Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi ei gweledigaeth ar gyfer creu Cymru yn genedl wrth-hiliol. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn cynnwys y camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau gwrth-hiliaeth ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y gymdeithas yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod y gwahaniaethau diwylliannol sydd yn aml wedi arwain at allgáu cymdeithasol y grwpiau hyn, ac rydym am sicrhau bod lleisiau’r cymunedau hyn yn cael eu clywed wrth ddarparu gwasanaethau. Felly, mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer awdurdodau lleol, gan gynnwys sut mae cydymffurfio â thelerau Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).

Yn aml at ddibenion polisi ac er mwyn sicrhau bod y gwahaniaeth rhwng y tair cymuned hyn yn cael ei adlewyrchu, defnyddir y term Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Fodd bynnag, mae’r canllawiau hyn yn defnyddio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr fel y’i nodir yn adran 62 o Ddeddf 2013 ac adran 108 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy’n datgan:

Mae ‘Sipsiwn a Theithwyr’ yn golygu:

  1. Pobl sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:
    1. pobl sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi'r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, ac
    2. aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bobl sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a
  2. Unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod Sipsiwn Romani ethnig a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r rhai o unrhyw grŵp ethnig sy’n arfer ffordd nomadig o fyw. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Gallai Teithwyr Newydd hefyd fod yn rhan o’r diffiniad os ydynt yn gallu dangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartrefi symudol.

Nid oes angen i unigolion o reidrwydd ddangos eu bod yn arfer ffordd nomadig o fyw yn barhaus i gael eu hystyried yn Sipsiwn neu’n Deithwyr at ddibenion y canllawiau hyn.

Diben y canllawiau hyn

Bwriedir i’r ddogfen hon fod yn ganllaw i awdurdodau lleol o ran bodloni gofynion Deddf 2013 a datblygu safleoedd sy’n cael eu rheoli’n dda er mwyn i’w preswylwyr gael eu mwynhau. Mae’r canllawiau hyn yn anstatudol, ond argymhellir bod awdurdodau lleol yn ystyried y cyngor sydd yn y ddogfen hon oni bai fod ganddynt resymau cadarn dros beidio â gwneud hynny. 

Bydd tystiolaeth bod awdurdod lleol wedi ystyried y canllawiau hyn hefyd yn rhan allweddol o ystyriaeth Llywodraeth Cymru wrth benderfynu ar ddyfarnu unrhyw gyllid grant cyfalaf ynglŷn â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol. Pan fydd trefniadau rheoli dan gontract yn bodoli ar safle sy’n destun cais am gyllid grant cyfalaf, rhaid cyflwyno copi gwag o’r contract rheoli i Lywodraeth Cymru ar gais. Bydd hyn yn helpu i fodloni Llywodraeth Cymru bod rheolaeth briodol ar waith ar safleoedd sy’n derbyn buddsoddiad.

Adeg cyhoeddi, mae gan 16 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n darparu oddeutu 465 o leiniau.

Mae’n amlwg bod angen i waith rheoli o ansawdd da gyd-fynd â darparu safleoedd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau annog a chefnogi rhannu arferion da a dulliau cyson o reoli llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Nod y canllawiau hyn yw darparu adnodd defnyddiol i helpu i gyflawni hyn ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Dylai’r canllawiau hyn fod yr un mor ddefnyddiol i helpu awdurdodau lleol sy’n bwriadu datblygu safleoedd newydd a’r rhai sydd eisoes yn rheoli safleoedd, yn ogystal â phreswylwyr safleoedd. Dylid eu defnyddio fel sail ar gyfer hwyluso rheoli safle’n dda. Y nod yw annog dulliau cadarnhaol, realistig ac ymarferol o ddatrys materion a all godi wrth reoli safleoedd drwy danfuddsoddi, esgeulustod neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Dylid darllen y canllawiau Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ar y cyd â dogfen Llywodraeth Cymru Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.

