Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i ddarparwyr llety ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi’r broses o reoli goroeswyr cam-drin domestig a’u plant sy’n byw mewn llety ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig, gan gynnwys llety diogel mewn argyfwng a llety symud ymlaen. Mae’r holl ddarparwyr gwasanaeth yn gyfrifol am gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o fod yn agored i ddal COVID-19 mewn gweithleoedd ac adeiladau o dan Reoliad 12 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Er bod Rheoliad 14 yn cyfyngu ar ymgynnull y tu mewn, mae’n nodi bod ymgynnull y tu mewn yn esgus rhesymol os gwneir hynny i osgoi anaf neu salwch, neu i ddianc rhag perygl o niwed (rheoliad 14(2)(o)).

At ddibenion y canllawiau hyn, mae’r term ‘lloches’ yn cynnwys:

  • lloches a rennir
  • lloches gymunedol
  • llety gwasgaredig, hunangynhwysol neu lety â chymorth
  • llety symud ymlaen

Mae’r canllawiau hyn hefyd yn rhoi cyngor ar reoli hunanynysu i gleientiaid a’u plant dan 18 oed os byddan nhw, neu aelod o staff y lloches, yn dangos symptomau COVID-19 neu’n cael canlyniad positif am COVID-19. Gall safleoedd lloches fod yn llety hunangynhwysol ar gyfer unigolion neu unigolion a’u plentyn/plant, neu gallant fod yn adeiladau ag ystafelloedd niferus sy’n darparu lloches i nifer o unigolion neu unigolion a’u plentyn/plant mewn lloches. Caiff y ddau fath o adeilad/lleoliad eu hystyried yn un aelwyd at ddibenion yr holl unigolion sy’n cael lloches yno, a bydd y mesurau hunanynysu yn berthnasol i’r holl breswylwyr fel un aelwyd.

Mae canllawiau pellach ar reoli camau llacio'r rheoliadau hefyd ar gael i wasanaethau VAWDASV yn y gymuned.

COVID-19 a VAWDASV

Mae’n dal yn gynnar i weld tystiolaeth o effaith COVID-19 ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ac mae’r dystiolaeth hon yn dod yn bennaf o adroddiadau ac erthyglau newyddion gan fudiadau VAWADSV a gwledydd eraill mae hyn wedi effeithio arnynt. Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar wybodaeth rydym eisoes yn ei gwybod, a gallwn eu haddasu yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Cynnydd mewn cam-drin rhywiol, corfforol neu emosiynol, a rheoli ariannol

Os yw unigolion sy’n cam-drin yn treulio mwy o amser yn y cartref a bod ganddynt fwy o fynediad at aelodau o'r teulu a phlant, gallem weld cynnydd mewn gwahanol fathau o gam-drin, cynnydd ym mha mor ddifrifol yw'r cam-drin, a chynnydd posibl yn nifer y plant sy’n gweld camdriniaeth.

Gallai hyn gynnwys:

  • ynysu eu partner neu aelod o’r teulu oddi wrth deulu a ffrindiau i raddau pellach,
  • rhoi gofynion neu orchmynion afresymol ar eu partner neu aelod o’r teulu
  • beirniadu dulliau magu plant eu partner yn amlach
  • cyfeirio camdriniaeth at blant
  • defnyddio'r pandemig i gyfiawnhau mwy o reolaeth ariannol
  • rhwystro eu partner neu aelod o’r teulu rhag gofalu am unigolion hŷn sy’n annwyl iddynt
  • rhwystro eu partner neu aelod o'r teulu rhag gweithio, neu eu gorfodi i barhau i weithio hyd yn oed os oes ofn mynd yn sâl arnynt

Gallai hefyd fod yn bosibl bod pwysau cymdeithasol cynyddol a ffactorau sy’n gwaethygu, fel pryderon am arian neu iechyd a chael eu cyfyngu am gyfnodau hir gydag aelodau eraill o'r teulu, yn golygu bod y rheini nad oeddent yn cael eu cydnabod yn aelodau o'r teulu/partneriaid camdriniol o'r blaen yn dechrau dangos arwyddion o gam-drin.

