Canllawiau drafft ar gyfer dylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 4: cyfleusterau safleoedd
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch dylunio a gwella safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r bennod hon yn amlinellu’r gwahanol gyfleusterau y dylid eu cynnwys wrth ddylunio safle awdurdod lleol.
Man chwarae i blant
Oherwydd prinder lle dan do mewn cartrefi symudol, mae’r amgylchedd awyr agored yn arbennig o bwysig i deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a’u plant. Mae ardal i blant a phobl ifanc chwarae ac ymgasglu yn bwysig, yn enwedig os nad oes man chwarae addas yn y gymuned ehangach sydd o fewn pellter cerdded diogel. Mae angen ystyried pob safle yn unigol ac yng nghyd-destun amodau lleol. Yn ddelfrydol, bydd plant sy’n byw ar y safle yn gallu cael mynediad diogel at fannau chwarae cyfagos sy’n cael eu defnyddio gan y gymuned ehangach. Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl, dylai safleoedd gynnwys mannau chwarae dynodedig lle bynnag y bo hynny’n ymarferol.
Lle mae cynllun y safle’n caniatáu, dylid lleoli mannau chwarae cymunedol er mwyn galluogi rhieni i oruchwylio eu plant yn hawdd. Rhaid i’r ardal a ddyrennir ar gyfer chwarae plant ystyried nifer y plant y mae’n debygol y bydd gofyn iddo ddarparu ar eu cyfer. Mae Fields in Trust wedi argymell safon sylfaenol ar gyfer mannau chwarae awyr agored yn ei ganllawiau ‘Cynllunio a Dylunio ar gyfer Chwaraeon a Chwarae yn yr Awyr Agored’. Mae’r canllawiau hyn yn helpu cynllunwyr defnydd tir i sicrhau bod digon o le agored i roi modd i breswylwyr o bob oed i gymryd rhan mewn chwaraeon a gemau gyda phwyslais ar fynediad i blant i feysydd chwarae a mannau chwarae eraill.
Dylid lleoli mannau chwarae i ffwrdd oddi wrth draffig a dylent fod yn anhygyrch i gerbydau. Yn ogystal, dylid eu cau i mewn, ffensio, codi waliau neu argloddiau glaswelltog a’u hamlinellu’n glir fel man chwarae. Dylai mannau chwarae fod wedi’u goleuo’n dda a, lle bo hynny’n ymarferol, dylent gael eu dynodi’n fannau heb gŵn. Dylai’r man chwarae dynodedig fod yn hyblyg, yn addasadwy, yn amrywiol ac yn ddiddorol. Bydd darparu nodweddion fel llwyni neu dywod yn caniatáu i blant ddefnyddio’r gofod chwarae ac yn hyrwyddo chwarae o ansawdd da.
Dylid hefyd cynnwys lloches ieuenctid neu fath arall o seddi i hyrwyddo cymdeithasu a gwneud y defnydd gorau posibl o’r man chwarae. Dylid meddwl yn ofalus am y ddarpariaeth o offer chwarae ac argymhellir ymgynghori â phlant. Gall mannau chwarae gynnwys mannau agored a chyfarpar sefydlog. Mae’n bwysig iawn sicrhau bod unrhyw fan chwarae dynodedig yn cael ei wahaniaethu’n glir oddi wrth ofod preswyl neu fan gweithio a dylai’r awdurdod lleol ei gynnal i sicrhau nad yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill.
Rhaid i awdurdodau lleol gynnal Asesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae fel sy’n ofynnol gan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a’r rheoliadau cysylltiedig. Mae’r asesiadau hyn yn ymwneud â digonolrwydd y cyfleoedd chwarae ym mhob ardal awdurdod lleol a rhaid iddynt gynnwys cynllun gweithredu ar gyfer gwella (neu gynnal) y cyfleoedd i blant chwarae. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth am y cyfleoedd chwarae i blant yn eu hardal, gan gynnwys safleoedd awdurdodau lleol lle bo hynny’n briodol.
Ar safleoedd llai neu lle na fydd cyfyngiadau ffisegol yn caniatáu man chwarae, dylid defnyddio’r ddarpariaeth leol bresennol lle bo’n bosibl. Fodd bynnag, yn yr amgylchiadau hyn, dylai awdurdodau lleol geisio sicrhau bod llwybrau cerdded diogel ar gael i fannau chwarae yn yr ardal leol.
