Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i ddarparwyr llety ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn wedi'u llunio i gefnogi'r rheini sy'n goroesi cam-drin domestig, gan gynnwys eu plant, sy'n byw mewn llety ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig, neu mewn llety argyfwng diogel a llety camu ymlaen.

At ddibenion y canllawiau hyn, mae’r term ‘lloches’ yn cynnwys:

  • lloches a rennir
  • lloches gymunedol
  • llety â chymorth, sy’n annibynnol ac ar wasgar
  • llety camu ymlaen

Mae’r canllawiau hyn hefyd yn cynnig cyngor ar reoli’r sefyllfa mewn perthynas â hunanynysu ar gyfer cleientiaid a’u plant o dan 18 oed, pe bydden nhw neu aelodau o’r staff naill ai’n arddangos symptomau COVID-19, neu eu bod yn cael cadarnhad bod y feirws arnynt. 

COVID-19 a VAWDASV

Mae’n ddyddiau cynnar o hyd o ran y dystiolaeth o effaith COVID-19 ar ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth yn deillio o erthyglau newyddion ac adroddiadau gan sefydliadau unigol ac o wledydd eraill sy’n cael eu heffeithio sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar wybodaeth y gwyddom amdani ar hyn o bryd, ac fe allai newid dros yr wythnosau nesaf.

Cynnydd mewn achosion o drais emosiynol, corfforol neu rywiol a rheoli arian

os bydd camdriniwr yn treulio mwy o amser yn y cartref, mae hynny’n golygu ei fod mewn mwy o gysylltiad ag aelodau’r teulu a’r plant. O ganlyniad, mae’n bosibl y byddwn yn gweld cynnydd mewn gwahanol fathau o gam-drin, cynnydd o ran pa mor ddifrifol y mae’r achosion o gam-drin, ac efallai gynnydd yn nifer y plant sy’n tystio achosion o cam-drin. Gallai’r achosion hynny gynnwys:

  • dioddefwyr yn cael eu hynysu ymhellach oddi wrth y teulu a’u ffrindiau
  • mwy o alwadau a cheisiadau afresymol yn cael eu rhoi ar bartneriaid
  • mwy o feirniadaeth yn ymwneud â dulliau magu plant partner
  • achosion o blant yn cael eu cam-drin
  • defnyddio’r pandemig i gyfiawnhau mwy o reolaeth o ran arian
  • atal partner rhag gofalu am rywun agos oedrannus
  • atal partner rhag gweithio neu orfodi partner i barhau i weithio hyd yn oed os yw’n ofni y gallai fynd yn sâl

Mae hefyd yn bosibl y gallai’r pwysau cymdeithasol ychwanegol a’r ffactorau presennol sy’n dwysáu problemau, fel pryderon am arian neu iechyd, a chael ein cyfyngu i aros gartref am gyfnodau hir gydag aelodau eraill o’r teulu, effeithio ar rai unigolion. Hynny yw, efallai y bydd rhai unigolion nad oedd yn ymddwyn yn gamdriniol yn flaenorol yn dechrau arddangos arwyddion o gam-drin domestig.

Nid yw pob cartref yn lle diogel i bawb. Mae’n debygol iawn y bydd hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol yn cynyddu’r risg a’r ofn i’r rheini sy’n dioddef trais a chamdriniaeth. Gallai hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol wneud i gamdrinwyr deimlo bod ganddynt fwy o bŵer a rheolaeth. I’r rhai hynny sy’n goroesi camdriniaeth, gallai’r sefyllfa bresennol achosi rhwystrau ychwanegol sy’n eu gwneud nhw’n fwy agored i niwed. Gallai hynny gynnwys dioddefwyr sydd â statws mewnfudo ansicr, ac sydd â mynediad cyfyngedig i ofal iechyd neu adnoddau ariannol, neu oroeswyr anabl a allai fod mewn mwy o risg o gael eu heintio neu na allant gael cymorth gan y teulu a ffrindiau.

