Canllawiau drafft ar reoli gwersylloedd diawdurdod - Pennod 5: canllaw cam wrth gam ar ddatrys gwersylloedd diawdurdod
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Dylai awdurdodau lleol ystyried yr adran hon o’r canllawiau wrth fynd i’r afael â gwersyll diawdurdod sydd wedi digwydd yn eu hardal. Er y dylai pob gwersyll gael ei asesu fesul achos, mae’r adran hon yn rhoi’r adnoddau i awdurdodau ddatblygu eu dull gweithredu.
Cam 1: rhoi gwybod am wersyll
Fel arfer, daw’r ymwybyddiaeth gyntaf o wersyll diawdurdod drwy adroddiadau gan drigolion lleol neu fusnesau yng nghyffiniau gwersyll sydd newydd ei ffurfio.
Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt ddull effeithiol o ymateb i wersylloedd cyn gynted ag y byddant yn digwydd. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn penodi Pwynt Cyswllt Unigol i ddelio â gwersylloedd diawdurdod yn eu hardal a dylid rhoi gwybod i holl staff yr awdurdod lleol am fanylion cyswllt y Pwynt Cyswllt Unigol. Mae’n arbennig o bwysig bod gan swyddogion cwynion a gweithredwyr switsfwrdd y manylion hyn.
Nid oes angen o reidrwydd i’r Pwynt Cyswllt Unigol fod yr un swyddog ar gyfer pob gwersyll. Fodd bynnag, bydd cael un cyswllt unigol ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â gwersyll penodol yn helpu’r awdurdod lleol i ymateb yn gyflym yn ôl yr angen. Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod y Pwynt Cyswllt Unigol yn cael y cymorth angenrheidiol i gyflawni ei rôl. Dylai arweinwyr awdurdodau lleol sicrhau bod modd cydlynu’r holl adrannau perthnasol yn effeithiol a gwneud penderfyniadau allweddol ar lefel uchel.
Bydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau a busnesau lleol am gynigion yr awdurdodau lleol i ddelio â’r gwersyll yn helpu i sicrhau cydlyniant cymunedol a rheoli pryderon posibl pobl yn yr ardal gyfagos.
Pan gaiff awdurdod lleol ei hysbysu am wersyll diawdurdod am y tro cyntaf, dylai geisio cael cymaint o wybodaeth â phosibl gan y sawl sy'n gwneud yr adroddiad, gan barchu y gall ddymuno aros yn ddienw.
Gall gwybodaeth berthnasol gynnwys:
- Lleoliad y gwersyll.
- Am ba mor hir y mae’r gwersyll wedi’i sefydlu.
- Tua faint o bobl a cherbydau sy’n bresennol.
- A oes unrhyw gyswllt wedi'i wneud rhwng y person sy'n adrodd a'r meddianwyr, ac os oes, beth fu canlyniad y trafodaethau hynny.
- A oes gan y sawl sy’n gwneud yr adroddiad unrhyw bryderon penodol am y gwersyll, fel y meddianwyr yn rhwystro mynediad at dir neu'n achosi niwsans cyhoeddus.
- Manylion cyswllt y person sy’n gwneud yr adroddiad os yw’n dymuno cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymateb yr awdurdodau lleol i’r gwersyll.
Cam 2: asesiad lles
Ar ôl i adroddiad y gwersyll gael ei gofnodi, argymhellir bod y Pwynt Cyswllt Unigol neu’r swyddog arweiniol yn ymweld â’r gwersyll i asesu lles y meddianwyr o fewn 24 awr, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.
Mae gan awdurdod lleol nifer o ddyletswyddau sy’n ymwneud â’r rhai sy’n byw yn ei ardal, gan gynnwys y rhai mewn addysg, plant a deddfwriaeth tai. Mae’r dyletswyddau hyn yr un mor berthnasol i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn gwersyll diawdurdod. Bydd asesiad lles effeithiol yn helpu awdurdodau lleol i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r dyletswyddau cyfreithiol hyn.
Mae templed cyffredinol ar gyfer Asesiad Lles ar gael yn Atodiad 3.
Argymhellir bod yr asesiad lles yn cael ei gynnal gan y Pwynt Cyswllt Unigol / swyddog arweiniol.
Bydd yr asesiad lles yn fodd i’r awdurdod lleol ganfod gwybodaeth allweddol am y gwersyll, gan gynnwys:
- Pennu diogelwch y gwersyll ar gyfer y meddianwyr a’r gymuned ehangach.
