Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn rhoi canllawiau ar faterion i awdurdodau lleol eu hystyried wrth nodi mannau aros dros dro/a negodwyd, yn absenoldeb darpariaeth dramwy addas yn eu hardal.

Cyflwyniad a chyd-destun

Fel rhan o’r Cyllid Grant Safleoedd Cyfalaf, gall Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid ar gyfer mannau aros dros dro/a negodwyd, os ydynt yn diwallu angen tramwy ac yn darparu cyfleusterau sy’n addas ac yn briodol. Fodd bynnag, mae lleiniau awdurdodau lleol a darpariaeth ddarfodol yn well fel ateb tymor hir i anghenion llety.

Ni ddylid ystyried mannau aros dros dro/a negodwyd yn ddewis amgen hirdymor i safle awdurdod lleol neu safle tramwy.  Gall mannau aros dros dro/a negodwyd fod yn addas ar gyfer gwneud darpariaeth dros dro ar gyfer ffeiriau neu ddigwyddiadau diwylliannol, neu i ddelio â gwersylloedd diawdurdod yn yr ardal. Os yw gwersylloedd diawdurdod yn brin o fewn ardal awdurdod lleol, gallai mannau aros dros dro/a negodwyd fod yn ateb addas i osgoi'r angen i'r rhain ddigwydd o gwbl.

Lleoliad safle

Mae angen nodi mannau aros dros dro/a negodwyd yn rhagweithiol cyn bod yr angen yn codi, a sicrhau bod y gymuned yn gwybod amdanynt cyn i wersylloedd diawdurdod ddigwydd.

Dylai lleoliad man aros dros dro/a negodwyd fod yn ddiogel a dylai fod mynediad da at rwydweithiau ffyrdd. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i anghenion a lles unrhyw blant a all ddefnyddio’r man aros. Dylai’r lleoliad hefyd geisio amharu cyn lleied â phosibl ar gymunedau cyfagos.

Cynllun a mynediad

Rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i gapasiti mannau aros dros dro/a negodwyd. Mae’r ffactorau i’w hystyried yn cynnwys nifer y gwersylloedd diawdurdod blaenorol a phresennol yn yr ardal, amlder digwyddiadau neu ffeiriau diwylliannol a allai arwain at yr angen am fannau aros dros dro a negodwyd a faint o bobl sy’n debygol o ddefnyddio’r man aros.

Dylai ffyrdd mynediad sy’n arwain at ac ar y man aros dros dro/a negodwyd fod yn ddigon cadarn i ddarparu ar gyfer cerbydau trwm. Dylid hefyd ystyried gosod rhwystr o amgylch y lle i annog pobl i beidio ag ehangu’r safle heb awdurdod. Argymhellir bod giât ar gyfer yr ardal neu ei fod yn cynnwys rhwystr ar y fynedfa.

Gan fod mannau aros dros dro/a negodwyd yn gallu bod yn segur am gyfnodau hir, gellid defnyddio deunydd fel gasscrete i crhau bod dŵr glaw yn gallu draenio’n naturiol wrth ddarparu arwyneb y gellir gyrru arnofydd rhywun yn ei feddiannu.

Dylai’r gwasanaethau brys allu mynd i mewn i’r man aros dros dro/a negodwyd heb rwystr. Dylai’r awdurdod lleol gynnal asesiadau risg yn rheolaidd tra bydd y man aros wedi’i feddiannu.

Rhaid cadw pellter diogel rhwng ôl-gerbydau a charafanau ac unrhyw ddeunydd llosgadwy arall hefyd. Rhaid ceisio cyngor yr awdurdod tân ac achub perthnasol wrth gynllunio ar gyfer mannau aros dros dro/a negodwyd.

Argymhellir hefyd y dylid ymgynghori â’r heddlu lleol ynghylch cynigion dylunio, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol.

Cyfleusterau

Dylid darparu cyflenwad dŵr oer o leiaf ar gyfer y rhai sy’n defnyddio’r man aros dros dro/a negodwyd a man gwaredu carthffosiaeth.

Dylid darparu toiledau symudol, gan gynnwys ystyried darpariaeth ar wahân ar gyfer dynion a menywod. Y gymhareb a argymhellir yw un toiled symudol ar gyfer pob pedwar cartref sy’n defnyddio’r man aros dros dro/a negodwyd. Argymhellir darparu cawodydd symudol hefyd.

Dylid darparu cyfleusterau casglu sbwriel hefyd mewn mannau aros dros dro/a negodwyd.

Dylai darparu’r gwasanaethau hyn helpu i leihau costau glanhau unwaith y bydd yr ardal wedi’i wagio. Gellid codi tâl am wasanaethau a ddarperir i breswylwyr.