Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae’r Bennod hon yn amlinellu cyfrifoldebau’r awdurdodau lleol i sicrhau bod eu safleoedd yn addas i’r diben ac yn cydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch. Mae hefyd yn ymdrin ag amddiffyn preswylwyr rhag troseddau a sicrhau diogelwch tân ar safleoedd.

Iechyd a diogelwch

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol a rheolwr y safle yw sicrhau bod asesiad risg o'r safle yn cael ei gynnal yn rheolaidd, gan gynnwys asesiad risg tân penodol. Rhaid i’r holl gyfarpar a ddarperir gan yr awdurdod lleol gydymffurfio â’r safonau perthnasol a chael ei archwilio’n rheolaidd gan berson cymwys. Rhaid i reolwyr safle gadw cofnodion o’r holl brofion a gynhaliwyd a dylid cwblhau arolygiadau’n flynyddol. Rhaid i reolwyr safle sicrhau bod pob gofal yn cael ei gymryd i ddiogelu offer rhag yr elfennau os cânt eu storio y tu allan, er enghraifft drwy gasinau addas.

Rhaid i adeiladau tal sy’n cael eu darparu ar y safle gan yr awdurdod lleol gydymffurfio â safonau symudedd perthnasol a hefyd, lle bo’n berthnasol â gofynion Rhan M (Mynediad i Adeiladau a’r Defnydd Ohonynt) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau Adeiladu 2010 a’r ddeddfwriaeth berthnasol gysylltiedig.

Dylunio yn erbyn troseddu

Mae’n bwysig bod preswylwyr yn teimlo’n ddiogel ar y safle heb deimlo eu bod wedi’u hynysu na’u carcharu. Dylai unrhyw ddyluniad safle newydd anelu at ddiogelu preswylwyr cyn belled ag y bo’n ymarferol. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol hefyd yn ei chael yn ddefnyddiol trafod eu cynlluniau gyda’r heddlu lleol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag egwyddorion Diogelu drwy Ddylunio ac i sicrhau bod materion sy’n ymwneud â diogelwch a throseddu yn cael eu deall a’u datrys o’r cychwyn cyntaf.

Diogelwch tân

Wrth ddylunio safleoedd awdurdodau lleol, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub lleol o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Rhaid lleoli cartrefi symudol mewn ffordd a fydd yn lleihau’r risg y bydd tân yn lledaenu rhwng adeiladau a strwythurau ar y llain. Dylai’r pellter lleiaf rhwng carafanau fod yn 6 metr. Ni ddylai lleiniau fod yn fwy na 30 metr o bwynt tân. Rhaid gosod y mannau tân mewn strwythur sy’n gallu gwrthsefyll y tywydd, sy’n hawdd ei gyrraedd ac wedi’i nodi’n glir fel ‘Pwynt Tân’.

Rhaid darparu safbibellau neu hydrantau ar bob safle fel y pennir gan yr asesiad risg ac mewn ymgynghoriad â'r awdurdod tân ac achub perthnasol. Rhaid i’r holl offer gydymffurfio â safonau Prydeinig/Ewropeaidd perthnasol.

Rhaid i bob pwynt tân fod â dull o seinio’r larwm os bydd tân. Rhaid i hyn fod yn briodol i faint a chynllun y safle ac yn seiliedig ar ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub perthnasol.

Rhaid i hydrantau gydymffurfio â Safon Brydeinig 750 a rhaid eu gosod fel nad oes unrhyw garafán dros 100m oddi wrth hydrant. Mae’n bwysig sicrhau bod hydrantau a chyflenwadau dŵr eraill yn hawdd eu cyrraedd ac nad ydynt yn cael eu rhwystro na’u cuddio. Gellid ystyried riliau pibelli dŵr; fodd bynnag, rhaid rhoi gwybod i breswylwyr na ddylent oedi cyn cysylltu â’r gwasanaeth tân drwy geisio diffodd y tân eu hunain. Rhaid i bibelli a ddarperir gael eu diogelu rhag yr elfennau a dylid cymryd gofal i’w hatal rhag cael eu camddefnyddio.

Dylid gosod hysbysiadau sy’n amlinellu pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd os bydd tân neu argyfwng arall mewn lleoliadau amlwg ar draws y safle. Lle bo’n bosibl, dylid defnyddio pictogramau i egluro beth mae’n rhaid ei wneud a pha drefniadau sydd ar waith os bydd tân, gan gynnwys manylion y man ymgynnull.

Rhaid i bob safle awdurdod lleol gael protocolau ar waith sydd wedi’u nodi’n glir mewn cynllun rheoli safle. Mae angen gwneud preswylwyr yn ymwybodol bod ganddynt gyfrifoldeb i atal tanau rhag digwydd a’u cyfrifoldeb nhw yw cynnal a chadw’r diffoddyddion tân sy’n eiddo iddynt. Rhaid i'r holl offer larwm ac ymladd tân a ddarperir gan yr awdurdod lleol gael eu gosod, eu profi a'u cynnal a'u cadw mewn cyflwr da gan berson cymwys. Rhaid i’r holl gyfarpar sy’n agored i rew gael ei ddiogelu’n briodol.

Rhaid i’r gwaith o gynnal a chadw a phrofi larymau tân ac offer diffodd tân ar y safle gael ei osod, ei brofi a’i gynnal mewn cyflwr gweithredol gan bobl gymwys, nid preswylwyr, a bod ar gael i’w archwilio gan, neu ar ran, yr awdurdod trwyddedu neu’r Awdurdod Tân ac Achub. Rhaid cadw cofnod o’r holl brofion a’r camau unioni a gymerwyd.

Dylid ystyried gofynion yr awdurdod tân ac achub perthnasol wrth storio Nwy Petrolewm Hylifol (LPG) a deunyddiau fflamadwy eraill ar y safle. Dylai storio’r deunyddiau hyn fodloni gofynion statudol a dylid rhoi mesurau ar waith i atal camddefnydd.

Rhaid i’r mynediad i’r safle ac o’i gwmpas roi mynediad hawdd i’r gwasanaethau Tân ac Achub ac ambiwlansys.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelwch tân sydd mewn grym ar unrhyw adeg benodol. Mae’r safonau diogelwch Tân sy’n berthnasol yng Nghymru wedi’u cynnwys yng Ngorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae darpariaethau perthnasol y Gorchymyn yn gymwys i flociau amwynder ac ardaloedd cymunedol safleoedd awdurdodau lleol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys y cartrefi symudol eu hunain, gan mai adeiladau domestig yw’r rhain.

Os yw'r awdurdod lleol yn dymuno rhoi mesurau atal, canfod ac ymladd tân amgen ar waith, rhaid iddynt ymgynghori â'r awdurdod tân ac achub perthnasol cyn gwneud hynny.