Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth newydd am y canlynol: 

  • darpariaeth arlwyo ar gyfer plant sy’n mynd i’r ysgol
  • brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd
  • ymweliadau addysgol

Cyflwyniad

Mae cyfleoedd i ddysgu a datblygu yn hanfodol i addysg a lles ein plant a’n pobl ifanc, ac mae amser wedi ei dreulio yn yr ysgol yn dysgu wyneb yn wyneb gyda’u cyfoedion yn ganolog i sicrhau bod ein plant yn cyflawni eu potensial. Gall amser i ffwrdd o’r ysgol fod yn anfanteisiol i ddatblygiad gwybyddol ac academaidd plant a phobl ifanc, yn enwedig plant sy’n agored i niwed a’r rhai sydd o dan anfantais.

Tu allan i’r ysgol fe fydd yn hanfodol bod pob aelod o staff, plant a’u teuluoedd yn parhau i aros adref cymaint â phosib.

Mae’r Grŵp Cyngor Technegol a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori bod y mesurau rheoli cyfredol yn parhau i fod yn hanfodol i ymateb i’r straen newydd ac i helpu lleihau trosglwyddiad y feirws. Fodd bynnag, mae’n debygol bod angen eu gweithredu mewn modd mwy cyson a chadarn oherwydd bod risg uwch o drosglwyddo yn gysylltiedig â’r straen newydd. Bydd ysgolion a lleoliadau wedi dod yn gyfarwydd â’r mesurau rheoli hyn. Bydd adolygu’r asesiad risg a phwysleisio pwysigrwydd y mesurau rheoli hyn i holl aelodau staff, dysgwyr a rheini, yn ogystal ag ymwelwyr i safle’r ysgol, yn parhau i fod yn hanfodol. Efallai y bydd ysgolion a lleoliadau hefyd am arddangos y cerdyn gweithredu yn Atodiad 3 fel cymorth gweledol i staff a dysgwyr.

Ochr yn ochr â’r canllawiau hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau dysgu wedi’u diweddaru a gosod disgwyliadau a blaenoriaethau ar gyfer dysgu. Maent yn darparu set gyffredin o flaenoriaethau ar gyfer dysgu drwy gydol yr ymateb i COVID-19 ac wrth i ni symud tuag at adfer.  

Rhaid i ysgolion annibynnol barhau i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003.

Cyngor ar iechyd y cyhoedd i leihau risgiau COVID-19

Mae’r system reoli a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a nodir yn yr adran hon yn parhau i ddarparu set o egwyddorion ar gyfer rheoli heintiau; os bydd ysgolion a lleoliadau yn dilyn y cyngor hwn ac yn defnyddio’r mesurau rheoli hyn i’r eithaf, byddant yn lleihau’r risgiau o drosglwyddo feirws i bob pwrpas. Mae pob elfen o’r system reoli yn hanfodol. Rhaid i bob ysgol/lleoliad ymdrin â’r holl elfennau, ond bydd y ffordd y mae ysgolion/lleoliadau yn gweithredu rhai o’r gofynion yn amrywio ar sail eu hamgylchiadau unigol.

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau gydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch, sy’n mynnu eu bod yn asesu risgiau ac yn rhoi mesurau rheoli cymesur ar waith. Dylai ysgolion/lleoliadau , ynghyd â’u hawdurdod lleol, adolygu eu hasesiadau risg iechyd a diogelwch yn drylwyr i sicrhau eu bod yn parhau i fynd i’r afael â’r risgiau a nodir yn y system reoli, y bydd ysgolion a lleoliadau bellach yn gyfarwydd â hi.

Mae mesurau hanfodol yn cynnwys:

  • gofyniad i bobl aros gartref a hunanynysu:
  • os oes ganddynt symptomau COVID-19, p’un a ydynt yn teimlo’n sâl ai peidio,
  • os ydynt wedi cael canlyniad positif, hyd yn oed os ydynt yn asymptomatig
  • os ydynt wedi cael cyngor gan Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i wneud hynny
  • os ydynt yn aelodau o aelwyd lle mae achos positif, hyd yn oed os yw’r achos hwnnw’n asymptomatig
  • os ydynt yn gorfod hunanynysu am resymau sy’n ymwneud â theithio
  • meithrin arferion hylendid dwylo ac anadlol da ymysg dysgwyr ac aelodau o staff
  • sicrhau mesurau awyru priodol ar safle’r ysgol a pharhau â threfniadau glanhau trylwyr ychwanegol
  • ymgysylltu’n weithredol â’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu
  • ystyried yn ffurfiol sut mae lleihau cysylltiadau a chynyddu’r pellter corfforol a chymdeithasol rhwng y rheini sydd yn yr ysgol lle bo modd, a rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith i leihau’r posibilrwydd o halogi i’r graddau mwyaf posibl o fewn yr hyn sy’n rhesymol ymarferol

Mae lleihau cysylltiad rhwng dysgwyr, rhwng dysgwyr a staff, a rhwng staff yn dal yn bwysig. Mae’r asedau ychwanegol yn darparu rhagor o wybodaeth am grwpiau cyswllt lefel 1 a lefel 2 a allai fod yn ddefnyddiol; fodd bynnag, dylai ysgolion/lleoliadau sicrhau y canlynol:

  • Grwpio dysgwyr gyda’i gilydd mewn grŵp mor fach â phosibl. Er enghraifft, ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion cynradd mae hyn yn debygol o fod yn ddosbarth. Mewn ysgolion uwchradd, bydd maint y grŵp yn cael ei ddylanwadu gan nifer o ffactorau gan gynnwys cyfanswm nifer y dysgwyr a threfniadau amserlenni.
  • Osgoi cymysgu rhwng grwpiau cyswllt gwahanol, gan gynnwys wrth gyrraedd yr ysgol, yn ystod egwyliau/cinio ac wrth adael yr ysgol
  • Staff i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth staff eraill
  • Staff i gadw pellter cymdeithasol o ddysgwyr eraill cyn belled ag y bod modd, gan gydnabod na fydd o reidrwydd yn bosib gyda dysgwyr iau. Efallai na fydd hyn hefyd yn bosibl i rai dysgwyr mewn ysgolion arbennig a rhai dysgwyr ag AAA - yn yr achosion hynny dylech gyfeirio at y canllawiau ar gefnogi dysgwyr bregus a difreintiedig.
  • Gwneud y mwyaf o’r lle sydd ar gael, gan gynnwys gofod tu fas.

Mae Atodiad A yn cynnwys rhestr wirio sydd wedi cael ei datblygu i helpu ysgolion a lleoliadau wrth ymateb yn ystod yr amgylchiadau hyn.

Asesu risg

Rhaid i awdurdodau lleol, cyflogwyr ac ysgolion amddiffyn pobl rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu staff, dysgwyr ac eraill rhag COVID-19 yn y lleoliad.

Mae’n ofyniad cyfreithiol i ysgolion/lleoliadau ailedrych ar eu hasesiadau risg a'u diweddaru, gan adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu hyd yma a’r arferion maent eisoes wedi’u datblygu. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i ystyried y risgiau ychwanegol a’r mesurau rheoli i’w rhoi ar waith. Gan weithio gyda chynghorydd iechyd a diogelwch eu hawdurdod lleol a’u hundebau llafur dylai ysgolion a lleoliadau hefyd adolygu a diweddaru eu hasesiadau risg ehangach ac ystyried yr angen am reolaethau diwygiedig perthnasol gan ystyried goblygiadau COVID-19. Dylai awdurdod lleol weithio gyda’i ysgolion a’i leoliadau i sicrhau bod yr ysgolion a’r lleoliadau yn rhoi mesurau rheoli call a chymesur ar waith sy’n dilyn yr hierarchaeth rheolaethau iechyd a diogelwch yn Atodiad A, er mwyn lleihau’r risg i’r lefel isaf sy’n rhesymol ymarferol heb effeithio’n negyddol ar les y dysgwyr a’r staff.

Dylai awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda’u hysgolion a’u lleoliadau i ddilyn cyngor iechyd a diogelwch fod â threfniadau gweithredol ar waith i fonitro bod y mesurau rheoli:

  • mor effeithiol â phosib
  • yn gweithio yn ôl y bwriad
  • yn cael eu diweddaru’n briodol gan ystyried unrhyw faterion sy’n codi a newidiadau yn y cyngor ar iechyd y cyhoedd

Yn ogystal â’r cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael gan awdurdodau lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu cyngor a chefnogaeth yn y gweithle er mwyn helpu sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn fannau mor ddiogel â phosib.

Drwy weithio gyda'u hysgolion a’u lleoliadau dylai awdurdodau lleol barhau i sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn cydymffurfio â’u cynlluniau diogelwch, a sicrhau na fydd unrhyw newidiadau a gyflwynir o ganlyniad i gydymffurfio â COVID-19 yn cael effaith negyddol ar eu cynlluniau diogelwch. Mae rhagor o arweiniad ar gael yn llawlyfr Llywodraeth Cymru a WECTU o’r enw Diogelu Ysgolion, dull gweithredu integredig mewn perthynas â diogelwch: Pecyn Cymorth i Benaethiaid (2017).

Y system reoli: mesurau diogelu

Ar ôl asesu’r risgiau, dylai ysgolion/lleoliadau fynd ati i weithio drwy’r system reoli isod, gan fabwysiadu mesurau i’r graddau mwyaf posibl mewn ffordd sy’n rhoi sylw i’r risg a nodwyd yn eu hasesiad, sy’n gweithio i’w hysgol/lleoliad ac sy’n caniatáu iddynt gyflawni cwricwlwm eang a chytbwys i’r holl ddysgwyr sydd yn bresennol yn ystod y cyfnod hwn pan fo’n bosibl.

Bydd ysgolion a lleoliadau sydd yn adolygu a diweddaru eu hasesiadau risg, gan ddilyn y canllawiau a nodir yma, yn lleihau’r risgiau yn eu hysgol/lleoliad yn effeithiol ac yn creu amgylchedd sy’n fwy diogel yn ei hanfod.

System reoli

Dyma’r gyfres o gamau y mae’n rhaid i ysgolion/lleoliad eu cymryd. Maent wedi’u grwpio i gategorïau ‘atal’ ac ‘ymateb i unrhyw haint’ ac maent wedi’u hamlinellu mewn mwy o fanylder yn yr adrannau canlynol.

Atal

  • Sicrhau bod y staff, y dysgwyr a’r rhieni/gofalwyr yn deall yn iawn na chaiff unrhyw aelod staff na dysgwr sydd ag unrhyw un o brif symptomau COVID-19 posibl (peswch newydd parhaus, twymyn a/neu bod wedi colli’r gallu i arogli/flasu) ddod i leoliad yr ysgol, ond bod yn rhaid iddo aros gartref a hunanynysu, trefnu prawf COVID-19 a rhoi gwybod i’r ysgol. Gan gefnogi’r Rheoliadau Diogelu Iechyd, dylai cyflogwyr ganiatáu neu alluogi unigolyn i hunanynysu os yw wedi cael canlyniad positif am COVID-19, yn byw mewn aelwyd lle mae gan aelod arall o'r aelwyd symptomau COVID-19 neu wedi cael canlyniad positif, neu fod y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu neu Ap COVID-19 yr GIG wedi rhoi gwybod iddo ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19.
  • Mae profi hefyd ar gael mewn rhai ardaloedd ar gyfer rheini ag ystod ehangach o symptomau fel blinder, myalgia (poenau yn y cyhyrau), gwddf tost, cur pen, trwyn sy’n rhedeg, cyfog, chwydu neu ddolur rhydd. Nid yw'n ofynnol i unigolion sy'n cymryd prawf oherwydd y symptomau ehangach eraill hyn hunan-ynysu tra eu bod yn aros am ganlyniad eu prawf. Mae hyn yn cynnwys plant a disgyblion ysgol a all barhau i fynychu ysgolion a lleoliadau gofal plant wrth iddynt aros am ganlyniad prawf. Fodd bynnag, dylai plant ac oedolion â dolur rhydd a neu chwydu aros i ffwrdd o'r gwaith neu'r ysgol a pheidio â mynychu lleoliadau gofal plant nes eu bod yn rhydd o symptomau am 48 awr hyd yn oed os yw eu prawf Covid-19 yn negyddol.
  • Os bydd aelod staff neu ddysgwr yn mynd yn sâl yn lleoliad yr ysgol gyda symptomau COVID-19 posibl, dylid ei anfon adref ar unwaith i hunanynysu a threfnu prawf COVID-19. Hyd nes iddo adael lleoliad yr ysgol (yn achos dysgwr pan mae rhiant/gofalwr yn ei gasglu), dylid cadw’r cysylltiad rhyngddo â phob unigolyn arall yn y lleoliad i’r lefel isaf bosibl. Os oes modd, dylid sicrhau ei fod mewn ystafell arall hyd nes y bydd yn gadael y lleoliad.
  • Golchi dwylo’n drwyadl yn amlach nag arfer am o leiaf 20 eiliad gyda dŵr a sebon, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo os nad oes dŵr a sebon ar gael.
  • Sicrhau hylendid anadlol da drwy hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa, golcha dy ddwylo’.
  • Sicrhau mesurau glanhau gwell, gan gynnwys glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd, gan ddefnyddio cynnyrch safonol fel glanedyddion a diheintyddion.
  • Pan fydd angen, mewn amgylchiadau penodol (a nodir yn nes ymlaen yn y canllawiau), gwisgo cyfarpar diogelu personol priodol.
  • Sicrhau awyru priodol pan fo’n bosibl.
  • Lleihau’r cyswllt rhwng pob unigolyn. I bob dysgwr, bydd y pwyslais ar greu grwpiau cyswllt a sicrhau nad oes cymysgu o’r grwpiau hynny. Ar gyfer dysgwyr hŷn bydd y pwyslais hefyd ar gadw pellter cymdeithasol/corfforol lle bynnag y bo’n bosibl. Er enghraifft, lle mae nifer y dysgwyr mewn dosbarth penodol yn gymharol isel o’i gymharu â maint y stafell ddosbarth, gan ganiatáu i’r stafell ddosbarth gael ei osod mewn dull i alluogi pellter cymdeithasol i’w gael ei gynnal.
  • Dylai staff sy’n gyfrifol am ddysgwyr iau aros gyda grwpiau penodedig yn hytrach na symud o un grŵp i’r llall. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y dylent symud o un grŵp i’r llall. Wrth benderfynu a yw amgylchiadau penodol yn eithriadol, bydd angen i ysgolion / lleoliadau ystyried ystod o ffactorau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw drefniant amgen y gellid ei roi ar waith a'u heffeithiau cysylltiedig, ochr yn ochr â'r risg a'r niwed o ganiatáu i unigolyn gyfnewid rhwng gwahanol grwpiau, yn ogystal ag unrhyw liniaru ychwanegol y gallai fod angen eu rhoi ar waith o ganlyniad i drefniadau o’r fath, yn ogystal â chadw cofnod o unrhyw gymysgu rhwng grwpiau cyswllt. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys lle mae aelodau staff yn gweithio gyda gwahanol ddosbarthiadau meithrin yn y bore a’r pnawn.
  • Dylai’r holl staff ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol/corfforol i’r graddau mwyaf posibl, fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd hyn bob amser yn bosibl gyda dysgwyr iau.
  • Os nad oes modd cynnal pellter cymdeithasol, dylai staff ym mhob lleoliad wisgo gorchuddion wyneb tair haen o safon uchel yn y stafell dosbarth yn ogystal â mewn rhannau eraill o’r adeilad ysgol. Fodd bynnag, mae’n bwysig rhoi ystyriaeth i anghenion y dysgwr ac mae’n bosib y bydd angen asesiad risg penodol.
  • Dylai dysgwyr mewn ysgolion uwchradd hefyd wisgo gorchuddion wyneb lle nad oes modd cynnal y trefniadau pellter cymdeithasol a nodir yn y canllaw hwn. Mae hynny yn cynnwys yn y stafell ddosbarth ac mewn ardaloedd eraill o’r adeilad ysgol.
  • Mae profion cyson gwirfoddol ar gael i'r holl staff sy'n gweithio mewn ysgolion a lleoliadau, a dysgwyr o Flwyddyn 7 a hŷn, fel dull o ganfod achosion asymptomatig yn gyflym. Anogir yn gryf pawb sy’n gymwys i fanteisio ar y cynnig o brofion er mwyn llai ymhellach y risg o drosglwyddo asymptompatig.

Ymateb i unrhyw haint

  • Ymgysylltu â’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.
  • Rheoli achosion o COVID-19 yng nghymuned yr ysgol sy’n cael eu cadarnhau a rheoli unrhyw achosion drwy ddilyn cyngor y tîm diogelu iechyd lleol.

Mae’r canllawiau ar gyfer ysgolion preswyl annibynnol yn nodi’r camau y dylid eu cymryd os oes gan unrhyw un yn yr ysgol breswyl symptomau. Dylai’r person hwnnw  hunanynysu am y cyfnod priodol a gwneud cais am brawf cyn gynted â phosibl. P’un a yw’n aros yn yr ysgol ai peidio, bydd angen i ysgolion nodi’r unigolion eraill yn yr ‘aelwyd’ neu gysylltiadau posibl hysbys a fydd yn gorfod hunanynysu am y cyfnod a nodir yn y canllawiau ar hunanynysu. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, cyd-ddisgyblion preswyl sy’n rhannu ystafell gysgu, ystafell ymolchi neu gegin, ac aelodau o staff. Bydd llawer o blant yn elwa ar hunanynysu yn eu tŷ preswyl er mwyn i’w cymorth arferol allu parhau. Bydd eraill yn elwa mwy ar hunanynysu yn eu cartref.

