Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Y mater dan sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â rhanddeiliaid mewn ysgolion ac yn haen ganol y system addysg er mwyn datblygu trefniadau atebolrwydd, gwerthuso a gwella ar gyfer ysgolion, consortia rhanbarthol ac Estyn. Mae’r trefniadau newydd yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer sut y dylid gwella ysgolion yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r trefniadau wedi'u cynllunio i sicrhau bod perfformiad ysgol yn cael ei werthuso gan ddefnyddio ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth gyd-destunol, sy'n cwmpasu ehangder gweithgarwch yr ysgol, gan ganolbwyntio ar gynnydd a lles dysgwyr. Hunanarfarnu effeithiol yw'r man cychwyn ar gyfer yr holl waith gwerthuso a gwella, a dylai arwain at gynllunio gwelliant sy'n cefnogi'r profiadau a'r deilliannau dysgu gorau posibl i bob dysgwr, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Mae'r canllawiau'n pwysleisio pa mor ganolog yw cynnydd i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru, ac oherwydd hynny i wella ysgolion. Dylai hunanarfarnu o dan y trefniadau newydd gael ei lywio gan egwyddorion cynnydd, sy'n cynnwys egwyddorion trosfwaol ac egwyddorion cyffredinol sy'n benodol i bob Maes Dysgu a Phrofiad. Maent felly'n darparu fframwaith i arweinwyr ysgolion ei ddefnyddio i gynllunio eu prosesau ar gyfer casglu a dadansoddi tystiolaeth am gynnydd dysgwyr, dros amser ac ar lefel grŵp. Dylai hyn sicrhau bod ysgolion yn helpu dysgwyr i symud ymlaen mewn ffordd a fydd yn eu cefnogi i ddatblygu tuag at y pedwar diben. Y pedwar diben yw'r man cychwyn ar gyfer yr holl addysgu a dysgu, ac maent yn darparu disgwyliadau i ddysgwyr ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dulliau dysgu a fydd yn sail i'r hyn sydd ei angen arnynt drwy gydol eu bywydau.

Y camau arfaethedig

Mae'r canllawiau gwella ysgolion yn nodi sut y dylai'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd weithredu yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys disgwyliadau sydd ar ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac Estyn gan Lywodraeth Cymru.

Rôl ganolog hunanarfarnu cadarn gan ysgolion

Un o egwyddorion allweddol y trefniadau newydd yw y dylai hunanarfarnu a blaenoriaethau gwella ysgolion fod yn fan cychwyn ar gyfer gwaith gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

Bydd perfformiad ysgol yn cael ei ystyried yn ei ystyr ehangaf, gydag ysgolion yn cael eu gwerthuso yn eu cyd-destun eu hunain, wedi'u hategu gan ystod eang o dystiolaeth, cynllunio a chymorth gwella pwrpasol. Dylai cynnydd, cyrhaeddiad a lles pob dysgwr fod yn allweddol ym mhob gwerthusiad ysgol a chynllunio gwelliant. Dylai llinellau ymholi ar gyfer hunanarfarnu gael eu llywio gan ystod eang o dystiolaeth ar gynnydd dysgwyr, gan gynnwys cydweithio ag ysgolion eraill ar gyd-ddealltwriaeth o gynnydd.

Bydd y prosesau hunanarfarnu yn nodi meysydd o gryfderau a blaenoriaethau ar gyfer gwella, a fydd yn cael eu dwyn ynghyd mewn un cynllun datblygu ysgol strategol. Bydd ysgolion yn cyhoeddi crynodeb o'u cynllun sy'n cynnwys blaenoriaethau, camau gweithredu, cerrig milltir a chymorth wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, yn ogystal ag adroddiad ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau'r flwyddyn flaenorol.

Gan adeiladu ar eu hunanarfarnu a'u cynlluniau datblygu eu hunain, bydd ysgolion yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gytuno ar y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i wella.

Dod â'r system gategoreiddio genedlaethol i ben

Bydd y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd yn golygu bod y system gategoreiddio genedlaethol yn dod i ben, gyda'i chategorïau cyhoeddedig. Er mai diben sylfaenol y system gategoreiddio oedd sefydlu lefel y cymorth sydd ei angen ar ysgolion i wella, roedd ganddo nifer o ganlyniadau negyddol. Yn fwyaf arwyddocaol, nid oedd y categori y lleolwyd ysgol ynddo yn adlewyrchu ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol, ond roedd yn hytrach yn asesiad o'r cymorth yr oedd ei angen arni i wella. Fodd bynnag, i lawer o ysgolion, ystyriwyd ei fod yn fesur atebolrwydd, tra bod rhieni hefyd yn ei ddefnyddio fel dangosydd ansawdd.

Arweiniodd hyn at y risg ganlyniadol y byddai rhai ysgolion yn teimlo eu bod yn cael eu cymell i anelu at liw 'gwell' yn eu hymgysylltiad â chonsortia rhanbarthol, yn hytrach na bod yn agored am eu hanghenion cymorth a thrwy hynny sicrhau eu bod yn cael y cymorth o ansawdd uchel sydd ei angen arnynt i wella.

Mewn dau adroddiad i Lywodraeth Cymru (Developing Schools as Learning Organisations in Wales a Achieving the curriculum for Wales) nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) effaith negyddol rhoi cod lliw cyhoeddus i ysgolion. Er enghraifft, cyfeiriodd ‘Achieving the new curriculum for Wales’, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, at ffyrdd y mae canfyddiadau o'r system gategoreiddio genedlaethol wedi llesteirio hyder ysgolion a hyd yn oed eu gallu i gymryd rhan mewn ymholi, arbrofi ac arloesi.

Yn lle categoreiddio, mae'r canllawiau'n cynnig y dylai crynodebau Cynlluniau Datblygu Ysgolion gynnwys crynodeb byr o hunanwerthusiad yr ysgol, gan gynnwys cryfderau a meysydd i'w datblygu. Bydd hyn yn rhan o grynodeb ehangach cynllun datblygu'r ysgol, a gyhoeddir ar wefan yr ysgol ac a fydd felly'n hygyrch i'r gymuned ehangach a bydd yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni a dysgwyr am eu hysgol.