Dydy pob cartref ddim yn lle diogel. Mae’n debygol iawn bod gofynion cadw pellter cymdeithasol ac (os yw’n angenrheidiol) unrhyw ofyniad i hunanynysu yn ei gartref ei hun yn cynyddu’r risg a’r ofn mae unigolyn sy’n dioddef trais a cham-drin yn ei deimlo. Mae’r angen i gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu (os oes angen) yn gallu golygu bod pŵer a rheolaeth camdrinwyr yn cynyddu. I rai dioddefwyr/goroeswyr, gallent wynebu rhwystrau ychwanegol neu fwy dwys, sy’n eu gwneud yn fwy agored i niwed. Mae’r rhain yn cynnwys dioddefwyr sydd â statws mewnfudo ansicr, sydd â mynediad cyfyngedig at ofal iechyd neu adnoddau ariannol, neu ddioddefwyr/goroeswyr anabl a allent fod mewn mwy o berygl o gael eu heintio, neu nad ydynt yn gallu cael gafael ar gymorth gan deulu a ffrindiau.

Gallai dioddefwyr a goroeswyr sydd wedi gwahanu oddi wrth y sawl sy’n cael eu cam-drin hefyd weld cynnydd mewn camdriniaeth wrth gydymffurfio â chyfyngiadau'r coronafeirws. Gallai aflonyddu drwy dechnoleg neu faterion sy’n ymwneud â chyswllt â phlant fod yn ffactorau sy’n cynyddu'r risg ar ôl gwahanu.

Mynediad at gymorth

O ganlyniad i'r cyfyngiadau sydd ar waith i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws, gall teuluoedd fod yn treulio mwy o amser gartref gyda’i gilydd, ac felly bydd gan ddioddefwyr/goroeswyr sy’n oedolion neu’n blant lai o gyfleoedd i gysylltu â ffrindiau, teuluoedd, aelodau o'r gymuned a darparwyr cefnogol. Gall cyswllt dioddefwyr â rhwydweithiau cymorth fod yn gyfyngedig i gyfryngau cymdeithasol, ffonau a mathau arall o dechnoleg, a allent fod yn cael eu monitro gan y camdrinwyr.

Bydd llinell gymorth Byw Heb Ofn yn dal ar agor ac yn cynnig gwasanaeth llawn yn ystod cyfnod COVID-19. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfleu hyn drwy ei rwydweithiau a’i lwyfannau ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn annog eraill i wneud hynny.

Llinell gymorth: 0808 8010 800

Tecst: 078600 77333

Sgwrsio byw: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn/cysylltwch-byw-heb-ofn

Mae diogelu yn dal yn faes busnes sy’n flaenoriaeth i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac os oes gennych chi bryderon bod plentyn neu oedolyn mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod, dylech gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol i roi gwybod iddynt am hyn. Mae gwybodaeth am sut mae cyflwyno pryder ar gael ar wefan pob un o’r awdurdodau lleol.

Mae profiad ac adborth y sector yn dangos bod y niferoedd sy’n defnyddio gwasanaethau weithiau’n lleihau yn ystod argyfwng, sy’n gallu rhoi darlun anghywir o’r anghenion ledled Cymru.  Gallai hyn fod oherwydd bod angen cyswllt wyneb yn wyneb ar ddioddefwyr i deimlo’n ddiogel neu i ddatgelu gwybodaeth, neu ei bod yn fwy anodd iddynt gael gafael ar wasanaethau, neu nad oes modd diogel o adael neu gysylltu â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.  Mae hefyd yn glir bod y patrwm yn arwain at gynnydd mawr yn y galw am wasanaethau pan fydd cyswllt wyneb yn wyneb yn dychwelyd.

