Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Atgyweirio a chynnal a chadw

Mae’n bwysig bod safleoedd awdurdod lleol yn cael eu cynnal a’u cadw i safon resymol er mwyn sicrhau llesiant preswylwyr a chynaliadwyedd safleoedd. Gall costau cynnal a chadw safleoedd Sipsiwn a Theithwyr fod yn uwch nag ar gyfer mathau eraill o dai ac felly mae’n bwysig iawn bod â rhaglen gynnal a chadw wedi’i chynllunio yn ogystal â chynllun cynnal a chadw adweithiol.

Er mwyn sicrhau bod safleoedd yn cael eu cadw i safon resymol, dylai rheolwr y safle a’r rheolwr gweithredol weithio ar y cyd i sicrhau bod cynllun cynnal a chadw realistig ac wedi’i drefnu yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio. Dylid cynllunio cynlluniau cynnal a chadw a gwaith newydd mewn ymgynghoriad â thrigolion.

Mae Deddf 2013 yn nodi cyfrifoldebau’r awdurdodau lleol o ran atgyweirio a chynnal a chadw:

  • sylfaen y llain
  • unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a gyflenwir gan berchennog y safle i’r llain neu’r cartref symudol
  • unrhyw amwynderau eraill a ddarperir gan berchennog y llain, gan gynnwys unrhyw gytiau allan a chyfleusterau a ddarperir
  • pob rhan o’r safle nad yw’n gyfrifoldeb i ddeiliaid cytundeb llain unigol, gan gynnwys ffensys terfyn, ffyrdd mynediad a choed

Dylai’r cynllun cynnal a chadw gael ei lunio ymlaen llaw gan reolwr y safle a’i gytuno â’r awdurdod lleol. Dylai’r cynllun ddiffinio’n glir y dyletswyddau o ddydd i ddydd sy’n gyfrifoldeb i reolwr y safle a gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar raddfa fwy, ynghyd â chyllideb. Mae angen cynnwys gwaith brys hefyd gydag amcangyfrif o’r gyllideb, wedi’i glustnodi. 

Bydd gan lawer o safleoedd laswellt neu ardal wedi’i thirweddu. Pan fydd y rhain yn bodoli, bydd angen eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd. Bydd cadw’r glaswellt wedi’i dorri i’r maint isaf, nid yn unig yn helpu i atal risgiau tân ond hefyd yn helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn ar y safle ac yn helpu i sicrhau perthnasoedd cadarnhaol rhwng preswylwyr y safle a’r gymuned sefydlog. Gall ardaloedd glaswelltog hefyd ddarparu mannau chwarae pwysig i blant a phobl eraill sy’n byw ar y safle. Gall swyddogaethau megis torri’r glaswellt ddod dan adrannau eraill yr awdurdod lleol, ond dylai rheolwr y safle sicrhau bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud yn rheolaidd.

Fel y nodir yn y canllawiau Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru, gall ardaloedd cymunedol fod yn broblemus oni bai fod diben iddynt a hwnnw wedi’i ddiffinio’n glir. Lle bwriedir i ardaloedd sydd wedi’u tirweddu fod yn fannau chwarae, dylid hysbysu’r preswylwyr o’i bwrpas a dylid rhoi gwybod iddynt na fydd camddefnydd o’r ardal hon yn cael ei dderbyn.

Cyfrifoldeb rheolwr y safle fydd atal unrhyw sbwriel rhag cronni mewn mannau cymunedol. Dylai rheolwr y safle drefnu bod sbwriel yn cael ei glirio cyn gynted â phosibl, naill ai’n bersonol neu gan yr awdurdod lleol. Dylai llwybrau cymunedol a ffyrdd ar y safle gael eu hysgubo’n rheolaidd. Dylid clirio gwteri ffyrdd yn rheolaidd hefyd.

Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno cynnwys darpariaeth yn y cytundeb llain yr eir i’r afael ag achosion o dipio anghyfreithlon, gyda Hysbysiad Cosb Benodedig i ddechrau ac yna camau cyfreithiol lle bo angen. Mae hyn yn gyson â’r dull a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol mewn ymateb i unrhyw dipio anghyfreithlon gan aelodau o’r gymuned sefydlog. Pan fydd tipio anghyfreithlon yn dod yn broblem barhaus, gall hysbysiadau ar y safle sy’n rhybuddio preswylwyr am y camau y gellir eu cymryd yn eu herbyn fod yn rhwystr defnyddiol. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd y gellir ei chosbi â charchar a/neu ddirwy hyd at £50,000, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd.

Dylai rheolwr y safle geisio sicrhau bod yr offer a’r cyfleusterau a ddarperir ar y safle yn cael eu cadw mewn cyflwr rhesymol i’w defnyddio a’u bod yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch.

Os oes cyfleusterau chwarae ar gael, dylai rheolwr y safle archwilio’r rhain yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel. Os oes angen gwneud gwaith atgyweirio, dylai rheolwr y safle roi gwybod i’r adran awdurdod lleol berthnasol. Pan fydd cyfarpar yn cael ei ystyried yn beryglus, dylid ei dynnu o’r safle. Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr offer yn cael ei ddychwelyd mewn cyflwr rhesymol, cyn gynted â phosibl. Dylid rhoi syniad i breswylwyr faint o amser y bydd yn ei gymryd i wneud gwaith atgyweirio.

Dylai rheolwr y safle gynnal archwiliadau rheolaidd o’r blociau amwynder, yn fewnol ac yn allanol, a rhoi gwybod i’r awdurdod lleol ar unwaith am ddiffygion neu waith atgyweirio. 

Caiff rheolwr y safle fynd i mewn i lain heb roi unrhyw rybudd ymlaen llaw i’r defnyddiwr rhwng 9 am a 6 pm i ddanfon gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, ac i ddarllen unrhyw fesurydd ar gyfer gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a gyflenwir gan yr awdurdod lleol.  Os oes angen gwneud unrhyw waith atgyweirio hanfodol neu waith brys, caiff rheolwr y safle fynd i mewn i’r llain ar ôl rhoi cymaint o rybudd i’r defnyddiwr ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau. Ym mhob achos arall, rhaid i reolwr y safle beidio â mynd i mewn i lain defnyddiwr oni bai ei fod wedi rhoi o leiaf 14 diwrnod clir o rybudd ysgrifenedig o ddyddiad, amser a rheswm dros yr ymweliad i’r defnyddiwr.  Ni chaiff rheolwr y safle fynd i mewn i gartref symudol y defnyddiwr heb ganiatâd y defnyddiwr neu’r llys neu’r tribiwnlys.

Dylid annog preswylwyr i roi gwybod am achosion o ddiffygion ac eitemau y mae angen eu hatgyweirio. Pan fydd pryderon yn codi, dylai’r rhain gael eu nodi a’u cofnodi gan reolwr y safle a dylent bob amser gael eu harchwilio’n brydlon.