Sut y dylai lleoliadau addysgol a gofal plant gynllunio ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt, gan gynnwys digwyddiadau iechyd y cyhoedd sylweddol a thywydd garw.
Cynnwys
Newidiadau i’r canllawiau hyn
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- cymorth i’r gweithlu ac i ddysgwyr yn ystod argyfwng
- e-ddysgu a chanllawiau pwrpasol am ddim Action Counters Terrorism (ACT) for Education
- cynllunio ôl-ddigwyddiad
Trosolwg
Bydd y canllawiau anstatudol hyn yn helpu lleoliadau addysg a gofal plant i gynllunio ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt. Mae’n berthnasol i:
- ysgolion
- y blynyddoedd cynnar, lleoliadau gofal plant a chwarae (gan gynnwys darpariaeth gwarchod plant, gofal dydd, gofal sesiynol, chwarae mynediad agored a Dechrau’n Deg)
- sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch
Mae pob argyfwng yn wahanol. Fodd bynnag, dylid:
- ystyried effeithiau ar addysg a lles cyn cymryd unrhyw gamau brys a chamau i reoli risg
- ymdrechu i aros ar agor ar gyfer cymaint o ddysgwyr â phosibl os yw’n ddiogel gwneud hynny
- adolygu a diweddaru asesiadau risg, polisïau a chynlluniau yn gyson er mwyn adlewyrchu canllawiau newydd neu ganllawiau sydd wedi’u diweddaru
- sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar addysg neu ofal plant
- sicrhau darpariaeth wyneb yn wyneb ar gyfer cynifer â phosibl o blant, dysgwyr a myfyrwyr
Mae diogelu plant a hybu eu lles o’r pwys mwyaf o hyd. Canllawiau anstatudol yw’r rhain, ac nid ydynt yn ymdrin â phob agwedd ar gynllunio at argyfyngau. Rhaid i chi gydymffurfio â’ch cyfrifoldebau cyfreithiol, gan gynnwys o dan gyfraith iechyd a diogelwch a chanllawiau diogelu statudol. Dylech gael cyngor cyfreithiol yn ôl yr angen.
Mae gwefan Prepare Llywodraeth y DU yn fan cychwyn defnyddiol ar sut i baratoi at argyfyngau ac ymateb iddynt, sut i fod yn fwy gwybodus am beryglon a pha gamau syml ond effeithiol i’w cymryd i’ch diogelu chi a’ch cymuned.
Mae e-ddysgu Actions Counters Terrorism (ACT) for Education yn darparu hyfforddiant pwrpasol sydd wedi'i anelu at yr holl staff sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg, a bydd yn eu dysgu sut i adnabod gwendidau o ran diogelwch a gweithgarwch amheus ac yn ogystal â sut i ymateb pan fydd digwyddiad.
Sut i roi gwybod am gau neu ddigwyddiadau
Ysgolion prif ffrwd
Mae’n ofynnol i ysgolion gyfleu manylion cau ysgolion lleol dros dro neu ddigwyddiadau i gyfarwyddwr addysg eu hawdurdod lleol.
Dylid hefyd e-bostio hysbysiadau cau i addysg.busnescorfforaetholachadernid@llyw.cymru, neu, yn achos colli pŵer neu gysylltedd, dylid ffonio 03001 231664.
Ysgolion annibynnol
Dylai ysgolion annibynnol gysylltu â Llywodraeth Cymru, fel y corff sy'n cofrestru cau unrhyw ysgolion. Dylid anfon yr hysbysiad i ysgolionannibynnol@llyw.cymru.
Lleoliadau blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, ysgolion preswyl annibynnol a sefydliadau addysg bellach sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
Rhowch wybod i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) am unrhyw gau dros dro.
Dylai’r rhai a gaiff eu hariannu i gynnal darpariaeth addysg (lleoliadau Cynnig Gofal Plant Cymru neu Dechrau’n Deg) hefyd roi gwybod i’r swyddog perthnasol yn yr awdurdod lleol.
Llunio cynllun argyfwng
Dylai pob lleoliad addysg, gofal plant a chwarae fod wedi rhoi cynlluniau argyfwng ar waith.
Mewn argyfwng, efallai na fydd yn bosibl cael gafael ar wybodaeth ddigidol. Felly, dylech gael copïau papur o’r canlynol i gyd:
- cynlluniau
- manylion cyswllt ar gyfer pob aelod o staff
- gwybodaeth gyswllt plant, dysgwyr a myfyrwyr
Dylai’r cynlluniau argyfwng:
- fanylu ar y camau i’w cymryd os bydd argyfwng
- helpu arweinwyr a staff i ymateb yn effeithiol i argyfwng yn y lleoliad, ar ymweliad neu ar daith ysgol
- bod yn ddigon cyffredinol i gwmpasu ystod o ddigwyddiadau posibl, yn ystod neu’r tu allan i oriau gwaith arferol, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau
Mae’r digwyddiadau sydd i’w cwmpasu gan gynlluniau argyfwng yn cynnwys:
- digwyddiadau iechyd y cyhoedd (er enghraifft achos sylweddol o glefyd heintus)
- tywydd garw (er enghraifft gwres eithafol, llifogydd, stormydd neu eira)
- anaf difrifol i blentyn, dysgwr, myfyriwr neu aelod o staff (er enghraifft mewn damwain trafnidiaeth)
- difrod sylweddol i eiddo (er enghraifft tân neu ddifrod damweiniol)
- gweithgarwch troseddol (er enghraifft bygythiad o fom, ymosodiad gwrthgymdeithasol neu fygythiol, tresmaswr, neu ymosodiad seiberddiogelwch)
- effeithiau trychineb yn y gymuned leol
- colli dŵr neu gyfleustodau
Gwybodaeth i’w chynnwys mewn cynllun argyfwng
Dylai cynllun da ymdrin â’r canlynol:
- rolau a chyfrifoldebau
- pryd a sut y dylid ceisio cyngor os bydd angen
- manylion y mathau o gamau y gellid eu cymryd pe bai argyfwng a’r hyn y dylid ei wneud i’w rhoi ar waith yn gyflym
- sut i sicrhau y bydd pob plentyn, dysgwr neu fyfyriwr yn cael yr addysg a’r gofal y mae ganddynt yr hawl arferol iddi, o safbwynt maint yr addysg a’i hansawdd, gan gynnwys o bell pan fydd hynny’n briodol
- cymorth ar gyfer lles staff, plant, dysgwyr a myfyrwyr
- i bwy y dylid rhoi gwybod (er enghraifft yr awdurdod lleol, yswirwyr, landlordiaid, AGC)
- sut y caiff gwybodaeth am newidiadau ei rhannu â phlant, dysgwyr, myfyrwyr, rhieni, gofalwyr a staff, ynghyd ag unrhyw amserlen ar gyfer dychwelyd i’r drefn arferol os bydd modd
- sut i ymateb os na chaiff y cyngor ei dderbyn
Dylai’r cynllun hefyd gynnwys gweithdrefnau argyfwng ar gyfer:
- darpariaeth gofleidiol (er enghraifft, ar gyfer clybiau gweithgareddau cyn ac ar ôl ysgol a gynhelir gan yr ysgol)
- diwrnodau agored, diwrnodau pontio neu ddiwrnodau rhagflas
- perfformiadau byw (gan gynnwys rhai gydag anifeiliaid) gyda chynulleidfa
- ymwelwyr
- teithiau y tu allan i’r lleoliad
Os oes gan y lleoliad gyfleusterau ehangach, dylai’r cynlluniau argyfwng gwmpasu’r ystad gyfan. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau na chânt eu defnyddio at ddibenion addysgol o bosibl, megis:
- cyfleusterau llety
- cyfleusterau hamdden neu adloniant
- canolfannau cynadledda
- cyfleusterau eraill a gaiff eu rhentu
Os nad yw’r sefydliad yn berchen ar y safle, fel lleoliad gofal plant mewn ysgol, bydd angen cynllunio ar y cyd er mwyn sicrhau bod cynlluniau argyfwng yn cyd-fynd â’i gilydd.
