Neidio i'r prif gynnwy

Mae lleoliadau gofal plant ledled Cymru yn cael cymorth i sicrhau bod plant ifanc yn cael dechrau iach

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies yn lansio canllawiau newydd heddiw i helpu lleoliadau gofal plant i gynorthwyo plant ifanc i fwyta'n dda a dysgu am eu bwyd. Bydd hyn yn adeiladu ar yr arfer da sydd eisoes yn digwydd ar draws y sector. 

Ewch: Canllawiau bwyd a maeth ar gyfer darparwyr gofal plant

Mae ymarferwyr a lleoliadau gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i ddatblygu arferion bwyta - gan fod plant sy'n mynychu lleoliadau gofal o oedran ifanc o bosib yn derbyn hyd at 90% o'u bwyd a'u maeth yno os ydynt yn cael gofal am ddiwrnod llawn. Gallant hefyd dderbyn byrbrydau a diodydd mewn amrywiol leoliadau sy'n cyfrannu at gyfanswm eu lefelau maeth, a all effeithio ar eu deiet yn gyffredinol.  

Drwy annog arferion bwyta da a phrofi amrywiaeth eang o fwyd maethlon, gellir helpu i sefydlu arferion bwyta a fydd yn parhau gydol oes. Bydd plant yn aml yn profi bwyd newydd mewn lleoliad cymdeithasol gyda'u cymheiriaid.

Mae'r canllawiau yn rhan o gyfres o fentrau gan Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i gefnogi newidiadau cadarnhaol i ddeiet yn y blynyddoedd cynnar a sicrhau bod mwy o blant yn medru cyrraedd a chynnal pwysau iach wrth dyfu a datblygu. 

Yn ôl y Rhaglen Mesur Plant ar gyfer 2017 mae tua chwarter (27.4%) plant 4-5 oed Cymru dros eu pwysau neu'n ordew

Mae'r safonau a'r canllawiau newydd yn cynnwys bwydlenni a rysetiau. Y bwriad yw helpu lleoliadau i fodloni'r rheoliadau gofal plant ar gyfer bwyd a diod, ond hefyd helpu rhieni i fod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r lleoliadau yn ei gynnig i'w plant a throsglwyddo negeseuon i'r cartref am eu dewisiadau iach.

Mae'r canllawiau yn gosod safonau bwyd cyfoes, ar sail tystiolaeth, a chyngor ynghylch sut i'w gweithredu yn ymarferol fel y gall lleoliadau gofal plant wneud y canlynol:

  • gweini byrbrydau sy'n faethlon, gydag ychydig o siwgr a halen os o gwbl
  • darparu diodydd iach a diogel, sy'n gwarchod dannedd, hynny yw llaeth a dŵr yn unig
  • gweini prydau blasus, maethlon er mwyn helpu i ddatblygu arferion bwyta da
  • sicrhau bod maint y dognau yn briodol ar gyfer oedran y plant. 
Wrth lansio'r canllawiau newydd, dywedodd y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies:

“Rydyn ni am weld plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd. Mae sicrhau bod plant yn datblygu arferion bwyta da yn gynnar yn eu bywydau yn gwbl hanfodol os ydyn nhw i gael pwysau iach wrth dyfu i fyny. 

“Gall y blynyddoedd cynnar gael effaith gadarnhaol ar ddewisiadau bwyd wrth i blentyn bach ddechrau cael llais wrth benderfynu pa fwydydd mae'n fodlon eu bwyta. Mae tystiolaeth yn dangos bod arferion bwyta yn ystod y blynyddoedd cynnar yn parhau yn ystod plentyndod diweddarach a bywyd fel oedolyn. 

"Felly mae'r bwyd sy'n cael ei gynnig mewn lleoliadau gofal plant mor bwysig. Dyna pam rydyn ni'n lansio'r canllawiau newydd heddiw - a fydd yn helpu'r rhai sy'n gweithio ym myd gofal plant i sicrhau bod y plant sy'n cael gofal ganddynt yn bwyta bwyd iach, maethlon."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Mae bwyta bwyd maethlon yn hanfodol bwysig i blant yn ystod eu blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn eu helpu i dyfu a datblygu mewn ffordd iach, i gyrraedd a chynnal pwysau iach, yn amddiffyn dannedd rhag pydru ac yn gosod sylfaen ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant yn y dyfodol. 

“Mae'r canllawiau maeth yn un elfen o waith y Llywodraeth hon i atal a gostwng lefelau gordewdra. Drwy Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, rydyn ni'n datblygu strategaeth 10 mlynedd Pwysau Iach: Cymru Iach er mwyn helpu i osod y sylfeini a fydd yn ein helpu i atal ac yna gostwng lefelau gordewdra a chynyddu'r gyfran o bobl sydd â phwysau iach."