Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn rhoi manylion cydrannau hanfodol safle awdurdod lleol y dylid eu hystyried pryd bynnag y bydd safle’n cael ei ddylunio.

Maint a chynllun safle

Dylai awdurdodau lleol ymgynghori ag aelodau o’r gymuned yn ardal eu hawdurdod i ddeall anghenion teuluoedd unigol ar gyfer safleoedd cartrefi symudol.  Os oes cynnig i gynnwys unigolion o wahanol grwpiau ethnig neu gefndiroedd diwylliannol ar yr un safle, dylai awdurdodau lleol ofyn yn benodol i’r rhai yr effeithir arnynt a oes ganddynt unrhyw bryder ynghylch trefniant o’r fath cyn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer safleoedd newydd neu ehangu rhai sy’n bodoli'n barod.

Nid yw’r canllawiau hyn yn pennu isafswm nac uchafswm nifer y lleiniau ar gyfer safleoedd. Bydd angen ystyried pob safle yng nghyd-destun ei amgylchiadau penodol ei hun. Y ffordd orau o bennu maint safleoedd o ran niferoedd lleiniau yw yn ôl angen lleol, caniatâd cynllunio a thrwy ymgysylltu â chymunedau lleol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu y gall safleoedd llai fod yn haws eu rheoli a’u bod yn fwy tebygol o ddenu unedau teuluol cydnaws.

Gall awdurdod lleol ystyried ei bod yn briodol cael safle mwy mewn rhai amgylchiadau, ond ni ddylai hyn gael effaith niweidiol ar lesiant preswylwyr y safle, a dylai hefyd fod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu â phawb sy’n bwriadu byw ar y safle, a lle bo hynny’n ymarferol, y gymuned ehangach.

Gall awdurdod lleol ystyried ei bod yn briodol cael nifer uwch o leiniau ar safle lle mae amgylchiadau eithriadol a lle na fyddai hyn yn cael effaith niweidiol ar lesiant preswylwyr, ond dylai hyn fod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu â phawb sy’n bwriadu byw ar y safle, a lle bo hynny’n ymarferol, y gymuned ehangach.

Gellid ystyried bod safle mwy yn briodol er mwyn cadw cymuned fawr gyda’i gilydd, er enghraifft os yw aelwydydd yn cael eu hadleoli o safle presennol anghynaliadwy, neu os oes diffyg tir addas neu lefelau uchel o angen am leiniau heb ei ddiwallu o fewn ardal awdurdod lleol.

Bydd yn rhaid ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu ar gynllun ffisegol y safle. Mae’r rhain yn cynnwys: nifer y teuluoedd sydd i’w lletya, math a lleoliad cyfleusterau neu amwynderau, materion mynediad ac amgylchedd ac estheteg y tir sydd i’w ddatblygu. Gall y grwpiau ethnig, diwylliannol neu deuluol sy’n byw ar y safle hefyd arwain at ystyriaethau dylunio penodol. Er enghraifft, pan fwriedir i safleoedd gael eu rhannu gan wahanol gymunedau, gallai dyluniad ar ffurf ‘canghennau coeden’ fod yn well na dyluniad ‘cylchol’ (gweler Atodiad 2). Y pwynt allweddol yw y dylai unrhyw gynllun gael ei wneud mewn ymgynghoriad â’r preswylwyr arfaethedig.

Pan fo’n bosibl, dylai cynllun ffisegol y safle ystyried dewisiadau penodol preswylwyr y safle neu ddarpar breswylwyr y safle. Dylid ystyried lleoliad y safle hefyd er mwyn cynhyrchu cymaint o ynni adnewyddadwy â phosibl a bod o fudd i effeithlonrwydd ynni. Gall ymgynghori â thrigolion arfaethedig sicrhau bod yr awdurdod lleol yn deall anghenion y presennol a’r dyfodol yn llawn, er enghraifft, drwy nodi mewn da bryd unrhyw blant sy’n debygol o gyrraedd oedran pryd byddant angen eu lleiniau eu hunain yn fuan, neu deuluoedd yn dyblu ar eu lleiniau.

Mae sicrhau rhywfaint o breifatrwydd a diogelwch ar safleoedd yn hanfodol i breswylwyr. Mae angen taro cydbwysedd rhwng darparu’r lefel gywir o breifatrwydd a sicrhau bod ymdeimlad o gymuned yn cael ei gynnal.

