Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn amlinellu unrhyw wahaniaethau y gallai fod angen eu hystyried wrth ddylunio safleoedd tramwy, yn hytrach na safleoedd preswyl. Dylai safonau ar safleoedd tramwy adlewyrchu’r rhai a ddisgwylir ar safleoedd preswyl, oni nodir yn wahanol isod.

Cyflwyniad a chyd-destun

Gellir defnyddio Grant Cyfalaf Safleoedd Llywodraeth Cymru i ariannu safleoedd tramwy.

Mae gan Gymru ddiffyg sylweddol o leiniau awdurdodau lleol ac ar hyn o bryd nid oes safleoedd tramwy ar gael yn agored na mannau aros dros dro/a negodwyd mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Dylai awdurdodau lleol wneud pob ymdrech resymol i ddarparu lleiniau tramwy addas ar gyfer y rhai sy’n byw yn eu hardal er mwyn helpu i ddiogelu hunaniaeth ddiwylliannol y cymunedau hyn a chyfyngu ar wersylloedd diawdurdod.

Wrth ystyried lleoliadau ar gyfer safleoedd tramwy neu fannau aros dros dro / a negodwyd, dylai awdurdodau lleol ystyried hanes unrhyw wersyll diawdurdod yn yr ardal a’r wybodaeth a gafwyd fel rhan o asesiadau llesiant a’r broses asesu llety. Gall awdurdodau lleol hefyd adolygu data’r cyfrif carafanau ynghylch gwersylloedd diawdurdod ac asesu a oes angen safleoedd tramwy neu fannau aros dros dro/a negodwyd yn yr ardal leol.

Pan fydd gan awdurdodau lleol staff penodol sydd â phrofiad o gysylltu â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, byddant mewn sefyllfa dda i ddarparu gwybodaeth am ble mae aelodau’r gymuned wedi sefydlu gwersyll yn y gorffennol wrth deithio drwy’r awdurdod. Dylai awdurdodau lleol gynnwys yr wybodaeth hon fel rhan o’u harolwg GTAA, ac unrhyw adborth arall a gafwyd gan aelodau o’r gymuned i sicrhau bod lleoliadau unrhyw safle tramwy neu fannau aros mewn lleoliad addas i’w defnyddio gan y gymuned.

Mae Grant Cyfalaf Safleoedd Llywodraeth Cymru hefyd ar gael ar gyfer datblygu safleoedd tramwy. Dylai darparu safleoedd o’r fath, ynghyd â’u rheoli’n effeithiol, leihau nifer yr achosion o wersylloedd diawdurdod mewn lleoliadau anaddas. Mae safleoedd tramwy yn briodol lle mae awdurdod lleol yn profi gwersylloedd mynych anawdurdodedig, yn enwedig rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd i ddiwallu’r anghenion am leiniau a nodwyd drwy’r GTAA. Mae hyn yn cynnwys safleoedd preswyl a safleoedd tramwy.

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu nad yw’n ddoeth i safleoedd awdurdodau lleol gael cymysgedd o swyddogaethau preswyl a thramwy. Yn dibynnu ar gapasiti safle awdurdod lleol, efallai y bydd yn briodol i awdurdod lleol gynnwys un neu ddau o leiniau tramwy ar ei safle, i hwyluso aelodau o’r teulu sy’n ymweld â phreswylwyr parhaol y safle, ond dylid gwneud hyn dim ond lle gellir sicrhau llesiant holl breswylwyr y safle.

Lleoliad safle

Mae’n debygol y bydd angen lleoli safleoedd tramwy yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth pwysig er mwyn hwyluso teithio oddi yno. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i rai ardaloedd sydd â nifer uchel o wersylloedd ystyried materion eraill fel agosrwydd at ddigwyddiadau diwylliannol a safleoedd crefyddol.

Gall agosrwydd at borthladdoedd fferi hefyd fod yn ystyriaeth bwysig wrth gynllunio lleoliadau safleoedd tramwy.

Cynllun a mynediad

Dylai awdurdodau lleol ystyried y nifer tebygol o garafanau a allai feddiannu’r safle i gyd. Dylai maint safleoedd tramwy gydbwyso’r angen i gadw teuluoedd sy’n teithio gyda’i gilydd ar un safle â sicrhau rheolaeth effeithiol a chadw costau datblygu a chynnal a chadw safleoedd ar lefel resymol.

Gall safleoedd tramwy o hyd at 10 llain wneud darpariaeth briodol ar gyfer aelodau o’r gymuned sy’n ymgasglu. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ystyried eu hamgylchiadau lleol wrth ystyried maint unrhyw safle tramwy arfaethedig a dylent drafod cynigion gyda Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf.

