Canllawiau drafft ar gyfer cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 1: cyflwyniad
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r canllawiau statudol hyn wedi cael eu cynhyrchu i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014). Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan adran 106 o Ddeddf 2014. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf 2014.
Rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer pob cyfnod adolygu a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. Pan fydd yr asesiad yn canfod bod angen nas diwallwyd ar gyfer safleoedd cartrefi symudol, rhaid i awdurdodau lleol arfer eu pwerau yn adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol i’r graddau y gall fod yn angenrheidiol i ddiwallu’r anghenion hynny.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol o hyd i ddarparu’r safleoedd y nodwyd bod eu hangen yn eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cymeradwy diweddaraf, hyd yn oed pan fyddant wedi cyflwyno asesiad drafft i Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adolygu dilynol.
Mae’n bwysig i awdurdodau lleol ddeall bod y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ar wahân i unrhyw ddyletswyddau statudol sydd gan awdurdodau lleol i helpu pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn eu hardal, ac nid yw’n eu disodli. O dan adran 55 o Ddeddf 2014, mae person yn ddigartref os oes ganddo lety, ond ei fod yn strwythur symudol neu’n gerbyd sydd wedi’i ddylunio neu ei addasu i bobl fyw ynddo ac nid oes gan y person hawl neu ganiatâd i’w leoli yn unman nac i breswylio ynddo.
Pam asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr?
Mae asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, a’r ddyletswydd i ddarparu safleoedd lle mae’r asesiad wedi canfod bod angen, yn ofynion statudol o dan adran 108 o Ddeddf 2014.
Mae adran 108 yn diffinio “Sipsiwn a Theithwyr” fel a ganlyn:
- Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:
- personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, ac
- aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bobl sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), ac
- Unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
Mae angen diffiniad eang er mwyn cael dealltwriaeth lawn o anghenion llety pawb sy’n rhan o’r cymunedau hyn.
Bwriad y diffiniad uchod yw sicrhau bod Sipsiwn Romani ethnig a Theithwyr Gwyddelig yn cael eu cynnwys, yn ogystal â’r rhai o unrhyw grŵp ethnig sy’n dilyn ffordd o fyw nomadig. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys Siewmyn Teithiol. Gallai Teithwyr Newydd hefyd fod yn rhan o’r diffiniad os ydynt yn gallu dangos traddodiad diwylliannol o nomadiaeth ac o fyw mewn cartrefi symudol.
Nid oes angen i aelodau o’r cymunedau hyn o reidrwydd ddangos eu bod yn arfer ffordd nomadig o fyw yn barhaus i gael eu hystyried yn Sipsiwn neu’n Deithwyr at ddibenion yr asesiad hwn. Efallai y bydd Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn tai brics a morter eisiau symud i safle yn y dyfodol, a bydd yn hanfodol i awdurdodau lleol hefyd ystyried eu hanghenion nhw mewn asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Y gofyniad o dan Ddeddf 2014 yw i awdurdodau lleol ddarparu safleoedd cartrefi symudol addas a phriodol i ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal. Ni ddylid rhoi pwysau ar Sipsiwn a Theithwyr i symud i gartrefi brics a morter oherwydd nad oes gan awdurdodau lleol ddigon o safleoedd ar gael.
Adeg cyhoeddi’r canllawiau hyn, mae angen 277 llain i ddiwallu’r anghenion llety a nodwyd yng Nghylch 2 diweddaraf yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr, ac mae’n rhaid i bob awdurdod lleol ddiwallu’r anghenion hynny.
Cafodd y canllawiau hyn eu hysgrifennu yn 2025, yn nhrydydd cylch yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae Cylch 3 yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn berthnasol i’r cyfnod 2022 i 2027. Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyflwyno ei asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr Cylch 3 i weinidogion Cymru i’w gymeradwyo erbyn 24 Chwefror 2027.
Mae Cylchoedd y Dyfodol yn berthnasol i’r cyfnod:
- 2027 i 2032: rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr erbyn 24 Chwefror 2032.
- 2032 i 2037: rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr erbyn 24 Chwefror 2037.
- 2037 i 2042: rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr erbyn 24 Chwefror 2042.
