Canllawiau drafft ar reoli gwersylloedd diawdurdod - Pennod 1: cyflwyniad
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Gwersyll diawdurdod yw gwersyll carafanau a/neu gerbydau ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu’r meddiannydd ac sy’n fath o dresmasu.
Mae’r canllawiau'n cael eu diweddaru o reoli gwersylla diawdurdod i reoli gwersylloedd diawdurdod, er mwyn adlewyrchu’r ystod ehangach o sefyllfaoedd lle gallai gweithgareddau o’r fath ddigwydd. Mae’r newid hwn yn meithrin dull mwy cynhwysol o fynd i’r afael â’r anghenion a’r heriau sy’n wynebu cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
Gall gwersyll diawdurdod gynnwys unrhyw grŵp o unigolion neu gerbydau sy’n tresmasu ar dir. Fodd bynnag, mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu at fynd i’r afael â’r materion penodol sy’n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr.
Mae gwersyll diawdurdod yn wahanol i achosion lle mae’r tir wedi’i brynu a’i feddiannu gan Sipsiwn a Theithwyr heb i’r caniatâd cynllunio priodol fod yn ei le. Gelwir hynny’n safle preifat heb ganiatâd cynllunio, ac nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â hynny.
Gall gwersylloedd diawdurdod fod yn destun tensiwn mewn cymunedau ac mae angen eu trin yn sensitif gan fod angen i awdurdodau lleol a chyhoeddus gydbwyso hawliau Sipsiwn a Theithwyr a hawliau trigolion lleol.
Diffinnir ‘Teithwyr a Theithwyr’ yn adran 108 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 fel a ganlyn:
- Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:
- personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
- aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), a
- unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod Sipsiwn Romani ethnig a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r rhai o unrhyw grŵp ethnig sy’n arfer ffordd o fyw nomadig. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Bydd Teithwyr Newydd yn cael eu cynnwys yn diffiniad hefyd os ydynt yn dangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth.
Er bod pob un o’r grwpiau hyn yn gysylltiedig â’r ffordd o fyw deithiol a nomadaidd a’u bod o bosibl yn rhannu rhai credoau ac arferion cyffredin, mae i bob grŵp ei ieithoedd, ei draddodiadau a'i ethnigrwydd unigryw ei hun, ac maent hefyd yn debygol o fod ag anghenion gwahanol o ran defnyddio gwersylloedd dros dro.
Y darlun yng Nghymru
Mae Sipsiwn a Theithwyr yn gynhenid i Gymru. Yn ôl amcangyfrif y Cyfrifiad diweddaraf yn 2021, mae tua 3,600 o'r boblogaeth arferol o breswylwyr yng Nghymru (0.1%) wedi nodi eu bod yn Sipsiwn neu’n Deithiwr Gwyddelig ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu pob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal eu cyfrif carafanau ddwywaith y flwyddyn. Defnyddir y comisiynau hyn i fonitro cyfrifon carafanau fel rhan o waith monitro’r awdurdodau lleol ar anghenion llety, a ddefnyddir fel data wrth gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr.
Mae’r ffigur hwn yn debygol o fod yn danamcangyfrif, o ystyried ei fod yn mesur poblogaeth dros dro a chan nad yw data ethnigrwydd yn cael ei gofnodi’n ddigonol yn aml. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod mwy o Sipsiwn a Theithwyr a charafanau yng Nghymru nag sydd o leiniau parhaol neu fannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd. Ar adeg cyhoeddi hyn, nid oes safleoedd tramwy na mannau aros dros dro/a negodwyd yng Nghymru. Er bod yr angen am saith llain tramwy wedi cael ei nodi gan awdurdodau lleol ar draws eu Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr Cylch 2, nid yw’r rhain ar waith eto.
Mae’r cyfrif carafanau hefyd yn debygol o danamcangyfrif gwir nifer y carafanau ar wersylloedd diawdurdod yng Nghymru. Mae’r cyfrif yn dibynnu ar swyddogion awdurdodau lleol yn diweddaru ac yn cysoni data ar y dyddiadau cyfrif a ddewiswyd, neu'n fuan wedyn, ac efallai na fydd nifer fach o awdurdodau lleol yn gallu cwblhau’r camau hyn ar gyfer unrhyw gyfrif penodol. Ar ben hynny, efallai na fydd awdurdodau lleol yn sylwi ar wersylloedd diawdurdod, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig mwy o faint a byddant yn cael eu hepgor o’r cyfrif.