Dylai awdurdodau lleol ystyried ffyrdd o gadw’r ymdeimlad o gymuned ar safleoedd, sy’n rhan bwysig o’r diwylliant o fyw ar safleoedd. Gall dyluniad cylchol adlewyrchu dyluniad gwersyll traddodiadol yn agosach ac yn gyffredinol byddai’n addas ar gyfer safleoedd â 12 llain neu lai. Gallai’r cynllun cylchol fod yn anymarferol ar gyfer safleoedd mwy.

Bydd tirweddu safleoedd yn helpu i greu amgylchedd deniadol i fyw ynddo. Lle bo’n bosibl, dylai’r awdurdod lleol geisio darparu atebion naturiol yn hytrach nag artiffisial o ran creu ffiniau. Er enghraifft, dylai awdurdodau lleol ystyried plannu rhywogaethau brodorol ar gyfer sgrinio o amgylch terfynau’r safle yn hytrach na defnyddio waliau concrit uchel.

Bydd darparu coed i greu ffin o amgylch y safle yn sicrhau bod arwynebedd y safle wedi’i ddiffinio’n glir. Bydd hefyd yn helpu i gadw safleoedd yn breifat, fel bo’n briodol.

Lleoliad safle

Dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod wedi dadansoddi canfyddiadau’r gwaith o gasglu data o’r Cyfrif Carafanau a’r GTAA i ganfod unrhyw ddewisiadau o ran lleoliad a nodwyd gan aelodau’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr neu unrhyw ardaloedd lle ceir gwersylloedd yn aml. Gall y dadansoddiad hwn a’r ymgysylltu parhaus ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr fod yn ddefnyddiol iawn i gefnogi trafodaethau ynghylch dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer safleoedd.

Mae Safon Enghreifftiol 2008 yn mynnu bod awdurdod lleol yn dangos cynllun a strwythurau’r safle’n glir. Wrth nodi lleoliadau ar gyfer safle awdurdod lleol, dylid ystyried dewisiadau aelodau’r gymuned fel rhan o broses asesu’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd awdurdodau lleol yn gallu sicrhau safleoedd mewn lleoliadau penodol mae aelodau’r gymuned yn gofyn amdanynt. Cydnabyddir y bydd yn rhaid ystyried ffactorau eraill fel argaeledd tir, cynaliadwyedd safle a pha mor hawdd yw cael caniatâd cynllunio. Bydd perthynas dda gydag aelodau’r gymuned yn helpu i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u bod yn rhan weithredol o brosesau gwneud penderfyniadau. Bydd perthnasoedd da hefyd yn gymorth i ddeall a derbyn pan na fydd awdurdodau lleol yn gallu cyflawni holl nodau’r gymuned.

Efallai y bydd gan Sipsiwn a Theithwyr gysylltiadau hirsefydlog ag ardal benodol o awdurdod lleol ac efallai y byddant yn dymuno cael llety yno. Dylai awdurdodau lleol ystyried y safbwyntiau hyn, yn enwedig os lle mae'r rhain yn  ymwneud â pharhau i gofrestru gyda gwasanaethau lleol gyda phrofiad ac arbenigedd o ymwneud â’r cymunedau hyn neu pan fyddant yn gysylltiedig â chyfleoedd addysg neu waith. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried effaith hirdymor unrhyw grynodiad o leiniau / safleoedd mewn un rhan benodol o ardal yr awdurdod. Mae’n bwysig nad yw darparu safleoedd mawr neu luosog mewn un ardal yn creu gwahanu gofodol yn y cymunedau hyn. Os yw lleoliad yn cael ei ystyried yn amhriodol ar gyfer defnydd tai confensiynol am unrhyw reswm, mae hefyd yn debygol o fod yn amhriodol ar gyfer safle awdurdod lleol.

Dylid ymgysylltu’n gynnar â darpar breswylwyr a Llywodraeth Cymru cyn i’r cynlluniau fynd yn rhy bell.