Mae Sipsiwn a Theithwyr yn grwpiau hiliol cydnabyddedig at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010. Rhaid canfod, deall a rhoi sylw i anghenion llety’r holl Sipsiwn a Theithwyr drwy’r fframwaith cynllunio a’r strategaeth dai ar yr un sail â sectorau eraill o’r gymuned.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu pwysigrwydd llety sy’n briodol yn ddiwylliannol i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ei nod yw “cydnabod bod angen llety diogel a diwylliannol briodol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o’u bywydau, ac i ymdrin â’r prinder safleoedd a’r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru”. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bob rhan o’r gymuned a rhaid i Sipsiwn a Theithwyr gael yr un mynediad at lety diogel ac addas sy’n briodol yn ddiwylliannol â phob aelod arall o’r gymuned.
Mae hi’n hanfodol deall materion sy’n ymwneud â llety Sipsiwn a Theithwyr er mwyn i awdurdodau lleol allu cynllunio i ddarparu llety’n briodol i’r gymuned ac osgoi’r problemau sy’n gysylltiedig â gwersylloedd ad hoc neu ddiawdurdod. Bydd asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cynhwysfawr a strategaeth glir i ddiwallu’r angen a nodwyd yn lleihau’n sylweddol y risg o wersylloedd diawdurdod mewn awdurdod lleol, gan gydnabod bod gwersylloedd diawdurdod yn aml yn digwydd oherwydd nad oes safle ar gael.
Mae Adran 102 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno eu hadroddiadau asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo. Rhaid i bob adroddiad:
- gynnwys manylion am sut cynhaliwyd yr asesiad
- cynnwys crynodeb o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r asesiad, a’r ymatebion (os oes rhai) a gafwyd i
- roi manylion yr anghenion llety a nodwyd gan yr asesiad
Adran 105 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 – Darparu gwybodaeth ar gais:
- Rhaid i awdurdod tai lleol roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth (ac ar unrhyw adeg) y gall fod ei hangen arnynt er mwyn iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.
- Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan yr adran hon yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos penodol.
Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo'r asesiad fel y'i cyflwynwyd, cymeradwyo'r asesiad gydag addasiadau, neu wrthod yr asesiad. Os caiff yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ei wrthod, rhaid i’r awdurdod lleol naill ai adolygu ac ailgyflwyno ei asesiad i’w gymeradwyo neu gynnal asesiad newydd.
Bydd Gweinidogion Cymru yn asesu pob adroddiad i sicrhau ei fod yn gadarn, yn cydymffurfio â phob un o ofynion Deddf 2014, yn dangos bod yr awdurdod lleol wedi rhoi sylw dyledus i’r canllawiau hyn a bod y gwaith o gyfrifo anghenion yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflawni ar ôl ymgynghori’n briodol ag unigolion perthnasol.
Rhaid i awdurdodau lleol roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth mae arnynt ei hangen mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf 2014. Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am wybodaeth y gallai fod ei hangen arnynt yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos penodol.
Er mwyn helpu i sicrhau bod gan weinidogion Cymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymeradwyo asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, argymhellir yn gryf bod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu hasesiad llawn, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth berthnasol arall, i ddangos bod yr asesiad yn drylwyr a’u bod wedi nodi’n gywir anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw ac yn aros yn eu hardal a’u cynlluniau i fynd i’r afael â’r angen hwnnw.
Wrth ddarparu manylion am yr anghenion llety a nodwyd, argymhellir bod awdurdodau lleol yn rhoi dadansoddiad ar y ffurf a nodir yn Atodiad 5. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd nodi cynllun i egluro sut maen nhw’n bwriadu mynd i’r afael â’r anghenion llety a nodwyd.
Ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol ei gyhoeddi, ar ei wefan os oes modd. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi’r asesiad llety ar eu gwefan ac yn rhoi adborth i gyfranogwyr yr ymgynghoriad i sicrhau eu bod yn deall sut mae eu safbwyntiau wedi cael eu hystyried a beth fydd y camau nesaf.
Pam mae angen asesiad ar wahân ar Sipsiwn a Theithwyr?
Fel arfer, mae Sipsiwn a Theithwyr yn ganran fach iawn o’r boblogaeth mewn unrhyw ardal benodol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Efallai nad yw’r cyfanswm hysbys yn cynnwys aelodau’r cymunedau hyn a wrthododd gofnodi eu hethnigrwydd oherwydd bod arnynt ofn y gwahaniaethir yn eu herbyn, eu bod yn teimlo ymlyniad cryfach â chategorïau ethnigrwydd eraill (ee Gwyn Gwyddelig) neu am resymau eraill, er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ymdrechu i ddeall y materion hyn yn well.