Gall maint y lleiniau fod yn llai ar safleoedd tramwy i adlewyrchu’r ffaith na fydd cartrefi symudol sefydlog yn defnyddio’r rhain. Serch hynny, dylai lleiniau allu darparu ar gyfer 2 garafán deithiol a 2 fan parcio.

Dylai’r ddarpariaeth barcio gynnwys o leiaf 2 gerbyd i bob llain gydag isafswm maint o 2.4m x 4.8 metr fesul man parcio.

Dylai’r bylchau rhwng lleiniau a charafanau fod yr un fath ag ar gyfer safleoedd parhaol gan nad yw’r risgiau tân yn cael eu lleihau ar y math hwn o safle. Dylid rhoi modd i gadw pellter o 3 metr o ffin y llain a 6 metr rhwng cartrefi symudol.

Bydd cynllun safleoedd tramwy yn wahanol i safleoedd preswyl oherwydd diffyg blociau amwynder unigol. Yn hytrach na blociau amwynder unigol ar bob llain, mae safleoedd tramwy fel arfer yn darparu amwynderau a rennir yn cynnwys toiledau, basnau ymolchi a chyfleusterau cawod gyda chyflenwad dŵr poeth ac oer. Dylid darparu o leiaf 1 bloc amwynder i ddynion ac 1 i fenywod ar bob safle tramwy.

Dylai pob safle tramwy gynnwys rhwystr cyfyngu uchder i sicrhau mai dim ond y rhai sydd wedi’u hawdurdodi sy’n gallu cael mynediad i’r safle. Dim ond rheolwr y safle ddylai gael mynediad at yr allwedd i agor y rhwystr cyfyngu uchder. Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub perthnasol i sicrhau bod peiriannau tân yn gallu mynd i’r safle neu fod dyluniad y safle yn caniatáu ymladd tân o’r fynedfa i’r safle. Gall awdurdodau lleol hefyd ystyried yr angen am warden ar y safle i gyfyngu ar fynediad heb awdurdod. Os felly, bydd angen cynnwys llain parhaol a swyddfa safle wrth ymyl mynedfa’r safle tramwy.

Pan ddefnyddir llawr caled, dylai’r gwaith adeiladu fodloni’r un safon ag ar gyfer lleiniau preswyl.  Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai’n briodol defnyddio arwynebau amgen ar safleoedd tramwy, fel deunyddiau glaswellt-concrit neu ddeunyddiau eraill sy’n gallu helpu i ddarparu draenio cynaliadwy yn hytrach na tharmac mewn rhai ardaloedd.

Cyfleusterau safle

Argymhellir bod awdurdodau lleol yn darparu mannau gweithio ar safleoedd tramwy neu gyfleusterau mannau gweithio cyfagos ar gyfer defnyddwyr lle bo hynny’n bosibl. Yn wahanol i breswylwyr ar safle awdurdod lleol, nid yw defnyddwyr safleoedd tramwy yn debygol o allu gwneud trefniadau eraill i’w galluogi i weithio wrth deithio. Mae teithio ar gyfer gwaith yn rhan bwysig o ddiwylliant Sipsiwn a Theithwyr, a bydd darparu mannau gweithio yn helpu i gynorthwyo hynny. Fodd bynnag, yn yr un modd â safleoedd awdurdodau lleol, dylai’r awdurdod lleol sicrhau nad oes unrhyw weithgareddau peryglus yn cael eu gwneud ar leiniau tramwy.

Yn wahanol i safleoedd awdurdodau lleol, ni ellir gosod mesuryddion cyfleustodau ar gyfer pob llain gan mai dim ond blociau amwynder a rennir fydd yn cael eu darparu. Serch hynny, bydd angen i awdurdodau lleol gymryd camau i sicrhau bod ganddynt ffordd o ddosrannu biliau cyfleustodau’n deg rhwng y rhai sy’n defnyddio safleoedd tramwy.

Nid oes angen gwasanaethau post ar safleoedd tramwy oherwydd yr amser cyfyngedig y bydd defnyddwyr yn ei dreulio ar y safle a’r post y mae’n debygol na fydd modd ei ddosbarthu a fydd yn parhau i gyrraedd y safle ar ôl i’r defnyddwyr adael.

Fel yr amlinellir dan yr adran draenio a charthffosiaeth, rhaid cael darpariaeth foddhaol ar gyfer draenio dŵr budr a dŵr gwastraff naill ai drwy gysylltiad â charthffos gyhoeddus neu waith trin carthion neu drwy ollwng i danc carthion neu garthbwll sydd wedi’i adeiladu’n briodol ac sydd wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol.