Neidio i'r prif gynnwy

Cynnwys

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer y sawl sy'n rhan o'r broses o ddarparu gwasanaethau gwaith ieuenctid ym mhob rhan o'r sector gwirfoddol, awdurdodau lleol, neu mewn partneriaeth yng Nghymru. Eu nod yw eu cefnogi i gynllunio eu gwasanaethau mewn ffordd ddiogel i gynyddu neu leihau gweithrediadau, fesul cam, ac yn unol â chyd-destun iechyd y cyhoedd. At ddiben y ddogfen hon, gwasanaethau gwaith ieuenctid yw'r rheini sy'n defnyddio  dulliau gweithredu gwaith ieuenctid i alluogi pobl ifanc i ddatblygu mewn modd cyfannol, gan gydweithio â nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, i'w galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a'u lle mewn cymdeithas ac i gyflawni eu potensial llawn (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol). Maent wedi'u datblygu yng nghyd-destun ein nodau strategol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae'r canllawiau hyn yn gyffredinol eu natur a dylid eu trin fel canllaw. Os bydd unrhyw wrthdaro rhwng unrhyw ddeddfwriaeth gymwys (yn cynnwys y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch) a'r canllawiau hyn, y ddeddfwriaeth gymwys fydd drechaf.

Os yw eich gwasanaeth chi’n gweithredu yng Nghymru, rhaid ichi ddilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, hyd yn oed os yw eich prif swyddfa neu rai o’ch gwasanaethau eraill yn gweithredu mewn rhannau eraill o’r DU.

Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r cyfyngiadau sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae ein cynllun diwygiedig i reoli’r coronafeirws ar gael i’w ddarllen, sy’n rhoi darlun cyffredinol o’r newidiadau y bwriedir eu cyflwyno, yn amodol ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd. Mae’r cynllun, sy’n ystyried y rhaglen frechu a phrif amrywiolyn Caint, yn amlinellu sut rydym yn bwriadu symud drwy’r lefelau rhybudd a sut y gallwn helpu pobl a busnesau i gynllunio i’r dyfodol, wrth inni barhau i gymryd pob gofal wrth ddatgloi’r cyfyngiadau cyfredol yn ofalus.

Byddwn yn ailedrych ar y cynllun hwn ar ôl i bob oedolyn cymwys gael cynnig y brechlyn – rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd erbyn diwedd Gorffennaf – pan fydd mwy o dystiolaeth a data am ei effaith ar gael.

Cwmpas

Gwneir unrhyw benderfyniad i gynyddu neu leihau gweithrediadau gan bob sefydliad unigol sy’n darparu gwasanaethau ieuenctid, boed yn y sector gwirfoddol neu dan arweiniad awdurdod lleol, ac ar draul y sefydliadau hynny. Er bod y ddogfen hon yn cynnig canllaw defnyddiol, rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir gyd-fynd â deddfwriaeth gymwys, yn cynnwys deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â COVID-19, dogfennau canllaw statudol, ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad eich hun.

Nid yw'r canllawiau hyn yn hollgynhwysfawr, nac yn gyfarwyddiadol, ond maent yn cynnig egwyddorion lefel uchel i'w hystyried. Mae'n ddogfen weithredol a gaiff ei diweddaru yn ôl y gofyn, os bydd cyd-destun iechyd y cyhoedd a chanllawiau diweddaraf y llywodraeth yn newid.

Bwriedir i'r ddogfen hon gynnwys y cyfraniadau a wneir gan y sector gwirfoddol a gwasanaethau gwaith ieuenctid awdurdodau lleol ac adlewyrchu'r cyfraniadau hynny. Os bydd unrhyw ansicrwydd, dylid ystyried bod cyfeiriadau at y gweithlu yn cynnwys gweithwyr proffesiynol gwirfoddol a chyflogedig.

Ymhellach, ac fel gyda phob gwasanaeth sydd â'r nod o gefnogi pobl ifanc, mae eu llais a'u cyfranogiad yn allweddol. Felly, ni fwriedir i'r ddogfen hon ddisodli'r angen i bob gwasanaeth gwaith ieuenctid ymgysylltu â llais a safbwyntiau'r bobl ifanc maent yn cydweithio â nhw a'u hymgorffori yn eu cynlluniau datblygol ar gyfer darparu gwasanaethau.

Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â'r wybodaeth ategol yn Atodiad A, sy'n darparu rhestr wirio i gefnogi gwaith cynllunio.

