Neidio i'r prif gynnwy

Pa bryd y mae'r canllawiau hyn yn gymwys?

Mae'r canllawiau hyn yn gymwys wrth ystyried y dewis rhwng gweithdrefn gadarnhaol ddrafft a gweithdrefn negyddol y Cynulliad:

  1. pan fydd Biliau ar gyfer Deddfau Cynulliad sy'n rhoi pwerau i wneud offerynnau statudol yn cael eu llunio
  2. pan fydd Gweinidogion Cymru yn ceisio darpariaethau mewn Biliau ar gyfer Deddfau Seneddol y DU sy'n rhoi pwerau mewn meysydd datganoledig i wneud offerynnau statudol, a
  3. pan fydd deddfwriaeth yn darparu ar gyfer y dewis sydd i'w wneud rhwng y mathau hynny o weithdrefn wrth wneud offerynnau statudol mewn meysydd datganoledig.

Y cefndir

Mae pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ynghylch materion datganoledig wedi eu rhoi, er enghraifft, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddfau Cynulliad  neu drwy Filiau Seneddol y DU. Mewn achosion o'r fath mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i ba  ffurf ar weithdrefn Gynulliad y dylid ei chymhwyso i offeryn a wneir o dan y pŵer hwnnw.

Mae'r ddwy weithdrefn sy'n cael eu defnyddio amlaf wedi eu nodi yma er hwylustod. Y weithdrefn gadarnhaol ddrafft yw’r un sy’n cael ei dilyn pan na chaniateir i offeryn gael ei wneud oni bai bod drafft ohono wedi ei osod gerbron y Cynulliad a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo. Rhaid iddo gael ei wneud ar ffurf drafft a osodwyd ac felly ni ellir ei ddiwygio. Y weithdrefn negyddol yw’r un sy’n cael ei dilyn pan ganiateir i’r offeryn gael ei wneud (a dod i rym) ond bod rhaid iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad a gellir ei ‘negyddu’ neu ei ‘ddiddymu’ gan benderfyniad y Cynulliad ac fe'i gelwir weithiau yn weithdrefn “ddiddymu”. Cyfeirir ati yn y nodyn hwn, fodd bynnag, fel “y weithdrefn negyddol”.

Cymhwyso'r canllawiau

Mae'r papur hwn yn nodi'r canllawiau sydd i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth benderfynu (e.e. wrth lunio Biliau Cynulliad sy'n rhoi pŵer i wneud offerynnau statudol) a ddylai offeryn o'r fath fod yn ddarostyngedig i'r ffurf arferol honno o weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu negyddol y Cynulliad.

Mae'r canllawiau yn cydnabod bod cydbwysedd i’w gadw ym mhob achos rhwng:

  • gwaith craffu gan y Cynulliad
  • traul ar amser y Cynulliad (neu bwyllgor)
  • arwyddocâd y darpariaethau o dan sylw, a
  • gwneud deddfwriaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae rhai o'r ffactorau sydd i'w hystyried wedi eu nodi isod ond nid ydynt yn rhestrau cyflawn. Nid yw hi felly yn ymarferol rhoi set o feini prawf manwl sydd i'w cymhwyso’n gaeth ym mhob achos.

Mae'r canllawiau‘n gymwys i is-ddeddfwriaeth mewn cysylltiad â mater datganoledig sydd ar ffurf offeryn statudol.

Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu i’r canllawiau hyn fod yr un mor gymwys mewn achosion pan fo pwerau o'r fath yn cael eu ceisio yn un o Filiau Seneddol y DU, cydnabyddir nad oes gan Lywodraeth Cymru na'r Cynulliad yn y pen draw unrhyw reolaeth dros y broses honno.

Mae rhai ffactorau sydd i raddau mwy neu lai, gan ddibynnu ar y cyd-destun, yn gallu::

  1. tueddu i awgrymu mai’r weithdrefn “gadarnhaol ddrafft” yw’r un sydd i’w chymhwyso, neu
  2. gofyn am gyfiawnhad penodol os yw gweithdrefn nad yw’n weithdrefn “gadarnhaol ddrafft” yn cael ei chymhwyso.

Y ffactorau y cyfeirir atynt uchod yw:

  1. pwerau sy'n galluogi bod darpariaeth yn cael ei gwneud a all effeithio'n sylweddol ar ddarpariaethau Deddfau Seneddol, Mesurau Cynulliad neu Ddeddfau'r Cynulliad
  2. pwerau y mae eu prif bwrpas yn un sy’n galluogi Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol i roi rhagor o bwerau sylweddol iddynt hwy eu hunain
  3. pwerau i gymhwyso yng Nghymru ddarpariaethau, er enghraifft, yn Neddfau Seneddol sydd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, wedi eu cynnwys yn y Ddeddf ei hun (p'un ai gydag addasiadau neu hebddynt)
  4. pwerau i osod neu gynyddu trethiant neu feichiau ariannol sylweddol eraill ar y cyhoedd
  5. darpariaeth sy'n golygu gwariant sylweddol gan y llywodraeth
  6. pwerau i greu darpariaethau troseddol anarferol neu gosbau sifil anarferol
  7. pwerau i roi pwerau anarferol o ran mynediad, archwiliad neu arolygiad, neu i ddarparu ar gyfer casglu gwybodaeth o dan bwerau gorfodi
  8. pwerau sy'n gosod dyletswyddau beichus ar y cyhoedd (e.e. gofyniad i adneuo symiau arian yn warant, neu derfynau amser byr iawn er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth)
  9. pwerau sy'n cynnwys ystyriaethau o bwys arbennig nad ydynt yn dod o dan y penawdau uchod (e.e. pan fo’r Ddeddf alluogi yn gosod y diben yn unig  a bod sylwedd y cynllun deddfwriaethol yn cael ei nodi mewn is-ddeddfwriaeth a wneir drwy arfer y pŵer).

Mae'r ffactorau a all yn rhesymol dueddu i awgrymu mai’r weithdrefn “negyddol” yw’r un sydd i’w chymhwyso yn cynnwys, yn benodol:

  1. pan fo pwnc yr is-ddeddfwriaeth yn fanylyn cymharol fach mewn cynllun deddfwriaethol cyffredinol neu’n dechnegol ei natur
  2. pan allai fod yn briodol diweddaru pwnc yr is-ddeddfwriaeth yn rheolaidd
  3. pan allai fod yn briodol deddfu'n gyflym (e.e. er mwyn osgoi achosion tor dyletswydd neu er mwyn diogelu iechyd pobl neu iechyd anifeiliaid neu warchod yr amgylchedd)
  4. pan fo disgresiwn Llywodraeth Cymru dros gynnwys yr is-ddeddfwriaeth wedi ei gyfyngu (e.e. deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i rai o ddarpariaethau cyfraith yr UE)
  5. pan fyddai'n briodol cyfuno darpariaeth sydd i'w gwneud o dan y pŵer â darpariaeth y gellir ei gwneud o dan bŵer arall pan allai’r ddarpariaeth honno fod yn ddarostyngedig i weithdrefn negyddol. 

25 Ionawr 2012