Canllawiau drafft ar gyfer dylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 8: ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch dylunio a gwella safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r bennod yn amlinellu’r manteision cymunedol a’r effaith gadarnhaol y gall meithrin perthynas ei chael wrth weithio gydag anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr a’u deall.
Pryd i ymgynghori
Pan fo’n bosibl, dylai awdurdodau lleol ystyried dymuniadau Sipsiwn a Theithwyr wrth ddylunio safle awdurdod lleol newydd, gan roi sylw penodol i’r angen i ddarparu llety sy’n addas i gefnogi eu ffordd draddodiadol o fyw. Os yw awdurdodau lleol yn cynnig gwelliannau i safleoedd presennol, mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ymgynghori’n uniongyrchol â phreswylwyr y safle drwy Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Dylid cadw tystiolaeth o’r broses ymgynghori a gynhelir a’i rhannu â Llywodraeth Cymru yn ôl y gofyn.
Lle bwriedir i safle newydd gael ei ddefnyddio gan gymysgedd o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr (er enghraifft, Romani a Theithwyr Gwyddelig) byddai’n ddefnyddiol i’r awdurdod lleol geisio barn pob un o’r gwahanol gymunedau cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen.
Cynghorir awdurdodau lleol hefyd i ymgynghori â Llywodraeth Cymru yn gynnar os ydynt yn bwriadu gwneud cais am gyllid Grant Cyfalaf Safleoedd. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cynigion am safleoedd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.