Cefndir

Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn cynnig ymyriadau ataliol hanfodol ac maent yn cyfrannu'n helaeth at yr ymdrechion i adfer ac ailadeiladu ar ôl COVID-19 yng Nghymru. Mae gwaith ieuenctid yn cynnig llefydd diogel i bobl ifanc, ac yn atgyfnerthu eu cydberthnasau â'u cyfoedion ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt, gan hyrwyddo eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Mae hefyd yn helpu pobl ifanc i fagu hyder, meithrin sgiliau, a chynnal eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae'r ymarfer a'r dulliau gweithredu a ddefnyddir mewn gwaith ieuenctid yn gosod esiampl o'r disgwyliadau a'r ymddygiadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015), yn cyfrannu at y nodau llesiant, ac yn cyflawni yn unol â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae'r canllawiau hyn wedi arloesi o ran dulliau gweithredu i gyflawni gwaith ieuenctid drwy ddulliau allgymorth a digidol ers i'r cyfyngiadau symud gael eu rhoi ar waith, ac wedi cefnogi pobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau. Eu nod bellach yw cefnogi gwasanaethau gwaith ieuenctid i gynllunio ar gyfer cynyddu gweithrediadau yn raddol mewn modd sy'n ddiogel mewn perthynas â COVID-19 ac yn unol â chyd-destun presennol iechyd y cyhoedd.

Llywio gwaith cynllunio a’r broses benderfyniadau

Nid y ffaith bod angen wedi’i nodi i gynyddu gwaith ieuenctid yw'r unig ffactor wrth asesu a chytuno a ellir cynyddu gweithrediadau. Yn wir, mae'n llawer mwy tebygol i'r penderfyniad hwn gael ei lywio gan y mathau o weithgareddau sydd dan sylw, defnyddwyr y gwasanaethau ac ym mha leoliad y mae’r gweithgareddau yn digwydd. O ganlyniad, wrth wneud unrhyw benderfyniad ynghylch cynyddu gweithrediadau, efallai y bydd angen ichi ystyried ac adlewyrchu'r gofynion a nodir mewn dogfennau canllaw eraill a'r ddeddfwriaeth berthnasol sy'n rheoli'r gwaith o'u cyflawni. Mae hyn yn cynnwys ystyried y grŵp oedran y mae eich gwasanaeth yn debygol o’i gefnogi, a’r rheoliadau cyfredol mewn perthynas â’r grŵp oedran hwnnw. Mae’n bosibl y bydd yna gryn wahaniaethau rhwng yr hyn sy’n briodol i blant a phobl ifanc 11-17 oed a’r rheini sy’n 18-25. Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru yn amrywiol ac ni ellir adlewyrchu'n gywir yr holl fodelau cyflawni na rhoi cyfrif amdanynt mewn un dull gweithredu cyffredinol.

Er enghraifft, gall model cyflawni dewisol gwasanaeth gwaith ieuenctid gynnwys chwaraeon, gall fod wedi'i leoli mewn canolfan gymunedol, neu gall gynnwys gwaith grŵp gyda phobl ifanc dros nifer benodol. Yn yr achosion hyn, yn ogystal â'r canllawiau hyn, byddai hefyd angen i chi ystyried canllawiau sy'n benodol i’r sector a chyngor ar gadw pellter cymdeithasol:

Chwaraeon a hamdden: canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol

Canllawiau ar gyfer defnyddio canolfannau cymunedol amlbwrpas yn ddiogel

Cadw pellter cymdeithasol (Y gyfraith, canllawiau a chwestiynau cyffredin)

Felly, nid yw'r hyn sy'n ymddangos yn yr adran ganlynol yn hollgynhwysfawr, a bydd yn dibynnu ar y math o wasanaeth rydych yn bwriadu ei ddarparu. Fodd bynnag, gall eich helpu i addasu eich model cyflawni, drwy eich cyfeirio at ddogfennau canllaw perthnasol sy'n rheoli sectorau a chyd-destunau gwahanol, a'ch helpu i benderfynu beth allai fod yn addas i chi. Rhaid i unrhyw benderfyniad i gynyddu gweithrediadau gydbwyso risgiau trosglwyddiad cynyddol yn ofalus â'r risgiau sy'n gysylltiedig â pheidio â gweithredu neu beidio â chyflwyno gweithgaredd â phobl ifanc, yn cynnwys y bobl ifanc fwyaf agored i niwed neu sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf.

Pwy sy'n gwneud y penderfyniad ar gynyddu gweithrediadau?

Yng nghyd-destun presennol iechyd y cyhoedd, ac ar y cam hwn o leddfu'r cyfyngiadau symud, gwasanaethau gwaith ieuenctid y sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol sy’n gyfrifol yn unigol am wneud penderfyniadau ar gynyddu unrhyw weithrediadau mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Nhw sydd hefyd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar gynyddu'r defnydd o unrhyw leoliadau, canolfannau neu adeiladau maent yn bwriadu eu defnyddio ac sy'n eiddo iddynt. Drwy gymryd cyfrifoldeb am y penderfyniadau hyn, dylent sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag unrhyw ofynion deddfwriaethol/iechyd a diogelwch a roddir arnynt, gan sicrhau eu bod wedi cymryd camau i fodloni'r gofynion hyn, a bod eu cynnig yn ddiogel mewn perthynas â COVID.

