Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Dylai’r awdurdod lleol weithio gyda rheolwr y safle a’r rheolwr gweithredol i sicrhau bod polisi cwynion clir a thryloyw yn ei le. Dylai hyn fod yn unol â’r polisïau cwyno ar gyfer mathau eraill o dai cymdeithasol a ddarperir gan yr awdurdod lleol. Er enghraifft, os yw polisi ‘cwynion tai cymdeithasol’ yn gofyn am ymateb o fewn 7 diwrnod, dylai preswylydd ar safle Sipsiwn a Theithwyr ddisgwyl yr un peth.

Dylai manylion y drefn gwyno fod ar gael i bob preswylydd. Gellir cyflwyno cwynion ar lafar neu’n ysgrifenedig. Ar gyfer cwynion ysgrifenedig, dylai ffurflenni fod ar gael gan yr awdurdod lleol a rheolwr y safle. Rhaid rhoi gwybod i breswylwyr sut yr ymdrinnir â’u cwyn, gan gynnwys pwy fydd yn delio â’u cwyn yn y lle cyntaf a beth y gallant ei wneud os nad ydynt yn fodlon â’r canlyniad.

Gall rheolwr y safle ddelio â mân gwynion ar y safle lle bo hynny’n briodol. Dylai’r polisi roi enghreifftiau o’r math o faterion y gellid eu hystyried yn rhai bach. Dylai’r polisi hefyd ddatgan y bydd materion mwy difrifol yn cael eu cyfeirio at y rheolwr gweithredol neu dîm cwynion yr awdurdod lleol.

Dylid rhoi manylion i breswylwyr ynghylch pwy y gallant gysylltu â nhw os ydynt yn dymuno cwyno am reolwr y safle.

Dylai adborth ar gynnydd y gŵyn fod ar gael drwy gydol y broses, yn unol â pholisi cwynion yr awdurdod lleol.