Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Geirfa

Llain

Tir ar safle cartref symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am gyfnod amhenodol (oni nodir hynny yn eu cytundeb llain). Fel arfer mae’n cynnwys bloc amwynder, lle ar gyfer carafán sefydlog a charafán deithiol a man parcio.

Bydd cynllun y llain yn dibynnu ar ddyluniad cyffredinol y safle. Elfen bwysig yn nyluniad a maint lleiniau yw’r capasiti arfaethedig. Mae Adran 60 Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, yn diffinio ‘cartref symudol’ fel un sy’n mesur hyd at 20 metr o hyd a 6.8 metr o led.

Safle

Bydd y safle’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau (yn dibynnu ar faint y tir a’r gofynion), cysylltiadau â chyfleustodau, adeilad cymunedol, man chwarae, llwybr troed o amgylch y safle, goleuadau cyhoeddus, a ffensys/coed i greu ffin o amgylch y safle ar gyfer diogelwch ac amgáu.

Safle awdurdod lleol

Mae hwn yn safle sy’n eiddo i’r awdurdod lleol ac yn cael ei weithredu ganddo. Bydd y safle hwn yn cael ei ddynodi i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr am gyfnod amhenodol. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundeb llain, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Safle preifat gyda chaniatâd cynllunio

Mae safle preifat Sipsiwn a Theithwyr yn cyfeirio at dir preifat mewn perchnogaeth gyda chaniatâd cynllunio sydd wedi’i gymeradwyo’n swyddogol gan yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer defnydd preswyl parhaol gan Sipsiwn a Theithwyr.

Mae tir sydd wedi ceisio'r caniatâd cynllunio angenrheidiol i gael ei ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei gydnabod yn gyfreithiol fel tir sy’n bodloni’r safonau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol penodol.

Fel arfer, mae’r safleoedd hyn yn fach ac yn cynnwys nifer fach o leiniau ar gyfer teulu. Mae’r safleoedd hyn yn breifat i’w defnyddio gan y teulu hwnnw’n unig.

Safle preifat heb ganiatâd cynllunio

Tir a brynwyd gan aelod o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, nad yw wedi cael y caniatâd cynllunio angenrheidiol gan yr awdurdod cynllunio lleol i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr.

Mannau aros dros dro / a negodwyd

Bwriedir i’r rhain fod yn rhai tymor byr o ran natur i helpu awdurdodau lleol pan dderbynnir bod angen lleiniau. 

Rhaid darparu ar gyfer gwaredu gwastraff, cyflenwi dŵr a glanweithdra o leiaf.

Dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae gan y safleoedd hyn ganiatâd cynllunio neu drwydded safle. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl defnyddio eu lleiniau am gyfnod y caniatâd cynllunio neu’r drwydded safle (neu cyhyd â’u bod yn glynu wrth delerau eu cytundebau lleiniau, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, pa un bynnag yw’r cynharaf).

Llain dramwy

Tir ar safle cartrefi symudol lle mae gan ddefnyddwyr hawl i osod eu cartrefi symudol am uchafswm cyfnod o dri mis. Gall lleiniau tramwy fodoli ar safleoedd awdurdodau lleol, fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei argymell.

Safle tramwy

Mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sydd wedi’u cynllunio i’w defnyddio dros dro am uchafswm o 3 mis ar y tro. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw’r safle gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a glanweithdra, yn amodol ar dâl.

Mae telerau penodol dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol ar y safleoedd hyn. Gellir darparu mannau gweithio hefyd ar safleoedd, neu gerllaw, ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir gan aelodau o’r gymuned.

Gwersyll diawdurdod

Tir sy’n cael ei feddiannu heb ganiatâd y perchennog neu heb y caniatâd cynllunio cywir o ran defnydd tir.

Gellir defnyddio gwersylloedd dros dro os nad oes darpariaeth ar gael ar gyfer mannau tramwy neu fannau aros dros dro/a negodwyd, a gall yr awdurdod lleol eu derbyn, tra bydd safleoedd amgen yn cael eu datblygu.

Brics a morter

Tŷ neu fflat, y cyfeirir atynt yn aml fel tai confensiynol. Efallai eu bod ar rent gymdeithasol, ar rent preifat, neu mewn perchnogaeth.

Cymunedau sefydlog 

Mae cymunedau sefydlog yn gymunedau o bobl sydd ddim yn aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ac maent yn byw mewn tai brics a morter.