Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

Y Templed Adrodd Cenedlaethol yw un o brif elfennau'r Dull Cenedlaethol o Eiriolaeth Statudol. Fe'i cyflwynwyd er mwyn sicrhau bod comisiynwyr gwasanaethau eirioli ledled Cymru yn derbyn data cyson mewn perthynas â darparu a defnyddio Gwasanaethau Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yn eu hardal.

Mae'r Templed Adrodd Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar y Dull Cenedlaethol o Eiriolaeth Statudol i Blant a Phobl Ifanc. Mae cymeradwyaeth yn dangos y daethpwyd i gytundeb o ystyried lefelau data meintiol ac ansoddol y mae'r adroddiad yn eu casglu fel rhai digonol i ganiatáu i gomisiynwyr gwasanaethau eirioli ddeall y defnydd o wasanaethau yn eu hardal. Bwriedir mai dyma'r unig adroddiad y mae comisiynwyr gwasanaethau eirioli yn ei gael bob chwarter. Bydd adroddiad blynyddol sy'n defnyddio'r un templed hefyd yn cael ei gwblhau gan y darparwr gwasanaeth.

Datblygwyd y canllawiau hyn, sydd wedi'u hanelu at ddarparwyr gwasanaethau, i gyd-fynd â'r Templed Adrodd Cenedlaethol.

Diben

Diben y canllawiau hyn, a ysgrifennwyd i gyd-fynd â'r Templed Adrodd Cenedlaethol yw:

  • sicrhau dull cydgysylltiedig rhwng darparwyr eiriolaeth mewn perthynas â chwblhau'r Templed Adrodd Cenedlaethol
  • sicrhau bod comisiynwyr awdurdodau lleol yn gwybod beth i'w ddisgwyl o'r templed adrodd.

Sut i’w Defnyddio

Mae pob un o'r is-benawdau isod yn cyfateb i adran ar y Templed Adrodd Cenedlaethol.

Cynigir canllawiau ynghylch sut i lenwi pob adran isod.

Prif Adroddiad

Defnyddio'r lle hwn i roi manylion am:

  • Trosolwg o atgyfeiriadau ac ati yn ystod y chwarter
  • Trosolwg o themâu a thueddiadau
  • Trosolwg o gwynion (materion pobl ifanc)
  • Nifer yr atgyfeiriadau sydd y tu Allan i'r Sir
  • Nifer y plant a'r ifanc sy'n Ceisio Lloches ar eu pen eu hunain (UASC) yma
  • Cynnwys manylion am faterion rhai sy'n ymadael â gofal, yn y Prif Adroddiad
  • Cynnwys manylion am unrhyw sefydliadau o'r Trydydd Sector sy'n atgyfeirio yn y Prif Adroddiad
  • Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd neu a gefnogir gan eiriolwr (dewisol)
  • Rhesymau pam na wnaethoch fodloni targedau 48 awr a 5 diwrnod
  • Argymhellion
  • Adborth gan Blant a Phobl Ifanc (PPI) ynglŷn â chanlyniadau personol. Y canlyniadau y cytunwyd arnynt i adrodd arnynt yw:
    • Mae PPI yn teimlo eu bod wedi'u cynnwys yn fwy mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud amdanynt
    • Mae PPI yn teimlo'n fwy hyderus o ganlyniad i eiriolaeth
    • Mae PPI yn teimlo bod eiriolaeth yn gwneud gwahaniaeth i'w sefyllfa
    • Mae PPI yn teimlo'n fwy gwybodus am eu hawliau.

Cynnwys astudiaeth achos yn yr adran hon.

1a. Eiriolaeth sy'n Seiliedig ar Faterion

Achosion Eiriolaeth Pobl Ifanc

Mae hyn yn adlewyrchu nifer y PPI a atgyfeirir at yn ystod y chwarter. Nid yw'n cynnwys atgyfeiriadau Cynnig Gweithredol.

Nifer y Defnyddwyr Gwasanaeth sy'n defnyddio am y tro cyntaf = defnyddwyr newydd sbon ni welwyd erioed o'r blaen. Bydd y ffigur hwn yn wahanol i nifer y PPI a atgyfeirir yn y chwarter.

1b. Ymyriadau Achos Eiriolaeth (YAE)

Mae hyn yn adlewyrchu nifer y materion a gyfeiriwyd yn y chwarter.

2a. Cynnig Gweithredol

Mae hyn yn adlewyrchu ystadegau Cynnig Gweithredol yn unig. Rhaid cael manylion o nifer y Plant a Phobl Ifanc sy'n gymwys i gael y Cynnig Gweithredol gan bob Awdurdol Lleol (ALl) unigol.

2b. Meini Prawf Cymhwysedd YAE

Cyfanswm yr holl fathau o gymhwysedd (Plant sy'n Derbyn Gofal, y Rhai sy'n Gadael Gofal ac ati).

Dylai'r cyfanswm cyfun gyfateb i Nifer yr Atgyfeiriadau a Dderbyniwyd (PPI) nid materion) yn Siart 1.

4. Nodweddion Gwarchodedig

Nodwch unrhyw PPI a atgyfeirir sydd â Nodwedd Warchodedig yma, os yw'n hysbys. Os oes gan PPI fwy nag un Nodwedd Warchodedig, casglwch bob un ohonynt yn y graff a nodwch hyn yn y Prif Adroddiad.

5. Ffynhonnell yr Atgyfeiriad

Cyfrifwch y ffynhonnell atgyfeirio fesul PPI nid fesul mater.

Cyfrwch ar gyfer YAE yn unig, nid Cynnig Gweithredol.