Mae hefyd yn bosibl y gallai dioddefwyr a goroeswyr sydd wedi’u gwahanu oddi wrth yr unigolyn a oedd yn eu cam-drin ddioddef mwy o gamdriniaeth tra byddant yn ynysu eu hunain. Hynny yw, gallai’r camdriniwr aflonyddu arnynt drwy ddefnyddio technoleg, neu gallai materion sy’n ymwneud â chael cyswllt â’r plant fod yn ffactorau sy’n cynyddu’r risg i’r rheini sydd wedi gwahanu oddi wrth y camdriniwr.

Cael cymorth

Wrth i hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn eu cartrefi, bydd gan blant ac oedolion sy’n goroesi camdriniaeth lai o gyfleoedd i gysylltu â’u ffrindiau, eu teulu, aelodau o’r gymuned a darparwyr sy’n gallu eu helpu. Mae’n debygol y bydd cysylltiad dioddefwyr â rhwydweithiau cymorth wedi’u cyfyngu i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, y ffôn a mathau eraill o dechnoleg a allai gael eu monitro gan gyflawnwyr trais.

Bydd llinell gymorth Byw Heb Ofn yn parhau i fod ar gael, gan gynnig gwasanaeth llawn yn ystod pandemig COVID-19. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi hynny drwy ei rhwydweithiau a’i chyfryngau cymdeithasol, ac yn annog pawb arall i wneud hynny hefyd.

Helpline: 0808 8010 800

Text: 078600 77333

Live chat: https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free

Mae diogelu pobl yn parhau i fod yn faes sy’n flaenoriaeth i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Os bydd gennych bryderon am blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl o niwed, gamdriniaeth neu esgeulustod, dylech gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol i fynegi eich pryderon. Ceir gwybodaeth am sut i adrodd am bryderon ar wefan pob awdurdod lleol.

Mae profiad ac adborth y sector yn dangos bod y nifer sy’n cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol weithiau’n lleihau mewn cyfnod o argyfwng. Gallai hynny gyfleu darlun anghywir o anghenion pobl ledled Cymru. Mae’n bosibl bod hynny’n digwydd oherwydd bod angen cysylltiad wyneb yn wyneb ar ddioddefwyr iddynt deimlo’n ddiogel neu iddynt ddatgelu’r hyn sy’n digwydd, neu ei bod yn anoddach iddynt gael mynediad i wasanaethau, neu nad oes gan ddioddefwyr ffordd ddiogel o adael. Mae hefyd yn glir fod y patrwm hwnnw’n arwain at gynnydd sydyn yn y galw am wasanaethau pan fydd modd mynd yn ôl at siarad â rhywun wyneb yn wyneb.

Nid oes angen i lochesi gau, na mathau eraill o lety diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig, oni bai bod Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn gofyn iddynt wneud hynny.  

Dylai llochesi a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sicrhau eu bod yn hysbysebu cyn gynted ag y bo modd bod lleoedd mewn llochesi ar gael drwy RoutestoSupport (UK Refuges Online) neu drwy gysylltu â thîm cymorth Byw Heb Ofn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori pob awdurdod lleol i ddefnyddio pwerau a chyllid amgen i helpu'r rheini sydd angen lloches a mathau eraill o gymorth oherwydd pandemig COVID-19. Mae hynny’n golygu y dylai llochesi dros dro fod ar gael i’r rheini sy’n dianc rhag cam-drin domestig ac sydd heb fynediad at arian cyhoeddus.  Dylai’r rheini sy’n darparu lloches drafod achosion o’r fath â’r tîm tai yn eu hawdurdod lleol.

Dylai darparwyr llochesi barhau i gydweithio â’r timau tai ac â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn eu hawdurdodau lleol er mwyn sicrhau y gall dioddefwyr symud ymlaen yn ddiogel o’r lloches. Gallai landlordiaid unigol barhau i rentu eiddo i denantiaid newydd, ar yr amod eu bod yn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol a dilyn cyngor arall y Llywodraeth yn ystod y cyfnod trosglwyddo.