Does dim angen i lochesi a mathau eraill o lety diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig gau oni bai fod Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn dweud wrthynt wneud hynny.  

Dylai llochesi a gwasanaethau VAWDASV sicrhau eu bod yn hysbysebu lleoedd sydd ar gael yn eu llochesi cyn gynted â phosibl – ar RoutestoSupport (Llochesi’r DU Ar-lein), neu drwy gyfathrebu â thîm cymorth Byw Heb Ofn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori'r holl awdurdodau lleol i ddefnyddio pwerau a chyllid amgen i helpu'r rheini y mae angen lloches a mathau eraill o gymorth arnynt yn sgil pandemig COVID-19. Mae hyn yn golygu y dylid sicrhau bod llochesi dros dro ar gael i'r rheini sy’n dianc rhag cam-drin domestig ond nad oes ganddynt hawl i gael cyllid cyhoeddus.  Dylai darparwyr llochesi drafod achosion o’r fath â thimau tai eu hawdurdodau lleol.

Dylai darparwyr llochesi barhau i weithio gyda thimau tai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i reoli camau “symud ymlaen” o lochesi. Gallai landlordiaid unigol barhau i osod eiddo i denantiaid newydd, cyn belled â’u bod yn gallu cadw pellter cymdeithasol a dilyn cyfyngiadau'r Llywodraeth yn ystod y cyfnod pontio.

Derbyn atgyfeiriadau

Dylai llochesi a mathau gwahanol o lety diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig barhau i gymryd a derbyn atgyfeiriadau yn unol â’u mynediad at bolisïau a gweithdrefnau lloches, a lle bo’n ddiogel gwneud hynny. 

Dylai asesu iechyd a llesiant fod yn flaenoriaeth yn ystod y cam hwn. Dylid cynnal asesiad risg cychwynnol i bennu a oes gan yr unigolion/teuluoedd sy’n cael eu hatgyfeirio unrhyw symptom sy’n awgrymu bod ganddynt COVID-19.  

Os oes ganddynt symptomau COVID-19 a’u bod yn symud i mewn i loches sydd naill ai’n eiddo hunangynhwysol (i unigolyn neu unigolyn a’i blentyn/plant) neu’n lloches sy’n rhoi llety i nifer o unigolion a/neu unigolion eraill a’u plentyn/plant, byddai’n rhaid iddynt ddilyn y canllawiau hunanynysu cenedlaethol diweddaraf. Dylai darparwyr llochesi asesu p’un ai a yw eu safleoedd unigol a’u mathau eraill o safleoedd yn caniatáu hyn, gan ystyried llety hunangynhwysol neu “symud ymlaen” fel yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio.

Os nad ydynt yn dangos symptomau, dylai darparwyr llochesi atgoffa preswylwyr newydd ei bod yn bwysig dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol a chynnal arferion hylendid a glanhau, yn enwedig os byddant yn aros mewn llety gydag unigolyn/unigolion eraill a’u plentyn/plant lle y bo’n bosibl bod angen rhannu mannau penodol, ee ystafell fyw, cegin ac ystafell ymolchi.

Os yw teulu wedi cael ei atgyfeirio tra ei fod yn hunanynysu (o fewn y cyfnod ynysu) oherwydd eu bod wedi bod mewn cyswllt â pherson sydd â symptomau, dylid eu hatgoffa bod angen iddynt gwblhau eu cyfnod hunanynysu yn unol â'r canllawiau hunanynysu, p’un ai a ydynt yn aros mewn llety hunangynhwysol neu lety sy’n cynnwys unigolyn/unigolion eraill a’u plentyn/plant.

Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth am ddiogelwch mewn llety a rennir.

Byw gydag eraill

Cynghorir bod pobl sy’n aros mewn llochesi â sawl preswylydd ynddynt yn treulio cyn lleied o amser â phosibl mewn mannau a rennir fel ceginau, ystafelloedd ymolchi, ardaloedd eistedd ac ardaloedd ysmygu. Dylai mannau a rennir fod wedi’u hawyru’n dda a’u glanhau’n dda.

