Canllawiau drafft ar gyfer cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 4: defnyddio’r asesiad
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i arfer eu swyddogaethau i ddarparu lleiniau cartrefi symudol i ddiwallu'r anghenion a ganfuwyd.
Mae asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cymeradwy presennol awdurdod lleol yn dal yn ddilys nes iddo gael ei ddisodli gan yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nesaf a fydd yn cael ei gymeradwyo yng nghyswllt yr awdurdod o bryd i’w gilydd. Ni waeth a yw’r awdurdod lleol wedi cyflwyno asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr newydd i’w gymeradwyo ai peidio, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol o hyd i ddiwallu unrhyw angen sy’n weddill sydd wedi’i nodi yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cymeradwy presennol hyd at ddyddiad cymeradwyo’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nesaf.
Mae Adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol ddiwallu’r angen hwn. Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol yn gwybod bod amrywiaeth o adnoddau ar gael iddynt i’w cefnogi i gyflawni’r ddyletswydd hon.
Dylai awdurdodau lleol ystyried i ba raddau y gall pob un o’r opsiynau canlynol eu helpu i ddarparu ar gyfer yr angen nas diwallwyd:
- darparu safleoedd awdurdod lleol
- cefnogi aelwydydd i ddatblygu safleoedd preifat hyfyw
- cefnogi aelwydydd i ddatblygu dulliau ymarferol sy’n cael eu harwain gan y gymuned, fel ymddiriedolaethau tir cymunedol
Bydd Opsiwn A yn golygu bod awdurdodau lleol yn gallu rheoli dyrannu lleiniau ar y safleoedd hyn. Byddai hyn yn golygu y gellid llenwi lleiniau gwag yn y dyfodol yn ôl yr angen er mwyn mynd i’r afael â gorlenwi neu ddigartrefedd yn yr ardal. Ar ben hynny, mewn rhai amgylchiadau, gellid defnyddio lleiniau gwag ar safleoedd o’r fath i adleoli’r rhai sydd ar wersylloedd diawdurdod.
Os bydd awdurdodau lleol yn penderfynu mynd ar drywydd Opsiwn A i ddiwallu rhai, neu’r cyfan, o’r anghenion nas diwallwyd ar gyfer llety, gallent fod yn gymwys am Grant Cyfalaf Safleoedd Llywodraeth Cymru. I fod yn gymwys am y Grant Cyfalaf Safleoedd, rhaid i awdurdodau lleol gadw perchnogaeth neu lesddaliad y safle sydd i gael ei adnewyddu neu ei ddatblygu. Rhaid i safleoedd newydd posibl fod â’r caniatâd cynllunio angenrheidiol yn ei le hefyd cyn bod modd cyflwyno ceisiadau am gyllid Grant Cyfalaf Safleoedd.
Byddai Opsiwn B yn golygu bod yr awdurdod lleol yn gweithio’n rhagweithiol gydag aelwydydd Sipsiwn neu Deithwyr sydd â chyfle ymarferol i ddatblygu safleoedd preifat yn yr ardal. Bydd ymatebion i Adran C yr holiadur yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol am ddyheadau ar gyfer safleoedd preifat. Dylai awdurdodau cynllunio lleol geisio trafod cynigion â Sipsiwn a Theithwyr cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau mai dim ond ceisiadau safle hyfyw sy’n cael eu datblygu. Efallai y bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn gallu helpu gyda rhywfaint o ymgysylltu â’r gymuned mewn perthynas â chynigion safle.
Bydd asesiad o hyfywedd yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys y polisïau cynllunio lleol perthnasol. Gallai awdurdodau lleol sydd â pholisïau eithriadau gwledig sy’n caniatáu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gynyddu’r tebygolrwydd y deuir o hyd i safleoedd hyfyw, oherwydd gallai tir fod yn rhatach mewn lleoliadau mwy gwledig. Dylai awdurdodau lleol drafod hyfywedd safleoedd preifat ag unigolion sydd â diddordeb fesul achos.
Ni fyddai mynd ar drywydd Opsiwn B yn bodloni dyletswydd yr awdurdodau lleol i ddarparu’r safleoedd ychwanegol sydd eu hangen nes bydd y lleiniau newydd ar gael i’w meddiannu. Serch hynny, dylai cefnogi aelwydydd i ddatblygu safleoedd preifat arwain at gostau bach iawn i’r awdurdod lleol ac mae’n bosibl y bydd yn helpu i ateb y galw am safleoedd yn y dyfodol.
