Canllawiau gweithredu: Polisi SAF_02 – Ardaloedd Adnoddau Strategol – drafft gweithio
Mae'r ddogfen hon yn ychwanegu at ganllawiau gweithredu presennol Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Polisi SAF_02: Diogelu adnoddau strategol
Rhaid i gynigion a allai gael effeithiau niweidiol arwyddocaol ar ragolygon unrhyw sector a gwmpesir gan y cynllun hwn i ddefnyddio adnoddau strategol cynaliadwy yn y dyfodol (o adnoddau a nodwyd gan SRA) ddangos sut y byddant yn mynd i’r afael â materion cydnawsedd â’r defnydd potensial hwnnw o adnoddau.
Rhaid i gynigion na allant ddangos cydnawsedd digonol gyflwyno achos clir ac argyhoeddiadol dros fwrw ymlaen.
Dylid dangos cydnawsedd, yn nhrefn blaenoriaeth:
- osgoi effeithiau niweidiol arwyddocaol ar y defnydd potensial hwn o adnoddau strategol, a/neu
- lleihau’r effeithiau niweidiol arwyddocaol lle na ellir eu hosgoi; a/neu
- lliniaru effeithiau niweidiol arwyddocaol lle na ellir eu lleihau
Adran A: Ardaloedd Adnoddau Strategol
1. Diben pennu Ardaloedd Adnoddau Strategol (SRAs) yw nodi ardaloedd ac ynddynt adnoddau allweddol a allai gefnogi gweithgareddau sectorau penodol (a elwir yn 'sectorau ffocws') yn y dyfodol.
2. Mae Polisi SAF_02 yn CMCC, sy'n ymwneud â diogelu, yn berthnasol i Ardaloedd Adnoddau Strategol o'r adeg y bydd yr Ardaloedd hynny’n cael eu pennu yn y lle cyntaf i'r adeg y cyhoeddir Hysbysiad Cynllunio Morol (paragraff 250 yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC).
3. Mae SRAs yn sail i drafodaethau deallus rhwng sectorau gwahanol, a rhwng sectorau a rheoleiddwyr, er mwyn helpu i sicrhau bod adnoddau morol yn cael eu defnyddio a'u datblygu mewn ffyrdd cynaliadwy. Y nod wrth bennu SRAs yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus, wrth iddynt fynd ati i wneud penderfyniadau am waith rheoli morol a phenderfynu ar geisiadau am gydysyniad (e.e. penderfynu ar geisiadau am drwyddedau morol), yn ystyried gallu cenedlaethau'r dyfodol i fedru manteisio ar adnoddau.
4. Nid yw pennu SRAs yn golygu y byddai datblygiadau yn yr ardaloedd hynny yn cael eu cefnogi. Nid yw SRAs yn arwydd bod yr ardaloedd hynny'n addas ar gyfer unrhyw fath penodol o ddatblygiad, ac nid ydynt ychwaith yn arwydd bod unrhyw fwriad i'w datblygu nac i roi cydsyniad cynllunio ar gyfer datblygiad.
5. Nid yw pennu SRA ar gyfer sector ffocws penodol yn golygu bod yn rhaid i'r sector ffocws ei leoli ei hun yn y SRA. Bydd dal angen i bob datblygwr (p'un a yw'r datblygiad mewn o'r sectorau ffocws ai peidio) wneud cais am gydsyniad cynllunio yn y ffordd arferol.
6. Nid yw pennu a sefydlu SRA yn cael unrhyw effaith pan eir ati, wrth benderfynu ar geisiadau, i ystyried eu heffeithiau ar yr amgylcheddol. Mae effeithiau amgylcheddol unrhyw ddatblygiadau yn cael eu hasesu ar hyn o bryd ‒ a byddant yn parhau i gael eu hasesu ‒ drwy gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol cadarn ac thrwy asesiadau amgylcheddol a fydd yn cael eu cynnal ar lefel prosiectau gan y rheoleiddwyr.
7. Cyflwynwyd SRAs ar gyfer y sector ynni llif llanw ar 7 Ionawr 2025.
Adran B: Polisi Diogelu Adnoddau SAF_02
8. Os bydd sectorau eraill yn cyflwyno ceisiadau am gydsyniad ar gyfer datblygiadau neu weithgareddau mewn SRA (neu sy'n effeithio ar SRA), bydd angen i'w cynigion
- ddangos sut y byddant yn mynd ati i bwyso a mesur a fydd y datblygiad neu'r gweithgaredd hwnnw'n gydnaws â defnydd posibl o’r adnoddau yn y dyfodol gan sector ffocws yr SRA honno neu, os nad yw hynny’n bosibl
- cyflwyno achos clir ac argyhoeddiadol o blaid bwrw ymlaen â'r cynigion
9. Wrth ddangos bod cynigion yn gydnaws ag unrhyw ddefnydd posibl yn y dyfodol, neu wrth gyflwyno achos o blaid bwrw ymlaen â nhw, dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cynigion yn gydnaws ag unrhyw ddefnydd posibl yn y dyfodol, gan ddilyn yr hierarchaeth
‘osgoi-lleihau-lliniaru’ er mwyn penderfynu hynny, cyn mynd ati wedyn i gyflwyno achos o blaid bwrw ymlaen â nhw (gweler isod, a hefyd baragraffau 27-38 o brif Ganllawiau Gweithredu CMCC).