Rhybuddion argyfwng
Bydd system rhybuddion argyfwng Llywodraeth y DU yn anfon rhybuddion i bob dyfais 4G a 5G gydweddol yng Nghymru a Lloegr os oes perygl i fywyd gerllaw.
Gallwch wirio ar wefan Llywodraeth y DU:
- a yw rhybudd yn un dilys
- sut mae rhybuddion argyfwng yn gweithio a’r rhesymau pam y gallai pobl dderbyn rhybudd
Dylech adolygu eich cynlluniau argyfwng i gynnwys prosesau perthnasol os bydd rhybudd argyfwng yn eich ardal.
Meithrin partneriaethau
Mae sefydlu a chynnal perthnasoedd yn lleol a allai fod eu hangen mewn sefyllfa o argyfwng yn rhan o gynllunio argyfwng effeithiol.
Gallai hyn olygu, er enghraifft:
- lleoliadau addysg a gofal plant cyfagos
- yr heddlu
- eich awdurdod lleol
- fforwm Cymru gydnerth lleol
Gall sefydlu’r cysylltiadau hyn, casglu gwybodaeth a deall cynlluniau pobl eraill lywio datblygiad cynllun sy’n adlewyrchu trefniadau lleol a chenedlaethol.
Y broses cynllunio ar gyfer argyfwng
Mae paratoi ar gyfer argyfyngau yn broses barhaus sy’n cynnwys:
- ymwybyddiaeth
- asesu risg
- cynllunio wrth gefn
- hyfforddiant i staff
- ymarferion a phrofion (fel driliau tân)
- adolygu protocolau a chyfathrebu
- cydlynu a chynllunio gyda chyrff perthnasol
- adolygu parhaus
Ar bob cam yn y broses hon, mae’n bwysig ymgynghori â’r canlynol:
- aelodau o’r staff
- byrddau rheoli
- pwyllgorau
- cyrff llywodraethu (neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn eich lleoliad)
Mae eu cefnogaeth a’u cymorth yn bwysig.
Templed a chanllawiau ar gynllunio at argyfyngau
Mae enghraifft o ganllawiau ar gynllunio ar gyfer rheoli digwyddiadau tyngedfennol ar gael (gweler yr adran Adnoddau isod) ac mae'n cynnwys enghreifftiau o’r canlynol:
- templed ar gyfer datblygu cynllun argyfwng ysgol
- proses rheoli digwyddiadau tyngedfennol
- gweithdrefnau i ysgolion ar gyfer cyfyngiadau symud
Adnoddau
Mae’r adran hon yn darparu templedi ac adnoddau ar gyfer datblygu trefniadau argyfwng. Nid oes angen i’r rhain ddisodli unrhyw drefniadau sy’n bodoli eisoes.
Mae enghraifft o gynllun rheoli digwyddiad tyngedfennol, a ddatblygwyd gan awdurdod lleol, ar gael. Mae’n darparu fframwaith y gellir ei addasu i weddu i’r lleoliad. Ni fydd pob lleoliad yn gweithredu yn yr un modd, a dylech fod yn ymwybodol o unrhyw gyfarwyddyd, templedi neu adnoddau sy’n cael eu defnyddio gan leoliadau yn eich ardal.
Yn ogystal, mae enghraifft o dempled asesu risg yn ein canllawiau ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae mewn tywydd garw eithafol a thywydd poeth eithafol.
Ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, mae cymorth ac arweiniad hefyd ar gael gan y canlynol:
- timau gofal plant a chwarae awdurdodau lleol
- Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru)
- Blynyddoedd Cynnar Cymru (lleoliadau blynyddoedd cynnar)
- Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru (meithrinfeydd dydd)
- Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (clybiau y tu allan i’r ysgol a darpariaeth yn ystod gwyliau)
- Mudiad Meithrin (darpariaeth cyfrwng Cymraeg)
- Chwarae Cymru (chwarae mynediad agored)
- mae taflen wybodaeth Cwlwm ar gau lleoliadau gofal plant a chwarae dros dro neu mewn argyfwng yn cynnwys cyngor defnyddiol i bob lleoliad
Digwyddiadau iechyd y cyhoedd sylweddol
Fel arfer, ni fydd un achos neu frigiad a amheuir o glefyd heintus yn gyfystyr ag argyfwng.
Gellir rheoli’r rhan fwyaf o glefydau heintus ym myd addysg drwy ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys:
- Cyngor ac arweiniad ar gyfer lleoliadau gofal plant, cyn ysgol ac addysgol – Iechyd Cyhoeddus Cymru (GIG.cymru)
- Y Cynllun ar gyfer Brigiadau o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru
Dylech fod â chynlluniau argyfwng ar waith sy’n ystyried:
- y camau i’w cymryd os bydd digwyddiad iechyd y cyhoedd sylweddol
- pryd y byddai’n briodol i geisio cyngor arbenigol yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru
- cyngor ar fesurau i’w defnyddio yn ystod achos fel yr amlinellir yn yr offeryn gwella ansawdd Cyngor ac arweiniad ar gyfer lleoliadau gofal plant, cyn ysgol ac addysgol – Iechyd Cyhoeddus Cymru
- y gweithdrefnau y dylai staff eu dilyn wrth gofnodi achosion a hysbysu cyrff perthnasol fel AGC
Mae gan ymarferwyr meddygol cofrestredig yng Nghymru a Lloegr ddyletswydd statudol i hysbysu eu hawdurdod lleol neu dîm diogelu iechyd UKHSA lleol o achosion tybiedig o rai clefydau heintus (hysbysadwy). Bydd eich tîm diogelu iechyd lleol yn cysylltu â chi os oes angen i chi gymryd unrhyw gamau.
Mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd ar raddfa fawr lle mae’r llywodraeth yn gwneud penderfyniadau am gamau i’w cymryd ar lefel genedlaethol, byddwn yn gweithio gyda’r canlynol:
- Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC)
- UKHSA
- y Prif Swyddog Meddygol
- adrannau eraill y llywodraeth, yn ôl yr angen
- awdurdodau lleol perthnasol
- cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd
Os ydych chi’n brifysgol neu’n sefydliad addysg uwch arall, trafodwch unrhyw ymatebion i’r digwyddiadau mwyaf difrifol sy’n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd gyda’ch cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus lleol. Ceisiwch gael cytundeb ymlaen llaw ar gyfer eich ymateb, fel rhan o’ch cynllunio wrth gefn. Er enghraifft, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, cytunwch â nhw sut y byddwch yn ymateb i rai digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd os byddant yn digwydd.
Mae cyngor iechyd cyhoeddus i ysgolion mewn perthynas â heintiau anadlol, gan gynnwys COVID-19, ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r cyngor hwn yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn rheolaidd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu Timau Diogelu Iechyd (HPT) a Gwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan (AWARe).
Mae gwefan AWARe yn darparu gwybodaeth am y canlynol:
- Gwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan
- timau HPT a sut i gysylltu â nhw
Mae’n cynnwys y canllawiau, yr wybodaeth a’r hyfforddiant diweddaraf sydd ar gael i:
- weithwyr mewn lleoliadau addysg a gofal plant
- lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- awdurdodau lleol
- meddygon teulu
- y cyhoedd
Dylai ysgolion ac unedau AAA ystyried canllawiau ychwanegol, fel y canllawiau ar gyfer ysgolion addysg arbennig ynghylch heintiau anadlol acíwt, gan gynnwys COVID-19.