Wrth geisio dod o hyd i leoliad addas ar gyfer safle, dylai awdurdodau lleol ystyried y themâu cyffredinol canlynol:

Mynediad

Dylid lleoli safleoedd preswyl awdurdodau lleol gyda mynediad i ffyrdd cyhoeddus a llwybrau troed sy’n arwain at y safle. Er y byddai mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn ddelfrydol, gallai fod yn afrealistig ar gyfer unrhyw safleoedd mewn lleoliadau gwledig.

Cynaliadwyedd ac addasrwydd tir: rhaid i awdurdodau lleol ystyried materion cynaliadwyedd wrth nodi lleoliadau addas ar gyfer safleoedd parhaol. Dylai unrhyw safle fod ar gael i’w ddefnyddio fel safle awdurdod lleol yn y tymor hir (o leiaf 21 mlynedd) gyda’r disgwyliad y byddai angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar adeiladau mawr fel blociau cawodydd, ond nid dymchwel ac ailadeiladu ar raddfa lawn o fewn yr amserlen honno. Rhaid i’r awdurdod lleol sefydlu a yw’r safle mewn perygl o lifogydd drwy gyfeirio at Fap Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd. Os oes perygl o lifogydd rhaid i'r awdurdod lleol gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gael cyngor ar y tebygolrwydd o lifogydd, y dyfnderoedd a'r cyflymder y gellid eu disgwyl, argaeledd gwasanaeth rhybuddio a chymryd camau priodol.

Dylai ystyriaethau cynaliadwyedd gynnwys cyflwr amgylcheddol y tir, er enghraifft, diystyru tir a adeiladwyd ar orlifdir, tir gwenwynig neu safleoedd tirlenwi. Rhaid cynnal arolwg safle a fydd yn nodi problemau posibl fel draenio, perygl llifogydd, tir halogedig ac ati. Dylai awdurdodau lleol ystyried a yw gwaith adfer i ddatrys unrhyw broblemau yn ymarferol yn ariannol. Ystyrir bod cartrefi symudol yn agored iawn i lifogydd felly ni ddylid lleoli safleoedd mewn parthau llifogydd C2. Dylai lleoliadau mewn parthau llifogydd C1 fod yn destun prawf cyfiawnhad.

Gwasanaethau Lleol

Dylai lleoliad safle hefyd alluogi, nid llesteirio, mynediad at wasanaethau fel iechyd ac addysg. Yn ddelfrydol, byddai unrhyw safle wedi’i leoli bellter rhesymol oddi wrth leoliadau addysg, gwasanaethau iechyd a siopau. Os yw safle wedi’i leoli, neu’n mynd i gael ei leoli, mewn ardal wledig, efallai na fydd modd cyflawni hyn mewn llawer o achosion, er y gellir ystyried mesurau lliniaru fel dod ag ymwelwyr iechyd i’r safle’n rheolaidd. Rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (fel y’i diwygiwyd) a’r canllawiau cysylltiedig. I gael rhagor o fanylion, gweler y canllawiau Teithio gan Ddysgwyr.

Yr Amgylchedd

Diogelwch preswylwyr, gan gynnwys eu plant, yw’r flaenoriaeth bwysicaf.  Ni ddylid lleoli safleoedd wrth ymyl peryglon posibl fel afonydd neu gamlesi, oni bai bod modd rhoi mesurau diogelu priodol ar waith. Dylai lleoli safleoedd wrth ymyl safleoedd diwydiannol neu brif ffyrdd gael ei ystyried yn ofalus, a allai olygu bod angen monitro sŵn ac ansawdd aer a mesurau dylunio canlyniadol i leihau unrhyw effaith anffafriol. Gallai lliniaru yn erbyn effeithiau fod yn gostus yn y tymor hir, ac felly dylid cynnal yr holl asesiadau amgylcheddol angenrheidiol cyn penderfynu ble i leoli safle.

Cyfleustodau

Rhaid darparu dŵr, trydan, carthffosiaeth, draenio a gwaredu sbwriel ar bob safle. Mae’n bosibl y bydd angen ymgynghori â darparwyr cyfleustodau i sicrhau bod modd cyflawni meini prawf hanfodol ar gyfer cysylltiadau newydd ar safle arfaethedig. Dylai awdurdodau lleol feddwl am y costau tebygol y bydd preswylwyr yn eu hwynebu gan ddarparwyr cyfleustodau a, lle bynnag y bo modd, y goblygiadau o ran tariffau masnachol a phreswyl.