Byddai Opsiwn C yn golygu bod yr awdurdod lleol yn gweithio’n rhagweithiol gydag aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr i ddatblygu dull mwy cymunedol, fel ymddiriedolaethau tir cymunedol.
Mae ymddiriedolaethau tir cymunedol yn fecanwaith i gaffael a dal tir ac eiddo er budd ardal leol neu gymuned benodol. Darparu tai fforddiadwy yw diben ymddiriedolaethau tir cymunedol yn gyffredinol.
Gallai ymddiriedolaeth tir cymunedol ddal gwerth y tir ar ran y gymuned am byth gan ganiatáu i eraill ddefnyddio'r tir at ddibenion llety. Rhaid i ymddiriedolaethau tir cymunedol fod yn fudiadau nid-er-elw lle mae’r gymuned yn berchen ar y tir a/neu’r eiddo neu asedau mewn ymddiriedolaeth.
Gallai’r ymddiriedolaeth tir cymunedol ei hun fod yn berchen ar safle, yn hytrach na’r meddianwyr, a byddai’n cael ei gynnal at ddefnydd y cymunedau hyn am gyfnod amhenodol yn hytrach na bod yn safleoedd preifat sy’n eiddo i unigolion penodol.
Gallai awdurdodau lleol ystyried bod yn aelod o’r ymddiriedolaeth tir cymunedol, ynghyd ag aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ac unigolion neu fudiadau perthnasol eraill.
Gall cynlluniau o’r fath fod yn fwy deniadol na byw ar safleoedd awdurdodau lleol i rai cymunedau, er enghraifft, Teithwyr Newydd. Gallai’r awydd diwylliannol am fyw’n ecolegol ac yn gydweithredol ymhlith y gymuned hon fod yn addas i’r math hwn o ddatblygiad.
Wrth asesu a ddylid mynd ar drywydd opsiynau fel safleoedd preifat neu ymddiriedolaethau tir cymunedol, dylai awdurdodau lleol adolygu atebion y cyfranogwyr o dan Adran C yr holiadur.
Mae cynlluniau i ddatblygu ymddiriedolaethau tir cymunedol safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wedi cael eu cynnig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, y prif rwystr fu sicrhau tir i’w ddatblygu. Os gall awdurdodau lleol oresgyn y rhwystr hwn, gall y math hwn o safle fod yn ddewis arall ymarferol yn lle safleoedd awdurdodau lleol neu safleoedd preifat.
Bydd y data a gesglir drwy’r broses asesu llety yn llywio’r gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu. Dylai rhoi sylw dyledus i’r canllawiau hyn helpu awdurdodau lleol i ddangos bod y data sy’n ymwneud â Sipsiwn a Theithwyr yn eu Cynllun Datblygu Lleol yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hefyd angen i awdurdodau lleol ddangos y bydd yr angen nas diwallwyd a nodwyd yn cael ei ddiwallu drwy’r system gynllunio.
Pan fo’n briodol, dylai Cynlluniau Datblygu gynnwys cynigion sy’n benodol i’r safle i ddiwallu’r angen a nodwyd yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a pholisïau sy’n seiliedig ar feini prawf i ddarparu ar gyfer unrhyw angen ychwanegol sy’n codi yn ystod y cyfnod hwnnw.
Pan fydd Cynlluniau Datblygu Lleol wedi cael eu mabwysiadu, bydd angen i awdurdodau cynllunio lleol adolygu eu polisïau ar anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn yr Adolygiad Monitro Blynyddol nesaf o’r Cynllun Datblygu Lleol. Os yw’r adolygiad yn dangos nad yw polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol yn darparu digon o leiniau i ddiwallu’r angen a nodwyd, dylid ystyried diwygio’r cynllun. Bydd diwygio’r cynllun yn golygu bod angen nodi safleoedd posibl i ddatblygu lleiniau a fydd yn mynd i’r afael â’r angen nas diwallwyd. Dylai’r cynllun diwygiedig gynnwys digon o leiniau i ddiwallu’r angen llawn nas diwallwyd.
Bydd awdurdodau lleol yn gwybod bod y broses o adnabod safleoedd a sicrhau caniatâd cynllunio yn gallu bod yn un hir. Bydd y prosesau hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a gall trigolion neu fusnesau wrthwynebu penderfyniadau. Felly, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod eu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ceisiadau cynllunio yn gadarn.
Gall y data a gesglir at ddibenion yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr hefyd gyfrannu at waith yr awdurdodau lleol mewn ffyrdd eraill.