Dylid cadw 2 fetr (3 cham) oddi wrth bobl eraill sy’n byw yn y lloches ac nad ydynt yn aelodau o’r teulu agos. Dylid defnyddio ystafelloedd ymolchi ar wahân i’r unigolion eraill lle bo hynny’n bosibl. Lle nad yw hyn yn bosibl, mae’r canlynol yn hanfodol:

  1. bod pob preswylydd yn defnyddio tywelion ar wahân
  2. glanhau'r toiled a’r mannau ymolchi cyn / ar ôl eu defnyddio

Lle bo cyfleusterau cegin yn cael eu rhannu, argymhellir y canlynol:

  • un teulu ar y tro ddylai ddefnyddio'r gegin (lluniwch rota os yw’n bosibl)
  • bod preswylwyr yn mynd â’u bwyd i’w hystafelloedd i'w fwyta
  • glanhau cyfleusterau’n rheolaidd, yn enwedig ar ôl eu defnyddio

I leihau’r risg o gysylltiad rhwng preswylwyr, gellid llunio rota i breswylwyr fynd allan i gael awyr iach heb risg o ddod i gyswllt ag unrhyw un arall. Dylai hyn fod yn berthnasol i egwyliau ysmygu hefyd. 

Rydym yn deall y bydd yn anodd i rai pobl gadw ar wahân i bobl eraill yn yr adeilad. Dylai preswylwyr wneud eu gorau glas i sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau hyn a dylai’r holl breswylwyr olchi eu dwylo’n rheolaidd, osgoi cyffwrdd eu hwyneb, a glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml (handlenni drysau, canllawiau, teclynnau rheoli o bell, a byrddau ac ati).

Preswylwyr sy’n mynd yn sâl

Os bydd preswylwyr neu eu plant/plentyn yn mynd yn sâl a bod ganddynt o leiaf un o’r symptomau coronafeirws canlynol:

  • peswch parhaus newydd
  • twymyn
  • colli neu newid yn eich synnwyr o flas neu arogl (anosmia) 

a’u bod yn breswylwyr mewn lloches sy’n rhoi llety i unigolion a’u teuluoedd, dylai'r unigolion sydd â symptomau, a’u teuluoedd, aros yn eu hystafell eu hunain a dilyn y canllawiau hunanynysu.  Yn ddelfrydol, dylid agor ffenestr ar gyfer awyru. Bydd angen i’r unigolyn â symptomau drefnu i gael ei brofi am COVID-19.

Os bydd un preswylydd yn y lloches yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19, bydd rhaid i holl breswylwyr y lloches honno ddechrau cyfnod o hunanynysu oherwydd caiff yr holl breswylwyr eu hystyried yn rhan o un aelwyd at ddibenion y mesurau hunanynysu.

Dylai darparwyr llochesi sicrhau bod proses ar waith i breswylwyr ddatgan eu bod yn teimlo’n sâl gyda symptomau a allent fod yn COVID-19 mewn modd diogel a phriodol.

Does dim angen i breswylwyr na staff gysylltu ag NHS 111 os ydynt yn meddwl eu bod wedi dal y Coronafeirws Newydd (COVID-19).  Ni ddylai unrhyw un sy’n meddwl bod ganddo’r coronafeirws fynd at feddyg teulu, meddygfa, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os ydynt yn teimlo eu bod nhw’n methu ymdopi â’u symptomau gartref, os yw eu cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod ddylent gysylltu ag NHS 111.

Dylai preswylwyr neu staff sydd â symptomau COVID19 drefnu eu bod yn cael prawf.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 os yw’r person yn ddifrifol wael neu fod ei fywyd mewn perygl.