Byddai angen i unrhyw wasanaethau gwaith ieuenctid sy'n defnyddio rhan o Ganolfan Gymunedol ystyried y canllawiau hyn a chydgysylltu â Rheolwyr Canolfannau Cymunedol, a fyddai'n gorfod ystyried y canllawiau ar gyfer Canolfannau Cymunedol, y gweithgaredd arfaethedig, a gofyn am ganiatâd yr awdurdod lleol. Bydd gwasanaethau sy'n llogi lleoliadau sector preifat i gynnal gweithgareddau yn gallu gwneud hynny, cyhyd â bod y sefydliad maent yn llogi ganddo yn gweithredu yn unol â'r canllawiau sy'n benodol ar gyfer ei sector a gofynion cyffredin mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol a bod y gweithgaredd arfaethedig yn ddiogel mewn perthynas â COVID. Gall unrhyw wasanaeth gwaith ieuenctid wneud gwaith allgymorth yn yr awyr agored ar gyfer yr unigolion hynny sydd fwyaf agored i niwed, ar yr amod ei fod yn bodloni gofynion cyffredinol mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n ddiogel mewn perthynas â COVID.

Canllawiau gweithredol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid

Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn amrywiol ac efallai y byddant yn ymddangos hyd yn oed yn fwy gwahanol wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Mae'r amrywiaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ystyried eu modelau cyflawni arfaethedig yng nghyd-destun eu hamgylchiadau unigryw, yn ogystal ag ochr yn ochr ag unrhyw rwymedigaethau sydd arnynt fel rhan o gyfyngiadau neu ddeddfwriaeth COVID-19, i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel. Oherwydd yr amrywiaeth hon, ni fydd y ddogfen hon yn cynnig un dull sy'n addas i bawb. Yn hytrach, mae'n ceisio dwyn ynghyd feysydd allweddol y gallech fod am eu hystyried fel mesurau gofynnol er mwyn helpu i sicrhau bod eich cynigion yn ddiogel mewn perthynas â COVID-19, ac mae'n cynnig rhestr wirio i'ch helpu i gynllunio (Atodiad A).

Ymgysylltu â phobl ifanc, y gweithlu a phartneriaid

Bydd prosesau cyfathrebu ac ymgysylltu clir, a mabwysiadu dulliau gweithredu cyfranogol lle y bo'n briodol, yn allweddol er mwyn deall sut mae pobl ifanc yn teimlo a'r hyn y maent am ei weld fel rhan o unrhyw gamau arfaethedig i gynyddu gweithrediadau. Gall eu helpu i ddeall yn well y wyddoniaeth sy'n gysylltiedig â COVID-19, ynghyd â'u rôl o ran lleihau'r risg o'i drosglwyddo. At hynny, unwaith y bydd model cyflawni wedi dechrau cael ei sefydlu, bydd prosesau ymgysylltu da yn helpu i rannu unrhyw gamau ychwanegol rydych yn eu cymryd i ddiogelu eu llesiant, yn ogystal â sicrhau bod unrhyw reolau neu weithdrefnau newydd yn glir. Gallai hyn gynnwys egluro'r ffordd y gall pobl ifanc nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn bod yn bresennol, a'r ffordd y byddwch yn ymateb i bobl ifanc sy'n cyrraedd yn ddirybudd. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio'n well ar gyfer yr hyn rydych yn ei gynnig ac yn sicrhau bod aelodau o staff ar gael. Bydd hefyd yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gweithdrefnau neu'r camau a gymerir os bydd rhywun yn mynd yn sâl. 

Dylid addasu'r egwyddorion hyn gyda rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u bod yn teimlo eu bod yn rhan o'r broses o gynllunio a gwneud penderfyniadau, yn cynnwys staff, gwirfoddolwyr, rheolwyr, ymddiriedolwyr a phartneriaid allweddol eraill.

Dylech gytuno ar brotocolau traws-sefydliadol a'u rhoi ar waith os bydd y cyfleusterau'n cael eu rhannu â sawl partner. Yn olaf, dylech gydgysylltu â darparwyr yswiriant perthnasol i sicrhau bod gennych yswiriant priodol, a dylai pob sefydliad unigol gymryd cyfrifoldeb am hyn.

Cyfrifoldebau allweddol ac egwyddorion craidd

Mae gan bawb gyfrifoldeb i ddeall eu rôl o ran helpu i leihau'r risg o drosglwyddo COVID-19. Dylai gwasanaethau gwaith ieuenctid ystyried eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr. Rhaid i fusnesau y caniateir iddynt weithredu, neu safleoedd y caniateir iddynt agor, wneud hynny mewn ffordd ddiogel sy’n cydymffurfio â rheoliadau COVID, yn ogystal â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill a osodir ar gyflogwyr (megis deddfwriaeth iechyd a diogelwch).