- Faint o feddianwyr a cherbydau (gan gynnwys carafanau) sy’n bresennol.
- Faint o’r meddianwyr sy’n blant.
- Penderfynu a oes angen unrhyw gymorth penodol ar unrhyw un o’r meddianwyr, fel angen am lety preswyl parhaol neu unrhyw fater iechyd neu ofal cymdeithasol.
- Faint o’r meddianwyr sy’n oedrannus.
- A oes meddianwyr anabl yno.
- A oes problemau iechyd / cyflyrau meddygol sy’n effeithio ar y meddianwyr e.e. perthnasau mewn ysbyty, menywod beichiog, mamau ôl-enedigol a babanod, rhai sy’n gwella ar ôl salwch neu anaf difrifol ac ati.
- A oes arholiadau ysgol ar y gweill.
- Pa wasanaethau awdurdod lleol sy’n cael eu hystyried yn rhai priodol.
- e.e. casglu sbwriel, toiledau symudol, dŵr ac ati.
- Rhesymau dros yr arhosiad a’r hyd arfaethedig.
Diben yr ymweliad hwn â’r gwersyll yw:
- nodi problemau posibl a chyflwr y tir a’r gwersyll Penderfynu a oes angen cynnwys asiantaethau ychwanegol, fel Gwasanaethau Addysg i Deithwyr neu weithwyr iechyd proffesiynol
- Penderfynu a fydd gwasanaethau’n cael eu darparu ar y safle, fel gwastraff neu lanweithdra
- Asesu a yw’n rhesymol gofyn i’r meddianwyr dalu am wasanaethau y gallai’r awdurdod lleol benderfynu eu darparu
- Rhoi gwybod i’r meddianwyr pa gamau mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd i ymateb i’r gwersyll diawdurdod
- Rhoi manylion cyswllt lleol allweddol i’r meddianwyr, gan gynnwys y Pwynt Cyswllt Unigol neu swyddog arweiniol arall sy’n cynnal yr asesiad, ac unrhyw gyngor perthnasol ar ofal iechyd, gweithwyr addysg proffesiynol a chyngor ar bopeth
Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod meddianwyr agored i niwed sydd ar wersyll diawdurdod yn cael gwybod am y cymorth a’r gefnogaeth y gallai fod ganddynt hawl i'w cael, a bod adrannau perthnasol, yn benodol, yn cael gwybod pan:
- mae’r meddianwyr yn cynnwys y rhai sy’n feichiog, plant dan 5 oed, pobl sydd â phroblemau iechyd dybryd neu anghenion gofal cymdeithasol
- mae risgiau uniongyrchol i’r meddianwyr, fel tir halogedig neu beryglon traffig
- Mae plant oedran ysgol yn bresennol, o fewn 4 wythnos i ddiwedd y tymor
Dylai’r Pwynt Cyswllt Unigol neu’r swyddog arweiniol sy’n cynnal yr asesiad lles feddu ar yr hyfforddiant a’r arbenigedd sydd eu hangen i allu asesu anghenion y meddianwyr mewn gwersyll yn briodol. Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol na fydd rhai meddianwyr benywaidd, am resymau diwylliannol, yn cymryd rhan yn y broses hon os bydd Pwynt Cyswllt Unigol gwrywaidd yn dod atynt. Gan hynny, byddai’n arfer da i dîm rhyw gymysg ymgymryd â’r Asesiad Lles, lle bo hynny’n bosibl.
Dylid cydnabod hefyd y bydd ansawdd a maint yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr asesiad lles yn dibynnu, i ryw raddau, ar y berthynas mae’r Pwynt Cyswllt Unigol yn gallu ei datblygu gyda’r meddianwyr. Yn aml, gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau cyfathrebu da fod yn allweddol i sicrhau bod asesiad effeithiol yn cael ei gwblhau. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol sicrhau nad y swyddogion awdurdod lleol sy’n cynnal yr asesiadau lles yw’r un swyddogion sy’n cynnal achosion gorfodi.
Bydd asesiadau lles yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Pwynt Cyswllt Unigol gysylltu â chydweithwyr perthnasol, fel y rhai yn adrannau addysg a thai’r awdurdod lleol neu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.