Mae’r cyfrif carafanau yn rhoi cipolwg ar garafanau a safleoedd sy’n bresennol ar tua 2 ddiwrnod ym mis Ionawr a mis Gorffennaf. Oherwydd ei ddyluniad, dim ond y carafanau sy’n cael eu cyfrif ar adeg y dyddiau hynny, felly ni fydd y ffigurau hyn yn adlewyrchu natur nomadaidd Sipsiwn a Theithwyr na pha mor aml y mae angen llety dros dro arnynt. Nid yw’r cyfrif carafanau ychwaith yn rhoi unrhyw dystiolaeth o batrymau mudo.
Yng Nghymru, mae gwersylloedd diawdurdod yn tueddu i ddigwydd ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth a oedd yn draddodiadol yn darparu cyfleoedd gwaith yn ogystal â mynediad at y prif borthladdoedd ar gyfer Iwerddon. Mae’r prif lwybrau ar hyd coridor yr M4 fel y prif lwybr o’r dwyrain i’r gorllewin yn ne Cymru, yr A470 fel y prif lwybr o’r gogledd i’r de, ac ar hyd yr A55 fel y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, ceir gwersylloedd ledled Cymru, ac yn aml nid ydynt yn agos at y llwybrau prysur hyn.
Ar ben hynny, efallai y bydd Sipsiwn a Theithwyr yn ailymweld â’r un ardaloedd os ydynt yn gwybod bod mynediad ar gael at y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt neu eu bod wedi cael profiadau da gyda'r awdurdodau lleol.
Gall diffyg darpariaeth mannau aros tramwy a thros dro/a negodwyd arwain at wersylloedd diawdurdod. Mae Sipsiwn a Theithwyr sy’n nomadaidd fel arfer yn defnyddio gwersylloedd diawdurdod am gyfnodau byr o amser, diwrnodau neu wythnosau, cyn symud ymlaen eto.
Efallai y bydd gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru fwy o wersylloedd diawdurdod nag eraill. Fodd bynnag, mae pob awdurdod lleol yn debygol o brofi rhai gwersylloedd diawdurdod a dylent fod â pholisïau a gweithdrefnau i sicrhau eu bod yn cael eu trin mewn ffordd sy’n effeithiol, yn ddiogel ac yn sensitif i’r holl bartïon dan sylw. Er mwyn hwyluso hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r canllawiau hyn i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu polisïau eu hunain ac, wrth wneud hynny, i gefnogi ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr.
Ar gyfer pwy y mae’r canllawiau hyn?
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer unrhyw un sy'n delio â gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr ond maent yn arbennig o bwysig i awdurdodau lleol yng Nghymru, sydd â nifer o ddyletswyddau statudol i sicrhau llesiant y cymunedau hyn.
Fodd bynnag, gall y canllawiau hefyd fod yn ddefnyddiol i berchnogion tir eraill, gan gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill, fel Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol neu Fyrddau Iechyd, yn ogystal â’r rhai sy’n mynd i safleoedd diawdurdod ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol gyda’u dyletswyddau statudol, er enghraifft ymwelwyr iechyd, Gwasanaethau Addysg i Deithwyr a heddluoedd.
Er nad yw’r canllawiau hyn wedi’u hanelu’n bennaf at Sipsiwn a Theithwyr a allai fod angen byw dros dro mewn gwersyll diawdurdod, efallai y bydd rhai aelodau o’r gymuned o'r farn ei fod yn gyflwyniad defnyddiol i’w hawliau a’u cyfrifoldebau mewn sefyllfa o’r fath. Yn yr un modd, bydd ‘Protocolau Heddluoedd ar Reoli Gwersylloedd Diawdurdod’ drafft yn helpu aelodau’r gymuned i ddeall y disgwyliadau beth yw'r ynghylch ymwneud yr heddlu â gwersylloedd diawdurdod.
At ddibenion y canllawiau hyn, yr awdurdod lleol fydd y tirfeddiannwr fel arfer. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw gwersylloedd diawdurdod yn digwydd ar dir sy’n eiddo i awdurdodau lleol yn unig, ond mae gwahanol weithdrefnau a gofynion yn berthnasol i dirfeddianwyr preifat, nad oes ganddynt unrhyw ddyletswyddau statudol tuag at y gymuned yn yr un modd ag awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill. Bydd y gweithdrefnau sy’n ymwneud â rheolau tirfeddianwyr preifat yn cael eu harchwilio’n fyr yn nes ymlaen yn y ddogfen.