Yn ogystal, dylai consortia rhanbarthol gefnogi gweithgarwch hunanarfarnu ysgolion a chynnal deialog broffesiynol â chyrff llywodraethu, i'w cynorthwyo i gyflawni eu swyddogaeth atebolrwydd. Bydd hyn yn tynnu sylw at unrhyw faterion a chryfderau penodol. Byddant hefyd yn rhoi adroddiad i'r corff llywodraethu yn amlinellu sut y maent yn bwriadu cefnogi a /neu gael cymorth i fynd i'r afael â'u blaenoriaethau gwella, ac yn ehangach.

Bydd y dull newydd yn cadw nodweddion gorau categoreiddio, tra'n dileu ei ganlyniadau anfwriadol, negyddol. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion, fel partner proffesiynol yn eu gwelliant.

Drwy gyhoeddi crynodeb o flaenoriaethau a chynlluniau datblygu gwella ysgolion, bydd gan rieni fynediad at wybodaeth fanylach am ysgol eu plant nag a ddarparwyd yn flaenorol gan ei chategori lliw.

Cryfhau a darparu eglurder ynghylch y gwahanu a'r gwahaniaethu rhwng gweithgareddau gwerthuso a gwella a'r systemau atebolrwydd a thryloywder

Mae'r canllawiau'n rhoi eglurder ynghylch lle mae atebolrwydd yn perthyn i bob lefel o'r system addysg. Mae'n pwysleisio y dylid ystyried atebolrwydd a thryloywder fel rhywbeth ar wahân, ond cysylltiedig â gweithgareddau gwerthuso a gwella. Mae'n ei gwneud yn glir, er bod gan awdurdodau lleol y pŵer i ymyrryd mewn 'ysgolion sy'n peri pryder', yn y rhan fwyaf o achosion dylai cyrff llywodraethu, fel y corff atebol ar gyfer eu hysgol, fod yn rhydd i oruchwylio'r broses werthuso a gwella, wedi'i cefnogi gan gyngor, adnoddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

Mae'r trefniadau newydd yn pwysleisio rôl allweddol barhaus Estyn o ran darparu arolygiadau cyson, cynhwysfawr a chywir o ysgolion. Bydd ysgolion yn cael eu harolygu, ar gyfartaledd, ddwywaith o fewn cylch arolygu chwe blynedd, a fydd yn rhoi gwybodaeth a sicrwydd mwy rheolaidd i rieni o'r arolygiaeth annibynnol. Bydd gan adroddiadau arolygu fwy o naratif esboniadol am berfformiad ysgolion, gan gefnogi cynllunio gwelliant ysgolion, heb gynnwys dyfarniadau crynodol.

Neilltuo rolau a chyfrifoldebau gwahanol gyrff yn y system addysg yn glir

O fewn system ysgol sy'n gwella ei hun, mae'n bwysig bod y gwahanol gyrff – yn bennaf ysgolion a chyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol – yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau eu hunain, rolau a chyfrifoldebau pobl eraill, a'r berthynas rhyngddynt. Mae'r canllawiau felly'n nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran rôl a chyfrifoldebau'r gwahanol gyrff, mewn perthynas â gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, er mwyn helpu'r system hunanwella i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol.

Adnodd Cenedlaethol: gwerthuso a gwella a phrosiect Ymchwil Data

Mae gallu ysgolion i gynnal hunanarfarnu effeithiol a chynllunio gwelliant yn effeithiol yn hanfodol i lwyddiant y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion. Nid yw'r canllawiau gwella ysgolion yn ceisio ymdrin â manylion ymarferol sut y dylai ysgolion hunanwerthuso neu wella cynllunio, gan mai mater i ysgolion unigol benderfynu arno yw hwn, yn seiliedig ar eu cyd-destun eu hunain ac wedi'u llywio gan eu hystyriaeth o ffactorau fel egwyddorion cynnydd a blaenoriaethau cenedlaethol statudol. Bydd ysgolion yn cael eu cefnogi yn y broses hon gan eu hymgynghorydd gwella.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag ysgolion, Estyn, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i ddatblygu'r adnodd Cenedlaethol: gwerthuso a gwella i gefnogi ysgolion wrth gynnal hunanwerthusiad cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r adnodd, sydd wedi’i gyhoeddi ar Hwb, yn darparu amrywiaeth o ddulliau ac awgrymiadau, yn ogystal ag astudiaethau achos ymarferol a gynhyrchir gan ysgolion, ac yn cysylltu ag adnoddau pellach i gefnogi hunanarfarnu effeithiol.

Er nad yw'r defnydd o'r adnodd cenedlaethol yn orfodol, anogir ysgolion i ddefnyddio'r cymorth y mae'n ei ddarparu i ddatblygu eu dulliau hunanarfarnu.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar y data a'r wybodaeth a ddefnyddir ac sydd eu hangen i gefnogi gwerthuso, gwella ac atebolrwydd effeithiol ym mhob rhan o'r system ysgolion. Bydd yr ymchwil, a fydd yn adrodd ym mis Medi 2022, yn ystyried sut y gall pob rhan o'r system gael gafael ar y data mwyaf priodol a defnyddiol at y dibenion sydd ei angen arnynt, gan edrych ar yr hyn sydd eisoes ar gael, beth arall sydd ei angen neu a fyddai'n fuddiol ar gyfer pob swyddogaeth, a sut i gael gafael arno neu ddod o hyd iddo.

Pum ffordd o weithio

Rydym o'r farn bod y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd yn gyson â'r pum ffordd o weithio:

Hirdymor

Mae'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran sut y dylid gwella ysgolion yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru. Datblygwyd y cwricwlwm i baratoi dysgwyr ar gyfer byd sy'n newid yn gyflym, ac i adlewyrchu anghenion posibl busnes a'r economi yn y dyfodol. Yn allweddol i hyn mae gwireddu'r pedwar diben, y pwyslais ar gynnydd dysgwyr (fel y nodir yn egwyddorion cynnydd ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad).