Cynhwyswch fanylion unrhyw sefydliadau Trydydd Sector sy'n atgyfeirio yn y Prif Adroddiad. Daw atgyfeiriadau eiriolwyr (NYAS) o dan Hunangyfeirio.

6. Materion a Gyflwynwyd

Dylech gynnwys manylion am faterion sy’n ymwneud â Gadael Gofal yn y Prif Adroddiad.

Os oes gennych fath o fater nad yw'n cyd-fynd ag un o'r categorïau penodedig, nodwch hyn yn y Prif Adroddiad.

7. Perfformiad y Gwasanaeth

Nodwch, fel canrannau, nifer y bobl ifanc y cysylltwyd â hwy o fewn y 48 awr penodedig a nifer y bobl ifanc a welsoch wyneb yn wyneb o fewn y targed o bum diwrnod gwaith.

Dylech gynnwys rhesymau pam y gwnaethoch fethu unrhyw dargedau ynglŷn â chanlyniad 1.

8. Lefel Yr Ymyrraeth Eiriolaeth

Cofnodwch gyfanswm nifer yr oriau o waith a gwblhawyd ar gyfer pob mater, pan fydd y mater yn cau. Dylech gynnwys yr holl amser teithio, gwaith uniongyrchol gyda'r plant a phobl ifanc, gwaith gweinyddol sydd yn gysylltiedig, ymchwil a thrafodaethau achos (gyda'r rheolwr) wrth gyfrifo cyfanswm yr oriau gwaith.

Categoreiddio i un o'r tri ystod isod:

  • Isel = 0-11 awr
  • Canolig = 12-18 awr
  • Uchel = 18+ awr.

9. Canlyniadau

Mae'r enghreifftiau isod at ddibenion darlunio. Nid oes rhaid i chi gynnwys pob enghraifft ym mhob adroddiad, yn hytrach adlewyrchu unrhyw weithgarwch a brofir yn y chwarter adrodd er mwyn sicrhau bod adroddiadau'n amrywio o chwarter i chwarter.

Canlyniad 1

Mae gwasanaethau eirioli o ansawdd da ar gael yn rhwydd ac mae'n hawdd i blant a phobl ifanc gael gafael arnyn nhw.

Awgrymiadau ar gyfer eu cynnwys:

  • Heriau - e.e. Eglurwch pam nad ydych yn bodloni’r targedau 48 awr a 5 diwrnod
  • Gwaith cyhoeddusrwydd a chodi ymwybyddiaeth sydd wedi'i gwblhau
  • Lleoliadau hygyrch - adrodd ar leoliadau amgen ar gyfer cyfarfod â phobl Ifanc
  • Soniwch am fynediad at wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc a leolir y tu allan i'r sir ac unrhyw heriau sydd yn gysylltiedig
  • Hyfforddiant staff a gwblhawyd o ran diwallu anghenion y plant a phobl ifanc a gafodd eu hatgyfeirio.
  • Unrhyw broblemau o ran defnyddio timau ALl i hyrwyddo gwasanaeth ac ati
  • A gafodd unrhyw hyfforddiant proffesiynol ei ddarparu.

Canlyniad 2

Mae preifatrwydd plant a phobl ifanc a'u hawl i gyfrinachedd yn cael eu parchu ac mae eu lles yn cael ei ddiogelu a’i amddiffyn.

Awgrymiadau ar gyfer eu cynnwys:

  • Nifer yr atgyfeiriadau diogelu i'r ALl
  • Enghreifftiau o heriau sy’n codi wrth esbonio cyfrinachedd a diogelu
  • Unrhyw broblemau gyda gwasanaethau cymdeithasol o ran datgelu gwybodaeth yn ddiangen
  • Unrhyw gwynion i'r gwasanaeth eiriolaeth ac neu/am y gwasanaeth eiriolaeth.

Canlyniad 3

Mae plant a phobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi am eu hamrywiaeth, yn cael eu trin â pharch ac mae pob math ar wahaniaethu yn eu herbyn yn cael ei herio.

Awgrymiadau ar gyfer eu cynnwys:

  • Defnydd o gyfieithu/dehonglwyr
  • Nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn Gymraeg ac unrhyw ieithoedd eraill
  • Dylech gynnwys gwybodaeth am Cynnig Rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg a gipiwyd yma
  • Atgyfeiriadau Eiriolaeth heb gyfarwyddyd yma
  • Atgyfeiriadau UASC yma
  • Unrhyw atgyfeiriadau eraill lle mae materion nodweddion gwarchodedig wedi bod yn berthnasol.

Canlyniad 4

Mae plant a phobl ifanc yn cael eu grymuso i arwain mewn perthynas â gwasanaethau eirioli, ac mae eu hawliau, eu dymuniadau a’u teimladau'n cael eu cefnogi.

Awgrymiadau i'w cynnwys:

  • Adborth am y gwasanaeth - a oedd plant a phobl ifanc yn hapus gyda'r gwasanaeth? 
  • Dylech gynnwys dyfyniadau adborth
  • Nifer y ffurflenni adborth a ddychwelwyd
  • Nifer y plant a phobl ifanc a gafodd gymorth i gael cyngor arbenigol neu gyfreithiol
  • Unrhyw enghraifft lle mae hunan-eiriolaeth wedi'i hyrwyddo.

Canlyniad 5

Mae plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn dylunio, cynllunio, cyflenwi a gwerthuso gwasanaethau eirioli.

  • Eglurwch sut mae plant a phobl ifanc yn rhan o'r gwasanaeth - cyfweliadau, recriwtio, datblygu, Grŵp Cynghori Pobl Ifanc ar y gwasanaeth.