Ffyrdd

Dylai pob safle gael mesurau gostegu traffig sy’n arwain i mewn a thrwy'r safle.

Dylai pob ffordd fod ag arwyddion sy’n cael eu harddangos yn glir yn gofyn i geir arafu ar gyfer mynediad i’r safle. Dylai fod arwyddion ar ffyrdd mewnol hefyd yn rheolaidd yn gofyn i yrwyr arafu a rampiau i gyfyngu ar gyflymder lle bo’n briodol.

Dylai perchennog y safle adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd o ansawdd da sy’n gallu gwrthsefyll cerbydau trwm. Rhaid i ffyrdd newydd gael eu hadeiladu a’u gosod â macadem bitwmen neu goncrid addas gyda gwaelod wedi ei gywasgu addas. Dylai’r ffyrdd fod yn ddigon llydan i alluogi mynediad i gartrefi symudol ar gerbydau sy’n llwytho’n isel. Rhaid i ffyrdd dwyffordd beidio â bod yn llai na 3.7 metr o led, neu os ydynt wedi eu dylunio ar gyfer traffig unffordd, dim llai na 3 metr o led.

Rhaid i ddyluniad ffyrdd sy’n arwain at a thrwy safle roi mynediad clir ar gyfer cerbydau argyfwng. Rhaid peidio â gosod cartrefi symudol o fewn 2 fetr i unrhyw ffordd neu faes parcio cymunedol ar y safle neu fwy na 50 metr o ffordd o’r fath o fewn y safle. Rhaid i fargod ceblau fodloni’r gofynion statudol. Ni chaniateir ceblau uwchben ffyrdd sy’n is na 4.5 metr uwchben y ddaear. Rhaid i fynedfeydd a mynediad i gerbydau i’r safle fod o leiaf 3.1 metr o led a bod â cliriad uchder o 3.7 metr o leiaf.

Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ddarparu un pwynt mynediad yn unig i’r safle i atal pobl nad ydynt yn breswylwyr rhag defnyddio'r safle fel ffordd drwodd. Gallai ramp cyflymder ger y fynedfa i’r ffordd gyhoeddus helpu i sicrhau gostyngiad yng nghyflymder cerbydau unwaith y byddant ar y safle. Os yw’r safle ar gynllun coeden / ffordd bengaead, dylid cael digon o le i droi cerbydau mawr megis injans tân, ambiwlansys, lorïau sbwriel ac, wrth gwrs, cerbydau mawr a ddefnyddir gan y preswylwyr. Fe allai’r awdurdod lleol ddymuno cysylltu â’r Heddlu lleol i sicrhau bod dyluniad arfaethedig unrhyw safle newydd neu estynedig yn cyd-fynd ag egwyddorion Diogel Drwy Ddyluniad. Dylid cysylltu’r safle â’r gymuned leol drwy gyfrwng llwybr troed lle bo hynny’n bosibl. Dylai awdurdodau lleol gynnwys llwybrau mewnol o leiaf 0.9 metr o led, yn enwedig lle gall plant fod yn chwarae neu ar unrhyw lwybr i fan chwarae ar y safle. Ar safleoedd sydd â chynllun coeden, dylid osgoi llwybrau troed sy’n cysylltu ffyrdd pengaead er mwyn sicrhau preifatrwydd a llesiant y preswylwyr.

Bydd preswylwyr yn ymwybodol y dylid bod yn ofalus wrth yrru i’r safle ac o’i gwmpas oherwydd y posibilrwydd bod plant yn chwarae. Fodd bynnag, efallai na fydd ymwelwyr â’r safle’n sylweddoli’r perygl posibl ac felly dylid gosod arwyddion rhybudd wrth fynedfa’r safle a thrwy’r safle cyfan yn rhybuddio gyrwyr bod plant yn bresennol. Ar safleoedd sydd â chynllun cylchol, argymhellir system unffordd ar gyfer cerbydau, y dylid ei marcio ag arwyddion unffordd neu saethau wedi’u peintio ar y ffordd. Bydd hyn yn gwneud y llif traffig yn fwy rhagweladwy ac yn helpu i gadw plant yn ddiogel.

