Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  1. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth genedlaethol ym mis Ionawr 2021 yn nodi sut y caiff y rhaglen frechu yng Nghymru ei chyflwyno mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Mae'r strategaeth yn esbonio'r grwpiau o bobl sy’n flaenoriaeth i gael eu brechu, gan ddilyn rhestr Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol y DU sy’n nodi cyflyrau y cytunwyd i'w blaenoriaethu ar gyfer brechu. Mae pob un o'r pedair gwlad yn y DU yn gweithredu yn yr un modd. Mae rhestr y Cyd-bwyllgor yn Atodiad 1.
     
  2. Mae'r rhestr yn blaenoriaethu'r unigolion hynny y mae'r data wedi dangos eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef salwch difrifol yn sgil COVID-19. Nod blaenoriaethu pobl ar gyfer y brechlyn yw lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty a nifer y marwolaethau.
     
  3. Mae'r Cyd-bwyllgor wedi nodi y dylid gwahodd pobl ag anabledd dysgu difrifol/dwys ac unigolion â sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol, neu unrhyw salwch meddwl sy'n achosi nam difrifol ar weithrediad, i gael eu brechu yng ngrŵp blaenoriaeth 6.
     
  4. Gall nodi unigolion yn y grwpiau hyn o gofnodion iechyd fod yn heriol a gallai arwain at beidio â nodi rhai unigolion ar gyfer y brechlyn (y boblogaeth na wasanaethir yn ddigonol). Yn ogystal, bydd angen i wybodaeth ar gyfer yr unigolion hyn fod yn hygyrch a bydd angen addasiadau rhesymol i sicrhau bod cyfradd uchel ohonynt yn dewis derbyn y brechiad.
     
  5. Derbynnir yn eang yr egwyddor a'r gwerth o fod yn fwy cynhwysol, yn hytrach nag yn llai cynhwysol, er mwyn osgoi colli'r bobl hynny sy'n agored i niwed y dylid eu brechu

Cefnogi'r broses o nodi pobl ar gyfer brechu

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull cynhwysol o nodi'r rhai ag anabledd dysgu difrifol/dwys a salwch meddwl difrifol. Rydym yn disgwyl i hyn arwain at flaenoriaethu mwy o unigolion o dan grŵp blaenoriaeth 6 nag y byddai efallai wedi’u blaenoriaethu pe bai canllawiau’r Cyd-bwyllgor yn cael eu dehongli’n gaeth. Rydym yn rhoi disgresiwn i ymarferwyr sicrhau nad oes neb sy'n agored i niwed yn y grwpiau hyn yn cael ei golli na’i adael ar ôl.
     
  2. Mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol am ddarparu'r rhaglen frechu gan weithio gyda sefydliadau partner, gan gynnwys ymarferwyr cyffredinol, yr awdurdod lleol a sefydliadau'r trydydd sector. 
     
  3. Gall Byrddau Iechyd ddefnyddio gwybodaeth leol partneriaid yn y trydydd sector, awdurdodau lleol, timau anabledd dysgu cymunedol, timau iechyd meddwl cymunedol, a lle bo'n briodol gwasanaethau arbenigol megis gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a theuluoedd neu ofalwyr i nodi pobl sy'n gymwys i gael eu hychwanegu at restr grŵp blaenoriaeth 6.
     
  4. Bydd rhestrau presennol ymarferwyr cyffredinol a'r codau adnabod ar gyfer anabledd dysgu a salwch meddwl difrifol yn cael eu llwytho i System Imiwneiddio Cymru (WIS) a'u hychwanegu at restr grŵp blaenoriaeth 6
     
  5. Er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn cael cynnig brechiad, mae angen disgresiwn clinigol i ychwanegu unigolion at grŵp blaenoriaeth 6, sef unigolion a all fod yn gymwys ond nad ydynt wedi'u rhestru yn y system genedlaethol.
     