Atal

Mae'r trefniadau newydd yn parhau i symud oddi wrth yr arfer o werthuso ysgolion gyda phwyslais anghymesur ar nifer fach o fesurau perfformiad, yn seiliedig ar ganlyniadau cymwysterau allanol, a allai arwain at ymddygiad a dewisiadau gan ysgolion nad ydynt o reidrwydd er lles gorau pob dysgwr.

Er enghraifft, arweiniodd y defnydd o ddata cymwysterau allanol heb gyd-destun at ddibenion atebolrwydd at ffocws gormodol gan ysgolion ar gyrhaeddiad dysgwyr blwyddyn 11 ar y ffin TGAU C/D. Gallai hyn arwain at beidio â blaenoriaethu cynnydd dysgwyr naill ai'n is neu'n uwch na'r trothwy hwnnw, ac nad yw eu cyflawniadau'n cael eu cydnabod. Yn ogystal, gallai ffocws mor gul guddio materion arwyddocaol yng nghanlyniadau, dysgu ac addysgu dysgwyr heblaw ym mlwyddyn 11.

Yn ogystal, gallai'r dehongliad anghywir ond eang o'r system gategoreiddio, lle rhoddwyd categori i ysgolion yn seiliedig ar eu hanghenion datblygu a gwella, fel mesur atebolrwydd hefyd ysgogi canlyniadau anfwriadol a gwrthnysig. Yn fwyaf nodedig, amharodrwydd rhai ysgolion i fod yn agored am eu hanghenion gwella a cheisio cymorth gan gonsortia rhanbarthol, rhag ofn y byddai hyn yn effeithio ar y categori a neilltuwyd iddynt.

Cydnabuwyd y canlyniadau hyn yn gyffredinol; Nododd 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl' (2017) ei bod yn angenrheidiol datblygu "modelau atebolrwydd hyblyg ac ymatebol sy’n dwyn ysgolion i gyfrif ac yn cefnogi addysg plant heb amharu ar arloesedd na rhannu arfer da yn effeithiol". Cyfeiriodd adroddiad yr OECD i Lywodraeth Cymru, ‘Achieving the new curriculum for Wales’, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, at ffyrdd y mae'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd presennol, yn enwedig canfyddiadau o'r system gategoreiddio genedlaethol, wedi llesteirio hyder ysgolion a hyd yn oed eu gallu i gymryd rhan mewn ymholi, arbrofi ac arloesi.

Er y bydd canlyniadau cymwysterau yn parhau i gael eu cyhoeddi at ddibenion tryloywder (gyda’r union ffurf yn ddibynnol ar ymchwil o’r ecosystem gwybodaeth), mae canlyniad hunanwerthusiad ysgol yn darparu tryloywder mwy ystyrlon am gryfderau a blaenoriaethau ar gyfer gwella na chategori lliw.

Yn fwy cyffredinol o ran atal, un o nodweddion pwysig y system gymorth a ddiffinnir yn y canllawiau yw y dylai ymgysylltiad consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol ag ysgolion hwyluso'r broses o nodi ysgolion sy'n dirywio ac y mae angen cymorth arnynt i'w hatal rhag dod yn 'ysgol sy'n peri pryder'. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai'r ysgolion eu hunain nodi materion a mynd i'r afael â hwy drwy eu prosesau gwerthuso a gwella eu hunain, wedi'u mireinio drwy gydweithio ag ysgolion eraill.

Integreiddio

Mae'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion yn cyd-fynd â phennod Uchelgeisiol a Dysgu Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen, sy'n cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial. 

Mae'r trefniadau hefyd yn cyd-fynd â nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan gynnwys:

  • Cymru ffyniannus sy’n meithrin poblogaeth fedrus wedi’i haddysgu’n dda. Mae'r trefniadau wedi'u cynllunio i ysgogi ymddygiad a diwylliant sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm i Gymru ac yn ei gefnogi. Nod y cwricwlwm yw sicrhau bod dysgwyr yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dulliau dysgu a fydd yn sail i'r hyn sydd ei angen arnynt drwy gydol eu bywydau ac a fydd yn diwallu anghenion posibl busnes a'r economi yn y dyfodol
  • Cymru decach sy’n galluogi pobl i wireddu eu potensial, waeth beth fo’u cefndir na’u hamgylchiadau. O dan y trefniadau, defnyddir ystod eang o dystiolaeth i ysgolion i werthuso cynnydd a lles pob dysgwr a grŵp o ddysgwyr. Bydd hunanarfarnu llwyddiannus yn arwain at nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu gwella mwy penodol a chyd-destunol, wedi'u llywio gan ddilyniant a lles ei holl ddysgwyr, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Dylai hyn gyfrannu at gyflawni dyheadau a safonau uchel i bawb

Cydweithio

Mae partneriaid allweddol sydd â diddordeb yn y fframwaith gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd yn cynnwys ysgolion a darparwyr addysg eraill, consortia rhanbarthol, CLlLC, awdurdodau lleol, Cymwysterau Cymru ac Estyn, dysgwyr, rhieni a gofalwyr.

Mae cyd-gynhyrchu wedi bod yn allweddol i ddatblygu'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a'r 'adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella' cysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r trefniadau. Yn hydref 2020, cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol ar y canllawiau gwella ysgolion a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid haen ganol, gan gynnwys consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, Cymwysterau Cymru ac Estyn. Rydym wedi parhau i ymgysylltu â'r rhanddeiliaid hyn a cheisio cyngor y rhanddeiliaid hyn ar ein cynigion, yn dilyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol yn 2021.

Cyd-adeiladodd Llywodraeth Cymru yr adnodd cenedlaethol gydag Estyn, consortia rhanbarthol ac ymarferwyr addysgu, a chynrychiolir cydweithwyr o Estyn a chonsortia rhanbarthol ar y grŵp llywio adnoddau cenedlaethol. Mae ymarferwyr addysgu hefyd wedi chwarae rhan allweddol, er enghraifft wrth gynhyrchu rhestr chwarae o astudiaethau achos sy'n dangos arfer gorau mewn hunanarfarnu.