Atal

1. Lleihau’r cyswllt gydag unigolion sydd â symptomau COVID-19 neu sy’n byw gyda rhywun sydd â’r symptomau (p’un a ydynt yn sâl ai peidio), a sicrhau nad ydynt yn mynd i’r ysgol

Dylai awdurdodau lleol, gan weithio gydag ysgolion a lleoliadau, sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n glir:

  • na ddylai dysgwyr, staff nac oedolion eraill ddod i’r ysgol/lleoliad os:
    • maent â symptomau COVID-19
    • wedi cael canlyniad COVID-19 positif
    • yn byw gyda rhywun sydd â symptomau COVID-19
    • yn byw gyda rhywun sydd wedi cael canlyniad COVID-19 positif
    • wedi’i nodi fel cyswllt ag achos COVID-19 positif yn y 10 diwrnod diwethaf
  • bod yn rhaid i unrhyw un sy’n datblygu symptomau COVID-19 yn ystod y diwrnod ysgol gael ei anfon adref ar unwaith

Mae’r dau gam hyn yn hanfodol i leihau’r risg mewn ysgolion a lleihau trosglwyddiad COVID-19 ymhellach.

Rhaid i bob ysgol ddilyn y broses hon a sicrhau bod yr holl staff yn gwybod amdani.

Os bydd unrhyw un yn yr ysgol yn mynd yn sâl gyda pheswch newydd a chyson neu dymheredd uchel, neu os bydd rhywun yn colli ei synnwyr arferol o flas neu arogl neu’n sylwi ar newid yn y synhwyrau hynny (anosmia), dylai’r ysgol barhau i ddilyn y trefniadau sydd ganddi ar waith. Rhaid i’r unigolyn gael ei anfon adref ar unwaith a’i gynghori i ddilyn canllawiau ar gyfer aelwydydd sydd â haint COVID-19 posibl neu wedi’i gadarnhau, h.y., dylai’r unigolyn ddechrau hunanynysu a threfnu i gael prawf COVID-19.

Dylai aelodau eraill o aelwyd yr unigolyn (gan gynnwys unrhyw frodyr a chwiorydd) hefyd ddechrau hunanynysu ac aros am ganlyniad y prawf i weld a yw’r aelod o’u haelwyd wedi cael canlyniad positif.

Os oes plentyn â symptomau COVID-19 yn aros i gael ei gasglu, dylid ei symud i ystafell lle gellir ei ynysu y tu ôl i ddrws caeedig os oes modd, gan ddibynnu ar ei oedran a’i anghenion, gyda goruchwyliaeth briodol gan oedolyn os oes angen. Yn ddelfrydol, dylid agor ffenestr ar gyfer awyru. Os nad oes modd ynysu’r plentyn, symudwch ef i ardal sydd o leiaf dau fetr oddi wrth bobl eraill.

Os oes angen i’r plentyn fynd i’r toiled wrth aros i gael ei gasglu, dylai ddefnyddio toiled ar wahân os oes modd. Rhaid glanhau a diheintio’r ystafell ymolchi gan ddefnyddio cynnyrch glanhau safonol cyn i unrhyw un arall ei defnyddio.

Yn ôl yr arfer, ffoniwch 999 mewn argyfwng – os oes rhywun yn ddifrifol wael, wedi cael anaf, neu fod ei fywyd mewn perygl. Ni ddylai unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 ymweld â meddyg teulu, fferyllfa, canolfan gofal brys nac ysbyty fel arall.

Nid oes angen i unrhyw aelod o staff sydd wedi darparu gofal cyswllt agos i rywun sydd â symptomau fynd adref i hunanynysu, nac unrhyw aelod arall o staff na dysgwyr sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r person sydd â symptomau (hyd yn oed os yw’n gwisgo gorchudd wyneb), oni bai:

  • fod y person â symptomau wedyn yn cael canlyniad positif
  • eu bod yn datblygu symptomau eu hunain (os felly, dylent hunanynysu ar unwaith a threfnu i gael prawf)
  • fod Profi, Olrhain, Diogelu yn gofyn iddo wneud hynny

Rhaid i bawb olchi eu dwylo’n drwyadl am o leiaf 20 eiliad gyda sebon a dŵr sy’n llifo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo ar ôl unrhyw gyswllt â rhywun sy’n sâl gyda symptomau COVID-19. Rhaid glanhau’r ardal o gwmpas y person sydd â symptomau ar ôl iddo adael er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint i bobl eraill. Edrychwch ar ganllawiau Gov.UK, COVID-19: canllawiau ar lanhau lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd y tu allan i’r cartref.

Y cyngor ar hyn o bryd yw nad oes angen sgrinio tymheredd. Gall rhieni/gofalwyr dysgwyr gadw llygad am arwyddion o dymheredd uchel. Ni fydd sgrinio yn dod o hyd i bob achos o COVID-19 a gallai’r broses o fesur tymheredd gynyddu risg y staff o drosglwyddo'r haint, yn ogystal â gwneud i’r dysgwyr boeni neu bryderu

2. Golchi dwylo’n drylwyr yn amlach nag arfer

Mae hi’n hawdd lladd y feirws COVID-19 pan fydd ar y croen. Mae hyn yn dal yn wir am yr amrywiolyn newydd. Mae modd gwneud hyn gyda dŵr sy’n llifo a sebon neu hylif diheintio dwylo. Mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn golchi eu dwylo’n rheolaidd, gan gynnwys pan fyddant yn cyrraedd yr ysgol, pan fyddant yn dychwelyd ar ôl egwyl, pan fyddant yn newid ystafelloedd a chyn ac ar ôl bwyta. Bydd angen golchi dwylo’n rheolaidd ac yn drylwyr am gryn amser eto. Mae pwyntiau i’w hystyried a’u gweithredu yn cynnwys y canlynol:

  • Ystyried a oes digon o gyfleusterau golchi dwylo neu ddiheintio dwylo ar gael yn yr ysgol er mwyn i’r holl ddysgwyr a staff allu golchi eu dwylo’n rheolaidd.
  • Goruchwylio dysgwyr pan fyddant yn defnyddio hylif diheintio dwylo o ystyried y risgiau sydd ynghlwm wrth ei lyncu. Dylid parhau i helpu plant bach a dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth i olchi eu dwylo’n iawn. Gellir defnyddio clytiau glanhau sy’n addas i groen fel dewis arall
  • Ymgorffori’r arferion hyn yn niwylliant yr ysgol, gan osod disgwyliadau o ran ymddygiad i’w cefnogi, a helpu plant iau a’r rheini sydd ag anghenion cymhleth i ddeall bod angen eu dilyn
  • defnyddio peiriannau sebon awtomatig lle bo modd a sychu’r dwylo’n drylwyr, gan ddefnyddio tywelion papur os oes modd. Dylid osgoi peiriannau sychu dwylo pan fo’n bosibl. Dylid gwaredu tywelion papur mewn bin gyda chaead arno ac ni ddylid gadael iddo orlenwi. Dylid gwagio’r biniau yn aml ac yn ddyddiol.

3. Sicrhau hylendid anadlol da drwy hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa, golcha dy ddwylo’

Mae’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa, golcha dy ddwylo’ yn dal yn bwysig iawn, felly mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bod ganddynt ddigon o hancesi papur a biniau ar gael yn yr ysgol i helpu dysgwyr a staff i ddilyn y drefn hon. Yn yr un modd â golchi dwylo, rhaid i ysgolion sicrhau bod plant iau a’r rheini sydd ag anghenion cymhleth yn cael cymorth i wneud hyn yn iawn. Mae angen i’r holl ddysgwyr ddeall bod hyn bellach yn rhan o sut mae’r ysgol yn gweithredu. Mae gwefan e-Bug COVID-19 yn cynnwys adnoddau am ddim i ysgolion, gan gynnwys deunyddiau i annog hylendid dwylo ac anadlol da.

Bydd hi’n anodd i rai dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth gynnal hylendid anadlol cystal â’u cyfoedion, e.e., y rheini sy’n poeri heb reolaeth neu’n defnyddio poer fel symbylydd synhwyraidd. Dylid ystyried hyn mewn asesiadau risg er mwyn cefnogi’r dysgwyr hyn a’r staff sy’n gweithio gyda nhw, ac nid yw hyn yn rheswm dros beidio â darparu addysg wyneb yn wyneb i’r dysgwyr hyn.

4. Glanhau’n well, gan gynnwys glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd, gan ddefnyddio cynnyrch safonol fel glanedyddion

Dylai ysgolion a lleoliadau ddilyn y cyngor glanhau diweddaraf ar gyfer lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd.

Mae pwyntiau i’w hystyried a’u gweithredu yn cynnwys:

  • Paratoi amserlen glanhau sy’n sicrhau bod y glanhau’n cael ei wella’n gyffredinol ac yn cynnwys:
    • glanhau ystafelloedd/ardaloedd a rennir yn amlach ar ôl i wahanol grwpiau eu defnyddio
    • glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd yn amlach nag arfer
  • Pan fo’n bosibl, darparu toiledau ar wahân ar gyfer gwahanol grwpiau cyswllt. Pan na fydd hyn yn bosibl, sicrhau bod hylif diheintio dwylo yn cael ei ddefnyddio cyn mynd i mewn i’r toiled a bod y toiledau’n cael eu glanhau’n rheolaidd. Rhaid annog y dysgwyr i olchi eu dwylo’n drylwyr cyn ac ar ôl defnyddio’r toiled.

5. Lleihau’r cyswllt rhwng unigolion a chadw pellter cymdeithasol

Mae cael llai o gyswllt a chymysgu rhwng pobl yn lleihau’r tebygolrwydd o drosglwyddo COVID-19. Mae hyn yn parhau i fod yn bwysig ym mhob cyd-destun a rhaid i ysgolion a lleoliadau barhau i ystyried sut i weithredu hyn a gwneud popeth posibl i leihau cyswllt a chymysgu.

Yr egwyddor gyffredinol i’w dilyn mewn unrhyw ysgol/lleoliad yw lleihau faint o gyswllt fydd rhwng y plant a’r staff, yn ogystal â rhwng staff, a chadw grwpiau cyswllt ar wahân. Dylai ysgolion a lleoliadau gadw at y grwpiau cyswllt a pheidio eu cymysgu. Rydyn ni’n cydnabod na fydd plant iau yn gallu cadw pellter cymdeithasol ac ei fod yn dderbyniol iddynt beidio cadw pellter o fewn eu grŵp – y mesur pwysig yma yw i gynnal a pheidio cymysgu y grŵp cyswllt ochr yn ochr â’r camau lliniaru eraill yn y canllaw hwn. Mae cyflwyno grwpiau cyswllt yn gydnabyddiaeth nad yw bob amser yn bosibl cynnal pellter cymdeithasol; mae'n gam lliniaru pwysig er mwyn helpu i leihau cysylltiadau a chymysgu rhwng pobl.

Hefyd, dylid cefnogi plant hŷn i gadw pellter lle bynnag bo’n bosibl. Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried defnyddio unrhyw ofod ychwanegol sydd ar gael i sicrhau’r pellter mwyaf posibl rhwng dysgwyr a rhwng staff a phobl eraill.

Sut i grwpio plant

Mae grwpiau cyson yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint drwy gyfyngu ar nifer y dysgwyr a’r staff a fydd yn cael cyswllt â’i gilydd i ddim ond y rheini a fydd yn y grŵp. Mae grwpiau wedi cael eu defnyddio hyd yma oherwydd fe gydnabyddir nad yw plant, yn enwedig y plant ieuengaf, yn gallu cadw pellter cymdeithasol oddi wrth staff na’i gilydd, mae cynnal a pheidio cymysgu grwpiau cyswllt yn fesur diogelu ychwanegol. Mae cynnal grwpiau cyswllt penodol na fyddant yn cymysgu hefyd yn ei gwneud hi’n gynt ac yn haws, os bydd achos positif, i adnabod y rheini y gallai fod angen iddynt hunanynysu a chadw’r nifer hwnnw mor isel â phosibl.

Dylid cadw pob grŵp ar wahân i grwpiau eraill a dylid annog y dysgwyr hŷn i gadw pellter o fewn grwpiau cyswllt. Dylai ysgolion gymryd camau i sicrhau bod grwpiau cyswllt gwahanol yn rhyngweithio cyn lleied â phosibl â’i gilydd ac yn rhannu ystafelloedd a mannau cymdeithasol cyn lleied â phosibl.

Gyda grwpiau mwy, mae’r mesurau eraill o’r system reoli yn fwy pwysig fyth er mwyn lleihau y risg o drosglwyddo yn ogystal â’r nifer o ddysgwyr a staff a all fod angen hunan-ynysu.

Nid yw’r dull gwahanu grwpiau na’r dull cadw pellter yn opsiynau ‘popeth neu ddim’ a byddant yn dal yn arwain at fanteision hyd yn oed os cânt eu gweithredu’n rhannol. Mae’n bosibl y bydd brodyr a chwiorydd mewn grwpiau gwahanol hefyd. Bydd ymdrechu i gadw’r grwpiau hyn ar wahân, yn rhannol o leiaf, a lleihau’r cyswllt rhwng y plant yn dal i arwain at fanteision o ran iechyd y cyhoedd gan fod hyn yn lleihau’r rhwydwaith posibl o bobl y gellid trosglwyddo’r haint iddynt yn uniongyrchol.

Dylai'r staff sy'n gyfrifol am ddysgwyr iau aros gyda grwpiau penodol. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylai staff gyfnewid rhwng grwpiau. Dylai'r holl staff gadw at y mesurau pellhau cymdeithasol cyn belled ag y bo modd; fodd bynnag, rydym yn cydnabod efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl tra’n gweithio gyda dysgwyr iau. Yn yr amgylchiadau hyn dylai aelodau staff wisgo gorchuddion wyneb tair haen o ansawdd uchel. Fodd bynnag, bydd rhoi ystyriaeth i anghenion dysgu yn bwysig ac efallai y bydd angen asesiad risg penodol.

Mesurau yn yr ystafell ddosbarth

Mae cadw pellter rhwng pobl pan fyddant dan do a lleihau’r amser maent yn ei dreulio mewn cyswllt wyneb yn wyneb yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint. Mae cyngor iechyd cyhoeddus cryf y dylai staff mewn ysgolion uwchradd gadw pellter oddi wrth eu dysgwyr, gan aros o flaen y dosbarth, ac oddi wrth eu cydweithwyr pan fo hynny’n bosibl. Yn ddelfrydol, dylai oedolion gadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd, ac oddi wrth blant. Lle bynnag bo’n bosib, dylid defnyddio unrhyw ofod sydd ar gael tra bo niferoedd llai yn mynychu er mwyn sicrhau y pellter mwyaf rhwng dysgwyr a rhwng aelodau o staff ag eraill. Rydym yn gwybod na fydd hyn bob tro’n bosibl, yn enwedig wrth weithio gyda phlant iau, ond os gall oedolion wneud hyn pan fydd amgylchiadau’n caniatáu, bydd hynny’n helpu. Yn benodol, dylent osgoi cyswllt wyneb yn wyneb agos a lleihau’r amser a dreulir yn nes nag un metr at unrhyw un. Yn yr un modd, ni fydd hyn yn bosibl wrth weithio gyda llawer o ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth neu y mae angen gofal cyswllt agos arnynt. Dylid darparu cymorth addysgol a gofal y dysgwyr hyn yn yr un ffordd ag arfer. Mae staff sydd â chyfrifoldeb am ddarparu gofal personol agos ar gyfer rhai o’n dysgwyr mwyaf bregus sydd ag anghenion meddygol cymhleth wedi eu cynnwys fel rhan o’r rhestr blaenoriaeth ar gyfer brechu, ac wedi cael cynnig dos cyntaf o’r brechlyn erbyn canol Chwefror, yn helpueu gwarchod nhw ac ein dysgwyr mwyaf bregus. Bydd hefyd yn bwysig i ymgymryd ag asesiad risg er mwyn sicrhau bod unrhyw fesurau lleihau eraill, er enghraifft defnyddio gofod wedi ei awyru yn dda, a gorchuddion wyneb 3 haen o safon uchel, yn cael eu hystyried.

Rydym yn cydnabod y bydd dysgwyr mewn ysgolion uwchradd, yn enwedig dysgwyr hŷn, yn symud rhwng grwpiau cyswllt. Dylid rhoi trefniadau ar waith i alluogi dysgwyr i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd yn ogystal ag aelodau staff lle bynnag y bo modd, ochr yn ochr â mesurau rheoli eraill. Efallai y bydd ysgolion am ystyried defnyddio'r lleoedd amgen ac ychwanegol sydd ar gael yn yr ysgol wrth gynllunio grwpiau cyswllt. Dylai ysgolion ystyried effaith trefniadau o'r fath ar ddysgwyr yn ogystal â staff.

Pan na fydd staff neu blant yn gallu cadw pellter, yn enwedig plant iau mewn ysgolion cynradd, mae modd lleihau’r risg hefyd drwy gadw dysgwyr mewn grwpiau llai, er enghraifft maint eu dosbarth, gan sicrhau nad yw’r grwpiau cyswllt hyn yn cymysgu a bod staff yn gwisgo gorchuddion wyneb.