Mae Chwarae Cymru a phrosiect TGP Cymru Teithio Ymlaen wedi creu canllaw arfer da i gefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu mannau chwarae ar eu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Cyfleusterau cymunedol
Ar safleoedd mwy, mae’n debygol y bydd angen adeilad cymunedol a dylid trafod ei ddyluniad gyda thrigolion y safle lle bo hynny’n ymarferol. Gellid defnyddio’r adeilad cymunedol ar gyfer gwaith allgymorth a chefnogi, clybiau ieuenctid, grwpiau chwarae, lle tawel i blant wneud gwaith cartref, addysg oedolion, sesiynau blynyddoedd cynnar neu glinigau iechyd.
Mae’n bosibl y gellid talu costau rhedeg cyfleuster o’r fath drwy godi tâl ar fudiadau statudol a gwirfoddol am ddefnyddio’r cyfleusterau neu drwy weithredu lleol gan y preswylwyr yn yr un modd ag y mae nifer o neuaddau pentref yn cael eu gweinyddu fel Ymddiriedolaethau. Efallai y bydd hefyd yn bosibl talu’r costau rhedeg drwy ffioedd lleiniau, yn amodol ar yr awdurdod lleol yn dilyn y gweithdrefnau i weithredu hyn, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
Ar safleoedd llai neu lle mae cyfyngiadau ffisegol yn gwahardd gosod cyfleuster cymunedol, dylid defnyddio cyfleusterau cymunedol cyfagos lle bo hynny’n bosibl. Unwaith eto, dylai awdurdodau lleol ystyried ffyrdd o sicrhau llwybrau mynediad diogel o’r safle i’r cyfleuster cymunedol.
Os nad yw cyfleuster cymunedol parhaol yn ymarferol ar safle, gellid ystyried darparu uned symudol y gellid ei defnyddio at ddibenion ymgysylltu’r blynyddoedd cynnar. Mantais uned o’r fath yw y gellir ei symud o un lleoliad i’r llall. Dylid nodi lleoliad addas a diogel ar gyfer unedau symudol. Os nad yw uned symudol yn ymarferol, dylai rheolwr y safle hwyluso trafodaethau rhwng preswylwyr a darparwyr gwasanaethau er mwyn ceisio cytuno ar leoliad sy’n gyfleus i’r preswylwyr eu defnyddio.
Cyfleuster Rheolwr Safle / warden
Mae swyddfa safle’n bwysig, yn enwedig ar safleoedd mwy. Dylai’r swyddfa fod yn agos at fynedfa’r safle a chefnogi ymgynghoriadau preifat gyda gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld. Mae’n bosibl y bydd yn briodol darparu cyfleusterau cymunedol a swyddfa’r safle yn yr un adeilad, er bod yn rhaid sicrhau cyfrinachedd y preswylwyr lle mae hyn yn digwydd.
Os bydd rheolwr safle / warden yn cael eu lle eu hunain i fyw ar y safle, dylent gael swyddfa safle ar wahân i’w cartref.
Goleuadau cyhoeddus
Rhaid i ffyrdd, llwybrau troed cymunedol a phalmentydd gael eu goleuo’n ddigonol rhwng y cyfnos a’r wawr er mwyn galluogi cerddwyr a cherbydau i symud yn ddiogel o gwmpas y safle yn ystod oriau tywyll. Ni ddylai lleoliad goleuadau stryd achosi llygredd golau drwy ddisgleirio’n uniongyrchol i garafanau neu adeiladau amwynder ond dylent fod yn addas ar gyfer dwysedd a chynllun cyffredinol y safle. Dylai mannau chwarae i blant gael sylw arbennig o ran goleuadau priodol.
Gofod gweithio
Dylai lleiniau fod at ddibenion preswyl. Dylid gwahardd gweithgarwch peryglus posibl ar leiniau dan delerau cytundebau cartrefi symudol â phreswylwyr. Mae enghreifftiau o weithgareddau a allai fod yn beryglus yn cynnwys storio deunyddiau metel sgrap ar lain ac ymgymryd â gweithgareddau masnachol eraill. Gall gweithgareddau o’r fath ar unrhyw safle nad ydynt wedi’u dynodi at ddibenion gwaith arwain at bryderon iechyd a diogelwch, llygredd a’r amgylchedd.
Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried darparu ‘man gweithio’ dynodedig mewn rhan ar wahân o’r safle neu ar dir cyfagos, lle bo hynny’n ymarferol, ac yn dilyn trafodaethau â thrigolion posibl. Er enghraifft, mae safleoedd Siewmyn yn debygol o fod angen cyfleusterau ar wahân ar gyfer storio a chynnal a chadw reidiau ffair. Mae cynllun enghreifftiol o safle wedi’i gynnwys yn Atodiad 2.