Dylai sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach ystyried y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau mewn perthynas â COVID-19 a chlefydau anadlol eraill. Mae’r canllaw rhestr wirio mesurau rheoli iechyd y cyhoedd ar gyfer busnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau: coronafeirws yn cynnwys rhestr wirio ddefnyddiol wrth ystyried pa fesurau rheoli i’w rhoi ar waith.
Mesurau rheoli iechyd
Awyru a dyfeisiau monitro carbon deuocsid
Mae defnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid yn effeithiol ac awyru da yn darparu mesur rheoli iechyd y cyhoedd effeithiol. Gweler:
- Rheoliadau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar awyru yn y gweithle
- Dyfeisiau monitro carbon deuocsid mewn lleoliadau addysg
Cyfarpar diogelu personol
Bydd angen i chi ystyried defnyddio cyfarpar diogelu personol lle bo’n briodol.
Fflysio allfeydd dŵr a chyfleusterau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml
Rydym yn argymell mabwysiadu trefn o fflysio allfeydd dŵr a chyfleusterau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml. Mae hyn yn helpu i atal a rheoli bacteria legionella mewn systemau dŵr a systemau oeri. Darllenwch ganllawiau’r HSE ar glefyd y llengfilwyr a rheoli’r clefyd mewn systemau dŵr.
Diweddariadau i’r canllawiau hyn
Byddwn yn monitro’r sefyllfa iechyd y cyhoedd barhaus yn agos ac yn diweddaru’r canllawiau hyn yn ôl yr angen. Bydd hyn yn seiliedig ar y cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Prif Swyddog Meddygol. Os oes achos o sefyllfa iechyd y cyhoedd sy’n gwaethygu, byddwn yn ystyried ystod o ymyriadau. Bydd y rhain yn dibynnu ar ddifrifoldeb y sefyllfa a’r risg i iechyd y cyhoedd. Gall yr opsiynau gynnwys cyflwyno ymyriadau anfferyllol, fel:
- cadw pellter cymdeithasol
gwisgo masgiau wyneb
mesurau golchi dwylo a hylendid personol
cau ysgolion yn llawn neu’n rhannol a symud i ddysgu ar-lein
Colli pŵer, cyfleustodau neu ddŵr yn annisgwyl
Dylai polisïau a phrosesau fod ar waith os bydd y canlynol yn methu:
- pŵer
- cyfleustodau
- dŵr
Ychydig iawn o rybudd a geir o ddigwyddiadau fel hyn, ac weithiau ni cheir rhybudd o gwbl, felly dylech gymryd amser i ystyried eich ymateb ymlaen llaw.
Bydd eich ymatebion yn dibynnu ar ystod o ffactorau, er enghraifft:
- a oes digon o olau a gwres ai peidio
- a oes dŵr ar gael ar gyfer yfed, toiledau a golchi dwylo ai peidio
- a oes modd paratoi a darparu bwyd yn ddiogel ai peidio
Efallai y byddwch am ofyn am gyngor timau iechyd yr amgylchedd er mwyn deall y goblygiadau o ran yr uchod a’r camau y gall fod angen iddynt eu cymryd.
Wrth gynllunio eich ymateb, dylech hefyd ystyried:
- yr amser o’r dydd
- yr adeg o’r flwyddyn
- yr amodau amgylcheddol ehangach (tywydd poeth neu law eithafol, er enghraifft)
- a yw’n fwy diogel i ddysgwyr a staff aros ar y safle ai peidio
- rhoi trefniadau ar waith i ddysgwyr gael eu casglu neu i wneud eu ffordd adref
Casglu plant
Mewn achos o golli pŵer, cyfleustodau neu ddŵr yn annisgwyl, bydd angen polisïau a gweithdrefnau clir ar ysgolion ar gyfer casglu plant. Dylai hyn gynnwys cynlluniau ar gyfer gofalu am blant a’u cadw’n ddiogel os na all eu rhieni neu eu gofalwyr eu casglu o’r lleoliad yn brydlon.
Dylech ystyried effeithiau materion pŵer eang, fel:
- colli llinellau ffôn tir a mynediad i’r rhyngrwyd
- colli mynediad ffôn symudol
- effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio
- effaith ar storfeydd a chyfarpar meddygol
Cau ysgolion a lleoliadau eraill
Dylech roi gwybod i’ch awdurdod lleol am y cau dros dro cyn gynted ag y gallwch chi (defnyddiwch eich cyfrif ar-lein os yw hynny’n bosibl). Dim ond pan fydd y cyflenwad pŵer neu ddŵr wedi ei adfer, a chadarnhad ei fod yn ddiogel, y bydd modd ailafael yn eich gwasanaeth. Pan fydd yn ddiogel ailagor y lleoliad, bydd angen cynnal asesiad risg, gyda’r awdurdod lleol.
Dylech baratoi ar gyfer colli pŵer neu gyfathrebu ar sail genedlaethol.
Dylech ystyried argraffu copïau papur o’r canlynol:
- cofrestrau
- manylion cyswllt mewn argyfwng
- y canllawiau diweddaraf
- cynlluniau argyfwng
Dylech ystyried lle addas ar gyfer cadw copi caled o gofnodion a chyflenwad o’r canlynol:
- fflachlampau
- batris
- radio FM batri at ddefnydd mewn argyfwng
Mewn achos o doriadau pŵer sylweddol, bydd cyhoeddiadau gan y BBC trwy radio FM.
Tywydd garw
Dylech gadw’ch lleoliad ar agor i gynifer o blant, dysgwyr a myfyrwyr â phosibl, lle mae’n ddiogel gwneud hynny. Dylech gymryd y camau angenrheidiol i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, dan do ac yn yr awyr agored.
Mae tywydd garw yn cynnwys:
- gwres eithafol
- llifogydd
- stormydd
- eira
Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen cau dros dro oherwydd anhygyrchedd neu risg o anaf.
Defnyddiwch system rhybudd tywydd garw y Swyddfa Dywydd i wirio am dywydd garw yn eich ardal.
Gallwch ddod o hyd i rybuddion llifogydd a chyngor ar lifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhif y llinell ffôn llifogydd yw 0345 988 1188. Mae hwn ar gael 24/7 ar gyfer cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd yng Nghymru.
Mae Ansawdd Aer Cymru yn darparu gwybodaeth am ansawdd aer ac yn rhoi rhagolwg llygredd aer.
Ysgolion
Mae ein canllawiau tywydd garw yn rhoi cyngor ymarferol i benaethiaid ar beth i’w ystyried wrth benderfynu a ddylid cadw ysgol ar agor.
Dylech ystyried darparu addysg o bell os ydych ar gau dros dro oherwydd tywydd garw. Dylech wneud popeth o fewn eich gallu i ailagor cyn gynted â phosibl.
Gall eich awdurdod lleol eich cefnogi i ailagor mor gyflym a diogel â phosibl.
Lleoliadau gofal plant a chwarae
Ni all lleoliadau gofal plant a chwarae gynnig darpariaeth o bell. Dylai lleoliadau sydd angen cau o ganlyniad i dywydd garw ailagor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Dylai lleoliadau gofal plant gysylltu â thîm gofal plant a chwarae eu hawdurdod lleol i gael help a chyngor pan fydd y lleoliad a'r modd y caiff ei weithredu wedi cael eu heffeithio gan dywydd garw.