Gellid ystyried gosod rhwystr ar fynedfa’r safle, ar ôl ymgynghori â thrigolion y safle. Gall rhwystr mynediad wneud i drigolion y safle deimlo’n fwy diogel, ond dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried sut gall gwasanaethau brys gael mynediad i’r safle os rhoddir rhwystr ar waith, fel y nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 12 Llywodraeth Cymru. 

Ffiniau

Rhaid i ffiniau’r safle o unrhyw dir cyfagos gael eu marcio’n glir gan nodwedd naturiol neu un a grëwyd gan bobl. Dylid bod yn ofalus i sicrhau bod ffin y safle yn cael ei integreiddio i’r amgylchedd lleol. Y nod ddylai fod sicrhau cydbwysedd rhwng sicrhau’r ffiniau a chynnal amgylchedd braf a mwy agored ar y safle.

Dylai iechyd a diogelwch plant fod yn flaenoriaeth wrth ystyried trefniadau ffiniau. Dylid adeiladu ffiniau safle mewn ffordd a fydd yn lleihau i’r eithaf y risgiau i blant sy’n chwarae. Dylid cael bwlch o 3 metr y tu mewn i holl ffiniau’r safle fel mesur atal tân. Gweler Safonau enghreifftiol 2008 ar gyfer safleoedd carafanau yng Nghymru.

Rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r awdurdod tân ac achub lleol ynghylch y mesurau arfaethedig i atal a chanfod tân ar y safle arfaethedig a'r dull arfaethedig o ymladd y tân cyn agor safle i breswylwyr. Gweler Adran 56(4) Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng mannau cyhoeddus a phreifat ar y safle a dylid marcio ffiniau caeau’n glir, yn enwedig gan fod cyfrifoldebau cynnal a chadw perchnogion safle a phreswylwyr yn wahanol mewn perthynas â lleiniau a mannau cymunedol.

Gellir defnyddio gwahanol ddeunyddiau i ddiffinio ffiniau, fel plannu neu waliau isel. Lle mae nodweddion naturiol yn bodoli, byddai’n ddefnyddiol integreiddio’r rhain i ddyluniad y safle. Rhaid i ffensys a gwrychoedd, lle caniateir hynny a lle byddant yn ffurfio’r ffin rhwng carafanau cyfagos, fod yn uchafswm o 1 metr o uchder.

Dylai fod gan bob llain giât ddiogel y gellir ei chloi. Bydd hyn yn galluogi preswylwyr lleiniau i ddiogelu eu lleiniau eu hunain. Dylai’r gatiau fod o ddyluniad cadarn a dymunol ac ni ddylent fod yn rhy fawr. Argymhellir bod gatiau’n cael eu dylunio i atal anifeiliaid anwes neu blant bach rhag dianc o’r llain. Dylai’r gatiau fod o leiaf 3.1 metr o led.

Llain

Bydd cynllun y llain yn dibynnu ar ddyluniad cyffredinol y safle. Fodd bynnag, elfen bwysig yn nyluniad a maint y lleiniau yw’r capasiti arfaethedig. Yn draddodiadol, mae gan Sipsiwn a Theithwyr deuluoedd mwy yn byw gyda’i gilydd na’r gymuned sefydlog ac felly mae’n debygol y bydd mwy o alw am leiniau teuluol mwy o faint wedi’u dylunio’n dda. Yn ogystal, bydd angen digon o le ar gyfer cerbydau sy’n gallu tynnu carafanau. Dylid hefyd ystyried ymarferoldeb darparu digon o le ar y safle ar gyfer cerbydau mawr a allai gael eu defnyddio gan breswylwyr ar gyfer eu cyflogaeth.

Fel isafswm, dylai pob llain allu cynnwys bloc amwynder, cartref symudol, carafán deithiol a lle parcio ar gyfer dau gerbyd. Mae Adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn diffinio ‘cartref symudol’ fel strwythur sy’n mesur hyd at 20 metr o hyd a 6.8 metr o led. Dylai mannau parcio fod o leiaf 2.4 x 4.8 metr yr un.

Mae’n bwysig sicrhau bod lleoliad y llain yn caniatáu rhywfaint o breifatrwydd i breswylwyr unigol heb amharu ar yr ymdeimlad o gymuned. Bydd darparu ffiniau clir ar gyfer lleiniau, nad ydynt yn rhy uchel, yn cefnogi hyn. Bydd peidio â rhoi llwybrau troed yn uniongyrchol y tu ôl i lain hefyd yn cefnogi preifatrwydd yr aelwyd ac yn helpu i ddiogelu’r preswylwyr.

