Rydyn ni wedi ymroi i sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael ei gefnogi’n iawn i wireddu ei botensial yn llwyr.

“Rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â bwlio yn ei gyfanrwydd drwy ddeall a mynd at wraidd yr hyn sy’n achosi ymddygiad annerbyniol.

“Rydyn ni eisiau i’n hysgolion fod yn amgylcheddau cynhwysol a dengar, sy’n rhoi pwyslais ar lesiant fel bod dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn barod i ddysgu.

“Mae mor bwysig fod plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu, yn y cartref ac yn yr ysgol, am greu a chynnal cydberthnasau sy’n dangos parch at eraill a bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu i gyflawni hynny.”

Mae’r canllawiau diwygiedig yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru y bydd ysgolion:

  • yn mabwysiadu dulliau rhagweithiol i atal bwlio; 
  • â pholisi gwrth-fwlio sy’n cysylltu â pholisïau’r ysgol ar ymddygiad a diogelu;
  • yn cofnodi achosion o fwlio a’u monitro i helpu i gymryd camau rhagweithiol i herio bwlio;
  • yn adolygu eu polisi a strategaeth gwrth-fwlio yn rheolaidd ar y cyd â’u dysgwyr, a hynny o leiaf bob tair blynedd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecynnau adnoddau newydd i gyd-fynd â’r canllawiau newydd.

Mae’r pecynnau yn cynnwys taflenni ffeithiau, canllawiau atodol, templedi ar gyfer ffurflenni cofnodi digwyddiadau ac enghreifftiau o arfer gorau i helpu awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion i herio bwlio.

Mae’r adnoddau newydd ar gael ar wefan Hwb: