Neidio i'r prif gynnwy

Diben y nodyn gwybodaeth

Caiff y nodyn gwybodaeth hwn ei gyhoeddi i roi cyngor sy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl mewn Byrddau Iechyd Lleol a phartneriaid ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddynt barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ("y Mesur") ac ymateb i gyngor iechyd cyhoeddus newydd mewn ymateb i COVID-19 ar yr un pryd.  
 
Gan fod y sefyllfa'n newid yn gyflym, mae'r nodyn hwn yn nodi rhai o'r heriau penodol ar gyfer y Mesur ac yn egluro'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i ddeall a cheisio datrys yr heriau byw hyn ac yng ngoleuni unrhyw gyngor iechyd cyhoeddus pellach a chyngor pellach gan y llywodraeth.  

Y Mesur a COVID-19

Yn ei hanfod, bwriad y Mesur yw sicrhau y gall pobl gael gafael yn amserol ar y cymorth cywir i atal neu leihau unrhyw drallod iechyd meddwl; cynllunio a darparu gofal a thriniaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'i adferiad, ar y cyd ag eraill; sicrhau bod y rhai a gaiff eu rhyddhau o wasanaethau yn gwybod sut i gael gafael ar gymorth yn y dyfodol ac yn gwybod bod gwasanaethau eirioli annibynnol ar gael lle bo angen.  

Gall darparu gwasanaethau o dan bedair rhan y Mesur fod yn eithriadol o anodd o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • pan fo cyngor iechyd cyhoeddus brys yn gorchymyn mesurau i gadw pellter cymdeithasol er mwyn amddiffyn pobl y mae angen gwasanaethau iechyd meddwl arnynt a'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny ac yn eu darparu
  • pan fo COVID-19 yn effeithio'n uniongyrchol ar y gweithlu iechyd meddwl sy'n golygu bod y gweithlu yn lleihau o ganlyniad i absenoldeb oherwydd salwch neu hunanynysu
  • pan y gallai pryderon am argyfwng iechyd cyhoeddus roi straen ychwanegol ar iechyd meddwl pobl a chynyddu'r galw am wasanaethau 

Er mwyn rheoli COVID-19 o safbwynt sefydliadol, efallai y bydd angen adleoli staff i ymdopi â'r pwysau ar wasanaethau ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol. O ran gwasanaethau iechyd meddwl, efallai na fydd y camau hyn i adleoli ac ad-drefnu pwy, sut a ble y caiff gwasanaethau eu darparu yn cyd-fynd o reidrwydd â'r hyn a nodir ar hyn o bryd yng Nghynlluniau Rhan 1 Byrddau Iechyd Lleol na'r hyn a gydnabyddir fel gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.  

Yn yr achosion hyn, un egwyddor weithredu ar gyfer nodi "cleifion perthnasol" yn ystod cyfnod y pandemig fydd ystyried a fyddai'r gwasanaethau a ddarperir i unigolyn yn cael eu darparu fel arfer gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd o dan ystyr y Mesur.  

Er mwyn darparu gwasanaethau a chydymffurfio â chyngor iechyd cyhoeddus fel cadw pellter cymdeithasol a hunanynysu, mae'n debygol iawn y bydd sefyllfaoedd yn codi lle bydd hi'n anodd i sefydliadau ac ymarferwyr ddilyn y Model Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, y Cod Ymarfer i Ran 2 a Rhan 3 o'r Mesur a Delivering the IMHA Service in Wales (Saesneg yn unig) ac unrhyw godau neu ganllawiau cysylltiedig eraill i'r eithaf.  

Awgrymir y dylai ymarferwyr gofnodi unrhyw resymau neu ffactorau sy'n gysylltiedig â COVID-19 sy'n effeithio ar y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau o dan y Mesur ac y dylai arweinwyr gwasanaethau gadw golwg cyson ar yr effaith hon.  

Bydd cyngor iechyd cyhoeddus hefyd yn gofyn i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau neu sy'n dod i gysylltiad â gwasanaethau addasu i ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau a bydd angen gwybodaeth a chyngor clir a chefnogol ar unigolion o ran pam a sut i wneud hynny.  

Mae'r system yn addasu i gynnal asesiadau ac ymyriadau, o reidrwydd, dros y ffôn neu ar-lein yn bennaf. Gall hyn arwain at heriau newydd i'w datrys o ran ymarfer a systemau, yn enwedig o ran cyrraedd unigolion na allant ymgysylltu yn y ffordd hon, a chysylltu â nhw.

Nid yw ymddangosiad COVID-19 yn golygu nad yw'r Mesur ar waith mwyach. Yn ogystal â pheri heriau eithriadol, mae hefyd yn amlygu'r diogelwch y gall y fframwaith cyfreithiol hwn ei gynnig yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae'n bwysig bod egwyddorion arweiniol y Mesur, fel y'u nodir yn y Cod Ymarfer, yn cael eu hystyried a'u cymhwyso gymaint â phosibl yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r Cynllun Gofal a Thriniaeth, er enghraifft, yn adnodd hanfodol er mwyn cyfathrebu a diogelu parhad gofal a thriniaeth, yn enwedig o gofio bod risg uwch y bydd Cydgysylltwyr Gofal yn absennol yn sydyn o'u gwaith. Gall cynlluniau cymorth mewn argyfwng unigol gael eu hadolygu a'u haddasu yn unol â chyngor iechyd cyhoeddus er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddarparu'r un cymorth ar yr amser cywir os oes angen. Dylai hyn gynnwys manylion cyswllt cyfredol, yn enwedig os bydd y Cydgysylltydd Gofal yn absennol dros dro ac os bydd newidiadau i'r gwasanaethau arferol a ddarperir.

Y flaenoriaeth wrth wynebu'r heriau digynsail hyn yw sicrhau y gall pobl gael cymorth iechyd meddwl yn y ffordd orau bosibl gan sicrhau ar yr un pryd bod cyngor iechyd cyhoeddus yn cael ei ddilyn er mwyn amddiffyn iechyd dinasyddion a'r gweithlu.

Datrys yr heriau

Gan gydnabod yr heriau hyn, a'r effaith y gallant ei chael ar y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y canlynol:

  • Atal trefniadau i gasglu data cenedlaethol ar Gyflawniad y GIG o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Bydd hyn yn lleihau'r baich sy'n gysylltiedig ag adroddiadau cenedlaethol, ond dylid parhau i gasglu data'n lleol.
  • Sefydlu'r Ganolfan Gydweithio Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl er mwyn dwyn ynghyd y canllawiau diweddaraf ar ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl a chreu pwynt cyswllt canolog. Gall unrhyw ymholiadau neu bryderon am weithredu gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19 gael eu cyfeirio i'r Ganolfan. Bydd hefyd yn llwyfan i rannu arfer dda. 

Gellir e-bostio unrhyw ymholiadau neu geisiadau am ganllawiau ychwanegol at GIG.NCCU@wales.nhs.uk.

Rhannu’r dudalen hon