Dylai ysgolion wneud mân addasiadau i’r ystafell ddosbarth i gefnogi cadw pellter pan fydd hynny’n bosibl. Dylai hynny gynnwys gosod seddi’r dysgwyr ochr yn ochr ac yn wynebu ymlaen, yn hytrach nag wyneb yn wyneb neu’n wynebu’r ochr, a gallai olygu symud celfi diangen o ystafelloedd dosbarth i wneud mwy o le. Bydd dysgwyr Cyfnod Sylfaen yn fwy actif wrth ddysgu ar sail chwarae ac ni fydd angen trefniadau eistedd a desg. Yn unol â dull pedagogaidd y Cyfnod Sylfaen dylid defnyddio dysgu yn yr awyr agored i hyrwyddo gweithgareddau dysgu annibynnol sy'n canolbwyntio ar y plentyn a dylid eu hystyried lle bynnag y bo modd.

Mesurau mewn mannau eraill

Dylid cadw grwpiau cyswllt ar wahân, sy’n golygu y dylai ysgolion osgoi cynulliadau fel gwasanaethau boreol, amseroedd egwyl/cinio neu addoli ar y cyd gyda mwy nag un grŵp.

Dylid symud cyn lleied â phosibl o amgylch safle’r ysgol. Er bod pasio ei gilydd yn gyflym yn y coridor neu’r maes chwarae yn risg isel, dylai ysgolion osgoi creu coridorau, mynedfeydd ac allanfeydd prysur. Dylai ysgolion hefyd ystyried amseroedd egwyl ac amseroedd cinio gwahanol (ac amser i lanhau arwynebau yn y neuadd fwyd rhwng grwpiau).

Dylai ysgolion hefyd gynllunio sut mae mannau a rennir i’r staff yn cael eu trefnu er mwyn sicrhau bod staff yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd. Dylid gwneud defnydd llai o ystafelloedd staff, er bod rhaid i’r staff gael egwyl ddigon hir yn ystod y dydd o hyd. Dylai ysgolion hefyd ystyried sut mae ardaloedd eraill a rennir, fel llyfrgelloedd ac ystafelloedd cyffredin i’r chweched dosbarth yn cael eu trefnu a'u defnyddio gan staff a dysgwyr i sicrhau y gellir cynnal pellter cymdeithasol.

Blynyddoedd Cynnar

Rydym yn cydnabod y gall rhai trefniadau ar gyfer ein dysgwyr blynyddoedd cynnar gyflwyno heriau unigryw i awdurdodau a darparwyr lleol. Mae angen meddwl a chynllunio ychwanegol, yn enwedig lle mae'r trefniadau hynny yn cefnogi rhieni ac bod angen iddynt blethu yn ddi-dor gyda darpariaeth gofal plant.

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod ein dysgwyr ieuengaf yn y grŵp lleiaf mewn perygl. Rydym hefyd yn gwybod bod ein hymarferwyr addysgol blynyddoedd cynnar yn brofiadol wrth ofalu am anghenion plant ifanc a byddant yn defnyddio barn broffesiynol gan wneud y peth iawn i blant, rhieni a staff. Mae parhau â dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn golygu y byddwn darpariaeth Cyfnod Sylfaen o safon uchel o ansawdd uchel gyda datblygiad personol a chymdeithasol a lles yng nghanol ein hathroniaeth Cyfnod Sylfaen ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf gyda ffocws ar ddysgu seiliedig ar chwarae.

Addysg feithrin  

Mae dysgwyr iau ar gam hanfodol o ddatblygiad gwybyddol ac mae'n hanfodol bod eu cam cyntaf mewn addysg yn un cadarnhaol ac yn cynnig sylfaen gref ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol. Mae angen sicrhau bod y fframwaith gywir yn cael ei roi i ysgolion a lleoliadau nas cynhelir er mwyn i’n plant ieuengaf gael y dechrau gorau oll i'w bywyd addysgol, ac un y gallant adeiladu arno ar gyfer y dyfodol.  

Cynghorir lleoliadau nas cynhelir i ddilyn y canllawiau gweithredol ar gyfer lleoliadau gofal plant.

Pontio

Dylai ysgolion a lleoliadau gofal plant nas cynhelir ddilyn eu prosesau pontio arferol, lle bo hynny'n bosibl, er mwyn sicrhau profiad cadarnhaol a diogel i'n dysgwyr ieuengaf o fewn nod cyffredinol bod pob plentyn yn cael mynediad i addysg cyn gynted ag sy'n ymarferol.

I rai teuluoedd, fel ein gweithwyr hanfodol, rydyn ni’n gwybod y bydd defnyddio gofal plant y tu allan i'r ysgol neu gofal cyfleidiol yn allweddol i gynorthwyo plant i ddychwelyd i'r ysgol a rhieni i weithio. Lle bynnag y bo modd, dylid cadw hyn i'r lleiafswm, ond mewn rhai achosion mi fydd hynny yn anochel, ac mae hynny'n arbennig o wir ar gyfer addysg gynnar yn dibynnu ar fodel darparu eich ardal chi.

Os yw'r plentyn yn mynychu addysg a gofal plant, a bod hyn yn digwydd ar draws dau leoliad neu safle, fe fydd hi’n bwysig sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant i gyd yn deall y trefniadau pontio ac yn deall pryd fydd y plentyn ym mhob lleoliad a pha drefniadau casglu a chludiant sydd ar waith. Bydd presenoldeb mewn mwy nag un lleoliad yn gofyn am weithio mewn partneriaeth agos rhwng ysgolion, lleoliadau gofal plant a rhieni. Yn ddelfrydol, dylai plant aros yn yr un grŵp cyswllt ar draws lleoliadau, ac os amheuir bod achos o Covid-19 yn y naill leoliad neu'r llall sy'n effeithio ar y plentyn hwnnw a'i grŵp cyswllt, rhaid hysbysu'r ddau leoliad a chydweithio i adnabod cysylltiadau.

Bydd gan ysgolion a lleoliadau nas cynhelir a ariennir gyfrifoldeb ychwanegol dros drosglwyddo ar gyfer dysgwyr newydd. Yn ogystal, bydd gan ddysgwyr cyfredol cyfnod ail-bontio estynedig ac efallai angen cefnogaeth ychwanegol oherwydd yr amser y buont i ffwrdd, a bydd rhai dysgwyr hefyd yn pontio o leoliadau i ysgolion.

Cyfranogiad rhieni  

Mewn darpariaeth feithrinfa yn aml mae lefel uwch o gyfranogiad rhieni nag ar unrhyw adeg yn nhaith addysgol plentyn. Yn ogystal â gollwng a chasglu plant, mae rhieni weithiau'n helpu eu plant i ymgartrefu ac mae'n ddigon posib y bydd staff yn ymweld â'r cartref cyn i'r plant ddechrau. Bydd angen i ysgolion a lleoliadau gydbwyso'r ymgysylltiad hwn â'r angen i leihau lefelau cyffredinol y cysylltiadau. Dylid ystyried sut mae hyn yn cael ei wneud wrth gynnal asesiadau risg. Os oes angen ymweliad cartref dylid ei gynnal y tu allan, er enghraifft yng ngardd yr adeilad lle mae'r plentyn yn preswylio, er mwyn sicrhau y gellir cynnal pellter corfforol / cymdeithasol o 2 fetr o’r aelod o staff yr ysgol a'r plentyn a'i deulu.

Adnoddau  

Yn ychwanegol at y canllawiau yn y ddogfen hon ynghylch glanhau trylwyr, bydd cael setiau gwahanol o offer ac adnoddau ar gyfer gwahanol grwpiau o blant yn y feithrinfa, os yn bosibl, hefyd yn helpu i leihau trosglwyddiad, yn enwedig lle mae angen i fwy nag un grŵp o ddysgwyr gael mynediad i'r un gofod yn ystod un diwrnod - er enghraifft, mewn ysgolion sydd â darpariaeth feithrinfa yn y bore a phrynhawn. Byddai hyn yn lleihau faint o lanhau sydd angen ei wneud yn ystod y cyfnod newid, gan ffocysu ar ddodrefn sefydlog, offer mwy a mannau bydd nifer uchel o bobl yn eu cyffwrdd.

Optimeiddio'r gofod

Dylid cynyddu'r amser y mae dysgwyr yn ei dreulio yn yr awyr agored. Mae gan hyn fuddion corfforol, meddyliol ac addysgol pwysig ac mae'n helpu i frwydro yn erbyn trosglwyddo COVID-19.

Pan dan do, dylai ymarferwyr ddefnyddio'r holl le sydd ar gael, gan gynnwys ardaloedd sydd wedi'u neilltuo fel arfer ar gyfer dysgwyr hŷn. Rydym yn cydnabod y bydd rhywfaint o'r gofod hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy’n agored i niwed.

Cadw pellter cymdeithasol

Yn ychwanegol at y canllawiau yn gynharach yn y ddogfen hon ynghylch lleihau cyswllt, bydd yn anoddach cynnal lefel y pellter cymdeithasol (corfforol) gyda phlant ifanc mewn lleoliadau gofal plant dan do nag mewn lleoliadau eraill. Dylai lleoliadau felly weithredu'r mesurau pellhau cymdeithasol a chymysgu mewn lleoliadau gofal plant a nodir yng nghanllaw Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel i leihau nifer y cysylltiadau sydd gan blant ac oedolion pan fyddant y dan do, tra’n sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn derbyn gofal da.

Amlinellir gwybodaeth bellach am hunan-ynysu a phrofion archebu ar gyfer y rhai sy'n dangos symptomau a'r broses ar gyfer olrhain cyswllt yn gynharach yn y canllaw hwn: mesurau amddiffynnol.

Gweithgareddau wedi’u trefnu i blant

Fe wnaeth gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu i blant ailgychwyn o 27 Mawrth 2021, ac fe ailgychwynnodd gweithgareddau dan do wedi’u trefnu i blant o 3 Mai 2021. Nid yw presenoldeb mewn gweithgareddau o'r fath, pan fyddant yn digwydd y tu allan i'r diwrnod ysgol ac i ffwrdd o ystâd yr ysgol, yn fater y byddai disgwyl i ysgolion neu leoliadau ei blismona. Fodd bynnag, mae'n debygol y byddai mynychu gweithgareddau o'r fath yn cynyddu nifer y cysylltiadau sydd gan blant. Bydd angen i ysgolion a lleoliadau gofio hyn wrth gyfathrebu â rhieni. Yn yr un modd ag amgylchiadau lle mae plant yn mynychu ysgolion yn ogystal â lleoliadau gofal plant, os oes amheuaeth o achos Covid-19 mewn unrhyw weithgaredd wedi’i drefnu sy'n effeithio ar y plentyn hwnnw a'i grŵp cyswllt, rhaid hysbysu lleoliadau a chydweithio i nodi cysylltiadau. Ceir gwybodaeth pellach a chanllawiau ar gyfer gweithreddau awyr agored a dan do wedi’u trefnu i blant yma.

Defnyddio gorchudd wyneb at ddibenion iechyd

Daeth adolygiad cyflym gan Public Health England yn Ionawr 2021 i’r casgliad bod tystiolaeth gyson o astudiaethau arsylwadol y gall defnydd o orchuddion wyneb ar draws cymuned leihau trosglwyddiad COVID-19. Fodd bynnag, nid yw gorchuddion wyneb yn cymryd lle mesurau llawer mwy effeithiol fel cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo.

Pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud i ddefnyddio gorchudd wyneb, byddem yn annog unigolion i ddefnyddio gorchuddion wyneb tair haen o safon uchel y gellir eu hailgylchu/eu defnyddio fwy nag unwaith, ac i'w defnyddio’n gywir drwy orchuddio’r geg a’r trwyn, gan sicrhau hylendid dwylo cyn eu gwisgo a’u tynnu. Dylai ysgolion a lleoliadau hefyd sicrhau bod digon o finiau gwastraff ar y safle i’r rheini sy’n defnyddio gorchuddion wyneb untro.

Dylai gorchuddion wyneb fod yn rhai tair haen o safon uchel fel y nodir gan Sefydliad Iechyd y Byd, ond nid oes angen iddynt fod yn fasgiau wyneb graddfa feddygol. Nid yw gorchuddion wyneb na feisorau yn gyfarpar diogelu personol (PPE) ac ni fyddent yn atal unigolyn rhag cael ei adnabod fel cyswllt agos gan Profi, Olrhain, Diogelu.

Os nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, dylid  gwisgo gorchudd wyneb unrhywle ar ystâd yr ysgol, gan gynnwys yn yr ystafell ddosbarth gan staff mewn ysgolion cynradd, ac gan staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd. Yr eithriad i hyn yw yn ystod prydau bwyd a phan fyddant y tu allan, oni bai fod asesiad risg yr ysgol yn dangos bod angen mesurau ychwanegol, e.e., ar iard ysgol lle mae nifer fawr o ddysgwyr mewn lle cymharol fach ac nad yw’r grwpiau cyswllt wedi’u gwahanu (fel pan fyddant yn aros i fynd i mewn i’r ysgol). Nid yw gwisgo a thynnu gorchuddion wyneb yn aml yn cael ei argymell oherwydd mae hyn yn gallu peri risg o halogi'r dwylo a’r wyneb; os yw’r dysgwyr y tu allan am gyfnod byr, efallai y bydd yn haws iddynt beidio â thynnu eu gorchuddion wyneb. Ni ddylai dysgwyr wisgo gorchuddion wyneb wrth redeg o gwmpas, chwarae pêl-droed neu chwarae gemau egnïol eraill.

Dylai dysgwyr mewn lleoliadau ac ysgolion uwchradd barhau i wisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar gludiant penodedig i’r ysgol. Mae hyn wedi ei alinio â’r gofyniad i holl deithwyr dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth cyhoeddus. Nid yw hyn yn berthnasol i blant iau mewn ysgolion cynradd a lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Os oes unrhyw un yn dymuno gwisgo gorchudd wyneb am resymau personol yn unrhyw le yn yr ysgol/lleoliad, dylid caniatáu iddynt wneud hynny. Gallai hyn helpu i gefnogi lles ehangach, lleihau pryder a rhoi sicrwydd ychwanegol i rai unigolion ochr yn ochr â mesurau lliniaru eraill.

Bydd gyrwyr tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat yng Nghymru yn medru hawlio pecyn am ddim o gyfarpar diogelu personol ansawdd uchel a deunyddiau glanhau cerbyd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw magu hyder gyrwyr a theithwyr wrth deithio’n ddiogel.

Dylai pobl sy’n ymweld â lleoliad yr ysgol ddefnyddio gorchudd wyneb, gan gynnwys rhieni/gofalwyr wrth ddanfon a chasglu dysgwyr.

Bydd angen i ysgolion gyfathrebu’n gyflym ac yn glir â staff, rhieni/gofalwyr a dysgwyr bod y trefniadau newydd yn mynnu bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo mewn rhai amgylchiadau. Dylai ysgolion hefyd wneud yn siŵr bod arwyddion priodol ar y safle i sicrhau bod ymwelwyr a rhieni/gofalwyr yn ymwybodol ei bod yn ofynnol iddynt wisgo gorchuddion wyneb wrth ddod i mewn i safle’r ysgol, ac i beidio aros ar safle’r ysgol/gatiau’r ysgol mwy nag sydd angen wrth ddod â plant i’r ysgol/eu casglu.

Mae rhywfaint o bethau i’w hystyried o ran gorchuddion wyneb a allai beri risg neu niwed, gan gynnwys:

  • y posibilrwydd y gallai’r feirws ymledu’n anfwriadol wrth wisgo neu dynnu gorchuddion wyneb
  • yr angen am gyflenwad; eu gwisgo’n ddiogel; storio a gwaredu gorchuddion wyneb
  • y risg o stigmateiddio neu fwlio’r rheini sydd ag eithriadau meddygol (yn enwedig dysgwyr niwroamrywiol)
  • problemau i’r rheini sy’n darllen gwefusau
  • effeithiau niweidiol ar ddysgu, cyfathrebu ac ymgysylltu’n emosiynol sy’n deillio o guddio nodweddion

Rhaid rhoi blaenoriaeth i fuddiannau cyffredinol y person ifanc yn yr amgylchiadau hyn ac ni ddylid eithrio unrhyw ddysgwr rhag cael mynediad i addysg ar y sail nad yw’n gwisgo gorchudd wyneb. Efallai y bydd angen darparu gorchuddion wyneb i rai grwpiau o ddysgwyr nad ydynt efallai’n gallu eu cael drwy ddulliau eraill, os ydynt yn cael eu hargymell yn lleol.

Mae meddwl am les y dysgwyr yn hollbwysig wrth ystyried a ddylai staff neu ddysgwyr hŷn wisgo gorchudd wyneb ai peidio. Ni ddylai neb na fyddant efallai’n gallu defnyddio gorchudd wyneb yn unol â’r cyfarwyddiadau wisgo gorchudd o’r fath gan y gallai hynny gynyddu’r risg o drosglwyddo’r haint, e.e. dysgwyr ifanc neu’r rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau,. Dylid hefyd ystyried sut mae dysgwr yn debygol o ymateb i ddefnydd pobl eraill o orchuddion wyneb, yn ogystal ag unrhyw effaith bosibl ar ddatblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn enwedig yn y Cyfnod Sylfaen.