Gall fod gan wasanaethau gwaith ieuenctid hefyd ddyletswydd gofal i wirfoddolwyr i sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, na ddônt i gysylltiad â risgiau o ran eu hiechyd a’u diogelwch a'u bod yn cael yr un lefel o ddiogelwch â gweithwyr cyflogedig a hunangyflogedig. Ceir gwybodaeth gan y llywodraeth am wirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws a sut i helpu'n ddiogel. Dylai cyflogwyr a sefydliadau sydd â gwirfoddolwyr ac unigolion eraill sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (yn arfer hunanwarchod) a phobl sydd mewn categori risg uwch sicrhau eu bod yn parhau i ddilyn cyngor y llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol.

Dylai unrhyw gynlluniau i ailagor gyd-fynd â  chanllawiau COVID craidd iechyd y cyhoedd mewn perthynas ag iechyd, hylendid a chadw pellter cymdeithasol, a chanllawiau ar gadw'n ddiogel yn y gwaith, er mwyn sicrhau bod cyflogeion a chydweithwyr yn ddiogel i ddychwelyd i'r gwaith

Mae gan unrhyw un sy'n rheoli safle annomestig (fel canolfan gymunedol, neuadd bentref neu neuadd gymunedol) gyfrifoldebau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch neu ddyletswyddau gofal. Dylent gymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod y safle, y mynediad i'r safle, ac unrhyw gyfarpar neu sylweddau a ddarperir yn ddiogel i'r bobl sy'n eu defnyddio, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol. Bydd hefyd angen i ddarparwyr gwasanaethau gwaith ieuenctid ystyried pa gyfrifoldebau cyfreithiol y gallai fod ganddynt, o dan reoliadau COVID, i gynnal gweithgareddau mewn lleoliadau eraill, yn cynnwys yn yr awyr agored neu mewn lleoliadau a gaiff eu llogi. Bydd angen i ddarparwyr gynnal asesiadau risg addas a digonol a sefydlu mesurau sy’n cydymffurfio â rheoliadau COVID.

Asesiad risg

Er mwyn eich helpu i benderfynu pa gamau y dylid eu cymryd i gynyddu gweithrediadau, dylid cynnal asesiad risg COVID-19, gan ystyried y canllawiau craidd ar gadw pellter cymdeithasol a'r pwyntiau a nodir isod – gweler y canllawiau ar gwblhau asesiad risg.

Dylai'r sawl sy'n gyfrifol am leoliad neu am weithgareddau gwasanaeth ieuenctid gynnal eu hasesiad risg eu hunain, gan ystyried unrhyw ganllawiau sy'n berthnasol i'w gweithgaredd neu sector penodol.

Cadw pellter cymdeithasol a phennu capasiti

Dylid rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod pawb sy'n defnyddio lleoliadau yn dilyn y canllawiau diweddaraf ar gadw'n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol. Dylech ystyried a nodi'r mesurau lliniaru y byddwch yn eu cyflwyno yn eich asesiad risg.

Os ydych yn ystyried agor safle ffisegol, bydd maint ac amgylchiadau'r adeilad yn dylanwadu ar uchafswm nifer y bobl a nifer y gweithgareddau y gellir eu caniatáu wrth gadw pellter cymdeithasol. Wrth ddiffinio nifer y bobl a all fynychu'n rhesymol gan ddilyn y canllawiau cadw pellter, dylid ystyried yr holl arwynebedd llawr yn ogystal â phwyntiau cyfyng ac ardaloedd prysur (e.e. mynedfeydd ac allanfeydd) a lle y bo'n bosibl dylid cyflwyno llwybrau amgen neu unffordd.

Dylai asesiad risg bennu uchafswm nifer y bobl y gellir eu caniatáu mewn lleoliad, neuadd neu safle a gaiff ei logi wrth gadw pellter cymdeithasol yn unol â'r canllawiau perthnasol. Dylai hefyd nodi mannau risg uchel yn yr adeilad a chamau lliniaru i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd. Dylai'r sawl sy'n bwriadu cynyddu gweithrediadau hefyd ystyried pa newidiadau y gallai fod eu hangen i sicrhau y gellir cael mynediad i'r adeilad a'i ddefnyddio'n ddiogel. Gall y rhain gynnwys:

Defnyddio sawl allanfa a mynedfa - cyflwyno llif unffordd i mewn ac allan o'r safle, gyda marciau llawr neu arwyddion priodol. Dylai unrhyw newidiadau i fynedfeydd, allanfeydd a chiwiau ystyried yr angen i wneud addasiadau rhesymol i'r sawl sydd eu hangen, fel pobl ag anableddau.

Rheoli amseroedd cyrraedd a gadael - grwpiau gwahanol er mwyn lleihau tagfeydd wrth allanfeydd a mynedfeydd.

