Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ers 29 Mehefin, mae ysgolion yng Nghymru wedi bod yn rhoi cyfle i'w dysgwyr fynychu sesiynau i ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’. Mae hyn wedi bod ar raddfa lai, gan ystyried y cyngor gwyddonol a oedd ar gael ar y pryd, a’r mesurau yr oedd angen eu rhoi ar waith i helpu i leihau’r risg o drosglwyddo'r haint. Mae pethau wedi symud ymlaen ers hynny, ac mae gennym fwy o dystiolaeth a gwybodaeth erbyn hyn i lywio ein penderfyniadau ynghylch y ffordd y bydd ysgolion yn gweithredu yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ar 9 Gorffennaf y byddai’r holl ddysgwyr yn dychwelyd i’r ysgol yn nhymor yr hydref. Mae Grŵp Cynghori Technegol Cymru (TAG), sy’n rhoi cyngor gwyddonol a thechnegol i Lywodraeth Cymru yn ystod argyfyngau, yn argymell y dylai ysgolion “gynllunio i agor ym mis Medi, gyda 100% o ddisgyblion yn gorfforol bresennol ar safleoedd ysgolion, cyn belled â bod lefelau COVID-19 yn parhau i ostwng yn gyson yn y gymuned”.

Hefyd, mae system Profi, Olrhain, Diogelu y GIG ar waith, ac rydym yn glir ynghylch y mesurau y mae angen eu rhoi ar waith er mwyn creu amgylchedd mwy diogel mewn ysgolion.

Gwyddom hefyd fod y risg y bydd plant yn mynd yn ddifrifol wael ar ôl cael COVID- 19 yn isel iawn. Mae’r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod “haint SARS-CoV-2 yn fwy ysgafn ymysg plant nag oedolion: mae’r rhan fwyaf o’r plant sy’n cael eu heintio yn dangos symptomau ysgafn neu’n asymptomatig, ac ychydig iawn sy’n datblygu clefyd difrifol neu sy’n peryglu bywyd. Mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch i ba raddau mae plant yn gallu trosglwyddo’r clefyd, ond wrth i ni wylio’r hyn sy’n digwydd wrth agor ysgolion yn Lloegr ac mewn gwledydd eraill, nid yw’r clefyd wedi cael ei drosglwyddo llawer gan blant”.

Rhaid cael cydbwysedd gofalus rhwng y risgiau hyn a’r effeithiau negyddol ar iechyd wrth beidio â mynd i’r ysgol. Mae ysgol hefyd yn bwynt cyswllt pwysig ar gyfer gwasanaethau diogelu ac iechyd y cyhoedd sy’n hanfodol i les plant a theuluoedd.

Er nad yw’n bosibl sicrhau amgylchedd cwbl ddi-risg, mae dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r cysylltiad rhwng galwedigaethau a marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn awgrymu nad yw staff mewn lleoliadau addysg (‘lleoliadau’) yn tueddu i wynebu mwy o risg o’r clefyd na llawer o alwedigaethau eraill. Nid oes tystiolaeth bod plant yn trosglwyddo’r clefyd yn fwy nag oedolion. Ar hyn o bryd, mae nifer y gweithwyr addysg sy’n cael canlyniad positif yn isel iawn – 3.8% gyda’i gilydd, sy’n un o’r cyfraddau isaf ymysg gweithwyr hanfodol.

Gan fod y sefyllfa wedi gwella erbyn hyn, mae’r cydbwysedd risg bellach yn gadarn o blaid bod plant yn dychwelyd i’r ysgol. Mae peidio â mynd i’r ysgol yn niweidiol i ddatblygiad gwybyddol ac academaidd plant, ac i’w hiechyd a’u lles, yn enwedig ymysg plant difreintiedig; a, gall hyn gael effaith yn y tymor byr a’r tymor hwy.

Gwyddom fod cyflawniad academaidd is hefyd yn troi’n gostau economaidd tymor 1 llyw.cymru/y-grwp-cyngor-technegol-cyngor-ar-ddychwelyd-ir-ysgol hir. Gwyddom hefyd fod cau ysgolion wedi effeithio ar allu rhai teuluoedd i weithio. Bydd anfon dysgwyr yn ôl i’r ysgol mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl yn arwain at fanteision cadarnhaol ar sawl agwedd, yn enwedig eu lles meddyliol ac emosiynol.

Mae’r ddogfen ganllawiau hon yn darparu fframwaith i arweinwyr ysgolion er mwyn rhoi mesurau diogelu cymesur ar waith ar gyfer plant a staff, ac mae hefyd yn galluogi dysgwyr i gael addysg sy’n cynnig cwricwlwm eang a chytbwys sy’n rhoi cyfle iddyn nhw ffynnu a datblygu. Mae hefyd yn cydnabod y bydd cyd-destun ysgol yn pennu sut dylid defnyddio cyfuniad o’r mesurau hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn helpu i leihau’r risg o drosglwyddo'r haint ym mhob lleoliad unigol.

Bydd angen i arweinwyr ysgolion wneud penderfyniadau ar lefel ysgol ynghylch sut i leihau unrhyw risgiau COVID-19, a sicrhau cydbwysedd rhwng hynny a chynnig profiad addysgol llawn i blant a phobl ifanc. Wrth wneud hynny, gofynnir i ysgolion leihau nifer y cysylltiadau sydd gan bob dysgwr yn ystod y diwrnod ysgol, fel rhan o’r broses o weithredu’r system o reolaethau a amlinellir yn y canllawiau hyn i leihau’r risg o drosglwyddo'r haint.

Bydd tymor yr hydref yn dechrau ar 1 Medi, a dylai ysgolion sy’n gallu darparu ar gyfer yr holl ddysgwr o ddechrau’r tymor ymlaen fynd ati i wneud hynny. Bydd cyfnod o hyblygrwydd i gydnabod efallai y bydd ysgolion am ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth, fel Blynyddoedd 7, 12, 13 ac Unedau Arbennig ar gyfer ysgolion uwchradd, a’r blynyddoedd cynnar a Blwyddyn 6 yn y sector cynradd, fel y rheini sy’n mynychu ysgol uwchradd am y tro cyntaf, y rheini sy’n sefyll arholiadau’r haf nesaf, neu’r rheini mewn dosbarthiadau Derbyn. Bydd hyn hefyd yn caniatáu amser, hyd at bythefnos, ar gyfer unrhyw waith cynllunio ac ad-drefnu. Disgwylir y bydd diwrnodau cynllunio a pharatoi yn cael eu cynnal ar ddechrau’r tymor er mwyn i ysgolion a lleoliadau allu gweithio gyda’u staff i adolygu eu hasesiadau risg, eu prosesau a’u systemau cysylltiedig.

O ail wythnos y tymor ymlaen, disgwylir y bydd angen i ysgolion a lleoliadau gynyddu nifer y dysgwyr sy’n bresennol, gan arwain at ddychwelyd yn llawn ar 14 Medi pan fydd yn orfodol i bob dysgwr fynychu’r ysgol.

Ni fydd un ateb yn addas i bawb, a chydnabyddir y bydd heriau lleol yn wynebu pob ysgol a lleoliad. Bwriad y canllawiau hyn yw galluogi awdurdodau lleol i weithio gyda’u hysgolion a’u lleoliadau i gynllunio ar gyfer tymor yr hydref, gan gydnabod y bydd y canllawiau’n datblygu dros yr wythnosau nesaf i adlewyrchu polisïau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Bydd awdurdodau lleol yn gallu helpu ysgolion a lleoliadau mewn perthynas ag arlwyo, glanhau, rheoli cyfleusterau ac Adnoddau Dynol. Bydd yn bwysig bod ysgolion a lleoliadau’n gweithio’n agos gyda’u hawdurdodau lleol i weithredu'r canllawiau hyn.

Ni fydd disgwyl i awdurdodau lleol barhau i gynnig darpariaeth gofal plant brys yn ystod tymor yr hydref.

Bwriedir i ysgolion annibynnol ddilyn y mesurau a nodir yn y ddogfen hon yn yr un ffordd. Bydd canllawiau atodol yn cael eu cyhoeddi i ysgolion ac i leoliadau cyn bo hir ynghylch cefnogi grwpiau agored i niwed a difreintiedig. O’r herwydd, nid yw’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau penodol ar grwpiau agored i niwed a difreintiedig i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae llawer o’r canllawiau gweithredol sydd yn y ddogfen hon yr un mor berthnasol i’r gefnogaeth i blant agored i niwed a difreintiedig; felly dylid darllen y ddwy ddogfen ochr yn ochr.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r cyngor ar iechyd y cyhoedd y mae’n rhaid i ysgolion a lleoliadau ei ddilyn er mwyn lleihau’r risgiau o drosglwyddo COVID-19. Mae hefyd yn cynnwys y broses y dylid ei dilyn os bydd unrhyw un yn datblygu symptomau COVID-19 yn yr ysgol. Mae’r canllawiau’n darparu set o egwyddorion i helpu ysgolion a lleoliadau i wneud hyn, ac i leihau’r risgiau maes o law.

Canfu adroddiad diweddar2 gan Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd Sweden “nad yw plant yn grŵp risg mawr o ran clefyd COVID-19, a’i bod yn ymddangos eu bod yn chwarae llai o ran o safbwynt trosglwyddo...Rhaid pwyso a mesur effeithiau negyddol cau ysgolion yn erbyn yr effeithiau anuniongyrchol cadarnhaol y gallai hynny eu cael ar liniaru'r pandemig COVID-19”.

Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus, a bydd angen i bob ysgol hefyd gynllunio ar gyfer y posibilrwydd o gyfyngiadau symud lleol, a sut byddant yn sicrhau bod addysg yn parhau o fewn fframwaith ehangach o gyfyngiadau lleol.

Bydd y canllawiau hyn yn cael ei adolygu’n gyson a bydd bob amser yn dilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf.

Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru i leihau risgiau COVID-19

Mae’n rhaid i gyflogwyr, ysgolion a lleoliadau gydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch, sy’n mynnu eu bod yn asesu risgiau a rhoi mesurau rheoli cymesur ar waith.

Ar y cyd â'u cyflogwyr dylai ysgolion adolygu eu hasesiadau risg iechyd a diogelwch yn drylwyr ar y cyd â’r awdurdod lleol a’r undebau llafur a llunio cynlluniau ar gyfer tymor yr hydref sy’n rhoi sylw i’r risgiau a ganfuwyd drwy ddefnyddio’r system o reolaethau a nodir isod. Mae mesurau hanfodol yn cynnwys:

  • rhaid i bobl sy’n sâl gyda symptomau COVID-19 aros gartref
  • hylendid dwylo ac anadlol cadarn gan gynnwys awyru
  • parhau gyda’r trefniadau glanhau ychwanegol
  • ymwneud yn weithredol â strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu
  • ystyried yn ffurfiol sut mae lleihau cysylltiadau a chynyddu’r pellter cymdeithasol a chorfforol4 rhwng y rheini sydd yn yr ysgol pan fo’n bosibl a lleihau’r potensial am halogiad i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol.

Bydd sut caiff nifer y cysylltiadau rhwng dysgwyr, rhwng dysgwyr a staff a rhwng staff eu lleihau yn dibynnu ar amgylchiadau'r ysgol a dylent gynnwys:

  • grwpio dysgwyr gyda’i gilydd
  • osgoi cyswllt rhwng gwahanol grwpiau gymaint â phosibl
  • trefnu ystafelloedd dosbarth gyda’r desgiau’n wynebu ymlaen, gan gydnabod efallai na fydd hyn yn bosibl nac yn briodol ym mhob ysgol/lleoliad
  • staff i gadw pellter oddi wrth y dysgwyr a’r staff eraill gymaint â phosibl.

Asesiad risg

Rhaid i awdurdodau lleol, sef y cyflogwyr, ac ysgolion ddiogelu pobl rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu staff, dysgwyr ac eraill rhag COVID-19 mewn ysgolion a lleoliadau.

Fel rhan o’r gwaith o gynllunio i ddychwelyd yn llawn yn ystod tymor yr hydref, mae’n ofyniad cyfreithiol i ysgolion ailedrych ar eu hasesiadau risg a'u diweddaru drwy adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu hyd yma a’r arferion maent eisoes wedi’u datblygu. Bydd hyn yn gyfle i ystyried y risgiau ychwanegol a’r mesurau rheoli i’w rhoi ar waith ar gyfer dychwelyd i gapasiti llawn yn ystod tymor yr hydref. Gan weithio gyda chynghorydd iechyd a diogelwch eu hawdurdod lleol a’u hundebau llafur dylai ysgolion a lleoliadau hefyd adolygu a diweddaru eu hasesiadau risg ehangach ac ystyried yr angen am reolaethau diwygiedig perthnasol gan ystyried goblygiadau COVID-19. Dylai awdurdod lleol weithio gyda’i ysgolion a’i leoliadau i sicrhau eu bod yn rhoi mesurau rheoli call a chymesur ar waith sy’n dilyn yr hierarchaeth rheolaethau iechyd a diogelwch sydd yn Atodiad A, er mwyn lleihau’r risg i’r lefel isaf sy’n rhesymol ymarferol, ond heb effeithio’n negyddol ar les y dysgwyr a’r staff.

Dylai awdurdodau lleol gyfleu’r mesurau rheoli i ysgolion a lleoliadau. Dylai ysgolion a lleoliadau weithio gyda staff, rhieni/gofalwyr a dysgwyr er mwyn bod yn glir ynghylch sut bydd y trefniadau diwygiedig yn gweithio’n ymarferol a chael trefniadau gweithredol ar waith i fonitro bod y rheolaethau yn:

  • effeithiol
  • gweithio yn ôl y bwriad
  • cael eu diweddaru’n briodol gan ystyried unrhyw faterion sy’n codi a newidiadau mewn cyngor iechyd y cyhoedd.

Drwy weithio gyda'u hysgolion a’u lleoliadau dylai awdurdodau lleol barhau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u cynlluniau diogelwch a sicrhau na fydd unrhyw newidiadau a gyflwynir o ganlyniad i gydymffurfio â COVID-19 yn cael effaith negyddol ar eu cynlluniau diogelwch. Wrth ymateb i COVID-19 ni ddylai hyn fynd yn groes i gynllun diogelwch yr ysgol unigol a dylid ystyried llawlyfr Llywodraeth Cymru a WECTU o’r enw ‘Diogelu Ysgolion, dull gweithredu integredig mewn perthynas â diogelwch – Pecyn Cymorth i Benaethiaid’.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n ofynnol gan awdurdodau lleol a chyflogwyr ysgol mewn perthynas ag asesiadau risg iechyd a diogelwch, edrychwch ar Atodiad B.

Mesurau diogelu

Ar ôl asesu’r risgiau, dylai ysgolion a lleoliadau fynd ati i’r graddau sy’n rhesymol bosibl i weithio drwy’r mesurau canlynol, gan eu mabwysiadu mewn ffordd sy’n rhoi sylw i’r risg a nodwyd yn eu hasesiad, sy’n gweithio i’w hysgol/lleoliad ac sy’n caniatáu iddynt gyflawni i’r holl ddysgwyr. Os bydd ysgolion a lleoliadau’n dilyn y canllawiau a nodir yma, byddant yn lleihau’r risgiau yn eu hysgol yn effeithiol ac yn creu amgylchedd sy’n fwy diogel yn ei hanfod.

Mesurau

Dyma’r gyfres o gamau y mae’n rhaid i ysgolion a lleoliadau eu cymryd, pan fo’n bosibl.

Atal

  • Lleihau’r cyswllt rhwng pob unigolyn pan fo’n bosibl. I ddysgwyr iau bydd y pwyslais ar greu grwpiau dysgwyr a sicrhau bod y grwpiau hynny yn cael eu cadw ar wahân, ac i ddysgwyr hŷn bydd y pwyslais ar gadw pellter cymdeithasol/corfforol.
  • Dylai staff sy’n gyfrifol am ddysgwyr iau aros gyda grwpiau penodedig yn hytrach na symud o un grŵp i’r llall. Dylai’r holl staff ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol/corfforol i’r graddau sy’n bosibl gyda dysgwyr iau, ond dylent ddilyn y mesurau hynny yn eu hymwneud â dysgwyr hŷn, aelodau eraill o’r staff ac ymwelwyr â’r ysgol.
  • Sicrhau bod y staff, y dysgwyr a’r rhieni/gofalwyr yn deall yn iawn na chaiff unrhyw aelod staff na dysgwr sydd â symptomau COVID-19 posibl ddod i leoliad yr ysgol, ond bod yn rhaid iddo aros gartref a hunanynysu, trefnu prawf COVID-19 a rhoi gwybod i’r ysgol.
  • Yn ogystal, os bydd unrhyw aelod o deulu/aelwyd unrhyw aelod o’r staff neu ddysgwr yn dangos symptomau COVID-19 posibl, ni chaiff yr aelod staff neu’r dysgwr ddod i leoliad yr ysgol, ond rhaid iddo aros gartref a chychwyn cyfnod o hunanynysu. Unwaith eto, dylid rhoi gwybod i’r ysgol.
  • Os bydd aelod staff neu ddysgwr yn mynd yn sâl yn lleoliad yr ysgol gyda symptomau COVID-19 posibl, dylid ei anfon adref ar unwaith, lle dylai hunan-ynysu a threfnu prawf COVID-19. Hyd nes iddo adael lleoliad yr ysgol (yn achos dysgwr sy’n aros i’w riant/gofalwr ei gasglu), dylid cadw’r cysylltiad rhyngddo â phob unigolyn arall yn y lleoliad i’r lefel isaf bosibl. Os oes modd, dylid sicrhau ei fod mewn ystafell arall hyd nes y bydd yn gadael y lleoliad.
  • Golchi dwylo’n drylwyr yn amlach nag arfer.
  • Sicrhau hylendid anadlol da drwy hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’.
  • Sicrhau glanhau gwell, gan gynnwys glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd, gan ddefnyddio cynnyrch safonol fel glanedyddion a diheintyddion.
  • Pan fydd angen, mewn amgylchiadau penodol (a nodir yn nes ymlaen yn y canllawiau), gwisgo cyfarpar diogelu personol priodol.
  • Sicrhau awyru priodol pan fo’n bosibl.

Ymateb i unrhyw haint

  • Ymgysylltu â’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.
  • Rheoli achosion o COVID-19 sy’n cael eu cadarnhau yng nghymuned yr ysgol a rheoli unrhyw achosion drwy ddilyn cyngor y tîm diogelu iechyd lleol.

Atal

1. Sicrhau nad yw unrhyw aelod staff neu ddysgwr sydd â symptomau neu sy’n cael canlyniad positif am COVID-19, neu sy’n byw gyda rhywun sydd â’r symptomau neu sy’n cael canlyniad positif am COVID-19, yn dod i leoliad yr ysgol.

Beth bynnag fo’r amgylchiadau, ni ddylai dysgwyr na staff ddod i’r ysgol/lleoliad os ydynt:

  • yn teimlo’n sâl gydag unrhyw un o symptomau COVID-19. Dylent aros gartref a hunanynysu, a threfnu prawf COVID-19
  • wedi cael canlyniad positif am COVID-19
  • yn byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19
  • Rhaid i bob ysgol a lleoliad ddilyn y broses hon a sicrhau bod yr holl staff yn gwybod amdani.

Dylai ysgolion a lleoliadau gael polisi a gweithdrefnau uwchgyfeirio clir ar waith os bydd dysgwyr neu staff yn dechrau dangos symptomau o COVID-19 pan fyddant yn yr ysgol/lleoliad. Mae angen i'r staff, y dysgwyr (pan fyddant yn gallu) a’r rhieni/gofalwyr ddeall y rhain yn llawn.

Dylid cadw’r rheini sydd â symptomau ar wahân nes bod modd i rywun eu casglu a mynd â nhw adref. Yn ddelfrydol, dylai hyn fod mewn ystafell ar wahân, wedi’u goruchwylio o ddau fetr i ffwrdd pan fo’n bosibl, ond gan gydnabod efallai na fydd hyn yn bosibl gyda dysgwyr iau. Os oes angen cyngor clinigol dylen nhw (neu aelod o’r staff neu’r rhiant/gofalwr) fynd ar-lein i GIG 111 Cymru (neu ffonio 111 os nad oes mynediad i'r rhyngrwyd).

Os bydd dysgwyr neu staff sydd â symptomau wedi cyffwrdd unrhyw arwynebau, dylid glanhau’r arwynebau hynny’n ofalus ac yn drylwyr. Mae rhagor o ganllawiau glanhau ar gael ym mhwynt 4 isod.

Dylai unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 aros gartref a dechrau hunanynysu am y cyfnod a nodir yn y canllawiau wrth drefnu i gael prawf. Rhaid i unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sy’n dangos symptomau COVID-19, neu sydd mewn aelwyd estynedig gyda rhywun sydd â symptomau, hefyd hunanynysu gartref am y cyfnod priodol a nodir yn y canllawiau ar hunanynysu.

Y cyngor ar hyn o bryd yw nad oes angen sgrinio tymheredd. Gall rhieni/gofalwyr dysgwyr gadw llygad am arwyddion o dymheredd uchel. Ni fydd sgrinio yn dod o hyd i bob achos o COVID-19 a gallai’r broses o fesur tymheredd gynyddu risg y staff o drosglwyddo'r haint, yn ogystal â gwneud i’r dysgwyr boeni neu bryderu. Byddwn yn cadw golwg fanwl ar hyn. Dylai staff wrth gwrs gadw llygad am newidiadau yn nhymheredd dysgwyr ac am arwyddion o wres.

2. Golchi dwylo’n drylwyr yn amlach nag arfer.

Mae hi’n hawdd lladd y feirws COVID-19 pan fydd ar y croen. Mae modd gwneud hyn gyda dŵr sy’n rhedeg a sebon neu hylif diheintio dwylo. Gyda chefnogaeth eu hawdurdod lleol mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn golchi eu dwylo’n rheolaidd, gan gynnwys pan fyddant yn cyrraedd yr ysgol, pan fyddant yn dychwelyd ar ôl egwyl, pan fyddant yn newid ystafelloedd, cyn ac ar ôl bwyta ac ar ôl defnyddio’r toiled. Bydd angen golchi dwylo’n rheolaidd ac yn drylwyr am gryn amser eto. Mae pwyntiau i’w hystyried a’u gweithredu yn cynnwys:

  • oes digon o gyfleusterau golchi dwylo neu ddiheintio dwylo ar gael yn yr ysgol/lleoliad er mwyn i’r holl ddysgwyr a staff allu golchi eu dwylo’n rheolaidd
  • goruchwylio dysgwyr pan fyddant yn defnyddio hylif diheintio dwylo o ystyried y risgiau sydd ynghlwm wrth ei lyncu. Dylid parhau i helpu dysgwyr ifanc a’r rheini sydd ag anghenion cymhleth i olchi eu dwylo’n iawn
  • ymgorffori’r arferion hyn yn niwylliant yr ysgol, gan osod disgwyliadau o ran ymddygiad i’w cefnogi, a helpu dysgwyr iau a’r rheini sydd ag anghenion cymhleth i ddeall bod angen eu dilyn
  • dylid defnyddio peiriannau sebon awtomatig lle bo modd, a dylid sychu dwylo’n drylwyr gan ddefnyddio tywelion papur yn ddelfrydol. Dylid osgoi peiriannau sychu dwylo pan fo’n bosibl. Dylid defnyddio tywelion papur a dylid eu gwaredu mewn bin gyda chaead arno ac ni ddylid gadael iddo orlenwi. Dylid gwagio’r biniau bob dydd.