Dylai staff sicrhau bod y sawl sydd â symptomau a’i deulu agos yn aros yn eu hystafell gymaint â phosibl wrth hunanynysu, gan ddefnyddio cyn lleied â phosibl ar fannau a rennir, fel ceginau, ystafelloedd ymolchi neu fannau eistedd. Dylai mannau a rennir fod wedi’u hawyru’n dda a’u glanhau’n rheolaidd ar ôl i bob unigolyn eu defnyddio, ac yn enwedig ar ôl i unigolyn â symptomau eu defnyddio.  Ni ddylai pobl â symptomau fynd i fannau a rennir pan fo eraill yn eu defnyddio, lle bo hynny’n bosibl.  Dylai pobl â symptomau gadw 2 fetr oddi wrth breswylwyr eraill a staff y lloches bob amser, a pheidio â rhannu gwely â’u plant lle bo hynny’n bosibl.

Dylai unigolion â symptomau ddefnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn pobl eraill – argymhellir gorchuddion wyneb – a dylid defnyddio PPE (gorchuddion wyneb, ffedogau plastig a menyg) wrth lanhau, yn unol â’r canllawiau.

Os nad oes ystafell ymolchi ar wahân ar gael, dylid ystyried llunio rota ar gyfer ymolchi, lle mae'r unigolyn â symptomau’n defnyddio'r cyfleusterau olaf, cyn glanhau’r ystafell ymolchi ei hun (os yw’n gallu). Os oes gan blentyn symptomau, ei riant ddylai lanhau'r ystafell ymolchi.

Gall y lloches aros ar agor a gall staff a gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld â'r lloches fynd â dod yn ôl y gofyn. Dylid rhoi gwybod i staff neu weithwyr proffesiynol sy’n ymweld â'r lloches os oes gan unrhyw un yn y lloches symptomau COVID-19 neu fod rhywun wedi cael canlyniad positif am COVID-19. Dylai’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld â'r lloches drafod â’u cyflogwyr i ystyried y risgiau cysylltiedig â mynd i weld preswylwyr sydd heb symptomau ond yn hunanynysu yn ôl y gofyn.  Byddai angen iddynt drafod y risgiau cysylltiedig â mynd yno â’u cyflogwr, a chymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i leihau’r risg o ddal COVID-19. Gallent ddod i’r casgliad, ar ôl mynd drwy’r broses asesu risg, y byddai modd lliniaru’r risgiau drwy roi mesurau diogelu penodol ar waith (ee defnyddio cyfarpar diogelu personol penodol) er mwyn eu diogelu nhw a’u galluogi i gynnal yr apwyntiad(au) a drefnwyd gyda phreswylwyr eraill y lloches. Tra byddant ar y safle, dylai staff a gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld â’r lloches ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol bob amser, yn ogystal ag arfer mesurau hylendid diogel (golchi eu dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo). 

Dylid cynnal cysondeb staff lle bo hynny’n bosibl. I gadw’n ddiogel, dylai staff ddilyn gweithdrefnau rheoli haint eu sefydliad. Dylid dilyn y canllawiau ar lanhau ardaloedd preswyl lle mae amheuaeth bod achosion o COVID-19 neu fod achosion wedi’u cadarnhau.

Hunanynysu mewn lloches

Caiff lloches sy’n cynnwys nifer o unigolion/unigolion a’u teuluoedd ei hystyried yn un ‘aelwyd’ at ddibenion y polisi hunanynysu ar gyfer aelwydydd.

Bydd cefnogi cleientiaid a’u plant mewn llety sy’n ddiogel rhag cam-drin domestig drwy gyfnod hunanynysu yn dasg gymhleth, lle bydd angen delio â llawer o ddeinameg teuluoedd, personoliaethau ac anghenion cymorth.  Dylid hefyd ystyried anghenion yr aelwyd gyfan (h.y. yr holl breswylwyr eraill yn y llety hwnnw), gan gynnwys unrhyw blant sy’n aros yn y lloches, a fydd ganddynt eu hanghenion eu hunain.