Mae rhai amgylchiadau lle nad yw pobl yn gallu gwisgo gorchudd wyneb o bosibl. Byddwch yn ystyriol ac yn barchus o amgylchiadau o’r fath, gan gofio efallai fod rhai pobl yn llai abl i wisgo gorchudd wyneb ac efallai nad yw pobl eraill yn gallu gweld y rhesymau dros hyn. Efallai fod gan staff a dysgwyr esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb (er enghraifft):

  • nid ydynt yn gallu rhoi gorchudd wyneb ymlaen na'i wisgo oherwydd salwch corfforol neu feddyliol, neu oherwydd cyflwr neu nam
  • maent yn cynorthwyo rhywun sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau pan mae angen iddynt gyfathrebu, neu mae angen iddynt gyfathrebu â rhywun sy’n dibynnu ar ddarllen gwefusau
  • maent yn dianc rhag bygythiad neu berygl ac nid oes ganddynt orchudd wyneb

Gall unrhyw un dynnu ei orchudd wyneb dros dro i gynorthwyo rhywun sy'n ddibynnol ar ddarllen gwefusau neu sydd angen gweld mynegiant wyneb i gyfathrebu. Fodd bynnag, dylid cynnal pellter cymdeithasol o 2m bob amser yn yr amgylchiadau hyn.

Gorchuddion wyneb a’r goblygiadau i ddysgwyr byddar neu ddysgwyr sydd wedi colli eu clyw i unrhyw lefel 

Dylid ystyried yn ofalus effaith gwisgo gorchudd wyneb ar ddysgwyr byddar neu ddysgwyr sydd wedi colli eu clyw i unrhyw lefel, gan fod cyfathrebu i lawer o bobl fyddar yn dibynnu’n rhannol ar allu gweld wyneb rhywun yn glir. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wedi darparu’r awgrymiadau canlynol ar gyfer cyfathrebu, a allai fod yn ddefnyddiol i staff yn hyn o beth. Mae canllawiau a chyngor ar ddefnydd o orchuddion wyneb clir ar gael.

Bydd y cyngor ar orchuddion wyneb yn cael ei adolygu’n rheolaidd a bydd yn dilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf bob amser.

Ystyriaethau eraill  

Bydd ysgolion/lleoliadau am ystyried amrywio neu addasu’r amseroedd dechrau a gorffen i gadw grwpiau ar wahân wrth iddynt gyrraedd a gadael yr ysgol. Ni ddylai addasu’r amseroedd dechrau a gorffen leihau faint o amser addysgu a geir yn gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd addasu’r amser dechrau’n golygu cywasgu/gwasgaru gwersi rhydd neu amser egwyl ond gan gadw'r un cyfnod o amser addysgu, neu gadw hyd y diwrnod yr un fath ond gan ddechrau a gorffen yn hwyrach er mwyn osgoi’r cyfnodau prysur. Dylai ysgolion ystyried sut maent am gyfleu hyn i rieni/gofalwyr a’u hatgoffa o’r broses y cytunwyd arni ar gyfer danfon a chasglu dysgwyr, gan gynnwys na cheir ymgynnull wrth giatiau’r ysgol na dod i’r safle heb apwyntiad. Mae deunyddiau cyfathrebu wedi eu darparu i awdurdodau a’u hysgolion a lleoliadau i gynorthwyo gyda atgyfnerthu’r negeseuon hyn i rieni/gofalwyr.

Bydd angen help a pharatoadau arbennig ar rai dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) gyda’r newidiadau i’r drefn. Dylai athrawon a chydlynwyr AAA gynllunio i ddiwallu’r anghenion hyn, e.e., drwy ddefnyddio straeon cymdeithasol.

Mae athrawon cyflenwi, athrawon peripatetig a/neu staff dros dro eraill yn gallu symud rhwng ysgolion. Dylent sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o gyswllt â phosibl ac chynnal pellter cymdeithasol gyda staff a dysgwyr eraill lle bynnag bo’n bosibl. Dylai arbenigwyr, therapyddion, clinigwyr a staff cymorth eraill ar gyfer dysgwyr sydd ag AAA ddarparu ymyriadau yn yr un modd ag arfer ac yn unol ag asesiad risg y lleoliad. Dylai ysgolion:

  • ystyried sut mae rheoli pobl eraill sy’n ymweld â’r safle, fel contractwyr
  • sicrhau bod canllawiau’r safle ar gadw pellter cymdeithasol/corfforol a hylendid yn cael eu hegluro i ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd neu cyn hynny
  • sicrhau bod arwyddion yn cael eu defnyddio a’u dangos yn amlwg ar y safle

Lle bo hynny’n bosibl, dylai ymweliadau ddigwydd y tu allan i oriau’r ysgol. Dylid cadw cofnod o’r holl ymwelwyr oherwydd efallai y bydd angen yr wybodaeth hon rywbryd yn y dyfodol i gynorthwyo strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru.

Bydd angen i awdurdodau lleol, fel comisiynwyr addysg heblaw yn yr ysgol, fod yn dawel eu meddwl bod darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol wedi cydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch sy’n mynnu eu bod yn asesu risgiau ac yn rhoi mesurau rheoli cymesur ar waith. Pan fydd dysgwr yn mynychu mwy nag un lleoliad yn rheolaidd ar sail ran-amser, e.e., oherwydd ei fod wedi’i gofrestru’n ddeuol mewn ysgol brif ffrwd a naill ai uned cyfeirio disgyblion, lleoliad addysg heblaw yn yr ysgol, neu ysgol arbennig, dylai’r lleoliadau weithio drwy’r system reoli ar y cyd, a fydd yn golygu eu bod yn gallu mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a nodir a darparu cwricwlwm eang a chytbwys ar y cyd ar gyfer y dysgwr. Yn ystod y cyfnod hwn, dylai lleoliadau ystyried a fyddai’n bosibl darparu dysgu ar un safle.

Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau bod cyfarpar chwarae yn yr awyr agored yn cael ei lanhau’n amlach. Byddai hyn hefyd yn berthnasol i adnoddau a ddefnyddir dan do ac yn yr awyr agored gan ddarparwyr gofal cofleidiol. Mae’n dal i gael ei argymell na ddylai dysgwyr ddod â llawer o bethau gyda nhw i’r ysgol bob dydd. Dim ond hanfodion fel bocsys bwyd, bagiau, hetiau, cotiau, llyfrau, deunyddiau ysgrifennu a ffonau symudol dylid dod â nhw i’r ysgol. Mae’n iawn i ddysgwyr ac i staff fynd â llyfrau ac adnoddau eraill sy’n cael eu rhannu adref gyda nhw, er dylid osgoi unrhyw rannu diangen, yn enwedig pan na fydd hyn yn cyfrannu at addysg a datblygiad dysgwyr. Dylai rheolau tebyg ar olchi dwylo, glanhau’r adnoddau a chylchdroi fod yn berthnasol i’r adnoddau hyn.

Mewn perthynas â chyfarpar unigol sy’n cael ei ddefnyddio’n aml iawn, fel pensiliau a phinnau ysgrifennu, rydym yn argymell y dylai'r staff a’r dysgwyr gael eu heitemau eu hunain a pheidio â'u rhannu. Mae modd i’r grŵp cyswllt ddefnyddio a rhannu adnoddau yn yr ystafell ddosbarth, fel llyfrau a gemau; dylid glanhau’r rhain yn rheolaidd, ynghyd â’r holl arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml. Dylai adnoddau sy’n cael eu rhannu rhwng grwpiau cyswllt – fel cyfarpar chwaraeon, celf a gwyddoniaeth – gael eu glanhau’n rheolaidd ac yn drylwyr a bob tro rhwng grwpiau cyswllt, neu dylid eu cylchdroi i sicrhau na fyddant yn cael eu defnyddio ac na fyddant o fewn cyrraedd am gyfnod o 48 awr (72 awr ar gyfer plastigau) rhwng gwahanol grwpiau cyswllt.

Gall deunyddiau fel clai chwarae a thywod sy'n anodd iawn eu glanhau arwain at heriau penodol. Yn unol â chanllawiau presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn ystod achos o unrhyw glefyd heintus, gallai fod yn fwy diogel osgoi defnyddio'r deunyddiau hyn yn ystod y pandemig tra bod mesurau ataliol ychwanegol ar waith. Pan fydd lleoliadau'n dewis defnyddio'r eitemau anodd eu glanhau yma, yn seiliedig ar asesiad risg, dylent sicrhau bod golchi dwylo yn digwydd cyn ac ar ôl chwarae gyda'r deunyddiau hyn ac nad ydynt yn cael eu rhannu rhwng gwahanol grwpiau yn y swigen oni bai bod o leiaf 72 awr wedi pasio. Dylai hyn gael ei fwydo i’r asesiad risg a dylid cyfnewid deunyddiau yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwyr neu'n gynt os credir eu bod wedi'u halogi. Gellir chwarae gyda dŵr os cymerir camau i osgoi bod nifer o blant yn rhannu’r un dŵr, newid dŵr yn rheolaidd yn enwedig rhwng grwpiau o fewn y swigen a bob amser rhwng grwpiau swigen. Dylid cymryd gofal arbennig pan fydd plant yn symud rhwng gweithgareddau mewn ystafell i sicrhau bod golchi dwylo yn digwydd rhwng pob gorsaf a bod deunyddiau y gellir eu glanhau yn cael eu glanhau rhwng grwpiau. Ni ddylai chwarae gyda thywod, clai chwarae a dŵr, na gwneud a gweithgareddau risg uwch eraill pan fydd un neu fwy o achosion positif yn yr ysgol neu leoliad.

Os bydd plant heb symptomau’n ymddwyn mewn ffordd a allai gynyddu faint o ddefnynnau sy’n cael eu trosglwyddo (fel brathu, cusanu neu boeri) neu os bydd angen gofal arnynt nad oes modd ei ddarparu heb gyswllt agos, dylent barhau i gael gofal yn yr un ffordd.

Yn yr amgylchiadau hyn, i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19, nid oes angen unrhyw gyfarpar diogelu personol ychwanegol gan fod y rhain yn blant heb symptomau mewn lleoliad nad yw’n un gofal iechyd ac felly mae’r risg o drosglwyddo’r feirws yn isel iawn. Fodd bynnag, bydd angen lle ychwanegol a bydd angen glanhau arwynebau, gwrthrychau a theganau’n rheolaidd. Dylid cynyddu’r trefniadau glanhau ym mhob ysgol a lleoliad, gan ganolbwyntio’n benodol ar arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml.

Gwisgo cyfarpar diogelu personol lle bo angen

Mae cyfarpar diogelu personol (PPE) yn wahanol i orchudd wyneb a bydd yn bodloni’r safonau gofynnol i ddiogelu’r unigolyn. Bydd y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen yn dibynnu ar yr union dasgau sy’n cael eu gwneud a bydd yn amrywio rhwng gwahanol amgylcheddau gwaith.

Mae hi’n bwysig cofio bod tystiolaeth gref sy’n dangos mai cadw pellter cymdeithasol/corfforol, hylendid dwylo a hylendid anadlol (dal peswch neu disian mewn hances bapur a chuddio’r geg a’r trwyn gyda phenelin neu lawes) yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal y coronafeirws rhag lledaenu.

Felly nid oes angen defnyddio cyfarpar diogelu personol wrth gynnal gweithgareddau addysgol arferol mewn ystafell ddosbarth/lleoliadau ysgol.

Mae’r rhestr isod yn nodi pryd y gallai fod angen defnyddio cyfarpar diogelu personol.

Gweithgareddau arferol

  • Nid oes angen cyfarpar diogelu personol wrth gynnal gweithgareddau addysgol arferol mewn ystafell ddosbarth neu leoliad ysgol. 

Amheuaeth o COVID-19

  • Dylid gwisgo menig, ffedogau a masgiau llawfeddygol atal hylif os bydd plentyn neu berson ifanc yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19 a bod angen gofal personol uniongyrchol ar y plentyn neu’r person ifanc.
  • Dylid hefyd gwisgo cyfarpar diogelu’r llygaid os bydd asesiad risg yn pennu bod risg y bydd rhywbeth yn sblasio i’r llygaid, er enghraifft drwy beswch, poeri neu daflu i fyny.
  • Dylid gwisgo menig a ffedogau wrth lanhau’r ardaloedd lle mae rhywun yr amheuir bod COVID-19 arno wedi bod.

Gofal personol

  • Dylid parhau i wisgo menig a ffedogau wrth ddarparu gofal personol i blentyn neu i berson ifanc. Mae hyn yn gallu cynnwys gofal ymarferol personol fel ymolchi, defnyddio’r toiled neu gymorth cyntaf a rhai gweithdrefnau clinigol fel cymorth bwydo.
  • Dylid gwisgo masgiau llawfeddygol atal hylif a chyfarpar diogelu’r llygaid (os bydd asesiad risg yn pennu bod risg y bydd rhywbeth yn sblasio i’r llygaid, er enghraifft drwy beswch, poeri neu daflu i fyny).
  • Dylid defnyddio menig, gynau sy’n atal hylif, masgiau FFP3 a chyfarpar diogelu’r llygaid wrth ymgymryd â thriniaethau sy’n cynhyrchu aerosolau fel sugno.
  • Dylid defnyddio menig a ffedogau wrth lanhau cyfarpar neu arwynebau y mae’n bosibl eu bod wedi cael eu halogi gan hylifau o’r corff fel poer neu secretiadau anadlol. Mae canllawiau Gov.UK hefyd yn nodi y dylid gwisgo menig a ffedog wrth lanhau ardaloedd lle mae rhywun yr amheuir bod COVID-19 arno wedi bod.

Dylai staff mewn lleoliadau ddefnyddio cyfarpar diogelu personol ar sail asesiad clir o’r risg, gan ystyried pob lleoliad unigol ac anghenion y dysgwr unigol. Mae gan ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol brosesau asesu risg eisoes mewn lle a dylid defnyddio’r rhain i weld a oes angen defnyddio cyfarpar diogelu personol ai peidio. Ar ôl cynnal unrhyw asesiad risg, os daethpwyd i’r casgliad bod angen cyfarpar diogelu personol, dylai fod ar gael yn hawdd a dylai gael ei ddarparu gan y cyflogwr. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi darparu rhagor o wybodaeth.

Dylai’r holl staff ddeall sut mae gwisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol yn y drefn iawn, gwaredu’r gwastraff yn ddiogel a defnyddio camau hylendid dwylo cywir i leihau’r risg o drosglwyddo'r haint ymlaen.

Ym mhob sefyllfa, dylid bob amser golchi dwylo cyn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac ar ôl ei dynnu i ffwrdd. Dylai ysgolion a lleoliadau gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael cyfarpar diogelu personol ar gyfer yr uchod, a thrafod unrhyw ofynion hyfforddi perthnasol.

Sicrhau bod mannau a ddefnyddir yn cael eu hawyru’n dda

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bwysig sicrhau bod ysgolion a lleoliadau’n parhau i gael eu hawyru’n dda a bod amgylchedd addysgu cyfforddus yn cael ei gynnal.

Mae awyru yn fesur lliniaru allweddol i reoli trosglwyddiad (> 2m) SARSCoV-2 gan erosolau rhwng pobl sy'n rhannu'r un gofod dan do. Nid yw awyru'n debygol o gael effaith sylweddol ar drosglwyddiad agos drwy ddefnynnau ac erosolau (o fewn 1-2m) neu trosglwyddo trwy gyswllt ag arwynebau (hyder uchel).

Gallai llwyth firaol uwch sy'n gysylltiedig â phobl sydd â'r amrywiad newydd fod â goblygiadau sylweddol ar gyfer trosglwyddo trwy'r awyr, gan fod modelu gwyddonol blaenorol yn awgrymu bod llwyth firaol yn un o brif benderfynyddion risgiau trosglwyddo yn yr awyr. Nododd SAGE cyn i’r amrywiad ddod yn hysbys; ar gyfer y mwyafrif o weithleoedd ac amgylcheddau cyhoeddus mae awyru digonol yn cyfateb i gyfradd llif o 8-10 l / e / person yn seiliedig ar ddefnydd o’r gofod, er bod canllawiau ar gyfer rhai amgylcheddau yn caniatáu cyfraddau llif is o 5 l / e / y person. Ers i’r amrywiad newydd fod yn hysbys, mae SAGE wedi argymell, lle bo hynny'n bosibl, cynyddu cyfraddau llif awyru y soniwyd amdanynt uchod gan ffactor o 1.7 (70%) i gyfrif am y cynnydd mewn trosglwyddadwyedd.

Ar gyfer rhai adeiladau presennol a hŷn, efallai na ddyluniwyd systemau awyru i fodloni safonau cyfredol ac efallai y bydd angen cymryd camau lliniaru ychwanegol. Fel mesur rhagofalus, argymhellir cynnwys awyru fel rhan o unrhyw asesiad risg diogel COVID yn y gweithle neu'r amgylchedd dan do cyhoeddus, a mabwysiadir y mesurau lliniaru angenrheidiol.

Yn y rhan fwyaf o adeiladau, mae cynnal tymereddau cyfforddus a lleithder uwchlaw 40-60% lleithder cymharol yn debygol o fod o fudd i leihau goroesiad y firws. Fodd bynnag, mae hyn yn debygol o fod yn llai pwysig na'r gyfradd awyru y soniwyd amdani uchod.