Dylai lleiniau ddarparu:

  • bloc amwynder sydd wedi’i gysylltu â’r cyflenwad dŵr, trydan a gwasanaethau/cyfleusterau eraill
  • ardal wastad gydag wyneb caled gyda draeniau’n gostwng
  • arwyneb sy’n hawdd ei lanhau a’i gynnal a’i gadw’
  • cynhwysydd addas ar gyfer gwastraff domestig - lle darperir biniau sbwriel cymunedol rhaid i'r rhain fod yn rhai na ellir eu llosgi a rhaid eu cadw mewn storfa biniau sydd wedi ei hadeiladu'n briodol. Rhaid i’r holl warediadau sbwriel fod yn unol â’r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol
  • mannau cysylltu trydan sy’n galluogi lleoli cartrefi symudol mewn mannau gwahanol yn y llain
  • ffordd o angori cartrefi symudol i’r llain yn ystod gwyntoedd cryfion, fel cylchoedd dur wedi’u gosod mewn concrit
  • cysylltu â draeniau a systemau carthffosiaeth
  • lle i sychu dillad

Llawr caled

Rhaid i bob llain fod ar sylfaen goncrid neu lawr caled. Rhaid i’r sylfaen ymestyn dros yr holl ardal a feddiannir, a rhaid iddi ddangos pellter digonol tuag allan o’r fynedfa neu’r mynedfeydd er mwyn i’r preswylwyr allu mynd i mewn a gadael yn ddiogel. Rhaid i’r lloriau caled gael eu hadeiladu yn unol â chanllawiau’r diwydiant, sy’n gyfredol adeg eu lleoli, gan ystyried amodau lleol.

Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am drwsio’r llawr caled os caiff ei ddifrodi yn y dyfodol, felly mae’n bwysig ystyried hyn wrth adeiladu hwn am y tro cyntaf. Lle bo’n bosibl, argymhellir rhywfaint o dirlunio meddal ar gyfer pob llain hefyd.

Bloc amwynder

Rhaid i bob llain fod â bloc amwynder y mae’n rhaid ei adeiladu neu ei adnewyddu i fodloni gofynion rheoliadau adeiladu cyfredol, rheoliadau a safonau a wneir gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, a gofynion y cwmni dŵr perthnasol. Dylid defnyddio dyluniadau sengl neu adeilad pâr lle bo hynny’n bosibl. Mae ymddangosiad preswyl yn debygol o wella golwg y llain ac estheteg gyffredinol y safle yn ei gyfanrwydd. Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am unrhyw waith atgyweirio ar y blociau amwynder.

Dylai blociau amwynder gynnwys toiled ar wahân gydag uned sinc ar gyfer golchi dwylo sy’n hygyrch drwy ystafell â lobi. Argymhellir baddonau gyda chawodydd uwchben hefyd. Dylai’r bloc hefyd gynnwys storfa, cegin ac ardal paratoi bwyd ac ardal fwyta fach i’r teulu. Mae’r diagram yn Atodiad 3 yn rhoi enghraifft o sut y gellid cynllunio hyn. Y gofod llawr lleiaf a argymhellir ar gyfer bloc amwynder yw 23m2.

Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â darpar breswylwyr y safle cyn cwblhau cynlluniau bloc amwynder. Efallai y byddai’n well gan breswylwyr gael cawodydd na baddonau neu gael ystafelloedd o feintiau ychydig yn wahanol. Bydd awdurdodau lleol hefyd yn ymwybodol o’u dyletswyddau i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer preswylwyr ag anabledd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn benodol, os yw nodwedd ffisegol safle yn rhoi person anabl dan anfantais sylweddol o’i gymharu â phersonau nad ydynt yn anabl, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i osgoi’r anfantais i’r person anabl.  Er mwyn diogelu safleoedd at y dyfodol, argymhellir bod blociau amwynder yn cael eu dylunio mewn ffordd a fydd yn caniatáu i addasiadau gael eu gwneud i ddarparu ar gyfer unrhyw breswylwyr ag anabledd neu unrhyw anghenion penodol eraill yn y dyfodol lle bo'n bosibl.