10. Wrth gymhwyso Polisi SAF_02, bydd angen edrych ar fanylion penodol y prosiect er mwyn penderfynu a yw'r sectorau dan sylw yn gydnaws â'i gilydd.
11. Fel y nodir yn CMCC, dylid gweithredu mewn ffordd gymesur wrth fynd ati i wneud penderfyniadau. Nid yw cynigion datblygu ar raddfa fach yn debygol o arwain at broblemau o ran cydnawsedd. Er enghraifft, ystyrir nad yw gweithgareddau sydd ym Mand Un yng ngweithdrefn trwyddedu morol CNC yn debygol o arwain at broblemau o ran cydnawsedd a fyddai'n arwain at benderfyniad i wrthod cynnig, a disgwylir felly i weithgareddau sydd yn y band hwnnw gael eu hystyried yn ddigon cydnaws o dan Bolisi SAF_02.
12. Os yw'n bosibl y gallai gynnig effeithio ar yr adnoddau sy'n cael eu diogelu gan SRA, anogir ymgeiswyr yn gryf i gysylltu a thrafod â gweithredwyr yn y sector perthnasol a hefyd gyda'r grwpiau sy'n eu cynrychioli, neu â phartïon eraill addas â diddordeb, os oes rhai, yn ystod camau cynharaf y cysyniad a’r gwaith cynllunio dylunio.
Cydnawsedd digonol ac effeithiau niweidiol arwyddocaol
13. Er mwyn dangos bod cynigion yn ddigon cydnaws â’i gilydd, dylid dangos na fyddant yn golygu y bydd y sector ffocws yn cael ei atal mewn ffordd amhriodol rhag mynd ati yn y dyfodol i ddefnyddio'r adnoddau sy'n cael eu diogelu. Gallai hynny gynnwys ystyried a allai’r cynigion gydfodoli, naill ai ar yr un pryd neu un ar ôl y llall.
14. O ran Polisi SAF_02, gall effeithiau niweidiol arwyddocaol gynnwys effeithiau ar integredd neu faint yr adnodd a ddiogelir, neu effaith sylweddol ar allu'r sector ffocws i fanteisio ar yr adnodd yn y dyfodol.
15. Mae'r hierarchaeth 'osgoi-lleihau-lliniaru' yn berthnasol wrth fynd ati i ddangos bod cynigion yn ddigon cydnaws â’i gilydd o dan Bolisi SAF_02. Dylai ymgeiswyr a'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau ddefnyddio'r hierarchaeth honno, yn unol â'r canllawiau sydd i'w gweld ym mharagraffau 27-28 ym mhrif Ganllawiau Gweithredu CMCC. Gall hynny olygu bod angen addasu amseriad a lleoliad y cynigion er mwyn osgoi neu leihau eu heffeithiau niweidiol (gweler hefyd brif Ganllawiau Gweithredu CMCC, paragraff 360), neu ddefnyddio trefniadau datgomisiynu effeithiol a fydd yn caniatáu i’r lleoliad gael ei ddefnyddio yn y dyfodol unwaith y bydd oes waith y gweithgaredd arfaethedig wedi dod i ben.
16. Cyfrifoldeb y sector y mae'r adnoddau'n cael eu diogelu ar ei gyfer yw cyflwyno sylwadau priodol i ddangos a yw cynnig yn gydnaws â’r ffordd yr eir ati i ddiogelu adnoddau drwy sefyflu SRAs.
Achos o blaid bwrw ymlaen â chynigion
17. Os yw cynigion yn debygol o gael effaith neu effeithiau niweidiol arwyddocaol na ellir mynd i’r afael â nhw drwy gamau i’w hosgoi, eu lleihau neu eu lliniaru'n foddhaol, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno achos clir ac argyhoeddiadol dros fwrw ymlaen â'r cynigion hynny, yn unol â'r canllawiau ym mharagraffau 31-33 a 35 o brif Ganllawiau Gweithredu WNMP.
18. Gall y rheini sy'n gwneud penderfyniadau ddewis cyhoeddi canllawiau ar sut i fynd ati i lunio unrhyw achos o'r fath o blaid bwrw ymlaen â chynigion. Fodd bynnag, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei fod yn cyflwyno digon o wybodaeth am natur a maint yr effeithiau a'r cynigion fel y bo modd eu cyfiawnhau mewn ffordd sy'n ddigon i ddangos y byddai budd tra phwysig yn deillio o fwrw ymlaen â’r cynigion.
