Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn amlinellu tarddiad yr angen i ddylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr fel a ddaeth i’r amlwg drwy’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae hefyd yn tynnu sylw at ddiben y canllaw ymarferol hwn i roi gwybod i awdurdodau lleol sut i ddylunio, datblygu a gwella safleoedd. Dyma’r fersiwn ddiweddaraf o’r canllawiau, yn dilyn y canllaw gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2015. 

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi ei hymrwymiad i greu Cymru yn genedl wrth-hiliol. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn cynnwys cymorth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y gymdeithas yng Nghymru a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni gwrth-hiliaeth ar gyfer y cymunedau hyn. Rydym yn cydnabod y gwahaniaethau diwylliannol sydd yn aml wedi arwain at allgáu cymdeithasol y grwpiau hyn, ac rydym am sicrhau bod lleisiau’r cymunedau hyn yn cael eu clywed wrth ddarparu gwasanaethau. Felly, mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Yn aml at ddibenion polisi ac er mwyn sicrhau bod y gwahaniaeth rhwng y tair cymuned hyn yn cael ei adlewyrchu, defnyddir y term Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Fodd bynnag, at ddibenion y canllawiau hyn, bydd y term Sipsiwn a Theithwyr, fel y’i diffinnir yn Neddf Tai (Cymru) 2014, yn cael ei ddefnyddio i gwmpasu cymunedau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw. 

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cydnabod bod angen llety diogel a diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau, a'i fwriad yw mynd i’r afael â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Rhoddir sylw i’r nod hwn drwy argaeledd barhaus cyllid Grant Cyfalaf Safleoedd ar gyfer datblygu safleoedd presennol a newydd. Mae deddfwriaeth fel Deddf Tai (Cymru) 2014Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 hefyd wedi cefnogi’r nod hwn. 

Mae tuedd ar hyn o bryd i Sipsiwn a Theithwyr ddod yn fwy ‘sefydlog’ ar safleoedd parhaol neu symud i dai confensiynol. Mae teithio wedi dod yn anoddach oherwydd patrymau newidiol mewn gwaith a diffyg mannau aros cyfreithiol neu ddarpariaeth tramwy, ac effaith Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Deddf yr Heddlu 2022).

Roedd Cyfrifiad 2021 yn awgrymu mai dim ond 3,630 o Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig sy’n yw yng Nghymru. Ar draws Cymru a Lloegr dim ond 21.6% o holl aelodau’r gymuned y cofnodwyd eu bod yn byw mewn carafanau neu strwythurau symudol neu dros dro eraill, gyda 78.4% yn byw mewn gwahanol fathau o dai confensiynol (‘brics a morter’). Adeg cyhoeddi, mae gan 16 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n darparu oddeutu 465 o leiniau.

Diben y canllawiau hyn

Bwriad y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol i ddylunio a darparu safleoedd priodol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â safonau enghreifftiol 2008 ar gyfer safleoedd carafannau yng Nghymru, y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried. Mae’n cynnwys canllawiau ymarferol i helpu awdurdodau lleol i sicrhau bod eu holl safleoedd, gan gynnwys safleoedd aros dros dro/safleoedd wedi eu negodi a safleoedd tramwy, yn addas i’r diben.

Dylid darllen y canllawiau hyn hefyd ar y cyd â’r canllawiau Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru sy’n nodi cyfrifoldebau gwahanol awdurdodau lleol a phreswylwyr fel y nodir yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod y dogfennau canllaw hyn yn cael eu darllen cyn dylunio safleoedd newydd.

Dan adran 10 Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, caiff gweinidogion Cymru bennu safonau enghreifftiol ar gyfer cynllun a darpariaeth cyfleusterau, gwasanaethau ac offer ar gyfer safleoedd sy’n cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf honno. Mae adran 56 y Ddeddf honno yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth ddarparu safleoedd cartrefi symudol, roi sylw i unrhyw safonau a bennir gan weinidogion Cymru dan adran 10.

Nid yw’r canllawiau hyn yn statudol. Fodd bynnag, bydd dilyn y canllawiau hyn wrth ddylunio safleoedd newydd neu ailwampio safleoedd presennol yn helpu awdurdodau lleol ac eraill i ddylunio, datblygu a gwella safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal. Bydd y graddau y mae awdurdodau lleol wedi ystyried y canllawiau hyn hefyd yn rhan o ystyriaeth Llywodraeth Cymru wrth asesu ceisiadau am gyllid Grant Cyfalaf Safleoedd mewn perthynas â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae unrhyw gais a wneir am safleoedd/lleiniau newydd nad ydynt yn bodloni’r safonau disgwyliedig sy’n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol e.e. adeiladu ar safleoedd tirlenwi neu dir anaddas neu anghynaliadwy arall, yn debygol o gael eu gwrthod. Atgoffir awdurdodau lleol y dylai safle newydd fod yn gynaliadwy ac ar gael i’w ddefnyddio fel safle Sipsiwn a Theithwyr yn y tymor hir (o leiaf 21 mlynedd).