Dylai adeiladwaith a chynllun y bloc amwynder ystyried y gallai fod angen gwneud addasiadau ar gyfer rhai preswylwyr, er enghraifft y rhai sy’n defnyddio cymorth cerdded neu gadair olwyn. Dylai pob bloc newydd fod â rampiau mynediad yn hytrach na grisiau (neu’r ddau). Efallai y bydd angen gwneud addasiadau pellach i flociau amwynder sydd i’w dyrannu i breswylwyr ag anabledd.

Dylai awdurdodau lleol ystyried gosod rampiau bach ar safleoedd presennol yn lle grisiau ar flociau amwynder. Dylai waliau mewnol mewn ystafelloedd ymolchi a thoiledau allu dal cymhorthion cynnal. Gellir gosod cymhorthion sylfaenol hefyd er mwyn caniatáu hyblygrwydd o ran defnydd. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ymgeisio am y Grant Cyfleusterau i’r Anabl i gyllido’r addasiadau gofynnol.

I ddarparu ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau a fframiau cerdded, dylai’r prif fynedfeydd, drysau a llwybrau fod o leiaf 0.8 metr, 0.75 metr a 0.9 metr yn y drefn honno.

Dylai fod gan y blociau gyflenwad dŵr digonol gan gynnwys dŵr poeth y gellir ei reoli’n thermostatig. Dylai’r ystafelloedd ymolchi fod wedi’u sgrinio’n dda a dylid gosod teils ar y waliau lle ceir cawodydd neu faddonau. Dylid gosod gwaith plymio ar gyfer peiriant golchi/sychwr, a phwyntiau trydanol ar gyfer popty/peiriant golchi/sychwr. Dylid darparu socedi trydan ychwanegol drwy’r bloc cyfan. Dylid cysylltu’r bloc â charthffos neu system ddraenio addas arall.

Dylai’r man paratoi/coginio bwyd fod â lle storio digonol ar gyfer bwyd ac eitemau eraill y cartref. Dylid gosod sinc a draeniwr hefyd. Dylai fod lle ar gyfer offer ychwanegol fel microdon. Dylai’r dyluniad mewnol ganiatáu cymaint o olau naturiol ag y bo modd gan y gall y preswylwyr dreulio cryn dipyn o amser yn yr ardal fwyta. Dylid gallu cloi’r storfa i sicrhau bod modd cadw cynhyrchion glanhau neu beryglon eraill y tu hwnt i gyrraedd plant.

Dylai awdurdodau lleol archwilio systemau effeithlonrwydd ynni cost-effeithiol ar gyfer blociau amwynder. Gellid darparu paneli solar ar flociau amwynder i ddarparu gwres ffotofoltaidd. Gellid ystyried systemau gwastraff ecogyfeillgar a chasglu dŵr glaw hefyd. Er mwyn sicrhau bod y blociau’n defnyddio ynni’n effeithlon, dylid inswleiddio tanciau dŵr a phibellau i gadw gwres ac atal difrod gan rew. Dylai fod gan bob ystafell system wresogi ddarbodus sy’n rhoi modd o reoli’r tymheredd.

Dylid cymryd pob rhagofal i sicrhau bod socedi trydanol a ffitiadau a gosodiadau eraill yn cael eu diogelu rhag plant, fel arwynebau gwaith crwn. Dylai’r holl osodiadau a ffitiadau fod yn gadarn, yn gryf ac yn rhai sy’n para’n dda, ond yn rhai domestig eu natur. Y bwriad ddylai fod creu amgylchedd diogel ond cyfforddus. Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried cydymffurfio ag egwyddorion Diogelu drwy Ddylunio wrth ddylunio blociau amwynder newydd.

Bylchau rhwng carafanau ac ôl-gerbydau

Rhaid cadw bwlch o 3 metr rhwng cartref symudol ac unrhyw ffin safle. Dylid cymryd y mesuriad o wal y cartref symudol. Rhaid cadw pob cartref symudol unigol bellter o ddim llai na 6 metr oddi wrth unrhyw gartref symudol arall am resymau diogelwch tân ac i sicrhau preifatrwydd oddi wrth gartrefi cyfagos.