Canllawiau drafft ar gyfer rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Atodiad 1: geirfa
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Geirfa
Llain
Tir ar safle cartref symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am gyfnod amhenodol (oni nodir hynny yn eu cytundeb llain). Fel arfer mae’n cynnwys bloc amwynder, lle ar gyfer carafán sefydlog a charafán deithiol a man parcio.
Bydd cynllun y llain yn dibynnu ar ddyluniad cyffredinol y safle. Elfen bwysig yn nyluniad a maint lleiniau yw’r capasiti arfaethedig. Mae Adran 60 Deddf Cartrefi Symudol (Cymru), yn diffinio ‘cartref symudol’ fel un sy’n mesur hyd at 20 metr o hyd a 6.8 metr o led.
Safle
Bydd y safle’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau (yn dibynnu ar faint y tir a’r gofynion), cysylltiadau â chyfleustodau, adeilad cymunedol, man chwarae, llwybr troed o amgylch y safle, goleuadau cyhoeddus, a ffensys/coed i greu ffin o amgylch y safle ar gyfer diogelwch ac amgáu.
Safle awdurdod lleol
Mae hwn yn safle sy’n eiddo i’r awdurdod lleol ac yn cael ei weithredu ganddo. Bydd y safle hwn yn cael ei ddynodi i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr am gyfnod amhenodol. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundeb llain, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.
Llain dramwy
Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am uchafswm cyfnod o dri mis. Gall lleiniau tramwy fodoli ar safleoedd preswyl parhaol, fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei argymell.
Safle tramwy
Mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sydd wedi’u dylunio i’w defnyddio dros dro gan ddefnyddwyr. Bwriedir i’r safleoedd hyn gynnig modd i Sipsiwn a Theithwyr gynnal ffordd o fyw nomadig. Caniateir i ddefnyddiwr unigol fyw ar y safle am uchafswm o dri mis ar y tro. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw’r safle, a bydd gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a glanweithdra ar gael.
Mae telerau penodol dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol ar y safleoedd hyn. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.
Cymunedau sefydlog
Mae cymunedau sefydlog yn gymunedau o bobl sydd ddim yn aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ac sy’n byw mewn tai brics a morter.