Nid oes gan awdurdodau lleol unrhyw bŵer i fynnu bod gwybodaeth yn cael ei rhoi iddynt fel rhan o’r asesiad lles. Pan fydd deiliad wedi penderfynu peidio â rhannu unrhyw wybodaeth gyda’r Pwynt Cyswllt Unigol, dylid cadw cofnod o’r cwestiynau a ofynnwyd a’r penderfyniad i beidio ag ateb, ynghyd ag unrhyw reswm a roddwyd dros beidio ag ateb. Dylid rhoi gwybod i feddianwyr y gallant ddarparu gwybodaeth drwy unigolyn arall maent yn ymddiried ynddo, os ydynt yn dymuno, a dylai’r Pwynt Cyswllt Unigol ddarparu ar gyfer hyn lle bo hynny’n ymarferol.
Mae unrhyw wybodaeth bersonol a geir yn ystod ymweliadau ac ymholiadau yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth diogelu data. Dylid trin ffotograffau o unigolion hefyd fel data personol, os oes modd adnabod yr unigolion hynny. Dylai awdurdodau egluro at ba ddiben mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a rhoi sicrwydd ynghylch sut caiff ei defnyddio a chyda phwy y gellid ei rhannu.
Dylid cadw asesiadau lles at ddibenion archwilio. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol iddynt hefyd os bydd unrhyw her gyfreithiol yn digwydd i ymateb i achosion meddiannu y gall yr awdurdod lleol fynd ar eu trywydd wedi hynny.
Gall awdurdodau lleol wynebu costau glanhau sylweddol ar ôl i wersyll diawdurdod adael, boed hynny’n wirfoddol neu o ganlyniad i achos llys. Fodd bynnag, gall darparu cyfleusterau casglu sbwriel, toiledau a dŵr i feddianwyr leihau’r costau glanhau hyn yn sylweddol. Gall asesiadau lles helpu awdurdodau lleol i ganfod pa rai o’r gwasanaethau hyn y gallai fod eu hangen ar y meddianwyr.
Dylai awdurdodau lleol geisio canfod amgylchiadau pob teulu cyn penderfynu sut i ymateb i wersyll diawdurdod i sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn gwbl wybodus ac yn seiliedig ar yr holl ystyriaethau perthnasol.
Arferion da
Yn Wrecsam, mae gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol gytundeb sefydledig i fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr fynd i’r gwersylloedd diawdurdod i gynnal asesiadau lles pan fo angen.
Mae’r system hon yn rhoi modd i asesu anghenion lles yn briodol gan weithwyr proffesiynol nad ydynt yn ymwneud â threfniadau troi allan. Mae’r dull hwn yn debygol o arwain at fwy o gyfranogiad gan y meddianwyr.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (asesiadau lles).
Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ymweld â’r gwersyll ar achlysuron dilynol i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol tuag at y meddianwyr.
Dylid rhoi gwybod i’r meddianwyr hefyd y gallant gysylltu â’r Pwynt Cyswllt Unigol neu swyddog arweiniol arall o’r awdurdod lleol i ofyn am ymweliad ychwanegol os ydynt o’r farn bod angen asesiadau ychwanegol i ddiogelu eu lles.
Wrth ddarparu gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol i feddianwyr, bydd angen ystyried unrhyw angen am ddeunyddiau hygyrch. Efallai y bydd gan rai Sipsiwn a Theithwyr broblemau llythrennedd ac felly mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod meddianwyr yn gallu darllen a deall unrhyw God Ymddygiad y cytunwyd arno gyda nhw ac unrhyw ddeunydd arall y gellir ei ddarparu.
Cam 3: dadansoddiad cost a budd a datrys y broblem
Mae gwersylloedd diawdurdod, drwy ddiffiniad, yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, cydnabyddir, nes rhoddir sylw priodol i ddarparu safleoedd, y bydd gwersylloedd diawdurdod yn debygol o barhau.
Rhaid ystyried pob gwersyll yn ôl ei amgylchiadau ei hun, gan ystyried ffactorau fel ystyriaethau iechyd a diogelwch ar gyfer y meddianwyr, peryglon traffig, risgiau iechyd y cyhoedd, difrod amgylcheddol, niwsans cyhoeddus ac agosrwydd at ddefnydd tir sensitif arall.