Derbyn y rheini sy’n cael eu hatgyfeirio

Dylai llochesi a mathau eraill o lety diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig barhau i dderbyn y rheini sy’n cael eu hatgyfeirio yn unol â’u polisïau a’u gweithdrefnau sy’n ymwneud â mynediad at lochesi – ac os yw’n ddiogel iddynt wneud hynny. 

Dylai asesiadau iechyd a llesiant fod yn flaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Dylid cwblhau asesiad risg i bennu a oes gan yr unigolyn/teulu sy’n cael eu hatgyfeirio unrhyw rai o’r symptomau sy’n awgrymu COVID-19. 

Os bydd symptomau ganddynt, yna byddai’n rhaid iddynt ddilyn y canllawiau cenedlaethol presennol, sef bod gofyn i’r person hwnnw hunanynysu am 7 diwrnod. Dylai’r darparwyr asesu a yw eu llochesi unigol yn caniatáu i’r person wneud hynny; llety annibynnol neu lety camu ymlaen yw’r opsiynau a ffefrir.

Os nad oes ganddynt symptomau, dylai darparwyr atgoffa preswylwyr newydd ei bod yn bwysig iddynt ddilyn y canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a chynnal arferion hylendid a glanweithdra.

Os bydd teulu’n cael eu hatgyfeirio tra byddant yn hunanynysu (o fewn y cyfnod o 14 diwrnod), oherwydd iddynt fod mewn cysylltiad â rhywun a oedd yn arddangos symptomau, dylid eu hatgoffa fod angen iddynt barhau i hunanynysu hyd ddiwedd y 14 diwrnod.

Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth am lety a rennir a diogelwch.

Preswylio â phobl eraill

Dylai preswylwyr leihau’r amser a dreulir mewn mannau a rennir, fel y gegin, yr ystafell ymolchi, yr ystafell fyw a mannau ysmygu yn yr awyr agored. Rhaid cadw mannau a rennir yn lân a sicrhau eu bod wedi’u hawyru’n dda.

Anelwch at gadw 2 fetr (3 cham) i ffwrdd o bobl eraill sy’n byw yn y llety gyda chi. Os yw’n bosibl, defnyddiwch gyfleusterau ymolchi gwahanol. Os nad yw hynny’n bosibl, mae’n hanfodol:

  1. bod preswylwyr yn defnyddio tyweli neilltuol
  2. bod preswylwyr yn glanhau’r toiled a mannau golchi cyn / ar ôl eu defnyddio

Os bydd angen rhannu cyfleusterau’r gegin, argymhellir:

  • bod un teulu ar y tro yn eu defnyddio;
  • bod preswylwyr yn mynd â’u prydau yn ôl i’w hystafelloedd i’w bwyta; a
  • bod y cyfleusterau’n cael eu glanhau’n rheolaidd

I leihau’r risg o ddod i gysylltiad â phreswylwyr eraill, gellid llunio rota fel bod preswylwyr yn gallu mynd allan yn yr awyr agored heb ddod i gysylltiad ag unrhyw un arall. Dylai hynny hefyd gael ei roi ar waith ar gyfer y preswylwyr hynny sy’n ysmygu. 

Rydym yn deall yn iawn y gall fod yn anodd i rai pobl wahanu eu hunain oddi wrth eraill ar y safle. Dylech wneud pob ymdrech i ddilyn y canllawiau hyn, a dylai’r holl breswylwyr olchi eu dwylo’n rheolaidd, osgoi cyffwrdd eu hwyneb, a glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml (handlen drws, canllaw mynediad a grisiau, teclyn rheoli’r teledu o bell, ac arwyneb bwrdd).

Preswylwyr sy’n mynd yn sâl

Os bydd preswylydd neu ei blentyn (plant) yn mynd yn sâl, a’r symptomau’n cynnwys peswch newydd sy’n para, neu dymheredd uchel neu colli’r gallu i arogli neu flasu, yna dylen nhw a’u teulu aros yn eu hystafell eu hunain a dilyn y canllawiau ar hunanynysu. Yn ddelfrydol, dylid agor ffenestr er mwyn sicrhau eu bod yn cael awyr iach.

