Canllawiau drafft ar gyfer rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 12: diogelu preswylwyr ac ymwelwyr â’r safle
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Dylai awdurdodau lleol fod â pholisïau ar waith sy’n hyrwyddo dull ataliol a chymesur o ddatrys unrhyw broblemau ymddygiad a allai godi ar safle cyn iddynt fod â’r potensial i waethygu. Dylai’r polisïau hyn fod yr un mor berthnasol i breswylwyr y safle a’r gymuned sefydlog. Ar ben hynny, dylai’r polisïau hyn geisio diogelu’r rhai sydd ar leiniau unigol ar y safle rhag problemau sy’n codi gan breswylwyr lleiniau eraill neu aelodau cyfagos o’r gymuned sefydlog.
Dylai awdurdodau lleol gynnwys polisïau a rheolau’r safle ynghylch safonau ymddygiad disgwyliedig fel telerau penodol yn y cytundeb llain.
Dylai rheolwr y safle weithio gyda phreswylwyr, y gymuned sefydlog, yr awdurdod lleol a darparwyr gwasanaethau eraill, gan gynnwys yr heddlu lle bo hynny’n briodol, i sicrhau bod y safle’n lle diogel a heddychlon i bob preswylydd fyw. Dylid hysbysu’r preswylwyr y bydd rheolwr y safle’n cysylltu â’r awdurdod lleol, yr heddlu ac unrhyw asiantaethau eraill a allai fod yn berthnasol i ddelio ag unrhyw weithgareddau anghyfreithlon y maent yn eu canfod ar y safle neu oddi arno, boed gan breswylwyr neu bobl nad ydynt yn breswylwyr.
Efallai y bydd disgwyl i reolwr y safle weithredu fel cyfryngwr rhwng preswylwyr ar y safle neu gydag aelodau o’r gymuned sefydlog er mwyn datrys problemau, lle bo angen. Mae’n bwysig bod gan unrhyw reolwr safle y sgiliau a’r gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni’r rôl hon a’i fod yn cael unrhyw hyfforddiant gofynnol. Dylai rheolwr y safle gael ei gefnogi’n llawn gan yr awdurdod lleol a’r rheolwr gweithredol yn y rôl hon a dylai allu cyfeirio unrhyw faterion at ei reolwr llinell pryd bynnag y bydd angen cymorth ychwanegol arno.
Argymhellir cadw cofnod o unrhyw ddigwyddiadau a allai ddigwydd ar safle, wedi’u hategu gan dystiolaeth ffotograffig lle bo hynny’n bosibl, er mwyn sicrhau bod gan yr awdurdod lleol a’r heddlu fesurau addas ar waith i ddiogelu llesiant yr holl breswylwyr ac ymwelwyr.