3. Sicrhau hylendid anadlol da drwy hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’.

Mae’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’ yn dal yn bwysig iawn, felly mae’n rhaid i ysgolion a lleoliadau sicrhau bod ganddynt ddigon o hancesi papur a biniau ar gael yn yr ysgol i gefnogi’r dysgwyr a'r staff i ddilyn y drefn hon. Yn yr un modd â golchi dwylo, rhaid i ysgolion a lleoliadau sicrhau bod dysgwyr iau a’r rheini sydd ag anghenion cymhleth yn cael cymorth i wneud hyn yn iawn. Mae angen i’r holl ddysgwyr ddeall bod hyn bellach yn rhan o sut mae ysgolion a lleoliadau’n gweithredu. Efallai y bydd hi’n anodd i rai dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth gadw hylendid anadlol da i’r un graddau â’u cyfoedion. Dylid ystyried hyn mewn asesiadau risg er mwyn cefnogi’r dysgwyr hyn a’r staff sy’n gweithio gyda nhw, ac nid yw hyn yn rheswm dros beidio â darparu addysg wyneb yn wyneb i’r dysgwyr hyn.

4. Glanhau’n amlach, gan gynnwys glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd, gan ddefnyddio cynnyrch safonol fel glanedyddion a diheintyddion.

Dylai ysgolion a lleoliadau ddilyn y cyngor glanhau diweddaraf ar gyfer lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd. Mae pwyntiau i’w hystyried a’u gweithredu yn cynnwys:

  • paratoi amserlen glanhau sy’n sicrhau bod y glanhau’n cael ei wella’n gyffredinol a'i fod yn cynnwys:
  1. glanhau ystafelloedd/ardaloedd a rennir yn amlach ar ôl i wahanol grwpiau eu defnyddio
  2. glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd yn amlach nag arfer
  • pan fo’n bosibl, darparu toiledau ar wahân ar gyfer gwahanol grwpiau cyswllt.

Pan na fydd hyn yn bosibl, bydd defnyddio hylif diheintio dwylo cyn mynd i mewn i’r toiled a sicrhau bod y toiledau’n cael eu glanhau’n rheolaidd yn helpu. Rhaid annog y dysgwyr i olchi eu dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r toiled.

5. Lleihau’r cyswllt rhwng unigolion a chadw pellter cymdeithasol pan fo’n bosibl.

Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf sydd wedi cael ei chyhoeddi yn awgrymu bod y gallu i drosglwyddo’r haint ymysg dysgwyr dan 12 oed yn arbennig o isel. Mae plant dan 18 oed yn cynrychioli 22 i 25 y cant o’r boblogaeth, ond maent yn cynrychioli <2% o gyfanswm cyfran yr achosion COVID-19 ym mhob gwlad yn gyson. Mae lleihau’r cyswllt a’r cymysgu rhwng pobl yn lleihau’r cyfleoedd i drosglwyddo COVID-19. Mae hyn yn bwysig ym mhob cyd-destun, ac mae’n rhaid i ysgolion a lleoliadau ystyried sut mae rhoi hyn ar waith. Rhaid i ysgolion a lleoliadau wneud popeth posibl i leihau cyswllt a chymysgu.

Lleihau cyswllt a chadw pellter cymdeithasol

Rydym yn gwybod bod cael llai o gyswllt a chymysgu rhwng pobl yn lleihau’r cyfleoedd i drosglwyddo COVID-19. Rhaid i ysgolion ystyried y ffordd orau o roi hyn ar waith a gwneud popeth posibl yn eu cyd-destun eu hunain i leihau’r cyfleoedd i gael cyswllt a chymysgu, ar yr un pryd â chyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd cyfyngiadau ar ysgolion o ran adeiladau ac adnoddau staff ac mae’n bosibl y bydd angen elfen o hyblygrwydd.

Yr egwyddor gyffredinol i’w dilyn yw lleihau faint o gyswllt fydd rhwng y dysgwyr a’r staff. Mae modd cyflawni hyn drwy gadw grwpiau ar wahân a thrwy gadw pellter rhwng unigolion. Bydd y naill fesur a’r llall yn helpu, ond bydd y cydbwysedd rhyngddynt yn newid gan ddibynnu ar:

  • allu’r dysgwyr i gadw pellter i leihau eu cysylltiadau
  • cynllun yr ysgol
  • pa mor ymarferol yw cadw grwpiau penodol ar wahân ar yr un pryd â chynnig cwricwlwm eang (yn enwedig mewn ysgolion uwchradd).

Mae hi’n debyg y bydd y pwyslais ar wahanu grwpiau i ddysgwyr iau ac y bydd y pwyslais ar gadw pellter cymdeithasol i ddysgwyr hŷn. Dylid cefnogi’r dysgwyr sy’n ddigon hen i gadw pellter ac i beidio â chyffwrdd y staff pan fydd hynny’n bosibl. Mae gan arweinwyr a staff ysgolion ran allweddol i’w chwarae yn y gwaith o helpu i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint o fewn cymuned yr ysgol, gan ddiogelu eu hunain ac eraill drwy sicrhau, hyd y bo modd, eu bod yn cadw pellter o 2 fetr oddi wrth staff ac oedolion eraill o fewn yr ysgol.

Sut mae grwpio dysgwyr

Mae grwpiau cyson yn helpu i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint drwy gyfyngu ar nifer y dysgwyr a’r staff a fydd yn cael cyswllt â’i gilydd i ddim ond y rheini a fydd yn y grŵp. Derbynnir na fydd dysgwyr, ac yn enwedig y dysgwyr ieuengaf, efallai’n gallu cadw pellter cymdeithasol oddi wrth staff na’i gilydd ac mae grwpiau cyson yn rhoi mesurau diogelu ychwanegol. Mae cadw grwpiau cyswllt penodol na fyddant yn cymysgu yn ei gwneud hi’n gynt ac yn haws, os bydd achos positif, i adnabod y rheini y gallai fod angen iddynt hunanynysu a chadw’r nifer hwnnw mor isel â phosibl.

Mae defnyddio grwpiau cyswllt bach yn arwain at nifer o heriau addysgol a gweithredol sy’n cyfyngu ar weithrediad arferol ysgolion. Mae hyn yn wir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ond mae’n arbennig o anodd mewn ysgolion uwchradd.

Fodd bynnag, ac ystyried y gostyngiad yn nifer yr achosion o COVID-19 a’r cynllun ar gyfer tymor yr hydref i ailgydio yn ystod lawn pynciau’r cwricwlwm, efallai y bydd angen i ysgolion newid y pwyslais ar grwpiau cyswllt, gan gynyddu maint y grwpiau, ond gan aros o fewn eu system o reolaethau a chynnwys hyn yn eu hasesiadau risg.

Mewn ysgolion uwchradd, yn enwedig yn y grwpiau oedran hŷn yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5, mae’n debyg y bydd angen i’r grwpiau cyswllt fod yn grwpiau blwyddyn er mwyn i’r ysgolion allu cyflwyno’r ystod lawn o bynciau’r cwricwlwm ac i ddysgwyr gael addysg arbenigol. Os oes modd cyflawni hyn gyda grwpiau bach, argymhellir hynny. Yn yr ysgol gynradd, ac ym mlynyddoedd iau’r ysgol uwchradd (Cyfnod Allweddol 3), efallai y bydd ysgolion yn gallu cyflwyno grwpiau llai a fydd yr un maint â dosbarth llawn. Caiff hynny ei argymell os yw’n bosibl, oherwydd byddai hyn yn lleihau nifer y bobl y byddai gofyn iddynt hunanynysu petai rhywun yn y grŵp yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19, neu’n cael canlyniad positif am COVID-

Dylai ysgolion asesu eu hamgylchiadau ac os nad yw grwpiau maint dosbarth yn gydnaws â chynnig ystod lawn o bynciau neu reoli’r logisteg ymarferol yn yr ysgol a’r cyffiniau, mae modd ystyried gweithredu grwpiau cyswllt maint grŵp blwyddyn (neu grwpiau hanner blwyddyn). Beth bynnag fydd maint y grŵp, dylid eu cadw ar wahân i grwpiau eraill lle bo modd a dylid annog y rheini sy’n 11+ oed i gadw pellter yn y grŵp. Os bydd ysgolion yn gallu gwneud hynny dylent gymryd camau i sicrhau bod grwpiau gwahanol yn rhyngweithio cyn lleied â phosibl â’i gilydd ac yn rhannu ystafelloedd a mannau cymdeithasol cyn lleied â phosibl os oes modd. Wrth ddefnyddio grwpiau mwy, mae’r mesurau eraill o’r system rheolaethau yn dod yn bwysicach fyth; er mwyn lleihau’r risgiau trosglwyddo a lleihau nifer y dysgwyr a’r staff y gallai fod angen iddynt hunanynysu. Rydym yn cydnabod na fydd dysgwyr iau yn gallu cadw pellter cymdeithasol, ac mae hi’n dderbyniol iddynt beidio â chadw pellter yn eu grŵp.

Nid yw’r dull gwahanu grwpiau na’r dull cadw pellter yn opsiynau ‘popeth neu ddim’, a byddant yn dal yn arwain at fanteision hyd yn oed os cânt eu gweithredu’n rhannol.

Mae’n bosibl y bydd rhai ysgolion yn cadw’r dysgwyr yn eu grwpiau dosbarth am y rhan fwyaf o’u hamser yn yr ystafell ddosbarth, ond gan ganiatáu cymysgu mewn grwpiau ehangach ar gyfer addysgu arbenigol, gofal cofleidiol a chludiant. Mae’n bosibl y bydd brodyr a chwiorydd mewn grwpiau gwahanol hefyd. Bydd ymdrechu i gadw’r grwpiau hyn ar wahân yn rhannol o leiaf a lleihau’r cyswllt rhwng y dysgwyr yn dal i arwain at fanteision iechyd y cyhoedd gan fod hyn yn lleihau’r rhwydwaith posibl i drosglwyddo’r haint iddynt yn uniongyrchol.

Bydd yr holl athrawon a staff yn cael gweithio ar draws dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn gwahanol er mwyn gallu darparu amserlen yr ysgol. Bydd hyn yn arbennig o bwysig i ysgolion uwchradd. Pan fydd angen i staff symud rhwng dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn, dylent geisio cadw eu pellter oddi wrth y dysgwyr a’r staff eraill gymaint ag y bo modd, a 2 fetr oddi wrth oedolion eraill yn ddelfrydol. Unwaith eto, rydym yn cydnabod nad yw hi’n debygol y bydd hyn yn bosibl gyda dysgwyr iau a bydd athrawon mewn ysgolion cynradd yn dal yn cael gweithio ar draws grwpiau os bydd angen gwneud hynny er mwyn gallu darparu’r cynnig addysgol llawn.

Os nad oes modd osgoi cymysgu rhwng grwpiau, dylai ysgolion ac ymarferwyr ddilyn y broses dull o gyfrifo a rheoli risg i leihau’r risg o drosglwyddo rhwng grwpiau cyswllt.

Mae hi’n bwysig bod ysgolion a lleoliadau’n cael yr hyblygrwydd i reoli ac i ymateb i risgiau mewn ffordd briodol. Wrth i ysgolion a lleoliadau geisio lleihau’r risgiau o drosglwyddo'r haint, dylent ystyried y broses a nodir yn Atodiad A.

Mesurau yn yr ystafell ddosbarth

Mae cadw pellter rhwng pobl pan fyddant dan do ar safle’r ysgol a lleihau’r amser maent yn ei dreulio mewn cyswllt wyneb yn wyneb yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint. Mae’n gyngor iechyd cyhoeddus cryf bod staff mewn ysgolion uwchradd yn cadw pellter oddi wrth eu dysgwyr, gan aros o flaen y dosbarth, ac oddi wrth eu cydweithwyr pan fydd hynny’n bosibl. Yn ddelfrydol, dylai oedolion gadw pellter o 2 fetr oddi wrth ei gilydd, ac oddi wrth ddysgwyr. Rydym yn gwybod na fydd hyn bob tro’n bosibl, yn enwedig wrth weithio gyda dysgwyr iau, ond os gall oedolion wneud hyn pan fydd amgylchiadau’n caniatáu, bydd hynny’n helpu. Yn benodol, dylent osgoi cyswllt wyneb yn wyneb agos a lleihau’r amser a dreulir yn nes na 1 metr at unrhyw un. Yn yr un modd, ni fydd hyn yn bosibl wrth weithio gyda llawer o ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth neu y mae angen gofal cyswllt agos arnynt. Dylid darparu cymorth addysgol a gofal y dysgwyr hyn yn yr un ffordd ag arfer.

Dylid cefnogi’r dysgwyr i gadw pellter ac i beidio â chyffwrdd y staff na'u cyfoedion pan fydd hynny’n bosibl. Ni fydd hyn yn bosibl i’r dysgwyr ieuengaf a rhai dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth ac nid yw’n ymarferol mewn rhai ysgolion lle nad oes digon o le ar gael. Bydd ysgolion yn gwneud hyn pan fydd modd, a bydd hyd yn oed gwneud hyn rhywfaint o’r amser yn helpu.

Pan na fydd staff neu ddysgwyr yn gallu cadw pellter, yn enwedig gyda dysgwyr iau mewn ysgolion cynradd, mae modd lleihau’r risg hefyd drwy gadw dysgwyr yn y grwpiau llai, maint dosbarth sy’n cael eu disgrifio uchod.

Dylai ysgolion wneud mân addasiadau i’r ystafell ddosbarth i gefnogi cadw pellter pan fydd hynny’n bosibl. Dylai hynny gynnwys gosod seddi’r dysgwyr ochr yn ochr ac yn wynebu ymlaen, yn hytrach nag wyneb yn wyneb neu’n wynebu’r ochr, a gallai olygu symud celfi diangen o ystafelloedd dosbarth i wneud mwy o le.

Mesurau mewn mannau eraill

Dylid cadw grwpiau cyswllt ar wahân lle bo modd, sy’n golygu y dylai ysgolion osgoi cynulliadau mawr fel gwasanaethau boreol neu addoli ar y cyd gyda mwy nag un grŵp. Dylent hefyd ystyried sut i atal grwpiau cyswllt rhag cymysgu ar y maes chwarae/iard yr ysgol, yn yr ystafell gyffredin ac yn ystod amser cinio.

Wrth amserlennu, dylid cadw grwpiau ar wahân a dylent symud cyn lleied â phosibl o amgylch safle’r ysgol. Er bod pasio ei gilydd yn gyflym yn y coridor neu’r maes chwarae yn risg isel, dylai ysgolion osgoi creu coridorau, mynedfeydd ac allanfeydd prysur. Dylai ysgolion hefyd ystyried amseroedd egwyl ac amseroedd cinio gwahanol (ac amser i lanhau arwynebau yn y neuadd fwyd rhwng grwpiau).

Dylai ysgolion a lleoliadau hefyd gynllunio sut mae mannau a rennir i’r staff yn cael eu trefnu a’u defnyddio i helpu staff i gadw pellter oddi wrth ei gilydd. Dylid defnyddio llai o ystafelloedd staff, er ei bod yn dal yn rhaid i’r staff gael egwyl ddigon hir yn ystod y dydd.

Mesurau ar gyfer cyrraedd a gadael yr ysgol

Pan fo’n bosibl, dylai ysgolion ystyried gwasgaru neu addasu’r amseroedd dechrau a gorffen i gadw grwpiau ar wahân wrth iddynt gyrraedd a gadael yr ysgol. Ni ddylai addasu’r amseroedd dechrau a gorffen leihau faint o amser addysgu a geir yn gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd addasu’r amser dechrau’n golygu cywasgu/gwasgaru gwersi rhydd neu amser egwyl ond gan gadw'r un cyfnod o amser addysgu, neu gadw hyd y diwrnod yr un fath ond gan ddechrau a gorffen yn hwyrach er mwyn osgoi’r cyfnodau prysur. Dylai ysgolion ystyried sut maent am gyfleu hyn i rieni/gofalwyr a’u hatgoffa o’r broses y cytunwyd arni ar gyfer gollwng a chasglu dysgwyr, gan gynnwys na cheir ymgynnull wrth giatiau’r ysgol na dod i’r safle heb apwyntiad.

Dylai ysgolion hefyd gael proses i dynnu a/neu cadw gorchuddion wyneb pan fydd dysgwyr a staff sy’n eu defnyddio yn cyrraedd yr ysgol, a dylid egluro’r broses honno’n glir iddynt. Rhaid dweud wrth ddysgwyr am beidio â chyffwrdd blaen eu gorchudd wyneb pan fyddant yn ei ddefnyddio neu’n ei dynnu i ffwrdd. Rhaid iddynt olchi eu dwylo’n syth ar ôl cyrraedd (fel sy’n wir i bob dysgwr), gwaredu gorchuddion wyneb dros dro mewn bin sydd wedi’i orchuddio neu roi gorchuddion wyneb amldro mewn bag plastig y gallant fynd adref gyda nhw, ac yna golchi eu dwylo eto cyn mynd i’w hystafell ddosbarth.

Ystyriaethau eraill

Bydd angen help a pharatoadau arbennig ar rai dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) gyda’r newidiadau i’r drefn. Dylai athrawon a chydlynwyr anghenion addysgol arbennig gynllunio i ddiwallu’r anghenion hyn, er enghraifft drwy ddefnyddio straeon cymdeithasol.

Mae athrawon cyflenwi, athrawon peripatetig a/neu staff dros dro eraill yn gallu symud rhwng ysgolion. Dylent sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o gyswllt â phosibl a chadw cymaint o bellter â phosibl oddi wrth staff a dysgwyr eraill. Dylai arbenigwyr, therapyddion, clinigwyr a staff cymorth eraill ar gyfer dysgwyr sydd ag AAA ddarparu ymyriadau yn yr un modd ag arfer. Dylai ysgolion ystyried sut mae rheoli ymwelwyr eraill â’r safle, fel contractwyr, a sicrhau bod canllawiau’r safle ar gadw pellter cymdeithasol/corfforol a hylendid yn cael eu hegluro i ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd neu cyn hynny, a bod arwyddion amlwg yn cael eu gosod yn y safle. Os oes modd trefnu’r ymweliadau y tu allan i oriau’r ysgol, dylid gwneud hynny. Dylid cadw cofnod o’r holl ymwelwyr, gan y gallai fod ei angen yn y dyfodol at ddibenion strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru.

Disgwylir y bydd yr holl ddysgwyr mewn addysg heblaw yn yr ysgol yn dychwelyd i ddarpariaeth addysg amser llawn o ddechrau tymor yr hydref ymlaen. Bydd angen i awdurdodau lleol a chomisiynwyr addysg heblaw yn yr ysgol fod yn dawel eu meddwl bod darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol wedi cydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch sy’n mynnu eu bod yn asesu risgiau ac yn rhoi mesurau rheoli cymesur ar waith. Pan fydd dysgwr yn mynychu mwy nag un lleoliad yn rheolaidd ar sail ran-amser, er enghraifft oherwydd ei fod wedi’i gofrestru’n ddeuol mewn ysgol brif ffrwd ac uned cyfeirio disgyblion, neu leoliad addysg heblaw yn yr ysgol arall neu ysgol arbennig, dylai’r lleoliadau weithio drwy’r system o reolaethau ar y cyd, a fydd yn golygu eu bod yn gallu mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a nodwyd a darparu cwricwlwm eang a chytbwys ar y cyd ar gyfer y dysgwr.

Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau bod cyfarpar chwarae yn yr awyr agored yn cael ei lanhau’n amlach. Byddai hyn hefyd yn berthnasol i adnoddau a ddefnyddir dan do ac yn yr awyr agored gan ddarparwyr gofal cofleidiol. Mae’n dal i gael ei argymell na ddylai dysgwyr ddod â llawer o bethau gyda nhw i’r ysgol bob dydd. Dim ond hanfodion fel bocsys bwyd, bagiau, hetiau, cotiau, llyfrau, deunyddiau ysgrifennu a ffonau symudol dylid dod â nhw i’r ysgol. Mae’n iawn i ddysgwyr ac i staff fynd â llyfrau ac adnoddau eraill sy’n cael eu rhannu adref gyda nhw, er dylid osgoi unrhyw rannu diangen, yn enwedig pan na fydd hyn yn cyfrannu at addysg a datblygiad dysgwyr. Dylai rheolau tebyg ar olchi dwylo, glanhau’r adnoddau a chylchdroi fod yn berthnasol i’r adnoddau hyn.

Mewn perthynas â chyfarpar unigol sy’n cael ei ddefnyddio’n aml iawn, fel pensiliau a phinnau ysgrifennu, rydym yn argymell y dylai'r staff a’r dysgwyr gael eu heitemau eu hunain a pheidio â'u rhannu. Mae modd i’r grŵp cyswllt ddefnyddio a rhannu adnoddau yn yr ystafell ddosbarth, fel llyfrau a gemau; dylid glanhau’r rhain yn rheolaidd, ynghyd â’r holl arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml. Dylai adnoddau sy’n cael eu rhannu rhwng grwpiau cyswllt, fel cyfarpar chwaraeon, celf a gwyddoniaeth gael eu glanhau’n rheolaidd ac yn drylwyr a bob tro rhwng grwpiau cyswllt, neu dylid eu cylchdroi i sicrhau na fyddant yn cael eu defnyddio ac na fyddant o fewn cyrraedd am gyfnod o 48 awr (72 awr ar gyfer plastigau) rhwng gwahanol grwpiau cyswllt.

Os bydd plant heb symptomau’n ymddwyn mewn ffordd a allai gynyddu faint o ddefnynnau sy’n cael eu trosglwyddo (fel brathu, cusanu neu boeri) neu os bydd angen gofal arnynt nad oes modd ei ddarparu heb gyswllt agos, dylent barhau i gael gofal yn yr un ffordd, gan gynnwys unrhyw drefn sydd eisoes yn bodoli o ran defnyddio cyfarpar diogelu personol.