Dylai darparwyr llochesi sicrhau bod proses ar waith i breswylwyr allu datgan nad ydynt yn deimlo’n dda mewn modd priodol a diogel.

Nid oes angen i breswylwyr a staff ffonio 111 GIG os ydynt yn meddwl bod y coronafeirws newydd (COVID-19) arnynt. Ni ddylai unrhyw un sy’n dangos arwyddion o gael y coronafeirws newydd (COVID-19) fynd i feddygfa deuluol, fferyllfa nac i’r ysbyty. Dylent ffonio 111 GIG dim ond os ydynt yn teimlo na allant ymdopi â’u symptomau gartref, bod eu cyflwr yn gwaethygu, neu nad yw’r symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 os bydd y person yn ddifrifol wael neu fod ei fywyd mewn perygl.

Dylai staff sicrhau bod unrhyw berson nad yw’n teimlo’n dda yn lleihau’r maint o weithiau, cymaint ag sy’n bosibl, y mae’n mynd i fannau a rennir yn y lloches, fel y gegin, yr ystafell ymolchi a’r ystafell fyw. Dylid hefyd sicrhau bod y mannau a rennir yn cael eu hawyru’n dda a’u glanhau. Os yw’n bosibl, ni ddylai person nad yw’n teimlo’n dda fynd i rannau a rennir yn y lloches pan fydd pobl eraill yn bresennol ynddynt. A dylai’r person nad yw’n teimlo’n dda gadw o leiaf 2 fetr oddi wrth breswylwyr eraill a’r staff yn y lloches, a pheidio â rhannu gwely â’i blant. Dylai’r unigolyn sy’n arddangos symptomau ddefnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) i ddiogelu eraill, ac wrth lanhau mannau yn y lloches dylai cyfarpar diogelu personol (fel ffedogau plastig a menig) gael eu defnyddio yn unol â’r canllawiau.

Os nad oes ystafell ymolchi ar wahân ar gael yn y lloches, dylid ystyried llunio rota ar gyfer ymolchi, cael cawod neu gael bath – a dylai’r unigolyn nad yw’n teimlo’n dda fod yr olaf un ar y rhestr i ddefnyddio’r cyfleusterau. Dylid glanhau’r ystafell ymolchi yn drylwyr cyn ei defnyddio ac ar ôl (os yw hynny’n bosibl iddynt neu os yw’n briodol). Os bydd plentyn yn sâl, dylai ei riant lanhau’r ystafell ymolchi.

Gall y lloches aros ar agor, a gall staff a gweithwyr proffesiynol sy’n dod i’r lloches adael a defnyddio’r mannau nad ydynt wedi’u heffeithio yn ôl yr angen. Os yw’n bosibl, dylid cadw at yr un staff. I sicrhau bod y staff yn ddiogel, dylent ddilyn gweithdrefnau rheoli heintiau eu sefydliad. Dylid dilyn Canllawiau ar lanhau mannau preswylio os bydd achosion yn awgrymu COVID-19 a/neu os bydd achosion wedi’u cadarnhau.

Hunanynysu mewn lloches

Ystyrir bod llochesi’n ‘aelwydydd’ yng nghyd-destun y polisi ar hunanynysu i aelwydydd. Gall lleoliadau llety unigol gynnwys un neu fwy o deuluoedd at ddibenion y canllawiau hyn.

Bydd cefnogi cleientiaid a’u plant mewn llety diogel ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig yn dasg anodd, o ran delio â deinameg y teulu, personoliaethau ac anghenion cymorth. Dylid rhoi ystyriaeth i anghenion yr aelwyd cyfan, gan gynnwys unrhyw blant sy’n preswylio yn y lloches, oherwydd bydd gan y plant eu hangenion eu hunain.