  6. Mae gan ymarferwyr cyffredinol, timau iechyd meddwl cymunedol a thimau anabledd dysgu cymunedol rôl allweddol o ran helpu i nodi pobl sy'n gymwys i gael eu brechu o dan grŵp blaenoriaeth 6. Anogir dull cynhwysol yn hytrach na dull sy’n cau unigolion neu grwpiau allan.
     
  7. Wrth arfer barn broffesiynol a disgresiwn clinigol, bydd o gymorth i ystyried y ffactorau risg canlynol:
  • agored i niwed yn glinigol ac eiddilwch: Presenoldeb cyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes/sy'n cyd-ddigwydd a lefel cymhlethdod y cyflyrau iechyd hynny
  • ethnigrwydd
  • ffactorau economaidd-gymdeithasol
  • math o Lety: Byw mewn lleoliad cymunol, er enghraifft, mewn lleoliad byw â chymorth neu leoliad adsefydlu preswyl
  • methu â chadw’n gyson at arferion amddiffynnol fel cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg a hylendid dwylo
  • y gallu i gadw at drefn triniaethau a goddef ymyrraeth
  • yn hysbys i wasanaethau megis y tîm iechyd meddwl cymunedol, neu'r tîm anabledd dysgu
  1. Mae'r dull cyfunol hwn o nodi pobl yn cyd-fynd â'r dulliau sy'n cael eu gweithredu yng ngwledydd eraill y DU.

Cefnogi cyfradd uchel o ran derbyn brechiad

  1. Yn gyffredinol, bydd unigolion yn teimlo'n llai pryderus ynglŷn â chael eu brechu yn eu meddygfa, gan ei fod yn amgylchedd cyfarwydd a llai o faint. Er mwyn annog pobl i ddewis derbyn y brechiad, dylid fel arfer brechu, lle y bo'n bosibl, mewn meddygfeydd yn hytrach na chanolfannau brechu torfol, oni bai bod dewis personol neu reswm meddygol yn mynnu fel arall. Dylid hefyd ystyried defnyddio lleoliadau clinigol eraill, megis clinigau gofal iechyd eilaidd, er mwyn hwyluso mynediad ar gyfer grwpiau agored i niwed a sicrhau bod cynifer â phosibl yn dewis derbyn brechiad.
     
  2. Dim ond os oes gwybodaeth glir ei fod wedi dewis peidio â chael ei frechu y dylid ystyried bod unigolyn o'r grŵp hwn wedi 'optio allan' o frechiad, a bod ei benderfyniad, gystal â phosibl, yn cael ei gydnabod fel penderfyniad gwybodus
     
  3. Bydd angen nodi a gwneud addasiadau rhesymol i alluogi unigolion i gael cymorth ac i deimlo'n hyderus i fynd i gael eu brechu; dylai hyn gynnwys ystyried dewisiadau'r unigolyn a/neu'r teulu lle bynnag y bo modd. 
     
  4. Pan fo angen asesiad budd pennaf i gefnogi galluedd, dylid defnyddio'r prosesau budd pennaf presennol sy'n cynnwys teuluoedd, staff cymorth ac eiriolwyr penodedig lle bynnag y bo modd.
     
  5. Mae ymarferwyr sy'n gweithio mewn timau iechyd meddwl cymunedol, a thimau anabledd dysgu yn fedrus ac yn wybodus o ran cefnogi'r gofyniad am addasiadau rhesymol ac asesiad budd pennaf. Gallai'r canllawiau ar fudd pennaf yn Atodiad 2 fod o gymorth.

Atodiad 1: Y Rhestr Flaenoriaeth o Bobl i gael y Brechlyn gan Gyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol y DU

Dilynir y rhestr flaenoriaeth hon gan bedair gwlad y DU. 

Mae'r rhestr yn blaenoriaethu'r unigolion hynny y mae'r data wedi dangos eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef salwch difrifol yn sgil COVID-19. Nod blaenoriaethu pobl ar gyfer y brechlyn yw lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty a nifer y marwolaethau.