Pan fydd yn rhaid i leoliad gau, bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ar daliadau ynghylch unrhyw ofal plant a archebir o dan Gynnig Gofal Plant Cymru. Bydd hyn yn digwydd fesul achos yn unol â chanllawiau Cynnig Gofal Plant Cymru.
Os yw tywydd garw wedi effeithio’n sylweddol ar leoliad Dechrau’n Deg, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael cyngor a chefnogaeth.
Addysg bellach
Sefydliadau addysg bellach sy’n gyfrifol am gynnal asesiadau risg yn eu sefydliad. Mae angen i chi hefyd benderfynu sut y byddwch yn parhau i weithredu’n ddiogel ar draws eich amgylcheddau addysgu a dysgu.
Delio â gwres eithafol
Dylai staff fod yn gyfarwydd ag arwyddion gorludded gwres a thrawiad gwres. Dylent wybod beth i’w wneud os bydd unrhyw un yn dangos arwyddion o drawiad gwres neu orludded gwres. Mae’n wybyddus y gall plant iau fod yn arbennig o agored i wres eithafol. Mae rhagor o ganllawiau ar hyn ar gael ar wefan 111 GIG Cymru. Mae angen trin trawiad gwres fel achos brys bob amser.
Yn ystod gwres eithafol, mae angen:
- osgoi gweithgarwch corfforol egnïol
- sicrhau cymaint o gysgod, awyru a hydradu â phosibl
- dylai plant wisgo dillad llac a golau os oes modd
- dylai plant wisgo hetiau ac eli haul yn yr awyr agored
Mae cyngor pellach am dywydd poeth eithafol ar gael i’w lawrlwytho o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Tywydd oer a llifogydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cyngor pellach ar ddigwyddiadau tywydd eithafol eraill, fel tywydd oer a llifogydd.
Dylai darparwyr gofal plant a chwarae sydd wedi gorfod symud i safle dros dro oherwydd tywydd garw hysbysu AGC a gwirio i weld a oes angen iddynt gofrestru’r safle newydd.
Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran ‘Parhad dysgu’ isod.
Digwyddiadau sy’n gysylltiedig â diogelwch
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar bob lleoliad addysg yng Nghymru i sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad i amgylchedd dysgu diogel. Mae hyn yn cynnwys diogelwch ar-lein. Dylid ystyried diogelwch staff ac ymwelwyr.
Mae’n bwysig cael polisi a chynllun ar waith i reoli ac ymateb i ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â diogelwch.
Dylai eich polisi diogelwch ategu eich polisi diogelu. Mae hyn yn bwysig ar gyfer unrhyw fesurau rydych chi’n eu rhoi ar waith i amddiffyn plant a phobl ifanc. Dylai hefyd fynd i’r afael â’r bygythiad o drais difrifol. Dylai fod yn rhan o’ch cyfres o bolisïau i sicrhau iechyd, diogelwch a lles myfyrwyr a staff.
Gwnewch yn siŵr bod eich staff a’ch myfyrwyr yn gyfarwydd â’ch polisi a’ch cynllun diogelwch. Dylai fod gan uwch staff ymwybyddiaeth o rwydweithiau diogelwch perthnasol. Dylent allu gwerthuso ac asesu effaith unrhyw fentrau newydd ar eich polisi diogelwch a’i weithrediad o ddydd i ddydd.
Os bwriedir cynnal dril, dylid trafod unrhyw faterion ymlaen llaw gyda dysgwyr mewn modd sensitif. Dylech roi gwybod i rieni a gofalwyr er mwyn iddynt roi cymorth gartref os oes angen.
Wrth ystyried eich cynllun, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen y cyngor a’r arweiniad canlynol.
- Mae 'Plan to prepare: Prepare to protect' yn darparu cymorth i werthuso a rheoli risgiau ynghlwm wrth derfysgaeth.
- Mae 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' yn nodi camau gweithredu a disgwyliadau ar ysgolion i sicrhau diogelwch a lles dysgwyr.
- Mae’r canllawiau ac adnoddau a ddarperir gan Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cynnwys y pecyn e-ddysgu ar-lein am ddim Action Counters Terrorism (ACT).
Cyfrifoldebau cyfreithiol am ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â diogelwch
Ysgolion
Corff llywodraethu’r ysgol sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch y dysgwyr, naill ai fel cyflogwr y staff neu am ei fod yn rheoli’r safle (neu’r ddau). Os nad y corff llywodraethu sy’n cyflogi staff yr ysgol, bydd gan yr awdurdod lleol gyfrifoldebau fel y cyflogwr.
Caiff dysgwyr eu diogelu gan y dyletswyddau a osodir o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch. Mae hyn oherwydd bod gweithredoedd cyflogwr yn effeithio arnynt neu am eu bod yn defnyddio adeiladau’r ysgol. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr asesu a rheoli risg ac, fel arfer, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) sy’n gorfodi’r ddeddfwriaeth hon mewn perthynas ag ysgolion. Rhaid i bob ysgol gael gweithdrefnau brys ar gyfer delio â digwyddiadau prin fel tresmaswyr neu derfysgaeth.
Lleoliadau gofal plant
Caiff plant a staff eu diogelu gan y dyletswyddau a bennir o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch am fod gweithredoedd cyflogwr yn effeithio arnynt. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr asesu a rheoli risg. Felly, mae’n bwysig bod gan leoliadau gofal plant bolisïau a chynlluniau ar waith ar gyfer rheoli digwyddiadau sy’n gysylltiedig â diogelwch ac ymateb iddynt.
Sefydliadau addysg bellach
Dylai sefydliadau addysg bellach ystyried diogelwch ochr yn ochr â chyfrifoldebau diogelu a’r rhwymedigaethau cyfreithiol sydd ganddynt fel cyflogwyr. Dylent sicrhau bod eu staff a’u myfyrwyr yn gyfarwydd â’r hyn sy’n ofynnol gan eu polisi a’u cynllun diogelwch.
Mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ganlynol:
Dylai digwyddiadau sy’n gysylltiedig â diogelwch, gan gynnwys seiberddiogelwch, fod yn rhan o’r gofrestr rheoli risg weithredol a chael eu hasesu o dan gynlluniau parhad busnes.
Seiberddiogelwch
Gall digwyddiad seiberddiogelwch gael effaith sylweddol ar allu eich lleoliad i weithredu, ei enw da, a diogelwch ei ddata.
Gyda’r ddibyniaeth gynyddol ar dechnoleg addysg, mae’n hanfodol bod lleoliadau’n barod i liniaru i’r eithaf unrhyw darfu ar weithrediadau ysgolion a bod ganddynt strategaeth glir ar sut i reoli digwyddiad seiberddiogelwch.
Dylai’r strategaeth hon fod yn rhan greiddiol o drefniadau cynllunio a rheoli ysgolion. Dylid ystyried seiberddiogelwch, a chyfeirio ato, ar draws polisïau perthnasol yr ysgol, gan gynnwys polisïau diogelu a diogelwch. Mae hefyd yn bwysig bod gan ysgolion gynllun rheoli digwyddiadau ar waith.