Os bydd cleientiaid neu eu plentyn/plant yn dangos symptomau COVID-19, dylent hunanynysu yn unol â chanllawiau hunanynysu Llywodraeth Cymru ar gyfer aelwydydd a threfnu prawf COVID-19 ar unwaith.

Efallai y bydd angen i ddarparwyr llochesi ystyried amrywiaeth o atebion ymarferol ar gyfer delio ag unrhyw unigolion a’u teuluoedd sydd angen hunanynysu, fel trefnu neu lunio rota ar gyfer defnyddio ardaloedd sy’n cael eu rhannu gan holl breswylwyr y lloches, fel ystafelloedd ymolchi a cheginau.  Mae cyngor pellach ar gael yn yr adran cyngor cyffredinol isod.

Os oes angen i nifer o breswylwyr (a’u teuluoedd) hunanynysu ar draws prosiectau, gallai gwasanaethau ystyried dynodi un adeilad fel ‘ardal ddiogel’ a symud pawb sydd angen hunanynysu i’r un adeilad hwnnw. Byddai angen ystyried penderfyniad o’r fath yn ddiogel, gan ofyn am arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Lle bo gwasanaethau llety wedi’u lleoli mewn adeiladau â sawl llawr neu adain, byddai modd creu ardaloedd ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl (e.e. pobl sydd â symptomau COVID-19 ac yn gorfod hunanynysu tra byddant yn aros am ganlyniad eu prawf coronafeirws; pobl sydd wedi cael canlyniad COVID-19 positif ac felly’n gorfod cwblhau eu cyfnod hunanynysu; pobl mewn grwpiau risg uchel; a phawb arall).

Byddai modd troi ystafelloedd byw neu ystafelloedd gweithgareddau yn ystafelloedd hunanynysu hefyd.  Fodd bynnag, bydd angen ystyried effaith lleihau mynediad at ystafelloedd byw/gweithgareddau ar iechyd meddwl a llesiant preswylwyr eraill.

Gwrthod hunanynysu

Mae’n hollbwysig bod cydnerthedd meddyliol a chorfforol preswylwyr yn cael ei ystyried, yn enwedig lle bo pryderon iechyd meddwl yn bodoli eisoes.

Mae’n debygol y bydd preswylwyr wedi wynebu trawma sylweddol yn eu bywydau ac yn llai bodlon dilyn cyfarwyddiadau hunanynysu, neu ddim yn gallu gwneud hynny.  Dylai darparwyr llochesi gydnabod pa mor bwysig yw defnyddio dull seiliedig ar drawma sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddeall pam mae pobl yn amharod i hunanynysu neu ddilyn y mesurau yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.  

Mae’r canllawiau ar gyfer delio gyda phobl sy’n anfodlon neu ddim yn gallu hunanynysu neu ddilyn cyfarwyddiadau cyfyngiadau symud y coronafeirws yn ffynhonnell ddefnyddiol o gyngor.

Efallai bydd y Canllawiau ar reoli ymddygiad heriol a gwrthgymdeithasol mewn llety dros dro: COVID-19 hefyd yn ddefnyddiol i ddarparwyr.

Profi, olrhain a diogelu

Profi, olrhain a diogelu yw ein dull gweithredu i fynd i’r afael â’r coronafeirws; profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rheini sydd wedi cael cyswllt agos â phobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, a diogelu teulu, ffrindiau a’n cymuned drwy hunanynysu.

Mae gwybodaeth a chanllawiau ar sut mae gwneud cais am brawf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os ceir canlyniad positif, bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn cysylltu â’r sawl a gafodd y prawf i helpu i ganfod cysylltiadau posibl. Bydd ail swyddog olrhain cysylltiadau wedyn yn cysylltu â’r cysylltiadau hynny ac yn eu cynghori i hunanynysu. Dim ond os ydynt yn datblygu symptomau y bydd angen i’r bobl hyn wneud y prawf.

