Canllawiau drafft ar gyfer cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 5: adolygu a diweddaru
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Deddf 2014 yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf bob pum mlynedd. Y rheswm am hyn yw ei bod hi’n anodd llunio asesiad cywir o newidiadau mewn poblogaeth Sipsiwn a Theithwyr dros gyfnod sy’n hirach na phum mlynedd.
Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i ymgymryd ag asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr bob 5 mlynedd neu unrhyw bryd rhwng hynny. Mae’n bosibl iddynt gynnal asesiadau’n amlach os gwelir bod newid mawr yn lefel yr angen yn yr ardal. Caiff awdurdodau lleol ddewis adnewyddu eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr ar yr un pryd â chynnal yr adolygiad mawr o’r Cynllun Datblygu Lleol bob pedair blynedd.
Er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro faint o safleoedd sydd ar gael a’r cynnydd at ddiwallu’r angen a nodwyd ym mhob awdurdod lleol yn rheolaidd.
Ar ôl i’r broses asesu ganfod anghenion nas diwallwyd am leiniau ac ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo hynny, rhaid i awdurdodau lleol weithio i ddiwallu’r angen hwnnw.
Bydd Gweinidogion Cymru yn monitro’r gwaith o ddiwallu’r anghenion llety y bydd awdurdodau lleol wedi'u canfod drwy eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n bwysig i awdurdodau lleol gofio mai nhw ac nid Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y ddyletswydd i ddiwallu’r anghenion llety a nodwyd. Pan fydd asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr wedi canfod angen heb ei ddiwallu am safle Sipsiwn a Theithwyr, ond bod Gweinidogion Cymru yn fodlon bod yr awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswydd i ddiwallu’r angen hwnnw, gellir cyfarwyddo’r awdurdod lleol i wneud hynny fel y nodir yn adran 103 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Bydd Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â’r awdurdod lleol perthnasol cyn cyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd.
Dylai awdurdodau lleol allu dangos eu bod yn gwneud popeth sy’n rhesymol o fewn eu gallu i ddiwallu’r anghenion llety a nodwyd, os na fydd yn gwneud hynny, efallai bydd yn rhaid i weinidogion Cymru ystyried arfer eu pwerau o dan adran 104 o Ddeddf 2014 i gyfarwyddo awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau i ddarparu’r safleoedd angenrheidiol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r canllawiau hyn yn rheolaidd ac o ganlyniad i ddysgu o gylchoedd asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.