Mae rhagor o gyngor ar hyn ar gael yng nghanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar aerdymheru ac awyru yn ystod y coronafeirws ac yng nghyngor Sefydliad Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu Siartredig (CIBSE) ar COVID-19.

Hefyd gellid awyru drwy amryw o fesurau ychwanegol, gan gynnwys:  

  • systemau awyru mecanyddol: dylid addasu’r rhain i gynyddu’r gyfradd awyru lle bynnag y bo modd, a’u gwirio i gadarnhau bod y gweithrediad arferol yn bodloni’r canllawiau cyfredol (os oes modd, dylid addasu’r systemau i awyr iach yn llawn neu, os nad oes modd gwneud hynny, dylid gweithredu’r systemau yn ôl yr arfer cyn belled â’u bod mewn un ystafell ac yn cael eu hategu gan gyflenwad aer awyr agored)
  • awyru naturiol: agor ffenestri (mewn tywydd oerach, dylid agor ffenestri ddigon i sicrhau bod awyru cefndirol cyson, a’u hagor yn fwy llydan yn ystod egwyliau i lanhau’r aer yn y gofod). Gellir hefyd agor ffenestri’n fwy llydan cyn i ddysgwyr a staff addysgu gyrraedd ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Gall agor drysau mewnol hefyd helpu i gynyddu llif yr aer (cyn belled â’u bod nhw ddim yn ddrysau tân a’i bod yn ddiogel gwneud hynny)
  • awyru naturiol: os oes angen, gellir agor drysau allanol hefyd (cyn belled â’u bod nhw ddim yn ddrysau tân a’i bod yn ddiogel gwneud hynny)

Er mwyn cynyddu’r gyfradd awyru awyr iach i sicrhau gwanhad, gallai ysgolion geisio gwneud y canlynol:

  • Gwirio a yw’r dulliau awyru’n gweithio’n dda; ffenestri, gridiau, briciau aer; a’u bod heb eu rhwystro, gan wneud yn siŵr eu bod yn gweithio a nodi ardaloedd sydd wedi’u hawyru’n wael.
  • Cael cyngor gan weithwyr proffesiynol cymwys ym maes gwresogi ac awyru.
  • Dechrau awyru ystafelloedd cyn y diwrnod ysgol a chaniatáu i hynny barhau drwy gydol y dydd ac ar ôl i’r dosbarthiadau ddod i ben.
  • Gosod unedau trin yr aer i sicrhau cymaint o awyr iach â phosibl wrth ei ailgylchu.
  • Agor ffenestri a drysau i ddarparu awyru digonol gan gynnal tymheredd cyfforddus yn y gweithle (yn dibynnu ar sŵn a chyfyngiadau tân).
  • Dweud wrth staff addysgu sut mae sicrhau’r awyru mwyaf effeithiol: e.e. agor y ffenestri uchaf, symud rhwystrau fel llenni/bleinds.
  • Defnyddio ffaniau nenfwd neu ffaniau desg i atal pocedi o aer llonydd; dim ond lle mae’r ardal wedi’i hawyru’n dda.
  • Awyru ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd eraill rhwng dosbarthiadau a defnyddiau, e.e. drwy agor pob drws (heblaw drysau tân) a ffenestr led y pen
  • Ystyried targed ar gyfer y capasiti uchaf mewn ystafelloedd llai er mwyn sicrhau gwanhad gwell
  • Ystyried defnyddio monitorau CO2 i nodi ardaloedd lle gellid wynebu heriau o ran sicrhau awyru digonol.

Dylid defnyddio gwres yn ôl yr angen i sicrhau bod lefel gyfforddus yn cael ei chynnal, yn enwedig mewn mannau y mae pobl yn eu defnyddio, ac ei fod yn bodloni’r rheoliadau perthnasol. Mae gwybodaeth pellach yn yr adran Ystadau.

Ymateb i unrhyw haint

Ymgysylltu â’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu

Cafodd y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, a gyhoeddwyd ar 13 Mai 2020, ei rhoi ar waith ar draws Cymru ar 1 Mehefin 2020.

Mae’r strategaeth hon yn nodi cam nesaf ein dull gweithredu i fynd i’r afael â’r coronafeirws: profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rheini sydd wedi cael cyswllt agos â phobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, a diogelu teulu, ffrindiau a’n cymuned drwy hunanynysu. Ers mis Medi 2020, mae’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi bod yn cael ei chefnogi gan ap COVID-19 y GIG.

Mae Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio drwy:

  • brofi pobl sydd â symptomau’r coronafeirws a gofyn iddynt ynysu oddi wrth deulu, ffrindiau a’u cymuned a chymryd prawf ac aros am ganlyniad. Gall pobl wneud cais am brawf eu hunain neu ar ran aelod o’u haelwyd sydd â symptomau. Mae hyn yn cynnwys oedolion a phlant, gan gynnwys plant dan 5 oed. Mae canllawiau Profi, Olrhain, Diogelu i staff ar sut mae gwneud cais am brawf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
  • nodir: os nad yw’r symptomau o ganlyniad i’r coronafeirws, mae unigolion a’u cysylltiadau’n gallu dod â'u cyfnod o hunanynysu i ben a dychwelyd i’w trefn arferol ar unwaith pan fydd y canlyniad negatif yn hysbys
  • olrhain y bobl sydd wedi cael cyswllt agos â’r bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y feirws a mynnu eu bod yn hunanynysu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru am olrhain cysylltiadau a sut bydd yn gweithio
  • darparu cyngor a chanllawiau i’r rhai sydd wedi cael canlyniad positif, yn enwedig os oedd y sawl sydd â symptomau neu ei gysylltiadau yn y ‘grŵp eithriadol o agored i niwed’ neu’r grŵp risg uwch.

Drwy leihau’r trosglwyddo yn ein cymunedau, a drwy fynd ati’n gyflym i adnabod ac i ynysu’r rheini sydd mewn perygl o ddatblygu COVID-19 ar ôl cael cyswllt agos gydag unigolyn positif (e.e. cysylltiad hysbys neu aelod o’r teulu) byddwn yn cefnogi agor ysgolion, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn ehangach.

Cynnig profi asymptomatig i ysgolion a lleoliadau

Er mwyn adnabod oedolion asymptomatig yn gyflym, gofyn iddyn nhw hunanynysu mor fuan â phosib, lleihau’r tebygolrwydd o glystyrau ac achosion mewn lleoliadau sy’n tarfu ar addysg, mae profion cyflym coronafeirws (COVID-19) ar gael i bob aelod o staff sy’n gweithio mewn ysgolion a lleoliadau gan gynnwys gweithredwyr cludiant ysgol, athrawon peripatetig a staff cyflenwi o Chwefror 2021. Mae pecynnau profi hefyd ar gael ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7 a hyn, holl ddysgwyr mewn colegau AB a’r rheini ar raglenni Prentisiaeth a Hyfforddiant Seiliedig ar Waith. Mae’r profion hyn i’w defnyddio adref.

Mae profi yn wirfoddol, ond mae’r rheini sy’n gymwys yn cael eu hannog yn gryf i gymryd rhan er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo asymptomatig yn y gweithle.

Mae gwybodaeth pellach am y cynnig profi hwn, gan gynnwys y canllawiau diweddaraf yn ogystal ag adnoddau ychwanegol, ar gael ar y Platfform Dogfennau Ar-lein.

Dylai unrhyw un sy’n profi’n bositif drwy ddefnyddio Prawf Llif Unffordd (PLU) beidio mynychu’r ysgol/lleoliad. Rhaid iddyn nhw a phawb maen nhw'n byw gyda nhw hunan-ynysu ar unwaith yn unol â'r canllawiau hunan-ynysu tra iddyn nhw gyflawni'r camau canlynol:

  • Adrodd canlyniad y prawf ar-lein.
  • Trefnu prawf ychwanegol PCR drwy’r porth bwcio ar-lein.
  • Rhoi gwybod i’r ysgol/lleoliad canlyniad y prawf.
  • Ar gyfer staff - hysbysu’r sefydliadau eraill, fel a nodir yn y canllawiau (awdurdod lleol neu Arolygiaeth Gofal Cymru).

Bydd y tîm olrhain lleol yn cysylltu gyda nhw i adnabod cysylltiadau sydd angen hunan-ynysu - rhaid iddynt ddilyn cyngor a roddir gan y tîm olrhain lleol. Os dilynir canlyniad positif i Brawf Llif Unffordd gan ganlyniad negyddol i brawf PCR a gymerir o fewn 24 awr, gall yr aelod o staff neu ddysgwr ddychwelyd i’r ysgol fel ag arfer. Os oes canlyniad negyddol i brawf PCR a gymerir ar ôl mwy na 24 awr ar ôl canlyniad positif i Brawf Llif Unffordd, bydd dal angen i’r aelod o staff neu ddysgwr hunan ynysu am 10 diwrnod. Mae siart llif sy’n darparu manylion o’r broses profi cyson ar gael ar Banc Asedau y Cynnig Profi.

Rhaid hefyd cofnodi canlyniad negyddol neu annilys i Brawf Llif Unffordd ar y porthol canlyniadau ar-lein ond nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach, a gall yr unigolyn barhau â’i diwrnod fel arfer.

Nid yw prawf negyddol yn atal y risg o drosglwyddo

Dylai ysgolion a lleoliadau atgyfnerthu’r negeseuon hyn ac yn benodol dylent atgoffa pawb sy’n cael prawf negatif nad yw hyn yn golygu bod modd iddynt lacio unrhyw fesurau atal haint a/neu os ydynt yn dangos unrhyw un o symptomau COVID-19 y dylent hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf. Rhaid i’r rheini sy’n byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 hunanynysu hefyd. Lle bo hynny’n bosibl, byddai’n ddefnyddiol i ysgolion a lleoliadau gadw cofnod o unrhyw un sy’n dod i mewn i grwpiau cyswllt (e.e. timau ymyriadau). Gallai hyn fod yn llyfr syml ym mhob ystafell ddosbarth sy’n cofnodi unrhyw un sy’n dod i mewn o’r ‘tu allan’.

Rheoli achosion o COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau yng nghymuned yr ysgol

Mae’n bwysig i ysgolion a lleoliadau sicrhau bod prosesau yn parau i fod eu lle i gofnodi grwpiau cyswllt er mwyn hwyluso’r broses o olrhain cysylltiadau os bydd achos positif.

Os ceir canlyniad positif, bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn cysylltu â’r sawl a gafodd y prawf i helpu i ganfod cysylltiadau posibl. Bydd ail swyddog olrhain cysylltiadau wedyn yn cysylltu â’r bobl hynny ac yn eu cynghori i hunanynysu ers y tro diwethaf iddynt ddod i gysylltiad â'r sawl a gafodd ganlyniad positif. Dim ond os ydynt yn datblygu symptomau y bydd angen i’r bobl hyn wneud y prawf. Os bydd clwstwr yn digwydd yn yr ysgol/lleoliad, bydd yr aelodau o’r clwstwr yn cael manylion unigolyn cyswllt penodol sy’n rheoli'r clwstwr yn Profi, Olrhain, Diogelu. Byddant yn gallu rhoi gwybod i’r unigolyn hwn am unrhyw achosion newydd neu godi unrhyw bryderon eraill fel nifer cynyddol o achosion posibl. Mae rhagor o ganllawiau ar olrhain cysylltiadau ar gael.

Nid yw canlyniad positif yn golygu bod angen cau’r safle felly. Mae'r broses o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ a phan fydd ysgolion a lleoliadau’n dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes rheswm dros boeni. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Pan fydd dysgwyr agored i niwed yn hunanynysu, mae’n bwysig bod ysgolion yn rhoi systemau ar waith i gadw mewn cysylltiad â nhw, cynnig cymorth bugeiliol, a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cael gafael ar gymorth addysg.

Os oes mwy nag un achos positif o COVID-19 yn gysylltiedig â'ch ysgol / lleoliad mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol er mwyn rhoi gwybod am hyn. Dylai eich asesiad risg Coronafirws hefyd ddarparu ar gyfer achosion lluosog a dylai enwebu un pwynt cyswllt ar gyfer cysylltu. Mewn rhai amgylchiadau gellir sefydlu Tîm Rheoli Digwyddiad sy'n cynnwys cynrychiolaeth o Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a thimau Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn ystyried a chynghori ar y camau nesaf. Os oes angen, gofynnir i chi gofnodi manylion staff a dysgwyr symptomatig a chynorthwyo i adnabod cysylltiadau. Mae cadw cofnodion cyfredol felly yn rhagofyniad pwysig.

Ar sail cyngor y tîm diogelu iechyd, mae templed o lythyr wedi cael ei ddatblygu ar gyfer ysgolion i’w anfon at rieni a staff os oes angen.

Ni ddylai ysgolion a lleoliadau ofyn am dystiolaeth o ganlyniadau profion negatif na thystiolaeth feddygol arall cyn derbyn dysgwyr neu eu croesawu’n ôl ar ôl cyfnod o hunanynysu.

Adnabod clystyrau ac achosion lluosog o COVID-19

Gan adeiladu ar y Cynllun ar gyfer Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy i Gymru (2020) mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu cyngor penodol ynghylch rheoli ac ymchwilio i glystyrau ac achosion lluosog o COVID-19. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y ddogfen honno.

Ap COVID-19 y GIG

Mae staff a dysgwyr 16 oed a hŷn yn gymwys i ddefnyddio ap COVID-19 y GIG. Dylai ysgolion ddweud wrth ddysgwyr sy’n defnyddio’r ap am roi gwybod i aelod o staff os ydynt yn cael rhybudd eu bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â symptomau.

Os bydd dysgwr yn cael hysbysiad gan yr ap, dylai roi gwybod i oedolyn dibynadwy – aelod o staff yr ysgol fel arfer. Dylai’r ysgol ddilyn ei gweithdrefnau COVID-19 yn yr un modd â phe bai’r dysgwr hwnnw wedi bod yn bresennol yn yr un dosbarth â dysgwr a oedd wedi dangos symptomau.

Nid oes angen i ysgolion ddiweddaru polisïau ar ddefnyddio ffonau symudol.

Brechu

Yng Nghymru, rydym yn gweithio i amserlen flaenoriaeth y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI). Y JCVI yw'r corff arbenigol sy'n cynghori pedair llywodraeth y DU, ac mae'r amserlen flaenoriaethu brechu yr ydym yn gweithio iddi yr un fath â'r amserlen ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r JCVI wedi nodi y dylai'r blaenoriaethau cyntaf ar gyfer y rhaglen frechu fod atal marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19, ac amddiffyn staff a systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno y bydd staff sydd yn darparu gofal personol agos i rai o'n plant mwyaf bregus ag anghenion meddygol cymhleth yn cael eu cynnwys fel rhan o'r rhestr flaenoriaeth ar gyfer brechu gweler Atodiad 3, yn unol â gweithwyr gofal cymdeithasol.

Mae'r pedwar grŵp cyntaf yn cynnwys y rhai sy'n hynod fregus yn glinigol a thros 70 oed. Cyhoeddwyd ar 27 Chwefror bod mwy na 1 miliwn o frechiadau wedi eu rhoi gan GIG Cymru. Cynigwyd dos cyntaf i’r rheini yn y pedwar grŵp blaenoriaeth ar gyfer brechu erbyn canol Chwefror.

Presenoldeb yn ystod y cyfnod hwn

Mae'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi cyhoeddi canllawiau sy'n nodi mai ychydig iawn o blant sy'n hynod fregus yn glinigol ac o ganlyniad nid yw'n ofynnol i lawer o'r plant a gynghorwyd yn flaenorol i warchod i wneud hynny bellach. Mae rhieni'n cael gwybod lle mae plant yn cael eu tynnu o'r rhestr o gleifion sydd angen gwarchod ond bydd llawer ddim yn derbyn unrhyw hysbysiad ffurfiol. Pan fydd rhiant/gofalwr yn dymuno i'w plentyn fynychu'r ysgol, dylid rhoi trefniadau ar waith i gefnogi presenoldeb ac fe ddylai’r wybodaeth berthnasol gael ei blethu mewn i asesiadau risg.

Dylai ysgolion a lleoliadau gadw cofnod o bresenoldeb a dylai teuluoedd hysbysu eu hysgol os nad yw eu plentyn yn gallu mynychu ac esbonio'r rheswm am hyn i alluogi'r ysgol i gofnodi presenoldeb yn gywir.

Mewn llawer o achosion bydd y pryderon yn ymwneud â gwendidau iechyd, megis pan fydd plentyn neu aelod o'r teulu yn y cartref neu teulu ehangach sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol. Yn yr amgylchiadau hyn dylai ysgolion ac awdurdodau lleol weithio gyda'r teulu i gefnogi dysgwr i gael mynediad i'r cwricwlwm a lleihau'r amharu ar addysg y dysgwr. Os nad yw’r dysgwr yn medru mynychu safle’r ysgol oherwydd hunan ynysu mae’n hanfodol bod yr ysgol yn parhau i ymgysylltu o bell yn gyson gyda’r dysgwr. Efallai y bydd canllawiau dysgu Llywodraeth Cymru yn ddefnyddiol i gefnogi hyn.

Ni chosbir absenoldeb cymeradwyo ac efallai yr hoffai ysgolion ddefnyddio cynllun pwrpasol i gefnogi'r trefniant hwn ar y cyfle cyntaf.