Yn yr amgylchiadau hyn, i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws (COVID-19), nid oes angen unrhyw gyfarpar diogelu personol ychwanegol gan fod y rhain yn blant heb symptomau mewn lleoliad nad yw’n un gofal iechyd ac felly mae’r risg o drosglwddo’r feirws yn isel iawn. Fodd bynnag, bydd angen lle ychwanegol a bydd angen glanhau arwynebau, gwrthrychau a theganau’n rheolaidd. Dylid cynyddu’r trefniadau glanhau ym mhob lleoliad, gan ganolbwyntio’n benodol ar arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml.

6. Pan fydd angen, gwisgo cyfarpar diogelu personol priodol

Mae hi’n bwysig cofio bod tystiolaeth gref sy’n dangos mai cadw pellter cymdeithasol/corfforol, hylendid dwylo a hylendid anadlol (dal peswch neu disian mewn hances bapur a chuddio’r geg a’r trwyn gyda phenelin neu lawes) yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal y coronafeirws rhag lledaenu.

Felly nid oes angen defnyddio cyfarpar diogelu personol wrth gynnal gweithgareddau addysgol arferol mewn ystafell ddosbarth/lleoliadau ysgol. Mae'r rhestr isod yn nodi pryd y gallai fod angen defnyddio cyfarpar diogelu personol.

Gweithgareddau arferol
  • Nid oes angen cyfarpar diogelu personol wrth gynnal gweithgareddau addysgol arferol mewn ystafell ddosbarth neu leoliad ysgol.
Amheuaeth o COVID-19
  • Dylid gwisgo menyg, ffedogau a masgiau llawfeddygol atal hylif os bydd plentyn neu berson ifanc yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19 ac y bydd angen gofal personol uniongyrchol ar y plentyn neu’r person ifanc.
  • Dylid hefyd gwisgo cyfarpar diogelu’r llygaid os bydd asesiad risg yn pennu bod risg y bydd rhywbeth yn sblasio i’r llygaid er enghraifft drwy beswch, poeri neu daflu i fyny.
  • Dylid gwisgo menyg a ffedogau wrth lanhau’r ardaloedd lle mae rhywun yr amheuir bod COVID-19 arno wedi bod.
Gofal personol
  • Dylid parhau i wisgo menyg a ffedogau wrth ddarparu gofal personol i blentyn neu i berson ifanc. Mae hyn yn gallu cynnwys gofal ymarferol personol fel ymolchi, defnyddio’r toiled neu gymorth cyntaf a rhai gweithdrefnau clinigol fel cymorth bwydo.
  • Dylid hefyd gwisgo masgiau llawfeddygol atal hylif a chyfarpar diogelu’r llygaid os bydd asesiad risg yn pennu bod risg y bydd rhywbeth yn sblasio i’r llygaid er enghraifft drwy beswch, poeri neu daflu i fyny.
  • Dylid defnyddio menyg, gynau sy’n atal hylif, masgiau FFP3 a chyfarpar diogelu’r llygaid wrth ymgymryd â thriniaethau sy’n cynhyrchu aerosolau fel sugno.
  • Dylid defnyddio menyg a ffedogau wrth lanhau cyfarpar neu arwynebau y mae’n bosibl eu bod wedi cael eu halogi gan hylifau o’r corff fel poer neu secretiadau anadlol.

Mae canllawiau hefyd yn nodi y dylid gwisgo menyg a ffedog wrth lanhau ardaloedd lle mae rhywun y credir sydd â COVID-19 wedi bod.

Dylai staff mewn lleoliadau addysg ddefnyddio cyfarpar diogelu personol ar sail asesiad clir o’r risg, gan ystyried pob lleoliad unigol ac anghenion y dysgwr unigol. Mae gan ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol brosesau asesu risg eisoes mewn lle a dylid defnyddio’r rhain i weld a oes angen defnyddio cyfarpar diogelu personol ai peidio. Ar ôl cynnal unrhyw asesiad risg, os daethpwyd i’r casgliad bod angen cyfarpar diogelu personol, dylai fod ar gael yn hawdd gan y cyflogwr. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi darparu rhagor o wybodaeth.

Dylai’r holl staff ddeall sut mae gwisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol yn y drefn iawn, gwaredu’r gwastraff yn ddiogel a defnyddio camau hylendid dwylo cywir i leihau’r risg o drosglwyddo'r haint ymlaen.

Ym mhob sefyllfa, dylid bob amser golchi dwylo cyn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac ar ôl ei dynnu i ffwrdd. Dylai ysgolion a lleoliadau gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael cyfarpar diogelu personol ar gyfer yr uchod, a thrafod unrhyw ofynion hyfforddi perthnasol.

Defnyddio gorchudd wyneb at ddibenion iechyd

Ar 11 Medi, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai defnyddio gorchuddion wyneb yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do yng Nghymru o ddydd Llun 14 Medi. Nid yw ysgolion yn cael eu hystyried yn fannau cyhoeddus, felly nid yw’n ofynnol gwisgo gorchuddion wyneb mewn ysgol. Mae’r Canllawiau ynghylch Gorchuddion Wyneb i Fangreoedd yn nodi nad yw’n ofynnol i ysgolion fandadu defnyddio gorchuddion wyneb yn mhob rhan o’r fangre lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol.

Nid yw gorchuddion wyneb yn medru cymryd lle mesurau llawer mwy effeithiol fel cadw pellter cymdeithasol, lle bo'n bosibl a hylendid dwylo. Pan wneir penderfyniad i ddefnyddio gorchudd wyneb byddem yn annog unigolion i ddefnyddio gorchuddion wyneb ailgylchadwy / aml-ddefnydd a'u defnyddio'n gywir, gan orchuddio'r geg a'r trwyn, gan sicrhau hylendid dwylo cyn eu rhoi ymlaen ac ar ôl eu tynnu. Dylai gorchuddion wyneb gynnwys tair haen, yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, ond nid oes angen iddynt fod yn fygydau wyneb meddygol. Dulliau rheoli yw gwisgo gorchudd wyneb neu feisor ac nid ydynt yn Gyfarpar Diogelu Personol. Felly nid ydynt yn cael eu hystyried yn ffactor lliniarol wrth asesu cyswllt.

Bydd angen i fesurau rheoli bwyso a mesurystod o risgiau bob amser.

Mewn ystafelloedd dosbarth lle mae grwpiau cyswllt yn bodoli a mesurau rheoli eraill ar waith, mae'n rhaid cydbwyso'r budd ymylol y geir o ddefnyddio gorchuddion wyneb â'r effaith negyddol debygol ar y profiad dysgu, gan gynnwys clyw a chyfathrebu cymdeithasol. Felly ni argymhellir defnyddio gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth. Ar y 26 Awst cyhoeddwyd cyngor ychwanegol a luniwyd gan y Grŵp Cynghori Technegol yn dilyn ei adolygiad o ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn argymell, ond nid yw’n mandadu, y dylid defnyddio gorchuddion wyneb yn unol ag asesiadau risg mewn ysgolion uwchradd yn ardaloedd cymunedol yr ysgol, fel coridorau lle mae cynllun yr adeilad yn golygu na all grwpiau cyswllt aros ar wahân i'r un graddau a lle mae’n anodd cadw at fesurau rheoli eraill. Bydd hwn yn benderfyniad lleol i'r ysgol neu'r lleoliad gan ddibynnu ar eu hasesiad o'r risg ac yng nghyd-destun yr amgylchiadau lleol.

Mae’n bosibl hefyd y gall gorchuddion wyneb chwarae rôl arbennig o bwysig petai cyfraddau trosglwyddo’n codi’n lleol, neu os oes clwstwr o achosion mewn ysgol, a gellir cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt mewn cyd-destunau lleol penodol ar sail asesiadau risg a ffactorau lleol. Os bydd cyfraddau trosglwyddo yn codi'n lleol neu os bydd clwstwr o achosion mewn ysgol, bydd Tîm Iechyd yr Amgylchedd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cyngor ynghylch a oes angen unrhyw fesurau ychwanegol, gan gynnwys defnyddio gorchuddion wyneb.

Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol ac ysgolion uwchradd unigol yn penderfynu cyflwyno defnydd gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol er mwyn mynd i’r afael ag amgylchiadau lleol neilltuol, er enghraifft pryderon penodol ynghylch grwpiau cyswllt yn cymysgu, cadw pellter neu feithrin hyder yng nghyd-destun brigiad o achosion yn lleol neu yn yr ardal ehangach.

Pan wneir penderfyniad i gyflwyno defnyddio gorchuddion wyneb o ganlyniad i osod cyfyngiadau yn lleol, bydd angen i ysgolion roi gwybod yn gyflym ac yn eglur i staff, rhieni a disgyblion y bydd y trefniadau newydd yn ei gwneud yn ofynnol gwisgo gorchuddion wyneb mewn rhai amgylchiadau.

Bydd angen i ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol ystyried adolygu eu hasesiadau risg o’u hystadau er mwyn penderfynu p’un a ddylid argymell bod eu staff a dysgwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol.

Fel rhan o'r broses asesu risg rydym yn argymell y dylid cysylltu gyda staff, dysgwyr, teuluoedd ac undebau. Mae angen ystyried rhai risgiau a niwed posibl yn ymwneud âgorchuddion wyneb, gan gynnwys y potensial i ledaenu’r firws yn anfwriadol wrth eu gwisgo neu eu tynnu i ffwrdd, yr angen am gyflenwad digonol, eu gwisgo'n ddiogel, eu storio a’u gwaredu’n ddiogel, ynghyd â’r risg o stigmateiddio neu fwlio'r rheini sydd ag eithriadau meddygol, yn enwedig myfyrwyr niwroamrywiol, problemau i'r rhai sy'n darllen gwefusau, ac effeithiau andwyol cuddio’r wyneb ar ddysgu, ymgysylltu emosiynol a chyfathrebu

Rhaid rhoi blaenoriaeth i fuddiannau cyffredinol y person ifanc yn yr asesiadau ac ni ddylai fod unrhyw risg o wahardd unigolion o drafnidiaeth i'r ysgol neur lleoliad, nac o’u gwahardd rhag mynd i’r ysgol neu’r lleoliad os yw gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell yn lleol. Efallai y bydd angen darparu gorchuddion wyneb i rai grwpiau o ddysgwyr na all gael gafael arnynt drwy ddulliau eraill, os cânt eu hargymell yn lleol.

Os yw unigolyn yn dymuno gwisgo gorchudd wyneb am resymau personol, yna dylid caniatáu iddynt wneud hynny. Gall hyn fod o fudd i rai unigolion o ran hwyluso lles ehangach, lleihau pryder, a darparu tawelwch meddwl ychwanegol, ochr yn ochr â mesurau lliniarol eraill.

Mae meddwl am les y dysgwyr yn hollbwysig wrth ystyried a ddylai staff neu ddysgwyr hŷn wisgo gorchudd wyneb ai peidio. Ni ddylai unrhyw un nad yw'n medru defnyddio gorchudd wyneb yn unol â’r cyfarwyddiadau (e.e. dysgwyr ifanc neu’r rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig) wisgo gorchudd o'r fath gan y gallai hynny gynyddu’r risg o drosglwyddo’r haint.

Darperir manylion eithriadau yn y ddolen a ganlyn:

Y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru

Gorchuddion wyneb a'r goblygiadau i ddysgwyr byddar neu ddysgwyr sydd wedi colli eu clyw i unrhyw lefel

Dylid ystyried yn ofalus effaith gwisgo gorchudd wyneb ar ddysgwyr byddar neu ddysgwyr sydd wedi colli eu clyw i unrhyw lefel, gan fod cyfathrebu i nifer o bobl fyddar yn dibynnu’n rhannol ar allu gweld wyneb rhywun yn glir. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wedi darparu’r awgrymiadau canlynol ar gyfer cyfathrebu a allai fod yn ddefnyddiol i staff yn hyn o beth.

Bydd cyngor ar orchuddion wyneb yn cael ei adolygu’n gyson a bydd bob amser yn dilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf.

Ymateb i unrhyw haint

7. Ymgysylltu â’r Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu

Cafodd y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu newydd a gyhoeddwyd ar 13 Mai ei rhoi ar waith ar draws Cymru ar 1 Mehefin.

Mae’r strategaeth hon yn nodi cam nesaf ein dull gweithredu i fynd i’r afael â’r coronafeirws; profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rheini sydd wedi cael cyswllt agos â phobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, a diogelu teulu, ffrindiau a’n cymuned drwy hunanynysu.

Mae Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio drwy:

  • brofi pobl sydd â symptomau’r coronafeirws, gofyn iddynt ynysu oddi wrth deulu, ffrindiau a’u cymuned a chymryd prawf ac aros am ganlyniad. Gall pobl wneud cais am brawf eu hunain neu ar ran aelod o’u haelwyd sydd â symptomau. Mae hyn yn cynnwys oedolion a phlant gan gynnwys plant dan 5 oed. Mae gwybodaeth a chanllawiau i staff ar sut mae gwneud cais am brawf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
  • olrhain y bobl hynny sydd wedi bod mewn cyswllt agos â phobl sydd wedi cael canlyniad positif am y feirws, gan fynnu eu bod yn cymryd rhagofalon drwy hunanynysu. Mae rhagor o wybodaeth am olrhain cysylltiadau a sut mae’n gweithio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
  • os nad yw’r symptomau o ganlyniad i’r coronafeirws, sicrhau bod unigolion a’u cysylltiadau’n gallu dod â'u cyfnod o hunanynysu i ben a dychwelyd i’w trefn arferol cyn gynted ag sy’n bosibl
  • darparu cyngor a chanllawiau, yn enwedig os oedd y sawl sydd â symptomau neu eu cysylltiadau yn arfer bod yn y ‘grŵp gwarchod’ neu’r grŵp risg uwch.

Drwy leihau’r trosglwyddo yn ein cymunedau, a drwy fynd ati’n gyflym i adnabod ac i ynysu’r rheini sydd mewn perygl o ddatblygu COVID-19 ar ôl cael cyswllt agos gydag unigolyn positif (e.e. cysylltiad hysbys neu aelod o’r teulu) byddwn yn helpu i agor ysgolion, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn ehangach.

Dylai ysgolion a lleoliadau atgyfnerthu’r negeseuon hyn ac yn benodol dylent atgoffa pawb sy’n dangos unrhyw un o symptomau COVID-19 y dylent hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf.

Dylai’r rheini sy’n byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 hefyd fod yn hunanynysu. Os yw’n bosibl, byddai’n ddefnyddiol i ysgolion ac i leoliadau gadw cofnod o unrhyw un sy’n ymuno â grŵp cyswllt (e.e. timau ymyriadau). Gallai hyn fod yn llyfr syml ym mhob ystafell ddosbarth sy’n cofnodi unrhyw un sy’n dod i mewn o’r ‘tu allan’.

Os ceir canlyniad positif, bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn cysylltu â’r sawl a gafodd y prawf i helpu i ganfod cysylltiadau posibl. Bydd ail swyddog olrhain cysylltiadau wedyn yn cysylltu â’r cysylltiadau hynny ac yn eu cynghori i hunanynysu am 14 diwrnod ers y tro diwethaf iddynt fod mewn cyswllt â'r sawl a gafodd brawf positif. Dim ond os ydynt yn datblygu symptomau y bydd angen i’r bobl hyn wneud y prawf. Bydd tîm Profi, Olrhain, Diogelu’r GIG yn cael gwybod yn awtomatig am ganlyniad positif drwy eu system CRM. Nid oes yn rhaid i’r ysgol/lleoliad roi gwybod i Profi, Olrhain, Diogelu oni bai y bydd cais penodol i wneud hynny yn dilyn clwstwr a reolir gan Dîm Rheoli Digwyddiadau. Os bydd hynny’n digwydd, bydd yr ysgol/lleoliad yn cael manylion unigolyn cyswllt penodol yn Profi, Olrhain, Diogelu sy’n rheoli'r clwstwr. Byddant yn gallu rhoi gwybod i’r unigolyn hwn am unrhyw achosion newydd neu godi unrhyw bryderon eraill fel nifer cynyddol o achosion posibl.

Ystyrir bod pobl wedi bod yn gysylltiadau posibl os oeddent mewn cyswllt â’r sawl a gafodd ganlyniad positif yn ystod y cyfnod a oedd yn dechrau hyd at ddau ddiwrnod cyn i’r symptomau ymddangos a chan orffen pan ddechreuodd yr unigolyn ynysu gartref. Mae hyn yn seiliedig ar ein dealltwriaeth ar hyn o bryd o’r prif gyfnod o heintusrwydd.

Caiff cysylltiad ei ddiffinio fel rhywun sydd wedi cael cyswllt agos yn ystod y cyfnod hwn, yn benodol:

  • mae wedi bod yn nes nag un metr i’r unigolyn sydd wedi cael prawf positif ac roedd yr unigolyn wedi peswch arno, cafodd sgwrs wyneb yn wyneb â’r unigolyn, roedd wedi cyffwrdd croen yr unigolyn â’i groen ei hun, neu cafodd gyswllt o fath arall o fewn un metr am un munud neu fwy
  • mae wedi treulio dros 15 munud yn nes na dau fetr i’r unigolyn sydd wedi cael prawf positif
  • mae wedi teithio mewn cerbyd gyda’r sawl sydd wedi cael canlyniad positif.

Pan fydd staff wedi dilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol/corfforol ac wedi dilyn y mesurau hylendid yn ystod eu gwaith a, phan roedd angen, eu bod wedi defnyddio cyfarpar diogelu personol neu wedi gweithio y tu ôl i sgrin neu bartisiwn priodol, ni fyddent yn cael eu hystyried fel rhan o ymarfer olrhain cysylltiadau at y dibenion hyn.

Nid yw prawf positif yn golygu bod angen cau’r safle. Mae'r broses o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ a phan fydd ysgolion a lleoliadau’n dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes rheswm dros boeni. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

8. Rheoli achosion o COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau yng nghymuned yr ysgol

Gan adeiladu ar y Cynllun ar gyfer Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy i Gymru (2020) mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu cyngor penodol ynghylch rheoli ac ymchwilio i achosion ac achosion lluosog o COVID-19.

Mae’r cyngor yn amlinellu pa gamau y dylid eu cymryd i ddiogelu unigolion a chymunedau lle mae clystyrau ac achosion lluosog yn codi, yn ogystal â lleihau’r lledaeniad i gymunedau eraill.

1. Adnabod achosion mewn clwstwr posibl.
2. Casglu gwybodaeth sylfaenol.
3. Y gwaith cychwynnol o reoli’r clwstwr ac asesu risg.
4. Adnabod achos lluosog.
5. Rheoli’r achos lluosog.
6. Uwchgyfeirio.

Adnabod clystyrau ac achosion lluosog o COVID-19

Mae clwstwr posibl yn cael ei ddiffinio fel dau achos neu ragor o COVID-19 ymysg dysgwyr neu staff lleoliad addysgol o fewn 14 diwrnod neu gyfradd uwch o absenoldeb oherwydd achosion o COVID-19 sy’n cael eu hamau neu sydd wedi cael eu cadarnhau.

Mae achos lluosog posibl y mae angen ymchwilio iddo ymhellach yn cael ei ddiffinio fel dau achos a gadarnhawyd neu ragor o COVID-19 ymysg dysgwyr neu staff sy’n gysylltiadau agos uniongyrchol, yn gysylltiadau corfforol agos neu sydd yn yr un “grŵp cyswllt* yn yr ysgol/lleoliad, o fewn 14 diwrnod” (*gall hyn fod yn ddosbarth, yn grŵp blwyddyn neu’n grŵp arall sydd wedi cael ei ddiffinio). Bydd swyddog olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain, Diogelu yn asesu nifer o ffactorau i bennu’r potensial am glwstwr, gan gynnwys a oedd yr unigolyn a gafodd ganlyniad positif wedi bod yn yr ysgol/lleoliad yn ystod y cyfnod pan roeddent yn heintus, a yw’n debygol mai’r lleoliad hwn oedd tarddiad haint yr achos a gadarnhawyd ac a oes angen olrhain rhagor o gysylltiadau yn y lleoliad.

Bydd y swyddog olrhain cysylltiadau hefyd yn asesu a oes unrhyw achosion posibl neu achosion wedi’u cadarnhau eraill gyda’r lleoliad a bydd yn uwchgyfeirio’r achos pan fo’n briodol.

Mae hi’n bwysig nodi os mai dim ond un person sydd wedi cael COIVD-19 yn yr ysgol neu’r lleoliad y dylid dilyn proses reolaidd olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain, Diogelu.

Bydd achosion mewn ysgolion a lleoliadau’n cael eu nodi trwy:

  • hysbysu (‘fflagio’) achosion unigol a gadarnhawyd sy’n mynychu ysgol neu leoliad drwy’r system olrhain cysylltiadau CRM genedlaethol
  • hysbysiadau uniongyrchol gan ffynonellau eraill, fel yr ysgolion a’r lleoliadau eu hunain, clinigwyr fel nyrsys ysgol, awdurdodau lleol, labordai a Thîm Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ar ôl hysbysu achos a gadarnhawyd sy’n mynychu ysgol neu leoliad bydd y tîm Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â’r ysgol/lleoliad i asesu a oedd yr achos positif yn bresennol yn ystod y cyfnod pan roedd yn heintus a/neu os yw’n debygol mai’r lleoliad oedd tarddiad yr haint yn yr achos hwn.

Casglu gwybodaeth sylfaenol a rheoli clwstwr

Bydd timau Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol yn penodi arweinydd amlwg i ymchwilio i glwstwr a fydd yn gweithio gyda’r awdurdod lleol a phennaeth yr ysgol neu’r lleoliad (neu ddirprwy a fydd wedi cael ei enwebu) i gasglu amrywiaeth o wybodaeth sy’n ymwneud â natur unigryw’r ysgol/lleoliad, cyd-destun a sefyllfa’r achosion ac i weld a yw cyngor Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion a lleoliadau’n cael ei weithredu’n gywir ochr yn ochr â chanllawiau ar fesurau rheoli heintiau/mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer staff a myfyrwyr (gan gynnwys defnyddio cyfarpar diogelu personol os oes angen gofal personol ar ddysgwyr).

Cynhelir asesiad risg arall ac os na chyhoeddir bod achos lluosog, bydd y tîm Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol yn parhau i weithio gyda’r awdurdod lleol, ysgol/lleoliad i reoli ac i adolygu’r clwstwr.