19. Nid yw’r ffaith bod cyfiawnhad yn cael ei gyflwyno o blaid unrhyw gynnig yn golygu y bydd yn cael ei gefnogi. Mater i'r sawl a fydd yn gwneud y penderfyniad, fel y gwêl orau, fydd pwyso a mesur yr achos a fydd yn cael ei gyflwyno yn erbyn y effeithiau niweidiol posibl, gan ystyried polisïau perthnasol eraill, y ddeddfwriaeth, a chyfraniad y cynnig at dargedau eraill megis manteision economaidd neu gymdeithasol.
20. Wrth ystyried a ddylid caniatáu i gynnig fynd rhagddo ai peidio ac wrth bwyso a mesur a yw unrhyw effeithiau niweidiol posibl yn drech na'r manteision, dylai'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau ystyried:
- a oes angen cyffredinol am ddatblygiad sy’n cael ei gynnig gan sector nad yw'n un o'r sectorau ffocws, ac a yw'n gorbwyso'r angen i osgoi sefyllfa lle bydd yr adnodd a ddiogelir yn cael ei sterileiddio’n barhaol
- a oes unrhyw ddewisiadau eraill hyfyw a rhesymol yn lle bwrw ymlaen â'r cynnig ar ei ffurf bresennol (e.e. dyluniad, graddfa, lleoliad)
- pwysigrwydd strategol y cynnig (a yw'n cyd-fynd â'r polisïau yn CMCC ac yn ategu amcanion y cynllun)
- i ba raddau y mae'r cynnig yn bodloni polisïau Llywodraeth Cymru neu bolisïau cenedlaethol, ac yn cydymffurfio â gwybodaeth berthnasol arall a pholisïau cynllunio morol megis Hysbysiadau Cynllunio Morol a/neu Ddatganiadau gan y Cabine
- i ba raddau y byddai'r cynnig yn cael effaith niweidiol ar amcanion a pholisïau'r sector a ddiogelir
- i ba raddau y mae adnoddau amgen ar gael i'r sector ffocws
- yr effeithiau ar eraill sy’n defnyddio’r môr.
21. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw llunio a chyflwyno achos cadarn o blaid bwrw ymlaen â chynnig.
22. Cyfrifoldeb y sector y mae'r adnoddau'n cael eu diogelu ar ei gyfer yw cyflwyno sylwadau priodol ynghylch a yw cynnig yn gydnaws â diogelu adnoddau yn y ffordd a wneir drwy SRAs.
23. Fel y nodir yn CMCC, mae gallu'r Weinyddiaeth Amddiffyn i amddiffyn y genedl yn fater sydd o'r pwys mwyaf, ac ni ddylai gweithgareddau a datblygiadau ar y môr effeithio'n andwyol ar fuddiannau amddiffyn strategol (CMCC paragraff 301). O'r herwydd, ystyrir bod buddiannau a gweithgareddau amddiffyn strategol sydd eu hangen at ddibenion amddiffyn a diogelwch cenedlaethol yn bodloni'r gofynion sy'n gysylltiedig â chyflwyno achos o blaid bwrw ymlaen â chynnig, hyd yn oed pan fydd effeithiau niweidiol gweddilliol ar allu'r sector ffocws i fanteisio ar yr adnodd a ddiogelir.
24. Oherwydd pwysigrwydd Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (PSACau), os yw PSAC yn cael effaith neu effeithiau niweidiol arwyddocaol ar ardaloedd ac ynddynt adnoddau a ddiogelir, ac os na ellir mynd i'r afael yn ddigonol â'r effeithiau hynny drwy fesurau i'w hosgoi, eu lleihau neu eu lliniaru, dylai'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau roi blaenoriaeth i'r PSAC arfaethedig. Nid yw hynny'n golygu nad oes angen i PSACau arfaethedig osgoi, lleihau neu liniaru, i’r graddau y bo hynny'n ymarferol, unrhyw effeithiau niweidiol ar ardaloedd ac ynddynt adnoddau a ddiogelir.
25. Nid yw'r diogelu a ddarperir gan SAF_02 yn cael blaenoriaeth dros bwerau "cadwraeth" cyfreithiol Awdurdodau Porthladd/Harbwr ar gyfer rheoli a sicrhau llwybr diogel i bob llong o fewn dyfroedd harbwr, gan gynnwys rheoli cymhorthion mordwyo a charthu. Mae pwerau o'r fath yn cynnwys caffael busnesau a thir; pwerau harbwr a mordwyo i gynnal, gwella, amddiffyn a rheoleiddio'r defnydd o harbwrs a chyhoeddi is-ddeddfau; pwerau i gynnal a gwella gwasanaethau a chyfleusterau harbwr; dynodi angorfeydd; dyfnhau neu garthu; ac i drwyddedu gwaith morol sy'n adeiladu, yn ymestyn neu'n newid strwythurau gwaith.