Gall Sipsiwn a Theithwyr fod yn byw mewn cartrefi brics a mortar neu ar safleoedd cartrefi symudol preifat neu rai awdurdodau lleol. Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn asesu anghenion y boblogaeth nomadaidd fel rhan o’r broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai fod rhai sy’n byw mewn cartrefi brics a mortar wedi symud o fyw mewn cartrefi symudol oherwydd diffyg dewisiadau cyfreithiol eraill, efallai oherwydd nad oedd yr awdurdod lleol lle maen nhw’n byw wedi darparu digon o lety safle. Bydd yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn asesu a yw unigolion neu deuluoedd yn byw mewn cartrefi brics a morter oherwydd nad oes digon o ddarpariaeth amgen ar gael a'u bod yn dymuno symud yn ôl i safle awdurdod lleol pan fydd lleiniau ar gael.
Dylai’r anghenion a nodir ym mhroses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr gael eu prif ffrydio yn y strategaeth dai leol. O dan adran 107 o Ddeddf 2014, pan fo’n rhaid i awdurdod tai lleol o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fod â strategaeth mewn perthynas â diwallu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw neu’n aros yn ei ardal, rhaid i’r awdurdod tai lleol roi sylw i’r canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth baratoi ei strategaeth.
Dylid nodi asiantaeth arweiniol i fwrw ymlaen â phroses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, gan sicrhau bod targedau cynnydd a cherrig milltir allweddol yn cael eu cyflawni. Fel arfer dylai hyn fod yr awdurdod tai lleol oherwydd dyma’r corff tai strategol.
Mae’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn gofyn am arolwg manwl ar ffurf Cyfrifiad a chasglu data sylfaenol ac eilaidd.
Mae angen casglu data ‘sylfaenol’ fel arolwg i asesu anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr oherwydd bod maint eu poblogaeth yn fach a’u hanghenion llety yn benodol. Byddai dim ond defnyddio ystadegau sydd eisoes ar gael (neu ddata ‘eilaidd’) i asesu eu hanghenion llety yn annhebygol o arwain at ganlyniadau sy’n ystadegol gadarn. Mae hyn yn rhannol oherwydd maint bach y cymunedau hyn ac oherwydd mai ychydig iawn o ddata sydd ar gael ar hyn o bryd am ofynion llety’r cymunedau hyn ym mhob ardal leol.
O ganlyniad, bydd yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn mynnu bod arolwg sylfaenol yn cael ei gynnal yn uniongyrchol gyda’r boblogaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr (a gesglir drwy ddull sy’n debyg i’r cyfrifiad), yn ogystal ag adolygiad o’r data sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd y broses yn cael ei hegluro’n fanylach ym Mhennod 2.
Pwy mae angen ymgynghori â nhw drwy’r Asesiad Llety?
Mae Adran 101 o Ddeddf 2014 yn mynnu’n benodol bod awdurdod tai lleol yn ymgynghori â’r unigolion hynny sy’n briodol yn eu barn nhw wrth gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw neu’n aros yn eu hardal. O dan Adran 102, rhaid i adroddiad yr asesiad nodi sut cynhaliwyd eu hasesiad a chynnwys crynodeb o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r asesiad, a’r ymatebion a gafwyd. Os bydd Gweinidogion Cymru o’r farn bod yr awdurdod lleol wedi methu cynnal ymgynghoriad priodol, mae modd gwrthod ei asesiad. Felly, mae’n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod eu hymgynghoriad yn drylwyr ac yn effeithiol.
Rhaid i awdurdodau lleol benderfynu pwy y byddai’n briodol ymgynghori â nhw yn eu barn nhw. Disgwylir i hyn gynnwys y gwahanol gymunedau o fewn cwmpas y diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr er mwyn gallu asesu eu hanghenion yn briodol.
Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi ceisio ymgynghori â chymunedau Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig yn eu hardal wrth gynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr. Fodd bynnag, yn aml mae hyn wedi’i gyfyngu i’r rhai sy’n byw ar safleoedd awdurdod lleol neu safleoedd preifat sydd â chaniatâd cynllunio. Rhaid asesu anghenion y rhai sydd ar safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio, y rhai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod a’r rhai sy’n byw mewn cartrefi brics a morter hefyd drwy ymgynghori uniongyrchol, ynghyd â’r rhai sy’n aros yn ardal yr awdurdod lleol.
Mewn rhai rhannau o’r wlad, mae Teithwyr Newydd yn lleiafrif sylweddol o’r boblogaeth sy’n teithio. Rhaid i’r awdurdodau lleol perthnasol asesu eu hanghenion nhw hefyd ynghyd ag anghenion y grwpiau Sipsiwn a Theithwyr mwy traddodiadol.
Rhaid hefyd ystyried anghenion y Siewmyn Teithiol fel rhan o’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, gan y gallai’r grŵp hwn, er enghraifft, fod angen gwersyll gaeaf mewn ardal awdurdod lleol.
Wrth asesu adroddiadau asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw penodol i’r graddau mae awdurdodau tai lleol wedi dangos eu bod wedi ymgynghori’n uniongyrchol ag aelodau o’r holl gymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw neu’n aros yn eu hardal. Gallai adolygu ffynonellau data (fel yr amlinellir ym mhennod 2) a chysylltu â mudiadau cymorth Sipsiwn a Theithwyr Atodiad 2 i ganfod ac i ymgysylltu ag aelodau’r gymuned gefnogi’r nod hwn ond nid yw’n disodli’r angen i ymgynghori’n uniongyrchol â’r rhai yr asesir eu hanghenion.
Rhaid i awdurdodau lleol gadw cofnod o gyfweliadau i ddangos i Weinidogion Cymru bod y broses asesu wedi gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â’r holl Sipsiwn a Theithwyr hysbys yn yr ardal. Rhaid i’r cofnod o gyfweliadau nodi’n glir a yw ymdrechion rheolaidd i ymgysylltu ag aelodau’r gymuned wedi methu a rhoi rhesymau dros beidio â chymryd rhan lle bo hynny’n bosibl. Mae cofnod drafft o gyfweliadau yn Atodiad 4.
Gall Gweinidogion Cymru ofyn am y cofnod hwn o gyfweliadau wrth ystyried a ddylid cymeradwyo neu wrthod asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol, os na chaiff ei gyflwyno yn y lle cyntaf.
Er mwyn sicrhau bod yr amcangyfrif o’r angen am leiniau mewn asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn gadarn, mae’n hanfodol sicrhau ymgynghoriad llwyddiannus ag aelodau’r gymuned. Cynghorir awdurdodau lleol i ddilyn y ‘rhestr wirio ymgysylltu’ i sicrhau eu bod yn cyrraedd cynifer o aelodau’r gymuned â phosibl.
Mae Adran 103 o Ddeddf 2014 yn egluro, os bydd asesiad a gymeradwywyd gan awdurdodau tai lleol yn canfod anghenion yn ardal yr awdurdod am safleoedd y caniateir gosod cartrefi symudol arnynt, rhaid i’r awdurdod arfer ei bwerau yn Adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y gall fod angen diwallu’r anghenion hynny:
Mae’n debyg mai darparu lleiniau a safleoedd awdurdod lleol yw’r ateb tymor hir mwyaf effeithiol i ddiwallu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, ond efallai bydd ar awdurdodau tai lleol hefyd eisiau ystyried sicrhau lleiniau ar safleoedd a weithredir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu safleoedd preifat i Sipsiwn a Theithwyr.
Os canfyddir bod angen lleiniau Sipsiwn a Theithwyr, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried sut mae gwneud y ddarpariaeth angenrheidiol ac a ddylid defnyddio ei bwerau o dan Adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol.
Gallai’r grwpiau canlynol fod yn arbennig o debygol o arwain at angen am leiniau.
Aelwydydd annedd cartref symudol:
- heb safleoedd awdurdod lleol na phreifat yn unman i fyw arnynt
- y mae eu llety safle presennol yn orlawn neu'n anaddas ac nid ydynt yn gallu cael llety mwy neu fwy addas
- sy’n cynnwys aelwydydd mae angen iddynt sefydlu unedau teulu ar wahân ond nid ydynt yn gallu cael gafael ar le ar safle awdurdod lleol na datblygu eu safle preifat eu hunain
Aelwydydd annedd ‘brics a morter’:
- y mae eu llety presennol yn orlawn neu’n anaddas (mae ‘anaddas’ yn y cyd-destun hwn yn cynnwys bod yn anaddas oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol i lety brics a morter)
- sy’n cynnwys aelwydydd cudd nad ydynt yn gallu sefydlu unedau teulu ar wahân ac nad ydynt yn gallu cael llety addas neu briodol
Mae’n hanfodol cydnabod y gallai prinder safleoedd awdurdod lleol a gwrthwynebiad lleol posibl i geisiadau cynllunio safle, yn ogystal â phwysau ariannol, atal Sipsiwn a Theithwyr rhag gallu arfer eu dewis rhydd yn y farchnad llety ac, mewn gwirionedd, efallai na fydd ‘marchnad llety lleol’ addas ar gael iddynt.