Wrth ystyried sut y byddwch yn ymateb i ymosodiadau seiber a pha gamau lliniaru y gallwch eu cymryd i ddiogelu unrhyw ddata a allai fod mewn perygl, efallai yr hoffech ystyried y camau canlynol yn eich strategaeth:
- deall eich model dilysu a’r rheolaethau diogelwch priodol sydd gennych ar waith
- rolau, cyfrifoldebau a llinellau adrodd os bydd digwyddiad
- cofnod o gynlluniau adfer wedi trychineb
- prosesau sefydledig ar gyfer dileu dyfeisiau defnyddwyr terfynol o bell ac ail-osod cymwysterau rhwydwaith a mynediad i ddefnyddwyr
- ystyried safonau digidol addysg ar gyfer diogelwch rhwydwaith a data
Gallwch gael cyngor ac arweiniad gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) a Llywodraeth Cymru i'ch helpu i gynllunio, datblygu a chynnal gallu ymateb effeithiol i seiberddigwyddiadau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am seiberddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â phlatfform cenedlaethol Hwb. Bydd unrhyw seiberddigwyddiad yn cael ei reoli yn unol â chyngor a gweithdrefnau NCSC, gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid ar draws y sector addysg. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau rheolaidd i roi sicrwydd bod uniondeb ac argaeledd Hwb yn cael eu hamddiffyn rhag bygythiadau neu ymdrechion i gael mynediad heb awdurdod.
Adnoddau hyfforddi seiber i staff
Gall ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o risgiau seiberddiogelwch a sut i sicrhau bod dyfeisiau a gwasanaethau yn ddiogel helpu i leihau’r risg o seiberddigwyddiad.
Mae’r modiwl hyfforddi hwn a gynhyrchir gan yr NCSC wedi’i gynllunio i gefnogi staff i wella seibergadernid eu lleoliadau.
Mae gwe-rwydo yn ymosodiad seiber cyffredin a gall staff gwblhau modiwl hyfforddi gwe-rwydo i’w helpu i fod yn effro i rai o’r technegau a ddefnyddir gan seiberdroseddwyr i gael mynediad at ddyfeisiau a gwasanaethau.
Mae adnoddau hyfforddi eraill ar gael, fel canllaw awgrymiadau ymarferol yr NCSC, a’r rhai sydd ar gael ar Hwb hefyd.
Gall ysgolion hefyd ddefnyddio 360 Safe Cymru, adnodd dwyieithog i hunanasesu eu darpariaeth diogelwch ar-lein ehangach, tra bydd yr elfen dechnoleg yn helpu i gefnogi datblygiad polisïau seiberddiogelwch eich ysgol.
Cynlluniau ôl-ddigwyddiad
Mae cynllunio ar gyfer canlyniadau digwyddiadau a chydnabod y trawma a all eu dilyn yn hanfodol ar gyfer gofal i’r dyfodol. Mae’n bwysig cydnabod straen neu PTSD yn dilyn digwyddiad trawmatig. Mae cymorth ar gael i staff ysgolion sy’n dystion neu sydd wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau trawmatig.
Bwriad y broses TRiM (Trauma Risk Management) yw asesu ymateb aelodau staff sydd wedi dod i gysylltiad â digwyddiad trawmatig posibl.
Mae adnoddau a manylion am yr hyfforddiant hwn ar gael ar wefan March on stress.
Mae cyngor a chymorth ychwanegol ar gael gan Rwydwaith Trawma De Cymru a Rhwydwaith Trawma Gogledd Orllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Cymru.
Cefnogi eich gweithlu, plant, dysgwyr a myfyrwyr drwy argyfwng
Gweithlu
Mae cyfrifoldeb cyfreithiol cyffredinol ar gyflogwyr i gynnal iechyd a diogelwch a lles gweithwyr a phobl sy’n bresennol ar eu safleoedd.
Dylech allu esbonio i’ch gweithlu sut y byddwch yn eu cadw’n ddiogel yn y gwaith. Dylai eich asesiad risg yn y gweithle ystyried unrhyw risgiau i’r canlynol:
- gweithwyr benywaidd o oedran geni plant
- mamau newydd a darpar famau
Dylech drafod pryderon gyda’r staff.
Canllawiau pellach:
- Canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar reoli risgiau ac asesu risg yn y gweithle
- Offeryn gwella ansawdd ar gyfer lleoliadau gofal plant ac addysg yng Nghymru
- Cyngor iechyd y cyhoedd i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau
Dylai asesiadau risg a’r polisïau sy’n deillio ohonynt nodi unrhyw gamau i’w cymryd mewn argyfwng yn glir.
Dylech hefyd ystyried sut y byddwch yn parhau i gyfathrebu â theuluoedd. Dylech roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau. Os yw hynny’n bosibl, dylech hefyd ddarparu cymorth, er enghraifft, darparu syniadau ar gyfer gweithgareddau a thaflenni gwaith i ddysgwyr wrth i ysgolion gau.
Prinder staff yn ystod argyfwng
Chi sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y gweithlu sydd ei angen i ddiwallu anghenion plant, disgyblion a myfyrwyr yn eich lleoliad.
Os ydych yn profi absenoldebau staff, dilynwch eich trefn arferol ar gyfer ymdrin â’r rhain. Mae canllawiau ar gael ar reoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol.
Os ydych chi’n ystyried newid trefniadau dosbarth, ystyriwch ganllawiau ar gapasiti ysgolion a’r cyfyngiadau ar feintiau dosbarthiadau babanod.
Mae Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013 yn cyfyngu ar faint dosbarth babanod i 30 o ddysgwyr fesul athro neu athrawes. Mae hyn yn amodol ar nifer cyfyngedig o eithriadau a nodir yn y Cod Derbyn i Ysgolion.
Rhaid i ysgolion a lleoliadau gofal plant gydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig. Yn ystod cyfnodau o brinder staff, bydd angen i chi sicrhau y gallwch gadw at ofynion maint grwpiau a’r gymhareb staff i blentyn.
Mae’r safonau’n berthnasol i:
- ysgolion
- lleoliadau gofal plant
- lleoliadau chwarae
- gofal cofleidiol cyn ac ar ôl ysgol
- darpariaeth yn ystod gwyliau
Sefydliadau addysg bellach
Dylai sefydliadau addysg bellach barhau i fod ar agor a chynnig dysgu wyneb yn wyneb lle mae’n ddiogel gwneud hynny. Pan fo lleoliadau addysg bellach yn profi absenoldebau staff, yn y lle cyntaf, dylent ddilyn eu proses arferol ar gyfer ymdrin ag absenoldebau.
Fel sefydliad addysg bellach, os na all rhai aelodau o staff gyrraedd y gwaith, efallai y byddwch am ystyried y canlynol:
- parhau i ddefnyddio staff dros dro
- y ffordd y mae staff yn gweithio, a defnyddio staff presennol yn fwy hyblyg
- dod â grwpiau a dosbarthiadau ynghyd gydag ymarferwyr a staff cymorth yn gweithio gyda’i gilydd
- defnyddio arferion dysgu cyfunol neu gyflwyno’n ddigidol i sicrhau parhad addysg
Blaenoriaethu lleoedd
Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd angen i chi flaenoriaethu lleoedd yn y lleoliad dros dro. Yn yr achos hwn, dylid rhoi blaenoriaeth i:
- plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed
- plant gweithwyr hanfodol
- dysgwyr sy’n sefyll arholiadau
Gall y lleoedd sy’n weddill gael eu llenwi gan blant o’r tu allan i’r grwpiau blaenoriaeth hyn.