Bydd awdurdodau lleol, wrth ystyried y canllawiau hyn a’r canllawiau ‘Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru’ yn helpu i sicrhau bod safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru:

  • yn cael eu hadeiladu ar dir addas a diogel
  • yn gynaliadwy, yn cael eu rheoli’n dda a bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei gynllunio ac nid bob amser yn adweithiol
  • wedi’u cynllunio gyda chyfranogiad gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr
  • bod â safonau cyfatebol, lle bo hynny'n berthnasol, i'r rhai ar gyfer mathau eraill o safleoedd cartrefi symudol a thai cymdeithasol
  • wedi’u cynllunio er mwyn helpu i annog a datblygu perthynas dda rhwng Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog, a rhwng preswylwyr y safle a rheolwr y safle / yr awdurdod lleol

Datblygu’r canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn yn disodli canllawiau 2015 ‘Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’, a ddatblygwyd drwy ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ledled Cymru, gan gynnwys staff tai, cynllunio, iechyd yr amgylchedd ac addysg awdurdodau lleol.

Wrth ddatblygu’r canllawiau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cysoni safonau â’r rhai y gall y gymuned sefydlog ddisgwyl eu profi. Yn y rhan fwyaf o achosion, gwneir cymhariaeth uniongyrchol â mathau eraill o safleoedd cartrefi symudol ond mewn rhai achosion mae’n fwy priodol cymharu â’r ddarpariaeth tai cymdeithasol.

Mae safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol bellach o fewn y diffiniad o ‘safleoedd gwarchodedig’ at ddibenion Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, gan ddarparu sicrwydd deiliadaeth cyfartal i breswylwyr sy’n byw ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac egluro rolau a chyfrifoldebau am leiniau a mwynderau eraill ar y safleoedd hyn.

Diffiniadau

Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio’n llwyr ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu ar brydles ganddynt. Mae Adran 62 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ac adran 108 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014:

yn diffinio ‘Teithwyr a Theithwyr’ fel a ganlyn:

  1. Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:
    1. Personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi'r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, ac
    2. Aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (p'un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a
  2. Unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod Sipsiwn Romani ethnig a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r rhai o unrhyw grŵp ethnig arall sy’n arfer ffordd o fyw nomadig. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Dylid cynnwys Teithwyr Newydd yn y diffiniad hefyd os ydynt yn dangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartrefi symudol. Nid oes angen i aelodau o’r cymunedau hyn o reidrwydd ddangos eu bod yn arfer ffordd o fyw nomadig parhaus i gael eu hystyried yn Sipsiwn neu’n Deithwyr. 

Mae Sipsiwn a Theithwyr ymysg y grwpiau sydd wedi’u hallgáu fwyaf yn gymdeithasol, gyda chanlyniadau iechyd ac addysg yn sylweddol waeth na’r boblogaeth sefydlog. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu lle mae Sipsiwn a Theithwyr yn gallu ymgartrefu ar safleoedd sy’n cael eu rheoli a’u cynnal yn dda, eu bod yn gallu cael gafael ar wasanaethau iechyd ac addysg yn well, a all arwain at ansawdd bywyd gwell.

Fel sy’n cael ei gydnabod gan Estyn, mae plant elwa drwy well presenoldeb a chyrhaeddiad yn y system addysg, sy’n galluogi gweithwyr addysg proffesiynol i feithrin perthynas sefydlog ac ymddiriedus gyda theuluoedd.

Bydd gwell iechyd yn deillio o, er enghraifft, y nifer sy’n manteisio ar ofal iechyd ataliol, gan gynnwys brechu plant gan fod ymwelwyr iechyd yn gallu cael gafael ar deuluoedd na allent gael gafael arnynt o’r blaen. 

Mae Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw ar safleoedd parhaol hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio cyfleusterau lleol, sy’n helpu i sicrhau bod eu plant yn gallu byw a chwarae mewn amgylcheddau diogel.

Mae'r canllaw hwn yn ceisio sicrhau y bydd llawer mwy o Sipsiwn a Theithwyr yn gallu cael gafael ar lety sy’n briodol i’w diwylliant. Mae hyn yn rhoi sylw dyledus i gyfraith achosion Hawliau Dynol ac yn cefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024 i 2028 drwy adlewyrchu anghenion y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig wrth ddiwallu anghenion tai.