Wrth asesu amgylchiadau’r rhai sydd ar y gwersyll, mae’n arbennig o bwysig bod awdurdodau lleol yn ystyried sut byddai camau troi allan yn effeithio ar aelodau agored i niwed o’r grŵp, fel y rhai sydd ag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol dybryd, neu blant. Bydd yr asesiad hwn yn helpu awdurdodau lleol i benderfynu ar y dull gweithredu mwyaf priodol, gan gydbwyso buddiannau’r meddianwyr â buddiannau’r gymuned sefydlog o’u cwmpas.
Caiff awdurdod lleol ystyried ei bod yn briodol cymeradwyo gwersyll diawdurdod mewn rhai amgylchiadau, naill ai am y tymor hir neu'r tymor byr.
Gwneir y penderfyniad hwn ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- Yr asesiad lles.
- Amgylchiadau lleol.
- Am faint y disgwyliedig i'r gwersyll fod yno.
- A yw'r meddianwyr yn teithio i gyrchfan arall (er enghraifft, cwrdd â theulu neu fynd i harbwr) a dim ond am gyfnod byr y byddant yn aros.
- Ystyriaethau cyffredinol fel peryglon iechyd a diogelwch, materion traffig, risgiau iechyd y cyhoedd a’r effaith ar ddefnyddwyr tir eraill.
Mae’n bosibl y bydd lleoliadau yn annerbyniol ar gyfer gwersyll am unrhyw gyfnod, er enghraifft:
- Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
- Meysydd parcio neu gaeau chwarae ysgolion.
- Meysydd parcio ar gyfer cyfleusterau allweddol eraill, fel ysbytai.
- Parciau trefol.
- Meysydd chwarae cyhoeddus.
- Safle lle gallai llygredd neu wastraff o gerbydau ddifrodi cyrsiau dŵr, tir neu ddŵr.
- Ardal sydd â gwastraff gwenwynig neu achos difrifol arall o halogi tir.
- Ymyl ffordd brysur sy’n achosi perygl i feddianwyr y gwersyll.
- Safleoedd lle mae posibilrwydd o niwed neu aflonyddwch sylweddol i rywogaethau a warchodir y gwyddys eu bod ar y safle, neu’n agos ato.
Gall amgylchiadau penodol rhai lleoliadau hefyd fod yn ystyriaethau perthnasol i awdurdodau lleol wrth benderfynu a ellir derbyn gwersyll diawdurdod am unrhyw gyfnod o amser. Gall hyn gynnwys lleoliad lle mae perygl o lifogydd neu wersyll mewn lleoliad sensitif, fel Parc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gynghori awdurdodau lleol ar ystyried y materion hyn.
Bydd angen i’r awdurdod lleol ac asiantaethau partner perthnasol benderfynu a yw amgylchiadau unigol y gwersyll - er enghraifft, y risgiau i ddiogelwch y cyhoedd neu’r effaith ar y gymuned leol, yn drech na buddiannau’r meddianwyr.
Pan fydd yr asesiad lles yn nodi pryderon diogelwch a lles difrifol ar gyfer y meddianwyr, fe allai’r awdurdod lleol ddymuno cymryd camau ar unwaith naill ai i unioni’r pryderon diogelwch, adleoli’r gwersyll dros dro, neu droi’r meddianwyr allan.
Bydd adleoli gwersyll yn llawer haws os yw’r awdurdod lleol wedi sefydlu man aros dros dro/wedi ei negodi i’w ddefnyddio.
Gall yr asesiad lles hefyd nodi pryderon brys, a allai awgrymu bod angen ymatebion meddygol neu ofal cymdeithasol ar unwaith gan y bwrdd iechyd lleol neu’r awdurdod lleol.
Yn yr amgylchiadau hyn, gellir penderfynu caniatáu i’r gwersyll aros am dymor byr. Fodd bynnag, dylid monitro unrhyw benderfyniad i gymeradwyo gwersyll diawdurdod yn ofalus. Yn benodol, os yw’r gwersyll yn fwy na’r arhosiad disgwyliedig, fe allai'r awdurdod lleol ddymuno ailystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen. Mae gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg lleol wedi adrodd yn anecdotaidd am fanteision man aros dros dro/a negodwyd, os mai dim ond am gyfnod byr mae hynny’n digwydd, gan fod plant yn gallu elwa ar addysg a gofal iechyd.