Gall yr amgylchiadau eithriadol gynnwys cau lleoliad dan gyfarwyddyd yr awdurdod lleol neu Lywodraeth er budd yr ardal leol neu’r wlad. Nid yw hyn yn cynnwys gwyliau banc, ond gallai gynnwys:
- salwch sydd ar led yng nghymuned yr ysgol neu leoliad gofal plant gan arwain at gau’r ysgol/lleoliad yn llawn
- dim modd sicrhau lefelau staffio diogel
- cau adeilad am gyfnod byr oherwydd problemau diogelwch (er enghraifft, methiant y system wresogi, problemau gyda’r cyflenwad pŵer, tân bach neu lifogydd)
- cau adeilad am gyfnod hir oherwydd problemau diogelwch mawr (er enghraifft, adeiledd yr adeilad, tân mawr neu lifogydd sylweddol)
Cofnodi presenoldeb yn ystod argyfwng
Dylai ysgolion a lleoliadau gadw cofnod o bresenoldeb. Dylai teuluoedd roi gwybod i’r ysgol os na all eu plentyn fod yn bresennol, gan esbonio’r rheswm dros yr absenoldeb er mwyn galluogi’r ysgol i gofnodi presenoldeb yn gywir.
Rhaid i ysgolion sydd ar agor o hyd barhau i gofnodi presenoldeb y dysgwyr yn y gofrestr gan ddefnyddio’r cod mwyaf priodol. Rhaid i’r cod ddilyn canllawiau presenoldeb yr ysgol.
Pan nad oes modd i ddysgwyr fynychu’r ysgol dylid gwneud y canlynol:
- defnyddio cod I os yw dysgwyr yn sâl neu os oes ganddynt salwch heintus
- defnyddio cod Y os na all dysgwyr fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau eithriadol, oni bai bod cod mwy priodol yn gymwys
Cofnodi presenoldeb ar gyfer addysg o bell
Dylech gyfeirio at y canllawiau ar ddarparu addysg o bell. Pan fydd dysgwr yn absennol ond yn derbyn addysg o bell, rhaid cofnodi hyn yn y gofrestr bresenoldeb gan ddefnyddio’r cod mwyaf priodol. Dylech barhau i gadw cofnod a monitro ymgysylltiad dysgwyr ag addysg o bell. Nid oes rhaid i chi olrhain hyn yn ffurfiol yn eich cofrestr bresenoldeb.
Mae canllawiau presenoldeb ar gael. Mae ‘Canllawiau ar godau presenoldeb yn yr ysgol’ yn nodi’r rhestr o godau presenoldeb i’w defnyddio ym mhob ysgol yng Nghymru
Lleoliadau gofal plant
Rhaid i leoliadau gofal a chwarae gydymffurfio â’r 'Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig'. Yn ystod cyfnodau o brinder staff, bydd angen i chi sicrhau y gallwch gadw at ofynion maint grwpiau a’r gymhareb staff i blentyn. Mae’r safonau hefyd yn berthnasol i ddarparwyr ar ôl ysgol a gwyliau.
Dysgwyr sydd ag anableddau, anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol
Dylai lleoliadau weithio gyda’u hawdurdod lleol yn ogystal â rhieni a gofalwyr i gefnogi pobl ifanc sy’n agored i niwed.
Mae plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cynnwys dysgwyr gydag:
- anghenion addysgol arbennig (AAA)
- anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- anableddau
Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol weithio gyda’r teulu bob amser. Dylent eu sicrhau o’r mesurau diogelwch sydd ar waith gyda’r bwriad o gefnogi eu dychweliad i’r ysgol. Ym mhob amgylchiad, mae’n hanfodol bod yr ysgol yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd â’r dysgwr o bell.
Mae ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’ yn cynnwys canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant.
Diogelu
Mae’n rhaid i bob ysgol a lleoliad gofal plant fod â pholisi diogelu. Dylai’r polisi hwn fod ar gael yn hawdd i’r holl staff.
Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gael un pwynt cyswllt fel y gall pobl sy’n gweithio gyda phlant godi pryderon am blentyn sy’n wynebu risg. Rhaid cynnwys manylion cyswllt yn y polisi diogelu.
Dylai pawb sy’n gweithio mewn ysgol neu leoliad gofal plant cofrestredig wybod sut i godi pryder am blentyn sydd mewn perygl. Mae hyn yn unol â gofynion y 'Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant wedi’i Reoleiddio'. Dylent fod yn gyfarwydd â’r canlynol:
- cyswllt awdurdod lleol
- manylion y person diogelu dynodedig yn eu lleoliad er mwyn codi pryder o’r fath
Disgwylir i leoliadau gofal plant a chwarae nad ydynt wedi cofrestru ddilyn y cyngor yn y cod ymarfer gwirfoddol ‘Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl’. Mae hyn yn cynnwys:
- gofal plant a sesiynau chwarae
- clybiau ar ôl ysgol sy’n gweithredu am lai na 2 awr
Mae cyngor pellach ar gael ar wefan Gweithdrefnau Diogelu Cymru a’ch byrddau diogelu rhanbarthol.
Darparu bwyd i ddysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
Dylech barhau i ddarparu opsiynau prydau bwyd i bob dysgwr sydd yn yr ysgol. Dylai prydau bwyd barhau i fod ar gael yn rhad ac am ddim i bob dysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y meini prawf sy’n gysylltiedig â budd-daliadau neu o dan y cynnig Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.
Os bydd ysgolion yn cau oherwydd argyfwng, byddem yn annog lleoliadau i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r dysgwyr cymwys a nodwyd. Dylech siarad â’ch awdurdod lleol a’ch tîm arlwyo ysgol i weld a yw hyn yn ymarferol neu’n bosibl. Dylech hefyd ystyried goblygiadau gwneud hynny. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dysgwyr cymwys yn parhau i gael eu cefnogi yn ystod y cyfnod byr pan na allant fynychu’r ysgol.
Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn nodi dysgwyr ag unrhyw ofynion deietegol a ragnodwyd yn feddygol, gan gynnwys alergeddau. Bydd angen i chi sicrhau bod pob dysgwr yn gallu bwyta cinio ysgol yn ddiogel. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn amgylchiadau lle nad yw arlwywyr yn gweini prydau bwyd i ddysgwyr yn uniongyrchol ond yn hytrach bod bwyd yn cael ei weini i’r dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth, er enghraifft.
Lles a chymorth
Mae’n rhaid i ddarparwyr addysg a gynhelir ddilyn canllawiau statudol ar gefnogi anghenion iechyd meddwl a lles y canlynol:
- dysgwyr
- myfyrwyr
- staff
Mae hefyd yn bosibl i’r rhain gael eu defnyddio gan ddarparwyr nas cynhelir, gan gynnwys:
- meithrinfeydd
- sefydliadau addysg bellach
- sefydliadau addysg uwch
Mae cymorth ychwanegol hefyd ar gael wrth roi’r fframwaith dull ysgol gyfan ar waith, gan gynnwys:
- mewngymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) drwy fyrddau iechyd sy’n cynnig goruchwyliaeth a chanllawiau i staff ysgolion ar faterion y bydd dysgwyr a myfyrwyr yn eu cyflwyno
- darpariaeth gwnsela ychwanegol, sydd ar gael i blant a phobl ifanc, yn ogystal â staff
- hyfforddiant i staff ysgolion ar ddefnyddio ymyriadau i gefnogi plant a phobl ifanc
- cyllid ychwanegol i ysgolion er mwyn defnyddio ymyriadau therapiwtig
- adnoddau ar-lein i ddysgwyr, myfyrwyr a staff ar gael ar Hwb
- y ‘Pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc’
- canllawiau i weithwyr proffesiynol ac ysgolion ar ymateb i faterion hunan-niweidio a theimladau hunanladdol ymhlith pobl ifanc
- llinell gymorth 24 awr CALL galwadau ffôn a negeseuon testun
- fframwaith iechyd a llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru, sy’n nodi cefnogaeth i leoliadau a staff
Dylech feddwl yn ofalus am sut i gyfathrebu â staff a theuluoedd pan fydd eich lleoliad wedi gorfod cau. Dylech gytuno ar ddulliau o gadw mewn cysylltiad â staff yn rheolaidd.