Caiff cysylltiad ei ddiffinio fel rhywun sydd wedi cael cyswllt agos yn ystod y cyfnod hwn, yn benodol:

  • mae wedi bod yn nes nag 1 metr i’r unigolyn sydd wedi cael prawf positif ac roedd yr unigolyn wedi peswch arno, cafodd sgwrs wyneb yn wyneb â’r unigolyn, roedd wedi cyffwrdd croen yr unigolyn â’i groen ei hun, neu cafodd gyswllt o fath arall o fewn 1 metr am un munud neu fwy;
  • mae wedi treulio dros 15 munud yn nes na 2 fetr i’r unigolyn sydd wedi cael prawf positif;
  • mae wedi teithio mewn cerbyd gyda’r sawl sydd wedi cael canlyniad positif, neu wedi eistedd wrth ei ymyl ar drafnidiaeth gyhoeddus

Ni fydd cysylltiadau’n cael unrhyw wybodaeth am yr unigolyn sydd wedi cael canlyniad positif am Covid-19, fel ei enw neu ble daethant i gysylltiad â’i gilydd. Caiff yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu ledled Cymru fel rhan o'r broses olrhain cysylltiadau ei chadw’n gwbl gyfrinachol. Dim ond gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru fydd yn ei ddefnyddio, a hynny i reoli’r feirws. Ni fydd yn cael ei rhannu â chyrff eraill.

Os bydd preswylydd neu aelod o staff yn cael canlyniad positif am COVID-19, bydd angen i’r darparwr gwasanaeth wneud yn siŵr bod yr holl loches yn dilyn y rheolau hunanynysu.  Mae hyn oherwydd bod yr holl loches yn cael ei hystyried yn un aelwyd at ddibenion y gofynion hunanynysu.

Ni fydd staff gael eu trin fel cysylltiadau ag aelwyd y preswylwyr yn awtomatig, ac fe ddylent fod yn cadw pellter cymdeithasol eu hunain lle bo hynny’n bosibl.

Os oes un achos wedi bod mewn lloches, bydd angen i staff ystyried pa mor agos maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â’r sawl sydd wedi cael canlyniad positif. Os bydd lefel y cysylltiad yn bodloni'r diffiniad (a nodir uchod), bydd angen ystyried yr aelod staff hwnnw fel cyswllt, a bydd angen iddo aros gartref a hunanynysu, neu gael prawf os yw’n datblygu symptomau. Os pennir bod yr aelod staff heb gael lefel o gyswllt â'r unigolyn, gall barhau i weithio fel arfer.

Os oes mwy nag un achos yn y lloches, gellir ei drin fel brigiad, ac felly dylai tîm rheoli brigiadau ystyried yr holl bobl sy’n gysylltiedig â'r lloches.

Cynigir e-Ddysgu VAWSADV i swyddogion olrhain cyswllt fel rhan o’u hyfforddiant.

Staff

Mae elusennau, gwasanaethau arbenigol a gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol yn cael eu hystyried yn weithwyr allweddol ac maent yn gymwys i gael cymorth a mecanweithiau ychwanegol.  Mae hyn yn cynnwys gofal plant ac ysgol i blant gweithwyr allweddol.

Os nad yw’r llety’n gallu cynnal cymarebau diogel oherwydd COVID-19, dylid dilyn yr un gweithdrefnau ag y byddai'n eu dilyn mewn unrhyw achos arall o absenoldeb staff.  Dylai darparwyr lloches asesu lefelau staff yn ddyddiol, a chysylltu ag awdurdodau lleol a chomisiynwyr os bydd staffio’n dod yn broblem.

Dylai staff a gweithwyr cymorth sy’n iach ac yn gallu gweithio ar safle'r lloches sicrhau eu bod yn dilyn y mesurau cadw pellter corfforol/cymdeithasol bob amser, gan gadw o leiaf 2m oddi wrth bawb ar y safle, ac osgoi cyswllt agos (wyneb yn wyneb) ag unrhyw un, yn enwedig pobl â symptomau COVID-19. Dylent hefyd sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo’n aml ac yn drylwyr, yn ogystal â chynnal hylendid anadlol.