Bydd awdurdodau lleol sy’n darparu safleoedd tramwy a mannau aros dros dro/a negodwyd, yn hytrach na dim ond cymryd camau gorfodi adweithiol yn erbyn gwersylloedd diawdurdod, yn aml yn arbed arian yn y tymor hir. Gall mabwysiadu’r dulliau a ganlyn o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod fod yn gost-effeithiol:
- Darparu meysydd chwarae a safleoedd awdurdodau lleol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr lle gwelir bod angen yn yr ardal. Mae lleiniau awdurdodau lleol yn rhoi modd i awdurdodau lleol godi rhent, trethi a’r dreth gyngor ar breswylwyr.
- Nodi mannau aros dros dro/a negodwyd yn yr ardal leol lle gellid adleoli a rheoli gwersylloedd diawdurdod am gyfnod byr. Gallai awdurdodau lleol osgoi costau gorfodi diangen os yw’r gwersyll yn gallu mynd i safle dros dro.
- Gall darparu gwasanaethau fel casglu sbwriel, toiledau a dŵr ffres leihau costau glanhau.
- Gall annog y meddianwyr i dalu am y gwasanaethau mae’r gwersyll yn eu defnyddio adennill swm sylweddol o wariant yr awdurdod lleol.
Arferion da
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddodd Cyngor Dinas Leeds ganfyddiadau’r panel craffu Cymdogaethau a’r Amgylchedd, a argymhellodd gynllun peilot ‘Mannau Aros a Negodwyd’. Roedd y cynllun yn adolygu tir posibl ar gyfer mannau aros dros dro gan ddefnyddio’r meini prawf a ganlyn:
- Bod y tir yn ‘lle y gellid ei amddiffyn’ yn y tir hwnnw a oedd ar gael yn gyfyngedig ac y byddai unrhyw wersyll gan hynny’n cael ei gyfyngu o ran maint
- Bod rhywfaint o ‘ymrwymiad’ i’r prosiect ymysg perchnogion busnes lleol, yr heddlu ac aelodau etholedig
- Bod y lleoliad yn ddiogel i’r meddianwyr a’u bod yn barod i aros yno.
Bod y cytundeb cychwynnol yn para 3 mis a bod yr awdurdod yn darparu toiledau a gwaredu gwastraff ar gyfer pob teulu. Roedd Cyfnewidfa Sipsiwn a Theithwyr Leeds (GATE) yn darparu cymorth cyswllt rhwng meddianwyr a’r awdurdod lleol.
Daethpwyd o hyd i ail leoliad yn fuan ar ôl hynny a dywedodd aelodau etholedig lleol eu bod yn fodlon i’r cynllun gael ei ymestyn. Mae Cyngor Dinas Leeds yn amcangyfrif ei fod wedi arbed dros £100,000 hyd yma drwy leihau’r costau troi allan a glanhau sy’n gysylltiedig â gwersylla diawdurdod.
Cyngor Dinas Leeds a GATE Leeds (man aros dros dro/a negodwyd).
Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd gan awdurdodau lleol dri llwybr i’w dilyn wrth geisio datrys mater gwersyll diawdurdod, ac mae’n bwysig eu bod yn ystyried pob dewis yn ofalus:
- Llwybr 1: derbyn y gwersyll diawdurdod, boed hynny am gyfnod byr neu am y tymor hir, nes bydd y grŵp yn symud ymlaen yn wirfoddol neu nes bydd modd dod o hyd i safle arall.
- Llwybr 2: nodi safle arall, boed hynny dros dro neu yn y tymor hwy, a gofyn i ddeiliaid y Sipsiwn neu’r Teithwyr symud iddo.
- Llwybr 3: ceisio a chael meddiant o’r safle a feddiannir (trefniadau troi allan).
Mae dadansoddiad cost a budd Llwybr 1 wedi dangos y gallai derbyn y gwersyll am gyfnod byr fod yr ateb mwyaf effeithiol i bawb. Os dewisir y llwybr hwn, dylid gofyn i’r deiliaid gytuno i God Ymddygiad. Mae manteision tebyg wedi cael eu nodi o dan Lwybr 2.
Gellir dilyn Llwybr 3 os yw archwiliad lles yr awdurdod lleol wedi nodi bod safle presennol y gwersyll diawdurdod yn anniogel neu’n amhriodol ond bod yr angen am lety sy’n briodol yn ddiwylliannol yn eu hardal yn cael ei gydnabod serch hynny. Cyn penderfynu pa lwybr i’w ddilyn, dylai awdurdodau lleol ystyried a yw unrhyw un o’r meddianwyr wedi cyflwyno cais digartrefedd iddynt, a sut gall yr awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau statudol orau tuag at unrhyw feddiannwr sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, y bydd angen i’r awdurdod lleol eu prosesu.