Ymwneud

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021. Diben yr ymgynghoriad oedd casglu barn ar eglurder a defnyddioldeb y canllawiau gwella ysgolion a'r fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.

Er bod y rhan fwyaf o'r wyth deg dau o ymatebwyr yn cytuno'n gyffredinol â'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd arfaethedig, codwyd pryderon penodol ynghylch y cynnig i ddisodli'r categoreiddio ar y pryd. Ystyriwyd y pryderon hyn ac mae'r trefniadau wedi'u diwygio i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.

Roedd yr adnodd cenedlaethol yn destun cynllun peilot cenedlaethol tri mis a gafodd gyhoeddusrwydd ar ddechrau 2022, a bydd adborth yn parhau i gael ei wahodd drwy Hwb; tra bydd yr adnodd ei hun yn parhau i esblygu, gyda mwy o ddeunyddiau'n cael eu hychwanegu yn amodol ar adborth gan ddefnyddwyr.

Mae'r canllawiau sy'n ddarostyngedig i'r asesiad effaith hwn yn anstatudol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu disodli'r canllawiau hyn â chanllawiau statudol ym mis Medi 2024. Cyn hyn, byddwn yn cynnal ymgynghoriad pellach, gan gynnwys gyda phobl ifanc.

Adran 8: casgliad

8.1 Sut mae’r bobl sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cael eu cynnwys wrth ei ddatblygu?

Bydd y newidiadau arfaethedig i'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a gyflwynir yn y canllawiau anstatudol ar wella ysgolion yn effeithio'n fwyaf sylweddol ar y rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phrosesau cynllunio ac atebolrwydd gwella ysgolion: arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion, cyrff llywodraethu, consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol ac Estyn. Bydd y newidiadau arfaethedig hefyd yn effeithio ar ddysgwyr a rhieni a gofalwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid mewn ysgolion ac haen ganol y system addysg i ddatblygu trefniadau newydd (ymgynghoriad cychwynnol). Roedd y canllawiau gwella ysgolion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, a gafodd 82 o ymatebion gan ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion, llywodraethwyr ysgolion, consortia rhanbarthol ac Estyn ymhlith eraill. Mae adborth ar yr ymgynghoriad wedi'i ystyried yn ofalus wrth gwblhau'r canllawiau anstatudol, tra rydym wedi parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ei gynnwys a cheisio cyngor ganddynt.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio gydag arweinwyr ysgolion, consortia rhanbarthol ac Estyn i ddatblygu'r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella, sy'n darparu cymorth, megis awgrymiadau ac astudiaethau achos, i ysgolion wrth gynnal hunanarfarnu a chynllunio gwelliant. Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddwyd yr adnodd ar Hwb ac roedd yn destun cynllun peilot cenedlaethol a gafodd gyhoeddusrwydd eang gyda'r adborth yn cael ei dderbyn gan ymarferwyr. Ynghyd â'r peilot cenedlaethol cafwyd sioeau teithiol rhithwir a digwyddiadau gydag arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion.

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Ystyrir y bydd yr effeithiau mwyaf arwyddocaol a nodwyd yn gadarnhaol. Bydd y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a nodir yn y canllawiau anstatudol ar wella ysgolion yn:

  • nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran sut y dylid gwella ysgolion yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru. Mae'n cefnogi gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus, drwy gysoni'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ag egwyddorion a nodau'r cwricwlwm, gan gynnwys cefnogi dysgwyr wireddu’r pedwar diben ac egwyddorion cynnydd
  • parhau i symud oddi wrth yr arfer o werthuso ysgolion gyda phwyslais anghymesur ar nifer fach o fesurau perfformiad, a all arwain at ymddygiad a dewisiadau gan ysgolion nad ydynt o reidrwydd er lles gorau pob dysgwr
  • gwneud hunanarfarniad pob ysgol ei hun yn fan cychwyn ar gyfer yr holl waith gwerthuso a gwella. Ategir hyn gan ddatblygiad yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella
  • gweithredu system lle caiff perfformiad ysgolion ei werthuso gan ddefnyddio ystod ehangach o dystiolaeth a gwybodaeth, gan ymdrin ag ehangder gweithgarwch ysgol a chanolbwyntio ar gynnydd a lles dysgwyr
  • galluogi nodi anghenion cymorth ysgol wedi'u teilwra yn seiliedig ar hunanwerthuso cadarn a blaenoriaethau gwella ysgolion a rhoi cymorth pwrpasol i ysgolion lle bynnag y maent ar eu taith wella
  • cynnal pwysigrwydd atebolrwydd cadarn o fewn y system ysgolion, a ddarperir drwy lywodraethu effeithiol ac arolygu ysgolion yn fwy rheolaidd gan Estyn

Yn gyffredinol, credwn y bydd effaith y cynigion yn gadarnhaol. Mae'r trefniadau'n gwneud hunanwerthusiad pob ysgol ei hun yn fan cychwyn ar gyfer yr holl waith gwerthuso a gwella; arweinwyr ysgolion sy’n adnabod eu hysgolion orau a dylent allu penderfynu pa agweddau ar eu gweithrediadau i'w gwerthuso'n fanwl, wedi'u llywio gan eu barn am gynnydd dysgwyr.

Mae tystiolaeth ymchwil ar hunanarfarnu effeithiol yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar werthuso ar gyfer gwella, yn hytrach na bodloni atebolrwydd allanol. Pan fo gwella ysgolion yn cael ei ysgogi'n fwy gan ffactorau allanol, megis cystadleuaeth sefydliadol (er enghraifft tablau cynghrair), gall ysgolion a staff weld y broses fel archwiliad defodol yn hytrach nag ymarfer ystyrlon ar gyfer gwella ysgolion mewn ffordd organig.

