Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Ffioedd lleiniau a chostau eraill

Rhaid i ffioedd lleiniau fod yn gymesur â maint y llain a’r gwasanaethau a ddarperir ar y safle. Er mai’r awdurdod lleol fydd yn pennu lefel y ffi am y llain, cyfrifoldeb rheolwr y safle yw sicrhau bod preswylwyr yn cael gwerth am arian. 

Dim ond gyda chytundeb y preswylydd neu gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl y gellir newid ffi’r llain i safleoedd preswyl os yw naill ai’r awdurdod lleol neu breswylydd wedi gwneud cais am newid. Rhaid adolygu ffi’r llain yn flynyddol, ar yr un dyddiad bob blwyddyn (“y dyddiad adolygu”), a rhaid darparu manylion y ffi newydd arfaethedig i breswylwyr 28 diwrnod cyn y bwriedir i’r newid ddechrau.

Os bydd y preswylydd yn gwrthod cytuno â'r newid arfaethedig yn y ffi am y llain, bydd y ffi gyfredol yn parhau i fod yn daladwy tra bo'r awdurdod lleol yn gwneud cais am benderfyniad gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Os yw’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn cytuno â’r ffi newydd am y llain a gynigir gan yr awdurdod lleol, rhaid i’r preswylydd dalu’r ffi newydd am y llain o’r dyddiad adolygu ymlaen. Fodd bynnag, rhaid rhoi 28 diwrnod i’r preswylydd ar ôl penderfyniad y Tribiwnlys Eiddo Preswyl i dalu’r diffyg cyn yr ystyrir bod ganddo ôl-ddyledion.

Wrth benderfynu ar swm unrhyw ffi newydd am y llain, caiff awdurdodau lleol yn benodol ystyried unrhyw gostau a ysgwyddwyd ers yr adolygiad diwethaf o ffi’r llain, a oedd:

  • er budd y preswylwyr
  • yn amodol ar yr ymgynghori gofynnol
  • nad oedd y rhan fwyaf o’r preswylwyr wedi anghytuno’n ysgrifenedig â nhw. 

Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd ystyried unrhyw ostyngiad yn amwynder y safle ac effaith unrhyw ddeddfau a allai fod wedi dod i rym ers yr adolygiad diwethaf o ffi’r llain.

Rhaid i’r awdurdod lleol beidio ag ystyried y costau canlynol wrth benderfynu ar y newid yn ffi’r llain:

  • unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag ehangu’r safle, fel ffioedd dylunio neu gynllunio
  • ni ddylid cynnwys unrhyw gostau a ysgwyddodd y perchennog mewn perthynas ag achosion dan Ddeddf 2013, megis costau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi cytundebau ysgrifenedig, gwneud cais i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl neu gymryd camau cyfreithiol yn erbyn preswylwyr

Oni bai y byddai’n afresymol o ystyried yr uchod, mae rhagdybiaeth y bydd ffi’r llain yn cynyddu neu’n gostwng gan ganran nad yw’n fwy na’r newid yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ers yr adolygiad diwethaf o ffi’r llain.

Pan fydd rheoli safle’n cael ei gontractio i sefydliad allanol, rhaid i ffioedd lleiniau gael eu pennu gan yr awdurdod lleol o hyd, a all gysylltu â’r sefydliad rheoli fel y dymunant.

Dylai pob preswylydd gael llyfr rhent neu ddull addas arall o gofnodi taliadau ffi’r llain a wneir i’r awdurdod lleol.

Gwyddys bod rhai cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn profi lefelau uchel o dlodi. Os yw preswylydd yn cael trafferth talu ffi ei lain, dylid ei annog i gysylltu â rheolwr y safle neu staff yr awdurdod lleol cyn gynted ag y bo modd a ddylai geisio ei helpu i ddatrys hyn neu ei gyfeirio at sefydliadau a allai ddarparu cymorth, gan gynnwys mynediad at fudd-daliadau.

Rhaid i reolwr y safle roi sicrwydd i’r preswylydd y bydd ei wybodaeth ariannol bersonol yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol. Dylai rheolwyr safle hefyd fod yn gydymdeimladol a gochelgar wrth drafod materion personol gyda phreswylwyr. 

Credyd Cynhwysol / Budd-dal Tai

Mae Budd-dal Tai, wrth gwrs, yn ddull derbyniol o dalu am ffioedd lleiniau, ond cyfrifoldeb y preswylwyr yw trefnu hyn. Fodd bynnag, gall rheolwr y safle dynnu sylw preswylwyr at hyn fel opsiwn posibl iddynt ystyried.

Gall rheolwr y safle hefyd helpu’r preswylydd (os bydd angen) i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Fodd bynnag, rhaid i’r ymgeisydd barhau i fod yn gyfrifol am gywirdeb y cais ac nid yw’n trosglwyddo i reolwr y safle.

Lle bo’n ymarferol, dylai rheolwr y safle atgoffa’r preswylwyr i roi gwybod i’r awdurdodau neu’r adrannau perthnasol am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eu budd-daliadau.