Bydd awdurdodau lleol sy’n ystyried y ddwy ddogfen ganllaw, yn helpu i sicrhau bod safleoedd awdurdodau lleol yng Nghymru:

  • yn gynaliadwy, yn cael eu rheoli’n dda a bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei gynllunio ac nid bob amser yn adweithiol
  • yn meddu ar safonau cyfatebol i’r rhai a ddisgwylir ar safleoedd cartrefi symudol nad ydynt ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr
  • yn cael eu rheoli ar y cyd â phreswylwyr i greu’r amodau angenrheidiol i annog a datblygu perthynas dda rhwng Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog, a rhwng preswylwyr y safle a pherchnogion/rheolwyr

Datblygu’r canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn yn disodli canllawiau 2015 ‘Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’, sy’n ymgorffori nodau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Wrth ddatblygu’r canllawiau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cymharu’r safonau â’r rhai y gall y gymuned sefydlog ddisgwyl eu profi mewn tai o eiddo’r awdurdod lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, gwneir cymhariaeth uniongyrchol â mathau eraill o safleoedd cartrefi symudol, fel safonau Llywodraeth Cymru dan adran 10 Deddf Cartrefi Symudol 2013, ond mewn rhai achosion, mae’n briodol cymharu â darpariaeth tai cymdeithasol.

Drwy’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen llety diogel a diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau, ac mae wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r diffyg safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.

Cafodd safleoedd a safleoedd tramwy Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol hefyd eu cynnwys yn y diffiniad o ‘safleoedd gwarchodedig’ yn Neddf 2013, gan roi’r un sicrwydd deiliadaeth i breswylwyr y safleoedd hyn.

At bwy mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu?

Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio’n benodol ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu’n cael eu rheoli ganddynt, yn rhai parhaol a rhai tramwy. Mae rhagor o wybodaeth am fathau eraill o safleoedd i’w chael yn Atodiad 1.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu at y rhai sydd â chyfrifoldeb gweithredol a chyfrifoldeb o ddydd i ddydd dros safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu sy’n cael eu rheoli ganddynt. Mae hyn yn debygol o gynnwys ‘rheolwr safle’ a ‘rheolwr gweithredol’ mwy strategol gan awdurdodau lleol.

Defnyddir y term ‘rheolwr safle’ yn y ddogfen hon i ddisgrifio unrhyw berson sy’n gyfrifol o ddydd i ddydd am redeg safle awdurdod lleol. Gall teitl y swydd amrywio o un awdurdod lleol i’r llall, a gall y rolau a’r cyfrifoldebau a nodir yn y ddogfen hon fod yr un mor berthnasol i ‘ofalwr’ safle neu ‘warden’ safle. 

Mae rhai awdurdodau lleol wedi creu swydd warden safle answyddogol ar gyfer pennaeth y teulu estynedig sy’n defnyddio’r safle. Er y gall rhai o’r cyfrifoldebau a amlinellir yn y canllawiau hyn fod yn berthnasol i’r swyddi hyn, mae’n debygol mai rheolwr gweithredol yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol yn y pen draw am reoli’r safle. Bydd hyn yn arbennig o debygol pan fydd warden answyddogol y safle yn ddi-dâl.

Bwriedir i’r ‘rheolwr gweithredol’ yn y canllawiau hyn gyfeirio at swyddog yr awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y safleoedd hyn. Bydd lle mae’r cyfrifoldeb yn bodoli yn dibynnu ar strwythur penodol yr awdurdod lleol, gan fod yr adran sy’n rheoli’r safleoedd hyn yn aml yn amrywio rhwng adrannau tai, cynllunio ac ystadau.

Efallai y bydd rhai awdurdodau lleol gyda safleoedd bychain yn dewis peidio â chreu rôl benodol ar gyfer ‘rheolwr safle’. Serch hynny, bydd y cyfrifoldebau a amlinellir yn y ddogfen hon yn dal yn berthnasol i awdurdodau lleol sy’n berchen ar y safleoedd hyn ac yn eu rheoli. Felly, lle mae’r ddogfen hon yn cyfeirio at gyfrifoldebau’r ‘rheolwr safle’, dylai awdurdod lleol nad yw wedi penodi i’r rôl benodol honno ddehongli’r cyfrifoldebau hynny fel rhai sy’n rhan o swyddogaeth eu rheolwr gweithredol yn lle hynny.

Pan fydd awdurdod lleol wedi rhoi’r gwaith o reoli unrhyw safle o ddydd i ddydd ar gontract allanol, disgwylir i’r rheolwr gweithredol sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei roi i’r canllawiau hyn o hyd. Mae cyfrifoldeb yr awdurdod lleol dros reoli’r safleoedd hyn yn parhau. Dylid hysbysu Llywodraeth Cymru o enw’r person sydd â chyfrifoldebau o ddydd i ddydd dros bob safle awdurdod lleol.

Diffiniadau

Mae’r diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn y ddogfen ganllaw hon wedi’u cynnwys yn yr eirfa yn Atodiad 1.