Bydd dod â'r system gategoreiddio genedlaethol i ben hefyd yn gadarnhaol, gan fod hynny’n dileu'r cymhelliant i ysgolion beidio â bod yn agored am eu hanghenion cymorth wrth weithio gyda rhanbarthau ac awdurdodau lleol. Nododd adborth gan gonsortia rhanbarthol fod categoreiddio yn llesteirio’r cydweithio rhwng ysgolion, gan ysgogi diwylliant o gystadleuaeth mewn rhai achosion yn lle hynny. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion, fel partner proffesiynol yn eu gwelliant. Bydd canlyniad hunanarfarnu ysgol hefyd yn darparu tryloywder mwy ystyrlon am ei chryfderau a'i blaenoriaethau ar gyfer gwella na chategori lliw.

Efallai y bydd rhai effeithiau negyddol tymor byr i'r trefniadau arfaethedig. Er enghraifft, bydd y trefniadau newydd yn gofyn am newid diwylliant o ran gwella ac atebolrwydd, ac efallai y bydd angen cymorth pellach a dysgu proffesiynol ar unigolion i ddechrau er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r trefniadau a'r adnoddau cenedlaethol. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn effeithio ar gyrff ac unigolion fel ymarferwyr, cyrff llywodraethu a chynghorwyr gwella.

Efallai y bydd angen gwybodaeth a chymorth ar gymunedau lleol, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, i ddeall y newidiadau i drefniadau atebolrwydd, yn enwedig rhoi terfyn ar gategoreiddio cenedlaethol a ddefnyddiwyd gan lawer, er yn anghywir, fel dangosydd o ansawdd ysgolion. Er y bydd cyhoeddi crynodeb o flaenoriaethau gwella a chynlluniau datblygu ysgolion yn rhoi mynediad i rieni a gofalwyr at wybodaeth fanylach am ysgol eu plant nag a ddarparwyd yn flaenorol gan ei chategori lliw, gellir ystyried bod y newid hwn yn effaith negyddol i ddechrau.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:

Yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant:

  • Wrth gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben, mae'r canllawiau gwella ysgolion yn cyfrannu ar draws pob un o'r saith nod llesiant. Er enghraifft, mae'r canllawiau'n cyfrannu at Gymru ffyniannus, gan ei bod yn gyrru ymddygiad sy'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r dull dysgu y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau ac a fydd yn diwallu anghenion posibl busnes a'r economi yn y dyfodol.
  • Diben cyffredinol gwella ysgolion yw helpu ysgolion i roi'r profiadau a'r canlyniadau dysgu gorau posibl i ddysgwyr, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau, er mwyn cyflawni dyheadau a safonau uchel i bawb. Dylai ysgolion ddefnyddio ystod eang o dystiolaeth wrth gynnal hunanarfarnu, ac ystyried cynnydd a lles pob dysgwr wrth bennu eu blaenoriaethau gwella. Bydd hyn yn cyfrannu at y nod llesiant o Gymru fwy cyfartal. Felly, bydd y canllawiau hefyd yn cyfrannu at amcan llesiant Llywodraeth Cymru i 'barhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysg yn lleihau a bod safonau'n codi'.

Yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Gellir lleihau a lliniaru'r effeithiau negyddol a nodwyd uchod drwy:

  • hyfforddiant priodol a ddarperir, er enghraifft, i ymarferwyr, cyrff llywodraethu a chynghorwyr gwella. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant effeithiol a chymesur yn cael ei ddarparu mewn modd cyson ledled Cymru
  • Mae'r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella yn cynnwys canllawiau a chymorth i alluogi ysgolion i gynnal hunanarfarnu effeithiol o dan y trefniadau newydd
  • negeseuon effeithiol i gyfleu nodau a manteision y trefniadau newydd i bob carfan

8.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo ddatblygu a phan ddaw i ben? 

Mae'r trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd sy'n ddarostyngedig i'r asesiad effaith integredig hwn yn anstatudol. Byddwn yn adeiladu ar y profiadau a'r dysgu a ddatblygwyd yn ystod y blynyddoedd academaidd sydd i ddod a byddwn yn adlewyrchu hyn mewn canllawiau statudol diwygiedig a ddaw i rym ym mis Medi 2024.

Bydd y canllawiau statudol yn destun ymgynghoriad ffurfiol pellach cyn eu cyhoeddi; rydym yn rhagweld y bydd y canllawiau statudol arfaethedig yn destun ymgynghoriad â phobl ifanc. Rydym hefyd yn anelu at weithio gydag ymarferwyr drwy'r rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm.

Bydd y canllawiau statudol ar wella ysgolion yn destun asesiad effaith integredig newydd cyn eu cyhoeddi.

A. Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Cefndir

Diben cyffredinol gwella ysgolion yw cefnogi ysgolion i roi'r profiadau a'r canlyniadau dysgu gorau posibl i blant a phobl ifanc, beth bynnag fo'u cefndir, gan gyflawni dyheadau a safonau uchel i bawb. O dan y Cwricwlwm i Gymru, rhan sylfaenol o hyn fydd sicrhau bod ysgolion yn cefnogi pob dysgwr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben.

Mae'r canllawiau'n cefnogi'r amcan hwnnw drwy osod fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a fydd yn sicrhau gwelliant cynaliadwy mewn ysgolion ac yn llywio'r ymddygiadau a'r arferion sy'n ofynnol gan y cwricwlwm newydd a'r trefniadau asesu. Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae'n hanfodol bod pob agwedd ar y system ysgolion yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd a'i egwyddorion sylfaenol ac yn eu cefnogi.

Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant mewn perthynas â chanllawiau Cwricwlwm i Gymru, a ddaeth i’r casgliad bod disgwyl i effaith y cwricwlwm fod yn gadarnhaol. Cynhaliwyd rhaglen o weithgareddau ymgysylltu yn ystod y broses o ddatblygu’r canllawiau, a oedd yn cynnwys digwyddiadau rhanbarthol a grwpiau ffocws i blant a phobl ifanc.

Roedd y canllawiau anstatudol drafft ar wella ysgolion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn 2021 nad oedd yn cynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â dysgwyr a phobl ifanc. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion wedi'u diweddaru ar sail statudol ym mis Medi 2024 a, chyn gwneud hynny byddwn yn dysgu o effaith y canllawiau anstatudol ac yn cynnal ymgynghoriad pellach, gan gynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â dysgwyr.

