Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Chwefror 2012.

Cyfnod ymgynghori:
14 Tachwedd 2011 i 6 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 721 KB

PDF
721 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Diben yr ymgynghoriad hwn yw cael barn pobl am ganllawiau drafft Llywodraeth Cymru i ymgymerwyr (cwmnïau dŵr a charthffosiaeth a chwmnïau dŵr yn unig), sy'n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, ac Ofwat (yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr), ar dariffau cymdeithasol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Adran 44 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn galluogi ymgymerwyr i gynnwys tariffau cymdeithasol yn eu cynlluniau taliadau. Mae'r rhain yn ei gwneud yn bosibl i unigolion dalu llai os ydynt yn ei chael yn anodd talu eu bil yn llawn.

Mae Adran 44 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau gan gynnwys ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu a ddylai un grŵp o gwsmeriaid gael helpu un arall yn ariannol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried yn y canllawiau faint y mae angen helpu unigolion a fyddai'n ei chael yn anodd talu yn llawn o'i gymharu â buddiannau cwsmeriaid eraill.

Bwriad y canllawiau drafft hyn yw diwallu'r anghenion hyn a sicrhau'r canlyniad gorau i gwsmeriaid yng Nghymru. Mae'r canllawiau drafft yn amlinellu'r fframwaith y caiff ymgymerwr ei ddefnyddio i gyflwyno tariff cymdeithasol. Mae hefyd yn amlinellu'r fframwaith y dylai Ofwat ei ystyried wrth arfer ei bŵer i gymeradwyo cynlluniau taliadau.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 711 KB

PDF
711 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.