Lleoliadau blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae
Ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gall y canlynol hefyd gynnig cefnogaeth ac arweiniad:
- timau gofal plant a chwarae awdurdodau lleol
- Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru)
- Blynyddoedd Cynnar Cymru (lleoliadau blynyddoedd cynnar)
- Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru (meithrinfeydd dydd)
- Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (clybiau y tu allan i’r ysgol a darpariaeth yn ystod y gwyliau)
- Mudiad Meithrin (darpariaeth cyfrwng Cymraeg)
- Chwarae Cymru (chwarae mynediad agored)
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol
Sefydliadau addysg bellach
Mae’n bosibl y bydd rhai pobl ifanc ac oedolion yn profi amrywiaeth o emosiynau wrth ymateb i sefyllfa o argyfwng, megis:
- gorbryder
- straen
- hwyliau isel
Mae dyletswydd gofal ar sefydliadau addysg bellach i’w staff a’u myfyrwyr. Dylent roi’r cymorth angenrheidiol i unigolion sy’n wynebu problemau lles.
Dylai sefydliadau addysg uwch weithio gyda staff, myfyrwyr a’u teuluoedd sy’n bryderus, i roi sicrwydd iddynt. Dylai trafodaethau fod yn gydweithredol. Dylent ganolbwyntio ar les y myfyriwr ac ymateb i bryderon y rhieni, gofalwyr neu fyfyrwyr, yn enwedig lle mae myfyrwyr yn byw’n annibynnol.
Byddem yn cynghori unrhyw fyfyriwr mewn addysg uwch sy’n profi problemau iechyd meddwl neu gorfforol i gysylltu â’u hundeb myfyrwyr. Gallant helpu myfyrwyr i archwilio’r gwasanaethau cymorth a lles sydd ar gael iddynt.
Tarfu ar arholiadau ac asesu
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i gynllunio ar gyfer senarios lle:
- mae tarfu cenedlaethol ar addysgu neu ddysgu wyneb yn wyneb
- mae sefyllfa iechyd y cyhoedd sy’n atal cynnal cyfres lawn o arholiadau
- nad yw’n bosibl dibynnu ar gyfres lawn o arholiadau i ddyfarnu graddau
Mae cynllun system arholiadau wrth gefn ar gael i ddelio ag unrhyw darfu sylweddol:
- a all effeithio ar ymgeiswyr arholiad
- sy’n creu angen i roi trefniadau asesu amgen ar waith
Os bydd tarfu sylweddol, bydd rhagor o gyngor a chymorth ar gael hefyd gan CBAC a Cymwysterau Cymru.
Lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a lleoliadau arbenigol
Mae canllawiau statudol ar ‘Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd’ yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a lleoliadau addysg yng Nghymru gael polisi anghenion gofal iechyd ar waith.
Dylech sicrhau y caiff dysgwyr sydd ag unrhyw gyflwr meddygol eu cefnogi’n briodol Dylai ysgolion barhau i ymgynghori â rhieni a gofalwyr ynglŷn ag anghenion cymorth penodol ac arfer eu disgresiwn mewn modd hyblyg wrth gytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer dysgwyr penodol.
Byddem yn annog dull ymarferol a hyblyg i sicrhau y caiff anghenion unigolion eu diwallu. Dylech ystyried hyn fel rhan o unrhyw asesiad risg. Er enghraifft, gall fod yn briodol amserlennu a threfnu cylch hwy o gymorth un i un, er mwyn cyflawni lefelau cyffredinol o gymorth a sicrhau cyn lleied â phosibl o ryngweithio agos rhwng unigolion ar yr un pryd.
Er na chynghorir ysgolion i gynnal grwpiau cyswllt, rydym yn cydnabod y bydd rhai ysgolion am deilwra darpariaeth ar gyfer rhai dysgwyr sydd ag ADY. Gall hyn fod o ganlyniad i anghenion iechyd penodol a ganfuwyd fel rhan o’r broses asesu risg.
Bydd angen ystyriaeth ychwanegol pe bai:
- plentyn yn derbyn gofal
- plentyn yn gyfrifoldeb i awdurdod lleol gwahanol
- plentyn yn croesi ffin awdurdod lleol
- dysgwyr neu staff ysgol yn croesi i Gymru o Loegr a fel arall i fynychu dosbarthiadau neu waith
Efallai y bydd angen i chi hefyd fod yn gyfarwydd â’r broses pan fydd gwahanol genhedloedd neu awdurdodau lleol cyfagos yn mabwysiadu agwedd wahanol i gau ysgolion ac argyfyngau.
Lleoliadau preswyl mewn ysgolion annibynnol a sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
Byddem yn annog dull ymarferol a hyblyg i sicrhau y caiff anghenion unigolion eu diwallu. Dylech ystyried hyn fel rhan o unrhyw asesiad risg. Er enghraifft, amserlennu a threfnu cefnogaeth un-i-un dros gylch hirach, er mwyn cynnal lefelau cyffredinol o gefnogaeth wrth leihau rhyngweithiadau agos rhwng unigolion.
Mae canllawiau statudol ar ‘Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd’ yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a lleoliadau addysg yng Nghymru gael polisi anghenion gofal iechyd ar waith. Dylai’r rhain geisio sicrhau bod myfyrwyr ag unrhyw gyflwr meddygol yn cael eu cefnogi’n briodol. Dylai ysgolion barhau i ymgynghori â rhieni a gofalwyr ynglŷn ag anghenion cymorth penodol ac arfer eu disgresiwn mewn modd hyblyg wrth gytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer dysgwyr penodol.
Byddem yn annog ysgolion annibynnol a sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol i barhau i ofalu am bobl ifanc lle bo’n ddiogel i wneud hynny a lle bo’n bosibl.
Dylai ysgolion annibynnol a sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi cofrestru gyda AGC roi gwybod i’r arolygiaeth os ydynt yn cau eu darpariaeth breswyl dros dro.
Mae’r 'Canllawiau ar Gofrestru a Gweithredu Ysgolion Annibynnol' yn darparu rhagor o wybodaeth i ysgolion annibynnol. Bydd y canllawiau yn cael eu diweddaru fel rhan o’r gwaith i gryfhau rheoliadau safonau ysgolion annibynnol.
Parhad dysgu
Yn ystod cyfnodau o darfu, mae’n hanfodol bod dysgu a lles yr holl blant a phobl ifanc yn ein hysgolion yng Nghymru yn cael eu cynnal.
Dylai pob ysgol yng Nghymru nodi eu cynlluniau wrth gefn ar gyfer parhad dysgu. Dylech gynnwys y rhain yn eich trefniadau arferol o ran cynllunio parhad busnes neu gynllun datblygu ysgol.
Bydd hyn yn sicrhau bod gwaith cynllunio yn digwydd o ran parhad dysgu, gan liniaru effaith unrhyw darfu ar ddysgu plant a phobl ifanc.
Mae’r templed cynllunio a chanllawiau parhad dysgu yn darparu cymorth ychwanegol i ysgolion.
Enghraifft o ganllawiau ar reoli digwyddiadau tyngedfennol
Mae enghraifft o ganllawiau ar reoli digwyddiadau tyngedfennol sy’n cynnwys yr enghreifftiau canlynol:
- templed ar gyfer datblygu cynllun argyfwng ysgol
- proses rheoli digwyddiadau tyngedfennol
- gweithdrefnau i ysgolion ar gyfer cyfyngiadau symud
Mae’n bosibl y bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol i bob lleoliad wrth ddatblygu trefniadau argyfwng priodol. Maent yn darparu fframwaith y gellir ei addasu i weddu i’r awdurdod lleol neu’r lleoliad addysg.