Rydym yn cydnabod y bydd gan rai teuluoedd fwy o bryder ynghylch presenoldeb plant yn yr ysgol yn ystod yr amser hwn o ansicrwydd ynghylch risgiau COVID-19. Dylid bod ymgysylltu parhaus gyda’r teulu er mwyn i ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol ddeall unrhyw rwystrau i ddysgwyr allu dychwelyd i’r ysgol ac adnabod unrhyw gefnogaeth ychwanegol all fod angen i alluogi dychwelyd yn llawn i’r lleoliad addysg mor fuan â phosib. Dylai’r ysgol ymdrin ag unrhyw bryderon am ymgysylltiad neu les dysgwyr ar unwaith. Dylai pryderon ond cael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Lles Addysg ar ôl i’r ysgol wneud pob ymdrech i ymgysylltu gyda’r teulu. Yn ystod yr amser hwn mae cydweithio rhwng asiantaethau yn hollbwysig  ac os oes gan yr ysgol unrhyw bryderon am niwed, esgeulustod neu gamdrin dylai adrodd hyn i’r Unigolyn Diogelu Penodedig a fydd yn cydweithio gyda gwasanaethau plant ac asiantaethau eraill yn ôl yr angen.  

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (a ddaeth i rym o 7 Awst 2020 ymlaen). O ganlyniad, nid yw’n ofynnol i ysgolion osod targedau ar gyfer y blynyddoedd i ddod nac adrodd ar y rhai a bennwyd yn flaenorol ar gyfer 2019 i 2020 ymlaen. Fodd bynnag, bydd y gwaith o gasglu data presenoldeb blynyddol yn parhau. 

O dan yr amgylchiadau presennol mae Llywodraeth Cymru o’r farn na fyddai mesurau cosbol, gan gynnwys dirwyon, yn fesurau priodol i'w cymryd oni bai bod awdurdodau o'r farn bod angen dilyn nifer fach o achosion yn ymwneud ag absenoldeb parhaus, nad ydynt yn gysylltiedig â phandemig Covid-19; ac mae pryderon ynghylch lles y plentyn, neu bod ymdrechion helaeth i geisio ail-ymgysylltu â'r teulu gan yr ysgol a/neu'r Gwasanaeth Lles Addysg. Mewn achosion o'r fath dylai awdurdodau ddilyn y canllawiau a nodir yn y Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan.

Fel cydnabyddiaeth o’r angen am sefydlogrwydd, ni fydd newidiadau i ddyddiadau’r tymor neu oedran gadael ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Dylai ysgolion gofnodi presenoldeb ac absenoldeb yn unol â’r codau canlynol. Mae canllawiau ynghylch pryd y dylid eu defnyddio yn dilyn y crynodeb.

Pa god dylid ei ddefnyddio?

 

Cod

Ystyr

Categori ystadegol

/

Yn bresennol yn yr ysgol yn y bore

Yn bresennol

\

Yn bresennol yn yr ysgol yn y prynhawn

Yn bresennol

[

Dysgu o bell oherwydd COVID-19.

Dim rhaid bod yn bresennol

;

Salwch oherwydd COVID-19.

Absenoldeb awdurdodedig

X

Dysgwyr ym Mlynyddoedd 11 ac 13 (tu hwnt i 28 Mai 2021)

Absenoldeb awdurdodedig

Y

Absenoldeb dan gyfarwyddyd yr ysgol oherwydd COVID-19 (gan gynnwys dysgu o bell).

Dim rhaid bod yn bresennol

Mae’r holl godau eraill yn berthnasol yn unol â’r canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion:

Canllawiau ar godau presenoldeb yn yr ysgol

 

/\ (cod ar gyfer dysgwyr sy’n bresennol)

Dylid cofnodi bod yr holl blant a ddisgwylir ar gyfer y diwrnod hwnnw neu sydd mewn grŵp blaenoriaeth (plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed) yn bresennol / \ wrth gyrraedd yr ysgol neu’r lleoliad.

[ (cod dros dro ar gyfer dysgu o bell oherwydd COVID-19)

Mae hyn yn cynnwys dysgwyr unigol nad ydynt yn gallu dod i’r ysgol am resymau y mae’r ysgol yn eu deall ac wedi cytuno arnynt. Dylid eu cofnodi fel cod [.

Bydd y cod hwn yn berthnasol i ddysgwyr sy’n hunanynysu am resymau cysylltiedig â COVID-19 fel y nodir yn adran ataliol y canllawiau hyn. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr sydd â symptomau COVID-19; dysgwyr o’r un aelwyd â rhywun sydd â symptomau neu’n achos positif; neu ddysgwyr sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19, ac wedi cael ei hysbysu o hynny drwy’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Ni ddylid defnyddio’r cod hwn ar gyfer grwpiau o ddysgwyr y mae’r ysgol wedi rhoi cyfarwyddyd iddynt beidio â dod i mewn. Yn yr amgylchiadau hyn, dylid defnyddio cod Y.

Gallai’r cod hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer dysgwyr sydd â rhesymau meddygol neu iechyd sy’n eu hatal rhag dod i mewn yn gorfforol, neu efallai fod ganddynt amgylchiadau eithriadol fel cyfrifoldebau gofalu. Byddai hyn hefyd yn berthnasol pe bai llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru wedi argymell bod dysgwyr eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn gwarchod.

Ni ddylid defnyddio’r cod hwn os yw’r dysgwr yn sâl a bod ganddo achos a gadarnhawyd o COVID-19. Yn yr achosion hyn, dylid defnyddio’r cod ;  

Rhaid i ysgolion ymgysylltu â rhieni/gofalwyr i ddeall pam nad yw’r dysgwyr yn bresennol a sicrhau nad oes unrhyw bryderon ynghylch lles dysgwyr neu ddewisiadau cefnogaeth eraill y gellid eu trefnu er mwyn iddynt allu bod yn bresennol. Dylai’r ysgol neu’r lleoliad, a'r awdurdod lleol pan fo’n berthnasol, fynd ar drywydd unrhyw bryderon. Dylai’r ysgol adolygu’r sefyllfa gyda’r dysgwr a’r rhieni/gofalwyr yn rheolaidd er mwyn osgoi unrhyw absenoldeb hir.  

Bydd y cod dros dro yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ein casgliad data wythnosol anffurfiol ond bydd [ yn cael ei fapio i’r cod X ar gyfer casgliadau presenoldeb cynradd ac uwchradd statudol ac at ddibenion ystadegol.

; (cod ar gyfer achos a gadarnhawyd o COVID-19)

Dylid defnyddio cod ; os yw’r dysgwr wedi cael gwybod bod ganddo achos a gadarnhawyd o COVID-19.  Ni fyddai hyn yn berthnasol oni bai fod ganddo ganlyniad prawf positif a bod yr ysgol wedi cael gwybod yn unol â hynny.  

Mae’r cod dros dro ; at ddefnydd yr ysgol yn unig a dylai ysgolion atgoffa holl ddefnyddwyr SIMS o’u dyletswydd cyfrinachedd. Ni fydd y cod yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi proses casglu data wythnosol anffurfiol Llywodraeth Cymru ond bydd ; yn cael ei fapio i’r cod I.

X (cod dros dro ar gyfer y rhai ym Mlynyddoedd 11 a 13, tu hwnt i 28 Mai 2021)

Nid yw'n ofynnol i ddysgwyr ym Mlwyddyn 11 a 13 fynychu eu ysgol neu leoliad tu hwnt i 28 Mai 2021. Bydd Cod X yn berthnasol i'r dysgwyr hyn sydd yn absennol o'r ysgol rhwng 28 Mai a diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol.

Er nad yw presenoldeb yn orfodol y tro hwn, mae gan ysgolion a cholegau lleoliadau hyblygrwydd i ganolbwyntio ar gefnogaeth pellach ar gyfer pontio myfyrwyr ym Mlynyddoedd 11, 12 a 13 am weddill tymor yr haf 2021.

Y (cod ar gyfer absenoldeb dan gyfarwyddyd yr ysgol)

Dylid defnyddio cod Y ar gyfer absenoldeb dan gyfarwyddyd yr ysgol, yn hytrach nag ar gyfer unigolion o dan god [, a bydd hefyd yn cynnwys dysgu o bell. Bydd hyn yn digwydd pan fydd yr ysgol yn nodi bod angen i ddysgwyr hunanynysu oherwydd bod achos wedi’i gadarnhau yn yr ysgol. Dylid defnyddio cod Y hefyd os bydd yr ysgol yn cau’n rhannol neu’n gyfan gwbl oherwydd COVID-19; mae hyn yn cynnwys pan nad oes gan yr ysgol ddigon o staff, neu pan fydd ysgol wedi cau oherwydd cyfyngiadau symud. Dylid defnyddio’r cod hwn hefyd i amrywio amseroedd dechrau pan nad yw’n ofynnol i ddysgwyr fod yn gorfforol bresennol yn yr ysgol. Ni ddylid defnyddio'r cod hwn ar gyfer diwrnodau HMS, y dylid eu cofnodi fel cod #.

Defnyddio codau absenoldeb awdurdodedig a phresenoldeb eraill

Yn unol â’n canllawiau ar godau presenoldeb ysgolion, bydd gwyliau teulu y mae’r pennaeth wedi cytuno arno a’i awdurdodi yn cael ei godio fel H, a bydd gwyliau estynedig y cytunwyd arno yn cael ei godio fel F. Bydd gwyliau teulu nad yw’r pennaeth wedi cytuno arno, neu sy’n hirach na’r hyn a gytunwyd, yn cael ei godio fel G. Ar ôl dychwelyd o’r gwyliau bydd gofyn i rai teuluoedd hunanynysu os ydynt wedi teithio o wlad nad yw wedi’i heithrio. Dylid cofnodi’r cyfnod hwn o hunanynysu yn unol â’r cod a ddefnyddir ar gyfer gwyliau’r teulu.  

Pan fydd codau absenoldeb awdurdodedig a phresenoldeb penodol eraill yn fwy priodol, dylai ysgolion ddefnyddio’r rhain yn yr un modd ag arfer.  

Cyngor Llywodraeth Cymru ar bresenoldeb staff a dysgwyr

Beth bynnag fo’r amgylchiadau, ni ddylai dysgwyr na staff ddod i’r ysgol a lleoliad os ydynt:  

  • yn teimlo’n sâl ac os oes ganddynt unrhyw un o’r symptomau COVID-19 a nodwyd
  • wedi cael canlyniad positif am COVID-19
  • yn byw mewn cartref gyda rhywun sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19

Gweithwyr hanfodol

Tra bydd pob dysgwyr yn medru cael mynediad i ddarpariaeth ar y safle o 12 Ebrill, bydd angen parhau i gynnig darpariaeth i blant gweithwyr hanfodol allu mynychu ysgol/lleoliad o drydydd diwrnod ysgol cau ysgol/lleoliad oherwydd prinder staff o ganlyniad i achosion coronafeirws/anghenion hunan-ynysu.

Mae rhestr o’r rhieni/gofalwyr hynny a nodwyd fel gweithwyr hanfodol wedi cael ei chyhoeddi fel rhan o’r canllawiau ar adnabod plant gweithwyr hanfodol.

Rydym wedi cryfhau’r dyletswyddau ar gyfer awdurdodau lleol sy’n darparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a dysgwyr agored i niwed gyda Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Rhaid i awdurdodau lleol a pherchnogion ysgolion annibynnol roi sylw i’r rhestr pan fyddant yn penderfynu pwy sy’n weithiwr hanfodol. Mae’r trefniadau hyn yn ymestyn i blant 3 oed a fyddai wedi cael lle mewn addysg ym mis Ionawr 2021.

Wrth benderfynu pwy sy’n weithwyr hanfodol, dylai awdurdodau lleol a pherchnogion ysgolion annibynnol ystyried y mathau o gyflogaeth a'r effeithiau cysylltiedig yn eu hardal. Dylai ysgolion a lleoliadau siarad â rhieni/gofalwyr i weld a yw eu gwaith yn hanfodol i’r ymateb i COVID-19. 

Yn ôl y gyfraith, dim ond un rhiant/gofalwr sydd angen bod yn weithiwr hanfodol er mwyn bod yn gymwys i gael y ddarpariaeth. Er bod gan y plentyn hawl i gael lle, fodd bynnag, nid oes gwarant ohono. 

Dysgwyr agored i niwed

Tra bydd pob dysgwyr yn medru cael mynediad i ddarpariaeth ar y safle o 12 Ebrill, bydd angen parhau i gynnig darpariaeth i ddysgwyr agored i niwed allu mynychu ysgol/lleoliad o drydydd diwrnod ysgol cau ysgol/lleoliad oherwydd prinder staff o ganlyniad i achosion coronafeirws/anghenion hunan-ynysu.

Caiff rhieni/gofalwyr plant a phobl ifanc agored i niwed eu hannog yn gryf i dderbyn y lle. Os nad yw dysgwyr agored i niwed yn dod i mewn, dylai ysgolion wneud y canlynol:

  • gweithio gyda’r awdurdod lleol a’r gweithiwr cymdeithasol (lle bo hynny’n berthnasol) i gysylltu â’r rhiant/gofalwr ynghylch y rheswm dros absenoldeb, gan drafod pryderon yr ysgol drwy ddefnyddio canllawiau ategol sy’n ystyried amgylchiadau’r plentyn a’i fuddion pennaf
  • gweithio gyda’r awdurdod lleol, y gweithiwr cymdeithasol (lle bo hynny’n berthnasol) a phartneriaid perthnasol eraill i annog y plentyn neu’r person ifanc i fynychu darpariaeth addysgol, yn enwedig os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn cytuno y byddai presenoldeb y plentyn neu’r person ifanc yn briodol

Gweithlu'r ysgol

Wrth i bob dysgwr ddychwelyd i ddysgu ar y safle, mae’n hanfodol bod gan staff hyder bod gan yr ysgol/lleoliad drefniadau addas yn eu lle i sicrhau diogelwch pawb sy’n dysgu, gweithio ac ymweld â’r safle.

Dylai arweinwyr ysgolion egluro i'r staff pa fesurau y mae’r ysgol wedi’u rhoi ar waith i leihau’r risgiau. Mae Cerdyn Gweithredu yn Atodiad 2 y gall ysgolion a lleoliadau ddefnyddio er mwyn atgyfnerthu y negeseuon hyn. Rydym yn rhagweld y bydd glynu wrth y mesurau yn y canllawiau hyn yn rhoi’r sicrwydd angenrheidiol i staff fynd i’r ysgol.

Os yw staff yn bryderus, gan gynnwys y rheini a allai fod yn agored i niwed yn glinigol neu sy’n credu y gallent wynebu risg uwch o ganlyniad i’r coronafeirws, rydym yn argymell bod arweinwyr ysgolion yn trafod unrhyw bryderon sydd gan unigolion am eu hamgylchiadau penodol ac yn rhoi sicrwydd i staff am y mesurau diogelu sydd ar waith.

Staff sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol

Dylai staff y nodwyd eu bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol ddilyn y canllawiau a gyhoeddwyd. Bydd y cyngor cyfredol gwarchod ar gyfer rheini sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn cael ei roi ar saib ar 31 Mawrth. O 1 Ebrill gall holl aelodau staff sy’n arbennig o agored i niwed yn glinigol ddychwelyd i’w gwaith. Dylai staff siarad â’u cyflogwyr am sut byddant yn cael eu cefnogi wrth ddychwelyd i’w gwaith gan ddefnyddio yr adnodd asesu risg Covid-19 ar gyfer lleoliadau addysg, sydd wedi ei ddiweddaru yn ddiweddar, er mwyn hwyluso’r drafodaeth. Dylai ysgolion barhau i dalu staff sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar eu telerau arferol.

Gall y rheini sy’n byw gyda rhywun sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol barhau i fynd i’r gwaith lle nad oes modd gweithio gartref.

Staff sydd mewn mwy o berygl

Gall staff sydd mewn mwy o berygl barhau i fynd i’r ysgol. Dylent ddilyn y mesurau lliniaru i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint a dylent gael asesiad unigol yn y gweithle.

Mae hyn yn cynnwys cymryd gofal arbennig i sicrhau hylendid anadlol a dwylo da, lleihau cyswllt a chadw pellter cymdeithasol yn unol â’r darpariaethau a nodir yn adran ‘atal’ y canllawiau hyn. Yn ddelfrydol, mae hyn yn golygu y dylai oedolion gadw pellter o ddau fetr oddi wrth bobl eraill a, lle nad yw hyn yn bosibl, dylid osgoi cyswllt wyneb yn wyneb a lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio o fewn ddau fetr i bobl eraill. Er bod y risg o drosglwyddo rhwng plant ifanc ac oedolion yn debygol o fod yn isel, dylai oedolion barhau i ofalu eu bod yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth oedolion eraill, gan gynnwys plant hŷn a’r glasoed.

Gall pobl sy’n byw gyda’r rheini sydd mewn mwy o berygl fynd i’r gweithle ond dylent sicrhau eu bod yn cynnal arferion da o ran atal yn y gweithle ac yn y cartref.

Staff sy’n feichiog

Dylai staff weithio gartref os oes modd. Os nad oes modd gweithio gartref, dylai staff beichiog a’u cyflogwyr ddilyn y cyngor yn COVID-19: cyngor i weithwyr beichiog.