Adnabod achos lluosog

Os amheuir bod achos lluosog mewn ysgol/lleoliad, bydd Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy/Ymgynghorydd Diogelu Iechyd o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu’n ddiymdroi ag uwch gydweithwyr dynodedig yn yr awdurdod lleol perthnasol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Bwrdd Iechyd, yn unol â threfniadau sydd eisoes ar waith i ddiogelu iechyd. Mae’n debygol y bydd cyfarfod digwyddiad brys (Tîm Rheoli Digwyddiadau) yn cael ei alw, a bydd unigolion allweddol sydd eu hangen i ymchwilio i’r sefyllfa a’i rheoli yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol. Bydd unrhyw fesurau rheoli brys sydd eu hangen yn cael eu rhoi ar waith cyn y cyfarfod hwn. Cytunir ar gamau brys i reoli’r sefyllfa (fel cau dosbarthiadau neu a oes angen swabio yn eang ai peidio) yn y cyfarfod hwn.

Bydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau yn ymchwilio i’r mesurau rheoli sydd ar waith ac yn ystyried rhoi mesurau ychwanegol ar waith pan fydd hynny’n briodol ac yn ystyried a oes angen, mewn amgylchiadau prin, cyhoeddi brigiad ffurfiol.

Pan gaiff brigiad ei gyhoeddi

Bydd dilyn y camau sy’n cael eu hamlinellu yn y ddogfen hon yn ddigon i ddelio â’r rhan fwyaf o glystyrau ac achosion lluosog mewn ffordd gynhwysfawr. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau prin bydd achos lluosog mewn ysgol/lleoliad mor gymhleth bod angen ei reoli o dan strwythurau ffurfiol Tîm Rheoli Achosion a’i reoli yn unol â’r Cynllun ar gyfer Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy i Gymru 2020.

a. Addasu sut mae’r ysgol/lleoliad yn gweithredu i hwyluso mesurau i atal ac i reoli’r haint a mesurau cadw pellter cymdeithasol.

b. Os bydd angen gofyn i grwpiau eraill hunanynysu (e.e. grwpiau dosbarth, grwpiau swyddogaethol eraill neu grwpiau blwyddyn).

c. A ddylid cynnal ymchwiliad manylach gan gynnwys profi grŵp ehangach.

Rheoli achos lluosog o COVID-19 mewn ysgol neu leoliad

Bydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau yn rheoli achos lluosog ar sail amgylchiadau unigol yr achos lluosog a’r ysgol/lleoliad. Bydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau’n ystyried:

a) a ddylid cynnal ymchwiliad manylach gan gynnwys profi grŵp ehangach

b) addasu sut mae’r ysgol/lleoliad yn gweithredu i hwyluso mesurau i atal ac i reoli’r haint a mesurau cadw pellter cymdeithasol

c) os bydd angen gofyn i grwpiau eraill hunanynysu (e.e. grwpiau dosbarth, grwpiau swyddogaethol eraill neu grwpiau blwyddyn)

d) rhagor o waith dilynol manwl gydag aelwydydd achosion positif a/neu ragor o brofion

e) strategaeth gyfathrebu wedi’i thargedu gan gynnwys negeseuon i gysylltiadau agored i niwed.

Cyhoeddir y bydd achos lluosog wedi dod i ben 28 diwrnod ers dechrau’r achos diwethaf a gadarnhawyd yn yr ysgol/lleoliad a bod unrhyw achosion posibl ymysg dysgwyr neu staff yn ystod y cyfnod hwnnw wedi cael canlyniad negatif.

Profi am antigenau PCR yn gyflym

Bydd Rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn cyflwyno swabio/profi yn gyflym i gefnogi brigiadau mewn ysgolion/lleoliadau. Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn hwyluso profion antigenau PCR ar gyfer pawb yng ngrŵp cyswllt yr ysgol/lleoliad y mae’r brigiad wedi effeithio arnynt a phawb yn yr ysgol/lleoliad os pennwyd nad yw’r lleoliad wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i ysgolion a/neu fesurau i atal ac i reoli’r haint.

Mae sawl ffordd o gyflawni a samplo profion antigenau’n gyflym fel defnyddio Unedau Profi Symudol, lloerennau profi dros dro a llwybrau gollwng a chasglu. Bydd yr holl randdeiliaid yn trafod ac yn cytuno ar y dull profi mwyaf priodol.

Pecynnau profi

Rydym yn bwriadu rhoi cyflenwad o becynnau profi gartref i bob ysgol a lleoliad yng Nghymru i sicrhau bod hyblygrwydd yn y profion sydd ar gael, bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi datblygu taflen wybodaeth yn benodol ar gyfer lleoliadau addysg sy’n rhoi manylion ynghylch y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu ehangach.

Gweithrediadau ysgolion

Ein huchelgais yw y dylai pob dysgwr gymryd rhan mewn addysg ym mis Medi. Rydym yn cydnabod bod rhai trefniadau ar gyfer ein dysgwyr blynyddoedd cynnar yn gallu cyflwyno heriau unigryw i awdurdodau lleol ac i ddarparwyr. Mae angen rhagor o feddwl a gwaith cynllunio ar gyfer hyn, yn enwedig pan fydd y trefniadau hyn yn cefnogi rhieni a bod angen iddynt gyd-fynd yn ddi-dor â darpariaeth gofal plant.

Mae dysgwyr y blynyddoedd cynnar ar gam hollbwysig yn eu datblygiad gwybyddol ac mae’n hanfodol bod eu dechrau mewn addysg yn un cadarnhaol ac yn gosod sylfaen gref ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol. Mae angen sicrhau bod ysgolion a lleoliadau a ariennir nas cynhelir yn cael y fframwaith iawn er mwyn i’n plant ieuengaf gael y dechrau gorau i’w bywyd addysgol, ac un y gallant adeiladu arno ar gyfer y dyfodol.

Addysg feithrin

Mae dysgwyr y blynyddoedd cynnar ar bwynt hollbwysig yn eu datblygiad gwybyddol, ac mae’n hanfodol bod eu cychwyn nhw mewn addysg yn un positif, ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol. Mae angen sicrhau bod ysgolion a lleoliadau a gyllidir nas cynhelir yn cael y fframwaith iawn fel bod ein plant lleiaf yn cael y dechrau gorau posibl i’w bywyd addysgol, un y gallant adeiladu arno yn y dyfodol.

Pontio

Fis Medi yma bydd gan ysgolion a lleoliadau a ariennir nas cynhelir gyfrifoldeb ychwanegol o bontio rhagor o ddysgwyr newydd nag arfer, a fydd yn cynnwys plant tymor yr haf nad ydynt wedi dechrau eto. Ar ben hynny, bydd angen ail-bontio dysgwyr oherwydd y cyfnod maent wedi’i dreulio i ffwrdd a bydd rhai dysgwyr hefyd yn pontio o leoliadau i ysgolion.

Mae strwythur y ddarpariaeth ar draws awdurdodau lleol Cymru yn wahanol o ran nifer yr oriau a ddarperir; patrymau presenoldeb a’r gymysgedd o ddarpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau nas cynhelir.

Dylai ysgolion a lleoliadau ddilyn eu prosesau pontio arferol, lle bo modd, i sicrhau profiad cadarnhaol a diogel i’n dysgwyr ieuengaf o fewn y nod cyffredinol bod pob plentyn yn cael gafael ar addysg cyn gynted ag sy’n ymarferol.

Os yw’r plentyn yn derbyn addysg a gofal plant, a bod hyn yn digwydd ar draws dau safle, bydd hi’n bwysig sicrhau bod yr ysgolion a’r lleoliadau i gyd yn deall y trefniadau pontio a’u bod yn glir ynghylch pryd bydd y plentyn ym mhob lleoliad a pha drefniadau casglu a chludo sydd ar waith. Mae hi’n debygol iawn y bydd plant yn y grŵp oed hwn yn bresennol mewn mwy nag un lleoliad, ac nid yw’n broblem pan fydd mesurau rheoli risg priodol yn cael eu cymryd.

Cyfranogiad rhieni

Yn aml bydd rhieni’n chwarae mwy o ran yn narpariaeth meithrin plentyn nag yn ystod unrhyw gyfnod arall ar hyd taith addysgol plentyn. Yn ogystal â gollwng a chasglu’r plant, mae rhieni weithiau’n helpu eu plant i ymgartrefu ac mae’n ddigon posibl y bydd staff yn ymweld â’u cartrefi cyn i’r plant ddechrau. Bydd angen i ysgolion ac i leoliadau gydbwyso’r ymgysylltiad hwn â’r angen i leihau lefelau cyffredinol cysylltiadau. Dylid ystyried sut mae modd gwneud hyn wrth gynnal asesiadau risg. Os bydd angen ymweliad cartref dylid gwneud hynny yn yr awyr agored, er enghraifft yng ngardd yr eiddo lle mae’r plentyn yn byw, er mwyn sicrhau bod 2 metr o bellter corfforol/cymdeithasol rhwng aelod o staff yr ysgol a’r plentyn a’i deulu.

Adnoddau

Yn ogystal â’r canllawiau a gyflwynir yn gynharach yn y ddogfen hon am lanhau’n drylwyr, bydd cael setiau gwahanol o gyfarpar ac adnoddau ar gyfer grwpiau gwahanol o blant yn y feithrinfa, os yw’n bosibl, hefyd yn lleihau’r posibilrwydd o drosglwyddo’r haint, yn enwedig pan fydd angen i fwy nag un grŵp o ddysgwyr ddefnyddio’r un gofod yn ystod diwrnod – er enghraifft, mewn ysgolion sydd â darpariaeth meithrin yn y bore ac yn y prynhawn. Byddai hyn yn lleihau faint o waith glanhau y byddai angen ei wneud yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Byddai hyn yn golygu bod modd canolbwyntio ar y celfi gosod, cyfarpar mwy ac arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml.

Dylai’r dysgwyr dreulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored. Mae hyn yn arwain at fanteision corfforol, meddyliol ac addysgol pwysig ac mae’n helpu i frwydro yn erbyn trosglwyddo COVID-19.

Cadw pellter cymdeithasol

Yn ogystal â’r canllawiau a nodwyd yn gynharach yn y ddogfen hon ynghylch cadw’r cyswllt rhwng unigolion mor isel â phosibl, bydd cadw pellter cymdeithasol (corfforol) mewn lleoliadau gofal plant dan do gyda phlant bach yn anoddach nag mewn lleoliadau eraill. Dylai lleoliadau, felly, weithredu’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a chymysgu a amlinellir yn y canllawiau diwygiedig Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel er mwyn cadw’r cyswllt rhwng plant ac oedolion dan do i lefel mor isel â phosibl, gan sicrhau ar yr un pryd bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn cael pob gofal.

Rhoddir mwy o wybodaeth am hunanynysu ac archebu profion ar gyfer y rheini sy’n arddangos symptomau a’r broses ar gyfer olrhain cysylltiadau yn gynharach yn y canllawiau hyn: mesurau diogelu.

Arferion y Cyfnod Sylfaen

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod ein dysgwyr ieuengaf yn y grŵp risg lleiaf.

Gwyddom hefyd fod ein hymarferwyr addysgol yn y blynyddoedd cynnar yn brofiadol wrth ofalu am anghenion plant bach, ac y byddant yn defnyddio eu crebwyll proffesiynol a gwneud y peth iawn dros blant, rhieni a staff. Gan barhau i ganolbwyntio ar y plentyn yn ein gwaith, byddwn yn gweithredu i safon uchel, gan roi’r lle canolog yn ein hathroniaeth i ddatblygiad personol a chymdeithasol a lles ein dysgwyr ieuengaf.

Rydym yn cydnabod na fydd y ddarpariaeth a’r profiadau dysgu yr un peth yn union, efallai, ag yr oeddent ym mis Mawrth. Fodd bynnag, mae modd cyflawni’r un deilliannau dysgu gan addasu gofod ac adnoddau dysgu i sicrhau diogelwch.

Cludiant

(Mae’r adran hon yn ymwneud ag ysgolion a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 19 oed)

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am weithredu’r adran hon o’r canllawiau, gan weithio gyda’r gweithredwyr mae ganddynt gontractau gyda nhw i sicrhau bod y mesurau angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith yn unol â’r asesiadau risg (a ddylai gynnwys ymgynghoriad priodol gydag undebau llafur a staff). Dylai rhieni/gofalwyr a staff yr ysgol i gyd chwarae rhan drwy addysgu’r plant a’r bobl ifanc ynghylch ymddygiad derbyniol ar gludiant ysgol ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar gyngor gwyddonol Is-grŵp Plant ac Addysg y Gell Cyngor Technegol a gyda chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhaid i awdurdodau lleol asesu anghenion teithio dysgwyr dan 19 oed yn eu hardal.

Mae hyn yn cynnwys y rheini y mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu cludiant ar eu cyfer a'r rheini y gallai fod arnynt eisiau darparu cludiant yn ôl disgresiwn iddynt wrth asesu anghenion teithio. Rhaid i awdurdod hefyd ystyried:

  • anghenion dysgwyr anabl a dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu
  • unrhyw anghenion penodol sydd gan ddysgwyr sy’n ‘derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol neu a oedd yn arfer 'derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol
  • oed y dysgwyr
  • natur y llwybr y gallai fod disgwyl rhesymol i’r dysgwr ei gymryd rhwng y cartref a'r lleoliad sy’n darparu’r addysg neu’r hyfforddiant
  • pellter tebygol y bydd y dysgwr yn ei deithio rhwng y cartref a'r lleoliad sy’n darparu’r addysg a’r hyfforddiant.

Wrth asesu anghenion teithio dysgwyr, rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffaith na ddylai’r trefniadau teithio a wneir o ganlyniad i’r asesiad achosi lefelau afresymol o straen, cymryd cyfnod afresymol na bod yn anniogel.

Mae’r adran hon yn cynnwys canllawiau ar roi mesurau diogelu cymesur ar waith i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 ar gludiant penodedig rhwng y cartref a'r ysgol i sicrhau bod dysgwyr yn gallu mynychu’r ysgol/lleoliadau.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’r holl gludiant penodedig rhwng y cartref a’r ysgol. Mae hyn yn golygu gwasanaethau sydd dim ond yn cludo dysgwyr sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i ysgolion a/neu leoliadau. Mae hyn yn cynnwys:

  • gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu neu eu darparu gan awdurdodau lleol, boed y gwasanaeth yn cael ei ddarparu am ddim ai peidio
  • gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu gan ysgolion a lleoliadau
  • gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan weithredwyr cludiant (llwybrau teithio masnachol) ond ni chaiff aelodau o’r cyhoedd eu defnyddio ar yr un pryd ag y byddant yn cludo dysgwyr i ysgolion neu i leoliadau.

Bydd cerbydau sy’n cludo aelodau o’r cyhoedd ar adegau eraill yn cael eu hystyried fel cludiant penodedig rhwng y cartref a’r ysgol pan fyddant ddim ond yn cludo plant a phobl ifanc yn ôl ac ymlaen i ysgolion ac i leoliadau; mae hyn yn cynnwys tacsis a bysiau mini.

Dylid annog rhieni/gofalwyr, staff a dysgwyr i ddefnyddio llwybrau teithio llesol pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny. Dylid annog pobl i deithio ar droed, ar feic, ar sgwter, ar olwynion o fath arall, ac ati. Oherwydd ei bod hi’n bosibl y bydd y cyfyngiadau ar gapasiti trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio ar allu dysgwyr i fynd i’r ysgol, dylid ystyried pob dull teithio cynaliadwy a llesol.

Rhaid i’r dysgwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o’u taith rhwng y cartref a’r ysgol ddilyn y canllawiau a nodwyd gan Llywodraeth Cymru. Pan fydd rhywbeth yn hanfodol am resymau iechyd y cyhoedd, rydym wedi dweud ‘rhaid’.

Y prif negeseuon

  • Mae awdurdodau lleol yn parhau i fod dan ddyletswydd statudol i ddarparu cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol i’r holl ddysgwyr oedran ysgol gorfodol sy’n byw dros bellter penodol o'u canolfan addysg (2 filltir cynradd/3 milltir uwchradd) fel y nodir ym mesur teithio gan ddysgwyr Cymru) ac i gyhoeddi datganiad cludiant sy’n cynnwys manylion pa gymorth teithio byddant yn ei ddarparu i bobl ifanc dros 16 oed sy’n ddewisol.
  • Gan weithio gydag ysgolion, lleoliadau a gweithredwyr cludiant yn ôl yr angen, dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad risg ar gyfer siwrneiau cludiant penodedig i'r ysgol yn eu hardal leol sy’n ystyried y llwybrau a ddilynir a defnyddwyr y gwasanaethau; natur y cludiant a ddefnyddir a’r cyfle i addasu a chapasiti trafnidiaeth leol, h.y. y cyfle i gynyddu’r ddarpariaeth. Rhaid i swyddog iechyd a diogelwch priodol yr awdurdod lleol gymeradwyo’r asesiad risg. Rhaid iddynt wedyn weithio drwy’r system o reolaethau a nodir yn yr adran hon a mabwysiadu mesurau mewn ffordd sy’n mynd i’r afael â’r risg a nodwyd, sy’n gweithio yn yr amgylchiadau lleol ac sy’n caniatáu i ddysgwyr fynychu eu hysgol/lleoliad.
  • Nid oes yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar gludiant penodedig rhwng y cartref a'r ysgol (Rheoliad 12A Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020). Fodd bynnag, bydd yn rhaid i blentyn dros 11 oed sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus arferol wisgo gorchudd wyneb yn unol â'r Rheoliadau hyn. Rydym yn credu bod hyn yn briodol oherwydd:
  1. mae’r risg gyffredinol i ddysgwyr yn sgil COVID-19 yn isel iawn
  2. nid ydynt yn cymysgu â'r cyhoedd ar y teithiau hynny
  3. mae cludiant penodedig rhwng y cartref a'r ysgol yn aml yn cludo’r un grŵp o ddysgwyr yn rheolaidd
  4. mae modd rhagweld pwy fydd yn teithio ac felly mae’n bosibl cynllunio i roi mesurau diogelu ar waith, nid oes modd gwneud hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus yn yr un ffordd
  5. diffyg tystiolaeth o unrhyw fudd sylweddol o ganlyniad i ddefnyddio gorchuddion wyneb wrth gymharu â risgiau posibl eu defnyddio a’u gwaredu’n anghywir.
  • Pan fydd y capasiti’n golygu bod modd cadw pellter, dylid cadw pellter rhwng y dysgwyr, grwpiau o ddysgwyr a rhwng y gyrwyr/cynorthwywyr teithwyr. Pan na fydd hynny’n bosibl, dylid defnyddio mesurau eraill o’r system o reolaethau a nodir isod.
  • Nid oes yn rhaid cadw grwpiau cyswllt ar gludiant ysgol sy’n darparu grŵp cyson
  1. ddysgwyr yn teithio ar yr un bws bob dydd byddant yn mynychu. Dylid osgoi defnyddio cludiant penodedig i'r ysgol i wasanaethu nifer o ysgolion os oes modd, yn enwedig rhwng clystyrau ysgolion.
  • Os penderfynir defnyddio gorchuddion wyneb dylai awdurdodau lleol sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’w defnyddio’n ddiogel, e.e. golchi dwylo cyn ac ar ôl rhoi a thynnu gorchudd wyneb, eu gwaredu neu eu storio’n ddiogel ac nid yw’r rhain yn cymryd lle’r mesurau rheoli eraill sy’n cael eu hargymell yn y canllawiau hyn.

Y system rheolaethau: mesurau diogelu

Mae lleihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 yn golygu dilyn rhai egwyddorion syml. Rydym yn cydnabod y bydd angen amrywio sut caiff y rheolaethau hyn eu gweithredu yn ôl yr amgylchiadau lleol.

Dylai awdurdodau lleol ystyried anghenion penodol plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau a, phan fydd angen, dylai safbwyntiau'r rhieni/gofalwyr a’r ysgol/lleoliadau eu harwain ar hyn.

1. Lleihau’r cyswllt ag unigolion sy’n sâl

Ni ddylai neb fynd ar gludiant penodedig i’r ysgol os oes ganddyn nhw neu rywun maen nhw’n byw gyda nhw unrhyw un o’r pedwar symptom COVID-19 (peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli blas neu arogl). Rhaid rhoi gwybod i rieni/gofalwyr os bydd ganddyn nhw unrhyw bryderon bod eu plentyn yn sâl, ni ddylai’r plentyn fynd i’r ysgol. Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau ddilyn y canllawiau.

Rhaid i unrhyw un mewn aelwyd sy’n gorfod hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau i achos a ddaw o dan Profi, Olrhain, Diogelu neu os ydynt mewn cwarantin ar ôl dychwelyd o wlad sydd wedi cael ei rhestru gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, beidio â mynd ar gludiant penodedig i’r ysgol.

Os bydd dysgwr yn datblygu symptomau tra bydd yn yr ysgol/lleoliad, dylid ei anfon adref. Fodd bynnag, rhaid i’r dysgwr hwnnw beidio â theithio adref a gludiant penodedig i'r ysgol. Dylai’r ysgol neu’r lleoliad gysylltu â’r rhiant/gofalwr a ddylai drefnu i fynd â’r dysgwr adref.

Dylai gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr sy’n mynd yn sâl yn ystod y diwrnod gwaith gael eu hanfon adref.

Os bydd dysgwyr, gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr wedi cael cyswllt gyda rhywun sydd wedi datblygu symptomau COVID-19 yn yr ysgol/lleoliad neu ar gludiant penodedig i’r ysgol, nid oes angen iddynt fynd adref i hunan-ynysu oni bai eu bod yn datblygu symptomau eu hunain (os felly, dylent drefnu prawf COVID-19).

Ni ddylid mesur tymheredd fel mater o drefn cyn mynd ar gludiant penodedig i’r ysgol, gan nad ydy hon yn ffordd ddibynadwy o adnabod COVID-19.

Drwy drafodaeth â darparwyr cludiant ysgol dylai awdurdodau lleol ystyried darparu hylif diheintio dwylo ar gludiant ysgol i’r gyrwyr, i’r cynorthwywyr teithwyr ac i’r dysgwyr ei ddefnyddio wrth ddod i’r cerbyd.

2. Golchi dwylo’n drylwyr ac yn amlach nag arfer

Mae hi’n hawdd lladd y feirws COVID-19 pan fydd ar y croen. Pan na fydd dŵr a sebon ar gael mae modd defnyddio hylif diheintio dwylo priodol.

Dylai dysgwyr, gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr olchi eu dwylo cyn mynd ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ac wrth gyrraedd yr ysgol neu gartref. Gan weithio gyda’u hysgolion a’u gweithredwyr cludiant ysgol dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y neges hon yn cael ei chyfleu i bawb sy’n defnyddio cludiant penodedig i’r ysgol a bod trefniadau priodol mewn lle gan ysgolion a gweithredwyr cludiant i alluogi hyn.