Nid oes angen i’r templedi a’r adnoddau enghreifftiol ddisodli unrhyw drefniadau presennol sydd eisoes ar waith.
Plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed
Mae diffiniad eang o ddysgwr sy’n agored i niwed a dan anfantais wedi’i fabwysiadu yn ystod ymateb argyfwng COVID-19. Mae’n cynnwys dysgwyr sy’n perthyn i un neu fwy o’r grwpiau canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt:
- dysgwyr sydd ag AAA neu ADY
- dysgwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol sydd â Chymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol (CIY neu SIY)
- plant â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal
- dysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol
- plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
- gofalwyr ifanc
- plant sy’n wynebu risg o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod
Nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr. Ni fydd pob dysgwr o’r grwpiau hyn yn wynebu rhwystrau i ddysgu nac yn agored i dangyflawni. Gall dysgwyr o’r grwpiau hyn wynebu amrywiaeth o rwystrau i gyflawni eu potensial. Felly bydd angen dulliau gwahanol arnynt a chymorth penodol er mwyn diwallu eu holl anghenion unigol. Yn ogystal, gall dysgwyr berthyn i nifer o’r grwpiau uchod ar yr un pryd. Bydd hyn yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol.
Yn ogystal, gellir ystyried bod dysgwyr nad ydynt yn y grwpiau hyn hefyd yn agored i niwed neu dan anfantais. Er enghraifft, gallai dysgwyr na fyddent wedi cael eu hystyried yn agored i niwed neu dan anfantais cyn COVID-19 fod angen cymorth ychwanegol bellach pan fyddant yn dychwelyd i’r ysgol oherwydd eu profiad yn ystod y cyfyngiadau symud.
Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol ar ddysgwyr a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg sydd o gartrefi lle na chaiff y Gymraeg ei siarad. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydynt yn wynebu rhwystrau eraill i ddysgu hefyd. Gall hyn fod yn wir i’r dysgwyr hynny nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Gweithwyr hanfodol
Dylai lleoliadau addysg geisio sicrhau bod cynifer â phosibl o blant, dysgwyr a myfyrwyr yn cael darpariaeth wyneb yn wyneb yn ystod argyfwng. Os bydd effaith argyfwng yn golygu na all pawb gael darpariaeth wyneb yn wyneb, dylid rhoi gwybod i’r rhieni a gofalwyr wrth gyfathrebu â nhw ynglŷn ag effaith yr argyfwng. Wrth gyfathrebu â’r rhieni a’r gofalwyr, dylid nodi pa grwpiau a gaiff eu blaenoriaethu ar gyfer darpariaeth wyneb yn wyneb, a dylid eu gwahodd i hysbysu’r lleoliad os ydynt yn perthyn i un o’r categorïau o weithwyr hanfodol.
Mae’r rhai sy’n gweithio yn y meysydd canlynol ymhlith y rhieni a’r gofalwyr y mae eu gwaith yn hanfodol i’r ymateb i argyfwng:
- iechyd a gofal cymdeithasol
- sectorau allweddol a amlinellir yn yr adrannau canlynol
Os bydd amgylchiadau eithriadol yn golygu y bydd presenoldeb wedi’i gyfyngu dros dro, gall plant sydd ag o leiaf un rhiant neu ofalwr sy’n weithiwr hanfodol fynd i’w lleoliad. Fodd bynnag, dylai rhieni a gofalwyr gadw eu plant gartref os oes modd.
Iechyd a gofal cymdeithasol
Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- meddygon
- nyrsys
- bydwragedd
- parafeddygon
- gweithwyr cymdeithasol
- gweithwyr gofal
- staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen eraill, gan gynnwys gwirfoddolwyr
- staff cymorth ac arbenigol sydd eu hangen i gynnal sector iechyd a gofal cymdeithasol y DU
- y rhai sy’n gweithio fel rhan o gadwyn gyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynhyrchwyr a dosbarthwyr meddyginiaethau a chyfarpar meddygol a diogelu personol
Addysg a gofal plant
Mae hyn yn cynnwys:
- gofal plant
- staff cymorth a staff addysgu
- gweithwyr cymdeithasol
- gweithwyr proffesiynol addysg arbenigol sy’n gorfod parhau i ddarparu addysg o’r fath yn ystod ymateb i argyfwng
Gwasanaethau cyhoeddus allweddol
Mae hyn yn cynnwys:
- y rhai sy’n hanfodol i redeg y system gyfiawnder
- staff crefyddol
- elusennau a gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen
- y rhai sy’n gyfrifol am reoli’r ymadawedig
- newyddiadurwyr a darlledwyr sy’n darparu gwasanaeth darlledu cyhoeddus
Llywodraeth leol a chenedlaethol
Mae hyn ond yn cynnwys y galwedigaethau gweinyddol hynny sy’n hanfodol er mwyn darparu’r canlynol yn effeithiol:
- ymateb i argyfwng
- gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, megis talu budd-daliadau, gan gynnwys o fewn asiantaethau’r llywodraeth a chyrff hyd braich
Bwyd a nwyddau angenrheidiol eraill
Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n:
- cynhyrchu bwyd
- prosesu bwyd
- dosbarthu bwyd
- gwerthu a chyflenwi bwyd
a’r rhai sy’n hanfodol i ddarparu nwyddau allweddol eraill (er enghraifft, nwyddau hylendid a meddyginiaethau milfeddygol).
Diogelwch y cyhoedd a diogelwch gwladol
Mae hyn yn cynnwys:
- yr heddlu a staff cymorth
- sifiliaid y Weinyddiaeth Amddiffyn
- contractwyr a phersonél o’r lluoedd arfog (y rhai sy’n hanfodol i ddarparu allbynnau allweddol ym maes amddiffyn a diogelwch gwladol ac sy’n hanfodol i ymateb i argyfwng)
- cyflogeion gwasanaethau tân ac achub (gan gynnwys staff cymorth)
- staff yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
- y rhai sy’n cynnal diogelwch y ffin, staff carchardai a phrawf a rolau eraill ym maes diogelwch gwladol, gan gynnwys y rhai sydd dramor
Trafnidiaeth
Mae hyn yn cynnwys:
- y rhai a fydd yn sicrhau bod dulliau trafnidiaeth trwy’r awyr, dros ddŵr, ar y ffyrdd a theithwyr rheilffyrdd a chludo nwyddau yn parhau yn ystod yr ymateb i argyfwng
- y rhai sy’n gweithio ar systemau trafnidiaeth y mae cadwyni cyflenwi yn mynd drwyddynt
Cyfleustodau, cyfathrebu a gwasanaethau ariannol
Mae hyn yn cynnwys:
- staff y mae eu hangen i ddarparu gwasanaethau ariannol hanfodol (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithwyr mewn banciau, cymdeithasau adeiladu a seilwaith y farchnad ariannol)
- y sectorau olew, nwy, trydan a dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth)
- y sector technoleg gwybodaeth a seilwaith data a chyflenwadau diwydiant sylfaenol y bydd angen iddynt barhau yn ystod ymateb i argyfwng
- staff allweddol sy’n gweithio yn y diwydiannau niwclear sifil, cemegion a thelathrebu (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithrediadau rhwydwaith, peirianneg maes, staff canolfannau galwadau, TG a seilwaith data, gwasanaethau hanfodol 999 a 111)
- gwasanaethau post a darpariaeth
- darparwyr taliadau
- sectorau gwaredu gwastraff