Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru ar ymweliadau ag ysbytai ddydd Gwener 18 Mehefin a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Maent yn rhoi cyngor ac arweiniad i bob darparwr iechyd yng Nghymru.

Mae’r canllawiau diwygiedig yn cynnwys y dewis i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ddefnyddio dyfeisiau llif unffordd (LFD) neu brofion pwynt gofal i gefnogi ymweliadau ag ysbytai. Bydd hyn yn cynnwys cynnig profion i rieni plant yn yr ysbyty, menywod beichiog a’u partner cefnogi a / neu gynorthwywyr cymorth hanfodol mewn gwasanaethau mamolaeth.

Gellir ystyried profion hefyd ar gyfer ymwelwyr ag ysbytai fel rhan o ddull seiliedig ar asesiad risg. Dylai darparwyr iechyd hefyd ystyried cyfraddau trosglwyddo cyfredol yn y gymuned, amrywiolynnau sy’n peri pryder, pa mor agored i niwed yw’r grwpiau cleifion penodol, ac amgylchiadau unigol. Mae’r canllawiau’n nodi y caiff byrddau iechyd ddewis defnyddio amryw o wahanol brofion – gan gynnwys profion Pwynt Gofal, profion LFD dan oruchwyliaeth neu brofion LFD yn y cartref – os ydynt yn dymuno defnyddio profion i gefnogi ymweliadau ag ysbytai.

Mae’r canllawiau newydd hefyd wedi’u diwygio i ganiatáu i hyd at ddau riant, gwarcheidwad neu ofalwr ymweld â phlentyn mewn ward cleifion mewnol pediatrig neu faban mewn gofal newyddenedigol, yn amodol ar benderfyniadau lleol ac yn dilyn asesiad risg, gan gynnwys y gallu i gadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn dilyn argymhellion gan Fwrdd Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru.

Mae’r canllawiau hefyd wedi diweddaru’r atodiad lleoliadau hosbis i gynnwys datganiad am argaeledd profion LFD ar gyfer ymwelwyr â hosbisau.

Mae’r datganiad atodol, a ddaw gyda’r canllawiau, yn nodi’r llinell sylfaen ar gyfer ymweliadau yng Nghymru yn ystod y pandemig ond mae’n galluogi i ddarparwyr iechyd wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i lefelau trosglwyddiad COVID-19 sy’n cynyddu neu’n gostwng yn eu hardal. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau ar ymweld yn cael effaith enfawr ar gleifion a’u hanwyliaid. Mae’r canllawiau newydd yn cefnogi byrddau iechyd i wneud newidiadau sy’n darparu hyblygrwydd pellach.

Yn anffodus, nid yw coronafeirws wedi diflannu ac wrth i amrywiolynnau newydd fel amrywiolyn delta ddod i’r amlwg, mae’n rhaid inni fod yn wyliadwrus. Y flaenoriaeth yw diogelu pobl ond mae angen cydbwysedd rhwng diogelu pobl rhag y feirws a chefnogi llesiant y cleifion a’u hanwyliaid.