Dylid annog aelodau o’r gymuned hefyd i fynd ar drywydd cytundebau prydlesu preifat ar gyfer gofod neu gyfleusterau cyfagos, lle bo angen. Dylai awdurdodau lleol sydd â thir masnachol perthnasol i’w rentu sicrhau bod y rhain ar gael i breswylwyr o’r fath lle bo hynny’n ymarferol.
Ni ddylid atal preswylwyr rhag ymgymryd â gweithio gartref nad yw’n beryglus, fel teleweithio o’u cartrefi symudol.
Mae Sipsiwn a Theithwyr yn fwy tebygol o fod yn hunangyflogedig ac efallai y bydd angen iddynt barcio cerbydau masnachol ar eu lleiniau. Dylid ystyried hyn wrth ddylunio lleiniau.
Nodweddion artistig
Gallai cynnwys nodweddion artistig ar y safle fod yn gyfle delfrydol i breswylwyr presennol neu ddarpar breswylwyr ddathlu diwylliant a hunaniaeth Sipsiwn a Theithwyr. Os bydd hyn am gael ei ystyried, dylid ymgynghori â phreswylwyr presennol neu ddarpar breswylwyr yn gynnar lle bo hynny'n bosibl. Gallai hyn hefyd fod yn gyfle da i annog plant Sipsiwn a Theithwyr i gymryd rhan yn y gwaith o ddylunio a datblygu nodweddion artistig ar y safle, yn enwedig os oes man chwarae i blant.
Cyflenwad dŵr
Rhaid i bob llain gael cyflenwad dŵr o’r prif gyflenwad sy’n addas i’w yfed ac sy’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y preswylwyr. Rhaid i’r cyflenwad dŵr gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r safonau perthnasol.
Rhaid i gyflenwadau dŵr fwydo’n uniongyrchol i flociau amwynder unigol. Dylid gosod mesuryddion unigol ar gyfer pob llain lle bo hynny’n bosibl er mwyn sicrhau bod biliau’n gallu cyfateb yn uniongyrchol i’r defnydd gwirioneddol. Gallai’r cwmni dŵr perthnasol ganiatáu cysylltiadau unigol ar gyfer pob llain newydd, yn amodol ar fodloni meini prawf y cwmni dŵr. Dylid darparu tapiau allanol a phwyntiau cysylltu ar gyfer carafanau ar bob llain gyda falfiau ynysu mewnol a diogelwch ôl-lif addas er mwyn diogelu’r cyflenwad dŵr, yn unol â'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2016.
Er mwyn sicrhau bod y cyflenwad dŵr yn gallu bodloni’r safonau ansawdd gofynnol, dylai’r awdurdod lleol ymgynghori’n uniongyrchol â’r cwmni dŵr perthnasol ynghylch dyluniad arfaethedig y safle, lle bo hynny’n ymarferol. Efallai y bydd y cwmni dŵr perthnasol yn gallu rhoi cyngor i sicrhau bod modd gosod seilwaith priodol.
Rhaid i waith ar gyflenwadau dŵr a gosodiadau gael ei wneud gan bobl sy’n gymwys yn y math penodol o waith sy’n cael ei wneud a rhaid iddo fod yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol gyfredol.
Dylid osgoi tapiau cymunedol lle bo hynny’n bosibl er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael eu bilio’n briodol ar gyfer eu defnydd dŵr eu hunain. Os gosodir tapiau cymunedol, yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am dalu am y cyflenwad hwn, oni wneir darpariaeth addas mewn cytundebau cartrefi symudol.
Draenio a charthffosiaeth
Mae’n hanfodol bod draeniau dŵr wyneb yn cael eu darparu. Dylid bob amser ystyried defnyddio systemau draenio cynaliadwy (SuDS) ar gyfer rheoli dŵr wyneb pan fydd safleoedd newydd yn cael eu datblygu. Nod y dull SuDS yw rheoli dŵr wyneb mor agos â phosibl at y ffynhonnell gan ddefnyddio amrywiaeth eang o dechnegau, gan gynnwys casglu dŵr glaw ac ymdreiddio lle bo hynny’n briodol. Dylai’r technegau hyn leihau’r defnydd o ddŵr a biliau cwsmeriaid.
Rhaid i’r holl ddarpariaeth gydymffurfio â deddfwriaeth a safonau perthnasol a dylai ystyried Safonau Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Draenio Cynaliadwy. Dylid rhoi ystyriaeth gynnar i reoli dŵr wyneb wrth ddylunio’r safle.
Lle bo’n bosibl, rhaid cysylltu â charthffos gyhoeddus ar gyfer draenio budr.