Rheoli ciwiau - dylid rheoli llif grwpiau i mewn ac allan o'r safle yn ofalus er mwyn lleihau'r risg o dagfeydd. Gall fod angen cyflwyno systemau ciwio gan gadw pellter cymdeithasol.

Defnyddio ardaloedd yn yr awyr agored - mae gweithgareddau a gynhelir yn yr awyr agored yn llawer mwy diogel na rhai a gynhelir dan do ac, oherwydd hyn, dylai sefydliadau ddefnyddio ardaloedd yn yr awyr agored lle y bo'n bosibl, yn unol â’n cyfyngiadau cyfredol. Wrth ddarparu gwasanaethau gwaith ieuenctid yn yr awyr agored, dylech sicrhau eich bod yn dilyn y canllawiau sy'n berthnasol ar gyfer eich gweithgaredd a sicrhau bod protocolau cadw pellter cymdeithasol ar waith bob amser. Gall y canllawiau chwaraeon a hamdden eich helpu i gynllunio hyn.

Awyru mewn ardaloedd dan do - dylid cynnal gweithgareddau dan do mewn ardaloedd o'r adeilad sy'n cael digon o aer ac agor drysau neu ffenestri pan fo hynny'n bosibl.

Teithio

Dylai'r rheini sydd am ddefnyddio gwasanaeth gwaith ieuenctid ystyried pa mor bell y mae angen iddynt deithio a sut y byddant yn teithio i'r adeilad ac oddi yno yn ddiogel. Dylai aelodau o'r un aelwyd deithio gyda'i gilydd. Wrth gludo pobl ifanc i weithgaredd ac oddi yno lle mai dyna'r unig ffordd o ddarparu'r gwasanaeth, dylid rhoi ystyriaeth lawn i ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a'r defnydd priodol o fasgiau wyneb. Gellir dod o hyd i gyngor Llywodraeth Cymru ar deithio'n ddiogel yma.

Toiledau

Dylid cadw toiledau cludadwy a thoiledau y tu mewn i safleoedd ar agor a'u rheoli'n ofalus er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo COVID-19. Gellir dod o hyd i ganllawiau yma ar sut i ddarparu toiledau diogel i'w defnyddio gan y cyhoedd.

Arlwyo

Datblygwyd canllawiau i'r sector lletygarwch ac maent ar gael yma. Maent yn cynnwys canllawiau ar gyfleusterau arlwyo a all fod yn ddefnyddiol.

Cyflenwad dŵr

Os bydd adeiladau wedi bod ar gau neu wedi cael eu defnyddio'n llai aml yn ystod cyfnod pandemig COVID-19, gall dŵr llonydd gronni mewn systemau dŵr am nad ydynt wedi cael eu defnyddio, gan gynyddu'r risg o glefyd y llengfilwyr. Gellir dod o hyd i ganllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli dŵr a chlefyd y llengfilwyr yma.

Hylendid glanhau a rheoli haint

Mae unrhyw un sy’n gyfrifol am safle sydd ar agor yn ystod argyfwng COVID o dan ddyletswydd i gymryd mesurau rhesymol i gadw’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mor isel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i:

  • gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o ddwy fetr yn cael ei gadw rhwng unigolion (ac eithrio’r rheini sydd o’r un aelwyd)
  • cymryd mesurau rhesymol eraill i gadw’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws mor isel â phosibl (ee sicrhau hylendid ac osgoi trosglwyddo’r feirws wyneb yn wyneb)
  • darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n dod i mewn i’r safle ynghylch sut i gadw’r risg mor isel â phosibl (ee drwy arwyddion a phosteri)

Rhwng pobl sydd mewn cysylltiad agos â'i gilydd a thrwy ddefnynnau a gynhyrchir pan fydd person sydd wedi'i heintio yn peswch neu'n tisian y caiff COVID-19 ei drosglwyddo'n bennaf.  Gellir ei ledaenu hefyd drwy ddod i gysylltiad ag arwyneb neu wrthrych sydd â'r feirws arno.

Mae glanhau hyd at safon briodol yn helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws (COVID-19). Dylid sefydlu trefn lanhau yn seiliedig ar yr asesiad risg a'r defnydd a wneir o'r adeilad. Bydd angen glanhau ardaloedd sy'n cael eu defnyddio'n aml ac unrhyw beth a gaiff ei gyffwrdd yn aml, yn enwedig os caiff ei gyffwrdd gan lawer o bobl, yn amlach nag arfer. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar lanhau hyd at y safon briodol yma. Os byddwch yn glanhau am fod achos hysbys neu achos a amheuir o COVID-19 yn eich gweithle, dylech ddilyn y canllawiau yma.