Fframwaith gwerthuso, gwella ac atebolrwydd

Mae’r trefniadau a nodir yn y canllawiau wedi’u llunio i ddarparu system i ysgolion ac eraill, sy’n sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth i symud ymlaen ac yn annog ysgolion i werthuso a chefnogi cynnydd pob dysgwr o wahanol oedran, doniau a galluedd. 

Pa newidiadau sy’n cael eu cynnig gan y canllawiau?

Mae’r canllawiau’n cynnig:

Cryfhau pwysigrwydd ac effeithiolrwydd hunanwerthuso a chynllunio gwelliant gan ysgolion, gan fanteisio ar amrywiaeth eang o dystiolaeth

Un o brif egwyddorion y trefniadau newydd yw y dylai blaenoriaethau ysgolion o ran hunanwerthuso a gwella fod yn fan cychwyn ar gyfer cydweithio ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

Bydd perfformiad ysgolion yn cael ei ystyried yn ei ystyr ehangaf, gydag ysgolion yn cael eu gwerthuso yn eu cyd-destun eu hunain, wedi’u cefnogi gan ystod eang o dystiolaeth, cynlluniau gwella pwrpasol a chymorth. Bydd cynnydd, cyrhaeddiad a lles pob dysgwr yn nodweddion pwysig o werthusiad ysgolion.

Bydd y prosesau hunanwerthuso yn nodi meysydd cryfder a blaenoriaethau ar gyfer gwella a fydd ar gael gyda’i gilydd mewn un cynllun datblygu ysgol strategol. Bydd ysgolion yn cyhoeddi crynodeb o’u cynlluniau, yn cynnwys blaenoriaethau, camau gweithredu, cerrig milltir a chefnogaeth sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, yn ogystal ag adroddiad ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r flwyddyn flaenorol.

Gan adeiladu ar eu hunanwerthuso a'u cynlluniau datblygu eu hunain, bydd ysgolion yn cydweithio ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gytuno ar y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i wella.

Disodli’r system gategoreiddio genedlaethol

Bydd y trefniadau newydd yn rhoi diwedd ar y broses gategoreiddio genedlaethol gyda chanlyniadau cyhoeddedig, er y bydd diben craidd categoreiddio, sef penderfynu pa gymorth y mae ei angen ar ysgolion i wella, yn parhau. Bydd categoreiddio ei hun yn cael ei ddisodli gan broses gymorth, o dan arweiniad consortia rhanbarthol, lle mae consortia'n cytuno ag ysgolion ar y cymorth sydd ei angen arnynt i wella.

Mae'r canllawiau'n cynnig y dylai crynodebau Cynlluniau Datblygu Ysgolion a gyhoeddir gynnwys crynodeb byr o hunanwerthusiad a chasgliadau'r ysgol, gan grynhoi prif gryfderau'r ysgol a meysydd i'w datblygu a darparu'r cyd-destun ar gyfer blaenoriaethau gwella'r ysgol a'r camau gweithredu arfaethedig. Bydd hyn yn rhan o grynodeb ehangach cynllun datblygu'r ysgol, a gyhoeddir ar wefan yr ysgol ac sydd felly'n hygyrch i'r gymuned ehangach, gan barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni a dysgwyr am eu hysgol. 

Cryfhau a chynnig eglurder am y gwahaniad a’r gwahaniaeth rhwng gweithgareddau gwerthuso a gwella a’r system atebolrwydd

Mae'r canllawiau'n rhoi eglurder ynghylch pwy sy’n atebol ym mhob lefel o'r system addysg. Mae'n pwysleisio y dylid ystyried atebolrwydd ar wahân i weithgareddau gwerthuso a gwella, ond yn gysylltiedig â hwy. Er bod gan awdurdodau lleol y pŵer i ymyrryd mewn 'ysgolion sy'n peri pryder', mae'n ei gwneud yn glir y dylai cyrff llywodraethu, fel corff atebol eu hysgol, fod yn rhydd i oruchwylio'r broses werthuso a gwella, gyda chefnogaeth cyngor, adnoddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. 

Er mwyn sicrhau bod atebolrwydd yn parhau'n gadarn, bydd ysgolion yn cael eu harolygu'n fwy rheolaidd gan Estyn. Bydd gan adroddiadau arolygu hefyd fwy o naratif esboniadol am berfformiad ysgolion, gan gefnogi’r gwaith o gynllunio gwelliant ysgolion, heb gynnwys dyfarniadau crynodol. Fodd bynnag, bydd ysgolion y bernir eu bod yn y categorïau statudol o fesurau arbennig neu welliant sylweddol yn parhau i gael eu nodi'n glir.

Neilltuo yn eglur swyddogaethau a chyfrifoldebau gwahanol gyrff mewn system hunanwella

O fewn system ysgolion sy'n hunanwella, mae'n bwysig bod y cyrff gwahanol – yn bennaf ysgolion a chyrff llywodraethu, awdurdodau lleol, a chonsortia rhanbarthol – yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau eu hunain, rolau a chyfrifoldebau cyrff eraill, a'r gydberthynas rhyngddynt. Felly, mae'r canllawiau yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â rôl a chyfrifoldebau'r gwahanol gyrff, mewn perthynas â gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, er mwyn helpu'r system hunanwella i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol.

Yr effaith ar bobl ifanc

Credwn y bydd y newidiadau sy’n cael eu cynnig yn y canllawiau gwella ysgolion yn cael effaith gadarnhaol ar blant yng Nghymru.

Diben cyffredinol gwella ysgolion yw helpu ysgolion i roi'r profiadau a'r canlyniadau dysgu gorau posibl i bobl ifanc, beth bynnag fo'u cefndir, gan gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb a lleihau'r bwlch rhwng dysgwyr difreintiedig a'u cyfoedion. 