Beth mae’n rhaid i’r asesiad llety ei gynhyrchu?
Gofyniad yr asesiad yw darparu data a fydd yn nodi anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn gywir.
Dylai’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr wedi’i gwblhau arfogi awdurdodau lleol â’r holl ddata perthnasol fel sail i’w strategaeth dai leol a pholisïau darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn eu Cynllun Datblygu.
Pan fydd awdurdod lleol wedi canfod bod angen safleoedd ychwanegol, dylai’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr hefyd nodi sut bydd yn diwallu’r anghenion hynny ac o fewn pa amserlenni.
Dylai’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nodi a yw’r awdurdod lleol yn bwriadu arfer ei bwerau o dan Adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i ddiwallu’r anghenion dynodedig a chynnwys unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i ddangos sut bydd yr awdurdod fel arall yn cyflawni ei ddyletswydd i ddarparu’r llety gofynnol.
Sut bydd yn wahanol i asesu anghenion tai’r gymuned nad ydynt yn Sipsiwn a Theithwyr?
Bydd nodau’r asesiad ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yr un fath ag ar gyfer sectorau eraill o’r gymuned, hynny yw, er mwyn canfod yr angen sydd ar ôl. Fodd bynnag, bydd y prinder difrifol o lety Sipsiwn a Theithwyr sy’n briodol yn ddiwylliannol yn golygu bod y broses i gynnal yr adolygiad yn dra gwahanol. Yn wahanol i sectorau eraill o’r gymuned, gall Sipsiwn a Theithwyr fyw yn y mathau canlynol o lety:
- Safleoedd awdurdod lleol
- Safleoedd preifat gyda chaniatâd cynllunio
- Safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio
- Brics a morter
- Mannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd
- Gwersylloedd diawdurdod
Gall anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr fod yn wahanol i weddill y boblogaeth oherwydd:
- eu patrwm bywyd nomadaidd neu led-nomadaidd
- y diwylliant o fyw mewn carafán
- symud posibl rhwng tai a charafannau
- nifer y gwersylloedd diawdurdod
- patrymau byw teulu estynedig
Mae’n bosibl y bydd symud rhwng gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol yn arwain at y goblygiadau canlynol wrth gynnal asesiad:
- efallai bydd angen gweithio ar lefel ranbarthol wrth gynnal asesiadau a llunio atebion i ddarparu safleoedd
- bydd angen ystyried amseriad yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr
- efallai bydd angen gofyn cwestiynau gwahanol
- efallai bydd angen defnyddio ffynonellau data gwahanol
Mae’n bwysig ystyried sut:
- mae canfod ac ymgysylltu â’r rhai yr ymgynghorir â nhw
- sut mae cyfwelwyr yn gofyn cwestiynau i aelodau'r gymuned
Os nad oes gan awdurdod lawer o wybodaeth am Sipsiwn a Theithwyr, neu ddata dibynadwy amdanynt, mae’n bwysicach fyth bod grwpiau sy’n cefnogi’r cymunedau hyn yn cael eu cynnwys er mwyn sicrhau bod yr asesiad mor gywir â phosibl.
Rhaid ail-wneud y broses o leiaf bob 5 mlynedd i sicrhau bod y dystiolaeth yn dal yn gyfredol ac yn gadarn. Caiff awdurdodau lleol gynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn amlach na hyn os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Argymhellir hefyd bod Cynghorwyr lleol yn cael gwybod am y gofyniad i gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, i ddiwallu’r anghenion a nodwyd a’r canllawiau hyn. Mae darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn gallu bod yn fater cymhleth mewn cymunedau ehangach, a gallai fod yn ddefnyddiol sicrhau bod aelodau’r Cyngor yn cael eu briffio’n llawn ac yn deall y dyletswyddau statudol yn gynnar.