Os bydd cleient neu ei blentyn (plant) yn arddangos symptomau, dylent hunanynysu yn unol â’r canllawiau ar gyfer aelwydydd a rannwyd gan Lywodraeth y DU.

  • Os ydych yn byw ar eich pen eich hunan ac yn arddangos symptomau’r salwch coronafeirws (COVID-19), ni waeth pa mor ysgafn ydynt, arhoswch gartref am 7 diwrnod o’r diwrnod y dechreuodd eich symptomau.
  • Os ydych yn byw gyda phobl eraill, a chi yw’r cyntaf yn yr aelwyd i arddangos symptomau o’r coronafeirws, yna rhaid ichi aros gartref am 7 diwrnod, ond mae’n rhaid i bob aelod arall o’r aelwyd aros gartref a pheidio â gadael y cartref am 14 diwrnod. (Mae’r cyfnod 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod yr aeth yr unigolyn cyntaf yn yr aelwyd yn sâl).
  • Mae angen i unrhyw un arall yn yr aelwyd sy’n dechrau arddangos symptomau aros gartref am 7 diwrnod o’r diwrnod y dechreuodd y symptomau, ni waeth pa ddiwrnod y maent wedi’i gyrraedd yn y cyfnod ynysu gwreiddiol o 14 diwrnod.

Mae’n debygol y bydd pobl sy’n byw yn yr aelwyd yn heintio ei gilydd neu y byddant eisoes wedi’u heintio. Bydd aros gartref am 14 diwrnod a chadw pellter cymdeithasol yn lleihau maint cyffredinol yr haint y gallai aelodau’r aelwyd ei drosglwyddo i eraill yn y gymuned. Mae’n bosibl y bydd angen i ddarparwyr lloches ystyried amrywiaeth o ffyrdd ymarferol i hunanynysu, fel llunio amserlen ar gyfer cyfnodau ynysu mewn mannau a rennir.

Os gwelir bod angen hunanynysu ar lawer o breswylwyr ar draws sawl prosiect, gallai’r gwasanaethau ystyried neilltuo un eiddo fel ‘parth diogel’, a symud pob un o’r rheini i hunanynysu yn yr eiddo hwnnw. Byddai angen i benderfyniad o’r fath gael ei ystyried yn ofalus, a dylid cael arweiniad a chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

O ran gwasanaethau seiliedig ar lety sydd mewn adeiladau â nifer o loriau neu esgyll, gellid creu parthau ar gyfer gwahanol gohortau (e.e. pobl sy’n arddangos symptomau, pobl sydd mewn grwpiau risg uchel, a phawb arall).

Gallai ystafelloedd byw neu ystafelloedd ar gyfer gweithgareddau gael eu troi yn ystafelloedd hunanynysu. Bydd angen ystyried yr effaith o leihau mynediad at ystafelloedd byw/gweithgareddau ar iechyd meddwl a llesiant preswylwyr eraill.

Gwrthod hunanynysu

Mae’n holl bwysig ystyried gallu meddyliol a chorfforol preswylwyr i ymdopi â hunanynysu, yn enwedig os bydd eisoes gan rai ohonynt broblemau iechyd meddwl.

Mae’n debygol y bydd y preswylwyr wedi profi trawma yn eu bywydau, ac efallai eu bod yn llai bodlon neu’n methu dilyn cyfarwyddiadau i hunanynysu.  Dylai darparwyr llochesi gydnabod pwysigrwydd dilyn ffordd o weithio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n seiliedig ar fod yn ymwybodol o drawma er mwyn deall pam y gallai unigolion fod yn llai parod i hunanynysu neu ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Darllenwch y canllawiau ar gyfer delio gyda phobl sy’n anfodlon neu ddim yn gallu hunanynysu neu ddilyn cyfarwyddiadau cyfyngiadau symud y coronafeirws mewn llety â chymorth neu dros dro, hostelau a phobl sy’n cysgu allan.