Efallai y bydd gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr eisiau defnyddio hylif diheintio dwylo bob hyn a hyn drwy gydol y daith, a dylent bob tro wneud hynny ar ôl tasgau fel helpu dysgwr i’r cerbyd neu afael yn eiddo dysgwr.

Fel rheol ni ddylai fod angen i ddysgwyr olchi eu dwylo yn ystod y daith.

Drwy drafodaeth â gweithredwyr cludiant ysgol ac fel rhan o unrhyw asesiad risg, dylai awdurdodau lleol ystyried darparu hylif diheintio dwylo ar gyfer amgylchiadau yn ystod y daith lle gallai fod angen golchi dwylo.

3. Sicrhau hylendid anadlol da drwy hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’

Mae’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’ yn bwysig dros ben. Dylai ysgolion/lleoliadau atgyfnerthu’r neges hon gyda’r dysgwyr. Efallai y bydd awdurdodau lleol hefyd eisiau ystyried atgyfnerthu’r neges hon yn eu gohebiaeth â theuluoedd a drwy arddangos negeseuon yn amlwg ar y cludiant.

Dylid annog dysgwyr i gario hancesi papur ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Efallai y bydd gweithredwyr trafnidiaeth eisiau ystyried cadw cyflenwad o hancesi papur a hylif diheintio dwylo ar gerbydau. Bydd hefyd angen ystyried gwaredu hancesi papur yn ddiogel ar gludiant i’r ysgol.

Bydd hi’n anodd i'r rhan fwyaf o ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth/anawsterau dysgu gynnal hylendid anadlol cystal â’u cyfoedion heb gefnogaeth briodol, er enghraifft y rheini sy’n poeri neu’n defnyddio poer fel symbylydd synhwyraidd. Dylid ystyried hyn wrth benderfynu pa fesurau diogelu dylid eu rhoi ar waith i gefnogi’r dysgwyr hyn a’r staff sy’n gweithio gyda nhw. Efallai fod darpariaeth benodedig arall yn briodol i’r unigolion hyn.

Dylid awyru’r cerbydau’n dda, gan agor ffenestri pan fydd hynny’n bosibl ac yn ddiogel.

4. Cyflwyno glanhau’n well, gan gynnwys glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd, gan ddefnyddio cynnyrch safonol fel glanedyddion a channydd

Mae hi’n hawdd lladd COVID-19 ar arwynebau. Bydd cynnyrch glanhau arferol yn gwneud hyn. Nid oes angen cynnyrch glanhau arbenigol. Edrychwch ar COVID-19: canllawiau glanhau mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd ac adran ‘Cadw ardaloedd cyhoeddus a phreifat a mathau o drafnidiaeth yn lân’ y canllawiau i weithredwyr trafnidiaeth i gael gwybodaeth am lanhau ac addasu’r awyru.

Dylai awdurdodau lleol weithio gyda gweithredwyr cludiant i gytuno ar y trefniadau ar gyfer glanhau cerbydau penodedig sy’n darparu cludiant i'r ysgol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell bod arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn cael eu glanhau drwy ddefnyddio proses benodol ar ôl pob taith – a bod y cerbydau’n cael eu glanhau’n fwy trylwyr ar ddiwedd bob dydd.

5. Cyn lleied o gyswllt a chymysgu â phosibl

Mae’r canllawiau hyn yn argymell y dylai ysgolion/lleoliadau leihau’r cyswllt a’r cymysgu rhwng dysgwyr. Yr ysgolion/lleoliadau sydd i benderfynu sut byddant yn gwneud hyn ond, mewn ysgolion uwchradd, yn enwedig yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5, mae’n bosibl i grwpiau fod yn faint grŵp blwyddyn. Yn yr ysgol gynradd, ac yng Nghyfnod Allweddol 3, efallai y bydd ysgolion yn gallu cyflwyno grwpiau llai er enghraifft maint dosbarth.

Yn yr un modd, mae'r canllawiau ar gyfer darparwyr addysg bellach a sgiliau’n argymell eu bod yn lleihau’r cyswllt rhwng unigolion drwy ffurfio grwpiau neu garfannau o ddysgwyr sy’n aros ar wahân i’w gilydd yn ystod y dydd.

Mae'r canllawiau i ysgolion ac i leoliadau’n cydnabod y bydd sefydlu grwpiau cyswllt yn arwain at fanteision hyd yn oed os caiff hyn ei weithredu’n rhannol, ac efallai y bydd angen i ysgolion ganiatáu cymysgu mewn grwpiau mwy dan rai amgylchiadau gan gynnwys ar gludiant. Mae’n bosibl y bydd brodyr a chwiorydd mewn grwpiau gwahanol hefyd.

Dylai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion, lleoliadau a gweithredwyr cludiant i ystyried sut gellir lleihau’r cymysgu ar gludiant ysgol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod capasiti cerbydau a chymhlethdod rhai trefniadau cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn golygu na fydd hyn bob amser yn ymarferol. Fel blaenoriaeth, dylid osgoi cymysg rhwng ysgolion ac yn enwedig clystyrau ysgolion. Mae’n bosibl y bydd addasu amseroedd dechrau a gorffen yn helpu i hwyluso hyn.

Ar gyfer rhai dysgwyr fel y rheini sydd ag anawsterau meddygol, cymdeithasol neu ymddygiadol cymhleth. Yn yr achosion hyn, efallai yr ystyrir y bydd cludiant penodedig arall yn fwy priodol.

Byddai angen gallu adnabod y grwpiau cyswllt hyn fel cysylltiadau posibl os bydd unrhyw aelod yn cael canlyniad positif. Mae hi felly’n bwysig sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw o bwy sy’n teithio’n rheolaidd ar ba gerbyd a bod pasys neu restrau o deithwyr sy’n teithio yn cael eu gwirio wrth i ddysgwyr fynd ar gludiant ysgol.

Dylai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion/lleoliadau a gweithredwyr cludiant i lunio trefniadau eistedd er mwyn i ddysgwyr ddeall lle mae angen iddynt eistedd ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Gallai hyn olygu dyrannu seddi penodol neu lunio rheolau fel eistedd mewn grwpiau blwyddyn o’r flwyddyn isaf i’r uchaf: o’r blaen i’r cefn, yr ieuengaf i’r hynaf neu lenwi’r cerbyd o'r cefn i’r blaen bob tro ac wedyn dod oddi ar y bws o’r blaen i’r cefn. Sicrhau bod yr un dysgwyr yn eistedd gyda’i gilydd bob tro i helpu i leihau nifer y cysylltiadau sydd gan bob un. Bydd angen cyfathrebu clir rhwng ysgolion a theuluoedd/plant gyda threfniadau o’r fath. Fydd y gyrwyr yn methu ‘plismona’ y trefniadau eistedd.

Dylid osgoi defnyddio seddi wyneb yn wyneb ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol.

Dylid darparu gwybodaeth glir i rieni/gofalwyr a dysgwyr am y trefniadau sydd eu hangen ar gyfer eu codi a’u gollwng yn ôl adref. Sicrhau bod gan ysgolion drefniadau ar waith i reoli ciwiau pan fydd y dysgwyr yn disgwyl i fynd ar y bws.

6. Gorchuddion wyneb

Fel rhan o’r broses asesu risg dylai awdurdodau lleol, gan gydweithio gydag ysgolion, lleoliadau a gweithredwyr trafnidiaeth lle bo angen, ystyried defnyddio gorchuddion wyneb gan ddefnyddio’r meini prawf a nodir yn yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Grŵp Cynghori Technegol, a geir yma.

Os penderfynir defnyddio gorchuddion wyneb dylai awdurdodau lleol sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’w defnyddio’n ddiogel, e.e. golchi dwylo cyn ac ar ôl rhoi a thynnu gorchudd wyneb, eu gwaredu neu eu storio’n ddiogel ac nid yw’r rhain yn cymryd lle’r mesurau rheoli eraill sy’n cael eu hargymell yn y canllawiau hyn.

Ni ddylai’r rheini na fyddant yn gallu gwisgo gorchuddion wyneb yn unol â’r cyfarwyddiadau eu gwisgo (er enghraifft, plant ifanc, neu’r rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau) oherwydd gallai hynny gynyddu’r risg o drosglwyddo’n anfwriadol (mae plant dan 11 oed wedi’u heithrio o’r gofynion i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus). Dylid hefyd ystyried y pwyntiau canlynol.

  • Efallai y bydd angen i rai plant a phobl ifanc allu darllen gwefusau neu weld wynebau pobl er mwyn cyfathrebu.
  • Efallai y bydd rhai plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig yn gofidio os bydd y bobl o’u hamgylch yn gwisgo gorchuddion wyneb.
  • Nid yw gorchuddion wyneb yn cymryd lle mesurau diogelu eraill fel golchi dwylo a hylendid anadlol a chadw pellter cymdeithasol pan fo’n bosibl.

Ystyriaethau penodol

Mae’n bosibl mabwysiadu amrywiaeth o ystyriaethau penodol a mesurau rheoli ar gyfer grwpiau penodol er mwyn ymateb i amgylchiadau penodol. Bydd y rhain yn cael eu hystyried a'u mabwysiadu’n lleol yn dilyn asesiad risg.

Tacsis a cherbydau hurio preifat

Mae rhai dysgwyr, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion cymorth ychwanegol, yn dibynnu ar dacsis neu gerbydau hurio preifat i fynd yn ôl ac ymlaen i’r ysgol/lleoliad.

Pan fydd tacsis yn cael eu defnyddio dim ond er mwyn cludo plant a phobl ifanc yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, yn yr un modd â gwasanaethau coets a bws ysgol penodedig, nid oes angen cadw pellter corfforol. Argymhellir bod dysgwyr yn teithio yn y sedd gefn yn unig mewn tacsis neu gerbydau hurio preifat.

Dylid ystyried yn ofalus sut gellir darparu trefniadau teithio diogel a phwrpasol i ddysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol. Gallai hyn gynnwys cyflwyno protocolau glanhau, gyrru gyda’r ffenestri ar agor (pan fo hynny’n bosibl) neu ddod o hyd i gerbydau mwy i’w cludo. Dylai awdurdodau lleol ac ysgolion gysylltu â’u darparwyr cerbydau hurio preifat lleol ynghylch y mesurau maent yn eu rhoi ar waith i ddiogelu dysgwyr, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer cludo mwy nag un dysgwr.

Pan fydd angen teithio mewn tacsi neu gerbyd hurio preifat, dylid cynghori’r dysgwyr i ddilyn cyngor y gyrrwr. Bydd angen mesurau glanhau a diheintio priodol hefyd. Ni ddylid defnyddio seddi sy’n wynebu ei gilydd pan fyddant ar gael.

Amrywio amseroedd dechrau

Mae’r canllawiau i ysgolion ac i leoliadau’n gofyn iddynt ystyried amrywio neu addasu amseroedd dechrau a gorffen er mwyn cadw grwpiau o ddysgwyr ar wahân wrth iddynt gyrraedd a gadael yr ysgol ac er mwyn galluogi rhagor o deithiau y tu allan i’r oriau brig. Rydym yn cydnabod y bydd y dewis hwn yn fwy ymarferol mewn rhai amgylchiadau nag eraill.

Rydym yn cydnabod ei bod hi’n debygol y bydd angen i ddysgwyr mewn grwpiau cyswllt gwahanol deithio gyda’i gilydd ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ac na fydd hi’n bosibl iddynt yn aml gyrraedd ar adegau gwahanol i’w gilydd. Bydd angen i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau gydweithio i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer cludiant rhwng y cartref a’r ysgol ac unrhyw addasiadau i amseroedd dechrau yn cyd-fynd â’i gilydd.

Gallai fod yn ddefnyddiol gwasgaru’r amseroedd dechrau pan fydd awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu dyletswydd i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr cymwys drwy roi pàs iddynt deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn i’r dysgwyr hynny allu osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod yr oriau brig.

Diogelu’r staff sy’n gweithio ar gludiant penodedig i’r ysgol

Mae’n ddealladwy y bydd gan y staff sy’n gweithio ar gludiant penodedig i’r ysgol, gan gynnwys y gyrwyr a’r cynorthwywyr teithwyr, bryderon o bosibl ynghylch eu diogelwch. Bydd y staff hyn yn oedolion ac o’r herwydd maent yn wynebu risg uwch na'r dysgwyr o ddal yr haint. Dylai cyflogwyr gynnal asesiad risg unigol ar gyfer yr holl staff a gyflogir ar gludiant penodedig rhwng y cartref a'r ysgol, sy’n cynnwys asesiad o’u risg glinigol. Mae canllawiau ar hyn ar gael yma.

Pan na fydd modd cadw pellter cymdeithasol (llai na 2 fetr), dylai gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr gael cyfarpar diogelu personol priodol. Dylai hyn gynnwys darparu gorchudd wyneb priodol ar gyfer pob siwrnai a chyfleusterau er mwyn eu tynnu a’u gwaredu’n ddiogel gan gynnwys darparu hylif diheintio dwylo sy’n cael ei argymell.

Dylai staff sy’n gweithio ar gludiant penodedig i’r ysgol gael hyfforddiant a chyngor ar ddefnyddio, tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn ddiogel. Y cyflogwr sy’n gyfrifol am ddarparu'r cyfarpar diogelu personol. Dylai awdurdodau lleol a darparwyr drafod a chytuno ar sut y dylid talu am gostau ychwanegol hyn. Pan fo’n bosib, gan ystyried dyluniad y cerbyd, dylid codi sgrin rhwng y gyrrwr a’r teithwyr.

Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol wrth sicrhau:

  • bod asesiad risg ar gyfer cludiant penodedig rhwng y cartref a’r ysgol yn cael ei gynnal neu’n cael ei ddiweddaru o’r rheini a oedd wedi cael eu gwneud a’u cyflwyno i’r awdurdod lleol
  • bod cynlluniau’n cael eu datblygu a’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd
  • yn ogystal â gweithio gyda darparwyr, pan fo’n bosibl y dylai awdurdodau lleol geisio mesur barn rhieni a dysgwyr, yn enwedig pan fydd unrhyw adolygiadau o’r mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith
  • bod cynllun clir ar gyfer cyfathrebu â theuluoedd, ysgolion, lleoliadau a gweithredwyr cludiant
  • bod cynnwys y gofynion sy’n ymwneud â’r canllawiau hyn yn cael eu hystyried yn y trefniadau contract gyda gweithredwyr cludiant
  • bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddiweddaru'r Cod Ymddygiad wrth Deithio.

Cyfathrebu â theuluoedd, ysgolion, lleoliadau a gweithredwyr trafnidiaeth

Dylai awdurdodau lleol ystyried sut mae rhannu’r trefniadau ar gyfer cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn glir i ddysgwyr, i rieni/gofalwyr, i ysgolion/lleoliadau ac i weithredwyr cludiant.

Efallai byddant eisiau ystyried:

  • atgoffa rhieni/gofalwyr na chaiff eu plentyn deithio os oes gan y plentyn neu unrhyw un yn yr aelwyd symptomau COVID-19
  • bydd angen i’r dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr ddeall unrhyw drefniadau ar gyfer ciwio a mynd ar y cludiant rhwng y cartref a'r ysgol, a lle dylent eistedd yn y cerbyd
  • bydd angen i’r dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr ddeall a fydd disgwyl iddynt wisgo gorchudd wyneb ai peidio ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol
  • bydd angen i’r gyrwyr a’r cynorthwywyr teithwyr ddeall unrhyw reolau y bydd angen iddyn nhw, pobl ifanc a dysgwyr eu dilyn ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol
  • bydd angen i awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau a gweithredwyr cludiant i gyd ddeall y trefniadau pan fydd dysgwyr yn cyrraedd yr ysgol a phan fyddant yn cael eu casglu o'r ysgol
  • ni ddylid disgwyl i yrwyr blismona trefniadau fel cynlluniau seddau a chiwiau. Eu gwaith nhw yw gyrru’r cerbyd yn ddiogel
  • efallai bydd rhai rhieni/gofalwyr, dysgwyr, gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr yn poeni am y risg o ddal yr haint ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ac efallai y bydd angen tawelu eu meddyliau ynghylch y mesurau diogelu sydd ar waith;
  • dylid annog y dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd teithio llesol pan fydd hyn yn rhesymol ac yn ymarferol ac yn ddiogel
  • bydd angen i’r gweithredwr cludiant fod â phrotocolau glanhau cadarn y cytunwyd arnynt mewn lle.

Presenoldeb

Bydd yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rheini a oedd yn gwarchod, yn dechrau dychwelyd i’w hysgol neu eu lleoliad o 1 Medi ymlaen. Dylid cefnogi’r dysgwyr hynny nad oes angen iddynt warchod mwyach (o 17 Awst) i ddychwelyd i’r ysgol. Bydd hi’n hanfodol cefnogi’r garfan hon i bontio yn ôl i’r ysgol oherwydd efallai byddant yn fwy pryderus oherwydd hyd y cyfnod y bu’n rhaid iddynt warchod.

Barn Llywodraeth Cymru yw y byddai’n amhriodol i awdurdod lleol/ysgol gyfiawnhau rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig neu gychwyn achos am beidio â mynychu’r ysgol. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r sefyllfa dros hanner cyntaf y tymor cyn adolygu ei safbwynt.

Os nad yw dysgwr yn gallu dod i’r ysgol ei hun am unrhyw reswm, mae’n hanfodol bod yr ysgol yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd â’r dysgwr o bell. Mae Canllawiau dysgu ar gael i helpu ysgolion a lleoliadau i wneud hynny.

Dylai ysgolion a lleoliadau gadw cofnod o bresenoldeb, a dylai teuluoedd roi gwybod i’r ysgol os nad yw eu plentyn yn gallu mynychu ac esbonio’r rheswm am hynny, er mwyn i’r ysgol allu cofnodi presenoldeb yn gywir. Bydd hyn yn helpu ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol i ddeall unrhyw beth sy’n rhwystro dysgwyr rhag dychwelyd i’r ysgol a chynllunio ar gyfer hynny gan ddod o hyd i unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen. Bydd yn hanfodol bod pob dysgwr yn ymgysylltu â’r ysgol, a bod unrhyw bryderon ynghylch ymgysylltu, neu les dysgwr, yn cael sylw ar unwaith gan yr ysgol. Dim ond ar ôl i’r ysgol wneud pob ymdrech i ymgysylltu â’r teulu y dylid uwchgyfeirio pryderon i’r Gwasanaeth Lles Addysg.

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (a ddaeth i rym o 7 Awst 2020 ymlaen). O ganlyniad i hynny nid oes yn rhaid i ysgolion osod targedau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21.

Dylai ysgolion gofnodi presenoldeb ac absenoldeb yn unol â’r codau isod tan iddynt gael gwybod fel arall.

Pa god dylid ei ddefnyddio?

Cod Ystyr Categori ystadegol
/ Yn bresennol yn yr ysgol yn y bore. Yn bresennol
\ Yn bresennol yn yr ysgol yn y prynhawn. Yn bresennol
C Ddim yn gallu dod i’r ysgol oherwydd risgiau meddygol/iechyd neu gyfrifoldebau gofalu y cytunwyd arnynt gyda’r ysgol. Hefyd ar gyfer dychwelyd fesul cam yn ystod yr 14 diwrnod cyntaf pan fydd rhai grwpiau oedran yn dychwelyd. Absenoldeb awdurdodedig
# Cau’r ysgol i’r holl ddisgyblion fel sy’n gallu digwydd yn ystod yr 14 diwrnod cyntaf, ee diwrnodau cynllunio. Dim rhaid bod yn bresennol
Y Dim disgwyl i fod yn bresennol oherwydd bod yr ysgol wedi cau’n annisgwyl (os bydd yn rhaid i’r ysgol gau). Dim rhaid bod yn bresennol
I Salwch, gan gynnwys Covid-19. Absenoldeb awdurdodedig
Mae’r holl godau eraill yn berthnasol yn unol â’r canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018- 03/canllawiau-ar-godau-presenoldeb-yn-yr-ysgol.pdf  

/\: Y cod ar gyfer dysgwyr sy’n bresennol

Dylid cofnodi bod yr holl blant a ddisgwylir ar gyfer y diwrnod hwnnw neu sydd mewn grŵp blaenoriaeth (plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed) yn bresennol / \ wrth gyrraedd yr ysgol neu’r lleoliad addysg.

C: Y cod ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol

Mae hyn yn cynnwys dysgwyr nad ydynt yn gallu dod i’r ysgol am resymau y mae’r ysgol yn eu deall ac wedi cytuno arnynt. Dylid eu cofnodi fel cod C (Amgylchiadau awdurdodedig eraill (nas cwmpesir gan god/disgrifiad priodol arall)).

Byddai’r cod hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dysgwyr sydd â rhesymau meddygol neu iechyd sy’n eu hatal rhag mynychu’n gorfforol neu efallai fod ganddynt amgylchiadau eithriadol fel cyfrifoldebau gofalu.

Byddai’r cod hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dysgwyr sy’n hunanysu fel y nodir yn adran ataliol y canllawiau hyn.

Bydd y cod hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio yn ystod 14 diwrnod cyntaf y tymor pan fydd rhai grwpiau blwyddyn yn dychwelyd fesul cam.

Ni ddylid defnyddio’r cod hwn os yw’r dysgwr yn sâl gyda symptomau COVID-19.

Dylid defnyddio cod I yn yr amgylchiadau hynny.

Rhaid i ysgolion ymgysylltu â rhieni/gofalwyr i ddeall pam nad yw’r dysgwyr yn bresennol a sicrhau nad oes unrhyw bryderon ynghylch eu lles neu ddewisiadau cefnogaeth eraill y gellid eu trefnu er mwyn iddynt allu bod yn bresennol. Dylai’r ysgol neu’r lleoliad addysg, a'r awdurdod lleol pan fo’n berthnasol, fynd ar drywydd unrhyw bryderon.

Dylai’r ysgol adolygu’r sefyllfa gyda’r dysgwr a’r rhieni neu’r gofalwyr yn rheolaidd er mwyn osgoi unrhyw absenoldeb hir.

#: Y cod pan fydd yr ysgol ar gau i bob dysgwr a bod hynny wedi cael ei gynllunio

Dylid defnyddio cod # ar gyfer y diwrnodau hynny sydd wedi cael eu cynllunio pan nad oes yn rhaid bod yn bresennol fel y diwrnodau cynllunio yn ystod wythnosau cyntaf y tymor.

