Neidio i'r prif gynnwy

Hoffech chi wybod sut i helpu rhywun sy'n gweithio yn eich sefydliad ac sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i ofalu am eu gweithwyr ac mae ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu amgylchedd gwaith diogel ac effeithiol. Mae atal a mynd i'r afael â cham-drin domestig yn rhan annatod o hynny.

Mae dynion, menywod a phlant i gyd yn gallu dioddef cam-drin domestig a gallant hefyd fod y rhai sy'n cam-drin eraill. Mae'n digwydd ar bob lefel yng nghymdeithas, ni waeth am ddosbarth cymdeithasol, hil, crefydd, rhywedd nac anabledd. Gall unigolion ddioddef camdriniaeth neu barhau i oddef ei effaith am amser maith ar ôl gadael eu partner.

Arwyddion o gam-drin domestig neu drais rhywiol yn y gweithle

Gall arwyddion camdriniaeth a thrais rhywiol fod yn weladwy pan fo gweithwyr yn y gweithle. Gall cam-drin domestig a thrais rhywiol gael effaith ar ba mor gynhyrchiol yw gweithiwr ac efallai y byddwch yn sylwi ar rai o'r canlynol:

  • newid ym mhatrwm gwaith yr unigolyn; er enghraifft mae'n absennol yn aml, neu'n hwyr, neu angen gadael y gwaith yn gynnar
  • obsesiwn â gadael y gwaith ar amser
  • gostyngiad yn ansawdd y gwaith a faint o waith a wneir: methu â chadw at derfynau amser, safon arferol y gwaith yn gostwng
  • newid yn y defnydd o'r ffôn/ e-bost: er enghraifft, nifer fawr o alwadau/ negeseuon testun personol, osgoi galwadau neu ymateb cryf i alwadau/negeseuon testun/negeseuon e-bost
  • cynnydd heb reswm yn nifer yr oriau a dreulir yn y gwaith
  • partner y cyflogai'n ymweld â'r gwaith yn aml, sydd efallai'n arwydd o reolaeth drwy orfodaeth.

Gall cam-drin domestig a thrais rhywiol achosi newidiadau mewn ymddygiad unigolion, er enghraifft, mynd yn dawedog iawn, yn orbryderus, yn ofnus, yn ddagreuol, yn ymosodol, ymddangos fel bod eu meddwl yn bell neu ddioddef o iselder.

Yn aml, mae rhieni'n rhannu gofal am eu plant ac os oes gan y gweithiwr blant, mae'n bosibl eu bod yn pryderu mwy am eu diogelwch a’u bod yn gyndyn o adael eu plant o dan ofal y camdriniwr.

Polisi ar gyfer y Gweithle

Gallai rhoi polisi/canllawiau effeithiol ar waith ar gyfer y gweithle wella llesiant staff ac mae'n bosibl y bydd yn helpu i gadw staff medrus a phrofiadol, a chynyddu eich enw da fel cyflogwyr cyfrifol.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn darparu canllawiau ar bolisïau yn y gweithle ynghylch cam-drin domestig, gan gynnwys yr achos busnes dros gael polisi o'r fath.
 

Adnoddau Dynol

Os yw'n ymarferol, penodwch uwch-arweinydd AD a all helpu i arwain y drafodaeth gorfforaethol ac y bydd gweithwyr yn ymddiried ynddo/ynddi i ymdrin â'u hachosion yn sensitif ac yn gyfrinachol. Gall AD ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i staff yng nghyd-destun polisïau a chanllawiau y sefydliad.

Gall y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ddarparu hyfforddiant o ran:

  • dealltwriaeth sylfaenol o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • sut i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr
  • cyfathrebu'n sensitif â dioddefwyr.

Adrodd am achosion

Ffoniwch 999 os yw'n argyfwng neu fod yr unigolyn mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd i’r unigolyn.

Mae cam-drin domestig neu drais yn drosedd a dylid rhoi gwybod i'r heddlu amdano. Mae'r heddlu'n cymryd cam-drin domestig o ddifrif a byddant yn gallu helpu a diogelu dioddefwyr.

Dewis eich cyflogai neu gydweithiwr yw p'un a ydynt am ddweud beth sydd wedi digwydd iddyn nhw wrth yr heddlu. Fodd bynnag, os ydyn nhw o dan 18 oed neu os ydych yn credu bod plant mewn perygl, dylech geisio cyngor gan yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol ar unwaith.

I gael cyngor a chymorth, siaradwch â Byw Heb Ofn neu unrhyw un o'r sefydliadau eraill sydd ar gael yng Nghymru.