Mae angen i awdurdodau cyhoeddus sy’n dilyn y llwybr hwn fod yn fodlon bod camau meddiant yn gyfiawn ac yn gymesur ac nad ydynt yn ymyrryd yn anghyfreithlon â hawliau Siarter Hawliau Dynol Ewrop y meddianwyr. Bydd asesiadau lles yn helpu i ddangos bod yr awdurdod lleol wedi ystyried yr holl wybodaeth berthnasol ac wedi penderfynu troi allan ar ôl cydbwyso hawliau’r meddianwyr hynny â hawliau’r gymuned sefydlog ehangach. Gellir ystyried a ddylid cysylltu â’r heddlu ynghylch y bwriad i droi’r meddianwyr allan.
Mae’r templed Cod Ymddygiad yn Atodiad 2 wedi ei fwriadu fel enghraifft nodweddiadol o gytundeb wedi ei negodi rhwng yr awdurdod lleol a’r meddianwyr mewn gwersyll. Mae’n bosibl y bydd gofynion penodol pob gwersyll angen fersiwn diwygiedig o’r templed hwn. Wrth drafod cod ymddygiad, dylid amcanu i ddod i gytundeb ar gyfrifoldebau pob ochr, gan ystyried y gwahaniaethau diwylliannol rhwng cymunedau teithiol a chymunedau sefydlog.
Caiff y cod amlinellu’r ddarpariaeth o wasanaethau i’r gwersyll, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cyflenwi dŵr, sbwriel a glanweithdra. Gall y cod hwn hefyd gynnwys darpariaeth i ganiatáu i’r awdurdod lleol gael mynediad i ddarparu’r gwasanaethau hyn, gan fod tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod costau glanhau yn llawer is lle gellir dod i gytundeb addas.
Dylid monitro’r gwersyll i sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw god ymddygiad a negodwyd ac i sicrhau nad oes effeithiau annisgwyl na niweidiol ar y gymuned leol. Gan fod y cod yn wirfoddol, nid oes modd ei orfodi yn y llysoedd, ond gall ddarparu tystiolaeth o ymddygiad y feddiannaeth os yw’r awdurdod lleol wedyn yn ystyried cymryd camau gorfodi.
Er ei bod yn dderbyniol gofyn am daliad ar gyfer unrhyw wasanaeth mae’r awdurdod lleol yn ei ddarparu i feddianwyr, dylid cydnabod na fydd rhai’n gallu fforddio talu o bosibl. Dylai’r awdurdod lleol ystyried a ddylid parhau i ddarparu mynediad at y gwasanaethau hyn hyd yn oed lle nad oes modd i feddianwyr dalu’r costau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol lle mae plant, pobl oedrannus, pobl ag anabledd, menywod beichiog neu unigolion ag anghenion iechyd dybryd yn bresennol yn y gwersyll. Os nad yw awdurdodau’n darparu cyfleusterau gwaredu gwastraff i wersyll, dylent hefyd ystyried a all meddianwyr ddefnyddio’r safle amwynder dinesig lleol gyda’r cerbydau sydd ganddynt. Dylid darparu gwybodaeth am y gwasanaeth hwn i’r rhai sydd ar y gwersyll, lle bo hynny’n briodol.
Pa lwybr bynnag a ddewisir, dylai’r awdurdod lleol a’r asiantaethau perthnasol gofnodi’r holl dystiolaeth y seiliwyd eu penderfyniad arni, gan gynnwys asesiadau lles a’r ffactorau a ystyriwyd wrth benderfynu pa lwybr i’w ddilyn. Dylai’r holl randdeiliaid, gan gynnwys trigolion lleol, y meddianwyr a’r asiantaethau cysylltiedig, gael gwybod sut mae’r awdurdod lleol yn ymateb i’r gwersyll, fel bo’n briodol.
Nid oes terfyn statudol ar hyd man aros dros dro/a negodwyd. Fodd bynnag, os bydd gwersyll yn ceisio aros yn yr ardal ar sail hirdymor, gallai hyn awgrymu bod angen safle awdurdod lleol ar gyfer y meddianwyr hynny. Bydd awdurdodau lleol yn ymwybodol o’u dyletswydd statudol i ddarparu ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio neu'n ymgynnull yn eu hardaloedd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.