Y: Y cod pan fydd yr ysgol wedi gorfod cau

Dylid defnyddio cod Y pan fydd yr ysgol wedi gorfod cau oherwydd rhagor o ofynion oherwydd COVID-19.

Defnyddio codau absenoldeb awdurdodedig a phresenoldeb eraill

Pan fydd codau absenoldeb awdurdodedig a phresenoldeb penodol eraill yn fwy priodol, dylai ysgolion ddefnyddio’r rhain yn yr un modd ag arfer.

Cyngor Llywodraeth Cymru ar bresenoldeb staff a dysgwyr

Beth bynnag fo’r amgylchiadau, ni ddylai dysgwyr na staff ddod i’r ysgol/lleoliad os ydynt:

  • yn teimlo’n sâl a bod ganddynt unrhyw un o symptomau COVID-19 neu os ydynt wedi cael canlyniad positif am COVID-19 neu yn byw gyda rhywun neu mewn aelwyd estynedig gyda rhywun sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19.

Staff neu ddysgwyr sy’n eithriadol o agored i niwed neu sy’n ‘gwarchod’

Roedd Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi penderfynu dod â’r cyfnod gwarchod i ben dros dro ar ôl 16 Awst i unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed, oherwydd bod y gyfradd heintio yng Nghymru yn isel iawn. Bydd staff a dysgwyr a oedd yn gwarchod yn gallu dychwelyd i’r gwaith neu i'r ysgol yn ystod tymor yr hydref os cynhelir asesiadau risg sy’n dangos bod yr amgylchedd yn ‘ddiogel o ran COVID’ (wedi cymryd camau rhesymol i leihau’r risg i weithwyr a dysgwyr), er mai’r cyngor i oedolion yw y dylent barhau i weithio gartref os yw’n bosibl. Dylai staff sydd wedi bod yn gwarchod siarad â’u cyflogwr cyn gynted â phosibl ynghylch sut y byddent yn cael eu cadw’n ddiogel. Dylai staff sy’n dychwelyd i leoliad yr ysgol ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ofalus yn ychwanegol at y mesurau diogelu eraill a gyflwynir gan eu cyflogwr. Mae cyngor ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Roedd y Prif Swyddogion Meddygol ledled y DU wedi derbyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar blant a gwarchod.

Yn ôl canllawiau’r Coleg, nid oes angen i’r rhan fwyaf o’r plant sydd ar y Rhestr Cleifion sy’n Gwarchod ar hyn o bryd warchod mwyach. Dros yr haf, bydd paediatregyddion a meddygon teulu’n adolygu cofnodion plant sydd wedi bod yn gwarchod i asesu a oes angen iddynt aros ar y Rhestr. Unwaith y bydd plentyn yn cael ei dynnu oddi ar y Rhestr oherwydd nad oes angen iddo warchod mwyach, gall ymddwyn yn yr un modd ag unrhyw blentyn arall yn yr ysgol/lleoliad.

Er bod y cyngor i warchod wedi dod i ben am y tro, dylai’r plant hynny sy’n dal ar y Rhestr ddilyn yr un cyngor â’r plant hynny yn y grŵp ‘risg uwch’.

Mewn rhai amgylchiadau, ni fyddai plant yn gallu mynychu’r ysgol am resymau iechyd, heb ystyried COVID-19, a dylid eu cefnogi i ddysgu gartref os gallant wneud hynny.

Staff neu ddysgwyr sy’n wynebu ‘risg uwch’

Yng nghyd-destun COVID-19, mae unigolion sy’n wynebu ‘risg uwch’ yn wynebu risg uwch o salwch difrifol yn sgil COVID-19. Mae’r categori hwn yn cynnwys pobl dros 70 oed, menywod beichiog a'r rheini sydd ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd cronig. Efallai y bydd staff yn y grŵp hwn yn poeni ac am wybod beth mae codi cyfyngiadau’r cyfnod clo yn ei olygu iddyn nhw. Mae’r cyngor i staff yn y grŵp hwn yr un fath ag ar gyfer y boblogaeth ehangach. Wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau, fodd bynnag, dylai’r grŵp hwn barhau i ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, a hylendid dwylo ac anadlol yn ofalus.

Cynghorir menywod beichiog yn benodol i weithio gartref ar ôl 28 wythnos o gyfnod beichiogrwydd neu mewn rôl lle nad oes rhaid iddynt ddod i gysylltiad corfforol â’r cyhoedd ac mewn gweithle sy’n ddiogel o ran COVID, lle gellir cadw pellter corfforol o 2 fetr bob amser. Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr wedi diweddaru eu cyngor. Mae cyngor clinigol y Coleg i fenywod beichiog ynghylch risg a goblygiadau difrifol posibl COVID-19, yn enwedig y rheini sydd wedi cyrraedd 28 wythnos o gyfnod eu beichiogrwydd, yn dal fel yr oedd.

Wrth i’r cyngor i warchod ddod i ben dros dro, mae oedolion yn y categori hwn yn cael dychwelyd i’r gwaith cyn belled â bod y gweithle yn ddiogel, ond dylent barhau i weithio gartref os gallant. Dylai’r rheini sy’n dewis dychwelyd i’w gweithle wneud yn siŵr eu bod yn fodlon gyda’r mesurau diogelwch rhag COVID y mae eu cyflogwr wedi’u sefydlu yn y gweithle, ac ar ôl dychwelyd i leoliad yr ysgol dylent ddilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol a chorfforol yn ofalus. Gan weithio gyda’r awdurdod lleol, dylai pob ysgol barhau i gynnal asesiadau risg, ac fe’u hanogir i 37 ddefnyddio adnodd asesu risg Cymru gyfan ar gyfer y gweithlu (link) a sefydlu rheolaethau i leihau’r risgiau hynny, megis golchi dwylo’n aml ac yn drwyadl, hylendid/glanhau arwynebau a systemau unffordd a oedd wedi gweithio’n dda ar ddiwedd tymor yr haf. Os oes gan unrhyw un bryderon, dylent drafod y rhain â’u cyflogwr, eu swyddog iechyd galwedigaethol a’u meddyg teulu.

Rhieni/gofalwyr a dysgwyr sy’n poeni am ddychwelyd i ysgolion ac i leoliadau

Dylai pob dysgwr fynd i’r ysgol neu ei leoliad. Dylai ysgolion a lleoliadau fod yn ymwybodol o bryderon posibl dysgwyr, rhieni/gofalwyr a staff a allai fod yn amharod neu’n bryderus ynghylch dychwelyd, a rhoi’r gefnogaeth briodol ar waith i fynd i’r afael â hyn. Gall hyn gynnwys dysgwyr sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain yn flaenorol ond sydd wedi cael gwybod nad yw hyn yn angenrheidiol mwyach, y rheini sy’n byw mewn aelwydydd lle mae rhywun yn agored i niwed yn glinigol, neu’r rheini sy’n pryderu am y risg gymharol uwch o COVID-19, gan gynnwys pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig neu 'r rheini sydd â chyflyrau penodol fel gordewdra a diabetes.

Os yw rhieni/gofalwyr dysgwyr sydd â ffactorau risg sylweddol yn poeni, rydym yn argymell bod ysgolion/lleoliadau yn trafod eu pryderon gyda nhw ac yn rhoi sicrwydd ynghylch y mesurau y maent yn eu rhoi ar waith i leihau’r risg yn yr ysgol/lleoliad.

Dylai ysgolion a lleoliadau ddweud yn glir wrth rieni/gofalwyr ei bod yn rhaid i ddysgwyr oedran ysgol gorfodol fod yn yr ysgol, oni bai fod rheswm statudol yn berthnasol (ee mae’r dysgwr wedi cael caniatâd i fod yn absennol, nid yw’r dysgwr yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch, mae’n absennol oherwydd arferion crefyddol angenrheidiol, ac ati). Dim ond ar ôl i’r ysgol wneud pob ymdrech i ymgysylltu â’r teulu y dylid uwchgyfeirio pryderon i’r Gwasanaeth Lles Addysg.

Camau gweithredu ar gyfer pob ysgol ac awdurdod lleol

Dylai ysgolion a lleoliadau weithio gyda dysgwyr, rhieni a gofalwyr i sicrhau presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol o ddechrau’r tymor ymlaen. Bydd hyn yn hanfodol i helpu dysgwyr i ddal i fyny â’r addysg a gollwyd, i ddatblygu ac i hybu eu lles a’u datblygiad ehangach.

Rydym yn gofyn i ysgolion/lleoliadau ac awdurdodau lleol i:

  • gyfleu disgwyliadau clir a chyson ynghylch presenoldeb i rieni a gofalwyr drwy gydol yr haf cyn y flwyddyn ysgol newydd
  • nodi dysgwyr sy’n amharod neu’n bryderus ynghylch dychwelyd neu sydd mewn perygl o ymddieithrio, a datblygu cynlluniau i ennyn eu diddordeb unwaith eto.

Gallai hyn gynnwys cyfarfod i drafod y rhwystrau rhag dychwelyd. Dylai hyn gynnwys dysgwyr a phobl ifanc agored i niwed a difreintiedig, yn enwedig y rheini a oedd yn absennol yn gyson cyn y pandemig neu nad ydynt wedi ymgysylltu â’r ysgol yn rheolaidd yn ystod y pandemig

  • gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill fel gweithwyr ieuenctid, cymorth iechyd meddwl fel sy’n briodol i’w helpu i ddychwelyd i’r ysgol, gan gynnwys parhau i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â gweithiwr cymdeithasol y plentyn os oes un, gan roi gwybod am batrymau presenoldeb.

Gweithlu ysgolion

Asesiad Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu

Cafodd Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu ei ddatblygu i’w ddefnyddio mewn gweithleoedd iechyd a gofal cymdeithasol ac mae wedi cael ei addasu i’w ddefnyddio mewn lleoliadau addysg, gwaith ieuenctid, gofal plant a gwaith chwarae. Y bwriad yw ei fod yn cael ei ddefnyddio i asesu os yw'r staff yn wynebu risg uwch o ddatblygu symptomau mwy difrifol. Mae gan yr awdurdod lleol a/neu'r ysgol fel y cyflogwr a/neu’r mudiad gwirfoddol os ydych chi'n wirfoddolwr, ddyletswydd gofal i ddiogelu iechyd a diogelwch cyflogeion yn y gwaith ac mae hyn yn cynnwys deall os ydynt mewn categori risg uwch mewn cysylltiad â COVID-19.

Hunanasesiad yw’r adnodd yn y lle cyntaf. Mae’n helpu ac yn galluogi staff i ystyried eu hiechyd a’u lles, ac i ddeall eu risg bersonol o ddatblygu symptomau mwy difrifol os byddant yn dod i gysylltiad â feirws COVID-19 fel un ai isel, uchel neu uchel iawn.

Yn dilyn eu hunanasesiad, dylai staff deimlo’n hyderus i drafod eu diogelwch yn y gwaith ac unrhyw bryderon sydd ganddynt â’u rheolwr llinell er mwyn ystyried y camau priodol i liniaru ac i reoli’r risg honno, a sicrhau bod staff yn cael eu diogelu gymaint â phosibl.

Bydd ysgolion a lleoliadau eisiau ystyried gofyn am gyngor gan gynghorydd/gynghorwyr iechyd a diogelwch yr awdurdod lleol ynghylch y broses asesu risg o straen. Efallai y bydd y staff hefyd eisiau ystyried yr angen am asesiad risg o straen unigol, gan fod nifer o ffactorau yn ystyriaethau pwysig mewn perthynas â lles staff. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu Asesiad Risg o Straen i’w ddefnyddio.

Iechyd a diogelwch y cyflogwr

Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion/lleoliadau ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu eu gweithwyr ac eraill rhag niwed, a dylent barhau i asesu risgiau iechyd a diogelwch ac ystyried sut i gyflawni dyletswyddau cydraddoldeb. Bydd dilyn y camau yn y canllawiau hyn a chael cymorth gan gynghorydd iechyd a diogelwch yr awdurdod lleol yn lliniaru risgiau COVID-19 i ddysgwyr ac i staff, ac yn helpu ysgolion i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol i ddiogelu cyflogeion ac eraill rhag niwed.

Defnyddio staff

Efallai y bydd angen i ysgolion a lleoliadau newid y ffordd maent yn defnyddio eu staff, a defnyddio'r staff presennol yn fwy hyblyg er mwyn croesawu’r holl ddysgwyr yn ôl yn ystod tymor yr hydref. Dylai rheolwyr drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau i rolau staff â’r unigolion.

Mae’n bwysig bod y gwaith cynllunio’n cynnwys yr angen i beidio â chynyddu pwysau'r llwyth gwaith yn ormodol ac yn ddiangen.

Os byddwch chi’n dal i boeni am eich capasiti staffio, ar ôl dilyn yr holl opsiynau sydd ar gael ar y pryd, argymhellir eich bod yn trafod â’r awdurdod lleol.

Recriwtio

Dylai recriwtio barhau fel arfer.

Mae partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon (ITE) wedi bod yn hyblyg i sicrhau bod yr Athrawon sydd Newydd Gymhwyso eleni yn barod ac wedi’u paratoi i fynd i’r ystafell ddosbarth. Byddant yn cael cefnogaeth gan y partneriaethau ITE a’r consortia rhanbarthol, wrth iddynt ddechrau ar eu rhaglenni sefydlu. Mae’r ddarpariaeth hon wedi’i chynllunio’n benodol i gefnogi Athrawon sydd Newydd Gymhwyso i bontio o’r ITE i’r rhaglen sefydlu, ac i ddatblygu eu harferion addysgu yn yr amgylchiadau presennol.

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i’r Rheoliadau sy’n llywodraethu’r broses sefydlu er mwyn sicrhau na fydd Athrawon sydd Newydd Gymhwyso o dan anfantais oherwydd trefniadau gweithio ysgolion yn ystod pandemig y Coronafeirws. Mae canllawiau ar y trefniadau diwygiedig ar gael yn yr adran Cyfnod Ymsefydlu ar Hwb.

Bydd y Rheoliadau diwygiedig a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf yn parhau mewn grym tan 31 Awst 2021.

Athrawon cyflenwi

Gall ysgolion barhau i gyflogi athrawon cyflenwi a staff cyflenwi eraill yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn argymell yn gryf bod ysgolion yn defnyddio Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Athrawon Cyflenwi yng Nghymru wrth gyflogi gweithwyr asiantaeth, gan ei fod yn cynnig rhestr o’r cyflenwyr a ffafrir sy’n gorfod bod yn dryloyw ynghylch y cyfraddau maent yn eu codi.

Er mwyn lleihau nifer y staff dros dro sy’n dod i mewn i adeiladau’r ysgol, a sicrhau’r gwerth gorau, efallai y bydd ysgolion am ddefnyddio aseiniadau hirach gydag athrawon/staff cyflenwi, a chytuno ar isafswm oriau yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mae’r cyngor hwn ar gyfer athrawon cyflenwi hefyd yn berthnasol i staff dros dro eraill sy’n gweithio mewn ysgolion, fel staff cymorth sy’n gweithio yn ôl y galw, athrawon peripatetig fel hyfforddwyr chwaraeon, a’r rheini sy’n cael eu cyflogi i ddarparu clybiau cyn ac ar ôl ysgol.

Disgwyliadau a lleoliadau athrawon dan hyfforddiant

Mae gan ein hysgolion partner ITE statws a chyfrifoldeb cyfartal yn eu Partneriaethau ITE i ddarparu ITE. Mae integreiddio profiadau rhwng ysgolion a sefydliadau addysg uwch yn hanfodol er mwyn sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn cael ITE o safon uchel. Felly, mae ysgolion mewn Partneriaethau ITE yn cael eu hannog yn gryf i barhau i dderbyn athrawon dan hyfforddiant.

Gallai myfyrwyr ITE chwarae rhan unigryw a sylweddol yn y gwaith o gefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod hwn. Dylai ysgolion drafod â’u Partneriaethau ITE sut gallant barhau i ddarparu eu cyfran o raglenni ITE mewn ffordd hyblyg ac arloesol, gan gefnogi anghenion athrawon dan hyfforddiant a'r ysgol ar yr un pryd.

Lles y staff

Dylid sicrhau mai lles y staff a’r dysgwyr yw’r brif flaenoriaeth. Yr allwedd i helpu dysgwyr i deimlo’n ddiogel yw gwneud yn siŵr bod y staff yn teimlo’n ddiogel. Gellir cyflawni hyn drwy gael gwybodaeth ddibynadwy a chyson, cynnwys staff wrth wneud penderfyniadau ar lefel leol, a chael cyd-ddealltwriaeth gydlynol o beth yw'r cynllun ar gyfer y cyfnod ar ôl COVID-19. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol fonitro llwyth gwaith staff ar bob lefel i wneud yn siŵr ei fod yn rhesymol ac yn briodol. Bydd angen i ysgolion a lleoliadau ystyried yr effeithiau posibl ar iechyd a lles staff ac arweinwyr, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Dylai fod llwybrau clir er mwyn codi pryderon gyda’r rheolwyr a’r arweinwyr. Dylid rhoi mecanweithiau cefnogi clir ar waith, er enghraifft mynediad at raglenni cymorth i weithwyr ac i Bartneriaeth Cefnogaeth Addysg.

Dylai amserlenni a rotas gefnogi lles staff.

Dylai awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu fod yn ymwybodol o les yr holl staff, gan gynnwys yr uwch arweinwyr. Mae hi’n naturiol y gallai fod angen mwy o gefnogaeth ar rai staff nag ar eraill. Bydd angen i uwch arweinwyr ystyried sut mae cefnogi’r rheini:

  • sydd wedi cael trafferth ymdopi â'r cyfnod hir gartref
  • sy’n poeni ynghylch gorfod delio â materion lles dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth gyda diffyg cefnogaeth
  • sydd wedi datblygu pryderon sy’n ymwneud â’r feirws a’u hiechyd a’u lles eu hunain (h.y. bod arnynt ofn dal y feirws yn yr ystafell ddosbarth)
  • sydd â phroblemau a oedd eisoes yn bodoli ond sydd efallai wedi cynyddu o ganlyniad i bandemig COVID-19
  • sydd wedi cael profedigaeth.

Mae COVID-19 yn ei gwneud hi’n bwysicach nag erioed ein bod yn cydnabod bod angen darparu gofod myfyriol i staff er mwyn prosesu a delio â phrofiadau anghyfforddus, ingol ac weithiau poenus gweithio gyda dysgwyr, pobl ifanc, eu teuluoedd a’r systemau o’u hamgylch.

Pan na fydd hi’n bosibl cyflogi cwnselydd at y diben penodol hwn, bydd arweinwyr mewn ysgolion yn rhoi cyfleoedd i staff drafod materion â nhw neu â’u cydweithwyr.

Mae rhannu profiadau a thrafod teimladau ac emosiynau’n gallu dod o hyd i feysydd lle mae angen cefnogaeth ychwanegol ac mae’n ymarfer defnyddiol yn ei rinwedd ei hun i helpu pobl i gefnogi eu lles eu hunain.

Dylai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion a lleoliadau i gefnogi staff, gan weithio’n agos gyda’r ddarpariaeth iechyd galwedigaethol. Dylai pob rhan o'r system gydweithio i sicrhau bod lles staff yn cael ei gefnogi’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol (fel rheoli negeseuon, osgoi dyblygu gwaith ac osgoi gofynion diangen ar staff).

Dylai staff fod yn ymwybodol o God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg ac efallai y bydd arnynt eisiau defnyddio’r canllawiau ymarfer da.

Lles dysgwyr

Lles y dysgwyr a’r staff yw’r brif flaenoriaeth. Wrth ddod â’r holl ddysgwyr yn ôl i ysgolion ac i leoliadau, dylai awdurdodau lleol weithio gyda’u hysgolion a’u staff i ystyried sut mae hyn yn effeithio ar les.

Er enghraifft, dylai’r staff atgyfnerthu arferion hylendid a chadw pellter cymdeithasol/corfforol yn gadarnhaol yn hytrach na stigmateiddio camgymeriadau. Yn yr un modd, dylai’r amserlen a’r cynllun sicrhau bod cyfleoedd priodol i gael amseroedd egwyl ac i dreulio amser yn yr awyr agored.

Bydd ysgolion a lleoliadau’n cadw llygad am fyfyrwyr sydd mewn gofid ac yn eu cefnogi. Dylid cynllunio a gweithredu gofal bugeiliol a chymorth oherwydd profedigaeth.

Mae’r Canllawiau dysgu yn cynnwys rhagor o ganllawiau manwl am gefnogi lles drwy ddysgu.

Cefnogaeth ddwys/arbenigol

Ar gyfer y dysgwyr hynny y mae angen cefnogaeth sy’n fwy dwys a/neu arbenigol arnynt, dylai hyn fod ar gael mewn ffordd briodol ac amserol, gyda chefnogaeth asesiad risg clir. Dylai awdurdodau lleol a gwasanaethau ar draws y GIG a gofal cymdeithasol weithio gydag ysgolion a lleoliadau i ganfod ac i gefnogi anghenion dysgwyr. Yn hyn o beth mae llawer o arferion da eisoes ar gael gan gynnwys:

  • y cyllid sydd wedi cael ei roi i awdurdodau lleol eleni i ehangu gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol ac yn y gymuned; hyfforddi athrawon ar les dysgwyr a chyflwyno ymyriadau cyffredinol ac wedi’u targedu mewn ysgolion
  • gwaith yr Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i hyfforddi athrawon mewn ymarfer ar sail trawma ac i ddatblygu Gwasanaeth Straen Trawmatig

Cymru gyfan. Mae hwn yn gweithredu fel cynllun gwella sy’n cynnig adnoddau, hyfforddiant a chyngor i uwchsgilio gweithwyr proffesiynol ym mhob sector i weithio gyda phobl drwy ddefnyddio triniaethau ar sail tystiolaeth ar gyfer trawma

  • nyrsio ysgol, sydd wedi datblygu trefniadau gweithio agos gyda gwasanaethau seicoleg dros y blynyddoedd diwethaf ac sy’n darparu gwasanaethau galw heibio mewn ysgolion gan ddarparu mwy a mwy o gefnogaeth iechyd meddwl
  • datblygu Matrics Cymru sydd wedi cael ei ddylunio i helpu i ddatblygu, cynllunio a darparu dull gweithredu ar draws Cymru i ddarparu gwasanaethau seicolegol i ddysgwyr a'u teuluoedd
  • adnoddau ychwanegol a fydd ar gael i gefnogi pobl ifanc, athrawon ac arweinwyr, ac eraill. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar iechyd meddwl ac emosiynol dysgwyr a darparu cefnogaeth lles yn yr amgylchedd newydd. Cafodd y cyntaf o'r adnoddau hyn ei lansio ar 1 Mehefin sef Pecyn cymorth iechyd meddwl person ifanc, sy’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau ar-lein sy’n gallu eu helpu drwy gyfnod y cyfyngiadau symud a’r tu hwnt. Mae’n cynnwys gwybodaeth am wefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy sy’n cefnogi iechyd a lles meddyliol.