  1. Pobl sy’n byw mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn a'u staff gofalu
     
  2. Pawb sy’n 80 mlwydd oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
     
  3. Pawb sy’n 75 mlwydd oed a hŷn
     
  4. Pawb sy’n 70 mlwydd oed a hŷn a phobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol (sef y grŵp “gwarchod” gynt) – bydd pawb yn y grŵp hwn wedi cael llythyr yn flaenorol gan y Prif Swyddog Meddygol yn eu cynghori i warchod eu hunain
     
  5. Pawb sy’n 65 mlwydd oed a hŷn
     
  6. Pawb sydd rhwng 16 mlwydd oed a 64 mlwydd oed sydd â chyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes [troednodyn 1], sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl o salwch difrifol a marwolaeth 
     
  7. Pawb sy’n 60 mlwydd oed a hŷn
     
  8. Pawb sy’n 55 mlwydd oed a hŷn
     
  9. Pawb sy’n 50 mlwydd oed a hŷn

Atodiad 2: Brechu a galluedd

Egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol 

Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn darparu fframwaith cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer gwneud penderfyniadau ar ran pobl 16 oed neu hŷn, na allant wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae'n bwysig nodi bod galluedd yn benodol i benderfyniadau: mae'n canolbwyntio ar benderfyniad penodol y mae angen ei wneud ar yr adeg y mae ei angen.

Mae pum egwyddor allweddol sy'n sail i'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a dylid rhoi ystyriaeth briodol i'r rhain wrth weithredu'r canllawiau hyn.

  1. Rhaid rhagdybio bod gan bobl y gallu i wneud eu penderfyniadau eu hunain, oni phrofir fel arall, ar sail asesiad.
     
  2. Dylid cynnig cymorth i bobl wneud penderfyniadau.
     
  3. Ni ddylid ystyried bod person yn analluog i wneud penderfyniad dim ond oherwydd y gallai ei benderfyniad ymddangos yn annoeth i eraill.
     
  4. Os gwneid penderfyniad ar ran person nad oes ganddo alluedd meddyliol, yna rhaid ei wneud er budd pennaf.
     
  5. Cyn gwneud rhywbeth i rywun neu wneud penderfyniad ar ei ran, rhaid ystyried a ellid cyflawni'r canlyniad mewn ffordd lai cyfyngol.

Pan gynigir darparu ymyriad i berson yr aseswyd nad oes ganddo'r galluedd i gydsynio, yn absenoldeb penderfyniad dilys ymlaen llaw i wrthod triniaeth, atwrnai iechyd a lles sydd wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus, neu ddirprwy a benodwyd gan y llys sydd wedi'i awdurdodi i wneud y penderfyniad, mae angen penderfyniad 'budd pennaf’. Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi rhestr wirio o ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniad budd pennaf, mae'r rhain yn cynnwys:

  • ystyried yr holl amgylchiadau sy'n berthnasol i'r penderfyniad
  • penderfynu a yw'r unigolyn yn debygol o adennill galluedd
  • annog yr unigolyn i gymryd rhan yn y broses benderfynu, mor llawn â phosibl
  • cyn belled ag y bo modd, ystyried dymuniadau a theimladau'r unigolyn
  • ymgynghori ag eraill sy'n rhan o fywyd yr unigolyn

Gwneud penderfyniad budd pennaf i gefnogi brechu lle nad oes gan bobl alluedd

Mae rhai pobl yn ofnus neu'n bryderus ynghylch cael brechiad neu ymyriadau eraill gan ddefnyddio nodwyddau. Gall hyn fod oherwydd amrywiaeth o resymau gan gynnwys diffyg profiad o nodwyddau, neu brofiad hanesyddol gwael, materion gwybyddol sy'n gysylltiedig â'r gallu i ddeall yr hyn sy'n digwydd, ofn dod i gysylltiad â phoen neu faterion synhwyraidd.

Mae Mencap wedi cynhyrchu'r daflen ffeithiau ddefnyddiol hon ar frechlyn COVID-19.