Hylendid a gorchuddion wyneb

Mae ymarfer hylendid dwylo da yn bwysig.  Dylai fod sebon a dŵr ar gael i'r rheini sy'n defnyddio'r cyfleusterau olchi eu dwylo am o leiaf 20 eiliad neu dylid cynnig hylif diheintio dwylo iddynt wrth gyrraedd a gadael yr adeilad ac ar ôl peswch, tisian, chwythu eu trwyn neu ar ôl bod mewn ardal gyhoeddus. Gallai gwasanaethau gwaith ieuenctid hefyd ystyried:

  • arwyddion a phosteri i wella ymwybyddiaeth o ddulliau golchi dwylo da, yr angen i olchi dwylo'n amlach, cyngor ar osgoi cyffwrdd â’ch wyneb ac i beswch neu disian i mewn i hances a'i rhoi mewn bin yn ddiogel, neu i'ch braich os nad oes gennych hances wrth law
  • darparu hylif diheintio dwylo mewn sawl lleoliad, fel ardaloedd derbynfa, yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi
  • darparu cyfleusterau sychu dwylo (tywelion papur neu sychwyr trydanol)

Mae’n orfodol i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus dan do ac ardaloedd dan do eraill nad ydynt yn agored i’r cyhoedd os na ellir cadw pellter o 2 fetr, oni bai bod unigolyn wedi’i eithrio. Mae hyn yn berthnasol i staff a phobl ifanc. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am orchuddion wyneb i gyflogwyr a rheolwyr safleoedd yma. Mae canllaw arall ar orchuddion wyneb ar gyfer y cyhoedd yma.

Gorchuddion wyneb a'r goblygiadau i unigolion ag unrhyw lefel o golled clyw

Dylid ystyried effaith gwisgo gorchudd wyneb ar unigolyn byddar ag unrhyw lefel o golled clyw yn ofalus, gan fod llawer o bobl fyddar yn dibynnu ar allu gweld wyneb rhywun yn glir er mwyn gallu cyfathrebu. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi darparu awgrymiadau ar gyfathrebu, a all fod yn ddefnyddiol i staff yn hyn o beth. Gall unrhyw un dynnu ei orchudd wyneb dros dro, gan gadw pellter o 2 fetr, er mwyn helpu rhywun sy’n dibynnu ar allu darllen eich gwefusau i gyfathrebu.

Profi, Olrhain, Diogelu a'r hyn y dylid ei wneud os bydd achos a amheuir neu heintiad gwirioneddol

Ni ddylai'r sawl sy'n cael symptomau'r coronafeirws (yn cynnwys y rhai a restrir isod) fynd i leoliad gwaith ieuenctid, na defnyddio trafnidiaeth i leoliad gwaith ieuenctid:

  • Peswch newydd a chyson.
  • Tymheredd uchel.
  • Colli eich synnwyr arogli neu eich synnwyr blasu arferol, neu newid i’r synhwyrau hynny (anosmia).

Ni ddylai unigolion sydd â symptomau, sydd wedi cael prawf positif neu sydd â rhywun yn eu haelwyd, eu swigen gefnogaeth neu eu haelwyd estynedig (pan ganiateir hynny) sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf positif, fynychu, a dylent hunanynysu. Ni ddylent fynychu chwaith os bydd tîm Profi, Olrhain, Diogelu y GIG wedi dweud wrthynt am hunanynysu am eu bod wedi’u nodi fel un o gysylltiadau rhywun sydd wedi cael prawf positif. Gellir dod o hyd i gyngor ar hunanynysu yma.

Rhaid i unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn sgil y coronafeirws neu sydd mewn 'grŵp risg' ddilyn yr un rheolau â gweddill y boblogaeth yng Nghymru o ran cadw pellter cymdeithasol ac ati, ond rydym yn eu cynghori hefyd i ddilyn mesurau ychwanegol i’w diogelu eu hunain rhag y coronafeirws. Mae'n bosibl y byddant yn penderfynu mynychu gwasanaeth gwaith ieuenctid er gwaethaf y risg ychwanegol, er budd eu llesiant eu hunain. Mewn achosion o'r fath, dylai'r bobl hyn, ac unrhyw un sydd gyda nhw, ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn llym.

Os bydd unrhyw un yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19 mewn lleoliad, dylid ei anfon gartref a'i gynghori i ddilyn y canllawiau hunanynysu a gwneud cais i gael prawf coronafeirws tra bydd ef ac aelodau ei aelwyd yn hunanynysu.

Os bydd angen cyngor clinigol ar yr unigolyn, dylai fynd ar-lein i GIG 111 Cymru (neu ffonio 111 os nad oes ganddo fynediad i'r rhyngrwyd). Mewn argyfwng, ffoniwch 999 os yw'n ddifrifol wael neu wedi'i anafu neu os yw ei fywyd mewn perygl. Ni ddylai ymweld â'r meddyg teulu, fferyllydd, canolfan gofal brys neu ysbyty.