Os bydd unrhyw aelodau o staff yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19 (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli/newid yn eu synnwyr arogli a blasu arferol) ar y safle, dylid eu hanfon adref ar unwaith, a’u cynghori nhw ac aelodau eu haelwyd i ddilyn y rheolau hunanynysu, a dylent wneud cais am brawf COVID-19 ar unwaith.  Dylid dilyn y polisïau salwch priodol. Dylid glanhau’r ardaloedd a ddefnyddiwyd gan yr aelod staff hwnnw cyn gynted â’i fod wedi gadael y lloches. Nid yw’n ofynnol bod aelodau staff eraill na phreswylwyr yn y lloches yn dechrau cyfnod o hunanynysu oni bai eu bod hwythau’n dechrau dangos symptomau COVID-19 yn ystod y dyddiau canlynol.  

Os yw’r aelod staff â symptomau’n cael canlyniad positif am COVID-19, bydd y broses olrhain yn dechrau. Dylai gwasanaethau ystyried llesiant aelodau eraill o staff sydd wedi bod mewn ‘cysylltiad’ (yn unol â'r diffiniad uchod) â chydweithwyr sydd â symptomau neu’n cael canlyniad positif am COVID-19.

Cyngor Cyffredinol ar Ddiogelwch

Dylid atgoffa staff a phreswylwyr o arferion da:

  • dilyn mesurau atal a rheoli haint yn rheolaidd
  • glanweithdra cyffredinol a glanhau arwynebau a mannau cyswllt (handlenni, switsys golau) yn aml, yn ogystal â chyfarpar ac eitemau sy’n cael eu defnyddio’n aml
  • golchi dwylo’n aml ac yn drylwyr
  • hylendid anadlol trylwyr
  • cadw pellter corfforol/cymdeithasol. 

Dylid ystyried rotas glanhau ychwanegol mewn ardaloedd a rennir. Mae cynnyrch glanhau arferol yn ddigonol a dylid pwysleisio bod angen glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml, yn enwedig mewn ardaloedd a rennir (biniau, sugnwyr llwch, handlenni drysau, botymau agor drysau, switsys golau, intercoms).

Golchi dwylo’n aml ac yn drylwyr yw’r mesur diogelwch o hyd ac, at y diben hwn, dylid sicrhau bod cyflenwad cyson o sebon a dŵr poeth. Dylai pobl sydd â symptomau ddefnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) (menig, ffedogau, diheintydd) pan fyddant yn defnyddio/glanhau cyfleusterau a rennir, lle bo’n bosibl, a hynny yn unol â’r canllawiau ar ddiogelwch a glanweithdra.

Darllenwch cyngor ar ddefnyddio gorchuddion wyneb

Dylai darparwyr sicrhau bod gan yr holl staff mewn llety VAWDASV fynediad at wybodaeth gyfredol Iechyd Cyhoeddus am COVID-19 a’u bod yn deall beth i’w wneud os byddan nhw neu breswylydd mewn lloches yn dangos symptomau COVID-19 neu’n cael canlyniad positif amdano. 

Canllawiau pellach

Caiff y cyngor ar COVID-19 ei ddiweddaru’n rheolaidd ac mae ar gael yma:

Sylwch ar y canllawiau gan y Comisiynydd Gwybodaeth hefyd.

Darllenwch y canllawiau ar ddefnyddio cyfarpar diogelu personol mewn tai a lleoliadau cymorth iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn rhoi rhagor o arweiniad os bydd angen cymryd mesurau ychwanegol mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n esblygu.  Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau bod yr arferion gorau’n cael eu rhannu ledled Cymru lle bo hynny’n cael ei nodi.