O dan y Cwricwlwm i Gymru, rhan sylfaenol o hyn fydd sicrhau bod ysgolion yn cefnogi pob dysgwr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben. Er mwyn sicrhau bod ysgolion yn helpu dysgwyr i symud ymlaen mewn ffordd a fydd yn eu cefnogi i ddatblygu tuag at y pedwar diben, mae'r Egwyddorion Cynnydd yn darparu fframwaith i arweinwyr ysgolion ei ddefnyddio i gynllunio eu prosesau ar gyfer casglu a dadansoddi tystiolaeth am gynnydd dysgwyr, dros amser ac ar lefel grŵp.

Wrth ddileu lefelau yn y Cwricwlwm i Gymru, mae angen i ysgolion a phartneriaid ddatblygu dealltwriaeth fwy soffistigedig ac eang o gynnydd dysgwyr. Mae angen i ysgolion gasglu tystiolaeth i werthuso cynnydd dysgwyr, ar lefel unigol, grŵp ac ysgol. Dylent ddefnyddio'r dystiolaeth hon i ateb y ddau gwestiwn canlynol:

  • a yw dysgwyr yn symud ymlaen yn y ffyrdd a ddisgrifir yn Egwyddorion Cynnydd, gan eu cefnogi i symud ymlaen tuag at y pedwar diben?
  • a yw cyflymder cynnydd dysgwyr yn unol â disgwyliadau athrawon a'r cwricwlwm?

Bydd atebion ysgolion i'r cwestiynau hyn yn helpu i bennu'r llinellau ymholi ar gyfer hunanarfarnu a gwella dilynol. Er mwyn helpu ysgolion i ddod i atebion i'r cwestiynau hyn, mae'r Egwyddorion Dilyniant yn cynnwys egwyddorion ac egwyddorion cyffredinol sy'n benodol i bob Maes Dysgu a Phrofiad.

Er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach, mae'r canllawiau'n nodi wyth ffactor cyfrannol sy'n disgrifio'r nodweddion allweddol y bydd ysgolion sy'n llwyddo i wireddu'r cwricwlwm yn eu meddu; dylid ystyried y ffactorau hyn pan fydd ysgolion yn cynnal proses hunanarfarnu. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cydnabod bod dysgwyr yn symud ymlaen ar wahanol gyfraddau, ac adlewyrchir hyn yn y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd. 

Mae'r trefniadau newydd yn cefnogi cyflwyno diwylliant newydd ar gyfer gwerthuso a gwella ysgolion, lle bydd pob lefel o'r system addysg yn canolbwyntio'n bennaf ar gyflwyno prosesau gwella ysgolion sy'n cefnogi cwricwlwm eang a chytbwys ym mhob ysgol, ac yn sicrhau bod cynnydd a lles pob dysgwr, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, yn cyfrannu at broses hunanarfarnu a blaenoriaethau a chamau gwella dilynol. Anogir ysgolion i fod yn agored am eu cryfderau a'u meysydd i'w gwella, o fewn amgylchedd cydweithredol a chefnogol, a ddylai sicrhau eu bod yn cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella er budd eu dysgwyr.

O dan y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd:

  • Mae cyrff llywodraethu yn atebol am effeithiolrwydd a gwelliant eu hysgol ac yn goruchwylio eu gweithgareddau gwerthuso a gwella. Fel rhan o'r rôl atebolrwydd hon, bydd cyrff llywodraethu yn cyhoeddi crynodebau o gynllun datblygu ysgol blynyddol eu hysgol, gan nodi blaenoriaethau gwella eu hysgol a'r camau y bydd yn eu cymryd i'w cyflawni. Bydd hefyd yn adrodd yn erbyn blaenoriaethau'r flwyddyn flaenorol.
  • Dylid pennu blaenoriaethau gwella'r ysgol drwy ystyried canlyniadau a chasgliadau ei hunanwerthusiad, a blaenoriaethau cenedlaethol statudol, sy'n cynnwys lleihau effaith tlodi ar ddilyniant a chyrhaeddiad dysgwyr. Dylai’r broses hunanarfarnu fod yn seiliedig ar yr ystod ehangaf a chyfoethocaf posibl o wybodaeth, gan gwmpasu ehangder profiad addysgol y dysgwr. Dylai'r prosesau hunanarfarnu ystyried sut mae'r ysgol yn galluogi pob dysgwr, a grwpiau o ddysgwyr, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, i symud ymlaen ar hyd eu llwybr dysgu eu hunain. Dylai'r nod o godi safonau a dyheadau ar gyfer pob dysgwr fod yn sbardun allweddol. Dylai ystyried lles dysgwyr hefyd fod wrth wraidd y broses hunanarfarnu o dan y trefniadau newydd.
  • Agwedd allweddol ar y trefniadau, sy'n cael ei phwysleisio gan yr wyth ffactor cyfrannol, yw pwysigrwydd llais disgyblion ac ymgysylltu â'r gymuned wrth hunanwerthuso ysgolion. Dylid ceisio barn dysgwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach a'u hystyried yn y broses hunanarfarnu. Bydd hyn yn cyfrannu at gyd-destun y dystiolaeth ehangach sydd gerbron ysgolion, a dylai sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu hystyried yn y broses a'u hadlewyrchu yn y blaenoriaethau gwella dilynol.
  • Er mwyn cefnogi proses hunanarfarnu effeithiol mewn ysgolion, rydym wedi gweithio gydag ysgolion, consortia rhanbarthol ac Estyn i ddatblygu'r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella, sy'n rhoi awgrymiadau ac astudiaethau achos i ysgolion i'w helpu i gynnal proses hunanarfarnu. Mae'r adnodd yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd, gyda'i bedair prif thema ar gyfer gwerthuso gan gynnwys Addysgu a Dysgu a Thegwch a Lles.
  • Er y bydd ysgolion yn parhau i ddefnyddio data cymwysterau yn eu hunanwerthusiad, er enghraifft fel man cychwyn ar gyfer proses hunanarfarnu mewn rhai meysydd, ni ddylid ei ddefnyddio ar ei ben ei hun nac allan o'i gyd-destun, na'i gyflwyno fel tystiolaeth o ba mor effeithiol yw ysgol. Mae defnyddio data cymwysterau allanol y tu allan i'w gyd-destun, at ddibenion atebolrwydd, wedi arwain yn y gorffennol at ymddygiad a dewisiadau gwrthnysig gan ysgolion nad ydynt o reidrwydd er lles gorau dysgwyr - er enghraifft, dewis cul o'r cwricwlwm yn y sector cynradd ac uwchradd a ffocws gormodol ar ffin TGAU C/D, a all arwain at ysgolion yn peidio â chydnabod cyflawniadau neu ofynion dysgwyr naill ai'n is neu'n uwch na'r trothwy hwnnw, neu ddysgwyr mewn gwahanol grwpiau oedran. Bydd dileu unrhyw gymhellion canfyddedig i ymddygiadau o'r fath yn gwella cyfleoedd bywyd pob dysgwr, gan y bydd ysgolion yn cael eu hannog i gynnig cwricwlwm eang a chytbwys ac i sicrhau mai'r cynnydd a wneir gan bob dysgwr yw eu blaenoriaeth.
  • Bydd y trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd hefyd yn golygu bod y system gategoreiddio genedlaethol yn dod i ben, gyda'i chategorïau cyhoeddedig. Er mai diben craidd y system gategoreiddio oedd sefydlu lefel y cymorth sydd ei angen ar ysgolion i wella, roedd ganddo nifer o ganlyniadau negyddol. Yn fwyaf arwyddocaol, er nad oedd y categori y lleolwyd ysgol ynddo yn adlewyrchu ar ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol, ond yn hytrach yn asesiad o'r cymorth yr oedd ei angen arno i wella, fe'i hystyriwyd yn ymarfer atebolrwydd - asesiad o ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol. Arweiniodd hyn at y risg ganlyniadol na fyddai ysgolion yn ymgysylltu'n llawn nac yn agored â'r hyn a ddylai fod wedi bod yn broses werthuso a gwella fuddiol i bennu lefel y cymorth yr oedd angen arnynt i wella ar gyfer eu dysgwyr. Yn ogystal, cyfeiriodd adroddiad yr OECD i Lywodraeth Cymru, ‘Achieving the new curriculum for Wales’, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, at ffyrdd y mae canfyddiadau o'r system gategoreiddio genedlaethol wedi llesteirio hyder ysgolion, a hyd yn oed eu gallu i gymryd rhan mewn ymholi, arbrofi ac arloesi. Roedd yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft ar wella ysgolion hefyd yn gryf o blaid dileu categoreiddio am y rheswm hwn.

