Canllawiau drafft ar gyfer rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 7: terfynu’r cytundeb
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Ar ôl cytuno ar y cytundeb cartref symudol a’i lofnodi ar gyfer llain preswyl awdurdod lleol, bydd yn darparu sicrwydd deiliadaeth amhenodol i’r preswylydd; oni bai mai dim ond hyd caniatâd cynllunio cyfyngedig sydd gan y llain ei hun.
Pan gyflwynir y cytundeb llain ar gyfer llain dramwy, y cyfnod hwyaf ar gyfer ei ddefnyddio yw tri mis. Bydd gweithdrefnau terfynu gwahanol yn berthnasol yn dibynnu ar a yw’r unigolyn ar lain breswyl neu lain tramwy.
Pan fydd cytundebau cartrefi symudol yn cael eu torri, dylai rheolwr y safle geisio datrys y broblem yn anffurfiol yn gyntaf, os yw hynny’n briodol, a sicrhau bod y preswylwyr yn deall y bu tor-amod a allai arwain at ganlyniadau iddynt o ran parhau i fyw ar y safle.
Mae enghreifftiau o sut i ddatrys achosion o dorri amodau’r cytundeb gan ddefnyddwyr wedi’u nodi isod. Fodd bynnag, bydd lefel y camau sydd i’w cymryd beth bynnag yn seiliedig ar ddifrifoldeb y toriad a’r effaith y gallai fod wedi’i chael ar breswylwyr eraill y safle a’r rhai sy’n byw yn yr ardal gyfagos:
- Nid oes angen cymryd camau pellach; mae’r preswylydd wedi datrys y mater ar ôl trafodaeth anffurfiol gyda rheolwr y safle ac nid yw bellach yn torri’r cytundeb.
- Gellir rhoi rhybudd llafar am dor-amod bychan. Rhaid cofnodi’r rhybudd llafar yn ysgrifenedig a rhaid i’r defnyddiwr ddeall y gall methiant i gydymffurfio arwain at gymryd camau pellach yn eu herbyn.
- Rhybudd ysgrifenedig - gellir rhoi hwn i’r defnyddiwr lle mae wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw rybudd llafar a roddwyd iddo eisoes neu fel cam cyntaf lle mae’r tor-amod yn fwy difrifol. Rhaid i’r rhybudd ysgrifenedig egluro sut y mae’r defnyddiwr wedi torri’r cytundeb, a’r hyn y mae angen iddo ei wneud, erbyn pa ddyddiad, i ddatrys y tor-amod. Rhaid i’r rhybudd ysgrifenedig hefyd egluro’r canlyniadau posibl i’r defnyddiwr os nad yw’n datrys y tor-amod yn ôl yr angen, a allai gynnwys camau cyfreithiol yn cael eu cymryd ei erbyn.
- Gellir rhoi rhybudd terfynol ysgrifenedig i’r defnyddiwr os yw’n methu â chymryd y camau sy’n ofynnol mewn rhybudd ysgrifenedig cyntaf, boed hynny i safon resymol neu o gwbl, neu lle mae’n torri’r cytundeb yn ddifrifol iawn. Os, ar ôl cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig cyntaf, yw’r tor-amod sy’n weddill yn ddigon difrifol, efallai y bydd awdurdodau lleol yn penderfynu cymryd camau cyfreithiol ar unwaith yn lle cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig terfynol. Os cyhoeddir rhybudd ysgrifenedig terfynol, rhaid iddo egluro sut y mae’r defnyddiwr yn parhau i dorri’r cytundeb a beth y mae angen iddo ei wneud, erbyn pa ddyddiad, i ddatrys y tor-amod. Rhaid i’r ail rybudd ysgrifenedig hefyd egluro’r canlyniadau posibl i’r defnyddiwr os nad yw’n cydymffurfio, a allai gynnwys camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn ei erbyn.
- Efallai y bydd angen cymryd camau cyfreithiol os nad yw’r mater wedi’i ddatrys ar ôl y rhybudd ysgrifenedig cyntaf neu ail, neu os yw torri’r cytundeb yn ddifrifol iawn, neu os yw’r defnyddwyr yn torri’r cytundeb ymhellach.
Os bydd preswylwyr yn methu â datrys unrhyw achos o dorri’r cytundeb ar ôl derbyn y rhybudd ysgrifenedig cyntaf a bod rheolwr safle o’r farn bod angen iddynt gymryd camau pellach, dylent drafod hyn gyda’r rheolwr gweithredol yn gyntaf.
Mae'r gweithdrefnau cyfreithiol y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu dilyn cyn y gellir terfynu cytundeb cartref symudol wedi'u nodi ym mharagraffau 38 i 40 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013.
Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu tystiolaeth sy’n bodloni llys neu dribiwnlys ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb cyn y gellir troi defnyddiwr allan o lain awdurdod lleol.
Nid oes angen i daflu oddi ar leiniau tramwy gael ei gymeradwyo gan lys neu dribiwnlys. Caiff awdurdodau lleol derfynu cytundebau ar gyfer lleiniau tramwy cyn y dyddiad dod i ben am unrhyw reswm, ar yr amod bod y defnyddiwr yn cael 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig. Caiff perchnogion safle hefyd derfynu’r cytundeb ar unwaith os yw’r defnyddiwr wedi torri ei gytundeb llain ac, ar ôl derbyn hysbysiad gan yr awdurdod lleol i unioni’r toriad, wedi methu â gwneud hynny mewn amser rhesymol a bod yr awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol terfynu'r cytundeb.
Os bwriedir troi allan, rhaid i reolwr y safle sicrhau bod adrannau perthnasol eraill yr awdurdod lleol sy’n gweithio gyda’r aelwyd (er enghraifft gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ac iechyd) yn cael gwybod.
Yn yr un modd â throi allan sy’n cynnwys aelodau o’r gymuned sefydlog, ni ddylid galw’r heddlu fel mater o drefn yn unrhyw achos troi allan. Dim ond pan ragwelir yn benodol y torrir yr y heddwch y dylid gwneud hyn mewn unrhyw achos.