Er mwyn i unrhyw un allu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch cael y brechlyn, bydd ei benderfyniad yn cael ei wneud ar sail:

  • y fantais bosibl o gael y brechlyn
  • y sgil-effaith bosibl o gael y brechlyn
  • yr effaith negyddol bosibl o beidio â chael y brechlyn

Gwneud penderfyniad budd pennaf ynghylch brechu

Mae'n ofynnol i wasanaethau iechyd roi sylw dyledus i'w rhwymedigaeth i hyrwyddo cydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; mae hyn yn cynnwys cydnabod ac ystyried pa mor agored i niwed yw gwahanol grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig; ac anghydraddoldebau o ran mynediad, profiad a chanlyniadau mewn gwasanaethau iechyd. 

Os penderfynir bod brechu er budd pennaf y person, dylid datblygu cynlluniau ar gyfer rhoi’r brechiad mewn ffordd sy'n ymyrryd cyn lleied â phosibl â hawliau'r unigolyn. Dylai hyn gynnwys ystyried y gofyniad am amrywiaeth o addasiadau rhesymol a allai helpu i sicrhau bod y brechiad yn cael ei roi’n ddiogel. Mae'n bwysig bod y gwaith o gynllunio i gefnogi unigolion i gael y brechlyn yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn y modd lleiaf gofidus a lleiaf cyfyngol. 

Os nad oes consensws ynghylch a yw brechu er budd pennaf unigolyn, dylid ystyried defnyddio Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol ac ystyried a fyddai'n briodol i ystyried defnyddio’r Llys Gwarchod.

Pan deimlir bod yr addasiadau rhesymol y credir sydd eu hangen i sicrhau brechu yn llwyddiannus yn gyfystyr ag ataliaeth fel y diffinnir restraint yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol, bydd adran 6 o'r Ddeddf yn gymwys. Cytunwyd eisoes ar yr angen i frechu, ond efallai y bydd angen rhoi mwy o sylw i gytuno ar gymesuredd y dull arfaethedig o roi’r brechiad, gan gynnwys unrhyw ddefnydd o ataliaeth. Dylai'r rhai sy'n cyfrannu at y penderfyniad budd pennaf ystyried:

  1. difrifoldeb y niwed sy'n gysylltiedig â pheidio â brechu
     
  2. difrifoldeb unrhyw niwed sy'n gysylltiedig ag ataliaeth arfaethedig, gan gynnwys trawma corfforol ac emosiynol (gan ystyried hefyd y camau y gellir eu cymryd i liniaru unrhyw niwed o'r fath)

Addasiadau rhesymol

Er mwyn helpu unigolion i gael profiad brechu cadarnhaol, mae yna ddulliau y gellir eu gweithredu gan ddefnyddio gwybodaeth hygyrch ac addasiadau rhesymol.

Cyfathrebu: sicrhau’ch bod yn cyfathrebu bob amser mewn ffordd y gall yr unigolyn ei deall, ynghyd â defnyddio unrhyw wybodaeth weledol i’w helpu i ddeall yn well. Meddyliwch am yr arddull orau ar gyfer yr unigolyn, e.e. a yw’n ymateb i ffordd hwyliog, siriol o gyfathrebu neu arddull fwy cyfarwyddiadol? A fyddai stribed brawddegau, stori gymdeithasol neu ford nawr/nesaf yn helpu'r person i gynllunio ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd?

Ymlacio: ystyried a oes modd helpu’r person i gynllunio ar gyfer ei frechiad drwy gyflwyno technegau ymlacio, cerddoriaeth, arogleuon a synau synhwyraidd, rhywfaint o gyffwrdd dwfn â'r fraich (neu ran o’r corff) lle bydd y brechiad yn cael ei roi, technegau neu offer tylino.

Ymarfer: wrth baratoi, a allwch ofyn i'r person ymarfer eistedd yn llonydd, mewn man penodol y gwnaethoch gytuno arno. Anogwch y person i wisgo dillad ar ddiwrnod y brechiad a fydd yn helpu i gael at y man brechu e.e. crys-t llewys byr. Os na fyddai fel arfer yn gwisgo dillad o’r fath, anogwch ef i ymarfer torchi ei lewys. Gallai dillad lliw tywyll helpu'r unigolyn os yw'n bryderus ynghylch gwaed.