Dylai pobl eraill a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r person sydd wedi mynd yn sâl olchi eu dwylo'n drylwyr ar ôl ymwneud ag ef, ond nid oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau penodol eraill oni bai eu bod yn datblygu symptomau eu hunain neu fod tîm Profi, Olrhain, Diogelu y GIG wedi cysylltu â nhw am eu bod yn gyswllt a gadarnhawyd i rywun sydd wedi cael prawf positif. Os byddant yn datblygu symptomau, dylent ddilyn y canllawiau hunanynysu a gwneud cais i gael prawf coronafeirws.

Dylai'r ardaloedd a ddefnyddiwyd gan yr unigolion hyn gael eu glanhau'n drylwyr, yn unol â'r canllawiau a nodwyd uchod.

Profi Olrhain Diogelu

Mae strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn pennu'r dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws, profi pobl yn y gymuned sydd â symptomau, olrhain y rheini sydd wedi dod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi cael canlyniad prawf positif ar gyfer y coronafeirws a diogelu teulu, ffrindiau a'n cymuned drwy hunanynysu.

Mae angen i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wybod gyda phwy y gallai’r rheini sy’n cael prawf positif fod wedi bod mewn cysylltiad. Os ydynt wedi ymweld â safle sy’n agored i’r cyhoedd, efallai na fyddant yn gwybod pwy yw’r rhain. Rhaid i rai busnesau gasglu a chadw gwybodaeth am bwy sydd wedi bod ar y safle, felly, a phryd, am 21 diwrnod. Mae canllawiau Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn rhoi cyngor i fusnesau ar gasglu a chadw’r wybodaeth hon.

Byddwch weithiau yn casglu data am blant, er enghraifft os bydd person 16 oed yn ymweld â’r safle. Rhaid ichi ystyried unrhyw risg sydd ynghlwm wrth gadw’r wybodaeth hon. Mae rhagor o wybodaeth am y risgiau hyn ar wefan ICO.

Plant a phobl ifanc

Fel rheol, tîm Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru fydd yn cysylltu â phobl ifanc 16 ac 17 oed. Byddant yn trin y plentyn fel oedolyn a bydd yn rhaid iddo hunanynysu yn unol â’r un rheolau.

Yn achos plant a phobl ifanc o dan 16, bydd y tîm yn cysylltu â’r rhiant, y gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol arall i roi gwybod bod angen i’r plentyn hunanynysu. Yn yr achosion hynny, bydd angen i’r rhiant, y gwarcheidwad neu’r oedolyn cyfrifol gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad i hunanynysu. Yn yr amgylchiadau prin lle cysylltir â rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol ynghylch person ifanc 16 neu 17 oed, bydd y gofyniad hwn i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y person ifanc yn hunanynysu yn berthnasol.

Mae rhagor o wybodaeth am olrhain cysylltiadau ar gael, ynghyd â chanllawiau, yn Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr.

Ystyriaethau unigol – cydweithwyr a phobl ifanc

Mae'n bwysig ystyried anghenion unigolion a bod yn glir ynghylch unrhyw ddisgwyliadau newydd. Dylid atgyfnerthu ymddygiadau gofynnol mewn modd cadarnhaol yn hytrach na stigmateiddio achosion o ddiffyg cydymffurfio. Dylid nodi a chefnogi arwyddion o ofid, a cheisio cymorth dwys neu arbenigol lle bo angen. Rhaid cynnal y safonau uchel o ddiogelu gwasanaethau gwaith ieuenctid a oedd yn bodoli cyn y cyfyngiadau symud wrth i ni symud i leoliadau a modelau cyflawni newydd.

Mae llu o faterion newydd y gall fod angen eu hystyried. Gall hyn gynnwys unrhyw bwysau emosiynol, ariannol a seicolegol a all fod ar weithwyr ieuenctid a phobl ifanc, yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â chyd-destun iechyd y cyhoedd. Gallai'r rhain gynnwys pryderon am y feirws, pwysau yn sgil bod ar ffyrlo neu golli gwaith, straen yn sgil cyfrifoldebau gofalu ychwanegol neu brofedigaeth, neu bryderon ynghylch dychwelyd i'r gwaith.

Felly, bydd yn bwysig ystyried polisïau adnoddau dynol a dulliau cymorth eich sefydliad a sicrhau eu bod wedi'u diweddaru ac yn adlewyrchu'r heriau newydd rydym yn eu hwynebu a'r cymorth y bydd ei angen ar staff o ganlyniad i hynny. Ymysg y syniadau i hyrwyddo lles y gall gwasanaethau fod am eu hymgorffori mae ardaloedd myfyrio, defnyddio gwasanaethau cwnsela a chynnig cyfleoedd i weithwyr rannu eu profiadau.

Asesiadau risg unigol

Drwy gydol y broses o ddarparu gwasanaethau, ac wrth baratoi ar eu cyfer, efallai y byddwch am ystyried cynnal asesiad risg o straen.

