Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Os yw preswylwyr parhaol lleiniau awdurdod lleol yn dymuno gadael y safle’n barhaol, rhaid iddynt roi rhybudd ysgrifenedig i reolwr y safle, ar ran yr awdurdod lleol, yn ysgrifenedig o leiaf 28 diwrnod cyn eu bod yn dymuno gadael. Mae gan breswylwyr sy’n darparu’r cyfnod rhybudd hwn hawl i unrhyw ordaliadau a wneir ar ôl i’r cytundeb gael ei derfynu.

Dylai’r preswylydd roi rhybudd i reolwr y safle ac yna dylai’r preswylydd lofnodi’r dogfennau i gadarnhau’r dyddiad y bwriedir gadael y llain ac y bydd ar gael i’w ail-ddyrannu.

Dylai rheolwr y safle geisio sicrhau bod yr holl filiau sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol neu’r sefydliad rheoli dan gontract yn cael eu setlo gan y preswylydd cyn ymadael. Cyn ymadael, dylid archwilio’r llain a’r bloc amwynder am unrhyw ddifrod. Dylid hysbysu preswylwyr (yn eu cytundeb cartref symudol) y gallai unrhyw ddifrod arwain at gost. Rhaid cofnodi pwy sy’n defnyddio’r safle i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwybod pwy sy’n defnyddio’r lleiniau bob amser. Bydd hyn yn helpu i ganfod y rhai a allai fod yn gyfrifol am ddifrod a bydd yn cael ei ystyried wrth ddyrannu lleiniau i deuluoedd yn y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw i safon dda.

Dylai rheolwr y safle atgoffa’r preswylwyr bod yn rhaid iddynt roi gwybod i’r swyddfeydd budd-daliadau, y gwasanaethau addysg ac iechyd perthnasol, fel sy’n berthnasol, cyn gadael. Dylid cynghori preswylwyr hefyd i adael cyfeiriad ar gyfer anfon ymlaen, er y gallant ddewis peidio â gwneud hynny.

Dylai rheolwyr safleoedd ddarparu geirda ar ran unrhyw gyn-breswylydd ar gais i unrhyw reolwr safle neu awdurdod lleol.

Os yw preswylwyr lleiniau tramwy yn dymuno gadael y safle cyn i’w cytundeb ddod i ben, y cwbl sydd raid iddynt ei wneud yw rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r rheolwr safle. Nid oes angen cyfnod rhybudd, a bydd gan ddefnyddwyr hawl i adennill unrhyw ordaliadau am y cyfnod ar ôl terfynu.