Mae menywod beichiog yn y categori risg uwch ac fe’u cynghorir yn gyffredinol i ddilyn y cyngor uchod, sy’n berthnasol i’r holl staff mewn ysgolion, a’r cyngor i’r cyhoedd, ond gan fod yn ymwybodol eu bod yn wynebu mwy o risg wrth wneud hynny. Dylai pob menyw feichiog gymryd gofal arbennig i olchi dwylo’n drylwyr yn aml a glanhau mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn eu cartref neu eu man gwaith, yn ogystal â dilyn y mesurau a nodir yn adran system reoli'r canllawiau hyn i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint. Ni chynghorir menywod beichiog i gael eu brechu yn erbyn COVID-19.

Dylai asesiad risg cyflogwr o'r gweithle eisoes ystyried unrhyw risgiau i weithwyr benywaidd o oedran geni plant ac, yn benodol, risgiau i famau newydd a beichiog (e.e., yn sgil amodau gwaith, neu ddefnyddio cyfryngau ffisegol, cemegol neu fiolegol). Rhaid i unrhyw risgiau a nodir gael eu cynnwys a’u rheoli fel rhan o asesiad risg cyffredinol y gweithle. Fel rhan o’u hasesiad risg, dylai cyflogwyr ystyried a fyddai’n briodol addasu dyletswyddau a/neu hwyluso gweithio gartref er mwyn lliniaru risgiau.

Os bydd ysgol yn cael gwybod bod gweithiwr yn feichiog, yn bwydo ar y fron, neu wedi rhoi genedigaeth yn ystod y chwe mis diwethaf, dylai’r cyflogwr wirio asesiad risg y gweithle i weld a oes unrhyw risgiau newydd wedi codi. Os bydd risgiau’n cael eu nodi yn ystod y beichiogrwydd, yn y chwe mis cyntaf ar ôl geni’r babi, neu os yw’r gweithiwr yn dal i fwydo ar y fron, rhaid i’r cyflogwr gymryd camau synhwyrol priodol i’w lleihau, eu dileu neu eu rheoli.

Er ei bod yn ddyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i adolygu risgiau cyffredinol yn y gweithle yn rheolaidd, nid oes gofyniad i gynnal asesiad risg penodol ar wahân ar gyfer mamau newydd a mamau beichiog o reidrwydd. Fodd bynnag, gall asesiad helpu i nodi unrhyw gamau ychwanegol y mae angen eu cymryd i liniaru risgiau.

Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol y gallai menywod beichiog sy’n feichiog o 28 wythnos ymlaen, neu sydd â chyflyrau iechyd isorweddol yn ystod unrhyw gyfnod beichiogrwydd, fod mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil COVID-19. Y rheswm am hyn yw – er nad yw menywod beichiog yn ystod unrhyw gyfnod beichiogrwydd mewn mwy o berygl o ddal y feirws nag unrhyw berson arall nad yw’n feichiog ac sydd mewn iechyd tebyg – mae’r menywod hynny sy’n feichiog o 28 wythnos ymlaen mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael ac o enedigaeth cyn-tymor, pe baent yn dal COVID-19.

Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer menywod beichiog sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil COVID-19 (gweler y canllawiau diweddaraf Coronafeirws (COVID-19): cyngor i weithwyr beichiog ar GOV.UK.

Staff a allai fod mewn mwy o berygl o COVID-19 fel arall

Efallai y bydd rhai pobl â nodweddion penodol yn wynebu risg gymharol uwch o COVID-19. Dylai’r aelodau hyn o staff weithio gartref lle bo hynny’n bosibl, ond pan nad oes modd gwneud hynny, gall y staff fynd i’r ysgol ar yr amod bod y system reoli a nodir yn y canllawiau hyn ar waith, ac fe ddylent wneud defnydd o’r Adnodd Asesu Risg COVID-19 a ddatblygwyd ar gyfer y gweithlu addysg. Mae’r rhesymau dros y gwahaniaethau’n gymhleth ac mae ymchwil barhaus yn cael ei wneud i ddeall a dehongli’r canfyddiadau hyn ar gyfer unigolion yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Gall pobl sy’n byw gyda’r rheini a allai fod mewn risg gymharol uwch o COVID-19 fynd i’r gweithle lle nad oes modd gweithio gartref, ond dylent barhau i lynu wrth y mesurau lliniaru ac atal.

Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu

Datblygwyd adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu i'w ddefnyddio mewn gweithleoedd iechyd a gofal cymdeithasol ac mae wedi'i addasu i'w ddefnyddio mewn lleoliadau addysg, gwaith ieuenctid, gofal plant a gwaith chwarae. Bwriedir ei ddefnyddio i asesu a yw staff mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau mwy difrifol. Mae gan yr awdurdod lleol a/neu'r ysgol/lleoliad fel y cyflogwr a/neu'r sefydliad gwirfoddol os ydych yn wirfoddolwr, ddyletswydd gofal i ddiogelu iechyd a diogelwch cyflogeion yn y gwaith, ac mae hyn yn cynnwys deall a ydynt mewn categori risg uwch mewn perthynas â COVID-19. 

Mae’r pecyn cymorth yn hunanasesiad yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cefnogi ac yn grymuso staff i ystyried eu hiechyd a'u lles, a deall os yw eu risg bersonol o ddatblygu symptomau mwy difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â feirws COVID-19 yn isel, yn uchel neu'n uchel iawn. 

Yn dilyn eu hunanasesiad dylai staff fod â hyder i drafod eu diogelwch yn y gwaith ac unrhyw bryderon sydd ganddynt gyda'u rheolwr llinell ac ystyried y camau cywir i liniaru a rheoli'r risg honno a sicrhau bod staff mor ddiogel â phosibl. 

Bydd ysgolion a lleoliadau am ystyried ceisio cyngor gan gynghorwyr iechyd a diogelwch yr awdurdod lleol ynglŷn â'i broses asesu risg straen. Efallai y bydd staff hefyd am ystyried yr angen am asesiad risg straen unigol, gan fod nifer o ffactorau'n ystyriaethau pwysig mewn perthynas â lles staff. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu asesiad risg straen generig i'w ddefnyddio.

Cefnogi staff

Dylai cyrff llywodraethu ac arweinwyr ysgolion ystyried lles a chydbwysedd bywyd a gwaith staff (gan gynnwys y pennaeth). Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau eu bod wedi egluro’r mesurau maent yn bwriadu eu rhoi ar waith i’r holl staff, a chynnwys yr holl staff yn y broses honno.

Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd i ofalu am ei weithwyr, ac mae hyn yn ymestyn i’w hiechyd meddwl. Mae gan ysgolion a lleoliadau eisoes fecanweithiau i gefnogi lles staff a bydd y rhain yn arbennig o bwysig, oherwydd efallai y bydd rhai staff yn bryderus iawn ynghylch mynd i’r ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer lles dysgwyr a staff yn y sefyllfa bresennol.

Defnyddio staff

Efallai y bydd angen i ysgolion a lleoliadau newid y ffordd y maent yn defnyddio eu staff, a defnyddio staff presennol yn fwy hyblyg. Dylai rheolwyr drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau i rolau staff â’r unigolion. Fodd bynnag, ni ddylai’r hyblygrwydd hwn arwain at weld unigolion yn gweithredu y tu hwnt i gwmpas eu rôl. Dylai rheolwyr drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau i rolau staff gydag unigolion. Wrth gynllunio, mae’n bwysig osgoi unrhyw gynnydd diangen mewn llwyth gwaith na ellir ei reoli. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod dosbarthiadau a rolau mewn ystafelloedd dosbarth yn gweithredu ar eu llinell sylfaen staff arferol er gwaethaf absenoldebau.

Ar ôl edrych ar yr holl opsiynau uniongyrchol sydd ar gael, os oes gennych bryderon o hyd am eich capasiti o ran staff, rydym yn argymell y dylid trafod gyda’r awdurdod lleol.

Mae’n bwysig bod y gwaith cynllunio’n cynnwys yr angen i beidio â chynyddu pwysau'r llwyth gwaith yn ormodol ac yn ddiangen. Gallai hyn gynnwys adolygu'r arferion presennol yn hyn o beth.

Mae athrawon cyflenwi a gweithwyr dros dro eraill yn gallu symud rhwng ysgolion. Bydd disgwyl i staff cyflenwi ac ymwelwyr, fel athrawon peripatetig, gydymffurfio â threfniadau’r ysgol ar gyfer rheoli a lleihau risg. Dylai ysgolion sicrhau bod yr holl staff dros dro yn cael mynediad at yr wybodaeth am y trefniadau diogelwch sydd ar waith cyn gynted â phosibl ar ôl cadarnhau’r trefniant.  

Er mwyn lleihau nifer y staff dros dro sy’n dod i mewn i adeiladau’r ysgol, a sicrhau’r gwerth gorau, efallai y bydd ysgolion am ddefnyddio aseiniadau hirach gyda staff cyflenwi, a chytuno ar isafswm oriau yn ystod y flwyddyn academaidd.

Diogelu

Rhaid i ysgolion barhau i ystyried y canllawiau diogelu statudol ar gadw dysgwyr yn ddiogel yn yr ysgol. 

Dylai ysgolion adolygu eu polisi amddiffyn plant (dan arweiniad eu harweinydd diogelu dynodedig) i adlewyrchu’r newid i addysg o bell ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr.

Ni ddylid newid trefniadau diogelu amlasiantaeth lleol, sy’n dal yn gyfrifoldeb i’r tri phartner diogelu. Rydym yn disgwyl i bob partner diogelu lleol fod yn wyliadwrus ac yn ymatebol i bob bygythiad i ddiogelwch, a sicrhau bod plant a phobl ifanc agored i niwed yn ddiogel – yn enwedig gan y bydd mwy o blant a phobl ifanc yn dysgu o bell.

Arlwyo a phrydau ysgol am ddim

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol fel y gallant ddarparu darpariaeth prydau ysgol am ddim i ddysgwyr cymwys sydd ddim yn mynychu safle’r ysgol ar hyn o bryd os ydynt yn hunan-ynysu  oherwydd Covid-19.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £19.50 yr wythnos (£3.90 fesul diwrnod) fesul dysgwr er mwyn i awdurdodau lleol allu parhau i ddarparu ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ond nad ydynt yn gallu bod yn bresennol oherwydd COVID 19 (h.y. os ydynt yn hunanynysu). Gall awdurdodau lleol ddewis pa ddull darparu yw'r mwyaf addas i anghenion eu cymunedau (mae’r dewisiadau’n cynnwys parseli bwyd, talebau archfarchnadoedd neu daliadau uniongyrchol i gyfrifon banc rhieni/gofalwyr) ac rydym yn annog awdurdodau lleol i ystyried gweithredu nifer o systemau ar y cyd er mwyn sicrhau bod modd diwallu anghenion y teuluoedd mwyaf agored i niwed.

Bydd awdurdodau leol yn gallu hawlio gan gronfa caledi COVID-19 Llywodraeth Cymru am gostau ychwanegol cysylltiedig â dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim ac sy’n hunanynysu.

Mae’r cyllid sydd ar gael yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd awdurdodau lleol, lle bo hynny’n bosibl, yn talu’r £2.50 cyntaf o unrhyw gostau a wynebir y diwrnod, fesul dysgwr (£12.50 yr wythnos), gyda Llywodraeth Cymru yn talu costau sy’n fwy na’r swm hwn hyd at uchafswm o £1.40 y diwrnod fesul dysgwr, neu £7.00 yr wythnos. Caiff awdurdodau lleol eu hatgoffa i ofalu na roddir cyllid dwbl. 

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol y bydd gan awdurdodau lleol gostau sefydlog sy’n gysylltiedig â darparu prydau ysgol am ddim. Ar y sail hon, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod y rhan fwyaf o’r cyllidebau ar gyfer prydau ysgol am ddim yn debygol o fod wedi’u hymrwymo. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn ei chael yn anodd bodloni ein disgwyliad, sef y bydd yn talu’r £2.50 cyntaf o unrhyw gostau a wynebir y diwrnod, fesul dysgwr. Yn yr achosion hyn, byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol ymchwilio i weld a oes arbedion wedi’u gwneud yng nghyllidebau arlwyo ysgolion. Os nad yw hyn yn bosibl, a lle gall awdurdodau lleol ddangos nad oes modd gwrthbwyso’r gyllideb ymhellach, byddwn yn gwneud eithriadau rhesymol ac yn talu dros £1.40 y dysgwr, y diwrnod. Caiff awdurdodau lleol eu hatgoffa y bydd angen iddynt ddangos bod y trefniadau a sefydlwyd ganddynt ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn cynrychioli’r gwerth gorau posibl am arian, gan ystyried unrhyw gyfyngiadau iechyd a diogelwch.

Darpariaeth arlwyo ar gyfer plant sy’n mynd i’r ysgol

Pan fydd plant yn mynd i’r ysgol, disgwyliad Llywodraeth Cymru yw y bydd darpariaeth arlwyo ar gal i ddysgwyr, oni bai bod amgylchiadau a allai atal hyn. Mae yna nifer o resymau pam y gallai hyn fod, gan gynnwys iechyd a diogelwch disgyblion a staff. Pan fydd cyfleusterau arlwyo ar agor, dylai dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu sy’n cael eu hamddiffyn wrth bontio, gael pryd o fwyd am ddim bob dydd y byddant yn bresennol. Bydd disgwyl i ddysgwyr eraill dalu am eu prydau o hyd.

Rydym yn deall y bydd amseroedd cinio mewn nifer o ysgolion a lleoliadau wedi eu haildrefnu a/neu gwasgaru o rhan amseriad. Fodd bynnag, anogir awdurdodau lleol yn gryf i sicrhau bod amseroedd cinio yn digwydd ar amser rhesymol, gan ddarparu egwyl am ginio i ddysgwyr mor agos â phosib i ganol dydd tra hefyd yn sicrhau bod gan ddysgwyr ddigon o amser i ddewis, prynu a bwyta eu cinio.

Os nad yw’r cyfleusterau arlwyo’n weithredol a bod dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael darpariaeth amgen (talebau, parseli bwyd neu daliadau), gellir gofyn i bob dysgwr ddod â phecyn bwyd gyda nhw. 

Mewn achosion lle mae plant sydd wedi derbyn talebau neu daliadau uniongyrchol yn dod i’r ysgol heb fwyd, heb arian ac yn llwglyd, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio eu disgresiwn i ddarparu ar gyfer y plant hyn. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol ddilyn eu gweithdrefnau arferol pan fydd hyn yn digwydd.

Lle mae plant o deuluoedd sydd wedi derbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim yn cael eu hanfon i’r ysgol dro ar ôl tro heb ginio, lle mae rhieni/gwarchodwyr wedi cael eu gofyn i ddarparu cinio gan nad yw cyfleusterau arlwyo yn weithredol, bydd angen i ysgolion ystyried os yw hyn oherwydd materion sylfaenol llesiant y plentyn, a chymryd camau pwrpasol.

Deietau arbennig

Os ydych wedi dewis darparu gwasanaeth arlwyo mewn ysgolion neu os ydych yn dosbarthu bwyd i ddisgyblion bydd angen i chi sicrhau bod darpariaeth ar gyfer disgyblion â dietau neu alergeddau arbennig. Mae angen cymryd gofal i wirio gyda theuluoedd a oes gan unrhyw ddisgyblion alergeddau neu ddeietau arbennig cyn bod bwyd yn cael ei roi iddynt.

Cydymffurfio â “Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013”

Cydnabyddir y gall cydymffurfio â'r Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion achosi heriau cynyddol yn yr amgylchiadau eithriadol hyn. Yr argymhelliad o dan yr amgylchiadau hyn fyddai gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y bwyd a ddarperir i ddisgyblion mor iach a maethlon â phosibl, o fewn cyfyngiadau cyfredol y cadwyni cyflenwi lleol a chenedlaethol.

Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod clybiau brecwast yn gweithredu fel arfer, oni bai y byddai'n afresymol iddynt wneud hynny. Fe atgoffir awdurdodau lleol sydd wedi penderfynu peidio gweithredu clybiau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd bod y dyletswydd cyfreithiol i wneud hyn dal i fod yn berthnasol. Lle bu awdurdod lleol yn rhedeg cynllun brecwast ysgol am ddim cyn pandemig COVID-19, mae’r dyletswydd gyfreithiol i ddarparu brecwast ysgol am ddim ar ddechrau'r tymor ysgol newydd (adran 88 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol (Cymru) 2013) yn parhau yn ddigyfnewid. Nid yw'n bosibl dweud beth fydd neu na fydd yn afresymol mewn unrhyw sefyllfa benodol a bydd angen i chi ystyried ystod o ffactorau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar ddarparu brecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd ac mae'r canllaw hwn yn rhestru rhai o'r ystyriaethau:

  • y galw am ddarparu brecwast am ddim yn yr ysgol a gynhelir

  • argaeledd/addasrwydd lleoliad i ddarparu brecwast am ddim

  • argaeledd/addasrwydd cyfleusterau yn yr ysgol a gynhelir i ddarparu'r ddarpariaeth

  • argaeledd/addasrwydd staff i oruchwylio'r ddarpariaeth brecwast

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ac, o dan yr amgylchiadau presennol, bydd hefyd angen rhoi ystyriaeth i  iechyd a diogelwch disgyblion a staff a gofynion pellter cymdeithasol.