Staffio

Mae elusennau, gwasanaethau arbenigol a gweithwyr sy’n cyflawni gwasanaethau rheng flaen allweddol yn cael eu hystyried yn ‘weithwyr allweddol’, ac maent yn gymwys i gael cymorth a threfniadau ychwanegol. Mae hynny’n cynnwys caniatáu i blant weithwyr allweddol fynd i’r ysgol, ynghyd â darparu gofal plant.

Os na all lleoliad y llety gynnal cymarebau staffio oherwydd COVID-19, dylid dilyn yr un gweithdrefnau ag y byddai’n cael eu dilyn yn achos absenoldeb staff o dan amgylchiadau arferol. Dylai darparwyr llochesi asesu lefelau staffio bob dydd a chysylltu â’r awdurdod lleol a’r comisiynydd os bydd lefelau staffio’n broblem.

Dylai staff a gweithwyr cymorth iach osgoi cysylltiad agos (wyneb yn wyneb) â phobl sy’n arddangos symptomau. Dylent gadw pellter cymdeithasol oddi wrth gleientiaid eraill (gan gadw o leiaf 2 fetr ar wahân), a sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo’n aml.

Os bydd unrhyw aelod o’r staff yn mynd yn sâl ar y safle a’r symptomau’n cynnwys peswch newydd sy’n para, neu dymheredd uchel neu colli’r gallu i arogli neu flasu, dylent gael eu hanfon adref a dylid dilyn polisïau salwch.

Cyngor Cyffredinol ar Ddiogelwch

Dylai’r staff a’r preswylwyr gael eu hatgoffa am arferion da ar gyfer rheoli heintiau; glanweithdra cyffredinol a glanhau arwynebau; golchi dwylo; cadw pellter cymdeithasol. 

Dylid hefyd ystyried rhoi rota ychwanegol ar waith ar gyfer glanhau mannau a rennir. Mae defnyddio nwyddau i’r cartref yn ddigonol, a dylid pwysleisio pwysigrwydd glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml, yn enwedig mewn mannau a rennir (biniau, peiriannau hwfro, handlenni drws, botymau rhyddhau drysau, peiriannau intercom).

Golchi dwylo yw’r mesur pwysicaf ar gyfer diogelwch personol o hyd. Os bydd dŵr poeth a sebon ar gael dylai olchi dwylo gael eu hannog bob amser. Dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol (menig, ffedogau, hylif diheintio) os yw hynny’n bosibl ac yn unol â chanllawiau ar ddiogelwch a glanweithdra.

Yn ystod gweithgareddau arferol bob dydd, nid yw masgiau wyneb yn amddiffyn rhag feirysau anadlol fel COVID-19 ac nid oes angen eu gwisgo. Yr unig adeg yr argymhellir gwisgo masgiau wyneb yw pan fydd gweithiwr gofal iechyd yn argymell hynny i unigolion sydd wedi’u heintio, i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint i bobl eraill.

Dylai darparwyr sicrhau bod pob aelod o staff sy’n gweithio mewn lleoliadau llety ar gyfer y rheini sy’n dioddef o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael mynediad at wybodaeth ddiweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar COVID-19, a’u bod yn deall yr hyn sydd angen iddynt ei wneud os bydd rhywun yn arddangos symptomau COVID-19. 

Canllawiau pellach

Caiff y cyngor ar COVID-19 ei ddiweddaru’n rheolaidd, a gellir ei weld ar wefannau:

Nodwch hefyd y canllawiau gan y Comisiynydd Gwybodaeth: Diogelu data a’r coronafeirws

Byddwn yn darparu rhagor o ganllawiau os bydd angen mesurau ychwanegol oherwydd bod y sefyllfa sy’n parhau i newid yn peri bod angen y mesurau hynny. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod unrhyw arferion gorau a gaiff eu nodi yn cael eu rhannu ar draws Cymru.

Am ganllawiau ar ddefnyddio PPE mewn lleoliadau ym meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol – darllenwch gyngor diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rhannu’r dudalen hon