Bydd y mwyafrif o’r dysgwyr yn dilyn y rheolau ond efallai na fydd lleiafrif yn eu deall.

Bydd dysgwyr ifanc, er enghraifft, yn tueddu i rannu cyfarpar a gwrthrychau, gan gyffwrdd a chofleidio heb feddwl. Mae hyn yn gallu bod yn arbennig o wir i ddysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion arbennig, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion corfforol ac sy’n cael llawer o gymorth drwy gyffwrdd. Dylai staff ysgolion arbennig ymgynghori â rhieni a gofalwyr am anghenion cefnogaeth penodol, a defnyddio eu disgresiwn yn hyblyg wrth gytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer dysgwyr penodol. Efallai y bydd angen i ysgolion a lleoliadau ystyried pa addasiadau sydd eu hangen i’w polisïau ymddygiad i ymateb i hyn.

Diogelu

Bydd amgylchedd cartref a phrofiadau dysgwyr wedi bod yn wahanol yn ystod y cyfyngiadau symud a dylid atgoffa’r holl staff o’u dyletswyddau diogelu yn y canllawiau diogelu statudol ar gyfer lleoliadau addysg Cadw dysgwyr yn ddiogel a gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Bydd rôl y person diogelu dynodedig yn hollbwysig a dylai’r holl staff a dysgwyr gael gwybod pwy yw’r person diogelu dynodedig a sut mae cysylltu â nhw. Bydd cadw pellter cymdeithasol/corfforol yn golygu ei bod hi’n anoddach cael gafael ar oedolyn y mae rhywun yn ymddiried ynddynt, neu’r person diogelu dynodedig, felly dylai ysgolion a lleoliadau ystyried sut gall dysgwyr siarad yn breifat.

Yn ystod y camau cynnar, dylai ysgolion, lleoliadau a gwasanaethau plant barhau i gydweithio’n agos i sicrhau bod pob plentyn a theulu yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen. Bydd gan awdurdodau lleol amrywiaeth o arferion gwaith mewn lle i sicrhau bod partneriaid diogelu yn gallu cydweithio i gadw dysgwyr yn ddiogel. Mae cyfle nawr i gyfnerthu’r arferion gwaith hyn ymhellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw anstatudol i atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio ar draws asiantaethau o’u cyfrifoldebau i ddiogelu dysgwyr a’u cefnogi i ymateb i bryderon am ddysgwyr sydd mewn perygl. Mae’r canllaw hwn yn gysylltiedig â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a dylid ei ddefnyddio gyda nhw.

Bwyd mewn ysgolion (gan gynnwys brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd)

Bydd y gofynion cyfreithiol arferol yn berthnasol ynghylch darparu bwyd mewn ysgolion, a dylid darparu bwyd yn unol â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Dylid cynnig bwyd a diod sydd â llai o fraster, siwgr a halen, a dylid cynyddu faint o ffrwythau a llysiau a physgod olewog sy’n cael eu bwyta. Mae Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol a Chyrff Llywodraethu wedi cael eu dylunio i helpu i roi’r Rheoliadau ar waith.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar ddysgwyr agored i niwed a dan anfantais i gael gafael ar fwyd a diod yn yr ysgol a dylai awdurdodau lleol, gan weithio gydag ysgolion a lleoliadau, ystyried anghenion yr holl ddisgyblion wrth lunio trefniadau ar gyfer y ddarpariaeth arlwyo. Bydd anghenion ychwanegol yn amrywio’n sylweddol ac efallai byddant yn fwy acíwt oherwydd y darpariaethau arbennig a fydd ar waith yn ystod COVID-19. Gallai enghreifftiau gynnwys materion yn ymwneud â mynediad ffisegol, anawsterau cyfathrebu, ac alergeddau neu ddeiet arbennig.

Prydau ysgol am ddim

Rydym yn atgoffa awdurdodau lleol y bydd y dyletswyddau cyfreithiol i ddarparu prydau ysgol am ddim yn dal yn berthnasol. Yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref os bydd ysgol wedi penderfynu na fydd disgwyl i ddysgwr sy’n cael prydau ysgol am ddim ddod i’r ysgol ar ddiwrnod penodol oherwydd bod y dysgwyr yn dychwelyd fesul cam, mae’n rhaid diwallu’r ddyletswydd i ddarparu pryd ysgol am ddim i’r dysgwr hwnnw.

Ar ben hynny, wrth drefnu i ddysgwyr cymwys gael prydau ysgol am ddim mae’n rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol6 gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd neb, ac eithrio'r rheini sydd wedi’u hawdurdodi dan ddeddfwriaeth, yn gallu adnabod dysgwr sy’n cael cinio ysgol am ddim.

Mae angen i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu fod yn arbennig o ymwybodol o’r ddyletswydd hon os ydynt yn trefnu i ddisgyblion gasglu prydau ysgol am ddim, os ydynt yn trefnu i ddanfon prydau ysgol am ddim i gartref disgyblion neu os oes angen iddynt addasu systemau til eu ffreutur er mwyn bodloni gofynion cadw pellter cymdeithasol.

Mae canllawiau wedi cael eu datblygu ar gyfer y sector lletygarwch ac mae’r rhain ar gael drwy’r ddolen ganlynol. Maent yn cynnwys canllawiau ar gyfleusterau arlwyo ac efallai y byddant yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau. Mae rhagor o gyngor ar gael hefyd ar:

Asiantaeth Safonau Bwyd

Busnesau twristiaeth a lletygarwch: canllawiau i ailagor yn raddol

UK Hospitality

Clybiau brecwast a darpariaeth ar ôl ysgol

Gan weithio gyda’u hysgolion dylai awdurdodau lleol ystyried ailgyflwyno cynlluniau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd a dylent ystyried ailgyflwyno unrhyw ddarpariaeth frecwast arall a darpariaeth ar ôl ysgol, pa un a yw’r ddarpariaeth hon yn cael ei chynnig gan yr ysgol neu’n cael ei chynnig y tu allan i’r ysgol gan ddarparwr preifat. Os bydd dysgwr yn mynd i fwy nag un lleoliad, er enghraifft yr ysgol a darpariaeth gofleidiol neu ar ôl ysgol, dylai’r dysgwr aros yn yr un grŵp bach ar draws y ddau leoliad pan fo’n bosibl.

Pan na fydd hynny’n bosibl, dylent aros yn yr un grwpiau bach yn y naill leoliad a'r llall. Os oes angen i ddysgwyr fynd i fwy nag un lleoliad, bydd angen i rieni, ysgolion a lleoliadau drafod y risgiau hyn ac ystyried sut mae eu rheoli.

Dylai awdurdodau lleol gefnogi ysgolion, a bydd angen i ddarparwyr weithio mewn partneriaeth agos i ystyried yn llawn sut bydd darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol yn gallu gweithio ochr yn ochr â’u mesurau diogelu ehangach.

Mae’n hollbwysig bod ysgolion a phartneriaethau gofal plant yn cydweithio yn hyn o beth, gan fod llawer o rieni’n dibynnu ar ofal plant cofleidiol ac y tu allan i oriau ysgol bob pen i’r diwrnod ysgol.

Ystadau

Nid ydym yn credu bod angen i ysgolion a lleoliadau wneud addasiadau mawr i’w safle er mwyn iddynt allu croesawu’r holl ddysgwyr yn ôl. Fodd bynnag, cydnabyddir efallai y bydd angen ymestyn amser cinio i sicrhau bod disgyblion yn cael amser i fwyta.

Mae hi’n annhebygol iawn y bydd angen i ysgolion ddarparu unrhyw ran o’u haddysg mewn safleoedd eraill (megis canolfannau cymunedol/neuaddau pentref) oherwydd bydd modd glanhau’r ardaloedd a fydd yn cael eu defnyddio gan fwy nag un dosbarth neu grŵp rhwng pob dosbarth neu grŵp.

Dylid paratoi pob asesiad risg sy’n ymwneud ag adeiladau drwy ymgynghori â’r undebau llafur lleol. Ar ôl gwneud asesiad risg, efallai y bydd rhai ysgolion yn penderfynu bod angen gwneud mân addasiadau i’w safle, fel gosod basnau ychwanegol i olchi dwylo. Bydd hyn yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn yr ysgol/lleoliad unigol, ar sail yr amgylchiadau penodol.

Cyn ailagor ar gyfer tymor yr hydref mae hi’n bwysig cynnal yr holl archwiliadau arferol sy’n cael eu gwneud i’r adeiladau cyn dechrau unrhyw dymor er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn ddiogel.

Os oedd adeiladau wedi cael eu cau neu os oedd llai wedi bod yn eu defnyddio yn ystod COVID-19, mae dŵr yn gallu sefyll oherwydd diffyg defnydd, sy’n cynyddu’r perygl o glefyd y llengfilwyr. Lle trowyd prif gyflenwad y dŵr i ffwrdd ers cau’r safle dros y cyfnod clo, pan gaiff ei ailgysylltu bydd angen ei redeg er mwyn cael gwared ar unrhyw gronni microbiolegol neu gemegol a ddigwyddodd tra oedd y cyflenwad wedi’i ddatgysylltu.

Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli dŵr a chlefyd y llengfilwyr ar gael ar eu gwefan7.

Mae’n bosibl y byddai’n ddefnyddiol darllen canllawiau’r Arolygiaeth Dŵr Yfed8 ar ddefnyddio adeiladau unwaith eto ar ôl iddynt fod yn segur am gyfnod. Mae’r canllawiau’n rhoi sylw i nifer o faterion ansawdd y dylid eu hystyried. Mae'r canllawiau ar gael ar dudalen we gyffredinol yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.

Bydd hi’n bwysig bod ysgolion yn sicrhau awyru da ym mhob rhan o’u safle (er enghraifft, drwy agor ffenestri a drysau yn aml pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny).

Mae awyru da yn hanfodol bob amser. Dylai ysgolion sicrhau bod pob system yn gweithio yn y modd gweithredu arferol a dylent:

  • wirio p’un a oes angen rhoi gwasanaeth i’r systemau awyru neu eu haddasu, er enghraifft i sicrhau nad ydynt yn lleihau’r lefelau awyru yn awtomatig am fod llai o bobl nag arfer ar y safle
  • nodi nad oes angen addasu’r rhan fwyaf o systemau aerdymheru, ond lle bydd systemau yn gwasanaethu mwy nag un adeilad, neu lle bydd ysgolion yn ansicr, dylid gofyn i beirianwyr neu gynghorwyr gwresogi, awyru ac aerdymheru priodol.
  • Dylid awyru’n naturiol drwy ddefnyddio ffenestri neu fentiau cymaint ag y bo modd.

Os defnyddir system awyru fecanyddol ganolog, dylid addasu’r systemau ailgylchredeg i awyr iach llawn, os nad yw hyn yn bosibl dylid gweithredu’r systemau’n ôl yr arfer. Pan fydd hidlyddion mewn unedau awyru, gwnewch yn siŵr bod rhagor o ragofalon yn cael eu cymryd wrth newid yr hidlyddion.

Ymweliadau addysgol

Mae Llywodraeth Cymru, yn unol â chyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn parhau i gynghori yn erbyn pob taith addysg dramor i blant dan 18 oed a drefnir gan leoliadau addysgol. Byddwn yn cadw golwg ar hyn.

Gall ymweliadau addysgol domestig nad ydynt dros nos ailddechrau yn nhymor yr hydref. Dylai'r rhain gael eu gwneud yn unol â mesurau amddiffynnol, megis mesurau diogel COVID mewn lleoedd yn y gyrchfan. Dylai ymweliadau gael eu hasesu'n risg yn drylwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn ddiogel. Fel rhan o'r asesiad risg, bydd angen i ysgolion ystyried pa fesurau rheoli y mae angen eu defnyddio a sicrhau eu bod wedi ystyried cyngor ehangach ar ymweld â lleoliadau dan do ac awyr agored. Bydd ysgolion eisiau ystyried anghenion pob dysgwr sy'n cymryd rhan mewn ymweliad addysgol, gan gynnwys eu gallu i gydymffurfio â mesurau diogelwch COVID yn y lleoliad. Dylent hefyd gofio diogelwch staff goruchwylio. Bydd angen i ysgolion hefyd fod â digwyddiadau wrth gefn pe bai newidiadau i fesurau coronafeirws cenedlaethol, rhanbarthol neu leol.

Gwisg ysgol

Corff llywodraethu ysgol sy’n gyfrifol am benderfynu ynghylch gwisg ysgol. Roedd rhai ysgolion wedi llacio eu polisi gwisg ysgol dros dymor yr haf. Fodd bynnag, byddem yn annog pob ysgol i ddychwelyd at eu polisïau arferol ar wisg ysgol yn nhymor yr hydref. Gall gwisg ysgol chwarae rhan werthfawr wrth gyfrannu at ethos ysgol a gosod naws briodol.

Os bydd corff llywodraethu’n penderfynu llacio ei bolisi gwisg ysgol, dylid mabwysiadu agwedd sy’n ymwybodol o dlodi, gan gofio ei bod yn gallu bod yn anodd i rai teuluoedd brynu dillad penodol neu ychwanegol. Dylid hyrwyddo’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad ymysg teuluoedd cymwys.

Cynnal rhaglenni brechu yn yr ysgol yn ystod COVID-19

Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ysgolion i gynnal sesiynau brechu’r GIG.

Mae brechu plant wastad wedi bod yn elfen hanfodol o’r rhaglen imiwneiddio genedlaethol, gan helpu i sicrhau tegwch a bod cyfradd uchel o blant yn cael eu brechu.

Mae rhaglenni imiwneiddio plant y DU yn llwyddiannus iawn o ran lleihau nifer yr achosion o glefydau difrifol a heintus iawn megis y frech goch a heintiau meningococol. Mae hi’n bwysig cynnal lefelau uchel o frechu i atal y rhain a chlefydau eraill y gellir eu hatal rhag ailymddangos.

Yr hydref yma, bydd atal cydheintio â’r ffliw a COVID-19 yn flaenoriaeth allweddol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Bydd hi’n arbennig o bwysig brechu plant ysgolion cynradd rhag y fliw. Mae plant yn archledaenwyr ffliw ac mae’r brechlyn chwistrelliad i’r trwyn sy’n cael ei gynnig i’r grŵp oed hwn wedi bod yn effeithiol dros ben. Mae brechu rhag y ffliw o fantais i’r plentyn ac mae’n ddiogelwch anuniongyrchol i weddill y boblogaeth. Byddai cynyddu nifer y plant cymwys sy’n cael eu brechu yn cael effaith sylweddol ar leihau’r risg o drosglwyddo'r ffliw ar draws pob grŵp yn y gymuned.

Mae angen ymdrech ar y cyd i gynyddu’r niferoedd sy’n cael eu brechu’n sylweddol er mwyn peidio ag ychwanegu unrhyw bwysau diangen ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol.

Mae penaethiaid a staff ysgolion ledled Cymru bob amser wedi bod yn gefnogol iawn o raglenni brechu mewn ysgolion. Mae cynnal y rhaglenni hyn yn ystod pandemig COVID-19 wedi cyflwyno nifer o heriau a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae’r gefnogaeth ychwanegol sy’n cael ei chynnig gan ysgolion drwy gynnig mynediad i eiddo ysgolion i gynnal sesiynau imiwneiddio i bob oedran ysgol yn bwysicach ac yn fwy gwerthfawr nag erioed.

Dylai ysgolion ymgysylltu â’u timau imiwneiddio lleol i ddarparu rhaglenni imiwneiddio ar y safle, gan sicrhau y bydd y rhain yn cael eu darparu gan ddilyn mesurau rheoli’r ysgol. Mae’r rhaglenni hyn yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles plant.

Cynlluniau wrth gefn

Er mai’r bwriad yw bod pob dysgwr yn dychwelyd i’r ysgol yn yr hydref, bydd angen i bob ysgol hefyd gynllunio ar gyfer y posibilrwydd o ragor o gyfyngiadau symud lleol.

O ystyried ein hansicrwydd ynghylch lefelau trosglwyddo yn y dyfodol, am gryn amser eto, mae’n hanfodol ein bod yn paratoi ar gyfer pob math o amgylchiadau posibl.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos i fonitro cyflyrau iechyd, gan weithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau lleol, yn enwedig os bydd llawer o achosion lleol.

Polisïau a gweithdrefnau

Efallai y bydd ysgolion a lleoliadau, gan weithio’n agos gyda’r awdurdod lleol, eisiau ailystyried eu polisïau a’u gweithdrefnau yn sgil y canllawiau hyn, gan gynnwys diogelwch, ymddygiad a gadael os oes tân.

Atodiad A: Dull o gyfrifo a rheoli risg

Image
Atodiad A: Dull o gyfrifo a rheoli risg

Mae’r hierarchaeth hon o reolaethau yn ffordd o flaenoriaethu mesurau rheoli risg ar sail pa mor effeithiol yw gwahanol fathau o reolaethau i leihau risgiau. Dylid asesu mesurau lleihau risg yn ôl y flaenoriaeth yn yr hierarchaeth; ni ddylid neidio i’r mesur rheoli hawsaf ei roi ar waith. Mae mathau o reolaethau sy’n uwch yn yr hierarchaeth yn fwy effeithiol i leihau risgiau na’r rheolaethau sy’n is yn yr hierarchaeth. Dylai rheolaethau fod yn ymarferol i’w rhoi ar waith ac, yn ddelfrydol, dylai fod yn hawdd eu cynnal dros amser.

Mae’n hollbwysig cofio mai pur anaml y bydd hi’n bosibl dileu’r risg yn llwyr. Dylai’r cyfuniad o reolaethau a gyflwynir geisio lleihau’r risg i lefel mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol, gan flaenoriaethu ymyriadau strwythurol ac amgylcheddol dros rai unigol.

Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu ystyried risgiau trosglwyddo yn unig – mae hefyd angen cydbwyso’r rhain yn erbyn risgiau o ran iechyd, lles a dysgu yn ehangach. Yn y pen draw, mae angen hyblygrwydd ar ysgolion i ymateb i’r risgiau hyn yn ôl eu gallu.

Wrth ystyried cyswllt rhwng grwpiau cyswllt, byddem yn cynghori ysgolion i ystyried:

1. Dileu: Ailgynllunio’r gweithgaredd er mwyn dileu’r risg neu gael gwared arni.

2. Newid: Newid y gweithgaredd am weithgaredd arall sy’n lleihau’r risg. Mae angen bod yn ofalus er mwyn osgoi cyflwyno peryglon newydd wrth newid y gweithgaredd.

3. Rheolaethau peirianyddol: Cynllunio mesurau sy’n helpu i reoli neu liniaru risg.

4. Rheolaethau gweinyddol: Canfod a gweithredu’r gweithdrefnau er mwyn gwella diogelwch.

5. Ar ôl dilyn y broses hon, dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol pan fydd y canllawiau’n argymell hyn.

Atodiad B: Asesu risg iechyd a diogelwch

Yn benodol i’r Coronafeirws (COVID-19)

Mae angen i bawb asesu a rheoli risgiau’r coronafeirws (COVID-19). Mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i gyflogwyr ac arweinwyr ysgolion feddwl am y risgiau y mae staff a disgyblion yn eu hwynebu a gwneud popeth sy’n rhesymol ymarferol i’w lleihau, gan gydnabod na allant ddileu risg coronafeirws (COVID-19) yn llwyr. Felly, rhaid i gyflogwyr ysgol sicrhau bod asesiad risg wedi cael ei gynnal i gael gwybod pa fesurau sydd eu hangen i leihau’r risgiau coronafeirws (COVID-19) i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, a gwneud yr ysgol yn ddiogel o ran COVID-19. Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar weithio’n ddiogel yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am sut mae gwneud gweithle’n ddiogel o ran COVID-19, gan gynnwys sut mae mynd ati i gynnal asesiad risg coronafeirws (COVID-19).

Bydd awdurdodau lleol yn parhau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i gynnal asesiad risg COVID-19 drwy ystyried y mesurau yn y canllawiau hyn i lywio eu penderfyniadau a’u mesurau rheoli. Nid creu llawer iawn o waith papur yw diben asesiad risg, ond yn hytrach, nodi mesurau synhwyrol i reoli'r risgiau yn y gweithle, a rôl pobl eraill i gefnogi hynny. Bydd yr asesiad risg yn helpu awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau ynghyd â chyflogwyr i benderfynu a ydynt wedi gwneud popeth y mae angen iddynt ei wneud. Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion, fel cyflogwyr, ddyletswydd gyfreithiol i ymgynghori â’u gweithwyr ynghylch iechyd a diogelwch mewn da bryd.

Mae hefyd yn gwneud synnwyr cynnwys disgyblion (lle bo hynny’n berthnasol) a rhieni mewn trafodaethau ynghylch penderfyniadau iechyd a diogelwch, i’w helpu i ddeall y rhesymau dros roi’r mesurau ar waith. Gall cyflogwyr wneud hyn drwy wrando a siarad â nhw ynghylch sut bydd yr ysgol yn rheoli risgiau COVID-19 ac yn gwneud yr ysgol yn ddiogel o ran COVID-19. Yn aml iawn y bobl sy’n gwneud y gwaith yw’r bobl orau i ddeall y risgiau yn y gweithle, a bydd ganddynt farn ynghylch sut mae gweithio’n ddiogel. Mae eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau yn dangos bod eu hiechyd a’u diogelwch yn bwysig i’r ysgol.

Rhannu eich asesiad risg

Dylai ysgolion a lleoliadau rannu canlyniadau eu hasesiad risg â’u gweithlu. Os oes modd, dylent ystyried ei gyhoeddi ar eu gwefan er mwyn gweithredu mewn ffordd dryloyw ar gyfer rhieni, gofalwyr a dysgwyr (byddai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn disgwyl i bob cyflogwr sydd â dros 50 o staff wneud hynny).

Monitro ac adolygu rheolaethau risg

Mae’n bwysig bod cyflogwyr yn gwybod pa mor effeithiol yw eu rheolaethau risg. Dylent fonitro ac adolygu’r mesurau ataliol a gwarchodol yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y mesurau’n gweithio, a chymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyflogwyr ddiogelu eu gweithwyr, ac eraill, rhag niwed. Yn sgil Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol o leiaf:

  • nodi beth allai achosi anaf neu salwch yn y sefydliad (peryglon)
  • penderfynu pa mor debygol ydyw y gallai rhywun gael ei niweidio, a pha mor ddifrifol (y risg)
  • cymryd camau i ddileu’r perygl, neu os nad yw hyn yn bosibl, rheoli’r risg. Rhaid i ysgolion benodi person cymwys i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau iechyd a diogelwch.