Anogir awdurdodau lleol i drafod unrhyw benderfyniad i beidio ag ailagor clwb brecwast gyda'u cynghorwyr cyfreithiol. Fe'u hanogir hefyd i gyfathrebu penderfyniadau a'r rhesymau am eu gwneud gyda rhieni cyn gynted ag y bo modd.

Darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid ar gyfradd o £19.50 yr wythnos fesul dysgwr, i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol drwy gydol blwyddyn ariannol 2021 i 2022. Mae hyn yn cynnwys gwŷl banc calan Mai 2021. Gan na fydd cyllidebau awdurdodau lleol yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol, rhagwelir y bydd awdurdodau lleol yn hawlio’r swm llawn o £19.50 yr wythnos.

Dylai dysgwyr ym mlwyddyn 11 ac 13 sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim barhau i dderbyn darpariaeth prydau am ddim hyd at ddiwedd gwyliau haf yr ysgol 2021.

Ystadau

Dylid adolygu cynlluniau rheoli diogelwch tân a’u gwirio yn unol â newidiadau gweithredol.

Dylai ysgolion wirio’r canlynol:

  • bod pob drws tân yn weithredol bob amser
  • bod y system larwm tân a’r goleuadau argyfwng wedi’u profi a’u bod yn gwbl weithredol

Dylech gynnal ymarferion argyfwng yn ôl yr arfer (gan gadw pellter cymdeithasol a glynu at fesurau diogelwch eraill fel sy’n briodol).

Dylech wneud addasiadau i’ch dril tân er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol fel sy’n briodol. Cyfeiriwch at gyngor ar ddiogelwch tân mewn adeiladau ysgol newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.

Cludiant ysgol

Awdurdodau lleol sydd yn gyfrifol am weithredu'r adran hon o'r canllawiau, gan weithio gyda'r gweithredwyr y maent yn contractio â hwy i sicrhau bod y mesurau angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith yn unol ag asesiadau risg (a ddylai gynnwys ymgynghori priodol ag undebau llafur a staff). Mae rôl gan rhieni/gofalwyr a staff oll i’w chwarae i addysgu plant a phobl ifanc am ymddygiad derbyniol ar drafnidiaeth ysgol a chyhoeddus.

Mae'r canllaw hwn wedi'i lywio gan gyngor gwyddonol yr Is-grŵp Cynghori Technegol ar gyfer Plant ac Addysg, a chyda chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol asesu anghenion teithio dysgwyr sydd o dan 19 oed yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys y rhai y mae cyfrifoldeb statudol arnynt i ddarparu cludiant ar eu cyfer a'r rhai efallai eu bod am ddarparu cludiant dewisol ar eu cyfer wrth asesu anghenion teithio. Mae'n ofynnol hefyd i awdurdod roi sylw i:

  • anghenion dysgwyr anabl a dysgwyr ag anawsterau dysgu

  • unrhyw anghenion penodol dysgwyr sy'n cael eu ‘gofalu amdanynt’ neu a arferai gael gofal gan awdurdod lleol

  • oedran y dysgwyr

  • natur y llwybr y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ddysgwyr ei ddilyn rhwng y cartref a'r lleoedd lle maent yn derbyn addysg neu hyfforddiant

  • y pellter tebygol y bydd y dysgwr yn teithio rhwng y cartref a'r man lle mae'n derbyn addysg a hyfforddiant

     

Wrth asesu anghenion teithio dysgwyr, rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffaith na ddylai trefniadau teithio a wnânt o ganlyniad i’r asesiad achosi lefelau afresymol o straen, cymryd amser afresymol neu fod yn anniogel.

Mae'r adran hon yn darparu arweiniad ar roi mesurau diogelwch cymesur ar waith i leihau'r risg o drosglwyddo COVID-19 ar gludiant cartref i ysgol pwrpasol er mwyn sicrhau y gall dysgwyr fynychu'r ysgol/lleoliad.

Mae'r canllaw hwn yn berthnasol i bob cludiant pwrpasol o'r cartref i'r ysgol. Wrth hyn, rydym yn golygu gwasanaethau sy'n cludo dysgwyr yn unig i deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol a / neu leoliadau. Mae hyn yn cynnwys:

  • gwasanaethau a gomisiynir neu a ddarperir gan awdurdodau lleol, p'un a ddarperir y gwasanaeth yn rhad ac am ddim ai peidio
  • gwasanaethau a gomisiynir neu a ddarperir gan ysgolion a lleoliadau
  • gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr trafnidiaeth (llwybrau teithio masnachol) na all aelodau'r cyhoedd eu defnyddio ar yr un pryd ag y maent yn cludo dysgwyr i'r ysgol neu leoliadau

Mae cerbydau sy'n darparu cludiant i aelodau'r cyhoedd ar adegau eraill yn cael eu hystyried yn gludiant cartref i ysgol pan fyddant yn cludo plant a phobl ifanc yn unig sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol a lleoliadau; mae hyn yn cynnwys tacsis a bysiau mini.

Yn ystod yr amser hwn cyn belled â'i bod yn ddiogel gwneud hynny, dylid annog rhieni / gofalwyr, staff a dysgwyr i ddefnyddio llwybrau teithio llesol. Dylid annog yn gryf cerdded a beicio, defnyddio sgwters ac olwynion ac ati. O ystyried y potensial i gyfyngiadau capasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus effeithio ar allu dysgwr i fynychu'r ysgol, dylid ystyried yr holl ddulliau teithio cynaliadwy a gweithredol.

Negeseuon allweddol 

  • Mae awdurdodau lleol yn parhau i fod o dan ddyletswydd statudol i ddarparu cludiant cartref i'r ysgol am ddim i bob dysgwr cymwys o oedran ysgol gorfodol dros bellteroedd penodol o'u canolfannau addysg (2 filltir cynradd / 3 milltir uwchradd) fel y nodir ym mesur teithio dysgwr Cymru, ac i cyhoeddi datganiad trafnidiaeth (adran ‘Trefniadau Cludiant yn ôl Disgresiwn’) yn manylu ar ba gymorth teithio y byddant yn ei ddarparu i bobl ifanc dros 16 oed sy'n ddewisol.
  • Dylai awdurdodau lleol, mewn cydweithrediad gydag ysgolion, lleoliadau a gweithredwyr trafnidiaeth, ac yn dilyn ymgynghori â'u cynghorwyr iechyd a diogelwch ac undebau llafur, gynnal asesiad risg ar gyfer teithiau cludiant ysgol pwrpasol yn eu hardal leol sy'n ystyried y llwybrau a deithiwyd a'r defnyddwyr o'r gwasanaethau; natur y drafnidiaeth a ddefnyddir a'r cyfle i addasu a chynhwysedd trafnidiaeth lleol, h.y. y cyfle i gynyddu darpariaeth. Rhaid i'r asesiad risg gael ei lofnodi gan y swyddog awdurdod lleol priodol (e.e. Pennaeth Gwasanaeth), wedi'i gynghori gan swyddogion iechyd a diogelwch, swyddogion cludo teithwyr a swyddogion perthnasol eraill a'i rannu gyda contractwyr a gweithredwyr yn unol â'r arfer arferol. Yna mae'n rhaid iddynt weithio trwy'r system reolaethau a nodir yn yr adran hon a mabwysiadu mesurau mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â'r risg a nodwyd, sy’n addas i’r amgylchiadau lleol, ac yn caniatáu i ddysgwyr fynychu eu hysgol / lleoliad.
  • Dylai disgyblion blwyddyn 7 a hŷn wisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar gludiant ysgol pwrpasol i ysgolion / lleoliadau uwchradd.
  • Nid oes unrhyw ofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar gludiant pwrpasol o'r cartref i'r ysgol (Rhan 5 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020).
  • Lle mae capasiti yn caniatáu, dylid cadw pellter cymdeithasol rhwng dysgwyr, neu grwpiau o ddysgwyr, a rhwng gyrwyr / cynorthwywyr teithwyr. Lle nad yw'n bosibl, dylid rhoi mesurau eraill o'r system reolaethau a nodir isod ar waith.
  • Nid oes unrhyw ofyniad i gynnal grwpiau cyswllt ar drafnidiaeth ysgol ar yr amod bod grŵp cyson o ddysgwyr yn teithio ar yr un bws bob dydd y maent yn mynychu. Dylid osgoi defnyddio cludiant ysgol pwrpasol i wasanaethu sawl ysgol lle bo hynny'n bosibl, yn enwedig rhwng clystyrau ysgolion.
  • Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gweithredwyr yn ymwybodol o ddefnydd diogel o orchuddion wyneb, e.e. golchi dwylo cyn ac ar ôl gosod a thynnu gorchuddion wyneb, eu gwaredu neu eu storio yn ddiogel ac nad yw'r rhain yn cymryd lle mesurau rheoli eraill a hyrwyddir yn hyn.

Mae asedau ar gael mewn perthynas â chludiant pwrpasol o'r cartref i'r ysgol a allai fod yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau.

Ystyriaethau penodol  

Gellir mabwysiadu ystod o ystyriaethau a mesurau rheoli penodol ar gyfer grwpiau penodol neu mewn ymateb i amgylchiadau penodol. Bydd y rhain i'w hystyried a'u mabwysiadu yn lleol yn dilyn asesiad risg.

Tacsis a cherbydau hurio preifat

Mae rhai dysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion cymorth ychwanegol, yn dibynnu ar deithio mewn tacsi neu gerbydau hurio preifat i deithio i ac o'r ysgol / lleoliad. Pan ddefnyddir tacsis yn unig at ddibenion cludo plant a phobl ifanc yn ôl ac ymlaen i'r ysgol, fel gyda gwasanaethau bws a choets ysgol pwrpasol, nid yw’n ofynnol i gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, argymhellir bod dysgwyr yn teithio yn y sedd gefn yn unig mewn tacsis a cherbydau hurio preifat.

Dylid ystyried yn ofalus sut y gellir darparu trefniadau trafnidiaeth diogel, pwrpasol i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol. Gallai hyn gynnwys cyflwyno protocolau glanhau, gyrru gyda'r ffenestri ar agor (pan fo hynny'n bosibl) neu ddod o hyd i gerbydau mwy i'w cludo. Dylai awdurdodau lleol ac ysgolion gysylltu â'u darparwyr llogi preifat lleol ar y mesurau y maent yn eu rhoi ar waith i amddiffyn dysgwyr, gan gynnwys ar gyfer y trefniadau ar gyfer cludo dysgwyr lluosog.

Mae canllawiau ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat ar gael.

Pan fydd angen teithio mewn tacsi neu gerbyd hurio preifat, dylid cynghori dysgwyr i ddilyn cyngor y gyrrwr. Bydd angen mesurau glanhau a glanweithio priodol hefyd. Lle maent ar gael, ni ddylid defnyddio seddi wyneb yn wyneb.

Bydd gyrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat yng Nghymru yn gallu hawlio pecyn am ddim o ddeunyddiau PPE a glanhau cerbydau o ansawdd uchel, wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y pecynnau yw cynyddu hyder i yrwyr a theithwyr mewn teithio diogel.

Ymweliadau addysgol

Mae ymweliadau addysgol o ansawdd uchel yn chwarae rhan bwysig i gyfoethogi addysgu a dysgu yn ogystal â chefnogi lles dysgwyr. Yn unol â llacio cyfyngiadau eraill, megis ailagor atyniadau ymwelwyr dan do ac awyr agored ac ailddechrau gweithgareddau wedi'u trefnu dan do ac yn yr awyr agored, efallai y bydd ysgolion a lleoliadau am ystyried cynnal ymweliadau dydd domestig lle mae ymweld â lleoliadau y tu allan i ystâd yr ysgol neu leoliad yn rhan annatod o'r profiad dysgu.

Fel y nodir mewn mannau eraill o fewn y canllaw hwn, mae buddion corfforol, meddyliol ac addysg i sicrhau bod dysgwyr yn treulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored ac yn gyffredinol mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 yn is yn yr awyr agored o’i gymharu â dan do. Fodd bynnag, mae dal angen dilyn mesurau lliniaru e.e. cynnal pellter cymdeithasol neu defnyddio gorchuddion wyneb lle nad yw hynny’n bosib ac os yn berthnasol, a chynnal hylendid dwylo da, yn yr awyr agored. Anogir ysgolion a lleoliadau i ystyried hyn wrth gynllunio unrhyw ymweliadau.

Dylai ysgolion a lleoliadau sy'n dymuno cynnal ymweliadau addysgol dydd domestig barhau i ymgymryd â'r prosesau asesu risg arferol wrth gynllunio ymweliadau. Dylai’r asesiad risg hwn gynnwys trefniadau pe bai dysgwyr datblygu symptomau Covid-19 yn ystod yr ymweliad. Dylid lleihau amser teithio lle bynnag y bo modd. Dylai ysgolion a lleoliadau hefyd ystyried y canllawiau eraill o fewn yn y ddogfen hon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • lleihau cyswllt ag eraill
  • cynnal pellter cymdeithasol
  • cynnal hylendid dwylo da

Dylent hefyd ystyried canllawiau perthnasol eraill a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Mae'r Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored hefyd wedi datblygu canllawiau a allai fod yn ddefnyddiol i ysgolion a lleoliadau sy'n ystyried cynnal ymweliadau.

Dylai ysgolion a lleoliadau sy’n ystyried teithio o Gymru i ran arall o’r DU neu Ardal Deithio Gyffredin ehangach (Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) er pwrpas ymweliad addysgol ystyried unrhyw gyfyngiadau mewn grym yng nghyrchfan eu hymweliad a dilyn unrhyw ganllawiau cysylltiedig yn ogystal â’r canllawiau yn y ddogfen hon.

Rydym yn parhau i gynghori yn erbyn ymweliadau addysgol preswyl domestig yn ogystal ag ymweliadau addysgol preswyl rhyngwladol. Dim ond os oes gennych esgus rhesymol y gallwch deithio o Gymru i gyrchfan ryngwladol y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin – nid yw ymweliadau addysg yn cael eu hystyried yn esgus rhesymol. Byddwn yn parhau i adolygu ein cyngor.

Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) wedi cynhyrchu gwybodaeth am oblygiadau yswiriant teithio yn dilyn brigiad COVID-19. Os oes gan ysgolion a lleoliadau unrhyw gwestiynau pellach am gwmpas eu hyswiriant neu os hoffent gael rhagor o sicrwydd, dylent gysylltu â’u darparwr yswiriant teithio.

Gwisg ysgol

Mae penderfyniadau ynghylch gwisgo iwnifform ysgol yn fater i gyrff llywodraethu ysgolion unigol. Fodd bynnag, rydym yn annog pob ysgol i ddychwelyd at eu polisïau gwisg arferol gan y gall gwisg ysgol chwarae rôl werthfawr wrth gyfrannu at ethos ysgol a gosod naws briodol.

Os yw corff llywodraethu yn penderfynu llacio ei bolisi unffurf dylid cymryd agwedd sy'n ymwybodol o dlodi, sy'n cofio y gallai rhai teuluoedd ei chael hi'n anodd prynu dillad penodol neu ychwanegol. Dylid hyrwyddo’r Grant Datblygu Disgyblion: Mynediad i deuluoedd cymwys.

Atodiad A: Dull o gyfrifo a rheoli risg

Image
Annex A: Approach to risk estimation and management

 

Mae’r hierarchaeth hon o reolaethau yn ffordd o flaenoriaethu mesurau rheoli risg ar sail pa mor effeithiol yw gwahanol fathau o reolaethau i leihau risgiau. Dylid asesu mesurau lleihau risg yn ôl y flaenoriaeth yn yr hierarchaeth; ni ddylid neidio i’r mesur rheoli hawsaf ei roi ar waith. Mae mathau o reolaethau sy’n uwch yn yr hierarchaeth yn fwy effeithiol i leihau risgiau na’r rheolaethau sy’n is yn yr hierarchaeth.

Dylai rheolaethau fod yn ymarferol i’w rhoi ar waith ac, yn ddelfrydol, dylai fod yn hawdd eu cynnal dros amser.

Mae’n hollbwysig cofio mai pur anaml y bydd hi’n bosibl dileu’r risg yn llwyr. Dylai’r cyfuniad o reolaethau a gyflwynir geisio lleihau’r risg i lefel mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol, gan flaenoriaethu ymyriadau strwythurol ac amgylcheddol dros rai unigol.

Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu ystyried risgiau trosglwyddo yn unig – mae hefyd angen cydbwyso’r rhain yn erbyn risgiau o ran iechyd, lles a dysgu yn ehangach. Yn y pen draw, mae angen hyblygrwydd ar ysgolion i ymateb i’r risgiau hyn yn ôl eu gallu.

Wrth ystyried cyswllt rhwng grwpiau cyswllt, byddem yn cynghori ysgolion i ystyried y canlynol:

  1. Dileu: ailgynllunio’r gweithgaredd er mwyn dileu’r risg neu gael gwared arni.
  2. Newid: newid y gweithgaredd am weithgaredd arall sy’n lleihau’r risg. Mae angen bod yn ofalus er mwyn osgoi cyflwyno peryglon newydd wrth newid y gweithgaredd.
  3. Rheolaethau peirianyddol: cynllunio mesurau sy’n helpu i reoli neu liniaru risg.
  4. Rheolaethau gweinyddol: nodi gweithdrefnau i wella diogelwch a’u rhoi ar waith.
  5. Ar ôl dilyn y broses hon, dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol pan fydd y canllawiau’n argymell hyn.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 330 KB.

Maint Ffeil 330 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.