At hynny, ac wrth gynllunio ar gyfer cynyddu gweithgareddau, gall Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu i Gymru gyfan fod o gymorth i chi.

Mae'r Adnodd yn defnyddio canllawiau'r llywodraeth, a'r ymchwil, y dystiolaeth a'r data diweddaraf sydd ar gael i nodi ffactorau risg hysbys, yn cynnwys oedran, rhyw, ethnigrwydd, cyflyrau iechyd sylfaenol, Mynegai Màs y Corff ac unrhyw hanes teulu perthnasol mewn cysylltiad â COVID-19. Cyfuniad o'r ffactorau amrywiol hyn yn dod ynghyd sy'n cyfrannu at ddifrifoldeb yr heintiad.

Cynlluniwyd yr Adnodd ar gyfer y sawl sy'n gweithio yn y GIG ac ym maes Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, anogir staff addysg i ddefnyddio'r Asesiad Risg, ac i'w gwblhau ar-lein drwy'r llwyfan e-ddysgu cenedlaethol Learning@Wales.

Efallai yr hoffech gyfeirio staff a phobl ifanc at y pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc ar Hwb.

Ystyriaethau ychwanegol

Efallai y bydd y sawl sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid am wella eu dealltwriaeth o ganllawiau polisi a chanllawiau eraill sy’n ymwneud â’r coronafeirws, neu gyfeirio atynt, yn enwedig os byddant yn rhannu cyfleusterau â sefydliadau gwahanol. Ceir rhai enghreifftiau o ganllawiau a rheoliadau penodol isod:

Canolfannau cymunedol  

Darpariaeth gofal plant  

Gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf  

Canllawiau ar feysydd chwarae ac ardaloedd chwarae

Addoldai

Chwaraeon a hamdden

Cyrchfannau a lleoliadau diwylliannol a threftadaeth

Ysgolion

Addysg bellach

Y Celfyddydau Perfformio

I'ch helpu i ddatblygu eich rhestr wirio eich hun er mwyn ehangu eich gwasanaethau neu ailagor eich canolfannau, gweler y rhestr wirio enghreifftiol sy'n gysylltiedig â'r canllawiau hyn yn Atodiad A.

Cynllunio at y dyfodol

Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, mae yna bosibilrwydd o hyd y gwelwn donnau pellach o heintio neu o glystyrau yma ac acw, sy’n golygu bod angen inni gynllunio at y dyfodol er mwyn gallu ymateb yn gyflym. Gallai tonnau pellach o’r feirws ddod â phroblemau ychwanegol yn eu sgil, ac felly mae angen paratoi cynlluniau y gellir eu huwchraddio neu eu hisraddio yn ôl y cyd-destun o ran iechyd y cyhoedd.

Cynyddu gweithrediadau yn raddol ac ystyried dull gweithredu cyfunol

“Mae’r tro hwn wedi dangos bod angen inni allu symud yn gyflym a gweithio’n hyblyg. Pan ddown allan o’r cyfnod hwn, mae angen inni allu ymateb yn gyflym i amgylchiadau newydd.” – Llais person ifanc

Mae’n glir nad yw cyngor cyfredol iechyd y cyhoedd yn rhoi’r golau gwyrdd, yn syml iawn, i wasanaethau gwaith ieuenctid ailagor ledled y wlad ar unwaith, neu fel yr oeddent cyn y cyfnod clo. Er y bydd y mesurau yn llacio, mae’n bosibl y gallant dynhau hefyd yn y dyfodol, a hyd nes y cynghorir yn wahanol, rhaid i’r mesurau cadw pellter cymdeithasol barhau. Os yw gwasanaethau gwaith ieuenctid i allu cynnig rhyw fath o gysondeb i bobl ifanc ochr yn ochr â’r newidiadau posibl yn y cyngor o ran iechyd y cyhoedd, bydd angen cynllunio’n ofalus i ddatblygu modelau gweithredu y gellir eu huwchraddio a’u hisraddio yn ôl yr angen.

Ar y pwynt hwn, mae’n bwysig cydnabod bod gwasanaethau gwaith ieuenctid yn amrywiol, a bod llawer ohonynt mewn amgylchiadau unigryw sy’n ffactor o ran eu gallu i addasu eu lefelau gweithgarwch gwahanol. Yn y pen draw, yr amgylchiadau hyn fydd efallai yn penderfynu ar eu capasiti i ymateb yn gyflym ac yn unol â’r hyn a ganiateir gan y cyngor o ran iechyd y cyhoedd. Nid yw’r canllawiau hyn, felly, am nodi un dull gweithredu i bawb ei ddilyn. Eu nod, yn hytrach, yw amlinellu rhai egwyddorion cyffredinol y bydd gwasanaethau gwaith ieuenctid am eu hystyried o bosibl.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 145 KB.

Maint Ffeil 145 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.