Y cyflogwr sy’n gyfrifol am y dyletswyddau perthnasol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mewn llawer o achosion, gellir dirprwyo’r gwaith o redeg yr ysgol o ddydd i ddydd i’r pennaeth ac i dîm rheoli’r ysgol. Ond, yn y rhan fwyaf o achosion, y cyflogwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys materion iechyd a diogelwch.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu mwy o wybodaeth am rôl awdurdodau lleol ac ysgolion fel cyflogwyr yn y canllawiau ‘The role of school leaders - who does what’, a chanllaw syml i egluro pwy yw’r cyflogwr ym mhob math o ysgol yn ei adran cwestiynau cyffredin (FAQs), o dan ‘Who is accountable for health and safety within a school?’. Er mai penaethiaid ysgolion sy'n cyflawni llawer o’r camau y cyfeirir atynt yn y canllawiau hyn o bosib, bydd angen i’r cyflogwr sicrhau ei hun eu bod wedi cael eu cyflawni, gan mai'r cyflogwr sy’n dal yn atebol am iechyd a diogelwch. Os nad oes asesiad risg coronafeirws (COVID-19) wedi cael ei gynnal yn barod, dylai cyflogwyr sicrhau bod un yn cael ei gynnal ar gyfer eu hysgol cyn gynted â phosibl. Gan fod llawer o ddisgyblion eisoes wedi mynychu’r ysgol yn gynharach yn y flwyddyn, mae’n debygol bod y cyflogwr wedi ystyried llawer o’r pethau hyn yn barod. Rydym yn argymell bod cyflogwyr yn defnyddio’r ddogfen hon i ddod o hyd i unrhyw welliannau eraill y dylent eu gwneud.

Canllawiau ehangach ar y broses asesu risg

Mae asesiadau risg iechyd a diogelwch yn nodi mesurau i reoli risgiau yn ystod gweithgareddau mewn lleoliadau addysg a gofal plant. Mae’r gyfraith iechyd a diogelwch yn mynnu bod cyflogwr yr ysgol yn asesu risgiau ac yn rhoi mesurau ar waith i leihau’r risgiau i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol. Mae’r gyfraith hefyd yn mynnu bod cyflogwyr yn cofnodi manylion asesiadau risg, y camau a gymerwyd i leihau’r risgiau hyn, a’r canlyniadau disgwyliedig. Mae angen i ysgolion gofnodi canfyddiadau arwyddocaol yr asesiad drwy nodi:

  • y peryglon
  • sut gallai pobl gael eu niweidio ganddynt
  • beth sydd ganddynt ar waith i reoli risg.

Dylai cofnodion yr asesiad fod yn syml, a dylent ganolbwyntio ar reolaethau. Dylai’r canlyniadau esbonio i eraill beth mae’n rhaid iddynt ei wneud, a helpu staff i gynllunio a monitro.

Mae asesiadau risg yn ystyried pa fesurau sydd eu hangen arnoch i ddiogelu iechyd a diogelwch yr holl:

  • staff
  • dysgwyr
  • ymwelwyr
  • contractwyr.

Bydd angen i ysgolion feddwl am y risgiau a all godi yn ystod y dydd. Gallai hyn gynnwys unrhyw beth sy’n ymwneud â’r safle, darparu bwyd a diod neu’r gwaith o ddarparu ei gwricwlwm neu ei weithgareddau, boed hynny ar y safle neu mewn perthynas â gweithgareddau oddi ar y safle.

Ymgynghori â gweithwyr (cyffredinol)

Mae’n ofyniad cyfreithiol ei bod yn rhaid i gyflogwyr ymgynghori â'r cynrychiolydd iechyd a diogelwch a ddewiswyd gan undeb llafur cydnabyddedig neu, os nad oes un, cynrychiolydd a ddewiswyd gan y staff. Nid yw’r cyflogwr yn cael dewis pwy fydd y cynrychiolydd.

Pan fydd ar ei orau, mae cynnwys eich staff yn llawn yn creu diwylliant lle mae cysylltiadau rhwng cyflogwyr a staff yn seiliedig ar gydweithrediad, ymddiriedaeth a datrys problemau ar y cyd. Yn unol â’r drefn arferol, dylai staff fod yn ymwneud ag asesu’r risgiau yn y gweithle a datblygu ac adolygu’r polisïau iechyd a diogelwch yn y gweithle mewn partneriaeth â’r cyflogwr. Nid yw ymgynghori’n cael gwared ar hawl y cyflogwr i reoli. Y cyflogwr fydd yn dal i wneud y penderfyniad terfynol, ond mae siarad â gweithwyr yn rhan bwysig o reoli iechyd a diogelwch yn llwyddiannus.

Anogir arweinwyr i sicrhau eu bod yn dechrau ymgynghori â staff cyn gwyliau’r haf ar unrhyw newidiadau i asesiadau risg a fydd ar waith erbyn dechrau tymor yr hydref, er mwyn sicrhau bod gan y rheini sydd â chontractau yn ystod y tymor yn unig ddigon o amser i gyfrannu.

Datrys problemau a chodi pryderon

Dylai cyflogwyr a staff bob amser ddod at ei gilydd i ddatrys problemau. Wrth i ddarparwyr agor yn ehangach, dylai unrhyw bryderon ynghylch y rheolaethau gael eu codi i ddechrau gyda rheolwyr llinell a chynrychiolwyr undebau llafur, a dylai cyflogwyr gydnabod y pryderon hynny a’u hystyried yn briodol. Os na fydd hynny’n datrys y problemau, gellir codi’r pryder gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Pan fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dod o hyd i gyflogwyr nad ydynt yn cymryd camau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau perthnasol o ran iechyd y cyhoedd i reoli risgiau i iechyd y cyhoedd, byddant yn ystyried cymryd amrywiaeth o gamau i wella'r modd y caiff risgiau yn y gweithle eu rheoli. Mae’r camau y gall yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch eu cymryd yn cynnwys darparu cyngor penodol i gyflogwyr drwy gyhoeddi hysbysiadau gorfodi er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau.

Trefniadau ar gyfer arholiadau'r gaeaf: atodiad i'r canllawiau gweithredol ar gyfer lleoliadau addysg

Mae'r atodiad hwn yn nodi trefniadau iechyd cyhoeddus ychwanegol y dylai ysgolion, colegau a chanolfannau arholi eraill eu gweithredu wrth gyflwyno arholiadau yng nghyfres arholiadau gaeaf 2020 er mwyn eu galluogi i symud ymlaen mewn ffordd sy’n ddiogel o ran y coronafeirws (COVID-19).

Mae'r canllawiau isod yn atodol ac yn egluro'r canllawiau gweithredol a ddarparwyd eisoes i ysgolion a darparwyr ôl-16. Mae'n berthnasol yn benodol i arholiadau mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021 (cyfres gaeaf 2020).

Mae'r atodiad ar gyfer:

  • uwch arweinwyr ysgolion a cholegau
  • penaethiaid mathau eraill o ganolfan arholiadau sy'n cynnig arholiadau TGAU, Safon Uwch/UG neu gymhwyster galwedigaethol a thechnegol (VQ) yn hydref 2020
  • swyddogion arholiadau a staff eraill sy'n ymwneud â chyflwyno arholiadau
  • awdurdodau lleol.

Mae'n berthnasol i bob math o ganolfan arholiadau, gan gynnwys:

  • ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth
  • sefydliadau addysg bellach
  • darparwyr hyfforddiant annibynnol
  • ysgolion annibynnol
  • darparwyr dysgu oedolion a chymunedol
  • canolfannau arholiadau preifat.

Y cynlluniau ar gyfer yr arholiadau

Pryd y cynhelir yr arholiadau

Mae amserlen CBAC ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith, Saesneg Iaith, Mathemateg a Rhifedd Mathemateg o 2 i 11 Tachwedd, ac mae amserlen mis Ionawr o 5 i 14 Ionawr. Mae'n bosibl y bydd rhai ardaloedd yn profi cyfnodau clo neu gyfyngiadau lleol i wahanol raddau yn ystod cyfnod yr arholiadau, gan gynnwys cyfnod clo llym. Ein disgwyliad ni yw y bydd y gyfres arholiadau'n cael ei chynnal lle mae ysgolion a cholegau ar agor, hyd yn oed os yw hyn ar gyfer grwpiau llai o fyfyrwyr.

Rydym hefyd yn disgwyl i ysgolion a cholegau mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol gynnal arholiadau. Pan fo ymgeiswyr yn teithio i ardal neu o fewn ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol i sefyll arholiadau, dylent gyfeirio at y canllawiau ar gyfyngiadau lleol.

Dylai ymgeiswyr ddisgwyl gallu teithio at ddibenion sefyll arholiadau, gan gynnwys teithio o fewn, ac i mewn ac allan o ardaloedd sy'n destun cloeon lleol, ac eithrio os ydynt wedi profi'n bositif, bod ganddynt symptomau neu os ydynt wedi’u cadarnhau fel cyswllt agos i rywun sydd wedi profi’n bositif.

Ymgeiswyr sy'n colli arholiadau yng nghyfres y gaeaf

Cyn belled â bod yr ymgeiswyr wedi cwblhau’r asesiadau gofynnol angenrheidiol ar gyfer eu pwnc, gall eu hysgol neu goleg wneud cais am 'ystyriaeth arbennig'. Mae'r asesiadau gofynnol angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn cael ‘ystyriaeth arbennig’ yn amrywio yn ôl cymhwyster. Yn achos TGAU, Safon UG a Safon Uwch, os yw’r ymgeiswyr wedi cwblhau o leiaf 25% o'r asesiadau yn y pwnc yng nghyfres yr hydref, byddant yn cael gradd (noder bod yn rhaid cwblhau 25% o'r asesiad ar gyfer Safon Uwch gydag o leiaf un uned ar lefel A2).

Mae'n bosibl na fydd rhai ymgeiswyr, yn anffodus, yn gallu mynychu rhai neu unrhyw un o'u harholiadau. Bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n cwblhau llai na'r asesiadau gofynnol angenrheidiol ac felly na ellir dyfarnu gradd iddynt yng nghyfres y gaeaf, yn gallu dewis cael gradd yng nghyfres yr haf.

Paratoi ar gyfer cyfres arholiadau'r gaeaf a’u cynnal

Ymgysylltu â'r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn deall y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu a'ch bod wedi darllen y canllawiau ar gyfer lleoliadau addysgol (gweler ‘Ymgysylltu â'r Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu’ o dan Mesurau Diogelu ar dudalen 7 yn y canllawiau gweithredol).

Bydd angen i'ch ysgol neu goleg gasglu a chadw gwybodaeth gyswllt ar gyfer ymgeiswyr a goruchwylwyr er mwyn gallu ei rhannu â Phrofi, Olrhain, Diogelu os bydd angen. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer unrhyw ymwelwyr allanol, gan gynnwys unrhyw staff nad ydynt yn rhan o'r ysgol sy'n cynorthwyo gydag arholiadau, ac ymgeiswyr nad ydynt wedi’u cofrestru yn yr ysgol neu'r coleg. Bydd gan bob arholiad gynllun eistedd y gellir ychwanegu enwau'r goruchwylwyr ato a'u croesgyfeirio at y manylion cyswllt sydd gennych ar gyfer ymgeiswyr a goruchwylwyr.

Y trefniadau cyrraedd a gadael ar gyfer ymgeiswyr

Pan fydd ymgeiswyr yn cyrraedd cyn amser dechrau'r arholiadau, bydd angen i chi sicrhau bod hyn yn cael ei reoli ochr yn ochr â threfniadau cyrraedd y myfyrwyr eraill yn yr ysgol neu'r coleg, er mwyn cadw’r ymgeiswyr ar wahân i fyfyrwyr eraill.

Dylech hefyd sicrhau bod mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn ar gyfer unrhyw ymgeiswyr sy'n cyrraedd yn hwyr ar gyfer yr arholiad.

Bydd angen i chi sicrhau bod cynllun yn ei le i reoli’r ymgeiswyr sy'n dod i mewn ac yn gadael yr ystafell arholi a'r safle, oherwydd gallai’r arholiadau orffen ar adegau gwahanol. Fel rhan o hyn, bydd angen i chi ystyried unrhyw ymgeiswyr sydd angen amser ychwanegol mewn arholiadau.

Glanhau

Cyfeiriwyd at y canllawiau a gyhoeddwyd ar lanhau lleoliadau nad ydynt yn ymwneud â gofal iechyd yn ein canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a darparwyr ôl-16. Mae’r canllawiau hyn yn nodi cyngor ar lanhau cyffredinol ochr yn ochr â chyngor ar lanhau lleoliadau os bydd achos a amheuir o’r coronafeirws (COVID-19).

Nid yw'n ofynnol gadael ystafelloedd yn wag am gyfnod rhwng arholiadau, ar yr amod bod y glanhau a amlinellir uchod yn digwydd rhwng arholiadau.

Yr ystafell arholiadau

Ar gyfer arholiadau TGAU, Safon UG a Safon Uwch, rhaid i'r pellter lleiaf i bob cyfeiriad o ganol i ganol cadeiriau ymgeiswyr fod yn 1.25 metr, yn unol â ‘Chyfarwyddiadau'r JCQ ar gyfer cynnal arholiadau’. Y pellter hwn yw'r pellter byrraf y mae'n rhaid ei gynnal a'i gadw ar gyfer myfyrwyr o fewn grŵp cyswllt. Ar gyfer arholiadau cymwysterau galwedigaethol, dylech ddilyn y canllawiau a bennwyd gan y sefydliad dyfarnu perthnasol.

Dylai pob ymgeisydd arall, boed mewn grwpiau cyswllt gwahanol, ymgeiswyr preifat neu'r rheini sy'n dychwelyd i'r ysgol neu'r coleg i sefyll arholiadau, eistedd 2 fetr ar wahân i'w gilydd. Gallant fod yn yr un ystafell ond dylid cadw pellter o 2 fetr rhwng ymgeiswyr sydd mewn grwpiau cyswllt gwahanol. Cyn belled â bod ymgeiswyr sydd mewn grwpiau cyswllt gwahanol yn aros 2 fetr ar wahân bob amser, ni ddylai hyn gyfrif fel cyswllt at ddibenion profi ac olrhain.

Nid oes terfyn cyffredinol ar nifer yr ymgeiswyr sy'n gallu eistedd mewn ystafell, ar yr amod bod y bwlch rhwng y desgiau’n gywir. Mae'r terfyn uchaf ar nifer yr ymgeiswyr sy'n gallu sefyll arholiad mewn ystafell gyda'i gilydd yn cael ei bennu ar sail y gofynion o ran bylchau rhwng desgiau. Fel y nodir yn y prif ganllawiau gweithredol, mae'n bwysig sicrhau awyru da a’i ddefnyddio i’r eithaf lle bynnag y bo modd.

Gall goruchwylwyr gerdded i fyny ac i lawr rhwng desgiau, ond rhaid cael pwyntiau hefyd yn yr ystafell lle gall y goruchwylydd sefyll o leiaf 2 fetr o'r desgiau agosaf a gweld yr holl ymgeiswyr yn yr ystafell. Os bydd goruchwylydd yn mynd yn agos at ddesg ond yn treulio'r rhan fwyaf o’r amser mewn mannau eraill, e.e. ar flaen neu gyrion yr ystafell, nid yw hynny'n eu gwneud yn gyswllt.

Gorchuddion wyneb

Dylech ddarllen yr adran ar ddefnyddio gorchuddion wyneb at ddibenion iechyd yn y canllawiau gweithredol. Nid oes angen i ymgeiswyr wisgo gorchuddion wyneb wrth sefyll arholiadau. Hefyd, nid oes angen i oruchwylwyr wisgo gorchuddion wyneb yn ystod arholiadau. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr a goruchwylwyr wisgo gorchuddion wyneb os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Dylai lleoliadau ddefnyddio dull asesu risg i benderfynu a ddylid argymell bod angen i ymgeiswyr a goruchwylwyr wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cymunedol lle nad yw'n bosibl cynnal pellter o 2 fetr. Gweler y cyngor ar orchuddion wyneb.

Dylai pawb ddilyn y gofynion ar wisgo gorchuddion wyneb os ydynt yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i arholiadau.

Goruchwylwyr

Bydd gan eich ysgol neu goleg brotocolau yn eu lle ar gyfer ymwelwyr a staff dros dro. Gall goruchwylwyr symud rhwng gwahanol ysgolion a cholegau. Dylent sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o gyswllt â phosibl ac yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth staff eraill.

Bydd angen i chi sicrhau bod y goruchwylwyr yn cael eu briffio'n llawn cyn yr arholiadau ynghylch beth yw'r disgwyliadau arnynt o ran lleihau cyswllt a chynnal cymaint o bellter â phosibl oddi wrth staff eraill.

Nid yw'n ofynnol i oruchwylwyr wisgo menig wrth gasglu sgriptiau arholiad gan ymgeiswyr ond dylent olchi eu dwylo'n drylwyr ac yn amlach nag arfer ac yn enwedig ar ôl trafod papurau arholiad.

Cadw pellter rhwng staff ac ymgeiswyr

Dylech gynghori goruchwylwyr a staff eraill i sefyll ochr yn ochr ag ymgeiswyr wrth ryngweithio â nhw yn hytrach nag wyneb yn wyneb.

Ar gyfer cyfnodau hir o fwy na 15 munud, er enghraifft pan fo ysgrifenyddion/ darllenwyr neu unigolion eraill yn rhoi cymorth i ymgeiswyr, dylai staff gadw pellter o 2 fetr lle bo modd a hynny drwy ddefnyddio ystafelloedd ar wahân ar gyfer hyn. Os nad yw hyn yn bosibl, dylent osgoi cyswllt wyneb yn wyneb agos a lleihau’r amser a dreulir o fewn 1 metr at unrhyw un.

Efallai na fydd y trefniadau hyn yn bosibl wrth weithio gyda rhai ymgeiswyr sydd ag anghenion cymhleth, ac felly dylid darparu cymorth addysgol yr ymgeiswyr hyn yn ôl yr arfer yn ystod arholiadau. I gael rhagor o wybodaeth, dylech ddarllen y canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed a dysgwyr sydd o dan anfantais.

Iechyd yr ymgeisydd

Mae’r canllawiau i aelwydydd a allai fod wedi’u heintio â’r coronafeirws (COVID-19) yn berthnasol drwyddi draw.

Gweithredu gan yr ysgol a'r coleg

Rhaid i ysgolion a cholegau gymryd camau’n gyflym pan fyddant yn dod i wybod bod ymgeisydd a gofrestrwyd ar gyfer cyfres arholiadau’r gaeaf wedi profi'n bositif ar gyfer y coronafeirws (COVID-19). Rhaid iddynt ddilyn y canllawiau a amlinellir yn y canllawiau ar brofi ac olrhain cysylltiadau mewn lleoliadau addysg.

Ymgeiswyr â symptomau

Rhaid i unrhyw ymgeiswyr sydd â symptomau coronafeirws (COVID-19) aros gartref am 10 diwrnod o ddechrau'r symptomau a rhaid iddynt beidio â gadael eu cartrefi.

Ni fydd yr ymgeiswyr yn gallu sefyll arholiadau yn ystod eu cyfnod ynysu. Os nad yw'r ymgeiswyr yn cael eu profi ar gyfer y coronafeirws (COVID-19), rhaid iddynt ynysu am 10 diwrnod o ddechrau'r symptomau.

Ymgeiswyr sy’n ynysu yn unol â chyngor iechyd y cyhoedd

Pan fo aelod o aelwyd yr ymgeisydd yn symptomatig, rhaid i'r ymgeisydd ynysu am 14 diwrnod o ddechrau symptomau’r unigolyn dan sylw. Ni allant sefyll arholiadau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae hyn hefyd yn berthnasol os gofynnir i'r ymgeisydd ynysu ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd â'r feirws. Ni all ymgeiswyr sefyll arholiadau yn ystod eu cyfnod ynysu.

Ni ddylai ymgeiswyr sydd dan gwarantin yn dilyn teithiau tramor penodol fynychu arholiadau yn ystod cyfnod y cwarantin. Gweler y canllawiau ar goridorau teithio am restr gyfredol o’r gwledydd nad oes angen i bobl sy'n cyrraedd Cymru ar ôl ymweld â nhw fod o dan gwarantin.

Ymgeiswyr sydd wedi cael prawf negyddol

Dylai ymgeiswyr ddilyn y canllawiau ar ymgysylltu â'r Strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu am ganlyniad eu prawf coronafeirws (COVID-19) pan fyddant yn cael prawf negyddol. Mae'r canllawiau'n nodi'r amgylchiadau lle nad oes angen i ymgeiswyr hunanynysu. Gallant fynychu arholiadau yn yr amgylchiadau hyn.

Ymgeiswyr sy'n agored iawn i niwed yn glinigol yn sgil y coronafeirws (COVID-19)

Dylai ymgeiswyr sy'n agored iawn i niwed yn glinigol gyfeirio at y canllawiau gwarchod.

Addasiadau rhesymol

Rhaid i ysgolion a cholegau, yn unol â’u rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, barhau i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.

Mae JCQ, ar ran aelodau ei fwrdd arholi, yn cyhoeddi canllawiau helaeth ar sut all ysgolion a cholegau gefnogi ymgeiswyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau y gallai fod angen addasiadau rhesymol arnynt er mwyn sefyll eu harholiadau TGAU, Safon UG neu Safon Uwch. Mae JCQ wedi cyhoeddi canllawiau atodol ar gyfer cyfres arholiadau gaeaf 2020.

Bydd y gefnogaeth y byddai ymgeiswyr wedi'i chael ar gyfer arholiadau haf 2020 yn cael ei chyflwyno tan ddiwedd cyfres arholiadau'r gaeaf. Mae amserlenni wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwneud ceisiadau am addasu rhesymol i’r ymgeiswyr hynny y mae eu hamgylchiadau wedi newid neu anghenion newydd wedi codi.

Bydd angen i'r cydlynydd anghenion addysgol arbennig (AAA) sicrhau bod y trefniadau mynediad dal yn briodol, yn ymarferol ac yn rhesymol.

Os bydd amgylchiadau ymgeisydd yn newid, efallai y bydd angen i'r cydlynydd AAA (lle bo angen) ddarparu tystiolaeth a chyflwyno cais ar-lein.

Rhannu’r dudalen hon