Pan fydd tir yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, yr awdurdod lleol sy'n dal yn gyfrifol am gyflawni pob un o’i ddyletswyddau statudol ar gyfer y rhai sydd ar wersylloedd diawdurdod yn ei ardal.
Y ddeddfwriaeth allweddol
Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth o ddyletswyddau statudol tuag at Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio ac yn ymgynnull yn eu hardal. Mae rhai o’r prif ddyletswyddau wedi’u rhestru isod. Byddant yn berthnasol ni waeth a yw unigolion ar safle awdurdod lleol neu wersyll diawdurdod ai peidio.
Mae gan Sipsiwn a Theithwyr hawl i warchodaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig wedi cael eu cydnabod fel grwpiau hiliol penodol at ddibenion y Ddeddf honno. Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ar sail hil unigolyn, ac mae'n amddiffyn Sipsiwn a Theithwyr rhag triniaeth annheg neu wahaniaethu mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus a darparu gwasanaethau.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn mynnu bod pob awdurdod lleol a chyhoeddus, pryd bynnag y maent yn arfer eu swyddogaethau, yn rhoi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd o dan y Ddeddf honno. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol gefndiroedd hiliol. Mae hyn yn cynnwys rhoi sylw dyledus, yn benodol, i’r angen i:
- ddileu neu leihau'r anfanteision a ddioddefir gan bobl am resymau sy'n gysylltiedig â'u hil
- cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o hil benodol sy’n wahanol i anghenion pobl o gefndiroedd hiliol eraill
- mynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth
Gall cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn olygu bod awdurdodau lleol yn trin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill.
Mae dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol tuag at bobl ddigartref neu bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn carafanau heb unman i’w gosod yn gyfreithlon yn debygol o fod yn ddigartref yn gyfreithiol o dan y Ddeddf honno.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 hefyd yn gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio neu’n ymgynnull yn eu hardal ac i ddarparu safleoedd lle gellir gosod cartrefi symudol i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol er mwyn diwallu’r anghenion hynny.
Dywed adran 17(1) o Ddeddf Plant 1989 fod dyletswydd gyffredinol ar bob awdurdod lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn eu hardal sydd mewn angen ac i hyrwyddo magwraeth plant o’r fath gan eu teuluoedd drwy ddarparu amrywiaeth a lefel o wasanaethau sy’n briodol i anghenion y plant hynny. Mae adran 20(1)(c) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn mewn angen yn ei ardal.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo llesiant oedolion a phlant sydd angen gofal a chymorth.
Mae’r Ddeddf hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn rhoi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (fel y’u mabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991). Rhaid i awdurdodau lleol sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlant ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr sy'n blant sydd ag anghenion cymorth, a phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya roi sylw dyledus hefyd i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (gweler penderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 ar Dachwedd 1989).
O dan adran 13 o Ddeddf Addysg 1996, rhaid i awdurdod lleol gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol y gymuned drwy sicrhau bod addysg gynradd ac uwchradd effeithlon ar gael i ddiwallu anghenion poblogaeth eu hardal.
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn cynnal asesiad lles ar bob preswylydd sy’n byw mewn gwersyll diawdurdod ar dir sy’n eiddo cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn cyflawni pob un o’r dyletswyddau statudol a restrir uchod. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan nad yw’r tir y mae gwersyll diawdurdod wedi’i sefydlu arno yn eiddo i’r awdurdod lleol, ond yn hytrach yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu awdurdod cyhoeddus arall. Bydd hyn yn galluogi’r awdurdod lleol i ddangos yn glir eu bod wedi ystyried eu cyfrifoldebau tuag at y rhai sy’n byw ar safleoedd diawdurdod yn eu hardal.
Nodau'r canllawiau
Nod y canllawiau yw:
- rhoi arweiniad clir i bawb sy'n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod ynghylch eu rolau, eu cyfrifoldebau a'u hawliau
- sicrhau dull teg, cyson a chyfreithlon o ddelio â gwersylloedd diawdurdod, sy'n ystyried buddiannau a hawliau pawb sy'n gysylltiedig
- nodi’r camau gweithredu sy’n cael eu hargymell, h.y. canllaw cam wrth gam ar beth i’w wneud wrth ddelio â gwersyll diawdurdod
- rhannu enghreifftiau o arferion da cyfredol
- darparu templedi ar gyfer awdurdodau lleol wrth gynnal asesiadau lles
- crynhoi’r pwerau gorfodi yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, fel y’u mewnosodwyd gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022