Canllawiau drafft ar reoli gwersylloedd diawdurdod - Pennod 7: strategaethau lleol
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion strategaeth gwersylloedd diawdurdod
Anogir pob awdurdod lleol i ddatblygu eu strategaethau ysgrifenedig eu hunain sy’n nodi sut byddant yn ymateb i wersylloedd diawdurdod. Mae amcanion allweddol strategaeth yn cynnwys:
- dileu neu leihau problemau drwy gynllunio ymlaen llaw yn effeithiol
- osgoi ymateb adweithiol
- sicrhau bod anghenion a hawliau pob parti; Sipsiwn a Theithwyr, tirfeddianwyr a’r gymuned sefydlog yn cael eu hystyried
- gosod fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau clir, cyson a phriodol mewn ffordd dryloyw
- cysylltu’r dull gweithredu ar gyfer gwersylla diawdurdod yn glir â strategaethau a pholisïau eraill sy’n effeithio ar Sipsiwn a Theithwyr (darparu safle, cynllunio, iechyd, addysg, tai ac ati)
- cynnwys pawb sydd â diddordeb yn y broses o ddatblygu’r strategaeth
- egluro rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, gan nodi pwy sy’n gyfrifol am bob cam o’r broses a phwy fydd yn gwneud y penderfyniadau allweddol
- cyfyngu ar unrhyw niwsans cyhoeddus, cymryd camau gorfodi effeithiol lle bo angen a phan fo hynny’n briodol
Ffurfio’r strategaeth
Arwain
Argymhellir bod awdurdodau lleol yn llunio strategaeth lywodraethu glir i ddelio â gwersylloedd diawdurdod sy’n darparu ar gyfer goruchwylio a monitro’r ddarpariaeth yn ddigonol.
Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried y camau allweddol a ganlyn wrth lunio eu strategaeth:
- Penodi swyddog arweiniol neu Bwynt Cyswllt Unigol.
- Sefydlu gweithgor strategaeth, gyda chymorth/adnoddau digonol a sicrhau bod chwaraewyr allweddol yn cael eu cynnwys a chysylltu â gwasanaethau perthnasol eraill.
- Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol i weithwyr allweddol
- Sefydlu gweithdrefnau/mecanweithiau ymgynghori.
- Sicrhau cysondeb ac uniondeb â strategaethau eraill.
- Adolygu gwybodaeth a gafwyd o asesiad yr awdurdod lleol o anghenion.
- Cynllunio gwasanaethau newydd/gwella gwasanaethau presennol, drwy weithio ar y cyd lle bo hynny’n briodol.
- Monitro/gwerthuso/adolygu’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu lle bo hynny’n berthnasol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Er y dylai awdurdodau lleol gymryd yr awenau wrth ddatblygu eu strategaeth, mae’n hanfodol bod adrannau perthnasol eraill yn rhan o’r broses ac yn fodlon cydymffurfio â’r strategaeth pan gaiff ei gweithredu. Mae sicrhau ymrwymiad gan randdeiliaid yn rhan bwysig o’r broses o lunio strategaeth.
Bydd sicrhau cyfranogiad gan y bwrdd iechyd lleol, yr heddlu, Sipsiwn a Theithwyr eu hunain yn ogystal â grwpiau eiriolaeth sy’n eu cynorthwyo, cydlynwyr cydlyniant cymunedol, swyddogion diogelwch cymunedol, a chynghorwyr lleol sy’n gyfrifol am wersylloedd Sipsiwn a Theithwyr, yn cryfhau gallu’r awdurdodau lleol i ymateb yn effeithiol i unrhyw sefyllfa benodol. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau rhanddeiliaid eraill yn hygyrch i feddianwyr a’r gymuned sefydlog. Gall sefydliadau eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, fod yn rhan o’r ffordd aml-asiantaeth hon o weithio pan fydd yr amgylchiadau’n briodol.
Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried gweithio ar sail ranbarthol i helpu i sicrhau bod eu hagwedd at wersylloedd diawdurdod a darpariaeth safleoedd yn gyson â’r hyn a wneir ar draws gweddill Cymru.
Elfennau i’w cynnwys yn y strategaeth
Mae nifer o elfennau y gellid eu cynnwys yn strategaeth yr awdurdodau lleol - er enghraifft:
- Gwybodaeth leol mae’r strategaeth yn seiliedig arni - er enghraifft, yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, y data cyfrif carafanau ddwywaith y flwyddyn, ffigurau lleol ar gyfer gwersylloedd diawdurdod (gan gynnwys ffigurau’r heddlu os ydynt yn ddefnyddiol) ac unrhyw wybodaeth am wersylloedd rheolaidd.
- Gwybodaeth am lefel a lleoliadau safleoedd awdurdodau lleol ar hyn o bryd.
- Y dull arferol i’w ddefnyddio wrth roi gwybod am wersyll diawdurdod, gan gynnwys penodi swyddog arweiniol neu Bwynt Cyswllt Unigol.
- Ymgysylltu â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ynghylch eu profiadau o wersylloedd diawdurdod.
- Y protocol ar gyfer rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill ac ar gyfer cysylltu / cynnwys / hysbysu asiantaethau perthnasol eraill.
- Y dull i’w fabwysiadu wrth fynd i mewn i wersyll diawdurdod, gan nodi rolau a chyfrifoldebau statudol pawb dan sylw, a’r asesiad i’w gynnal.
- Amlinelliad o'r amrywiaeth o ymatebion sydd ar gael i awdurdod lleol ynghylch gwersyll diawdurdod ac esboniad o'r camau tebygol i'w cymryd mewn rhai sefyllfaoedd
- Protocol ar gyfer rhoi gwybod i awdurdodau cyfagos am wersylloedd diawdurdod a chamau y gellir eu cymryd mewn partneriaeth.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo’r gwaith o roi’r canllawiau hyn ar waith. Mae’n bwysig nodi y bydd mater gwersylloedd diawdurdod yn cael ei reoli’n effeithiol pan fydd y canllawiau ar waith.