Amgylchedd: ystyried ffyrdd o wneud yr amgylchedd mor dawel, cyfeillgar ac atyniadol â phosibl i'r unigolyn, gan leihau pethau a allai achosi gofid neu ddryswch. Efallai y byddai'n well defnyddio amgylchedd y mae'r person ei hun yn ei ddewis, e.e. ystafell dawel neu'r lolfa. Cynlluniwch gydag ef ble mae am eistedd a ble mae am fod pan fydd yn cael y brechiad a beth yr hoffai ei wneud wedyn e.e. y brechiad gyntaf, ac yna gwylio ei hoff raglen deledu. Ceisiwch leihau'r pwysau ar yr unigolyn a chynllunio ar gyfer rhoi cynnig ar ddulliau llai cyfyngol. Lluniwch gynlluniau wrth gefn gan ddibynnu ar sut y bydd y person yn ymateb.

Gwrthrychau/gweithgareddau a ffefrir: efallai y bydd o fudd i rai pobl weld stori am y brechlyn neu ynglŷn â chael pigiad. Efallai yr hoffai eraill weld rhywun arall yn cael y brechiad (ar fideo YouTube neu mewn llun). Gall chwarae rôl gan ddefnyddio teganau meddal neu ddoliau fod o gymorth i baratoi'r person.

Defnyddio eli lleddfu poen/lleihau teimlad: gellid ystyried hyn ar sail profiad blaenorol o sut mae pobl wedi ymateb iddo ac a oedd o fudd.

Cynllunio i dynnu sylw’r unigolyn: a allwch fod ag eitemau wrth law a allai helpu i leihau pryder yr unigolyn tra mae’n aros am y brechiad a thra mae’n cael ei frechu? Cerddoriaeth, rhywbeth ar iPad, llyfr neu gylchgrawn, eitem synhwyraidd, pethau bach y gall eu dal mewn un llaw, bwyd neu ddiod ac ati.

Penderfynu rhoi cynnig arall arni rywbryd eto: mewn rhai sefyllfaoedd, os yw'r person wedi cynhyrfu neu'n bryderus iawn ar ddiwrnod y brechiad, gall fod yn briodol penderfynu rhoi cynnig arall arni rywbryd eto, mewn amgylchedd arall neu gyda thîm arall. Mae'n bwysig cofio bod angen dau ddos ar hyn o bryd ac os yw’r profiad o’r dos cyntaf yn rhy ofidus neu drawmatig yna efallai na fydd yn hawdd cefnogi'r person i gael yr ail ddos.

Ar ôl brechu: mae angen inni gofio y gall fod rhywfaint o effaith ar ymddygiad yr unigolyn ar ôl y brechiad. Efallai y bydd ganddo boen yn ei fraich, cur pen neu effaith arall ac y bydd yn anodd iddo ddeall a chydnabod y rhain fel sgil-effeithiau posibl. Mae paratoi cynllun gyda'r unigolyn ar gyfer sut y mae am i staff ei gefnogi ar ôl cael y brechiad yn bwysig iddo ef a'r tîm.

Adnoddau defnyddiol

Troednodiadau

[1] Cyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes:

  • Clefyd anadlol cronig, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), ffeibrosis systig ac asthma difrifol
  • Clefyd cronig y galon (a chlefyd fasgwlaidd)
  • Clefyd cronig yn yr arennau
  • Clefyd cronig yr afu
  • Clefyd niwrolegol cronig, gan gynnwys epilepsi
  • Anabledd dysgu difrifol a dwys
  • Diabetes
  • Pobl sydd wedi cael trawsblaniad organ solet, mêr esgyrn neu fôn-gell
  • Pobl sydd â mathau penodol o ganser
  • Gwrthimiwnedd oherwydd clefyd neu driniaeth
  • Asplenia a chamweithrediad y ddueg
  • Gordewdra afiachus
  • Salwch meddwl difrifol