Dylid ymgynghori â’r cwmni dŵr perthnasol ynghylch safonau adeiladu a chapasiti carthffosydd, lle bo hynny’n ymarferol. Ni fydd bob amser yn bosibl cysylltu â charthffos gyhoeddus. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylid darparu ar gyfer gollwng i gyfleuster trin carthion sydd wedi’i adeiladu a’i gynnal a’i gadw’n briodol, naill ai gwaith trin carthion neu danc carthion. Rhaid i’r ddarpariaeth gydymffurfio â deddfwriaeth a safonau perthnasol a bydd angen trwydded i’w rhyddhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Nid ystyrir bod carthbyllau wedi’u selio yn briodol.
Cyflenwi a storio nwy
Rhaid i’r holl ddarpariaeth a gwasanaethau nwy gydymffurfio â gofynion statudol, safonau perthnasol a chodau ymarfer. Rhaid i’r holl gyfleusterau storio a ddarperir ar gyfer silindrau Nwy Propan ar ffurf Hylif fodloni rheoliadau iechyd a diogelwch. Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol a rheolwyr y safle yw ceisio arweiniad gan wasanaethau iechyd yr amgylchedd lleol mewn perthynas â chyflenwad nwy a chynnal ac archwilio gwasanaethau a chyfleusterau.
Er mwyn lliniaru’r heriau ariannol ac ymarferol sy’n wynebu safleoedd awdurdodau lleol heb gysylltiadau uniongyrchol â phrif gyflenwad, lle mae’n rhaid i deuluoedd ddibynnu ar boteli nwy a mesuryddion rhagdalu, argymhellir bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael eu cysylltu â gwasanaethau prif gyflenwad uniongyrchol pryd bynnag y bo hynny’n bosibl. Gall hyn helpu i osgoi’r costau uwch sy’n gysylltiedig â chodi tâl ar gyfleustodau ar gyfraddau masnachol, fel poteli nwy drud a chostau uwch drwy fesuryddion talu ymlaen llaw.
Blychau post
Dylai pob llain gael blwch post diogel y ceir mynediad ato ag allwedd a ddelir gan breswylydd y llain. Nid yw’n briodol mynnu bod preswylwyr yn casglu eu post o swyddfa safle ac eithrio pan nad yw preswylydd y llain gartref neu bod parsel neu becyn mawr yn cael ei ddanfon na ellir ei roi drwy’r blwch post.
Os nad yw’n bosibl danfon i leiniau unigol am unrhyw reswm, dylid ystyried system ‘tyllau colomen’ ger y fynedfa i’r safle neu ar wal swyddfa’r safle. Rhaid cael blychau unigol y gellir eu cloi ar gyfer pob llain.
Tir pori
Gall awdurdodau lleol ystyried darparu tir pori wrth ymyl safleoedd lle bo hynny’n bosibl, gan fod perchnogaeth ceffylau yn agwedd bwysig ar ddiwylliant Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig. Pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried darparu tir pori, gallant godi tâl ar breswylwyr sy’n penderfynu defnyddio’r tir.
Os gall yr awdurdod lleol ddarparu tir wrth ymyl y safle, dylai fod ganddo ffin a gatiau diogel. O ystyried pwysigrwydd diwylliannol cadw ceffylau a’r gwahaniaethu a wynebir wrth gael mynediad at dir pori, anogir awdurdodau lleol i ystyried y tir pori sydd ar gael wrth nodi safleoedd newydd, a gallent gynnig tir yn eu hystâd ar gyfer prydlesi pori tymor byr.
Cyfathrebu
Mae mynediad at wasanaethau digidol drwy gysylltiad ar-lein a’r gallu i’w defnyddio yn rhan hanfodol o fywyd modern. Am y rheswm hwn, dylai awdurdodau lleol edrych ar opsiynau ar gyfer darparu llinellau ffôn a chysylltiadau band eang i bob safle. Gallai datblygu neu adnewyddu safleoedd fod yn gyfle i sicrhau bod y seilwaith cyfathrebu angenrheidiol yn cael ei osod i alluogi preswylwyr i wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer llinellau tir neu fynediad i’r rhyngrwyd. Mae mynediad digidol llawn yn golygu mynediad at gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy, mynediad at ddyfeisiau a’r sgiliau a’r cymhelliant i ddefnyddio gwasanaethau digidol yn hyderus ac yn ddiogel. Heb hyn, gallai pobl brofi allgáu digidol; rhwystr sy’n aml yn gysylltiedig â rhwystrau eraill fel allgáu cymdeithasol, materion iechyd a llesiant a rhwystrau i gyflogaeth. Am y rheswm hwn, ystyrir bod cynnwys mynediad band eang yn nyluniad y safle yn hanfodol.