Mae disodli categoreiddio â phroses fwy pwrpasol, lle mae ysgolion yn nodi'r cymorth sydd ei angen arnynt yn eu crynodebau cynllun datblygu ysgol cyhoeddedig, yn dileu'r awgrym o farn gymharol wrth barhau i ddarparu tryloywder i ddysgwyr, teuluoedd a'r gymuned ehangach. Dylai'r trefniadau newydd annog ysgolion i feddwl yn ehangach am ble y mae angen iddynt ddatblygu i gefnogi pob dysgwr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben, a'r ffordd orau o wneud hynny. Bydd hefyd yn caniatáu iddynt weithio'n fwy cydweithredol ac effeithiol gydag eraill yn y system addysg, gan gynnwys consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol ac ysgolion eraill, i gael unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt i wella ar gyfer eu dysgwyr.

O ganlyniad i'r pandemig, mae'r broses gategoreiddio wedi'i hatal ers haf 2020. Yr adborth clir a gawsom gan gonsortia rhanbarthol, a welodd effaith categoreiddio ar ymddygiad ysgolion bob dydd, yw bod ei waharddiad wedi gwella eu perthynas ag ysgolion, ac wedi cyflymu newid diwylliant tuag at bartneriaeth broffesiynol sy'n cefnogi ac yn cyflymu gwelliant ysgolion yn hytrach nag un sy'n seiliedig ar atebolrwydd. Mae consortia rhanbarthol wedi adrodd bod dileu'r categorïau wedi golygu bod ysgolion yn llawer mwy agored ynghylch gofyn am gymorth, yn enwedig yr ysgolion hynny a oedd wedi'u categoreiddio'n rhai gwyrdd yn y gorffennol.

Esboniwch sut y mae’r cynnig yn debygol o gael effaith ar hawliau’r plentyn

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o’n record yn hybu hawliau’r plentyn ac yn gweithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Ein huchelgais yw sicrhau bod hawliau pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael eu hyrwyddo a'u parchu er mwyn eu galluogi i ddatblygu hyd eithaf eu gallu.

Mae’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru wedi rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â Swyddfa’r Comisiynydd Plant. Mae’r fframwaith newydd arfaethedig ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd mewn ysgolion, a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion, wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd a’i egwyddorion gwaelodol a’u cefnogi.

Rydym yn ystyried bod y fframwaith gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a’r canllawiau sy’n ei gyflwyno yn cyfrannu at yr erthyglau canlynol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn:

  • erthygl 28 - Mae gan blant hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
  • erthygl 29 – Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalent pob plentyn yn llawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, eu diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill.

Bydd y canllawiau gwella ysgolion hefyd yn cefnogi ysgolion ac eraill yn y system addysg i werthuso a gwella’r ffordd o gyflwyno’r pedwar diben i’w dysgwyr. (Mae’r pedwar diben yn cydnabod rôl hawliau plant: bydd pob plentyn a pherson ifanc yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus; sy’n parchu anghenion a hawliau eraill, fel aelod o gymuned amrywiol; ac sy’n deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau fel bodau dynol a’u cyfrifoldebau a’u hawliau democrataidd.) Wrth wneud hynny, bydd yn cael cefnogaeth gan adnodd gwerthuso a gwella cenedlaethol, a fydd yn helpu ymarferwyr i gyflawni ar sail y disgwyliadau a nodir yn y canllawiau. Mae ‘cwricwlwm’ yn un o bedair thema’r adnodd, ac mae’n cynnwys anogaeth i helpu ysgolion i hunanwerthuso’u ffordd o gyflwyno’r pedwar diben ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a’r cynnydd tuag at wneud hynny.